Bydd y Cyngor yn cynnig llifddorau i drigolion sy'n byw yn yr eiddo sydd fwyaf mewn perygl yn y cymunedau yr effeithiwyd arnynt gan stormydd blaenorol.
Drwy gyfuniad o gyllid Llywodraeth Cymru a'r Cyngor, bydd y cartrefi a nodir yn Llanhiledd a鈥檙 Cwm yn cael cynnig y gatiau a'r gwaith gosod cysylltiedig yn rhad ac am ddim. Bydd y Cyngor mewn cysylltiad 芒'r rhai sy'n byw mewn eiddo cymwys dros y misoedd nesaf.
Mae'r cynllun wedi'i wneud yn bosibl drwy gais llwyddiannus am 拢97,750 i Gynllun Grantiau Bach Llywodraeth Cymru, ynghyd 芒 chyfraniad o gyllideb y Cyngor sydd wedi'i ddyrannu i fynd i'r afael 芒 materion llifogydd.
Mae cartrefi yn Llanhiledd a鈥檙 Cwm wedi cael eu heffeithio gan lifogydd mewn dwy storm fawr yn ystod y blynyddoedd diwethaf, a gyda'r gaeafau鈥檔 dod yn fwy eithafol a all effeithio ar lefelau afonydd, mae'r Cyngor yn gweithio gyda'r cymunedau i leihau'r risg lle bo hynny'n bosibl.
Dywedodd y Cynghorydd Tommy Smith, Dirprwy Arweinydd y Cyngor a鈥檙 Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdogaeth ac Amgylcheddol:
"Fel rhan o Fargen 乱伦大神 rydym wedi ymrwymo i weithio gyda'r cymunedau sydd wedi cael eu dinistrio gan lifogydd o'r blaen. Rydym wedi nodi arian yn ein cyllideb ein hunain eleni, yn ogystal 芒 pharhau i wneud cais am gyllid Llywodraeth Cymru lle bynnag y bo modd.
"Rydym wedi gwneud gwaith i wella鈥檙 draeniau yn y ddau bentref, gwella gwytnwch cymunedol trwy hyfforddiant a thrwy ddarparu adnoddau a thrwy gynnig y giatiau llifogydd hyn rydym yn gobeithio rhoi hyd yn oed mwy o sicrwydd i drigolion yn ystod digwyddiadau tywydd yn y dyfodol."
