Mae Gwasanaeth iechyd yr Amgylchedd yn cyflawni arolygon iechyd a diogelwch i sicrhau bod cyflogwyr yn ymwybodol o鈥檜 dyletswyddau cyfreithiol ac asesu cydymffurfiaeth gyda鈥檙 Ddeddf iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974 a rheoliadau cysylltiedig.
Rydym yn arolygu safleoedd megis siopau, warysau, llefydd a ddefnyddir ar gyfer gweithgareddau hamdden a safleoedd eraill heb fod yn ddiwydiannol. Pe byddech yn hoffi gwneud cwyn neu os ydych yn pryderu ynghylch iechyd a diogelwch ar safle, defnyddiwch y cyswllt hwn, os gwelwch yn dda, i adael i ni wybod.
Arolygir safleoedd diwydiannol mwy o faint, megis ffatr茂oedd gan fel y mae gweithgareddau megis gwaith adeiladu a dymchwel.
Arolygir safleoedd ar amlder a benderfynir gan y peryglon sy鈥檔 gysylltiedig 芒鈥檙 gweithle hwnnw a pha mor dda y rheolir y peryglon. Bob blwyddyn fe ddatblygwn gynllun gwaith sy鈥檔 adlewyrchu materion a nodwyd fel rhai yn corffori risg Iechyd a Diogelwch. Gellir gweld copi o鈥檙 cynllun gwaith cyfredol ar :Cyswllt i gynllun gwaith.
Beth i鈥檞 ddisgwyl yn ystod yr arolwg
Gwneir arolygon fel arfer yn ddirybudd gyda rheolwr y busnes. Gallai鈥檙 arolygwr hefyd ddymuno siarad 芒 chyflogeion, cynrychiolwyr iechyd a diogelwch, cynrychiolwyr undebau llafur a phart茂on eraill 芒 diddordeb.
Yn ystod yr arolwg bydd y swyddog yn gofyn am archwilio鈥檙 gwaith papur megis:
- Polisi iechyd a diogelwch y cwmni
- Asesiad Risg
- RhSBI(rheoli sylweddau sy鈥檔 beryglus i iechyd)
- Llyfr / cofnodion damweiniau
- Cofnodion hyfforddiant
- Cofnodion cynnal a chadw, er enghraifft, y gweithle a chyfarpar gwaith
- Adroddiadau arolygon mewnol
- Tystysgrifau, er enghraifft, gosodiadau trydanol ac archwiliadau o beiriannau nwy
- Gweithdrefnau brys
Gwneir arolwg ffisegol hefyd o鈥檙 gweithle i benderfynu:-
- Cyflwr/glanweithdra鈥檙 safle megis strwythur allanol a muriau mewnol, lloriau, nenfydau, ffenestri, llwybrau traffig, gosodiadau a gosodion
- Darparu cyfleusterau lles megis toiledau, cyfleusterau golchi/sychu, d诺r yfed, ystafelloedd gorffwys a lle i storio dillad
- Cyflwr yr ardaloedd tu allan megis meysydd parcio, llwybrau cerddwyr
- Cysur yn y gweithle megis gwres, awyru, goleuo, gweithfannau, maint ystafelloedd a gofod
- Cyflwr a lleoliad cyfarpar gwaith
Yn dilyn yr arolwg
Ar ddiwedd yr arolwg bydd y swyddog yn eich cynghori chi
ynghylch ei gasgliadau/ei chasgliadau a bydd y swyddog yn cyflwyno adroddiad wedi鈥檙 ymweliad yn amlinellu鈥檙 gofynion angenrheidiol i gydymffurfio 芒鈥檙 ddeddfwriaeth.
Mewn rhai achosion, gallai fod yn angenrheidiol cymryd camau ffurfiol yn syth os gw锚l y swyddog unrhyw beth sy鈥檔 golygu risg ddifrifol i iechyd a / neu ddiogelwch.
Gellid cyflwyno hysbysiadau gwelliant lle mae鈥檙 swyddog o鈥檙 farn bod person (au) yn torri gofynion cyfreithiol. Bydd y rhybudd yn amlinellu beth sydd o鈥檌 le ac yn gosod amserlen ar gyfer cydymffurfio.
Gellid cyflwyno hysbysiadau gwahardd lle mae risg ddifrifol o anafiadau personol. Mae鈥檙 hysbysiad yn cyfeirio person i beidio 芒 chyflawni gweithgareddau penodol.
Mae gwahardd hefyd yn ddewis lle mae鈥檙 gyfraith yn cael ei hanwybyddu鈥檔 agored, iechyd a diogelwch yn cael eu diystyru鈥檔 ddi-hid, tor-amodau cyson neu fethiant i gydymffurfio 芒 hysbysiadau.
Gwybodaeth Gyswllt
Enw鈥檙 T卯m: Commercial Team
Rhif Ff么n: 01495 369542
Cyfeiriad: Public Protection 鈥� Environmental Health, Commercial Team, Y Swyddfeydd Cyffredinol, Glynebwy, NP23 6DN
Cyfeiriad E-bost: environmental.health@blaenau-gwent.gov.uk