乱伦大神

Adolygiad o Ardaloedd Cymunedol a Threfniadau Etholiadol

Beth yw Adolygiad Cymunedol?

Mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol 乱伦大神 ddyletswydd statudol, o dan Adrannau 25 a 31 Deddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 i fonitro'r cymunedau o fewn y sir, a threfniadau etholiadol y cymunedau hynny. Rhaid iddo hefyd gynnal 'adolygiadau cymunedol' pan fo'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol, neu pan fo'n ystyried yn briodol. Wrth gyflawni'r dyletswyddau hyn rhaid i'r Cyngor barhau i geisio sicrhau llywodraeth leol effeithiol a chyfleus.

Mae'r Cyngor yn cynnal adolygiad o drefniadau etholiadol a ffiniau cymunedol ym Mlaenau Gwent a'r cam cyntaf i'r adolygiad yw gofyn i'r cyhoedd a phart茂on eraill sydd 芒 diddordeb roi eu hadborth ar ffiniau presennol yr ardaloedd cymunedol a chynigion ar gyfer unrhyw newidiadau.

  • Adolygiad o Ffiniau Cymunedol (o dan adran 25 o'r Ddeddf)

Adolygiad o ffiniau un neu fwy o gymunedau i sicrhau eu bod yn parhau i adlewyrchu hunaniaeth yr ardal dan sylw ac yn hwyluso llywodraeth leol effeithiol a chyfleus. Mae newidiadau i ffiniau cymunedol yn cynnwys newidiadau i ffin cymuned bresennol, neu ddiddymu cymuned bresennol a chreu cymuned newydd.

  • Adolygiad o Drefniadau Etholiadol (o dan adran 31 o'r Ddeddf)

Mae hyn yn cynnwys edrych ar y trefniadau etholiadol o fewn cymuned benodol, sy'n golygu ystyried y sefyllfa mewn perthynas 芒 wardiau a nifer y cynghorwyr. Wrth gynnal adolygiad o'r fath, gall y Cyngor edrych ar:

  • nifer aelodau'r cyngor ar gyfer y gymuned
  • y rhaniad yn wardiau (os yw'n briodol) at ddiben ethol cynghorwyr
  • nifer a ffiniau unrhyw wardiau
  • enw unrhyw ward
  • nifer yr aelodau i'w hethol ar gyfer unrhyw ward

Dweud eich dweud

Cyn llunio cynigion drafft, mae'r Cyngor yn gofyn i'r cyhoedd a phart茂on eraill sydd 芒 buddiant roi eu hadborth ar ffiniau presennol yr ardaloedd cymunedol a'r trefniadau etholiadol a rhoi manylion am unrhyw newidiadau arfaethedig.

Hefyd, isod mae mapiau sy'n dangos ffiniau presennol pob cymuned ym Mlaenau Gwent.

Dylid gwneud sylwadau erbyn 5.00yp ar 16 Mawrth 2026 drwy e-bost i electoral.services@blaenau-gwent.gov.uk neu yn ysgrifenedig i'r Gwasanaethau Etholiadol, Cyngor Bwrdeistref Sirol 乱伦大神, Y Swyddfeydd Cyffredinol, Heol y Gwaith Dur, Glynebwy NP23 6DN

Os ydych chi eisiau gwybod mwy am ffiniau a chymunedau, mae gan Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru rai fideos .

WARD NAMES

ENGLISH

WELSH

Dogfennau Cysylltiedig