Mae'r Cabinet wedi cymeradwyo ymgynghoriad cyhoeddus ar gynnig i leihau nifer y lleoedd cynradd yng Nghymuned Ddysgu Abertyleri. Mae hyn mewn ymateb i ostyngiad sylweddol yn nifer y disgyblion a phwysau ariannol cynyddol. Byddai'r cynnig a gyflwynwyd i'r Cabinet yn cynnwys cau Campws Heol Roseheyworth, gyda disgyblion yn symud i gampysau Tillery Street a Six Bells.
Ar hyn o bryd mae gan y Gymuned Ddysgu orwariant o tua £900,000 y disgwylir iddo gynyddu i £1.7miliwn y flwyddyn nesaf os yw'r holl gampysau cynradd yn parhau i fod ar agor.
Ar hyn o bryd mae gan Heol Roseheyworth 127 o ddisgyblion ar y gofrestr – allan o 210 posibl . Dyma'r campws hynaf gyda'r bil cynnal a chadw uchaf.
Mae'r cynnig wedi'i ddatblygu i sicrhau cynaliadwyedd hirdymor y Gymuned Ddysgu, i ddiogelu a gwella safonau addysgol, a mynd i'r afael â'r pwysau cyllidebol sylweddol a chynyddol.
Bydd y Cyngor nawr yn cynnal ymgynghoriad ffurfiol, gan roi cyfle i rieni, staff, dysgwyr, a'r gymuned ehangach roi eu barn.
Bydd yr holl adborth a dderbynnir yn cael ei ystyried yn ofalus cyn cymryd unrhyw gamau pellach. Mae'r Cyngor yn parhau i fod yn ymrwymedig i sicrhau bod buddiannau plant a phobl ifanc yn parhau i fod wrth wraidd pob penderfyniad.
Bydd yr ymgynghoriad yn dechrau ddydd Llun, 2 Mawrth.