Cyngor i fusnesau
Mae Ardrethi Busnes yn fath o drethiant lleol sy鈥檔 daladwy gan feddianwyr neu berchnogion eiddo masnachol tebyg i siopau, swyddfeydd, tafarndai, warysau a ffatr茂oedd.
C芒nt eu casglu gan y Cyngor ar ran Llywodraeth Cymru. Caiff yr arian a gesglir eu talu i 鈥榞ronfa鈥� ganolog ac yna eu hailddosbarthu ar draws Cymru i helpu talu am wasanaethau a ddarperir gan yr holl awdurdodau lleol.
Mae buddiannau masnachol eraill y mae Ardrethi Busnes yn daladwy amdanynt tebyg i fastiau telathrebu, hawliau hysbysebu, peiriannau arian a meysydd parcio ac yn y blaen.
Beth yw鈥檙 Lluosydd Ardrethi Annomestig Cenedlaethol?
O 1 Ebrill 2026, bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno cynllun tri lluosydd a all fod yn gymwys i eiddo yng Nghymru. Mae'r lluosyddion hyn fel a ganlyn:
- o 0.350 ar gyfer siopau manwerthu bach a chanolig 芒 gwerth ardrethol is na 拢51,000;
- o 0.502, sy'n berthnasol i'r mwyafrif o eiddo eraill; a
- o 0.515, sy'n berthnasol i eiddo 芒 gwerth ardrethol uwch na 拢100,000.
Sut y caiff fy ardrethi busnes eu cyfrif?
Caiff ardrethi busnes eu cyfrif drwy gymryd Gwerth Ardrethol (RV) eich eiddo a鈥檌 luosi gan y 鈥榣luosydd鈥� ardrethi annomestig cyfredol (neu 鈥榖untdal鈥�).
Er enghraifft:
Gwerth ardrethol 拢20,000 x Lluosydd 0.502 = Bil ardrethi blynyddol 拢10,040
Atebolrwydd gros yw hyn, a gallech fod 芒 hawl i Ryddhad Ardrethi.