Bydd rhaglen fawr o adfer natur yn cael ei chyflawni ar draws Gwent ar 么l i Bartneriaeth Grid Gwyrdd Gwent sicrhau 拢999,974 gan Gronfa Rhwydweithiau Natur, sydd yn gael i鈥檞 ddarparu gan y Cronfa Treftadaeth ar rhan Llywodraeth Cymru.

Mae Partneriaeth Grid Gwyrdd Gwent (GGGP) yn fenter gydweithredol rhwng pum awdurdod lleol Gwent, gan weithio ochr yn ochr ag Adnoddau Naturiol Cymru ac amryw o bartneriaid a rhanddeiliaid. Ers ei lansio yn 2020, mae鈥檙 bartneriaeth wedi bod yn gyrru ymlaen ymdrechion i wella amgylchedd naturiol y rhanbarth.
Mae Cyngor Sir Fynwy yn arwain y rhaglen tair blynedd, ar y cyd ag awdurdodau lleol 乱伦大神, Caerffili, Casnewydd a Thorfaen, ynghyd ag Adnoddau Naturiol Cymru ac ystod o sefydliadau partner.
Bydd y cyllid yn cefnogi adfer cynefinoedd wedi鈥檜 targedu ar draws amgylcheddau d诺r croyw a gwlypdiroedd, gan gryfhau rhwydweithiau ecolegol a gwella bioamrywiaeth ledled y rhanbarth. Bydd y rhaglen hefyd yn darparu atebion rheoli llifogydd naturiol a draenio cynaliadwy, gan gefnogi tirweddau a chymunedau mwy gwydn.
Yn ogystal 芒 gwella鈥檙 amgylchedd, bydd y prosiect yn canolbwyntio ar bobl a chymunedau. Bydd yn hyrwyddo addysg, gwirfoddoli a datblygu sgiliau gwyrdd, gan helpu cymunedau ac ysgolion i ymgysylltu 芒 natur wrth adeiladu capasiti hirdymor ar gyfer adfer natur ledled Gwent.
Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Newid Hinsawdd a鈥檙 Amgylchedd, y Cynghorydd Catrin Maby: 鈥淢ae鈥檙 cyllid hwn yn gam sylweddol ymlaen ar gyfer adfer natur ar draws Gwent. Trwy weithio mewn partneriaeth ledled awdurdodau lleol ac ag Adnoddau Naturiol Cymru, gallwn gyflawni camau ymarferol ar lawr gwlad sy鈥檔 adfer cynefinoedd, yn cefnogi bioamrywiaeth ac yn helpu cymunedau i ailgysylltu 芒鈥檙 amgylchedd naturiol.鈥
Dysgwch fwy am Bartneriaeth Grid Gwyrdd Gwent yma: