Bwydlenni ysgolion cynradd i gyd
I gael mynediad at fwydlen Ysgol Gynradd Gatholig Rufeinig Sant Joseff ewch i wefan yr ysgol :

Meddwl eich bod yn gwybod am Brydau Ysgol?
Ni fu prydau ysgol yng Nghymru erioed mor faethlon ac amrywiol. Yma ym Mlaenau Gwent rydym yn bwydo miloedd o ddisgyblion cynradd ac uwchradd bob dydd, yn ogystal 芒 staff ac ymwelwyr.
Yn unol 芒 safonau Llywodraeth Cymru mae gennym lai o fraster, siwgr a halen yn ein rysetiau, a mwy o ffibr a ffrwythau a llysiau, ymysg llawer o welliannau eraill. Mae maeth yn bwysig i ni a gellir ymddiried yn ein prydau ysgol i gyfrannu鈥檔 sylweddol ar ddiet iach pobl ifanc.
Ond dim ond hanner y frwydr fu gwneud y bwyd a ddarparwn mewn ysgolion yn iachach. Mae鈥檔 rhaid i bobl ifanc fod eisiau eu bwyta a sicrhawyd hyn gyda gwaith caled a brwdfrydedd timau arlwyo yr holl ysgolion ar draws 乱伦大神 ac, wrth gwrs, fewnbwn gwerthfawr ein disgyblion.
Mae gan bob disgybl ysgol gynradd o鈥檙 Dosbarth Derbyn lan (a phlant Meithrin llawn-amser) ym Mlaenau Gwent yn awr hawl i Bryd Ysgol am Ddim bob dydd.
Caiff hyn ei ariannu gan Lywodraeth Cymru mewn ymateb i鈥檙 pwysau costau byw cynyddol ar deuluoedd ac uchelgais i drin tlodi tanwydd a sicrhau nad oes unrhyw blentyn yn mynd yn newynnog yn yr ysgol. Mae hefyd fuddion ehangach i brydau ysgol am ddim, yn cynnwys hyrwyddo bwyta iach ar draws yr ysgol, cynyddu amrywiaeth y bwyd y gall dysgwyr ei fwyta, gwella sgiliau cymdeithasol adeg prydau bwyd, yn ogystal 芒 gwella ymddygiad a chyrhaeddiad. Mae鈥檙 polisi yn rhan o鈥檙 Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru.
Nid oes angen cofrestru. Y cyfan fydd angen i鈥檆h plentyn ei wneud yw dweud os yw eisiau cinio ysgol pan fydd yn cofrestru ar ddechrau鈥檙 diwrnod ysgol.
Hyd yn oed os ydych yn derbyn Prydau Ysgol am Ddim Cyffredinol ar gyfer eich plentyn, dylech ddal i wneud cais os ydych yn gymwys oherwydd amgylchiadau ariannol gan y gall hyn roi hawl i chi i fuddion eraill e.e. cymorth gyda phrynu gwisg ysgol. Gall gwneud cais am Brydau Ysgol am Ddim hefyd roi mynediad i gyllid ychwanegol i ysgol eich plentyn y gellid ei ddefnyddio i roi mwy o gefnogaeth ac adnoddau. Gallwch ganfod os ydych yn gymwys am y cymorth ychwanegol hwn yma.
Tystysgrif Cydymffurfio- Rheoliadau Bwyta鈥檔
Iach mewn Ysgolion (Safonau a Gofynion Maeth) Cymru 2013.
Yr hyn y gallwch ddisgwyl ei weld yn ein hysgolion:
鈥� Ffrwythau bob dydd
鈥� Llysiau a/neu salad bob dydd
鈥� Pwdin seiliedig ar ffrwythau o leiaf ddwywaith yr wythnos
鈥� Pysgod bob wythnos
鈥� Pysgod seimllyd o leiaf unwaith mewn 3 wythnos
鈥� Toriadau cig o leiaf ddwywaith yr wythnos yn ein hysgolion cynradd a dair gwaith yr wythnos mewn ysgolion uwchradd
鈥� Dim halen ychwanegol
鈥� Dim bwydydd melys, tebyg i fariau siocled, bariau grawnfwyd a melysion na chreision
鈥� Cyfyngu cynnyrch tatws a thatws wedi鈥檜 coginio mewn saim neu olew (dim mwy na dwywaith yr wythnos)
鈥� Cyfyngu bwyd wedi ei ffrio鈥檔 ddwfn neu ei fflach ffrio (dim mwy na ddwywaith yr wythnos)
鈥� Cyfyngu cynnyrch cig wedi鈥檌 brosesu
鈥� Siopau ffrwythau yn ein holl ysgolion cynradd
鈥� Llaeth am ddim ar gyfer pob disgybl meithrin a phlant bach
鈥� Brecwast iach am ddim ym mwyafrif ein hysgolion cynradd
鈥� Hyrwyddo llaeth a d诺r fel fod y gorau ar gyfer iechyd dannedd
Heblaw am faeth, mae ysgolion bach yn cynnig llawer o fuddion eraill:
鈥� Cyfleuster 鈥� arbed amser yn y bore drwy beidio gorfod paratoi cinio pecyn, a dim pryderon am gadw bwyd yn ffres a diogel tan amser cinio
鈥� Y cyfle i roi cynnig ar fwydydd newydd
鈥� Porthi gallu canolbwyntio plant a鈥檜 gallu i gyflawni鈥檔 dda yn yr ysgol
鈥� Hyrwyddo sgiliau cymdeithasol plant, moesgarwch wrth y bwrdd a鈥檜 gallu i wneud dewisiadau bwyd gwybodus mewn amgylchedd diogel, dan arolygiaeth gyda chyfeilion
鈥� Mwynhau bwydlenni thema hwyl megis pryd arbennig Dydd G诺yl Dewi
鈥� Gwerth gwych am arian
Prydau Ysgol neu Giniawau Pecyn
Amser ailfeddwl am giniawau pecyn?
Ni roddodd ymchwil gan Brifysgol Leeds ddarlun cadarnhaol o gynnwys maeth ciniawau becyn o gymharu 芒 phrydau ysgol, gyda llai na 2% o giniawau pecyn yn cyrraedd safonau prydau ysgol, gyda lefelau yn gostwng o ran Fitamin C, Fitamin A a sinc dros y blynyddoedd.
O gymharu, caiff bwydlenni ysgolion cynradd eu dadansoddi o ran maeth gan ddietegydd ein timau i sicrhau fod bwydlenni鈥檔 cynnig 1/3 o ofynion dyddiol disgyblion ar gyfer ynni, braster, braster dirlawn, carbohydradau, siwgr, ffibr, protein, haearn, sinc, calsiwm, Fitamin A, Fitamin C, ffolad, sodiwm.
Amser ailystyried?
Y prisiau cyfredol ar gyfer prydau ysgol ym Mlaenau Gwent yw (bob dydd):
Uwchradd - 拢2.90

- Ysgol Gyfun Tredegar Rhestr Prisiau Myfyrwyr
- Cymuned Ddysgu Abertyleri - Campws Uwchradd Rhestr Prisiau Myfyrwyr
Mae bwydlenni y dydd ar gyfer:
- Cymuned Dysgu Abertyleri
- Ysgol Gyfun Tredegar
- Gymuned Ddysgu Ebwy Fawr


I gael mwy o wybodaeth cysylltwch 芒:
Prydau Ysgol
Ff么n: 01495 311556
E-bost: info@blaenau-gwent.gov.uk