Mae gwaith gwella cam cyntaf ar hen domen lo yng Nghwmtyleri wedi'i gwblhau, yn dilyn tirlithriad dinistriol yn ystod Storm Bert bron i ddwy flynedd yn 么l.

Mae Cyngor 乱伦大神 wedi gweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid, gan ddefnyddio cyllid trwy'r Cynllun Grant Diogelwch Tomenni Glo, i gyflawni'r gwaith. Sicrhaodd y cyngor gyfanswm o 拢1.3miliwn ar gyfer gwaith cam un a 拢3miliwn ar gyfer cam dau dros y ddwy flynedd nesaf.
Mae cam cyntaf y gwaith wedi canolbwyntio ar reoli d诺r yn fwy effeithiol, gan osod pibellau draenio mwy a systemau draenio newydd, ac ail-lunio rhannau o'r safle fel nad yw d诺r yn cronni ac y gall lifo i ffwrdd yn haws. Bydd y gwelliannau hyn yn helpu i leihau'r risg o lifogydd, atal d诺r rhag cronni ac amddiffyn y safle rhag erydiad.
Bydd gwaith ar yr ail gam yn dechrau yn gynnar y flwyddyn nesaf a bydd yn canolbwyntio ar ail-lunio llethrau'r domen. Bydd hyn yn cynnwys ail-lunio ardaloedd serth, ychwanegu mwy o ddraeniau a gwneud gwaith tirlunio, gan gynnwys hau glaswellt a phlannu coed.
Drwy gydol y gwaith, mae'r Cyngor wedi cadw preswylwyr yn rhan o'r broses ac yn wybodus drwy gyfarfodydd rheolaidd, ac wedi gwrando ar eu pryderon a gweithredu arnynt. Mae'r gymuned hefyd wedi cael cyfle i weld y gwaith sy'n cael ei wneud drostynt eu hunain.
Dywedodd y Cynghorydd Tommy Smith, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdogaeth a鈥檙 Amgylchedd:
"Gwyddom pa effaith gafodd y digwyddiad hwn ar drigolion lleol, ac rydym yn deall bod pryderon ynghylch hen domenni glo yn parhau i fod yn real iawn i gymunedau ar draws Cymru. Ers y tirlithriad, rydym wedi gweithio'n agos gyda phobl leol i ailadeiladu ymddiriedaeth, cadw trigolion yn wybodus a sicrhau bod eu lleisiau wedi'u clywed trwy ymgysylltu a diweddariadau rheolaidd.
"Rydym yn croesawu buddsoddiad parhaus Llywodraeth Cymru mewn diogelwch tomenni glo ac yn cefnogi'n llawn ei hymrwymiad i ddiogelu cymunedau sy'n byw ger y safleoedd hyn. Trwy weithio gyda'n gilydd, rydym yn gwneud y safle hwn yn fwy diogel, yn gryfach ac yn fwy gwydn ar gyfer y dyfodol.
"Byddwn yn parhau i weithio gyda thrigolion, Llywodraeth Cymru a'n partneriaid wrth i ni gyflawni'r cam nesaf o welliannau, gan gadw'r gymuned yn wybodus ym mhob cam o'r broses a sicrhau bod y safle'n parhau i fod yn wydn ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol."
Ar 24ain Tachwedd, cafodd 40 o gartrefi eu gwagio yn oriau m芒n y bore yn dilyn llithriad deunydd o'r domen. Dilynwyd hyn gan waith glanhau helaeth a gwaith ymchwilio ar y safle. Yna, lluniodd y Cyngor raglen waith fanwl a sicrhau cyllid i wella diogelwch a gwydnwch y safle.