RSS Feed /cy/newyddion/ cy Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yng Nghymru yn ymweld â dwy ysgol ym Mlaenau Gwent Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yng Nghymru, Lynne Neagle AS, wedi ymweld â ״ i weld sut mae cyllid Llywodraeth Cymru yn gwella ac yn adeiladu ysgolion yn y fwrdeistref.

Cyfarfu Mrs Neagle â disgyblion a staff, cynrychiolwyr y Cyngor a chontractwyr yn Ysgol Gynradd Glyncoed yng Nglynebwy a'r ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg newydd sbon, Ysgol Gymraeg Tredegar.

Adeiladwyd Ysgol Gynradd Glyncoed, sydd â 360 o leoedd, diolch i bartneriaeth rhwng Cyngor ״ a Llywodraeth Cymru drwy raglen ariannu Cymunedau Dysgu Cynaliadwy. Costiodd yr ysgol £13.5 miliwn, gyda thraean wedi'i ariannu gan y Cyngor. Mae'r adeilad hefyd yn cynnwys meithrinfa dydd cyfrwng Cymraeg, a ariennir drwy Grant Cyfalaf y Cynnig Gofal Plant.

Mae Ysgol Gymraeg Tredegar yn ysgol egin â 210 o leoedd, gyda gofal plant ar yr un safle, yn Chartist Way. Costiodd yr ysgol £17 miliwn, ac fe'i hariannwyd yn llawn gan Lywodraeth Cymru. Gyda nifer y plant mewn addysg Gymraeg yn tyfu, mae'n rhan o ymrwymiad y Cyngor i gynyddu cyfleoedd i deuluoedd o fewn y fwrdeistref sirol. Mae'r ysgol wedi'i hariannu'n llawn gan Lywodraeth Cymru trwy'r Grant Cyfalaf Addysg Cyfrwng Cymraeg. Mae gan yr ysgol Ardal Gemau Aml-ddefnydd (MUGA), ardal chwarae coedwig, perllan sy'n tyfu, dolydd blodau gwyllt a man chwarae cyfagos. Mae ganddi hefyd baneli solar a phwyntiau gwefru cerbydau trydan

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle:

"Mae wedi bod yn wych gweld uniongyrchol y gwaith sydd wedi'i wneud gan dimau arweinyddiaeth, staff a'r cyngor i ddarparu cyfleusterau modern wedi'u cynllunio ar gyfer dysgwyr a'r cymunedau maen nhw'n byw ynddynt. Roeddwn i'n falch iawn o weld yr amgylcheddau dysgu hyblyg yng Nglyncoed, gwell darpariaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol a mannau wedi'u cynllunio i'w defnyddio gan y gymuned ehangach.

"Mae mor ysbrydoledig gweld dysgwyr yn ffynnu yn Ysgol Gymraeg Tredegar, yr ail ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg yn y fwrdeistref, gyda dros £17m o fuddsoddiad gan Lywodraeth Cymru.  Rwy'n gobeithio y gall y dysgwyr fwynhau ac elwa gwirioneddol o ddysgu yn eu hysgol newydd."

Dywedodd Pennaeth Ysgol Gynradd Glyncoed, Joanne Weightman:

“Roeddem yn hynod falch o groesawu Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i’n hysgol. Roedd yn gyfle gwych i arddangos yr amgylchedd dysgu bywiog rydym wedi’i sefydlu ar gyfer ein disgyblion, ac i rannu’r gwaith caled, y weledigaeth ’r ymroddiad sydd wedi mynd i greu amgylcheddau dysgu pwrpasol, dan do ac yn yr awyr agored. Roedd yr ymweliad yn foment arwyddocaol i gymuned ein hysgol, ac rydym yn ddiolchgar am amser, diddordeb a chefnogaeth y Gweinidog.”

Dywedodd Pennaeth Ysgol Gymraeg Bro Helyg, Janine Wardill:

“Fel Pennaeth Ysgol Gymraeg Tredegar, roeddwn i’n hynod falch o groesawu Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i’n hysgol ac roedd yn anrhydedd. Mae’r ymweliad hwn yn adlewyrchu’r weledigaeth gref ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg ym Mlaenau Gwent - gweledigaeth a ddaeth yn fyw trwy ymrwymiad a chydweithrediad Llywodraeth Cymru, yr awdurdod lleol, ein llywodraethwyr, staff, rhieni ’r gymuned ehangach. Wrth i ni weld y weledigaeth gyffredin hon yn cael ei gwireddu er budd ein dysgwyr, rydym yn hynod falch o’r hyn a gyflawnwyd ac yn gyffrous am ddyfodol addysg cyfrwng Cymraeg yn yr ardal.”

Dywedodd y Cynghorydd Sue Edmunds, Aelod Cabinet dros Blant, Pobl Ifanc a Theuluoedd, ״:

“Rydym wrth ein bodd yn parhau i weithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru i fuddsoddi yn  ystâd ysgolion yma ym Mlaenau Gwent a’i moderneiddio. Ein blaenoriaethau yw rhoi’r dechrau gorau mewn bywyd i bob plentyn, darparu amgylcheddau dysgu cynhwysol a meithringar, ac ysbrydoli dysgu gydol oes. Mae cael y cyfleusterau gorau y gallwn eu cynnig yn golygu bod gan ein plant a’n pobl ifanc y cyfleoedd y maent yn eu haeddu i ffynnu a chyrraedd eu potensial llawn.”

]]>
/cy/newyddion/ysgrifennydd-y-cabinet-dros-addysg-yng-nghymru-yn-ymweld-a-dwy-ysgol-ym-mlaenau-gwent/ /cy/newyddion/ysgrifennydd-y-cabinet-dros-addysg-yng-nghymru-yn-ymweld-a-dwy-ysgol-ym-mlaenau-gwent/ Tue, 17 Feb 2026 08:53:36 GMT Louise Bishop
Cymorth Costau Byw yn helpu preswylwyr ״ Cyngor ״ yn parhau i roi cyngor a chymorth i breswylwyr sy’n cael trafferthion gyda Chostau Byw

Bu grŵp gorchwyl yn cydweithio am dros flwyddyn i sicrhau dull gweithredu cydlynus gyda’n partneriaid i gefnogi pobl, gyda ffocws ar y pum prif faes: Tai; Bwyd; Tanwydd; Cymorth Ariannol a Chymorth Cyffredinol.

Mae hyn wedi cynnwys:

  • Cynhyrchu llyfryn gwybodaeth cynhwysfawr a thudalen gwefan yn llawn gwybodaeth am gynlluniau cymorth oedd ar gael a sut i gael mynediad iddynt. Cafodd hyn ei ddiweddaru’n rheolaidd i cynnig y cyngor diweddaraf.
  • Gweithio i weinyddu cynlluniau cymorth Llywodraeth Cymru yn lleol, tebyg i Gynllun Cymorth Tanwydd y Gaeaf ’r Cynllun Costau Byw. Mae’r Cyngor hefyd wedi defnyddio cyllid dewisol i’w gynnig i gartrefi taliad i gartrefi hyd at fand H y Dreth Gyngor a thaliad ychwanegol i gartrefi sy’n derbyn prydau ysgol am ddim.
  • Pleidleisio i ddefnyddio cyllid dewisol Llywodraeth Cymru i wneud cyfraniadau sylweddol i Fanc Bwyd ״ (£30,000), Cyngor ar Bopeth (£50,000) a grwpiau eraill sy’n dosbarthu bwyd yn lleol (£70,000)
  • Gwneud taliadau i rieni heb berthynas uniongyrchol gyda chyflenwr ynni
  • Helpu i drefnu a dosbarthu cyllid i Ganolfannau Cynnes
  • Cyhoeddi talebau banc tanwydd drwy’r Hybiau Cymunedol
  • Trefnu digwyddiad lle bu nifer dda yn bresennol gydag amrywiaeth o gyngor a chymorth ar gael i breswylwyr.

Mae’r Cyngor wrthi’n diweddaru ei wefan gyd’r wybodaeth ddiweddaraf ar ba gymorth sydd ar gael. Caiff hyn hefyd ei hysbysebu ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol.

Dywedodd y Cynghorydd Steve Thomas, Arweinydd Cyngor ״:

“Mae llawer o deuluoedd ym Mlaenau Gwent yn parhau i deimlo effeithiau costau llawer uwch ar gyfer tanwydd, nwyddau cartref a biliau eraill, yn arbennig ymysg ein teuluoedd mwyaf bregus. Mae gwneud yr hyn a fedrwn i gefnogi pobl yn un o’n prif flaenoriaethau. Mae ein gwefan yn cynnwys llawer o wybodaeth am y math o gymorth sy’n parhau i fod ar gael i bobl ac mae ein Hybiau Cymunedol yno bob amser ar gyfer unrhyw un sy’n dymuno siarad wyneb yn wyneb gyda rhywun am yr anawsterau maent yn eu hwynebu.

“Hoffwn ddatgan fy niolch i bawb sy’n parhau i weithio gyda’n cymunedau i roi help a chymorth yn ystod y cyfnod anodd hwn.”

]]>
/cy/newyddion/cymorth-costau-byw-yn-helpu-preswylwyr-blaenau-gwent/ /cy/newyddion/cymorth-costau-byw-yn-helpu-preswylwyr-blaenau-gwent/ Thu, 04 Jan 2024 10:01:07 GMT Andy Hale
Mae Arolygiaeth Gofal Cymru Mae Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) yn cynnal archwiliad sicrwydd o wasanaethau ar gyfer oedolion gyda anableddau dysgu yn eich ardal.

Pwrpas yr archwiliad hwn yw adolygu pa mor dda y mae’r awdurdod lleol yn arfer ei ddyletswyddau a’i swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol yn unol â deddfwriaeth.

Rydym eisiau clywed am eich profiad o ofyn am a/neu dderbyn gwybodaeth, cyngor a chymorth a byddwn yn ceisio deall pa wahaniaeth y mae derbyn gwasanaethau wedi ei wneud i chi a/neu eich teulu.

Nid yw'r arolygwyr yn cadw llygad arnoch chi na'ch teulu, ac nid oes rhaid i chi rannu unrhyw wybodaeth bersonol â ni. Os byddwch am aros yn ddienw byddwn yn gwneud yn siŵr na fyddwn yn eich adnabod. Fodd bynnag, os byddwch yn rhoi gwybod i ni am rywun sy'n cael ei gam-drin neu ei esgeuluso, mae dyletswydd gennym i rannu'r wybodaeth ag eraill er mwyn atal niwed pellach.

Ar ddiwedd yr archwiliad sicrwydd, byddwn yn rhannu ein canfyddiadau â'r awdurdod lleol ’r bwrdd iechyd lleol. Byddwn yn nodi cryfderau ac unrhyw feysydd i'w gwella.

Mae eich barn yn bwysig i ni, a gobeithiwn y byddwch yn cytuno i siarad â ni. Gallai hyn fod trwy sgwrs ffôn neu alwad fideo. Efallai y byddwch hefyd am gwblhau arolwg byr. Os ydych yn hapus i wneud hynny, cliciwch ar y ddolen briodol.

Bydd cyfrinachedd yn cael ei barchu oni bai bod cadw gwybodaeth yn ôl yn peryglu diogelwch person. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio eich manylion personol, gweler ein Hysbysiad Preifatrwydd yn

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon pellach, mae croeso i chi fy ffonio ar 0300 790 0126 neu anfonwch e-bost ataf yn AGC.AwdurdodLleol@llyw.cymru

]]>
/cy/newyddion/mae-arolygiaeth-gofal-cymru/ /cy/newyddion/mae-arolygiaeth-gofal-cymru/ Thu, 07 Mar 2024 13:42:11 GMT Andy Hale
Ysgol Gynradd Deighton yn dathlu adroddiad arolwg rhagorol Mae Ysgol Gynradd Deighton a Chyngor ״ wedi croesawu adroddiad cadarnhaol iawn gan Estyn sydd yn canmol yr ysgol am fod yn amgylchedd ysgogol, diddorol a chefnogol ar gyfer pob disgybl.

Mae’r adroddiad a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn dilyn arolwg o’r ysgol yn Nhredegar ym mis Rhagfyr 2023.

Mae’n dweud fod arweinwyr ysgol, staff a llywodraethwyr Ysgol Gynradd Deighton wedi gweithio’n effeithlon fel cymuned i ddatblygu ysgol gynhwysol gyda ffocws ar godi uchelgais pob disgybl a’u datblygu fel dysgwyr cydnerth, gydol oes. Mae’r berthynas rhwng disgyblion ac oedolion yn gryf ac mae partneriaeth yr ysgol gyd’r ysgol yn rhagorol. Mae cefnogaeth effeithiol ar gyfer disgyblion sydd ag anghenion dysgu ychwanegol, ’r rhai sydd yn agored i niwed. Mae disgyblion yn gwerthfawrogi’r gofal a chymorth ansawdd uchel pan maent yn profi anawsterau cymdeithasol ac emosiynol.

Mae staff yn darparu ystod eang o brofiadau dysgu dilys ac yn ennyn diddordeb disgyblion drwy roi cyfleoedd iddynt a ystyriwyd yn ofalus i ddylanwadu ar yr hyn maent yn ei ddysgu.

Dywedodd Mr Huw Waythe, Pennaeth yr ysgol:

“Rwy’n falch tu hwnt o’r adroddiad hwn. Mae holl gymuned yr ysgol wedi gweithio’n ddiflino i sicrhau fod ein disgyblion yn derbyn y dechrau gorau posibl mewn bywyd. Rwyf wrth fy modd fod yr adroddiad yn cydnabod ein staff a Llywodraethwyr ymroddedig a’u gwaith i ddarparu amrywiaeth o brofiadau i’n dysgwyr na fedrent efallai eu cael fel arall.”

Dywedodd y Cyng Haydn Trollope, Cadeirydd Llywodraethwyr yr ysgol:

“Rydym mor falch o’n hysgol. Dim ond pan fo pawb yn cydweithio y gellir cael y canlyniad hwn; mae’r staff i lawr o’r pennaeth i’r gofalwr yn gweithio fel un ac yn cael eu gwir werthfawrogi. Y nod yw rhoi’r dechrau gorau mewn bywyd i blant, a rydym i gyd yn gweithio’n galed i gyflawni hyn. Rwy’n falch i fod yn rhan o gymuned Deighton.”

Dywedodd y Cynghorydd Sue Edmunds, Aelod Cabinet Pobl ac Addysg y Cyngor:

“Dylai Ysgol Gynradd Deighton a chymuned yr ysgol gyfan fod yn falch tu hwnt o’r adroddiad gwych hwn gan Estyn. Rydyn ni ym Mlaenau Gwent yn ymroddedig i weithio gyda’n hysgolion ac ystod o bartneriaid ar ein gweledigaeth i rymuso ein dysgwyr i fod yn ddysgwyr uchelgeisiol, moesegol wybodus, gydol oes. Rydym eisiau i’n hysgolion gynnwys pawb a chynyddu llesiant plant a phobl ifanc i’r eithaf ac mae Ysgol Gynradd Deighton yn enghraifft wych o hyn – da iawn bawb!”

]]>
/cy/newyddion/ysgol-gynradd-deighton-yn-dathlu-adroddiad-arolwg-rhagorol/ /cy/newyddion/ysgol-gynradd-deighton-yn-dathlu-adroddiad-arolwg-rhagorol/ Wed, 13 Mar 2024 10:46:26 GMT Andy Hale
Prentis-Beiriannydd Anelu’n Uchel CBS ״ yn cyrraedd rownd derfynol Gwobrau Prentisiaethau Cymru Mae Jacob Marshall, sydd ar hyn o bryd yn Brentis-Beiriannydd yn Anelu’n Uchel Cyngor Bwrdeistref Sirol ״, wedi cyrraedd rownd derfynol Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2024 yn y categori 'Talent Yfory'.

Wedi creu argraff ar ei gyflogwr a'i asesydd gyda'i sgiliau a'i safon uchel o waith, mae gan Jacob, 20 o Bontypridd, ddyfodol disglair mewn peirianneg fecanyddol. Mae’n cael ei gyflogi gan Combined Engineering Services (CES) ar hyn o bryd, cwmni peirianneg a dylunio ym Mrynmawr mewn partneriaeth ag Anelu’n Uchel ״.

Dywedodd Jacob:

"Rydw i mor falch o gyrraedd rowndiau terfynol y wobr hon, mae'n teimlo bod fy holl waith caled ac ymroddiad wedi cael eu cydnabod ac mae hynny'n golygu llawer i mi. Roeddwn yn falch iawn gydag ymateb fy nheulu gan fod y digwyddiad yn cael ei gynnal mewn lleoliad mawreddog ac rwy'n edrych ymlaen at ei brofi gyda fy nheulu wrth fy ochr. Rwy'n teimlo fy mod wedi dod o hyd i'm gwir alwedigaeth ac rwy'n edrych ymlaen at yrfa hir a llwyddiannus fel Peiriannydd. Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi fy nghefnogi drwy fy nhaith gydag Anelu’n Uchel Cyngor Bwrdeistref Sirol ״ ’r Gwasanaethau Peirianneg Cyfunol".

Cynhelir y seremoni wobrwyo yng Ngwesty'r Celtic Manor ddydd Gwener 22 Mawrth 2024 ac mae'n cydnabod llwyddiant unigolion, cyflogwyr ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith ar draws 9 categori gwahanol.

Mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop ac yn gwobrwyo unigolion, darparwyr dysgu a chyflogwyr sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at Raglenni Cyflogadwyedd a Phrentisiaethau Llywodraeth Cymru ledled Cymru.

Sefydlwyd Anelu’n Uchel yn 2015 ac mae'r Tîm yn arbenigo mewn darparu prentisiaid i fusnesau gweithgynhyrchu a pheirianneg De-ddwyrain Cymru. Hyd yma, mae ganddynt record drawiadol o 100% o brentisiaid yn cael eu cyflogi drwy'r rhaglen ar ôl cwblhau eu prentisiaeth. Mae’r tîm Anelu’n Uchel eisoes wedi cael eu cydnabod am eu hymroddiad rhagorol a'u record gyda phrentisiaethau yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru 2019 a 2021 lle enillon nhw yn y categori Cyflogwr Mawr y Flwyddyn.

Os ydych chi'n fusnes gweithgynhyrchu a pheirianneg yn Ne-Ddwyrain Cymru, yn ardal ״ neu Ferthyr, ac yn ystyried cyflogi prentis, cysylltwch ag Anelu’n Uchel ar 01495 355508 neu e-bostiwch: sap@blaenau-gwent.gov.uk

Y Prentis-Beiriannydd, Jacob Marshall, yn y cwmni dylunio a pheirianneg Combined Engineering Services ym Mrynmawr.
]]>
/cy/newyddion/prentis-beiriannydd-anelu-n-uchel-cbs-blaenau-gwent-yn-cyrraedd-rownd-derfynol-gwobrau-prentisiaethau-cymru/ /cy/newyddion/prentis-beiriannydd-anelu-n-uchel-cbs-blaenau-gwent-yn-cyrraedd-rownd-derfynol-gwobrau-prentisiaethau-cymru/ Fri, 22 Mar 2024 08:59:25 GMT Andy Hale
Teuluoedd Dechrau Deg yn dysgu Cymraeg yng Nhwm. Mae grŵp o rieni o Gwm, sy'n defnyddio cyfleusterau'r Dechrau Deg, wedi penderfynu dysgu Cymraeg i gefnogi addysg ddwyieithog eu plant. Byddant yn mynychu cwrs tair wythnos a ddarparwyd gan Ddysgu Cymraeg sydd yn dechrau ar y 6ed o Fehefin.

Bydd y cwrs yn cyflwyno'r dysgwyr i sgiliau sylfaenol y Gymraeg, megis cyfarch, cyflwyniadau, rhifau, lliwiau, ac ymadroddion teuluol bob dydd. Mae'r cwrs wedi'i gynllunio i roi sylfaen iddynt i ddysgu'n well a'u helpu i gyfathrebu â'u plant yn y Gymraeg. Mae'r cwrs yn rhad ac am ddim ac yn agored i bob teulu yn yr ardal.

Mynegodd y rhieni eu diddordeb i ddysgu Cymraeg ar ôl gweld post ar y cyfryngau cymdeithasol gan Ddechrau Deg, sy'n cynnig ystod o wasanaethau i deuluoedd â phlant dan bedair oed, megis gofal plant, ymweliadau iechyd, cymorth i rieni a datblygiad iaith gynnar. Mae gan lawer o'r rhieni blant sy'n mynychu ysgolion neu feithrinfeydd cyfrwng Cymraeg, ac maent am ymuno â nhw yn eu taith ddwyieithog.

‘Mae hyn yn syniad hyfryd, mae’n neis gweld mwy o ddiddordeb gan bobol, yn yr iaith Cymraeg’

‘Dwi â diddordeb mawr mynychu’r cwrs. Mae fy mhlentyn yn 4 ac yn cywiro fi pam byddwn yn trio siarad Cymraeg’

Dywedodd dau riant

Darparwyd y cwrs gan Ddysgu Cymraeg Cymru, sef y darparwr cenedlaethol o gyrsiau Cymraeg ar gyfer oedolion yng Nghymru. Maent yn cynnig cyrsiau ar bob lefel, o ddechreuwyr i uwch, mewn gwahanol leoliadau a fformatau. Maent hefyd yn darparu adnoddau a gweithgareddau ar-lein i gefnogi cynnydd dysgwyr.

Mae Cyngor ״ yn falch iawn bod y teuluoedd yn cael eu cefnogi i ddysgu Cymraeg. Nid yw byth yn rhy hwyr i ddechrau dysgu iaith newydd, a gall ddod â llawer o fuddion, megis gwella eich hyder, eich iechyd meddwl a'ch rhagolygon gyrfa. Gall dysgu Cymraeg hefyd gryfhau'ch cysylltiad â'ch plant a'ch cymuned.

Am fwy o wybodaeth am y cwrs, ewch i

Am fwy o wybodaeth am Ddechrau Deg, cysylltwch â Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd ״: 08000 32 33 39.

]]>
/cy/newyddion/teuluoedd-dechrau-deg-yn-dysgu-cymraeg-yng-nhwm/ /cy/newyddion/teuluoedd-dechrau-deg-yn-dysgu-cymraeg-yng-nhwm/ Tue, 26 Mar 2024 09:43:03 GMT Andy Hale
Cyngor yn cwblhau erlyniad llwyddiannus Cafodd Jessica Chilton, 29 oed o Frynithel, ei dedfrydu yn Llys Ynadon Casnewydd ar 22/03/24 ar ôl pledio'n euog ar 14/03/24 yn Llys Ynadon Cwmbrân i 7 trosedd o dan adran 92 Deddf Nodau Masnach 1994 yn ymwneud â gwerthu a hysbysebu nwyddau ffug.

Esboniodd yr erlynydd Hayley Hawkins wrth y Llys fod Gwasanaeth Safonau Masnach CBS ״ wedi ymchwilio i Chilton wedi i gŵyn gael ei derbyn ym mis Hydref 2022 yn honni ei bod yn gwerthu nwyddau ffug o'i thŷ a thrwy Facebook. Cadarnhaodd ymchwiliadau safonau masnach ei bod yn hysbysebu ac yn gwerthu amrywiaeth eang o nwyddau ffug trwy ei thudalen Facebook breifat a hefyd grŵp Facebook preifat o'r enw Affordable Brands 2. Roedd y nwyddau a hysbysebwyd yn cynnwys eitemau trydanol fel lampau a sythwyr gwallt yn ogystal â gemwaith, dillad a chlustffonau.

Dywedwyd wrth y Llys fod Chilton yn hysbysebu nwyddau ffug er iddi dderbyn ymweliad rhybuddio gan Safonau Masnach flwyddyn ynghynt pan ddaeth cwyn debyg i law, ac eglurwyd iddi, pe bai'n parhau i werthu, y byddai’n debygol o arwain at erlyniad.

Gweithredwyd gwarant ar 03/11/22 yng nghyfeiriad cartref Chilton lle cafwyd hyd i feintiau sylweddol o ddillad, esgidiau a bagiau llaw ffug yn barod i'w gwerthu i gwsmeriaid. Roedd y brandiau a atafaelwyd yn cynnwys treinyrs Nike, adidas a Balenciaga, crysau-t Under Armour a North Face, a bagiau llaw Gucci a Chanel.

Cafodd Ms Chilton ei chynrychioli gan Joe Davies o Driscoll Young Solicitors a honnodd fod Chilton wedi gweld cyfle ar Facebook fel ffordd o wneud arian, cynllun cyflym i helpu i gadw to uwch ei phen. Derbyniodd fod ffyrdd cyfreithlon eraill o ennill incwm ond nid oedd yn deall yn iawn y canlyniadau o werthu'r nwyddau hyn ar-lein.

Wrth ddedfrydu, dywedodd yr Ynadon fod gwerthu eitemau ffug yn cael ei gymryd o ddifrif pan wneir hynny er budd personol gan fod angen amddiffyn y cyhoedd a gweithgynhyrchwyr fel ei gilydd. Roeddent yn credu bod gan Ms Chilton rôl bwysig i'w chwarae wrth ddosbarthu eitemau a gweinyddu tudalen cyfryngau cymdeithasol Affordable Brands 2 er gwaethaf rhybudd gan y Cyngor 12 mis cyn hynny. Roedd difrifoldeb y troseddau’n bodloni’r trothwy ar gyfer carchar ond oherwydd cymeriad da blaenorol Ms Morgan a phle euog cynnar, byddai Ms Chilton yn destun gorchymyn cymunedol 12 mis o 160 awr o waith di-dâl. Cafodd orchymyn hefyd i dalu gordal dioddefwr o £114 a £3000 tuag at gostau’r ymchwiliad.

Mae gwerthu nwyddau ffug trwy wefannau fel Facebook yn creu cystadleuaeth annheg i fusnesau dilys ac yn achosi difrod i fusnesau deiliaid brandiau, gan arwain at golli swyddi yn y diwydiant. Gall llawer o nwyddau ffug fel persawr, gemwaith, eitemau trydan a theganau beri risg diogelwch i'r cyhoedd gan nad ydynt wedi cael y gwiriadau diogelwch manwl y mae cynhyrchion dilys yn destun iddynt yn ystod y broses weithgynhyrchu. Mae ymchwiliadau Safonau Masnach yn amddiffyn busnesau cyhoeddus a chyfreithlon trwy sicrhau bod y cynhyrchion ffug yn cael eu tynnu oddi ar safleoedd siopa a bod y gwerthwyr yn cael eu cosbi’n briodol.

]]>
/cy/newyddion/cyngor-yn-cwblhau-erlyniad-llwyddiannus/ /cy/newyddion/cyngor-yn-cwblhau-erlyniad-llwyddiannus/ Tue, 26 Mar 2024 10:03:41 GMT Andy Hale
Cyflogi plant – beth mae cyflogwr yn gyfrifol amdano? Mae’n Fis Ymwybyddiaeth Cyflogi Plant, ac mae Cyngor ״ yn atgoffa busnesau sy’n cyflogi plant rhwng 13 a 16 oed eu bod angen trwyddedau i gydymffurfio gyda chyfraith cyflogaeth.

Mae Deddf Plant 1933 ac is-gyfreithiau awdurdodau lleol yn llywodraethu cyflogi plant oedran ysgol i sicrhau y caiff gweithwyr ifanc eu diogelu, eu trin yn deg a’u bod yn gwybod am eu hawliau.

Mae awdurdodau lleol ar draws Prydain yn ystod mis Ebrill bob blwyddyn yn rhoi sylw i’r gyfraith yng nghyswllt plant o oedran ysgol gorfodol sy’n gweithio’n rhan-amser drwy: ddosbarthu posteri a thaflenni mewn llyfrgelloedd, canolfannau cymunedol a chanolfannau siopa; cyflwyniadau ac adnoddau ar gyfer ysgolion a mudiadau yn ogystal â chysylltu â chyflogwyr.

Yn ystod un Mis Cyflogi Plant ymwelwyd â 1394 o gyflogwyr ac allan o 1092 o blant y cawsant eu canfod yn gweithio, roedd 541 ohonynt yn cael eu cyflogi yn anghyfreithlon, yn bennaf heb y drwydded cyflogi (gwaith) angenrheidiol. Nid oedd y rhan fwyaf o gyflogwyr yn gwybod am y ddeddfwriaeth am gyflogi plant oedran ysgol ’r gofyniad cyfreithiol i gael trwydded.

Beth mae’r gyfraith yn ei ddweud?

Mae’r gyfraith yn caniatáu i berson ifanc gael eu cyflogi o 14 oed, ond gall awdurdodau lleol ganiatáu cyflogi person ifanc o 13 oed. Mae’r gyfraith yn nodi’r oriau a ganiateir, y mathau o gyflogaeth a’i gwneud yn hanfodol i gyflogwyr gael trwydded ar gyfer gweithwyr oedran ysgol. Mae’n cynnwys hawliau’r gweithiwr a chyfrifoldebau y cyflogwr. Mae cyflogwyr syn torri’r ddeddfwriaeth hon yn rhoi diogelwch pobl ifanc mewn risg a gallant wynebu dirwyon hyd at £1,000.

Mae’n ffaith drist fod yr 541 hynny (tua 38%) yn fwy tebygol, heb gael eu cynnwys o fewn unrhyw fath o yswiriant, pa bynnag bolisïau sydd gan y cyflogwr mewn grym.

Dywedodd y Gymdeithas Yswirwyr Prydain, lle mae cyflogwr yn torri cyfraith neu reoliad, byddai unrhyw ddigwyddiad fel arfer yn gwneud y polisi yswiriant yn annilys. Mae’n rhaid i gyflogwyr sicrhau eu bod wedi cyflawni’r holl ymrwymiadau cyfreithiol a hefyd yn gwybod am unrhyw risgiau ac unrhyw weithdrefnau diogelwch eraill angenrheidiol cyn y cyflogant blentyn.

Felly byddai torri unrhyw gyfraith statud neu reoleiddiad yn ymwneud â chyflogi plant oedran ysgol (ac mae dros 200 o gyfreithiau neu reoliadau o’r fath) yn gwneud y polisïau yswiriant a all fod gan y cyflogwr yn annilys.

  • Cafodd un disgybl oedran ysgol ei losgi’n ddifrifol iawn pan oedd yn gweithio mewn cegin. Roedd yn cael ei gyflogi’n anghyfreithlon ac nid oedd ganddo drwydded. Nid oedd yn dod o fewn yswiriant y cyflogwr ac felly ni chafodd unrhyw iawndal am ei anafiadau. Torrwyd nerfau a gewynnau llaw bachgen arall pan lithrodd a syrthio pan oedd yn dosbarthu llaeth. Roedd hefyd yn cael ei gyflogi’n anghyfreithlon a heb drwydded.

Anafiadau yn y gweithle:

Mae nifer y plant ’r bobl ifanc a gaiff eu hanafu bob blwyddyn yn y gweithle yn mynd heb ei adrodd i raddau helaeth, yn arbennig os cânt eu hanafu tra cânt eu cyflogi’n anghyfreithlon. Mewn blynyddoedd diweddar bu achosion o fachgen 15 oed yn colli bysedd ei law mewn peiriant gwneud selsig, collodd merch 14 oed flaenau ei bysedd mewn tafellwr llysiau, lladdwyd bachgen 13 oed pan oedd yn gwneud ei rownd bapurau a cafodd llaw bachgen 10 oed ei dal mewn gwasg argraffu ddiwydiannol.

Oriau Gwaith:

Canfuwyd fod plant 15 a 16 oed yn gweithio tan 2am a 3pm (yn casglu gwydrau mewn clwb nos ac yn gweithio mewn cadwyn bwyd cyflym). Gwelwyd fod llawer o blant yn dechrau gwaith rhwng 5.30am a 6.30am (yn dosbarthu papurau newydd). Bydd gweithio ar yr adegau hyn yn effeithio ar addysg y plentyn ac mae’n anghyfreithon.

Beth yw’r swyddi poblogaidd?

Yn ôl ymchwil, “rownd bapur yw’r swydd fwyaf poblogaidd ar gyfer bron hanner y plant (43%), a dilynir hynny gan weithio mewn siop (18%)”. Swyddi poblogaidd eraill yw: gweini ar fyrddau a/neu olchi llestri mewn caffes a bwytai; gweithio mewn salonau trin gwallt.

Pa fathau o swyddi na all plant eu wneud?

Gweithio mewn cegin, mewn garej, ar safle adeiladu, mewn ffatri, mewn gwerthiant ffôn a gwerthu alcohol heb oruchwyliaeth.

Mae tua 200 o ddeddfau a rheoliadau ar gyflogi plant.

Mae rhai ohonynt bron yn 100 oed. Gellir erlyn a dirwyo cyflogwyr sy’n torri’r rheoliadau.

]]>
/cy/newyddion/cyflogi-plant-beth-mae-cyflogwr-yn-gyfrifol-amdano/ /cy/newyddion/cyflogi-plant-beth-mae-cyflogwr-yn-gyfrifol-amdano/ Thu, 04 Apr 2024 12:11:33 GMT Andy Hale
Murlun Graffiti Pobl Ifanc i Fynd i’r Afael ag Ymddygiad Gwrthgymdeithasol ym Mlaenau Gwent Fel rhan o dasglu newydd a sefydlwyd i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, mae Gwasanaeth Ieuenctid ״ wedi cynnal prosiect ar gyfer pedwar o bobl ifanc i greu murlun gwaith celf graffiti yn y maes parcio aml-lawr newydd ar hen safle’r gwaith dur yng Nglynebwy. Nod y prosiect hwn yw lleihau ymddygiad gwrthgymdeithasol yn yr ardal ac atal fandaliaeth, gan anelu at roi parch newydd i bobl ifanc at eu cymuned.

Gwyliwch

Credyd: BH Productions, Alexander Gold

Dros nifer o sesiynau, bu pedwar person ifanc sy’n gweithio ar hyn o bryd gyda staff y gwasanaeth ieuenctid yng Nghymuned Ddysgu Ebwy Fawr yn gyfrifol am benderfynu a chreu cysyniad ar gyfer darn o waith celf graffiti i’w gynnwys ar wal yn y maes parcio cyfagos. Gan gymryd ysbrydoliaeth o safle’r hen waith dur, penderfynodd y bobl ifanc ar thema hanes lleol a chymuned, gan gynnwys yr hen felin ddur integredig, mwyngloddio, rygbi, a mwy. Trosglwyddwyd syniadau ac ysbrydoliaeth i artist lleol, Anthony Smith, i’w gynorthwyo wrth ddylunio a chreu’r gwaith.

Dros gyfnod o ddau ddiwrnod, gweithiodd y bobl ifanc yn galed i adeiladu eu murlun, gan ddefnyddio stensiliau, paent chwistrell, a thechnegau llaw rydd.

Credyd: Alexander Gold

Dywedodd y bobl ifanc eu bod yn teimlo bod y prosiect wedi bod o fudd iddynt mewn amrywiol ffyrdd:

“Mae’r prosiect hwn wedi fy helpu i reoli fy dicter; dydw i ddim yn mynd i drwbl cymaint y tu allan i’r ysgol ac rydw i wedi dysgu sgìl newydd.”

“Mae wedi fy helpu i wella fy hyder.”

“Rwyf wedi mwynhau helpu’r gymuned ac roedd yn llawer o hwyl i’w wneud.”

Hoffem ddiolch yn bersonol i’r bobl ifanc am eu hamser a’u hymdrech wrth greu’r murlun, ynghyd â staff y gwasanaeth ieuenctid, Josh Bowen a Lauren Dobbs, am eu cefnogaeth a’u hymroddiad i’r prosiect. Wrth symud ymlaen, nod Gwasanaeth Ieuenctid ״ yw rhedeg yr un prosiect ar draws sawl ardal yn y fwrdeistref, gan annog pobl ifanc i gymryd balchder a chyfrifoldeb yn eu cymuned.


Credyd: Alexander Gold

Mae Gwasanaeth Ieuenctid ״ yn rhan o dasglu newydd rhwng Cyngor ״, Heddlu Gwent, a Chartrefi Cymunedol Tai Calon. Mae’r tasglu’n gweithio ar y cyd, gan gymryd y camau tuag at leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ein cymunedau.

Mae ymddygiad gwrthgymdeithasol yn unrhyw ymddygiad sy’n achosi neu’n debygol o achosi aflonyddwch, braw neu drallod i un neu fwy o bobl. Gall gynnwys niwsans sŵn, fandaliaeth, sbwriel, tipio anghyfreithlon, delio cyffuriau, brawychu, aflonyddu a throseddau casineb. Gall ymddygiad gwrthgymdeithasol effeithio ar ansawdd bywyd unigolion a chymunedau a chreu ymdeimlad o ofn ac ansicrwydd.

]]>
/cy/newyddion/murlun-graffiti-pobl-ifanc-i-fynd-i-r-afael-ag-ymddygiad-gwrthgymdeithasol-ym-mlaenau-gwent/ /cy/newyddion/murlun-graffiti-pobl-ifanc-i-fynd-i-r-afael-ag-ymddygiad-gwrthgymdeithasol-ym-mlaenau-gwent/ Fri, 12 Apr 2024 08:54:12 GMT Andy Hale
Ysgol Gynradd Willowtown phrosiect ‘Big Bocs Bwyd’. Nod Ysgol Gynradd Willowtown oedd cefnogi teuluoedd a thrigolion y gymuned trwy ei phrosiect ‘Big Bocs Bwyd’.

Mae BBB yn gynhwysydd a ddefnyddir i gludo nwyddau ar long ac mae wedi cael ei drawsnewid yn Siop Gymunedol fach a chroesawgar. Staff yr ysgol, cenhadon ifainc sy’n ddisgyblion yn yr ysgol a rhieni a gofalwyr sy’n gwirfoddoli, sy’n rhedeg y siop.

Mae’r BBB ar agor ddwywaith yr wythnos ac mae’n gweithredu ar fodel ‘Talwch Beth Fynnwch Chi’ sy’n golygu bod cwsmeriaid yn talu faint allan nhw ei fforddio a bod y prosiect hefyd yn lleihau rhagfarn ac yn cefnogi cynaliadwyedd.

Prif nodau’r ysgol oedd:
• Lleihau Tlodi Bwyd
• Cadw Gwastraff Bwyd i Leiafswm
• Cefnogi teuluoedd ’r gymuned ehangach
• Creu ryseitiau iach a maethlon sy’n ysbrydoli teuluoedd i goginio ac i fwynhau gyda’i gilydd
• Hyrwyddo cynhwysiant ac ymwybyddiaeth ddiwylliannol ac ysbrydoli cyfranogiad.

Llwyddodd Ysgol Gynradd Willowtown i gael cyllid trwy grant Cydlyniant Cymunedol sydd wedi cefnogi’r prosiect BBB i dyfu ac i ffynnu. Gyda chymorth y nawdd hwn, mae’r ysgol wedi cael effaith ar deuluoedd mewn mwy nag un ffordd, trwy ddarparu bwyd maethlon i’w brynu, cardiau rysáit a gweithdai coginio a oedd hefyd yn cynnwys bag o fwyd i deuluoedd fynd adref ag ef er mwyn iddynt deimlo’n hyderus ac yn gyffyrddus yn coginio’r rysáit gartref.

Fe fu rhieni’n gwirfoddoli i gyflwyno’r gweithdai coginio ac mae’r rhieni hyn wedi cwblhau Tystysgrif Hylendid Bwyd Lefel 2. Cefnogwyd hyn hefyd trwy’r grant ’r ysgol. Mae hyn wedi cael effaith gadarnhaol ar eu sgiliau gwaith ar gyfer y dyfodol ac wedi lleihau’r rhwystrau sy’n atal rhieni rhag trafod dewisiadau iachach ar gyfer prydau bwyd.

Mae mam-gus a thad-cus llawer o ddisgyblion hefyd wedi cael cefnogaeth gan y prosiect trwy fynd i siopa mewn archfarchnad leol bob wythnos gyda staff. Yn sgil hyn mae’r ysgol wedi gallu adnabod patrymau siopa a chynnig opsiynau iachach eraill sy’n gost-effeithiol.

Mae’r ysgol yn falch o’i hamrywiaeth a thrwy’r prosiect hwn mae wedi gallu rhannu a chynnig amrywiaeth o opsiynau bwyd ar wahân i brydau Prydeinig.

Meddai Rebecca Hughes, Swyddog Ymgysylltiad Teuluol a Dysgu, ‘Rwy’n teimlo bod y prosiect wedi cael ei sefydlu’n gadarn yn ein Cymuned leol a’i fod yn parhau i adeiladu ar yr hyn sydd wedi cael ei sefydlu’n barod, ac wedi gosod targedau ar gyfer y dyfodol a’u cyflawni. Mae wedi bod yn gymorth i chwalu rhwystrau a rhagfarn ac wedi annog cynhwysiant, amrywiaeth ac empathi yng Nghymuned yr Ysgol. Mae hefyd wedi cynnig cymorth hanfodol wrth ymgysylltu â rhieni ac aelodau o deuluoedd ac wedi fy ngalluogi i ddangos y ffordd at adnoddau cymunedol eraill sy’n rhad ac am ddim ac i weithio’n fwy mewn partneriaeth’.

Erbyn hyn mae’r prosiect wedi ehangu i greu rhandir ar gyfer yr ysgol ac mae gwirfoddolwr, Mr Kettle, wedi dechrau clirio lle ac adeiladu gwelyau uchel ac wedi gweithio gyda Grŵp Senedd Eco’r ysgol i ddatblygu cynllun gweithredu ar gyfer Gwanwyn 2024.

]]>
/cy/newyddion/ysgol-gynradd-willowtown-phrosiect-big-bocs-bwyd/ /cy/newyddion/ysgol-gynradd-willowtown-phrosiect-big-bocs-bwyd/ Fri, 12 Apr 2024 10:12:15 GMT Andy Hale
Dysgwr Cymraeg lleol yn gwneud gwahaniaeth Mae Sarah Merton, cynorthwyydd yn llyfrgell Abertillery, wedi bod yn gweithio'n galed i annog y Gymraeg ym Mlaenau Gwent. Siaradwyd â Sarah a gofynnwyd iddi rannu ei hanes o ddysgu iaith newydd.

Ar ôl gweld pwysigrwydd iaith a diwylliant yn Ffrainc yn ystod ei thaith yn gwylio’r Ewros yn 2016, penderfynodd Sarah ddysgu Cymraeg. Ymunodd â cynllun yn 2017.

Ar ôl gorffen pob lefel cwrs o Ddysgu Cymraeg, derbyniodd Sarah wobr Dysgwr Newydd y Flwyddyn gan y llynedd. “ Roedd fy nhiwtor yn anhygoel ac wedi fy helpu'n fawr” . Nawr mae Sarah hefyd yn gweithio fel tiwtor i'r Dysgu Cymraeg ac yn gweithio’r ddwy swydd rhan-amser.

Dechreuodd Sarah grŵp ar gyfer dysgwyr Cymraeg yn yr ardal yn llyfrgell Abertillery flwyddyn yn ôl. Mae'n rhedeg bob dydd Mercher rhwng 2 a 3.30yp ac mae'n croesawu pob lefel o Gymraeg.

Mae Sarah yn disgrifio'r grŵp fel, "yn anffurfiol iawn ac yn hamddenol, rydym yn cael paned ac yn sgwrsio, mae'n bleser cefnogi dysgwyr a'u helpu i adeiladu hyder, roedd Abertillery yn gymuned sy'n siarad Cymraeg felly bob wythnos rydym yn anelu at gydweithio i adennill ein mamiaith".

Mae Sarah yn mynd ymlaen i ddweud eu bod am drefnu bws i fynd i'r ym Mhontypridd eleni a hefyd sefydlu mwy o ddigwyddiadau yn yr ardal. Mae'r grŵp hefyd yn parhau i helpu aelodau newydd sy'n gwneud yr arholiadau Dysgu Cymraeg ym mis Mehefin.

Dywedodd Bethan Lawrence, Cynorthwyydd Llyfrgell Ymchwil, Llyfrgelloedd ״: "Pan oeddwn i yn yr ysgol, roedd y Gymraeg yn un o'r pynciau eraill i'w gymryd ac nid oeddwn yn awyddus i ddysgu'r iaith, er fy mod yn falch o fod yn Gymreig a'm treftadaeth. Dim ond pan oeddwn yn fy 30au fy hun y darganfyddai fod gen i gysylltiadau cryf â'm hynafiaid Cymraeg, a dechreuais weithio ar wella fy sgiliau Cymraeg a dysgu, yn gobeithio parchu fy mhreiddiau. Mae hyn yn rhywbeth rydw i wedi bod yn angerddol am ei gynnwys yn fy rôl i lyfrgelloedd ״".

Bwriad gwasanaeth llyfrgelloedd ״ yw ceisio cynnig mwy o ddigwyddiadau a gweithgareddau sy'n canolbwyntio ar y Gymraeg. Mae ganddyn nhw eisoes grŵp Cymraeg neu "Clwb Cymraeg" ar ddydd Mercher ar safle Abertillery, ac yn yr un man yn fuan bydd (Grŵp Chwarae Cymreig) gyda phartneriaid blynyddoedd cynnar, . Bydd y grŵp hwn ar gyfer plant dan oed ysgol i chwarae, canu, creftiau a mwynhau eu hunain mewn amgylchedd hamddenol, cyfeillgar a ddiogel. Nid oes angen i chi siarad Cymraeg gan fod yr holl weithgareddau'n ddwyieithog a bydd yn helpu i symud i'r Cylch Meithrin ac i addysg Gymraeg. Mi fydd darpariaeth ysgol newydd Tredegar, sydd yn barod wedi'i leoli yn dŷ Bedwellty, mi fydd y plant yn gallu symud i Ysgol Gymraeg Tredegar newydd pan fydd yn agor yn y gwanwyn blwyddyn nesaf.

Gorffennodd Sarah trwy ddweud "Rydym wedi bod yn ehangu ein llyfrau Cymraeg ar gyfer plant ac oedolion, sy'n cynnwys y gyfres i ddysgwyr oedolion "” Wrth i fwy o bobl â diddordeb yn yr iaith Gymraeg ar draws y fwrdeistref a mwy o ysgolion Cymraeg yn cael eu sefydlu yn yr ardal, rwy'n edrych ymlaen at y dyfodol a sut gall gwasanaethau llyfrgell helpu i dyfu siaradwyr Cymraeg ym Mlaenau Gwent.

Mae grŵp arall o ddysgwyr yn yr ardal, yn cwrdd ym Marc Bryn Bach ar fore dydd Mercher rhwng 10-12yb gyda grwpiau arall ar draws y Cwm wedi eu trefnu gan a Dysgu Cymraeg.

Am fwy o wybodaeth am lyfrgelloedd Aneurin Leisure neu yr hyn sydd yn y darn yma, ym Mlaenau Gwent: Ewch i neu defnyddiwch y lincs yn y dogfen.

]]>
/cy/newyddion/dysgwr-cymraeg-lleol-yn-gwneud-gwahaniaeth/ /cy/newyddion/dysgwr-cymraeg-lleol-yn-gwneud-gwahaniaeth/ Wed, 01 May 2024 09:05:06 GMT Andy Hale
Stryd yng Nglynebwy yn cael ei henwi ar ôl gweithiwr dur 'ysbrydoledig' a gollodd ei freichiau mewn damwain dros 100 mlynedd yn ôl Bydd ffordd yng Nglynebwy yn cael ei henwi'n swyddogol ar ôl gweithiwr dur a oresgynnodd adfyd a dod yn adnabyddus yn lleol ar ôl colli ei ddwy fraich mewn damwain yn y gwaith brics yn ddim ond 14 oed.

Dadorchuddiwyd arwyddion ffyrdd newydd heddiw i enwi 'Ffordd Billy Collins’ yn swyddogol, y tu cefn i’r Swyddfeydd Cyffredinol yng Nglynebwy.

Datgelwyd stori Billy gan fyfyriwr Ôl-16 yn Ysgol Pen-y-Cwm, Ciaran Mitchel-Neal, pan ddechreuodd brofiad gwaith gydag Amgueddfa Gweithfeydd Glynebwy yn y Swyddfeydd Cyffredinol. Cafodd Ciaran ei ysbrydoli gan Billy a wnaeth, er gwaethaf y ddamwain a newidiodd ei fywyd, enw iddo'i hun ar lwyfan y Neuadd Gerdd, gan berfformio gweithgareddau 'bob dydd' dan yr enw 'Billy the Armless Wonder'. Gallai Billy gau botymau ei grys gyda bysedd ei draed, chwarae’r piano gyda'i drwyn a pheintio gan ddal brwsh yn ei geg!

Roedd Billy yn benderfynol o gefnogi pobl mewn adfyd a oedd wedi dioddef anableddau tebyg i'w rai ef, a rhoddodd ei amser i ysgrifennu at a chefnogi llawer o bobl, o filwyr clwyfedig yn dychwelyd o ryfel i ddioddefwyr thalidomide. Roedd hefyd yn helpu i godi arian i elusennau.

Yn dilyn y ddamwain, parhaodd i weithio yn y gwaith dur fel Clerc. Bu farw yn 1969, yn 67 oed.

Aeth Ciaran ymlaen i wneud ffilm ac arddangosfa am Billy a'i ddymuniad oedd cael cofeb barhaol i'r dyn rhyfeddol hwn a oresgynnodd gymaint yn ei fywyd ac a aeth ymlaen i fod yn esiampl ysbrydoledig i'r gymuned leol a thu hwnt, yn enwedig y rhai sy'n wynebu adfyd.

Heddiw, cyflawnodd ei nod gydag enwi'r stryd.

Meddai Ciaran:

"Pan ddechreuais i'r prosiect hwn, doeddwn i ddim yn gwybod ei fod yn mynd i fod mor fawr â hyn, felly hoffwn ddiolch yn fawr iawn i Gyngor ״, teulu Billy Collins a phawb a helpodd o’m hysgol a'r amgueddfa."

Dywedodd y Cyng Sue Edmunds, Aelod Cabinet Cyngor ״ dros Bobl ac Addysg:

"Mae'n dda cofio'r bobl hynny sy'n cyflawni llawer yn wyneb adfyd. Pobl sydd â chalon garedig a hael ac ewyllys i oresgyn y rhwystrau sy'n cael eu rhoi o'u blaenau. Yn anad dim, i gefnogi'r rhai sy'n wynebu anawsterau yn eu bywyd bob dydd sy'n ymddangos fel mynyddoedd.

"Rydym yn ddiolchgar i Ciaran am fynd ar drywydd stori Billy gydag ymchwil ymroddedig a dyfalbarhad ac mae Cyngor ״ yn falch o'i gofio trwy enwi'r ffordd hon er cof amdano. Rwy'n siŵr bod ei deulu yn ddiolchgar iawn am dy ymdrechion. Gobeithio y bydd pawb sy'n gyrru neu gerdded ar hyd y ffordd yn dysgu am ei gyflawniadau rhyfeddol ac yn cael eu hysbrydoli."

Mwy am Amgueddfa Gweithfeydd Glynebwy yma.

]]>
/cy/newyddion/stryd-yng-nglynebwy-yn-cael-ei-henwi-ar-ol-gweithiwr-dur-ysbrydoledig-a-gollodd-ei-freichiau-mewn-damwain-dros-100-mlynedd-yn-ol/ /cy/newyddion/stryd-yng-nglynebwy-yn-cael-ei-henwi-ar-ol-gweithiwr-dur-ysbrydoledig-a-gollodd-ei-freichiau-mewn-damwain-dros-100-mlynedd-yn-ol/ Wed, 15 May 2024 12:33:33 GMT Louise Bishop
Hyfforddiant ‘Dewisiadau Dewr’ a ‘Lleihau Trais’ i Ddysgwyr Ifanc ym Mlaenau Gwent

Gall ymddygiad gwrthgymdeithasol effeithio ar ansawdd bywyd unigolion a chymunedau, gan greu ymdeimlad o ofn ac ansicrwydd a all arwain at droseddau mwy difrifol. Fel rhan o dasglu sydd newydd ei ffurfio sy’n ymroddedig i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, mae Gwasanaeth Ieuenctid ac Adran Addysg ״ wedi cymryd camau rhagweithiol i addysgu a grymuso pobl ifanc yn y gymuned trwy gyflwyno hyfforddiant ymwybyddiaeth o arfau i grŵp o ddysgwyr ifanc.

Mewn partneriaeth â Media Academy Cymru, trefnwyd gweithdai ‘Dewisiadau Dewr’ ganddynt, a gyflwynwyd ar draws canolfannau ieuenctid ac ysgolion ym Mlaenau Gwent ar 16 a 17 Ebrill. Nod y gweithdai hyn oedd codi ymwybyddiaeth ymhlith pobl ifanc am beryglon a chanlyniadau cario arfau, yn enwedig cyllyll. Roedd y sesiynau’n canolbwyntio ar yr effaith ar deuluoedd a ffrindiau ac yn helpu i godi ymwybyddiaeth am gyfreithiau perthnasol mewn perthynas ag eitemau llafnog ac arfau bygythiol.

Hefyd gwnaeth Gwasanaeth Ieuenctid ac Adran Addysg ״ gofrestru dysgwyr ifanc ar ‘Raglen Lleihau Trais’ StreetDoctors, sy’n cyflwyno sesiynau hyfforddiant cymorth cyntaf brys i bobl ifanc yr effeithir arnynt gan drais. Nod y fenter hon yw rhoi gwybodaeth i bobl ifanc a allai achub bywydau mewn sefyllfaoedd brys.


Dysgodd y bobl ifanc sut i ddelio â gwaedu trwy weld enghreifftiau ymarferol a gofyn cwestiynau a thrwy ddysgu am y wyddoniaeth y tu ôl i golli gwaed, a oedd yn egluro rhai camsyniadau cyffredin. Dysgodd y bobl ifanc hefyd sut i roi cymorth cyntaf i rywun sy’n anymwybodol, sut i’w roi yn yr ystum adfer, a sut i berfformio cywasgiadau ar y frest. Yna rhoddwyd y sgiliau newydd hyn ar waith trwy actio senarios i atgyfnerthu eu dysgu.

Mae Gwasanaeth Ieuenctid ״ yn rhan annatod o dasglu cydweithredol newydd sy’n cynnwys Cyngor ״, Heddlu Gwent a Chartrefi Cymunedol Tai Calon. Gyda’i gilydd maent yn gweithio tuag at y nod cyffredin o leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ein cymunedau.

Dywedodd Martyn Smith, Arweinydd Trais Difrifol Gwent:

“Mae’r gwaith y mae Gwasanaeth Ieuenctid ac Adran Addysg ״ yn ei wneud i leihau trais yn y gymuned trwy raglenni arloesol fel y rhai a ddarperir gan StreetDoctors wedi gwneud argraff fawr arnaf. Mae’r fenter hon, a gefnogir gan y Comisiynydd Heddlu a Throseddu, wedi darparu hyfforddiant cymorth cyntaf i bobl ifanc yr effeithir arnynt gan drais, gan roi’r sgiliau ymarferol ’r hyder iddynt helpu eu hunain ac eraill mewn angen. Drwy gydweithio mewn partneriaeth fel rhan o’r Ddyletswydd Trais Difrifol, rydym wedi ymrwymo i leihau trais ieuenctid a gwneud ein cymunedau’n fwy diogel i bawb.”

Mae ymddygiad gwrthgymdeithasol yn cwmpasu unrhyw ymddygiad sy’n achosi neu’n debygol o achosi aflonyddwch, braw neu drallod i un neu fwy o bobl. Gall gynnwys niwsans sŵn, fandaliaeth, sbwriel, tipio anghyfreithlon, delio cyffuriau, bygwth, aflonyddu a throseddau casineb. Gall ymddygiad gwrthgymdeithasol effeithio ar ansawdd bywyd unigolion a chymunedau a chreu ymdeimlad o ofn ac ansicrwydd.

Os oes gennych ddiddordeb mewn dysgu mwy am ein hymdrechion i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, rydym yn eich annog i fynychu ein digwyddiad Siarad Gyda’n Gilydd yn Stryd Fawr, Blaenau, ar 21 Mai rhwng 5pm a 7pm. Bydd y digwyddiad hwn yn gyfle i glywed am y camau yr ydym yn eu cymryd a chael gwybod am sut i adrodd am ddigwyddiadau, ac i’ch llais gael ei glywed wrth lunio ein hymateb ar y cyd i ymddygiad gwrthgymdeithasol.


I gael rhagor o wybodaeth am ymddygiad gwrthgymdeithasol a sut i roi gwybod amdano, gallwch ymweld â’n gwefan drwy ddilyn y ddolen yma: Ymddygiad Gwrthgymdeithasol | Cyngor Bwrdeistref Sirol ״ (blaenau-gwent.gov.uk)

]]>
/cy/newyddion/hyfforddiant-dewisiadau-dewr-a-lleihau-trais-i-ddysgwyr-ifanc-ym-mlaenau-gwent/ /cy/newyddion/hyfforddiant-dewisiadau-dewr-a-lleihau-trais-i-ddysgwyr-ifanc-ym-mlaenau-gwent/ Mon, 20 May 2024 08:21:07 GMT Carolyn Jenkins
Dennis y cerbyd sbwriel yn ymweld ag Ysgolion ״ i helpu plant ysgol i ddysgu am wastraff ac ailgylchu Bydd Dennis y cerbyd casglu sbwriel (RCV) yn edrych yn gyfarwydd iawn o'r tu allan – mae’n edrych fel lori casglu gwastraff arferol.  Fodd bynnag, mae'r lori’n agor i ddatgelu lle i tua 15 o blant gymryd rhan mewn gwersi, gyda sgriniau teledu a byrddau gwyn yn ychwanegu ymhellach at y naws ystafell ddosbarth. 

Bydd y cerbyd canolfan addysg symudol hwn yn ymweld ag ysgolion ״ i addysgu plant am wastraff ac ailgylchu, newid hinsawdd, cynaliadwyedd a llawer o bynciau eraill sy'n ymwneud â materion amgylcheddol allweddol.

Cadwch lygad am Dennis yr RCV yr wythnos hon – allwch chi ddim methu’r lluniau llachar sy'n addurno'r tu allan. Bydd yn ymweld â'r ysgolion canlynol:

Mehefin 2024
•    Dydd Mawrth 11eg - Campws Tillery Street, Abertyleri
•    Dydd Mercher 12fed - Ysgol Gynradd Willowtown, Glynebwy
•    Dydd Iau 13eg - Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru y Santes Fair, Brynmawr
•    Dydd Gwener 14eg - Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru y Santes Fair, Brynmawr
•    Dydd Llun 17eg – Ysgol Gynradd Blaen y Cwm, Brynmawr
•    Dydd Mawrth 18fed - Ysgol Gynradd Blaen y Cwm, Brynmawr
•    Dydd Mercher 19eg - Campws Tillery Street, Abertyleri
•    Dydd Iau 20fed - Ysgol Gynradd Beaufort Hill, Glynebwy
•    Dydd Gwener 21ain - Ysgol Gynradd Beaufort Hill, Glynebwy

 
Cadwch lygad am Dennis y Cerbyd Casglu a fydd yn ymweld â rhai o'n hysgolion yn y fwrdeistref. 
]]>
/cy/newyddion/dennis-y-cerbyd-sbwriel-yn-ymweld-ag-ysgolion-blaenau-gwent-i-helpu-plant-ysgol-i-ddysgu-am-wastraff-ac-ailgylchu/ /cy/newyddion/dennis-y-cerbyd-sbwriel-yn-ymweld-ag-ysgolion-blaenau-gwent-i-helpu-plant-ysgol-i-ddysgu-am-wastraff-ac-ailgylchu/ Mon, 10 Jun 2024 13:46:19 GMT Alan Powell
Grŵp plant bach newydd yn paratoi'r ffordd ar gyfer y Gymraeg yn llyfrgell Abertyleri Agorwyd grŵp Ti a Fi Cymraeg newydd yn llyfrgell Abertyleri, sy'n gynnig sesiynau am ddim bob dydd Iau, 10-11:00yb. Nid oes rhaid i chi fod ag unrhyw sgiliau Cymraeg o'r blaen i fynychu, mae pawb yn cael eu hannog i ddod ac ymuno â'r hwyl!

 

Sefydlwyd Louise Wilkins o Ebbw Vale grŵp newydd yn y llyfrgell, i'r holl bobl bach a'u teuluoedd yn yr ardal, darllenwch ymlaen i glywed am sut y mae’r teulu Wilkins wedi elwa o dderbyn yr iaith a sut y gallwch chi elwa o fynychu'r sesiynau Ti a Fi eich hun.

Penderfynodd Louise Wilkins a'i gŵr Mark, hyd yn oed cyn iddynt gael plant, y byddai'r plant yn mwynhau manteision yr iaith Gymraeg. Roedd y ddau yn frwd iawn am yr iaith ond roedd yn teimlo cywilydd nad oeddent yn gallu siarad Cymraeg eu hunain. Yn y pen draw cafodd y cwpl tripledi a'u hanfonodd i Ysgol Gymraeg Brynmawr, yr unig brif ysgol Gymraeg ar y pryd. Fel yr oedd eu rhieni'n disgwyl, roedd y plant yn dysgu'r iaith ar unwaith ac yn darganfod bod y profiad cyfan yn ymdrech ffyniannus. Newidiodd adeilad yr ysgol yn ei ddwy flynedd olaf  i Ysgol Gymraeg Bro Helyg gyda’i agoriad. Roedd y tripledi yn rhan o'r grŵp cyntaf o blant blwyddyn 4 i fynychu'r ysgol newydd fodern ac yn parhau i ffynnu.

Gwirfoddolodd Louise trwy gydol amser ysgol y tripledi, yn helpu gyda digwyddiadau ysgol, daeth hefyd yn fenyw cinio. Pan ddaeth am swydd wirfoddolwr yn y grŵp rhieni a phlant bach, roedd Louise yn ymgeisydd perffaith gyda'i angerdd mawr am yr iaith, o ran datblygu gallu'r plant ond hefyd ei gallu ei hun. Datblygodd y cyfnod gwirfoddol hwn yn swyddogol gyda Mudiad Meithrin fel swyddog Ti a Fi ar gyfer ״ a Torfaen.

Ei rôl newydd gyda Mudiad Meithrin oedd sefydlu a goruchwylio grwpiau chwarae cyn-ysgol Cymraeg, rhoddodd hyn gyfle i Louise rannu ei phrofiad gyda rhieni eraill a allai fod yn meddwl am addysg Gymraeg i'w phlant ond efallai'n nerfus nad ydynt yn gallu sgwrsio'n rhugl eu hunain. Mae cael y profiad uniongyrchol hwn o gael plant mewn addysg Gymraeg tra nad oedd yn gallu siarad yr iaith ei hun yn golygu ei bod yn gallu darparu gwybodaeth onest am y broses. Y prif bryderon a godir wrth drafod anfon eich plant i ysgol yng Nghymru yw am anfantais rhieni i gefnogi eu plant gyda'u gwaith cartref a'u datblygiad addysgol. Fel y gall Louise gystadlu, mae addysg cyfrwng Cymraeg yn cynhyrchu mwy o ddysgwyr annibynnol gyda sgiliau datrys problemau uwch sy'n golygu nad oedd angen i rieni'r tri ddarparu llawer o help gyda gwaith cartref. Ar yr achosion prin roedd Louise a Mark angen help gyda gwaith, fe wnaethant ddefnyddio'r llyfrau oedd ar gael iddynt. Wrth gwrs, y dyddiau hyn gyda datblygiadau mewn technoleg, heb sôn am ymdrechion ein haddysgwyr cyfrwng Cymraeg i wneud pob adnoddau'n ddwyieithog a chynnig cymorth ychwanegol i rieni sy'n rhoi addysg Gymraeg i'w phlant.

Ar ôl i bennod ysgol gynradd lwyddiannus ddod i ben, aeth y triawd i Ysgol Gyfun Gwynllyw ym Mhontypool, sef yr ysgol gynhwysfawr agosaf i blant ״. Poenodd Louise a Mark am y daith bws, ond roedd y plant yn mynd yn hyderus i'r bws gyda hen a llawer o gyfeillion newydd a wnaethant o bob cefndir. Roedd eu cylchoedd cymdeithasol yn tyfu a gyda digwyddiadau ledled Cymru. Maent yn ymuno â'r Urdd, yn perfformio, ac yn ymweld ag Eisteddfodau, pethau nad oeddent erioed wedi clywed amdanynt cyn i'r plant ddechrau ysgol, ond roedden nhw'n eu caru ac yn mynd bob blwyddyn. Chwaraewyd y merched pêl-rwyd ar gyfer eu hysgol, daeth Ella yn bennaeth y flwyddyn a chwaraeodd Ethan bêl-droed â llawer o weithgareddau eraill a wnaed trwy gyfrwng y Gymraeg.

Ar ôl iddynt gyrraedd oedran TGAU, roedd y tri yn gwneud yn dda iawn ac yn parhau i gael graddau lefel A, ac ymlaen i'r brifysgol. Credodd Louise mae'r llwyddiant achos y datblygiadau ymhellach i'w addysg ddwyieithog. Mae Ella wedi teithio'r byd yn astudio ieithyddiaeth, mae bellach yn siarad Cymraeg, Saesneg, Ffrangeg, Almaeneg a Sbaeneg ac mae wedi dechrau gweithio yn ddiweddar fel dehonglydd ar gyfer y GIG.

yn cwblhau ei blwyddyn olaf o'i PGCE i ddod yn athro ysgol gynradd ac mae'n gobeithio gweithio yn yr ysgol gynradd newydd yn Nhredegar. Ac mae gyrfa Ethan fel peiriannydd awyrennau hefyd wedi cael ei wella gan ei allu i siarad Cymraeg gan ei fod yn gallu sgwrsio yn Gymraeg â phartneriaid y cwmni.

Yn fwy na dim, mae’r teulu Wilkins, dan arweiniad angerdd a nod clir Louise i gadw'r iaith yn fyw ac yn ffynnu, wedi cyfoethogi eu bywydau. Gydag agoriad y Cylch Ti a Fi newydd yn Abertyleri, mae Louise yn gyffrous i barhau i ledaenu'r neges am fanteision cyflwyno'r iaith i fywyd eich plant yn gynnar.

"Mae ganddyn nhw gymaint mwy o gyfleoedd y dyddiau hyn” esboniodd Louise,  "gallwch ddechrau trwy ymweld â Ti a Fi,  grŵp chwarae plant bach, gallwch ddysgu Cymraeg gyda'r Clwb Cwtsh, cwrs iaith y flwyddyn gynnar, rydym yn cynnal sesiynau Cymraeg i Blant - yoga babi, amser stori a chan, yn ogystal â'r nifer o apiau a chyrsiau ar-lein sydd ar gael"

 "Nid wyf yn difaru rhoi fy mhlant i'r Gymraeg 23 mlynedd yn ôl, mae wedi rhoi cymaint o gyfleoedd iddynt oherwydd hynny ac mae hyn wedi cael effaith gadarnhaol ar eu bywydau i gyd. Wrth siarad â fy mhlant maent yn credu ein bod ni wedi gwneud y penderfyniad cywir a byddant yn rhoi plant eu hunain trwy'r ffrwd addysg Cymraeg hefyd; rhoddwyd llawer mwy o gyfleoedd iddynt oherwydd hynny."

Mae Louise bellach yn rhedeg sawl Ti a Fi ar draws gwahanol fwrdeistrefi. Prif nod y Ti a Fi newydd yn Abertyleri yw ymgysylltu â theuluoedd ar rai sydd yn, gan roi cyflwyniad a dealltwriaeth iddynt o'r iaith a'r addysg Gymraeg. Bydd y grŵp hwn yn bwydo i'r Cylch Meithrin yn Brynithel sy'n bwydo i'r ddwy ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg ym Mlaenau Gwent, Ysgol Gymraeg Bro Helyg ac Ysgol Gymraeg Tredegar.

Mae'r grŵp yn ffordd hwyl a hawdd o gael eich cyflwyno i'r iaith. Mae'r grŵp yn rhedeg bore dydd Iau yn llyfrgell Abertyleri, bydd croeso cynnes i bawb. Mae ganddyn nhw sesiwn chwarae, dawnsio, canu a llawer o grefftau i'ch cadw chi a'r rhai bach yn brysur. Mae'n gyfle gwych i ddysgu rhywfaint o'r iaith eich hun mewn amgylchedd hamddenol. Rydym yn gwarantu y byddwch yn canu'r caneuon Cymraeg gyda'ch plant bach mewn dim amser.

Mae Louise yn dal i ystyried ei hun yn ddysgwr ac felly mae'n gwneud y sesiynau'n hygyrch i bawb. Mae ei grwpiau'n gynnes ac yn groesawgar, ac mae ganddi ffynhonnell o wybodaeth am yr ardal ac am y camau nesaf ar daith addysgol eich plentyn.

Dewch draw bore Iau 10-11yb yn ystod yr amser tymor, ar gyfer sesiynau llawn hwyl am ddim!

Am fwy o wybodaeth o’r camau cyntaf i’r addysg Gymraeg neu i ffeindio grwpiau yn eich ardal chi eich i wefan .

Am wybodaeth am grwpiau arall yn eich ardal chi ewch i wefan

 

]]>
/cy/newyddion/grwp-plant-bach-newydd-yn-paratoir-ffordd-ar-gyfer-y-gymraeg-yn-llyfrgell-abertyleri/ /cy/newyddion/grwp-plant-bach-newydd-yn-paratoir-ffordd-ar-gyfer-y-gymraeg-yn-llyfrgell-abertyleri/ Fri, 21 Jun 2024 09:18:26 GMT Carolyn Jenkins
Archwilio'r Dyfnderoedd Cwmni sy'n seiliedig yn Nhredegar yw MetroRod sy'n darparu gwasanaethau draenio a phwmpio ar gyfer cwsmeriaid masnachol a phreswyl. Yn dilyn cefnogaeth o £20,000 gan Grant Datblygu Busnes ״, maent wedi diweddaru eu cyfarpar i ddarparu gwell gwasanaeth i'w cwsmeriaid.

Dywedodd Ben Witcomb o MetroRod, "Roedd ein cyfarpar yn cyfyngu ar y gwasanaethau y gallem eu darparu i'n cwsmeriaid. Roedd yn iawn ar gyfer draeniau diamedr llai ond ni allai ymdopi â'r systemau mwy. Un o'n cwmnïau mwyaf yw Welsh Water / Dwr Cymru, rydym yn gweithio iddynt ar draws De-ddwyrain Cymru, ar draws Powys ac ar draws y ffin yn Hereford a Gloucester.’

'Heb y grant ni fyddai wedi gallu prynu'r offer ac roedd cyflogaeth 2 o weithwyr mewn perygl. Mae'r grant wedi ein galluogi i brynu offer diweddaraf mewn fan camera sy'n ein galluogi ni i arolygu systemau seilwaith hyd at 1200mm mewn diamedr. Yn bwysicach fyth, mae wedi sicrhau cyflogaeth i ddau o'n gweithwyr.'

Dywedodd y Cynghorydd John Morgan, Aelod y Cabinet - Lle & Adfywio a Datblygu Economaidd, "Mae Metrorod yn stori lwyddiant lleol gwych sy'n tyfu o ddechrau yn 2012 i fod yn awr yn 41 o weithwyr ac yn troi dros sawl miliwn o bunnoedd. Mae'n wych gweld cwmni lleol yn tyfu a'u cefnogi i wneud pethau mwy a gwell.'

Ariannodd Grant Datblygu Busnes ״ gan Gronfa Lles Rhanbarthol Llywodraeth y DU ac yn cael ei reoli gan Gyngor Bwrdeistref Sirol ״. Nod y Grant Datblygu Busnes yw cefnogi twf a datblygiad busnesau newydd a'r rhai sydd eisoes yn bodoli ym Mlaenau Gwent.

Cynghorydd John Morgan & Ben Witcomb (Cadeirydd Cwmni - Metro Rod)

Ben Witcomb (Cyfarwyddwr Cwmni - Metro Rod), Nathan Hale a Gareth Chappell (Metro Rod) a'r Cynghorydd John Morgan

]]>
/cy/newyddion/archwilior-dyfnderoedd/ /cy/newyddion/archwilior-dyfnderoedd/ Mon, 08 Jul 2024 12:41:17 GMT Carolyn Jenkins
Cyngor ״ yn derbyn cyllid i fynd i'r afael â phroblem ludiog gwm cnoi ar strydoedd canol tref Bydd grant gan y Chewing Gum Task Force, a weinyddir gan yr elusen amgylcheddol Keep Britain Tidy, yn helpu Cyngor Bwrdeistref Sirol ״ i lanhau gwm a lleihau sbwriel gwm.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol ״ yn rhoi cynlluniau ar waith i gael gwared â'r gwm cnoi sy'n gwneud strydoedd lleol yn flêr ar ôl derbyn grant o £27,500 i fynd i'r afael â'r broblem.

Mae'r cyngor yn un o 54 ledled y DU sydd wedi gwneud cais llwyddiannus i’r Chewing Gum Task Force, sydd bellach yn ei drydedd flwyddyn, am arian i lanhau gwm oddi ar balmentydd a'i atal rhag cael ei daflu eto.

Wedi'i sefydlu gan Defra (Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig) a'i redeg gan yr elusen amgylcheddol Keep Britain Tidy, mae Cynllun Grant y Chewing Gum Task Force ar agor i gynghorau ledled y DU sy'n dymuno glanhau gwm yn eu hardaloedd lleol a buddsoddi mewn newid ymddygiadol hirdymor i atal gwm rhag cael ei ollwng yn y lle cyntaf. 

Ariennir y Tasglu gan wneuthurwyr gwm mawr gan gynnwys Mars Wrigley a Perfetti Van Melle, gyda buddsoddiad o hyd at £10 miliwn wedi'i wasgaru dros bum mlynedd.

Mae gwaith monitro a gwerthuso a gynhaliwyd gan Behaviour Change – menter gymdeithasol ddielw – wedi dangos, mewn ardaloedd a elwodd o'r flwyddyn gyntaf o ariannu, fod cyfradd is o sbwriel gwm yn dal i gael ei weld chwe mis ar ôl glanhau a gosod deunydd atal.

Mae amcangyfrifon yn awgrymu bod cost glanhau blynyddol gwm cnoi i gynghorau yn y DU oddeutu £7 miliwn ac, yn ôl Keep Britain Tidy, mae tua 77% o strydoedd Lloegr a 99% o safleoedd manwerthu wedi'u staenio â gwm.

Yn ei ail flwyddyn, dyfarnodd y tasglu gyfanswm o £1.56 miliwn i 55 cyngor, gan helpu i lanhau tua 440,000m2 o balmant - ardal sy'n cyfateb i Ddinas y Fatican.

Drwy gyfuno gwaith glanhau strydoedd wedi'i dargedu gydag arwyddion wedi'u cynllunio'n arbennig i annog pobl i finio eu gwm, cyflawnodd y cynghorau a gymerodd ran ostyngiad o hyd at 60% mewn sbwriel gwm yn y ddau fis cyntaf.

Dywedodd y Dirprwy Arweinydd a'r Aelod Cabinet dros Leoedd a'r Amgylchedd, y Cynghorydd Helen Cunningham: "Rydym yn croesawu'r gefnogaeth gan y Chewing Gum Task Force. Bydd y cyllid hwn yn ein galluogi i fynd i'r afael â phroblemau sbwriel gwm yng nghanol ein trefi. Bydd arwyddion mewn safleoedd strategol yn helpu i godi ymwybyddiaeth o effaith sbwriel gwm ar ein hamgylchedd i'n helpu i greu stryd fawr lanach, heb gwm i drigolion ac ymwelwyr â'r fwrdeistref."

Dywedodd Allison Ogden-Newton OBE, prif weithredwr Keep Britain Tidy: "Mae sbwriel gwm cnoi yn weladwy iawn ar ein strydoedd mawr ac mae'n anodd ac yn ddrud i'w lanhau, felly mae croeso mawr i'r gefnogaeth i gynghorau gan y Chewing Gum Task Force a'r gwneuthurwyr gwm.

"Fodd bynnag, ar ôl i’r gwm gael ei lanhau, mae'n hanfodol atgoffa'r cyhoedd mai dim ond un lle y dylech daflu eich sbwriel, boed yn gwm neu unrhyw beth arall – y bin – a dyna pam mae elfen newid ymddygiad gwaith y tasglu mor bwysig."

]]>
/cy/newyddion/cyngor-blaenau-gwent-yn-derbyn-cyllid-i-fynd-ir-afael-a-phroblem-ludiog-gwm-cnoi-ar-strydoedd-canol-tref/ /cy/newyddion/cyngor-blaenau-gwent-yn-derbyn-cyllid-i-fynd-ir-afael-a-phroblem-ludiog-gwm-cnoi-ar-strydoedd-canol-tref/ Wed, 17 Jul 2024 13:00:49 GMT Alan Powell
Ystafell Cit Cymunedol - Cyngor ״ yn gweithio mewn tîm ag Aneurin Leisure Trust (1) Mae Cyngor ״ wedi gosod ei bin dillad chwaraeon - 'Ystafell Cit Cymunedol' - cyntaf yn Y Den yn Abertyleri, Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref, Parc Busnes Roseheyworth. Bydd y dillad chwaraeon a roddir yn cael eu defnyddio i gefnogi'r gymuned fel nad yw cit priodol yn dod yn rhwystr i gymryd rhan mewn chwaraeon.

Syniad tîm datblygu chwaraeon Aneurin Leisure Trust oedd y dull arloesol hwn o ailgylchu dillad chwaraeon ac maen nhw’n gweithio gyda sefydliadau, trigolion, busnesau ac ysgolion lleol i ddosbarthu cit ar draws y gymuned felly os hoffech chi roi, ymholi, ymuno fel partner neu fod yn Ganolfan Cit Cymunedol, e-bostiwch ckr@aneurinleisure.org.uk neu ffoniwch 07976 635655. 

Mae rhoddion yn mynd i'r Ystafell Cit Cymunedol yng Nghanolfan Chwaraeon Abertyleri lle gallwch holi am y dillad chwaraeon sydd ar gael. Er mwyn gwneud pethau’n fwy hygyrch i bawb bydd Canolfannau Cit Cymunedol ledled y fwrdeistref yn cynnig mannau gollwng a chasglu. Mae rhestr o leoliadau biniau rhoi, canolfannau a'r hyn y gellir ei dderbyn isod.

Beth y gellir ei dderbyn     Beth na ellir ei dderbyn
Dillad chwaraeon cyffredinol, treinyrs a bŵts Dillad wedi'u staenio neu eu difrodi
Pâr o sgidiau wedi'u clymu gyda'i gilydd, heb faw neu fwd Treinyrs a bŵts nad ydynt mewn pâr
Dillad sy'n lân ac wedi'u golchi Offer chwaraeon

 

Lleoliadau biniau rhoi
Y Den, Canolfan Ailgylchu Roseheyworth, Parc Busnes Roseheyworth, Ffordd Roseheyworth, Abertyleri, NP13 1SP
Llyfrgell Abertyleri, Bryn yr Orsaf, Abertyleri NP13 1TE 
Canolfan Chwaraeon Abertyleri, Stryd Alma, Abertyleri NP13 1QD 
Llyfrgell Blaenau, The Institute, Stryd Fawr, Blaenau, Abertyleri NP13 3BN 
Llyfrgell Brynmawr, 3 Sgwâr y Farchnad, Brynmawr, Glynebwy NP23 4AJ
Llyfrgell Cwm, Stryd Canning, Cwm, Glynebwy NP23 6LW
Llyfrgell Glynebwy, 21 Stryd Bethcar, Glynebwy NP23 6HH
Canolfan Chwaraeon Glynebwy, Lime Ave, Glynebwy NP23 6GL 
Llyfrgell Tredegar, 10 Stryd Haearn, Tredegar NP22 3RJ  
Canolfan Chwaraeon Tredegar, Lôn y Stabl, Tredegar NP22 4BH

 

Lleoliadau Canolfannau Cit Cymunedol: 
Clwb Pêl-droed Abertillery Bluebirds - Stadiwm Cwm Nant-y-Groes, Chwe Chloch, Abertyleri NP132PR
Chanolfan Chwaraeon Abertyleri NP13 1QD
A. B. B. Blaenau'r Cwm - Hen floc gwyddoniaeth, Willowtown, Teras Garfield, Glynebwy NP23 6H
Clwb Pêl-droed Nant-y-glo - Parc Dyffryn, Blaenau, Abertyleri NP13 3DA
Clwb Pêl-droed Tref Tredegar - Maes Hamdden Tredegar NP22 3NG, a Chlwb Rygbi Tredegar NP22 3NN

 

Aelodau staff CBS ״ a rhai o dîm Datblygu Chwaraeon Aneurin Leisure yn dangos y bin rhoi newydd yn Y Den.

 

 

]]>
/cy/newyddion/ystafell-cit-cymunedol-cyngor-blaenau-gwent-yn-gweithio-mewn-tim-ag-aneurin-leisure-trust-1/ /cy/newyddion/ystafell-cit-cymunedol-cyngor-blaenau-gwent-yn-gweithio-mewn-tim-ag-aneurin-leisure-trust-1/ Wed, 17 Jul 2024 14:13:53 GMT Alan Powell
Adnewyddu ac atgyweirio ardal chwarae yng Nglyncoed, Glynebwy Mae tîm Strydlun y Cyngor wedi bod yn gweithio gyda'r contractwyr arbenigol Touchline ar adnewyddu ac atgyweirio ardal y plant yng Nglyncoed, Glynebwy sydd bellach ar agor i'r cyhoedd ei mwynhau.

Mae'r ardal chwarae bellach yn cynnwys cynlluniau llawr arloesol, fel nadroedd ac ysgolion, ynghyd â gwelliannau i'r offer presennol. Mae'r ardal chwaraeon a ddefnyddir ar gyfer pêl-droed a phêl-rwyd hefyd wedi’i gwella'n sylweddol. Mae'r lluniau ‘cyn ac ar ôl’ isod yn dangos y llinellau clir ’r lliwiau llachar sy’n dynodi’r arwynebau ’r mannau chwarae.

Sicrhawyd cyfanswm o £32,000 drwy'r Gronfa Ffyniant Gyffredin ar gyfer yr adnewyddu.

Dywedodd y Dirprwy Arweinydd a'r Aelod Cabinet dros Leoedd a'r Amgylchedd, y Cynghorydd Helen Cunningham: "Mae ardaloedd chwarae awyr agored yn bwysig iawn i blant a theuluoedd lleol. Rydym yn falch o gyhoeddi bod ardal chwarae Glyncoed yn ailagor mewn pryd ar gyfer dechrau'r gwyliau ysgol, yn dilyn gwaith atgyweirio ac adnewyddu yr oedd mawr ei angen." 

Lluniau ‘cyn ac ar ôl’ o'r ardal chwaraeon.

 

Yr ardal chwarae sydd newydd ei hadnewyddu a'i hatgyweirio yng Nglyncoed.

 

]]>
/cy/newyddion/adnewyddu-ac-atgyweirio-ardal-chwarae-yng-nglyncoed-glynebwy/ /cy/newyddion/adnewyddu-ac-atgyweirio-ardal-chwarae-yng-nglyncoed-glynebwy/ Tue, 23 Jul 2024 14:10:10 GMT Alan Powell
Clwb Chwaraeon Cymunedol Blaina ar Garlam Yn 2019, cymerodd Blaina RFC a Chlwb Criced Blaina y penderfyniad balch i uno a chymryd drosodd redeg eu tir chwaraeon mewn trosglwyddiad asedau cymunedol. Ffurfiwyd Clwb Chwaraeon Cymunedol Blaina newydd. Pum mlynedd yn ddiweddarach, mae Parc Blaina Canolog yn edrych yn wych. Yn ogystal â gweithgareddau ar y cae, maent hefyd yn cynnal llawer o weithgareddau cymunedol a swyddogaethau preifat. Maent yn darparu cyflogaeth i 4 aelod o staff ac yn gwneud pob ymdrech i weithredu'n effeithlon ac yn broffidiol.

Teimlwyd y clwb mai nawr oedd yr amser iawn i ail-lunio eu pafiliwn er mwyn eu galluogi i wneud gwell defnydd o'r gofod.

Dywedodd Chris Adams o Glwb Chwaraeon Cymunedol Blaina, "Dim ond un le cymunedol oedd gennym felly pan oeddem yn cynnal digwyddiadau, doedd dim lle i'r clybiau ymgynnull gyda'i gilydd. Roedd y prosiect yn cynnwys cyfuno'r ddwy ystafell newid criced presennol yn un a chreu ardal lolfa ar wahân. Mae hyn yn golygu, bob tro y byddwn yn cynnal digwyddiad preifat, y gall ymwelwyr eraill ddefnyddio'r lolfa newydd hon. Mae'n gwneud y clwb yn fwy cynaliadwy ac yn agored i bawb.”

“Rydym yn hynod ddiolchgar i Gyngor Bwrdeistref Sirol ״. Dderbyniwyd £8,529.71 drwy'r Grant Menter Gymdeithasol sydd wedi ein galluogi i brynu uned fodwlar yr ydym bellach yn ei ddefnyddio fel ystafelloedd gwisgo ar gyfer ein timau criced. Mae'r adran criced wedi ehangu'n fawr yn ystod y flwyddyn ddiwethaf neu fwy, i gynnwys timau 2ail a 3ydd, ynghyd â themâu gradd oedran a merched.”

"Mae'r cyllid hwn nid yn unig wedi caniatáu i'r uned gael ei brynu, ond hefyd wedi helpu i ariannu'r swm enfawr o waith a oedd yn ofynnol i wneud y neuadd aros yn lle gweithredol. Roeddem hefyd yn gallu uwchraddio ein cyfleusterau cegin i gynnwys ffwrn ac oergell newydd, i raglenni masnachol llawer uwch."

 Dywedodd y Cynghorydd John Morgan, Aelod y Cabinet - Lle & Adfywio a Datblygu Economaidd, "Mae Clwb Chwaraeon Cymunedol Blaina yn enghraifft berffaith o sut y gall gweithio gyda'i gilydd gyflawni pethau mawr. Maent wedi rhoi cymaint o waith i adnewyddu ac ehangu eu tir a gyda rhai syniadau arloesol maent wedi dod i ateb sy'n fuddiol i'r clybiau a'r gymuned ehangach. Maen nhw bellach yn galon eu cymuned leol ac mae'n wych gweld yr hyn y gall ychydig o gefnogaeth ei gyflawni."

Mae Grant Menter Gymdeithasol ״ yn cael ei ariannu gan Gronfa Ddatblygu Rannol Llywodraeth y DU ac yn cael ei reoli gan Gyngor Bwrdeistref Sirol ״. Nod y grant yw cefnogi datblygiad mentrau cymdeithasol lleol ym Mlaenau Gwent.

Criced Plant

Uned newid

Ystafell Digwyddiadau’r clwb

]]>
/cy/newyddion/clwb-chwaraeon-cymunedol-blaina-ar-garlam/ /cy/newyddion/clwb-chwaraeon-cymunedol-blaina-ar-garlam/ Fri, 26 Jul 2024 08:42:44 GMT Carolyn Jenkins
Y Cyngor yn parhau i gynllunio ar gyfer bwrdeistref Sero Net Mae cynghorwyr yng Nghyngor ״ wedi cymeradwyo Fframwaith Sero Net 2050 newydd, sy'n nodi sut y gallai symud ymlaen a gweithio gyda phartneriaid a chymunedau lleol i leihau allyriadau carbon ״ a chyflawni Sero Net erbyn 2050.  

Mae Fframwaith Sero Net 2050 yn cynnig trosolwg lefel uchel o beth sydd angen ei wneud er mwyn i Flaenau Gwent gyflawni Sero Net. Mae'r fframwaith yn cwmpasu’r holl allyriadau carbon ym Mlaenau Gwent, gan gynnwys o gartrefi, busnesau a thrafnidiaeth.  Er bod llawer o'r allyriadau hyn y tu hwnt i reolaeth uniongyrchol y Cyngor ac y bydd angen newidiadau ar lefel genedlaethol hefyd, mae'r fframwaith yn bwysig o ran rhoi dealltwriaeth i'r Awdurdod Lleol a'i bartneriaid o'r llwybr i Sero Net i Flaenau Gwent.

Mae'r Fframwaith wedi'i strwythuro o amgylch pedair thema: ynni, tai, natur a thrafnidiaeth.  Mae'r themâu hyn yn adlewyrchu blaenoriaethau Cynulliad Hinsawdd ״, 44 o drigolion ״ a gyfarfu ar-lein ym mis Mawrth 2021 am 23 awr i drafod y cwestiwn 'sut allwn ni fynd i'r afael â newid hinsawdd ym Mlaenau Gwent mewn ffordd sy'n deg ac yn gwella safonau byw i bawb?' Cafodd Aelodau'r Cynulliad eu dewis ar hap i gynrychioli pobl ym Mlaenau Gwent a chlywed tystiolaeth gan dros 20 o arbenigwyr.

Mae allyriadau carbon ym Mlaenau Gwent wedi gostwng 44% rhwng 2005 a'r ffigyrau diweddaraf yn 2022.

Gwnaeth cynghorwyr hefyd gymeradwyo Cynllun Ynni Ardal Leol (LAEP) sy'n modelu senarios posibl ar gyfer system ynni Sero Net ym Mlaenau Gwent yn y dyfodol. Mae'r LAEP yn ddogfen allweddol yn nhaith ״ i Sero Net gan fod y system ynni yn gyfrifol am 70% o allyriadau carbon ״. Mae'r model LAEP yn nodi heriau allweddol i Flaenau Gwent wrth gyrraedd Sero Net, gan gynnwys yr angen i gynyddu cynhyrchiant ynni adnewyddadwy lleol, ac i symud i ffwrdd o gerbydau petrol/diesel a gwres nwy mewn adeiladau i ddewisiadau amgen di-garbon.   

Dywedodd y Cynghorydd Helen Cunningham, Aelod Cabinet y Cyngor dros Leoedd a'r Amgylchedd:

"Mae ymateb i'r argyfyngau hinsawdd a natur yn parhau i fod yn brif flaenoriaeth i ni, ac rydym yn cymryd ein cyfraniad at y broblem fyd-eang hon o ddifrif. Drwy ein Cynllun Datgarboneiddio, rydym yn gwneud beth allwn ni i leihau'r allyriadau rydym yn eu creu wrth ddarparu ein gwasanaethau ac rydym yn edrych ar ffyrdd newydd o wneud pethau i adlewyrchu ein cyfrifoldebau amgylcheddol.

"Er mwyn cymryd camau sylweddol ymlaen, rydym yn cydnabod bod angen i gamau lleol ddigwydd ochr yn ochr â gweithredu ar sail ranbarthol a chenedlaethol hefyd. Fodd bynnag, rhaid i ni hefyd fod yn fentrus ac yn barod wrth gynllunio, oherwydd petai'r newidiadau hynny'n digwydd heb weithredu lleol sylweddol, allwn ni ddim cyflawni system ynni Sero Net ym Mlaenau Gwent."

Datblygwyd y Cynllun Ynni Ardal Leol gyda chyllid Llywodraeth Cymru a bydd yn helpu i lywio'r Cynllun Ynni Cenedlaethol sydd ar ddod.

Datganodd Cyngor ״ Argyfwng Hinsawdd ym mis Medi 2020 ac mae ganddo ei Gynllun Datgarboneiddio 2020 – 2030 ei hun , sy'n cwmpasu allyriadau carbon y Cyngor ei hun.

]]>
/cy/newyddion/y-cyngor-yn-parhau-i-gynllunio-ar-gyfer-bwrdeistref-sero-net/ /cy/newyddion/y-cyngor-yn-parhau-i-gynllunio-ar-gyfer-bwrdeistref-sero-net/ Wed, 31 Jul 2024 14:49:12 GMT Louise Bishop
Saethu am Lwyddiant Mae 'Cymru Creations' wedi bod yn rhedeg prosiectau buddiol cymunedol yn Nhredegar Blaenau ers 2016. Agorodd yn Academi Ffilm ״, a enillodd wobr ym mis Chwefror 2018 ac mae bellach yn denu dros 150 o bobl ifanc rhwng 7 a 18 oed bob wythnos, gan eu haddysgu sgiliau ffilm a chyfryngau. Mae'r cwmni hefyd yn rhedeg Gŵyl Ffilm Ryngwladol Plant Cymru, sy'n llwyddiannus iawn.

Gyda thechnoleg y byd sy'n newid yn gyflym ac er mwyn cadw o flaen y gêm, derbyniodd Cymru Creations grantiau drwy'r Cynlluniau Datblygu Busnes a Menter Gymdeithasol, i brynu offer newydd gan gynnwys camerâu gwneud ffilm o ansawdd uchel, lensys, cardiau cof ac ategolion gwneud ffilmiau eraill.

Dywedodd Kevin Phillips, Prif Swyddog Gweithredol Cymru Creations, "Mae'r grant gan Gyngor Bwrdeistref Sirol ״ wedi ein helpu i brynu offer a fydd yn gwella ein galluoedd fel sefydliad hyfforddi cynhyrchu ffilmiau. Bydd yn galluogi myfyrwyr ein Hacademi Ffilm i wella eu sgiliau a gwella rhagolygon swyddi wrth greu cynhyrchion o ansawdd uchel, y gellir eu cyflwyno wedyn i Netflix a chwaraewyr a darlledu ffrydio eraill"

"Rydym ar hyn o bryd yn gweithio ar sioe ôl-apocalyptig aml-amser, sydd wedi'i ysgrifennu gan un o'n prentisiaid Ffilm sy'n cael ei wneud gan bob myfyriwr yn yr Academi Ffilm. Mae hyn wedi agor cyfleoedd a marchnadoedd newydd i Academi Ffilm ״ na fyddai wedi bod yn anhygyrch gyda'n cyfarpar presennol. Yn bwysicaf oll, mae wedi creu mwy o gyfleoedd i bobl ifanc ״ nag erioed"

Dywedodd y Cynghorydd John Morgan, Aelod y Cabinet - Lle & Adfywio a Datblygu Economaidd, "Mae Creations Cymru yn gwmni lleol sy'n ennill gwobrau sy'n darparu hyfforddiant a chreadigrwydd yn ein cymuned. Mae'n dda clywed sut y bydd ein grant yn gwella cyfleoedd i genedlaethau iau ac yn eu cadw ar flaen y gad o greadigrwydd yng Nghymru."

Ariannwyd y ddau Grant Datblygu Busnes ״ gan Gronfa Gysondeb Rhannol Llywodraeth y DU ac yn cael ei reoli gan y Tîm Busnes ac Arloesi yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol ״. Nod y Grant Datblygu Busnes yw cefnogi twf a datblygiad busnesau newydd a rhai presennol ym Mlaenau Gwent.

Kevin Phillips (Cymru Creations), Cllr John Morgan

]]>
/cy/newyddion/saethu-am-lwyddiant/ /cy/newyddion/saethu-am-lwyddiant/ Wed, 28 Aug 2024 14:10:33 GMT Carolyn Jenkins
Pwyntio yn y Cyfeiriad Cywir Smartsignz yw gwmni arloesi a dylunio graffig sy'n tyfu'n gyflym ac sydd wedi'i leoli yn Nhredegar, ״. Eich delwedd yw eu blaenoriaeth, ac maent yn sicrhau bod eich busnes yn sefyll allan o'r dorf. Maent wedi'u sefydlu ers 2014 ond gyda'i gilydd mae ganddyn nhw dros 64 mlynedd o brofiad yn y diwydiant ac mae ganddyn nhw'r wybodaeth a'r arbenigedd i greu arwyddion deniadol.

Mae Smartsignz yn ymdrechu'n gyson i fod ar flaen y gad o ran datrysiadau creadigol ac maent bob amser yn ceisio cadw o flaen y gêm. Mae'r amgylchedd hefyd yn bwysig iddynt ac mae'n rhaid i unrhyw ddatblygiadau nodi'r blwch eco hefyd.

Derbyniodd Smartsignz Grant Datblygu Busnes a wnaeth eu galluogi i brynu offer newydd a fydd yn lleihau eu hôl troed carbon a gwastraff.

Dywedodd Daniel Andrews, perchennog y cwmni, "Fe wnaethom uwchraddio ein printer a phrynu printer dillad sy'n ein galluogi i arbed amser, deunyddiau ac uwchraddio i offer sy'n well i'r amgylchedd. Mae'r grant wedi ein galluogi i roi mwy o egni a chadw'n gyfredol gyda chyfarpar sy'n arwain y farchnad."

Dywedodd y Cynghorydd John Morgan, Aelod y Cabinet - Lle & Adfywio a Datblygu Economaidd, "Mae Smartsignz yn gwmni lleol anhygoel sy'n darparu atebion arloesol ar gyfer busnesau. Mae'n dda cefnogi busnesau fel hyn, i'w cadw'n arweinwyr yn eu maes ac i barchu'r amgylchedd yn y broses."

Mae Grant Datblygu Busnes ״ yn cael ei ariannu gan Gronfa Cysondeb Rhannol Llywodraeth y DU ac yn cael ei reoli gan y Tîm Busnes ac Arloesi yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol ״. Nod y Grant Datblygu Busnes yw cefnogi twf a datblygiad busnesau newydd a'r rhai sydd eisoes yn bodoli yn ״.

Cllr John Morgan & Daniel Andrews (Smartsignz)

]]>
/cy/newyddion/pwyntio-yn-y-cyfeiriad-cywir/ /cy/newyddion/pwyntio-yn-y-cyfeiriad-cywir/ Tue, 03 Sep 2024 11:16:55 GMT Carolyn Jenkins
Taith Ysbrydoledig Dysgwyr Lleol ers dysgu Cymraeg

Ym mis Medi 2022, penderfynodd Daniel Minty, preswylydd Abertyleri, ddysgu'r Gymraeg, gan gydnabod ei fod yn bosibl o fudd. Pan ddaeth ei fusnes bach i ben y llynedd, roedd angen swydd newydd arno. Roedd Menter Iaith Casnewydd yn hysbysebu am swyddog i greu cyfleoedd o fewn y gymuned i siarad Cymraeg. Er gwaethaf pryder cychwynnol, ond gyda digon o gefnogaeth gan ei thiwtoriaid, ymgeisiodd Daniel a sicrhau'r rôl. 

"Fe wnes i ymgeisio am y swydd yn ysgogiad, gan feddwl efallai na fyddai fy siwrne fach dysgu Cymraeg yn ddigonol i weithio mewn amgylchedd sy'n siarad Cymraeg. Doedd gen i ddim hyder i sgwrsio yn y Gymraeg pum diwrnod yr wythnos gyda phobl sy'n siarad Cymraeg. Anogodd fy nhiwtoriaid i mi, ac es i'm cyfweliad Cymraeg cyntaf erioed. Roedd hiyn y Gymraeg mwyaf oeddwn wedi'i siarad erioed, ac o ganlyniad, fe'm dewiswyd i fod yn Swyddog Datblygu Cymunedol newydd", meddai Daniel. "Heb fy nhiwtoriaid, ni fyddwn erioed wedi cyrraedd y pwynt hwn. Nawr, er fy mod i'n dal i ddysgu, rwyf mewn lle o ddiolchgarwch ac yn anelu at ysbrydoli eraill i gymryd y naid" 

Anrhydeddwyd Daniel fel Dysgwr y Flwyddyn mewn seremoni wobrwyo yn Sbarc Caerdydd ar 3 Gorffennaf 2024.

Mae Daniel yn ymgysylltu'n weithredol â'r gymuned trwy ei dudalen lle mae'n trefnu digwyddiadau i siaradwyr a dysgwyr Cymraeg ymarfer yr iaith. Mae'r rhain yn cynnwys cyfarfodydd cerdded cŵn ddwywaith y mis ym Mharc Tredegar (ar yr ail a'r pedwerydd Sul), ynghyd â rhannu straeon ysbrydoledig a'i safbwynt cadarnhaol. Mae ganddo lawer mwy o gynlluniau ar gyfer y dyfodol. 

Llongyfarchiadau, Daniel, ar fuddugoliaeth eleni a'ch cyflawniadau nodedig dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Rydym yn edrych ymlaen yn eiddgar at yr hyn y byddwch yn ei gyflawni nesaf.

I ddilyn troed Daniel a dysgu mwy am y cyfleoedd sydd ar gael i ddysgu Cymraeg, ewch i'r ddolen Dysgu Cymraeg: 

 

]]>
/cy/newyddion/taith-ysbrydoledig-dysgwyr-lleol-ers-dysgu-cymraeg/ /cy/newyddion/taith-ysbrydoledig-dysgwyr-lleol-ers-dysgu-cymraeg/ Thu, 05 Sep 2024 07:42:45 GMT Carolyn Jenkins
Tŷ Gofal Cwrt Mytton yn dathlu Diwrnod Rarebit Cymru mewn steil (1) Dathlodd trigolion Cwrt Mytton mewn steil ar y 3ydd o Fedi ar gyfer Ddydd Cenedlaethol Rarebit Cymru gyda diolch i Lywodraeth y DU, Y Gronfa Ffyniant Gyffredin (SPF).

Ni wnaeth cogyddion Cwrt Mytton, Adam Grisley a Nigel Jelly, siomi gyda rarebit wedi'i wneud eu hun, bara blasus wedi'i phobi gyda chaws Cymreig blasus a chawl cennin a thatws, Bara Brith a mica maen Cymreig ffres i orffen.

Roedd Jonny Bevan yn adlonni’r preswylwyr gyda chaneuon nostalgig gan Tom Jones a David Alexander, gan ddod i ben gydag Anthem Cymru bwerus. Roedd trigolion yn canu, yn dawnsio, ac yn cael amser gwych, roedd Swyddogion Polisi Cymraeg Katherine Watkins-Hughes a Vikki Alexander yn cael y fraint i ddogfennu'r digwyddiad.

"Mae'r Gronfa Ffyniant Cyffredin (SPF) a dderbyniwyd fel rhan o'm rôl yn ein galluogi ni i drefnu’r digwyddiadau hyn yn y gymuned, rydym wedi gweithio gydag ysgolion ond roedd heddiw mor arbennig i allu gweithio gyda'r tîm gwych yn Gwrt Mytton i ddod â gwên i'r preswylwyr. Nid yw alli siarad Gymreig yn unig yw dod yn Gymro neu Cymrais, mae'n ymwneud â'r diwylliant cyfan, a'r traddodiadau sydd wedi'u trosglwyddo drwy'r cenedlaethau. Mae'n perthyn i bob un ohonom, boed yn siarad Cymraeg neu beidio, mae'n e yn ein DNA a dylem fod mor falch o fod yn rhan ohono."

Siaradodd Jonny Bevan am ei gariad o ymweld â Chwrt Mytton “Dw i'n dod yma yn aml i berfformio a rhedeg gweithgareddau ac rwy'n ei garu. Mae'n bleser gweld y llawenydd ar eu hwynebau a'r dagrau o hapusrwydd wrth iddynt gofio'r gerddoriaeth a'r atgofion sy'n cwmpasu'r eiliad hwnnw. Roedd dau o'r preswylwyr gyda mi yn Regiment Y Gymru Frenhinol ac fe welon ni lawer o deithiau dyletswydd. Rwy'n dioddef o PTSD ac mae gwneud y digwyddiadau hyn yn fy helpu i adfer fy iechyd meddwl fy hun. Mae'n wirioneddol arbennig gallu ymweld yn aml a'r rhan orau o'm swydd."

Mae Joanne Hawkins a'i thîm yn Gwrt Mytton yn weithgar, gan drefnu llawer o weithgareddau a digwyddiadau i'r trigolion, yn enwedig i ddathlu diwylliant Cymru.  "Rydym am i'r trigolion deimlo'n gyfforddus, nid fel eu bod mewn cartref, ond yn mwynhau eu hamser yma gyda digon i'w wneud."  Gyda chrefftau, cerddoriaeth a gemau, mae rhywbeth yn digwydd bob amser. Mae'r trigolion yn hapus, yn cael gofal da, ac yn gyffrous am yr hyn sy'n dod nesaf.

]]>
/cy/newyddion/ty-gofal-cwrt-mytton-yn-dathlu-diwrnod-rarebit-cymru-mewn-steil-1/ /cy/newyddion/ty-gofal-cwrt-mytton-yn-dathlu-diwrnod-rarebit-cymru-mewn-steil-1/ Fri, 06 Sep 2024 07:56:20 GMT Carolyn Jenkins
Cynyddu Llwyddiant JC Moulding yw fusnes mowldio chwistrellu sy'n tyfu'n gyflym sy'n seiliedig ar y Stad Ddiwydiannol Blaenant ym Mrynmawr.

Mae ganddyn nhw dros 30 mlynedd o brofiad ac yn arbenigo mewn dylunio a gweithgynhyrchu offer ar gyfer offer ffurfio chwistrellu. Mae JC Moulding yn allforio i'r diwydiant ledled y byd.

Defnyddiwyd arian o'r Grant Datblygu Busnes i brynu offer peiriannu CNC i gynhyrchu offer mowldio a fydd yn cynyddu capasiti, ansawdd ac effeithlonrwydd eu cynhyrchu offer mowldio.

Dywedodd Phil Marshall, Cyfarwyddwr JC Moulding, "Rydym yn ddiolchgar am y cymorth ariannol a dderbyniwyd, mae hyn wedi helpu i gyflymu ein cynlluniau ehangu ar gyfer y busnes a chefnogi'r galwadau cyson gan ein cwsmeriaid i leihau amseroedd ar gyfer offerynnau newydd ac i gynhyrchu cynhyrchion mwy cywir, o ansawdd uwch.”

Dywedodd y Cynghorydd John Morgan, Aelod y Cabinet - Lle & Adfywio a Datblygu Economaidd, "Mae JC Moulding yn gyflogwr lleol gwerthfawr gyda chynlluniau uchelgeisiol i dyfu eu busnes. Mae'n dda clywed sut y bydd ein grant yn gwella eu gwasanaeth gyda chreu swyddi newydd."

Mae Grant Datblygu Busnes ״ yn cael ei ariannu gan Gronfa Cysondeb Rhannol Llywodraeth y DU ac yn cael ei reoli gan y Tîm Busnes ac Arloesi yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol ״. Nod y Grant Datblygu Busnes yw cefnogi twf a datblygiad busnesau newydd a'r rhai sydd eisoes yn bodoli yn ״.

Cynghorydd John Morgan, Jon Murcutt JC Moulding, Moe Forouzan, Rheolwr Tîm Busnes & Arloesi BGCBC

]]>
/cy/newyddion/cynyddu-llwyddiant/ /cy/newyddion/cynyddu-llwyddiant/ Wed, 11 Sep 2024 08:07:45 GMT Carolyn Jenkins
Plac Porffor yn coffáu Minnie Pallister i’w ddadorchuddio ym Mryn-mawr Cynhelir seremoni dadorchuddio Plac Porffor i anrhydeddu Minnie Pallister (1885-1960) - athro, ffeminydd, heddychwr, gwleidydd, newyddiadurwr a darlledwr - yn Neuadd y Farchnad Bryn-mawr ar 18 Medi am 6pm. Bydd y Gwir Anrhydeddus Mark Drakeford AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, yn dadorchuddio’r plac.

Dywedodd y Dirprwy Arweinydd a'r Aelod Cabinet dros Leoedd a'r Amgylchedd, y Cynghorydd Helen Cunningham: 
"Mae'n hyfryd gweld Minnie yn cael ei chydnabod fel hyn gan ei bod hi’n rhan annatod o hanes y mudiadau llafur a heddychol. A hithau'n ffeminydd sosialaidd, eiriolodd ac ymgyrchodd yn feiddgar dros fyd gwell yn seiliedig ar y gwerthoedd hynny. Doedden nhw ddim bob amser yn ei gwneud hi'n boblogaidd ond roedd hi'n ddiwyro yn ei hymrwymiad i'r achosion hynny. Roedd y byd gwleidyddol bron yn gyfan gwbl wrywaidd bryd hynny felly mae’r ffaith iddi ddod yn unigolyn mor flaenllaw yn adrodd cyfrolau am ei nerth. Roedd ei blynyddoedd yma ym Mryn-mawr yn ffurfiannol a bydd yn cael ei chofio am byth gyda'r Plac Porffor hwn, teyrnged wirioneddol addas i ddynes ryfeddol. Dyma ein hail blac ym Mlaenau Gwent, yn dilyn Thora Silverthorn, a weithiodd fel nyrs yn y frwydr ryngwladol yn erbyn ffasgaeth yn Rhyfel Cartref Sbaen."

Teithiodd Minnie, a aned yng Nghernyw, ledled gwledydd Prydain gyda'i theulu gan fod ei thad yn Weinidog Methodistaidd. Ymgartrefon nhw ym Mryn-mawr lle enillodd gymhwyster addysgu yn y Brifysgol yng Nghaerdydd, a bu'n dysgu yn Ysgol Fabanod Gynradd Sir Bryn-mawr, neu’r ysgol fwrdd fel y’i gelwid rhwng 1906 a 1918. Trwy gydol y cyfnod hwn roedd hi’n cyfrannu’n weithredol at wleidyddiaeth ac fel heddychwr daeth yn ffigwr blaenllaw yn gwrthwynebu'r Rhyfel Byd Cyntaf yng Nghymru - gwnaeth ei phresenoldeb a'i grym siarad cyhoeddus ei rhoi yn yr un categori â Sylvia Pankhurst. Ym 1915 disgrifiodd Keir Hardie hi fel seren newydd yn disgleirio ar y gorwel.

Gan godi trwy rengoedd y Blaid Lafur, daliodd Minnie lawer o swyddi ar lefel uchel iawn o ystyried cynrychiolaeth menywod ym myd gwleidyddol yr oes, megis: Llywydd Plaid Lafur Annibynnol Cymru (1920) ac Ymgeisydd Seneddol dros Bournemouth (1923).

Ar anterth ei gyrfa wleidyddol cafodd ei tharo'n wael gyda salwch a arweiniodd at flynyddoedd o eiddilwch parlysol. Fodd bynnag, o'i gwely hyfforddodd Minnie ei hun i fod yn newyddiadurwr gan sicrhau swyddi amlwg gyd’r Daily Mirror a'r Daily Herald (papur newydd mwyaf Prydain ar y pryd) cyn dod yn ddarlledwr gyd’r BBC.

Mae’r Placiau Porffor yn wobr sy'n cydnabod menywod hynod yng Nghymru a'r cyfraniad y maent wedi'i wneud i fywyd Cymru.  Bydd y menywod hyn o Gymru wedi cael dylanwad yng Nghymru a thu hwnt. Efallai na fyddant wedi cael sylw haeddiannol o’r blaen, neu efallai eu bod wedi cael eu gadael allan o'r llyfrau hanes yn gyfan gwbl. 

Meddai Sue Essex, cadeirydd Placiau Porffor Cymru:
"Mae Placiau Porffor yn grŵp gwirfoddol bach sy'n ymroddedig i gofio a dathlu Menywod Rhyfeddol yng Nghymru ac rydym yn falch iawn o godi ein 18fed Plac Porffor yng Nghymru ar gyfer Minnie Pallister ym Mryn-mawr lle bu'n byw am flynyddoedd lawer. Mae ei hanes rhyfeddol wedi dod i'r amlwg trwy ddiwydrwydd a phenderfyniad ei bywgraffydd Alun Burge ac ymrwymiad Cyngor ״ a Chymdeithas Hanes Lleol Bryn-mawr.

Mae stori Minnie yn ymwneud â menyw hynod ddewr a deallus a oedd yn barod i roi ei bywyd i ymladd dros yr achosion yr oedd hi'n credu ynddynt. Roedd hi'n ddi-ofn ac yn gwbl ddyfal yn hyrwyddo ffeministiaeth a chydraddoldeb ar adeg pan nad oedd y rhain yn y brif ffrwd.
Mae codi Plac Porffor yn ffordd o ddathlu a rhoi clod hir-ddisgwyliedig i'r fenyw ryfeddol hon a chydnabod yr hyn yr oedd hi'n sefyll drosto."

 I ddathlu'r achlysur ymhellach, bydd lansiad llyfr swyddogol yn Amgueddfa Bryn-mawr - ‘Minnie Pallister: The Voice of a Rebel’ gan Alun Burge - hanes diddorol ei bywyd dewr. Dywedodd yr awdur Alun Burge, 'Gyda'r bywgraffiad hwn, mae Minnie Pallister bellach yn cael ei hadfer i'w lle priodol yn hanes ״ a Chymru a gellir cydnabod ei chyfraniad at y mudiadau llafur a menywod yn llawn. Bydd yna hefyd furlun. Cefnogir dadorchuddiad y plac a'r murlun gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin.

Bydd yna hefyd ddarlith i ddathlu hanner canmlwyddiant Cymdeithas Hanes Bryn-mawr yng Nghlwb Cymdeithasol Bryn-mawr am 7pm. Daethpwyd â llawer o'r gweithgareddau at ei gilydd gan y diweddar Mr Eifion Lloyd Davies a fu farw yn drist iawn yn y gwanwyn.

]]>
/cy/newyddion/plac-porffor-yn-coffau-minnie-pallister-i-w-ddadorchuddio-ym-mryn-mawr/ /cy/newyddion/plac-porffor-yn-coffau-minnie-pallister-i-w-ddadorchuddio-ym-mryn-mawr/ Wed, 11 Sep 2024 15:48:49 GMT Alan Powell
Ymdrechu am ôl traed Sero Carbon Canolfan Gerddi Victoria yw Ganolfan Gerddi lleol annibynnol sy'n cael ei redeg gan deulu, ac sydd wedi'i leoli yn Barc Busnes y Goron, Tredegar.

Yn 2023 gosododd y busnes paneli solar. Roedd hyn yn lleihau eu defnydd o drydan o'r grid cenedlaethol gan 95%.

Gyda chymorth y Grant Datblygu Busnes, roedd y Ganolfan yn gallu prynu Tryc Forklift Trydanol, Tryc Pallet Trydanol a pheiriant Bailio. Mae hyn wedi caniatáu iddynt leihau eu gwastraff 90% a lleihau eu defnydd o ynni. Mae'r peiriant bailio yn caniatáu i gwsmeriaid ddychwelyd potiau planhigion, hambyrddau ac ati fel y gellir eu hailgylchu. Mae hyn wedi cynyddu’r nifer o ymwelwyr ac felly yn y tymor hir gobeithio bydd yn helpu'r fasnach.

Dywedodd Kelvyn Miller o Ganolfan Gerddi Victoria "Ein cenhadaeth yw lleihau ein hôl troed carbon. Rydym yn cynnig ailgylchu am ddim i gwsmeriaid ar gyfer yr eitemau canlynol:

Cardfwrdd, potiau planhigion plastig, plastig, planhigion, labeli, hambyrddau planhigion plastig, bagiau compost, wrap swigod, ffilm pallet blastig clir, bagiau gwastraff du, bagiau cludo, bagiau swmp gan fasnachwyr adeiladu a ddefnyddir ar gyfer tywod/garreg ac ati."

Dywedodd y Cynghorydd John Morgan, Aelod y Cabinet - Lle & Adfywio a Datblygu Economaidd, "Mae'n dda gweld busnes lleol yn gwneud eu rhan i leihau'r troed carbon a lleihau tirlenwi gwastraff trwy ailgylchu cymaint â phosibl".

Mae Grant Datblygu Busnes ״ yn cael ei ariannu gan Gronfa Ffyniant Cyffredin gan Lywodraeth y DU ac yn cael ei reoli gan y Tîm Busnes ac Arloesi yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol ״. Nod y Grant Datblygu Busnes yw cefnogi twf a datblygiad busnesau newydd a'r rhai sydd eisoes yn bodoli ym Mlaenau Gwent.

 

Cynghorydd John Morgan

]]>
/cy/newyddion/ymdrechu-am-ol-traed-sero-carbon/ /cy/newyddion/ymdrechu-am-ol-traed-sero-carbon/ Fri, 20 Sep 2024 08:23:07 GMT Carolyn Jenkins
Cyngor yn gwneud 'Profiad o Ofal' yn Nodwedd Warchodedig Mae cynghorwyr ym Mlaenau Gwent heddiw wedi cytuno ar gynnig a fydd yn gweld pobl â phrofiad o ofal yn derbyn statws nodwedd warchodedig.

Daethpwyd â'r Cynnig gan grŵp o gynghorwyr a ddywedodd fod 'pobl â phrofiad o ofal yn un o'r grwpiau mwyaf agored i niwed ar draws ein cymdeithas, yn aml yn wynebu stigma a gwahaniaethu gydol oes.'  Cafodd ei gefnogi a'i groesawu gan yr holl gynghorwyr yn y cyfarfod.

Mae ymchwil wedi dangos bod pobl â phrofiad o ofal yn llai tebygol o gael mynediad i addysg bellach fel prifysgol, yn fwy tebygol o gael eu talu'n is yn eu cyflogaeth, a 70% yn fwy tebygol o farw cyn pryd.

Yr Aelod Cabinet dros Bobl a Gwasanaethau Cymdeithasol, y Cynghorydd Haydn Trollope, oedd yn arwain y Cynnig. Meddai:

"Er y bydd y profiad o ddod i ofal a derbyn gofal fel plentyn yn unigryw i bob unigolyn, nid oes modd gwadu’r ffaith ei fod yn gadael etifeddiaeth barhaol ac yn dylanwadu ar drywydd bywyd. Mae pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal yn wynebu gwahaniaethu, stigma a rhagfarn yn eu bywydau o ddydd i ddydd ac fel Cyngor rydym am wneud popeth o fewn ein gallu i helpu i newid hynny.

"Byddai gwneud profiad o ofal yn nodwedd warchodedig yn ein galluogi i roi polisïau a rhaglenni ar waith a fydd yn hybu canlyniadau gwell i bobl â phrofiad o ofal. Ar hyn o bryd rydym yn cynnig lefel dda o gefnogaeth i unigolion sy’n gadael gofal tan eu bod yn 25 oed ond bydd gwneud profiad o ofal yn nodwedd warchodedig yn rhoi mwy o ystyriaeth ac amddiffyniad rhag gwahaniaethu i bobl dros yr oedran hwnnw."  

O ganlyniad i basio'r Cynnig, mae'r Cyngor wedi penderfynu:

· Ychwanegu 'pobl sydd â phrofiad o ofal' at Asesiad Effaith Integredig y Cyngor, fel bod effaith unrhyw benderfyniadau polisi ar bobl â phrofiad o ofal yn cael ei nodi a'i ystyried pan wneir y penderfyniadau hynny.

· Gwarantu cyfweliad i unigolion sydd wedi bod mewn gofal, ar yr amod eu bod yn bodloni'r meini prawf dethol a nodir yn y disgrifiad swydd.

· Ystyried sut y gallai oresgyn yr anfanteision a'r gwahaniaethu a brofir gan bobl â phrofiad o ofal wrth osod ac adolygu'r Amcanion Cydraddoldeb Strategol.

Hefyd yn ddiweddar, llofnododd Cyngor ״ Siarter Rhianta Corfforaethol Llywodraeth Cymru, gan gryfhau ei ymrwymiad i sicrhau'r gwasanaethau a'r cyfleoedd gorau i blant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal. Darllenwch fwy am hyn yma.

Person â phrofiad o ofal yw rhywun sy'n byw neu wedi byw mewn gofal ar unrhyw adeg yn ei fywyd. Mae hyn yn cynnwys plant sydd wedi profi - neu sy’n byw ar hyn o bryd - mewn gofal preswyl, gofal maeth, gofal gan berthnasau, neu gartref gyda gorchymyn goruchwylio. O dan 25 oed, cyfeirir atynt fel plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal.

]]>
/cy/newyddion/cyngor-yn-gwneud-profiad-o-ofal-yn-nodwedd-warchodedig/ /cy/newyddion/cyngor-yn-gwneud-profiad-o-ofal-yn-nodwedd-warchodedig/ Thu, 26 Sep 2024 14:08:13 GMT Louise Bishop
Y chwaraewr Snwcer Ray Reardon i dderbyn Rhyddid Bwrdeistref ״ Bydd Rhyddid Bwrdeistref ״ yn cael ei roi i’r chwaraewr snwcer chwedlonol, Ray Reardon, wedi ei farwolaeth. Cytunwyd ar hyn yn unfrydol yng Nghyfarfod Llawn y Cyngor heddiw.

Ganwyd Ray Reardon yn Nhredegar a gwnaeth gyfraniad mawr i fyd snwcer nid yn unig yn Nhredegar ond ledled Cymru ’r byd. Dominyddodd y gamp am y rhan orau o ddegawd gan ennill chwe Phencampwriaeth Snwcer y Byd rhwng 1970 a 1978 a mwy na dwsin o deitlau proffesiynol eraill yn ystod ei yrfa.

Bu farw ym mis Gorffennaf eleni yn 91 oed.

Dywedodd y Cynghorydd Chris Smith, Aelod Llywyddol Cyngor ״:

"Rwy'n falch iawn bod y Cyngor heddiw wedi cefnogi’r cynnig i roi Rhyddid y Fwrdeistref i’r chwaraewr snwcer Ray Reardon o Dredegar, wedi ei farwolaeth. Roedd Ray yn chwaraewr chwedlonol ac yn un o gymeriadau mawr y gamp. Roedd yn llawn ffocws ac yn benderfynol wrth y bwrdd, ond i ffwrdd ohono roedd yn adnabyddus am ei gynhesrwydd a'i hiwmor - gŵr bonheddig go iawn. Mae Ray yn haeddu'r anrhydedd uchaf y gallwn ei ddyfarnu fel Cyngor."

Ray yw'r ail chwaraewr snwcer i dderbyn yr anrhydedd yma, yn dilyn Mark Williams yn 2019. Dyma'r anrhydedd uchaf y gall Awdurdod Lleol ei roi i unigolyn.

Bydd trefniadau nawr yn cael eu gwneud i ddyfarnu'r anrhydedd yn ffurfiol.

]]>
/cy/newyddion/y-chwaraewr-snwcer-ray-reardon-i-dderbyn-rhyddid-bwrdeistref-blaenau-gwent/ /cy/newyddion/y-chwaraewr-snwcer-ray-reardon-i-dderbyn-rhyddid-bwrdeistref-blaenau-gwent/ Thu, 26 Sep 2024 15:48:42 GMT Louise Bishop
Cyngor ״ yn datgan argyfwng natur Mewn ymateb i'r bygythiad difrifol o ddirywiad i fioamrywiaeth y fwrdeistref, mae Cyngor ״ wedi datgan argyfwng natur.  Bydd hyn yn helpu i leihau neu atal colledion pellach o fioamrywiaeth a diogelu'r ardaloedd hyn ar gyfer y dyfodol.

Datganodd Cymru argyfwng natur ym mis Mehefin 2021 ac mae 11 o 22 o Gynghorau Cymru eisoes wedi gwneud yr un peth. Mae dyletswydd gyfreithiol ar bob Cyngor yng Nghymru drwy Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 i geisio cynnal a gwella bioamrywiaeth a hyrwyddo cydnerthedd ecosystemau.

Mae'r Cynllun Gweithredu Adfer Natur Lleol (LNRAP) yn nodi blaenoriaethau lleol ar gyfer gwarchod rhywogaethau a chynefinoedd ac mae bellach wedi'i fabwysiadu gan y Cyngor i helpu i wrthdroi'r argyfwng presennol. Yn ogystal, cymeradwywyd y 'Polisi Peillwyr' a fydd yn creu cynefinoedd sy'n dda i beillwyr ar dir sy'n eiddo i'r Cyngor i helpu i adfer natur ymhellach a gwrthdroi dirywiad mewn rhywogaethau, gan gynnwys pryfed peillio. 

Dywedodd y Dirprwy Arweinydd a'r Aelod Cabinet dros Leoedd a'r Amgylchedd, y Cynghorydd Helen Cunningham: 
"Mae'n hanfodol ein bod yn gweithredu'n gyflym i helpu i wrthdroi'r argyfwng ecolegol hwn. Mae newid hinsawdd wedi rhoi pwysau sylweddol ar fioamrywiaeth a bydd colli rhagor o fioamrywiaeth yn cynyddu newid hinsawdd - mae'r ddau wedi'u cysylltu'n annatod.  Mae CBS ״ wedi cydnabod difrifoldeb y sefyllfa hon trwy ddatgan argyfwng natur a bydd yn ymrwymedig i ddiogelu a gwella ein hecosystem ar gyfer cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol".

]]>
/cy/newyddion/cyngor-blaenau-gwent-yn-datgan-argyfwng-natur/ /cy/newyddion/cyngor-blaenau-gwent-yn-datgan-argyfwng-natur/ Fri, 27 Sep 2024 10:31:44 GMT Alan Powell
Dyfarnu gwobrau'r Foundation of Community Engagement i dair ysgol leol. Enillodd Ysgol Gynradd Gatholig y Santes Fair ym Mrynmawr wobr Arian y Foundation of Community Engagement.

Dywedodd Mrs Donna Hawkins, Arweinydd Ymgysylltu â Theuluoedd a Chymunedau, “Yn y Santes Fair, rydyn ni wir yn credu ei bod hi’n cymryd cymuned i fagu plentyn, ac rydyn ni’n cydnabod ac yn gwerthfawrogi pawb yn ein teulu ysgol. Mae ennill y wobr hon yn hynod bwysig i ni gan ei fod yn cydnabod gwaith caled cymuned yr ysgol gyfan. Mae fframwaith Calon y Gymuned wedi bod yn gefnogaeth enfawr wrth i ni barhau â’n taith fel Ysgol Fro.”

 

Enillodd Ysgol Arbennig Pen-y-Cwm yng Nglynebwy wobr Efydd y Foundation of Community Engagement.

Dywedodd Deborah Herald, Pennaeth, “Roeddem yn falch iawn ein bod wedi cael gwahoddiad i'r gynhadledd ieuenctid gyntaf erioed a gynhaliwyd gan y Foundation of Community Engagement yn dilyn ein gwobr Efydd. Rhannodd cynrychiolwyr ein Senedd Ysgol eu barn a chydweithio ag eraill ar yr hyn y mae cymuned yn ei olygu iddynt a beth yw rôl yr ysgol wrth adeiladu a chefnogi’r gymuned honno.

 

Fel pennaeth ysgol y mae ei dalgylch yn cwmpasu ״ GYFAN, rwy’n ymwybodol iawn o faint y gwaith dan sylw ac mae’r wobr Efydd hon yn dangos ein bod ar y trywydd iawn. Mae’r fframwaith a ddarparwyd gan Sue Davies yn helpu i arwain cynllunio datblygiad ysgol a gyda gwaith caled parhaus a chefnogaeth holl staff yr ysgol, byddwn yn parhau i ddatblygu ac ymgorffori arferion sy’n ein helpu i symud tuag at fod yn ysgol sydd wrth galon ein cymuned.”

Argymhelliad olaf yr adroddiad oedd gwrando ar ein dysgwyr felly dyma safbwynt un o’r mynychwyr, Courtney Collyer. Dywedodd Courtney “Roedd yn ddiwrnod llawn hwyl a oedd hefyd yn addysgiadol iawn. Roeddwn i wrth fy modd bod yn rhan pencadlys ffansi’r stadiwm yn Abertawe. Byddwn yn dweud mai'r brownis oedd y rhan orau o'r diwrnod, ond mewn gwirionedd roedd yn braf cael fy amgylchynu gan oedolion a oedd yn gwrando ar y plant mewn gwirionedd. Roedd yn braf cael fy nghlywed.”

Enillodd Ysgol Gynradd Willowtown yng Nglynebwy Wobr Calon y Gymuned.

Dywedodd Melanie Evans, Pennaeth, “Mae ein hysgol yn ymfalchïo yn y perthnasoedd cryf sydd wedi’u meithrin gyda’n teuluoedd ac yn wir ein cymuned. Cychwynnodd Willowtown ar daith y ‘Foundation of Community Engagement’ yn dilyn cyflwyniad angerddol ac ysbrydoledig gan y sylfaenydd Sue Davies mewn cyfarfod Prifathrawon.

Wrth i ni edrych ar y pileri ar gyfer cydnabyddiaeth daeth yn amlwg yn gyflym iawn ein bod eisoes ar ein ffordd! Fel ysgol, fe wnaethom achub ar y cyfle wedyn i ddathlu’r holl weithgareddau/cyfleoedd bendigedig oedd ar gael a/neu a oedd yn digwydd yn ddyddiol yn Willowtown. Mae rhai o’r rhain yn cynnwys ein Gwerthoedd Misol, prosiect Cynefin, Big Bocs Bwyd, gweithdai Croeso Willowtown, Gwirfoddolwyr Rhieni, PTFA, prosiectau Pontio’r Cenedlaethau, rhaglenni Lluosi a Roots of Empathy i enwi dim ond rhai!

Mae hefyd wedi ein galluogi i nodi ein cryfderau a’n camau nesaf mewn Ymgysylltu â’r Gymuned fel y gallwn barhau a ffynnu ar ein taith. Mae wedi bod yn ddull ysgol gyfan o gyflawni ein gwobr, ond hoffwn roi ‘Diolch’ arbennig i’n Harweinydd Ymgysylltu â Theuluoedd a Chymunedau yn Willowtown – Mrs Hughes.

Ein datganiad gweledigaeth yw ‘We are the vibrant beating heart of the community[GA1] ’ ac ni allwn fod yn fwy balch o weld hyn yn dod yn fyw trwy ein gwaith. #WILLOWTOWNWAY.”

Mae Ysgol Gynradd Blaenycwm wedi ennill Gwobr Calonnau’r Gymuned.

Mae Ysgol Gynradd Blaenycwm wedi ennill Gwobr Calonnau’r Gymuned. Dywedodd Mrs Sarah Oliver-Bryant, Pennaeth, “Rydym wedi cyflawni’r Efydd, Arian ac Aur gan y Sefydliad Ymgysylltu â Theuluoedd a nawr Calonnau’r Gymuned mewn llai na deuddeg mis. Gwnaeth y gwaith yr ydym yn ei wneud i gefnogi’r gymuned ym Mrynmawr, Blaenau a Nantyglo argraff fawr ar Sue Davies, a’n hasesodd. Gwnaeth ein Swyddog Ymgysylltu â Theuluoedd sy'n gweithio gyda'n holl deuluoedd a'r gymuned argraff arbennig arni. Rwyf wedi atodi rhai lluniau o’r cyflwyniad.”

     

Mae'r Foundation for Community Engagement yn annog ac yn gweithio gydag ysgolion a phartneriaid i weithio gyda'i gilydd tuag at amcanion cyffredin, i ganolbwyntio ar anghenion pobl, ar bob cam o'u bywydau.

Cynhaliodd y Foundation of Community Engagement y gynhadledd ymgysylltu â’r gymuned gyntaf a anelwyd at bobl ifanc ar draws Cymru ar 12 Gorffennaf, 2024.

Roedd y diwrnod yn gyfle anhygoel i’n pobl ifanc fynegi barn, cydweithio, ystyried hoffterau a diddordebau, a rhannu pryderon am y ffordd y mae eu cymuned yn cael ei chefnogi gan ysgolion, a sut y gall eu cymunedau lleol gefnogi ysgolion.

Cyfrannodd disgyblion o Ysgol Penycwm, Ysgol Gymunedol Tonyrefail, Ysgol Brynteg, Ysgol Uwchradd Cwmbrân, Idris Davies, Ysgol Hen Felin, Ysgol Aberdaugleddau ac Ysgol Gatholig Bendigaid Carlo Acutis eu meddyliau a’u syniadau a fydd yn cael eu rhannu ar draws Cymru.

]]>
/cy/newyddion/dyfarnu-gwobraur-foundation-of-community-engagement-i-dair-ysgol-leol/ /cy/newyddion/dyfarnu-gwobraur-foundation-of-community-engagement-i-dair-ysgol-leol/ Fri, 27 Sep 2024 13:29:45 GMT Carolyn Jenkins
Ysgol STEM y Flwyddyn 2024 ״ yn cael ei dyfarnu i Ysgol Gynradd Coed-y-Garn Llongyfarchiadau i Ysgol Gynradd Coed-y-Garn, y Blaenau a gafodd ei henwi’n ysgol Wyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM) y flwyddyn yn ddiweddar.

Gwnaeth Mrs Holder, arweinydd STEM yr ysgol, ymgysylltu’n weithredol â'r Prosiect Hwyluso STEM ar draws pob grŵp blwyddyn a gwnaeth ei brwdfrydedd, ei chreadigrwydd a'i dull cydweithredol greu argraff ar y beirniaid. Gyda gweithdai gwyddoniaeth ymarferol, ymweliadau â'r 'Ganolfan Go Green' yng Nghanolfan Ailgylchu Roseheyworth, gwersi codio gan y ' Big Learning Company' a llawer o brosiectau rhyngweithiol a dysgu eraill, mae'r plant wedi mwynhau profiad dysgu gwych.

Fel rhan o brosiect Hwyluso STEM ״, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, dyfernir pwyntiau i ysgolion ledled y fwrdeistref yn seiliedig ar eu gweithgareddau a'u hymgysylltiad â'r prosiect. Roedd Coed-y-Garn yn enillwyr haeddiannol gan gronni mwy o bwyntiau nag unrhyw ysgol arall.

Dywedodd Dr Luisa Munro-Morris, Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg Cyngor ״:
"Mae hyn yn wych i Goed-y-Garn i ennill gwobr o'r fath a chael ei chydnabod fel un o'r ysgolion cynradd STEM gorau. Mae cymaint o gyfleoedd i ni fanteisio arnynt ac rydym eisoes wedi nodi rhai posibiliadau cyffrous iawn a fydd yn gwneud i'r bobl ifanc sylweddoli pa mor fuddiol yw pynciau STEM i’w dyfodol.  Da iawn i'r holl athrawon a disgyblion hynny sydd wedi chwarae rhan enfawr yn y cyflawniad hwn."

Mae STEM yn ddull o ddysgu a datblygu sy'n integreiddio gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg. Mae sgiliau allweddol fel datrys problemau, llythrennedd digidol, dadansoddi beirniadol, cyfathrebu a meddwl annibynnol ymhlith y sgiliau newydd sydd eu hangen ar blant i ragori trwy gydol eu taith ddysgu.

 
     
 

Plant yng Nghoed-y-Garn yn mwynhau rhai o'r gweithgareddau STEM niferus a enillodd y wobr Ysgol STEM y Flwyddyn 2024 iddyn nhw.

]]>
/cy/newyddion/ysgol-stem-y-flwyddyn-2024-blaenau-gwent-yn-cael-ei-dyfarnu-i-ysgol-gynradd-coed-y-garn/ /cy/newyddion/ysgol-stem-y-flwyddyn-2024-blaenau-gwent-yn-cael-ei-dyfarnu-i-ysgol-gynradd-coed-y-garn/ Fri, 27 Sep 2024 14:24:02 GMT Alan Powell
Lansio canolfan gwaith a menter a gynlluniwyd i hybu busnes ym Mlaenau Gwent Mae canolfan gwaith a menter newydd, a gynlluniwyd i roi'r cymorth sydd ei angen ar bobl leol i ddechrau a thyfu eu busnesau, wedi agor yng Nglynebwy, ״. Ariannwyd yr adeilad gan Lywodraeth Cymru - Cymoedd Technoleg ac ariannwyd y gwaith ffitio mewnol gan Biler Cefnogi Busnes Lleol Cronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.

Wedi'i leoli ar Lime Avenue, Glynebwy, mae Gwaithaur wedi cael ei lansio gan Gyngor Bwrdeistref Sirol ״ (GBSBG) a bydd yn ofod i weithwyr llawrydd, gweithwyr a sylfaenwyr weithio ochr yn ochr â'i gilydd, gan feithrin cymuned gefnogol ar gyfer busnesau newydd a busnesau bach.

Mae Gwaithaur yn adeilad modern gydag eco-gymwysterau uchel. Mae wedi’i ardystio gan BREEAM sy'n mesur safonau perfformiad adeilad gan sicrhau ei fod yn bodloni nodau cynaliadwyedd yr awdurdod a Chymru.

Wedi'i weithredu gan dîm menter Busnes ac Arloesi'r Cyngor, mae gan y gweithle modern nifer o swyddfeydd bach a chanolig, gofod cydweithio a sawl ystafell gyfarfod.

Bydd y gofod hefyd yn cynnig mynediad i'w aelodau at gefnogaeth un-i-un, mentora, gweithdai busnes a digwyddiadau rhwydweithio trwy ei Dîm Busnes ac Arloesi, mewn partneriaeth â’r Arbenigwyr cydweithio a busnesau bach Town Square Space Ltd.

Mae TownSq wedi cefnogi CBSBG yn y cyfnod cyn lansiad Gwaithaur a bydd yn parhau i ddarparu cymorth busnes, gan gynnwys mynediad at raglenni dechrau a chyflymu busnes ar gyfer aelodau Gwaithaur fel un o fannau Cyswllt swyddogol TownSq. 

Dywedodd y Cynghorydd John Morgan, Aelod Cabinet Datblygu Economaidd ac Adfywio Cyngor Bwrdeistref Sirol ״:

"Mae ein Tîm Busnes ac Arloesi wedi sicrhau y bydd y cyfleuster yn cynnig yr ansawdd a'r gwerth gorau i unrhyw fusnes sy'n chwilio am le i weithio ohono a thyfu. Bydd yn plethu â'n gwasanaethau mentrau eiddo a chymorth busnes eraill y mae'r tîm yn eu cynnig."

Mae TownSq wedi cefnogi miloedd o fusnesau bach i ddechrau, tyfu a chodi buddsoddiad. Ers ei sefydlu yn 2017, mae TownSq yn parhau i ledaenu ei ddull gweithredu cymunedol ledled y DU, gan feithrin gofod cefnogol i bobl a busnesau ffynnu.

Dywedodd cyd-sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol TownSq, Gareth Jones, eu bod yn falch iawn o groesawu Gwaithaur i rwydwaith TownSq o weithfannau:

"Yn gynyddol rydym yn gweithio gyda phartneriaid i'w helpu i greu lleoedd sydd wedi'u hadeiladu ar wersi a phrofiadau ein tîm dros y 13 mlynedd diwethaf, ac mae Gwaithaur yn enghraifft wych o hyn - ein gofod cyswllt diweddaraf.

"Mae'r tîm ym Mlaenau Gwent wedi ymrwymo i greu amgylchedd gwych ar gyfer sylfaenwyr, gweithwyr llawrydd ac entrepreneuriaid ym Mlaenau'r Cymoedd, ac mae Gwaithaur yn ased arall i helpu i gyflawni'r nod hwn.

"Ein gobaith yw y gall ״ elwa o'r dull gweithredu cymunedol hwn, gan ddod â busnesau newydd uchelgeisiol o'r un feddylfryd at ei gilydd i rannu mewnwelediadau a chefnogi datblygiad ei gilydd. Mae llawer i fod yn gyffrous amdano ar gyfer busnesau lleol ac rydym yn falch iawn o chwarae rhan yn llwyddiant y prosiect hwn."

I gael rhagor o wybodaeth am Gwaithaur neu i archebu taith, ewch i , e-bostiwch goldworks@blaenau-gwent.gov.uk neu ffoniwch 01495 369704.

Town Square Spaces Ltd (TownSq)

Mae TownSq yn creu cymunedau ar draws y DU sy'n creu a thyfu menter trwy gydweithio, cefnogaeth ac arweinyddiaeth. Mae'r busnes yn gweithredu canolfannau yng Nghymru, Swydd Rydychen, Gorllewin Sussex, Dyfnaint, Henffordd a Llundain, a gall gefnogi pobl o’r adeg y maen nhw’n cael syniad hyd at sefydlu, buddsoddi a thwf. Mae'n rhedeg Startup Club, rhaglen cymorth ar-ôl-gwaith i helpu pobl sydd am ddechrau busnes ond nad ydyn nhw’n gallu rhoi'r gorau i'w swydd, yn ogystal â TownSq Accelerator, i fusnesau sy'n anelu at dyfu'n gyflym.

Cyllidwyr

Llywodraeth Cymru – Rhaglen Cymoedd Technoleg

Piler Cefnogi Busnes Lleol y Gronfa Ffyniant Gyffredin trwy W24: Canolfannau hyfforddi, cynigion cymorth busnes, deoryddion a chyflymwyr.

]]>
/cy/newyddion/lansio-canolfan-gwaith-a-menter-a-gynlluniwyd-i-hybu-busnes-ym-mlaenau-gwent/ /cy/newyddion/lansio-canolfan-gwaith-a-menter-a-gynlluniwyd-i-hybu-busnes-ym-mlaenau-gwent/ Mon, 14 Oct 2024 08:59:45 GMT Louise Bishop
Murlun safle bws wedi ei beintio gan bobl ifanc yn cydnabod eu harwyr lleol yn Abertyleri Mae pobl ifanc wedi defnyddio celf graffiti i gynhyrchu murlun o arwyr cymunedol lleol ar safle bws yn Abertyleri, ״, wrth iddynt weithio i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i'w cymuned.

Mae'r bobl ifanc dan sylw yn rhan o grŵp Dyfodol Cadarnhaol Gwasanaeth Ieuenctid Cyngor ״. Daeth y murlun i fodolaeth ar ôl ymgysylltu â'r grŵp ar yr hyn roedden nhw'n credu allai fod yn weithgareddau cadarnhaol i helpu i ddargyfeirio pobl ifanc i ffwrdd o ymddygiad gwrthgymdeithasol yn yr ardal. Gwnaethant fynegi diddordeb mewn celf graffiti y gellid ei defnyddio mewn ffordd gadarnhaol.

Mae'r prosiect murlun yn rhan o fenter ehangach, Tasglu Ymddygiad Gwrthgymdeithasol newydd dan arweiniad Cyngor ״ mewn partneriaeth â'r Gwasanaeth Ieuenctid, Heddlu Gwent a Tai Calon Community Housing. Mae'r Tasglu yn cysylltu â chymunedau lleol i fynd i'r afael â phryderon am ymddygiad gwrthgymdeithasol a gyflawnir gan bobl o bob oed, gan gefnogi pobl i roi gwybod amdano a gweithio i fynd i'r afael â rhai o'r achosion sylfaenol.

Ar ôl cynnal arolwg ar-lein, dewisodd y bobl ifanc Jack a Richard Shore i ymddangos ar y murlun, tad a mab sy’n adnabyddus ac uchel eu parch am eu gwaith gyda Chrefft Ymladd Gymysg yn y gymuned. Mae Jack Shore, o Abertyleri, yn athletwr proffesiynol crefft ymladd gymysg o Gymru sydd ar hyn o bryd yn cystadlu yn adran Pwysau Plu’r Bencampwriaeth Ymladd Eithaf (UFC).  Mae ei dad Richard yn adnabyddus yn y gymuned am redeg campfa MMA a gweithio gyda phobl ifanc.

Hefyd yn ymddangos ar y murlun mae Alex Wiltshire (Boyo) sydd wedi cael ei gydnabod am ei waith gyda phobl ifanc yn y fwrdeistref, gan ddatblygu eu sgiliau celf, gan gynnwys, ffilmio, ysgrifennu cerddoriaeth a pherfformio.

Roedd y gymuned hefyd am gydnabod y Gwarcheidwad yn Abertyleri, a gomisiynwyd i goffáu 50 mlynedd ers y drychineb fwyngloddio yn Chwe Chloch ym 1960 a laddodd 45 o ddynion. Mae'r cerflun hefyd yn ymddangos ar y murlun.

Roedd Richard, Jack ac Alex i gyd yno gyda'r bobl ifanc o'r grŵp i ddadorchuddio'r prosiect yn swyddogol. Yn ymuno â nhw roedd yr Aelod Cabinet sy’n gyfrifol am Ddiogelwch Cymunedol, y Cynghorydd Helen Cunningham, cynghorydd ward lleol, y Cynghorydd Keith Chaplin, a chynrychiolwyr Heddlu Gwent.

Dywedodd yr Aelod Cabinet, y Cynghorydd Helen Cunningham:

"Mae'n hyfryd gweld y murlun yn dod â lliw i’r safle bws yn Abertyleri. Mae’n well fyth ei fod yn cynnwys wynebau lleol y mae'r bobl ifanc yn eu hedmygu ac yn cael eu hysbrydoli ganddynt.

"Mae ymddygiad gwrthgymdeithasol yn effeithio ar ansawdd bywyd pobl a pha mor ddiogel maen nhw'n teimlo gartref ac allan yn y gymuned.  Diolch i'r holl drigolion a busnesau sydd wedi ymgysylltu â gwaith y Tasglu ac am eu gwyliadwriaeth a'u cydweithrediad wrth roi gwybod am ymddygiad gwrthgymdeithasol.  Yn flaenorol, rydym wedi rhannu ein llwyddiant yn cael Gwaharddebau Sifil yn erbyn unigolion sy'n mynnu cyflawni ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mae heddiw’n ymwneud â thaflu goleuni ar y ffyrdd y mae pobl ifanc yn edrych at eu modelau rôl eu hunain ac yn ysbrydoli eraill i ddilyn eu hesiampl a lleihau apêl ymddygiad gwrthgymdeithasol yn eu cymdogaethau".

Dywedodd Alex Wiltshire:

"Mae'n anrhydedd i mi gael fy ystyried a'm cynnwys fel rhan o'r darn celf cymunedol hwn sy'n canolbwyntio ar ysbrydoliaeth a dyfodol cadarnhaol yn ein cymoedd.  Mae'n anhygoel gweld canlyniadau undod a chreadigrwydd yn ein hardal."

Mae'r gwasanaeth ieuenctid yn darparu grŵp Dyfodol Cadarnhaol gyda phobl ifanc o ysgolion uwchradd lleol ddeuddydd yr wythnos. Nod y prosiect yw cefnogi pobl ifanc sydd ar drothwy gwaharddiad parhaol ac sydd ar fin cael eu derbyn i'r system cyfiawnder ieuenctid am y tro cyntaf.

Diolch yn fawr i Anthony Smith yn Consumersmith Fine Art, yr artist a roddodd y cymorth, y sgiliau a'r hyder i bobl ifanc gynhyrchu'r gwaith celf.

Mae'r prosiect wedi cael ei ariannu gan Lluosi drwy Gyllid Ffyniant Gyffredin. Mae'r bobl ifanc wedi cymryd rhan o'r dechrau i'r diwedd gyda'r prosiect, gan gynnwys rheoli'r gyllideb, sydd wedi cefnogi datblygiad eu sgiliau rhifedd.

Dyma ail brosiect celf graffiti y Gwasanaeth Ieuenctid ym Mlaenau Gwent, gydag un yn y maes parcio yn Y Gwaith, Glynebwy, yn dathlu treftadaeth lofaol yr ardal, ac rydym yn gobeithio gwneud mwy cyn bo hir. Maen nhw nid yn unig yn edrych yn wych, ond hefyd yn helpu i roi ymdeimlad o falchder go iawn i bobl ifanc yn eu cymuned.

Dysgwch fwy am y Tasglu Ymddygiad Gwrthgymdeithasol ym Mlaenau Gwent yma – /cy/preswylwyr/argyfyngau-ac-atal-troseddau/diogelwch-cymunedol/ymddygiad-gwrthgymdeithasol/

]]>
/cy/newyddion/murlun-safle-bws-wedi-ei-beintio-gan-bobl-ifanc-yn-cydnabod-eu-harwyr-lleol-yn-abertyleri/ /cy/newyddion/murlun-safle-bws-wedi-ei-beintio-gan-bobl-ifanc-yn-cydnabod-eu-harwyr-lleol-yn-abertyleri/ Tue, 15 Oct 2024 12:10:09 GMT Louise Bishop
Athletwr sydd wedi torri record i gael ei gydnabod yn ei dref enedigol Glynebwy Mi fydd Hydref 21ain yn nodi 40 mlynedd o fuddugoliaeth arwyddocaol Steve Jones yn Farathon Chicago 1984, buddugoliaeth a daliodd y byd a chryfhaodd ei le yn hanes athletau. Ar y diwrnod hwnnw ym 1984, nid yn unig y croesodd Jones o Lynebwy y llinell derfyn gyntaf ond chwalodd recordiau hefyd, gan ddangos cyfuniad rhyfeddol o stamina, penderfyniad, a grym ewyllys pur.

Mae Cyngor ״, mewn partneriaeth â Chlwb Rhedeg Parc Bryn Bach, yn cydweithio i drafod syniadau ar sut i goffáu cyflawniadau Steve ac arddangos ei fuddugoliaethau wrth i’r garreg filltir anferth hon agosáu. Y nod yw sicrhau bod cenedlaethau'r dyfodol yn cael eu hysbrydoli gan ei daith ryfeddol a bod ei etifeddiaeth yn parhau i ysgogi athletwyr uchelgeisiol.

I wireddu’r prosiectau hyn, lansiodd Clwb Rhedeg Parc Bryn Bach apêl i ennyn cefnogaeth gymunedol a mwy, gyd’r nod o anrhydeddu llwyddiannau rhyfeddol Steve Jones. Mae rhoddion wedi rhagori ar £4,000. Mae'r Cyngor hefyd ar hyn o bryd yn archwilio opsiynau ariannu i gydweithio ar etifeddiaeth barhaus.

Mae’r Cynghorydd Sue Edmunds, aelod etholedig De Glynebwy ac Aelod Cabinet y Cyngor dros Bobl ac Addysg yn gweithio ar y cynlluniau gyda thîm o’r Cyngor ar ôl i’r clwb rhedeg gysylltu â nhw.

ѱ岹’r Cynghorydd Edmunds:

“Pan gipiodd Steve Jones y teitl ym Marathon Chicago, fe wnaeth fwy nag ennill ras; gosododd record byd newydd, gan gwblhau'r cwrs mewn 2 awr, 8 munud, a 5 eiliad rhyfeddol. Nid buddugoliaeth bersonol yn unig oedd y gamp hon ond carreg filltir a ysbrydolodd athletwyr yn fyd-eang. Amlygodd ei berfformiad y safonau eithriadol o ddygnwch a chyflymder sydd eu hangen i ragori mewn rhedeg pellter hir. Roedd effaith ei gyflawniad yn adleisio trwy'r gymuned chwaraeon, gan godi'r bar ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol o redwyr marathon.

“Mae taith Steve o’n tref ni yng Nglynebwy i lwyfan y byd yn dyst i’w ymroddiad diwyro a’i angerdd dros y gamp. Siapiodd Glynebwy, tref sy’n adnabyddus am ei threftadaeth ddiwydiannol gyfoethog, Jones yn unigolyn gwydn a gweithgar. Gan dyfu i fyny mewn cymuned glos, trwythodd werthoedd dyfalbarhad a dycnwch, a ddaeth yn ddiweddarach yn gonglfeini ei yrfa athletaidd.

“Rhoddodd cefndir Jones yng Nglynebwy bersbectif unigryw ac etheg waith gadarn iddo. Er gwaethaf heriau hyfforddi mewn tref sy'n fwy enwog am ei gwaith dur na'i chyfleusterau chwaraeon, roedd penderfyniad Jones yn ei yrru ymlaen. Mae ei stori yn ffagl gobaith, gan ddangos y gall mawredd ddod i'r amlwg o'r lleoedd mwyaf diymhongar.

“Wrth i ni ddathlu 40 mlynedd ers buddugoliaeth hanesyddol Steve Jones, rydyn ni hefyd yn myfyrio ar yr etifeddiaeth barhaus y mae wedi’i gadael ar ei ôl. Mae ei gyflawniadau wedi ysbrydoli unigolion di-ri i ddilyn eu breuddwydion, gwaeth beth fo'r rhwystrau y gallent eu hwynebu. Mae stori Jones yn parhau i atseinio, gan ein hatgoffa, gydag angerdd, ymroddiad, a gwaith caled, bod llwyddiannau eithriadol o fewn cyrraedd.

“Wrth anrhydeddu Steve Jones MBE, rydym nid yn unig yn talu teyrnged i athletwr rhyfeddol ond hefyd yn dathlu’r ysbryd o benderfyniad a rhagoriaeth y mae’n ei ymgorffori. Wrth i’r blynyddoedd fynd heibio, mae arwyddocâd cyflawniadau Steve Jones ym Marathon Chicago yn parhau i fod yn ddibwys, gan fod yn atgof tragwyddol o’r hyn y gellir ei gyflawni gydag ymrwymiad diwyro ac ysbryd anorchfygol.”

Trwy'r ymdrech gydweithredol hon, y gobaith yw nid yn unig dathlu buddugoliaethau Steve yn y gorffennol ond hefyd meithrin ysbryd o ragoriaeth athletaidd o fewn ein cymuned. Y gobaith yw adeiladu teyrnged addas i eicon go iawn ac ysbrydoli sawl un arall i fynd ar ôl eu breuddwydion gyda'r un egni a phenderfyniad ag y dangosodd Steve trwy gydol ei yrfa ddisglair.

]]>
/cy/newyddion/athletwr-sydd-wedi-torri-record-i-gael-ei-gydnabod-yn-ei-dref-enedigol-glynebwy/ /cy/newyddion/athletwr-sydd-wedi-torri-record-i-gael-ei-gydnabod-yn-ei-dref-enedigol-glynebwy/ Mon, 21 Oct 2024 14:28:39 GMT Louise Bishop
Enillwyr Tîm Prosiect Hwyluso STEM ״, Gwobrau STEM Cymru 2024  Mae Tîm Prosiect Hwyluso STEM ״ wedi ennill Gwobr Rhaglen Addysgol STEM y Flwyddyn (Sector Cyhoeddus) yng Ngwobrau STEM mawreddog Cymru a gynhaliwyd yng Ngwesty’r Mercure Holland House, Caerdydd ddydd Iau diwethaf 17 Hydref 2024.

Mae categori’r wobr yn cydnabod menter ragorol wrth fynd i’r afael â’r bwlch amrywiaeth a phrinder sgiliau Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM) tra’n codi dyheadau ar gyfer y genhedlaeth nesaf o fyfyrwyr STEM.

Mae ennill gwobr o’r fath yn gryn gamp gan fod llawer o sefydliadau adnabyddus a sefydledig eraill yn cystadlu yn yr un categori megis Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol De Cymru.

Meddai Dr Luisa Munro-Morris, Cyfarwyddwr Corfforaethol Addysg Cyngor ״:
“Mae hwn yn gyflawniad gwych i’r Tîm Prosiect Hwyluso STEM, mae’n foment mor falch iddynt gael eu cydnabod am yr holl waith caled y maent wedi’i wneud. Mae STEM yn rhan annatod o gwricwlwm yr ysgol, ac mae mor galonogol bod y safonau uchel hyn yn eu lle yn barod ar gyfer y dyfodol.”

Mae STEM yn ddull o ddysgu a datblygu sy'n integreiddio gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg. Mae sgiliau allweddol fel datrys problemau, llythrennedd digidol, dadansoddi beirniadol, cyfathrebu a meddwl yn annibynnol ymhlith y sgiliau newydd sydd eu hangen ar blant i ragori ar eu taith ddysgu.

ѱ岹’r Cynghorydd John C Morgan - Aelod Cabinet - Lleoedd ac Adfywio a Datblygu Economaidd:
“Roedd safon yr ymgeiswyr yn y categori hwn yn hynod o uchel sy’n gwneud ennill y wobr hon hyd yn oed yn fwy trawiadol. Mae datblygu arbenigedd STEM yn hanfodol ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol a’n heconomi yn enwedig gan fod arbenigedd yn y gweithle yn newid mor gyflym. Mae hyn yn dangos bod gennym ni lwyfan STEM rhagorol eisoes ar waith, sy’n galluogi busnesau ym Mlaenau Gwent i recriwtio ymgeiswyr â setiau sgiliau yn barod ar gyfer eu hanghenion busnes sy’n newid yn barhaus.”

Meddai Tara Lane, Rheolwr Tîm Cymunedau Cysylltiedig:
“Rwy’n falch iawn bod y Tîm STEM wedi derbyn gwobr o’r fath, mae nid yn unig yn amlygu pwysigrwydd STEM yn ein hysgolion ond hefyd y gwerth sylweddol ar gyfer dyfodol ein busnesau a’n gweithleoedd ledled y fwrdeistref. Mae’r cysylltiadau rhwng addysg a busnes yn hollbwysig ar gyfer cynnydd gan y bydd y sgiliau sydd eu hangen yn y gweithle yn newid yn sylweddol ac yn gyflymach nag y maent wedi’i wneud ar gyfer cenedlaethau blaenorol. Mae’r wobr hon yn dangos sut rydym wedi croesawu newid ac yn paratoi ar gyfer datblygu economaidd yn y dyfodol.” 

 
O’r chwith i’r dde: Darllenydd newyddion teledu Cymraeg Lucy Owen, Samuel Harris Swyddog Cyswllt (Hwyluso STEM CBSBG) Hybiau HiVE, Swyddog Cyswllt (Prosiect Hwyluso STEM CBSBG), Tara Lane (Rheolwr Tîm Cymunedau Cysylltiedig CBSBG) a Julie Timothy (Arweinydd Tîm Hwyluso STEM CBSBG), yn dal y wobr.  

Gwobr Rhaglen Addysgol STEM y Flwyddyn (Sector Cyhoeddus) ״.

        
   
O'r chwith i'r dde: Mark Langshaw , Rheolwr Gyfarwyddwr Continental Teves UK Ltd, Julie Timothy (Arweinydd Tîm Hwyluso STEM CBSBG), yn dal y wobr. Tara Lane (Rheolwr Tîm Cymunedau Cysylltiedig CBSBG) a'r Cynghorydd John C Morgan, Aelod Cabinet CBSBG dros Leoedd ac Adfywio a Datblygu Economaidd.    
]]>
/cy/newyddion/enillwyr-tim-prosiect-hwyluso-stem-blaenau-gwent-gwobrau-stem-cymru-2024/ /cy/newyddion/enillwyr-tim-prosiect-hwyluso-stem-blaenau-gwent-gwobrau-stem-cymru-2024/ Tue, 22 Oct 2024 09:02:45 GMT Alan Powell
Don’t Bin The Pumpkin please place your Pumpkins on top or to the side of your food caddy to be recycled What should I do with my pumpkins?

This Halloween, remember how powerful food recycling can be. When carving your pumpkin, don’t throw the seeds in the centre away- recycle them or, even better, reduce your waste even more by making something delicious and healthy out of the insides, like this Spicy Pumpkin Soup.

Spicy Pumpkin Soup

Preparation time – 5 mins
Cooking time - 60 minutes
Serves 1

Ingredients
Half a pumpkin
1 sweet potato
1/2 red pepper
1½ cups (375 ml) of water
1 cup (250 ml) full fat milk
1 red chilli
Pinches of salt and pepper for seasoning

Method
1. Preheat the oven to 190 degrees Celsius.
2. Remove the pumpkin flesh with a spoon, and peal the sweet potato.
3. Chop the pumpkin and sweet potato into 1 inch cubes.
4. Slice the red peppers and put all vegeta-bles on a roasting tray, with a drizzle of oil.
5. Place in the oven to roast for 30-40 minutes, until soft.
6. Allow all the vegetables to cool a little.
7. Once cool enough to handle, add the pumpkin, sweet potato and peppers to a blender with the water, milk and diced chil-li, and blend until smooth.
8. Pour into a saucepan and heat until piping hot, adding more water if you like a slightly thinner soup.
9. Season to taste with salt and pepper.

Chef’s tip: To give the soup a sweeter fla-vour, roast the pumpkin and sweet potato until they are dark and caramelised. It is im-portant to allow the veg to cool before put-ting in the blender as the pressure of the steam could create a mess in the kitchen!

Use up: Use up some uncooked veg that you may have left over from another dish.
Variations: To make this a more balanced dish, you can serve with garlic croutons or a few slices of bread and butter. You can also vary the ingredients buy using butternut squash instead of, or as an addition to, the pumpkin!

Extra flavour: Adding your own mix of herbs and spices can really enhance this dish, such as coriander, cumin, oregano or fennel seeds.

Freezer advice: It is a fantastic idea to freeze portions of this soup, which allows you to have homemade soup on future occa-sions without the prep time!
Vegan options: To adapt this dish for ve-gans, replace the milk with vegetable stock or coconut milk, both of which will create different flavours.

Allergy advice: This versatile dish is easily adapted to avoid allergens and be suitable for most diets.
Food recycling is available across Wales. Find out more about how to recycle by visit-ing www.recycleforwales.org.uk

 

]]>
/cy/newyddion/enillwyr-tim-prosiect-hwyluso-stem-blaenau-gwent-gwobrau-stem-cymru-2024/don-t-bin-the-pumpkin-please-place-your-pumpkins-on-top-or-to-the-side-of-your-food-caddy-to-be-recycled/ /cy/newyddion/enillwyr-tim-prosiect-hwyluso-stem-blaenau-gwent-gwobrau-stem-cymru-2024/don-t-bin-the-pumpkin-please-place-your-pumpkins-on-top-or-to-the-side-of-your-food-caddy-to-be-recycled/ Tue, 22 Oct 2024 14:25:33 GMT Alan Powell
Anfarwoli Arwr Lleol Efallai fod Walter Conway yn enw cyfarwydd i drigolion Tredegar ym Mlaenau Gwent ond y tu allan i’r dref dyffryn hon mae’n llai adnabyddus. Fodd bynnag, mae cyfres o ddigwyddiadau yr wythnos hon yn amcanu at newid hyn.

Mae murlun wedi cael ei beintio ar ganolfan siop’r dref lle mae portread hardd o Walter Conway wedi’i amgylchynu gan ddelweddau o leoliadau a oedd yn bwysig iddo. Mae’r rhain yn cynnwys Pwll Rhif 1 Pochin lle bu’n gweithio dan ddaear, Eglwys Bresbyteraidd Park Place lle’r oedd yn ddiacon ac yn athro, Swyddfeydd Cymorth Meddygol Tredegar ’r Feddygfa Ganolog.

ѱ岹’r arlunydd Paul Shepherd (Walls by Paul): ‘Dym’r pedwerydd i mi ei beintio yn y gyfres hon. Rwyf wedi dysgu cymaint am yr holl gymeriadau ac mae pob un wedi bod yn rhyfeddol yn ei rinwedd ei hun. Roedd hi’n ddifyr dod i wybod am rôl Walter yn iechyd a lles Tredegar ’r DU.’

Dadorchuddiwyd Plac Glas ar 1 Rawlinson Terrace, Tredegar, y cartref lle treuliodd Walter y rhan fwyaf o’i fywyd priodasol gyda’i deulu. Dadorchuddiwyd y plac gan Jeremy Miles, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Hen Wyresau Walter, Julie Watkin ac Allison Nutland.

Ganed Walter yn Rhymni ac roedd ganddo frawd iau. Yn drist, bu farw ei rieni’n ifanc, gan adael Walter a’i frawd yng ngofal Bwrdd y Gwarcheidwaid yn Wyrcws Bedwellte. Yma datblygodd ei gariad at lyfrau, yr oedd yn aml yn cyfeirio atynt fel ei ffrind gorau, a chafodd ei ddysgu i ‘wneud popeth yn dda’, mantra a arhosodd gydag ef trwy gydol ei fywyd.

Ar ôl gadael y wyrcws, symudodd i mewn i lety a daeth yn löwr ym Mhwll Rhif 1 Pochin. Priododd Walter â Mary Elizabeth Morgan ym 1898 ac fe gafodd y cwpl 3 merch a mab. Roedd y teulu’n addoli yn Eglwys Bresbyteraidd Park Place lle’r oedd Walter yn Ddiacon ac yn Athro Ysgol Sul.

Ym 1908 fe’i hetholwyd i Fwrdd Gwarcheidwaid Bedwellte, y sefydliad a fu’n gyfrifol am ei ofal cynnar yn y wyrcws. Roedd Walter yn aelod cynnar o’r Blaid Lafur Annibynnol, gan ymuno i ddechrau ac yna dod yn un o aelodau cychwynnol cangen Tredegar ym 1911. Roedd Walter hefyd yn fentor i’r Aneurin Bevan ifanc. Ym 1920 fe wnaeth Walter a’i ffrindiau, gan gynnwys Aneurin Bevan ifanc, ffurfio Query Club, a oedd yn gymdeithas ddadlau sosialaidd.

Ond yn fwy na dim mae’n cael ei gofio fel ysgrifennydd Cymdeithas Cymorth Meddygol Gweithwyr Tredegar. Fe’i penodwyd ym 1915 a thros y 18 mlynedd nesaf tyfodd y Gymdeithas dan ei stiwardiaeth i fod yn un o’r cymdeithasau gorau, gan ddenu aelodaeth o ardal ehangach. Roedd Cymdeithas Cymorth Meddygol Gweithwyr Tredegar yn darparu gwasanaethau meddygol ar gyfer 20,000 o bobl leol, oddeutu 95% o boblogaeth y dref. Roedd y gymdeithas yn gweithredu meddygfeydd a oedd yn cyflogi 5 meddyg, 2 ddeintydd, nyrsys a staff cymorth. 

Pan fu farw dywedodd yr AS lleol fod Walter ‘yn ymgorffori gwirionedd ac uniondeb a phopeth oedd yn dda ym mywyd Tredegar.'

ѱ岹’r Cyngh. John Morgan, yr Aelod Cabinet dros Le ac Adfywio: ‘Roedd Walter Conway yn arwr yn y dref hon. Mae cof annwyl amdano hyd heddiw. Pan sefydlodd Bevan y rhaglen adeiladu tai fwyaf yn y DU yn dilyn yr 2il Ryfel Byd, fe wnaeth y cyngor lleol enwi stryd er anrhydedd iddo – Walter Conway Avenue. Yn fwy diweddar mae Cyngor ״ wedi gosod mainc â cherfluniau yn y cylch sy’n edrych dros swyddfeydd y Gymdeithas Cymorth Meddygol ond yn awr rydym yn coffau ei le mewn hanes yn ffurfiol gyd’r Plac Glas hwn a murlun trawiadol yng nghanol y dref. Gobeithio bod hyn nid dim ond yn coffau’r hyn a gyflawnodd ond hefyd yn annog cenedlaethau newydd i archwilio’r hyn a gyflawnodd ac yn rhoi ysbrydoliaeth iddynt i ddilyn eu breuddwydion. Yn olaf, hoffwn ddiolch i Paul am y murlun anhygoel y mae wedi’i greu yng nghanol y dref ac i Marcus a Hayley, am ganiatáu i ni osod y Plac Glas hwn ar eu cartref’.

Meddai Julie Watkin ac Allison Nutland, ei Hen Wyresau: ‘Ac yntau wedi colli ei rieni pan oedd yn fachgen bach, cafodd Walter ei leoli yn Wyrcws Bedwellte lle datblygodd ei gariad at lyfrau a’i awch am wybodaeth. Yn ddiweddarach yn ei oes byddai’n dal i gyfeirio ato’i hun fel bachgen y wyrcws. Fel ysgrifennydd Cymdeithas Cymorth Meddygol Tredegar roedd yn “ymroddedig i waith y Gymdeithas” ac yn “ymgorffori popeth oedd yn dda ym mywyd Tredegar”. Mae Cymdeithas Cymorth Meddygol Tredegar bellach yn cael ei chydnabod yn ffynhonnell llawer o’r syniadau newydd a radical ar gyfer gofal iechyd cyffredinol a fyddai’n esblygu’n Wasanaeth Iechyd Gwladol ryw bymtheng mlynedd ar ôl ei farwolaeth anhymig.’

Meddai Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Jeremy Miles: ‘Mae’n fraint nodi’r cyfraniad a wnaeth Walter Conway i iechyd y cyhoedd yn Nhredegar a’i rôl yn hanes ein GIG. Mae’n dda gennyf weld ei gyflawniadau’n cael eu dathlu heddiw. Roedd yn weinyddwr iechyd eithriadol a helpodd Gymdeithas Cymorth Meddygol Tredegar i lwyddo, gan ysbrydoli Bevan a chenedlaethau aneirif wedi hynny.’

Cefnogwyd y murlun ’r plac gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU. Dylai ymwelwyr â Thredegar ymweld ag Amgueddfa Tredegar yn Llyfrgell Tredegar a Chanolfan Dreftadaeth Cymdeithas Cymorth Meddygol Gweithwyr Tredegar hefyd. Mae’r ddwy wedi’u lleoli yn Y Cylch, calon treftadaeth y dref.

 

 
Jeremy Miles, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gorwyresau Walter, Julie Watkin ac Allison Nutland yn dadorchuddio’r Plac Glas. Plac glas yn cael ei arddangos yn 1 Rawlinson Terrace, Tredegar lle’r oedd Walter yn byw.
 

 
O'r chwith i'r dde: Jeremy Miles, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ״, Y Cynghorydd John C Morgan Aelod Cabinet - Lleoedd ac Adfywio a Datblygu Economaidd – Cynghorydd ״, Y Cynghorydd Jacqueline Thomas, Cynghorydd ״, Chris Smith, Aelod Llywyddol a Hyrwyddwr Cydraddoldeb a Chynghorydd ״, Tommy Smith.   Walter Conway - Ffotograff o Orwyresau Walter, Julie Watkin ac Allison Nutland gyd’r Plac Glas.


 
Jeremy Miles, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol gyd’r Cynghorydd John C Morgan o Flaenau Gwent, Aelod Cabinet - Lleoedd ac Adfywio a Datblygu Economaidd o flaen murlun Walter Conway yng Nghanolfan Siopa Gwent, Tredegar. Murlun wedi'i baentio gan Paul Shepherd (Muriau gan Paul).   O’r chwith i’r dde: Prif Ferch Ysgol Gynradd Georgetown, Prif Fachgen a Phrif Ferch Ysgol Gyfun Tredegar, Prif Fachgen Ysgol Gynradd Georgetown, Jeremy Miles, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ’r Cynghorydd John C Morgan Aelod Cabinet - Lleoedd ac Adfywio a Datblygu Economaidd.

 

]]>
/cy/newyddion/anfarwoli-arwr-lleol/ /cy/newyddion/anfarwoli-arwr-lleol/ Fri, 25 Oct 2024 12:24:11 GMT Alan Powell
Dysgwr Cymreig Lleol yn orchfygol yn yr Eisteddfod Genedlaethol

Gyda balchder mawr, hoffwn gyflwyno Antwn Owen-Hicks o Sirhowy, Tredegar, sydd wedi cael yr anrhydedd ennill gwobr uchelgeisiol Dysgwr y Flwyddyn yng Nghymru yn Eisteddfod Genedlaethol eleni, a gynhaliwyd ym mis Awst ym Mharc Ynys Angharad, Pontypridd. Dros y 30 mlynedd diwethaf, mae ymroddiad di-dor Antwn i ddysgu'r Gymraeg wedi'i yrru gan ei angerdd am gerddoriaeth a'i rôl fel aelod sylfaenydd y band Carreg Lafar.

Yn wreiddiol o Bontllanfraith ac yn symud i Ganada, yna dychwelyd yn 7 oed, cofrestrwyd Antwn i ysgol cyfrwng Saesneg. Dechreuodd ei daith tuag at groesawu ei dreftadaeth Gymreig mewn gwirionedd wrth astudio celf yn Llundain. Gan deimlo'n anghysondeb mawr oddi wrth ei wreiddiau, troed at gerddoriaeth gwerin Gymraeg, a ysgogodd gariad dwfn a pharhaol at yr iaith.

Drwy ymdrech parhaus ac ymrwymiad i feistroli Cymraeg, mynegodd Antwn amryw o gyrsiau iaith a llwyddodd i fod yn rhugl. Cafodd ei daith ei gefnogi'n fawr gan ei gyd-bandwyr a'i wraig,

Linda, yn ogystal â'i waith proffesiynol gyda Chyngor Celfyddydau Cymru, lle'r oedd yn defnyddio'r Gymraeg bob dydd.

Yn rhyfeddol, merch Antwn yw'r cyntaf yn eu teulu i siarad Cymraeg o'i enedigaeth ers ei hen-famgu, gan feithrin yr iaith a'i ddefnyddio bob dydd. Mae'n annog dysgwyr eraill i groesawu eu camgymeriadau, gan gredu bod pob darn o Gymraeg a siaradir yn gam tuag at ruglder.

Mae Antwn yn parhau i hyrwyddo diwylliant Cymru trwy ei gerddoriaeth a nifer o brosiectau celfyddydau. Ar hyn o bryd mae'n ymwneud â "can i'r Cymoedd"  prosiect sy'n anelu at greu cerddoriaeth gwerin draddodiadol newydd gyda chymunedau lleol. Mae ei ymroddiad i'r Gymraeg wedi agor nifer o ddrysau, gan gyfoethogi ei fywyd, ac mae'n dyheu i ysbrydoli eraill i gychwyn ar eu taith dysgu iaith eu hunain.

Wrth feddwl am ei daith, mae Antwn yn dweud, "Ni allaf ddychmygu pa mor wahanol fyddai fy mywyd pe na bawn i wedi dechrau dysgu Cymraeg. Mae wedi gwneud gwahaniaeth aruthrol; mae wedi agor cymaint o ddrysau i mi, wedi fy nghyflwyno i ffrindiau gwych, ac wedi fy nghyfrannu i gymuned fywiog. Nid ydych chi byth yn gwybod yr effaith hyd nes i chi ddechrau."

Mae stori Antwn yn dyst pwerus i'r pŵer trawsnewidiol o groesawu ein treftadaeth a'r cyfleoedd diderfyn sy'n dod gyda dysgu iaith newydd.

]]>
/cy/newyddion/dysgwr-cymreig-lleol-yn-orchfygol-yn-yr-eisteddfod-genedlaethol/ /cy/newyddion/dysgwr-cymreig-lleol-yn-orchfygol-yn-yr-eisteddfod-genedlaethol/ Mon, 11 Nov 2024 16:14:29 GMT Carolyn Jenkins
Cyflwynwyd rhyddid y Fwrdeistref i deulu Ray Reardon ar ran chwaraewr snwcer diweddar (4) Rhoddwyd Rhyddid Bwrdeistref ״ heddiw yn swyddogol i'r enwog Ray Reardon a chyflwynwyd i'w deulu gan y Cyngor.

Gwahoddwyd teulu'r chwaraewr snwcer diweddar i dderbynfa arbennig yn y Swyddfeydd Cyffredinol yng Nglynebwy heddiw lle cyflwynwyd yr anrhydedd i'w gwas John, gan aelodau eraill o'r teulu. Roedd cynghorwyr ״, yr Aelod Seneddol Nick Smith a'r Aelod Seneddol Alun Davies hefyd yno i weld y cyflwyniad gan yr Aelod Presiding Chris Smith.

Dywedodd John:

"Mae'n fraint wirioneddol derbyn Rhyddid y Fwrdeistref Sirol ar ran Ray, a gyda'i deulu yn bresennol i nodi'r achlysur. Mae'n ddrwg gen i nad yw gyda ni i weld hyn heddiw ond rwy'n gwybod y byddai wedi mwynhau hyn, byddai'n fyny ei stryd! Diolch i chi o ran yr holl deulu am yr anrhydedd gwych hwn."

Ganwyd Ray Reardon yn Nhredegar a gwnaeth gyfraniad mawr i fyd snwcer nid yn unig yn Nhredegar ond ledled Cymru ac yn fyd-eang. Fe feistrolodd ar chwaraeon snwcer am y rhan orau o ddegawd gan ennill chwe Phencampwriaeth Snwcer y Byd rhwng 1970 a 1978 a mwy na dwsin o deitlau proffesiynol eraill yn ystod ei yrfa.

Bu farw ym mis Gorffennaf eleni yn 91 oed.

Cyflwynodd y Cynghorydd Chris Smith, Aelod Presiding y Cyngor, y sgrôl. Mae'n dweud:

“Roeddwn yn falch iawn bod holl aelodau'r Cyngor wedi cefnogi rhoi Rhyddid y Fwrdeistref i Ray yn ôl marwolaeth, ac mae wedi bod yn fraint lwyr i fod gyda'i deulu heddiw a'u cyflwyno gyda'r anrhydedd hwn. Roedd Ray yn eilun go iawn a chymeriad mawr i'r sbort. Roedd yn benderfynol wrth y bwrdd, ond i ffwrdd o'r bwrdd roedd yn adnabyddus am ei gynhesrwydd a'i gymeriad, yn wirioneddol bonheddwr. Mae Ray yn haeddu'r anrhydedd uchaf y gallwn ei dyfarnu fel Cyngor.”

Ray yw'r ail chwaraewr snwcer i dderbyn yr anrhydedd hwn, yn dilyn Mark Williams yn 2019. Dyma'r anrhydedd uchaf y gall Awdurdod Lleol ei roi i unigolyn.

]]>
/cy/newyddion/cyflwynwyd-rhyddid-y-fwrdeistref-i-deulu-ray-reardon-ar-ran-chwaraewr-snwcer-diweddar-4/ /cy/newyddion/cyflwynwyd-rhyddid-y-fwrdeistref-i-deulu-ray-reardon-ar-ran-chwaraewr-snwcer-diweddar-4/ Fri, 22 Nov 2024 16:52:15 GMT Louise Bishop
Arweinydd Cyngor ״ yn ymateb i Storm Bert "Mae Storm Bert wedi dod â dinistr ar draws De Cymru, ac mae ein cymunedau ym Mlaenau Gwent wedi cael eu heffeithio'n fawr.  Roedd y tywydd yn waeth n’r holl ragolygon, gyda symiau digynsail o law mewn rhai ardaloedd yn ein bwrdeistref. Roedd hon yn her eithriadol i'n Cyngor, ein gwasanaethau brys a'n cymunedau, wrth i ni weithio'n ddiflino i ymateb i nifer o ddigwyddiadau yn yr ardal.

"Ein blaenoriaeth gyntaf oedd diogelu bywydau ein preswylwyr, diogelu eiddo lle bo hynny'n bosibl, a gwarchod seilwaith hanfodol. Er ein cynllunio a'n paratoadau yn seiliedig ar y rhagolygon a oedd ar gael, roedd dwyster ac effaith y storm yn fwy na phob disgwyliad. Mae cartrefi, busnesau, ysgolion, ffyrdd a chyfleusterau gofal plant wedi cael eu heffeithio. Roedd nifer y galwadau brys a dderbyniwyd gennym yn ddigynsail, ac ar un adeg, roedd ein llinellau ffôn y tu allan i oriau wedi'u gorlethu'n llwyr.

"Roedd ein timau rheng flaen wedi paratoi, gydag adnoddau, offer a gwiriadau ychwanegol ar waith. Fodd bynnag, roedd ffyrnigrwydd y storm yn golygu ein bod ni, fel llawer ar draws y rhanbarth, wedi wynebu heriau enfawr.

"Mae'r tirlithriad yng Nghwmtyleri wedi achosi aflonyddwch a gofid sylweddol, ond mae’r ymdrechion adfer yn mynd yn dda. Rydyn ni wedi clirio malurion ac ailgyfeirio dŵr i system ddraenio oddi ar y safle. Bydd asesiadau pellach yn penderfynu a oes angen cymryd camau ychwanegol. Mae trigolion wedi cael gwybod y gallant ddychwelyd adref.

"Wrth i ni edrych tua'r dyfodol, gwyddom fod digwyddiadau fel hyn yn dod yn fwy cyffredin oherwydd newid hinsawdd. Bydd meithrin gwytnwch yn ein cymunedau yn hanfodol, a byddwn yn gweithio'n agos gyda phartneriaid i sicrhau ein bod yn fwy parod ar gyfer yr heriau sydd o'n blaenau. Cynhelir ôl-drafodaeth ac adolygiad llawn o'n hymateb i ddysgu gwersi, ond ar hyn o bryd, mae ein ffocws ar adfer a chefnogi'r rhai yr effeithiwyd arnynt.

"Er ein bod yn teimlo rhyddhad na chollwyd unrhyw fywydau ac na chafwyd unrhyw anafiadau difrifol, gwyddom fod llawer o deuluoedd wedi wynebu dinistr yn sgil y lifogydd ac fel y dywedais, mae rhai preswylwyr wedi cael eu dadleoli o'u cartrefi. Ar ran y Cyngor, mae fy meddyliau gyda phawb yr effeithiwyd arnynt.

"Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i staff ac asiantaethau partner anhygoel y Cyngor am eu hymdrechion diflino yn ystod y digwyddiad mawr hwn. Mae eu hymrwymiad i amddiffyn a chefnogi ein cymunedau wedi bod yn rhyfeddol. Rydw i hefyd am ddiolch i’m cyd-gynghorwyr am eu presenoldeb a'u cefnogaeth weladwy ar lawr gwlad. Mae eich sicrwydd a'ch ymrwymiad yn ystod y cyfnod anodd hwn wedi bod yn amhrisiadwy.

"Yn bwysicaf oll, hoffwn ddiolch i'n cymunedau. Unwaith eto, mae ״ wedi dangos gwytnwch ac undod aruthrol. Mae cymdogion wedi dod at ei gilydd, mae grwpiau wedi gweithredu, ac mae unigolion wedi camu i'r adwy i gefnogi'r rhai mwyaf anghenus. Mae eich tosturi a'ch penderfyniad yn ffynhonnell o ysbrydoliaeth.

"Rydyn ni’n parhau i weithio gyda phartneriaid, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, i ddarparu'r cymorth a'r adnoddau angenrheidiol i adfer. Yng Nghwmtyleri byddwn yn aros ar y safle nes bod yr holl fesurau diogelwch wedi'u cwblhau. Yn yr ardaloedd sydd wedi eu heffeithio waethaf gan y llifogydd, fel y Cwm, Llanhiledd a Thredegar, mae ein timau wedi bod yn cynorthwyo drwy lanhau, cynnig llety dros dro, a sicrhau y gall trigolion gael mynediad i’r cymorth ariannol sydd ar gael. Mae canolfannau cynghori a staff o ystod o wasanaethau yn parhau i fod wrth law i helpu.

"Mae hwn yn gyfnod o her aruthrol, ond gyda'n gilydd, gallwn adfer ac ailadeiladu. Mae ״ wastad wedi sefyll yn gryf yn wyneb adfyd, a byddwn yn parhau i gefnogi ein gilydd wrth i ni symud ’mlaen."

Y Cynghorydd Steve Thomas
Arweinydd Cyngor ״

 

]]>
/cy/newyddion/arweinydd-cyngor-blaenau-gwent-yn-ymateb-i-storm-bert/ /cy/newyddion/arweinydd-cyngor-blaenau-gwent-yn-ymateb-i-storm-bert/ Fri, 29 Nov 2024 13:22:02 GMT Louise Bishop
Perfformiad ailgylchu Cyngor ״ yn parhau i wella

Mae targedau ailgylchu blynyddol wedi'u cyrraedd eto gan Gyngor ״ sydd wedi rhagori ar darged Llywodraeth Cymru o 64%. Mae adroddiad a gyflwynwyd i'r Cabinet ar y 4ydd o Ragfyr yn cadarnhau bod y ffigur cyfradd ailgylchu o 66.18% wedi'i gyflawni.

Mae Tîm Gwastraff ac Ailgylchu ״ wedi gwneud cynnydd sylweddol yn y blynyddoedd diwethaf drwy gynyddu faint mae'r fwrdeistref yn ei ailgylchu. Fodd bynnag, mae targed Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024-25 yn codi i 70% a fydd yn her.

Mae Timau Gwastraff y Cyngor eisoes yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru, drwy Bartneriaid Lleol ’r Rhaglen Gweithredu Gwastraff ac Adnoddau (WRAP), i ddatblygu strategaeth newydd a fydd yn cynyddu eu hailgylchu ymhellach er mwyn cyrraedd cyfradd newydd 2024-25 a thu hwnt.

ѱ岹’r Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Leoedd ’r Amgylchedd, y Cynghorydd Helen Cunningham:

“Hoffwn ddiolch i breswylwyr am barhau i ailgylchu a rhagori ar darged ailgylchu Llywodraeth Cymru eleni. Yn y dyfodol bydd disgwyl i ni ailgylchu hyd yn oed mwy, felly rydym yn parhau i weithio ochr yn ochr â chartrefi i leihau maint gwastraff bagiau du. Mae ein gwasanaeth casglu gwastraff yn esblygu’n gyson i sicrhau ein bod yn gwneud y gorau o’n hadnoddau ac i wneud casgliadau’n fwy effeithlon.”

]]>
/cy/newyddion/perfformiad-ailgylchu-cyngor-blaenau-gwent-yn-parhau-i-wella/ /cy/newyddion/perfformiad-ailgylchu-cyngor-blaenau-gwent-yn-parhau-i-wella/ Wed, 04 Dec 2024 15:39:29 GMT Carolyn Jenkins
Cyngor ״ yn cydnabod ei Chasglwyr Sbwriel am eu gwaith rhagorol Trwy gydol y flwyddyn mae Casglwyr Sbwriel o bob oed o ysgolion, cymunedau, grwpiau gwirfoddoli a phartneriaethau ״ wedi bod yn brysur yn tacluso’r fwrdeistref.  Mae sesiynau Casglu Sbwriel, sy’n cael eu trefnu gan y Swyddog Ansawdd Amgylcheddol Lleol, John Mewett, wedi bod yn cael eu cynnal, a chasglwyd cryn dipyn o sbwriel, gan ei ailgylchu lle bo hynny'n bosibl, nid yn unig o'r stryd fawr a meysydd parcio ond hefyd o fannau lletchwith eu cyrraedd. 

I gydnabod yr holl waith caled sydd wedi digwydd, mae'r Cyngor wedi trefnu digwyddiadau i ddangos ei werthfawrogiad gyda'r nesaf i'w gynnal ar:
•   11 Rhagfyr 6pm Tŷ Bedwellte, Tredegar NP22 3XN
•   17 Rhagfyr 6pm Swyddfeydd Cyffredinol, Glynebwy, NP23 6DN

Mae'r digwyddiadau'n anffurfiol, felly gall unrhyw un sy'n ystyried casglu sbwriel yn y dyfodol ddod draw i ddysgu mwy am y gwaith, yr offer a ddefnyddir (i gyd ar gael gennym ni) a sut y gallwch chi helpu. Mae'r digwyddiadau'n dod â phawb at ei gilydd mewn amgylchedd croesawgar am sgwrs. Mae ’na fwffe a bydd John yno i ateb unrhyw gwestiynau.

Os na allwch ddod ond eich bod yn dymuno gwirfoddoli i Gasglu Sbwriel yn y flwyddyn newydd, cysylltwch â:
John Mewett - Swyddog Ansawdd Amgylcheddol Lleol
E-bost: john.mewett@blaenau-gwent.gov.uk

John Mewett, Swyddog AALl Cyngor ״, yn cyflwyno mewn digwyddiad llwyddiannus diweddar yng Nghanolfan Ailgylchu a Gwastraff y Cartref (HWRC) Abertyleri. 

 

]]>
/cy/newyddion/cyngor-blaenau-gwent-yn-cydnabod-ei-chasglwyr-sbwriel-am-eu-gwaith-rhagorol/ /cy/newyddion/cyngor-blaenau-gwent-yn-cydnabod-ei-chasglwyr-sbwriel-am-eu-gwaith-rhagorol/ Fri, 06 Dec 2024 08:49:40 GMT Alan Powell
Cyngor ״ yn Dathlu Blwyddyn Gyntaf Llwyddiannus Ymgyrch “Dewch i Fwydo ar y Fron ״” gyda Dathliad Nadolig Bwydo ar y Fron Flynyddol Cyntaf

Nododd Cyngor Bwrdeistref Sirol ״ ddiwedd blwyddyn gyntaf ei ymgyrch bwydo ar y fron hynod lwyddiannus, “Dewch i Fwydo ar y Fron ״”, gyda’i Ddathliad Nadolig Bwydo ar y Fron cyntaf ar ddydd Llun, 2il o Ragfyr 2024, yn y Swyddfeydd Cyffredinol yng Nglynebwy.

Daeth dros 80 o famau a’u babanod ynghyd i ddathlu cyflawniadau’r rhai a oedd wedi bwydo eu babanod ar y fron yn 2024 – boed ar gyfer bwydo cychwynnol yn unig neu fel rhan o daith bwydo ar y fron hirach. Mwynhaodd y mynychwyr fwffe dathlu Nadoligaidd, te, coffi, amser chwarae, ffotograffau, a hyd yn oed ymweliad gan Siôn Corn. Cyflwynwyd tystysgrifau a phin gwobr bwydo ar y fron arbennig i bob mam i goffáu eu cerrig milltir bwydo ar y fron personol.

Meddai mam sy’n bresennol:

“Mae’r digwyddiad hwn mor hyfryd, mae’n braf dod at ein gilydd bob hyn a hyn, cael sgwrs gyda mamau eraill, a mwynhau coffi poeth. Mae’n gwneud cymaint o wahaniaeth i gael y gefnogaeth hon.”

Amlygodd Dathliad Nadolig Bwydo ar y Fron y cynnydd sylweddol a wnaed yng nghyfraddau bwydo ar y fron ״ yn 2024. Ers lansio ymgyrch “Dewch i Fwydo ar y Fron ״”, mae cyfraddau bwydo ar y fron wedi codi o 40% ym mis Ionawr 2024 i 60% a dorrodd record ym mis Awst 2024 . Mae hwn yn gyflawniad mawr i ardal sydd wedi bod â rhai o'r cyfraddau bwydo ar y fron isaf yn y DU yn hanesyddol, ac o bosibl yn Ewrop.

Meddai Ceri Bird, Rheolwr Gwasanaeth Gwasanaethau Plant:

“Mae’r cynnydd mewn cyfraddau bwydo ar y fron yn ganlyniad uniongyrchol i ymrwymiad ein Cyngor, mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ’r hyrwyddwr bwydo ar y fron enwog Ferne McCann, i ddarparu mwy o ymwybyddiaeth, gwybodaeth a chymorth i rieni newydd.

“Trwy’r ymgyrch a’i gynllun gweithredu, mae’r Cyngor wedi gweithio i sicrhau bod gan rieni’r wybodaeth ’r adnoddau sydd eu hangen arnynt i wneud penderfyniadau gwybodus am fwydo eu babanod. Rydyn ni eisiau i’n holl rieni deimlo eu bod yn cael eu cefnogi a’u bod yn cael gwrandawiad hefyd.”

Helen Cunningham, Dirprwy Arweinydd a mam sy'n bwydo ar y fron yn dweud:

“Llongyfarchiadau i'r holl fenywod sy'n ymwneud â chynyddu cyfraddau bwydo o'r fron ym Mlaenau Gwent. Cefais fy mabi ym mis Chwefror ac fel mam sy'n bwydo ar y fron fy hun, rwy'n gwybod pa mor bwysig yw hi i gael y gefnogaeth gywir ar waith, p'un a yw am ddechrau, ei wneud am ychydig wythnosau, ychydig fisoedd neu fwy. Mae dod â mamau a'u babanod at ei gilydd fel hyn yn ffordd berffaith o ddathlu.”

Yn 2024, aeth Cyngor ״ ati i wella canlyniadau bwydo ar y fron, gyd’r nod o sicrhau bod pob babi sy’n cael ei eni ym Mlaenau Gwent yn cael y dechrau gorau posibl mewn bywyd. Mae’r ymgyrch wedi grymuso mamau a thadau i wneud penderfyniadau hyderus, gwybodus ynghylch bwydo babanod, gan roi’r cymorth sydd ei angen arnynt i oresgyn heriau a llwyddo ar eu taith bwydo ar y fron.

Mae Cyngor ״ yn falch o weld y canlyniadau cadarnhaol hyn ac yn parhau i fod yn ymrwymedig i wella cymorth ac adnoddau bwydo ar y fron ymhellach ar draws yr ardal yn y blynyddoedd i ddod.

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â’r Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd – 01495 369610 neu e-bostiwch: FIS@blaenau-gwent.gov.uk

]]>
/cy/newyddion/cyngor-blaenau-gwent-yn-dathlu-blwyddyn-gyntaf-llwyddiannus-ymgyrch-dewch-i-fwydo-ar-y-fron-blaenau-gwent-gyda-dathliad-nadolig-bwydo-ar-y-fron-flynyddol-cyntaf/ /cy/newyddion/cyngor-blaenau-gwent-yn-dathlu-blwyddyn-gyntaf-llwyddiannus-ymgyrch-dewch-i-fwydo-ar-y-fron-blaenau-gwent-gyda-dathliad-nadolig-bwydo-ar-y-fron-flynyddol-cyntaf/ Tue, 10 Dec 2024 15:25:42 GMT Emma Bennett
500 o bobl ifanc yn mynychu digwyddiad STEAM
Mae tua 500 o fyfyrwyr o Flaenau Gwent yn mynychu ein Digwyddiad Ysbrydoliaeth STEAM heddiw. Mae STEAM yn sefyll am wyddoniaeth, technoleg, peirianneg, y celfyddydau a mathemateg.
Gwahoddwyd myfyrwyr o ysgolion uwchradd y fwrdeistref sy'n dewis eu hopsiynau y flwyddyn academaidd hon i'r digwyddiad ym Mharth Dysgu ״. Yno, mae ganddynt gyfle i gwrdd â 30 o fusnesau lleol sydd yno i ymgysylltu ac ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o weithwyr STEAM trwy dynnu sylw at lwybrau gyrfaoedd a gofynion sgiliau, yn ogystal â chwblhau tasg/her fach yn ystod eu hymweliad.
Mae tîm Hwyluso STEM BG y Cyngor yn gweithio gyda phob un o'r 29 ysgol ar draws y fwrdeistref i ddarparu rhaglen gydlynol o gymorth STEM / STEAM sy'n canolbwyntio ar ddiwydiant. Ar hyn o bryd rydym yn gweithio gyda 28 o fusnesau lleol i bennu anghenion sgiliau yn y dyfodol ac rydym yn gweithio gyda dros 60 o ddarparwyr STEM sy'n mynd i mewn i ysgolion ac yn cyflwyno sesiynau, gweithgareddau a gweithdai STEM amrywiol sy'n cysylltu â'r anghenion hynny yn y diwydiant.
Mae ymyriadau busnes mewn ysgolion yn canolbwyntio ar yrfaoedd STEM / llwybrau gyrfa. Mae gan bob ysgol gynllun datblygu STEM pwrpasol a grëwyd gan eu Swyddog Cyswllt BG STEM ymroddedig sy'n cyd-fynd â chwricwlwm yr ysgol.
Mae Prosiect Hwyluso STEM ״ yn cael ei ariannu drwy raglen Cymoedd Technoleg Llywodraeth Cymru.
]]>
/cy/newyddion/500-o-bobl-ifanc-yn-mynychu-digwyddiad-steam/ /cy/newyddion/500-o-bobl-ifanc-yn-mynychu-digwyddiad-steam/ Thu, 12 Dec 2024 14:17:51 GMT Louise Bishop
Cwmni plymio ym Mlaenau Gwent yn croesawu cyllid Grant Datblygu Busnes. Mae busnes plymio a gwresogi newydd ym Mlaenau Gwent wedi gallu agor ystafell arddangos newydd a gwella ei farchnata ar-lein diolch i Grant Datblygu Busnes.

Mae Valley Plumbing Supplies Ltd wedi defnyddio'r arian a roddwyd iddynt i agor safle yn Ystâd Ddiwydiannol Rising Sun yn y Blaenau, sy'n cynnwys ystafell arddangos newydd. Mae'r grant wedi helpu gyd’r costau o osod ystafell arddangos newydd a siop ar gyfer cyflenwadau ystafell ymolchi a phlymio, yn ogystal ag arwyddion a byrddau hysbysebu a gwefan.

Sefydlwyd Valley Plumbing Supplies gan Joel Fleming a Jonathan Ayears, a oedd, drwy gydweithio drwy eu busnesau presennol, wedi nodi cyfle i sefydlu cwmni ar y cyd i lenwi bwlch yn y farchnad yn lleol. Mae VPS yn cyflenwi'r holl nwyddau a deunyddiau plymio, gan gynnwys boeleri, ategolion boeler, pibelli, ffitiadau pibelli ac offer llaw sy’n gysylltiedig â phlymio, ac maent hefyd yn cyflenwi unrhyw ddodrefn ystafell ymolchi o dapiau i faddonau sy’n addas i bob cyllideb. Sefydlwyd y busnes i ddechrau i werthu i fyd masnach yn bennaf ond ers agor maent hefyd wedi gweld gwerthiant uchel o ddodrefn ystafell ymolchi yn uniongyrchol i'r cyhoedd, a dyna pam maent yn ehangu i'r unedau cyfagos i sefydlu ystafelloedd arddangos.

Meddai Jonathan: "Fel cwmni newydd, mae’r grant yma wedi helpu'n aruthrol, ry'n ni mor falch gyda sut mae pethau'n edrych yn yr ystafell arddangos newydd - dewch i gael golwg!"

Mae Grant Datblygu Busnes ״ yn cael ei ariannu gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU ac yn cael ei reoli gan y Tîm Busnes ac Arloesi yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol ״. Nod y Grant Datblygu Busnes yw cefnogi twf a datblygiad busnesau newydd a phresennol ym Mlaenau Gwent.

Mae'r newyddion da yn parhau gan fod y cwmni wedi cyflogi gweithiwr newydd yn ddiweddar. Mae Ben Carpenter wedi cael ei gyflogi gan y cwmni yn dilyn lleoliad chwe mis ar gynllun QuickStart*, a ariennir gan Gyllid Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.

Meddai'r Cynghorydd John Morgan, Aelod Cabinet y Cyngor dros Adfywio a Datblygu Economaidd:

"Mae'n bwysig bod busnes yn gallu marchnata ei hun yn effeithiol a rhoi gwybod i ddarpar gwsmeriaid beth mae'n ei gynnig, felly rwy'n falch iawn ein bod wedi gallu cefnogi Valleys Plumbing Supplies drwy hwyluso'r grant hwn ar gyfer ystafell arddangos newydd. Mae hefyd wedi creu cyfle cyflogaeth, sy'n wych. Fel Cyngor, rydyn ni wedi ymrwymo i barhau i gefnogi busnesau lleol i greu cymunedau gwydn ac economi ffyniannus, gan sicrhau y gall pobl aros yn lleol a siopa'n lleol ar gyfer eu holl anghenion."

Mae'r rhaglen QuickStart yn cynnig lleoliadau gwaith cyflogedig chwe mis ym Mlaenau Gwent i unrhyw un 16+ oed sy'n ddi-waith neu'n economaidd anweithgar, i gael profiad gwerthfawr a gwella sgiliau cyflogadwyedd i gynyddu eu siawns o ddod o hyd i waith llawn-amser ar ôl i'r lleoliad ddod i ben.

]]>
/cy/newyddion/cwmni-plymio-ym-mlaenau-gwent-yn-croesawu-cyllid-grant-datblygu-busnes/ /cy/newyddion/cwmni-plymio-ym-mlaenau-gwent-yn-croesawu-cyllid-grant-datblygu-busnes/ Mon, 16 Dec 2024 15:55:48 GMT Louise Bishop
Cyngor ״ yn erlyn y nifer fwyaf o bobl am dipio anghyfreithlon yng Nghymru (2) Mae Cyngor ״ yn arwain y ffordd yng Nghymru am ddod â thipwyr anghyfreithlon o flaen eu gwell, yn ôl ffigyrau newydd. Mae'r ardal hefyd yn parhau i weld gostyngiad yn nifer yr achosion o dipio anghyfreithlon, mewn cyferbyniad â thueddiadau cenedlaethol sy'n dangos eu bod yn dal i godi mewn mannau eraill.

Mae gwaith tîm gorfodi penodedig a gyflwynwyd yn 2021 yn parhau i gael effaith wirioneddol ar fynd i'r afael â thipio anghyfreithlon. Cafodd y ffigyrau diweddaraf ar gyfer tipio anghyfreithlon eu rhyddhau gan Lywodraeth Cymru yn ddiweddar. Gellir dod o hyd i'r holl ddata

Mae Cyngor ״ wedi gweld gostyngiad o 21% yn nifer y digwyddiadau a gofnodwyd rhwng 2022/23 a 2023/24, o 1,200 i 950, a gostyngiad o 43% ers i'r tîm gorfodi newydd gael ei greu yn 2021 (o 1,650 i 950). Yn genedlaethol, mae tipio anghyfreithlon wedi cynyddu o 39,853 yn 2022/23 i 42,171 yn 2023/24, cynnydd o 6%.

Mae’r Cyngor yn yr ail safle o blith awdurdodau Cymru o ran nifer yr hysbysiadau cosb benodedig a roddwyd, gyda 170 o hysbysiadau tipio anghyfreithlon a dyletswydd gofal masnachol wedi'u cyhoeddi yn 2023/24. Wrth edrych ar hyn fesul pen o'r boblogaeth, mae ״ ymhell ar y blaen.

O ran erlyniadau, ״ sy'n arwain y ffordd, gyda 44 o droseddau gwastraff yn cael eu herlyn yn llwyddiannus drwy'r llysoedd yn 2023/24. Mae naw person arall wrthi’n aros am wrandawiadau am 16 trosedd wastraff arall, a nifer o erlyniadau ychwanegol yn dechrau ar y broses gyfreithiol.                                         

Dywedodd y Cynghorydd Helen Cunningham, Dirprwy Arweinydd a'r Aelod Cabinet dros Leoedd a'r Amgylchedd:

"Mae hyn yn waith gwych gan bawb sy'n cyfrannu at y frwydr yn erbyn tipio anghyfreithlon, o'r tîm ei hun i'r trigolion sy'n gweithio gyda ni i ddod â throseddwyr o flaen eu gwell. Ni fyddwn yn goddef tipio anghyfreithlon yn ein bwrdeistref, ac rydym yn sefyll yn gadarn gyda thrigolion y mae’r ymddygiad hwn yn eu ffieiddio. Mae digwyddiadau tipio anghyfreithlon yn parhau i ostwng, ac mae troseddwyr yn dysgu y bydd y Cyngor yn gweithredu’n llym yn erbyn y rhai sy'n cyflawni'r drosedd wrthgymdeithasol ac amgylcheddol hon."

Fel bob amser, hoffem atgoffa pobl mai nhw sy’n gyfrifol am unrhyw wastraff sy'n gadael eu heiddo, hyd yn oed os ydych chi wedi talu rhywun i'w waredu. Dysgwch fwy am ddyletswydd gofal eich cartref yma.

]]>
/cy/newyddion/cyngor-blaenau-gwent-yn-erlyn-y-nifer-fwyaf-o-bobl-am-dipio-anghyfreithlon-yng-nghymru-2/ /cy/newyddion/cyngor-blaenau-gwent-yn-erlyn-y-nifer-fwyaf-o-bobl-am-dipio-anghyfreithlon-yng-nghymru-2/ Thu, 19 Dec 2024 13:09:44 GMT Louise Bishop
Canolfan Golff Dan Do Newydd i Bawb o Bob Oedran a Gallu (1) Mae The Drop Zone Golf (TDZG), canolfan golff dan do newydd sy'n addas i'r teulu, wedi lansio'n swyddogol yn Nhredegar, ״. Cynhaliodd y lleoliad lansiad meddal llwyddiannus yr wythnos diwethaf ar gyfer teulu a ffrindiau cyn croesawu'r cyhoedd ar 2 Rhagfyr. Mae'r cyfleuster modern yn cynnig adloniant drwy gydol y flwyddyn gydag efelychwyr golff, ardal pytio maint llawn, a siop golff gynhwysfawr - y cyfleuster cyntaf o'i fath yng Nghymru.

Wedi'i sefydlu gan y golffwyr angerddol Christian Lee Prosser a Gareth James, ynghyd â’r cyn-olffiwr proffesiynol uchel ei barch, Craig Evans, mae TDZG wedi'i gynllunio i fod yn lleoliad cwbl gynhwysol i bobl o bob oedran a gallu. Mae'r cyfleuster yn cynnwys tri efelychwr golff datblygedig, gan gynnwys bae VIP ar gyfer ffitio clybiau, gwersi a sesiynau gapio. Gall gwesteion hefyd fwynhau bar a chegin sy'n cynnig lluniaeth poeth ac oer.

Cefnogir The Drop Zone Golf gan Dîm Busnes ac Arloesi Cyngor ״, a ddarparodd gymorth cychwyn busnes, gan gynnwys Grant Datblygu Busnes ac arweiniad drwy'r rhaglen Hwyluso Menter.

Mae Christian a Gareth wedi canmol cefnogaeth y tîm drwy gydol y broses, gan ddweud:

"Rydyn ni’n hynod ddiolchgar am y gefnogaeth a gawsom gan Dîm Busnes ac Arloesi ״," meddai Gareth James, Cyd-berchennog The Drop Zone Golf.

"Ni fyddai'r daith hon wedi bod yn bosibl heb gymorth y tîm, ac mae'r anogaeth gan ein teulu a'n ffrindiau wedi bod yn amhrisiadwy."

Mae TDZG yn targedu ystod eang o gwsmeriaid, o blant oed ysgol i bensiynwyr, a'u nod yw creu gofod sy'n hyrwyddo iechyd, lles ac ymgysylltiad cymunedol trwy golff. Bydd y busnes hefyd yn cefnogi mentrau lleol ar gyfer cyn-filwyr y lluoedd arfog a rhaglenni iechyd meddwl, gan ei wneud yn lleoliad sy'n cynnig mwy na dim ond golff - mae'n lle i gysylltu, ymlacio, a gwella'n gorfforol ac yn feddyliol.

Dywedodd y Cynghorydd John C Morgan, Aelod Cabinet dros Leoedd ac Adfywio:

"Mae hwn yn gyfleuster gwych lle gall pobl ymarfer, chwarae a mwynhau golff. Rwy'n falch iawn ein bod wedi gallu cefnogi'r perchnogion Christian a Gareth i ddewis a buddsoddi yma ym Mlaenau Gwent."

Mae The Drop Zone Golf yn cynnig system archebu ar-lein i helpu cwsmeriaid i gadw amser ar yr efelychwyr a sicrhau gwersi neu offer. Mae cynlluniau'r dyfodol yn cynnwys creu cyfleoedd gwaith ac ehangu arlwy'r lleoliad.

Ynglŷn â The Drop Zone Golf:

Mae The Drop Zone Golf yn gyfleuster golff dan do yn Nhredegar, ״, sydd wedi'i gynllunio i gynnig lle hwyl a chynhwysol i golffwyr o bob gallu ymarfer, chwarae a mwynhau'r gêm. Mae'r lleoliad yn cynnwys efelychwyr golff modern a bar a chegin, gyda chynlluniau i gynnwys siop golff gynhwysfawr ac ardal pytio a tsipio yn y dyfodol.  Gellir defnyddio'r efelychwyr golff hefyd ar gyfer gemau parti ffair, gan gynnwys Dartiau, Bowlio, Oriel Saethu a mwy. Dyma'r unig fusnes o'i fath yng Nghymru, sy'n ymroddedig i gynnig adloniant drwy gydol y flwyddyn a hyrwyddo lles cymunedol.

Am fwy o wybodaeth, ewch i neu dilynwch nhw ar y cyfryngau cymdeithasol.

 

 

]]>
/cy/newyddion/canolfan-golff-dan-do-newydd-i-bawb-o-bob-oedran-a-gallu-1/ /cy/newyddion/canolfan-golff-dan-do-newydd-i-bawb-o-bob-oedran-a-gallu-1/ Fri, 20 Dec 2024 15:07:57 GMT Louise Bishop
Cwmni peirianneg rhyngwladol yw'r cyntaf i gytuno ar les ar safle diwydiannol ‘Gradd A’ Llywodraeth Cymru Cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans mai cwmni peirianneg rhyngwladol yw'r cwmni cyntaf i arwyddo les yn Rhyd y Blew, safle diwydiannol ‘Gradd A’ Llywodraeth Cymru ym Mlaenau Gwent.

Bydd Halton Flamgard yn lesio'r uned RYB1 sydd newydd ei chwblhau ar y safle yng Nglynebwy, yn dilyn buddsoddiad o £8.9m gan Lywodraeth Cymru yn y cyfleuster carbon isel 52,582 troedfedd sgwâr.

Bydd y cwmni, sy'n gweithgynhyrchu unedau damper ar gyfer cwsmeriaid mewn sectorau diwydiannol arbenigol, yn adleoli ei weithrediad presennol ym Mhont-y-pŵl i'r safle modern mwy.

Yn rhan o'r gwaith ehangu a gynlluniwyd, bydd nifer y gweithwyr yn codi yn Halton Flamgard o 70 i 168 erbyn 2028.

RYB1 yw'r unig uned ddiwydiannol ar raddfa fawr a ddatblygwyd yn hapfasnachol i gael ei datblygu yng Nghymru yn 2024.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans:

“Rydym wedi ymrwymo i ysgogi cyfleoedd cyflogaeth o ansawdd uchel a datblygu sgiliau ar gyfer cymunedau lleol ledled Cymru.

“Mae ein buddsoddiad sylweddol yn Rhyd y Blew, sydd wedi'i leoli'n strategol yn Ardal Fenter Glyn Ebwy, yn ategu ein gweledigaeth ar gyfer ardal y Cymoedd Technoleg i gael ei chydnabod yn fyd-eang am dechnolegau newydd a'r sector gweithgynhyrchu uwch.

“Mae denu gweithrediad rhyngwladol fel Halton Flamgard i RYB1 yn tynnu sylw at lwyddiant ein strategaeth eiddo masnachol i sbarduno twf economaidd yn y dyfodol.

“Rwy'n dymuno'n dda iddynt gyda'u cynlluniau twf uchelgeisiol ac edrychaf ymlaen at weld busnesau, cymunedau a chadwyni cyflenwi lleol yn elwa.”

Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr Halton Flamgard, Lucy Newman:

“Rydym yn gyffrous i gychwyn ar y bennod newydd hon wrth i ni symud i'n cyfleuster o'r radd flaenaf. Mae'r trawsnewidiad hwn yn garreg filltir arwyddocaol i'n tîm, ac rydym yn llawn cyffro am y posibiliadau di-ben-draw a ddaw yn ei sgil. Bydd ein lle newydd nid yn unig yn gwella ein galluoedd ond hefyd yn ysbrydoli arloesedd a chydweithio.

“Yn ogystal, mae'r cam hwn yn cynnig potensial sylweddol i dyfu swyddi, gan ein galluogi i ehangu ein gweithlu a chreu cyfleoedd newydd yn y gymuned. Rydym yn edrych ymlaen at gyflawni pethau gwych gyda'n gilydd yn yr amgylchedd dynamig hwn.”

Dywedodd y Cynghorydd John Morgan, Aelod Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol ״ dros Le ac Adfywio:

“Rydym wrth ein bodd ein bod wedi cael prosiect gweithgynhyrchu penigamp yma ym Mlaenau Gwent. Mae hyn yn newyddion anhygoel i'n cymuned ac yn dyst i'r partneriaethau cryf yr ydym wedi'u hadeiladu gyda Thîm Rheoli Halton.

“Hoffem ddiolch i'n partneriaid yn Llywodraeth Cymru am eu gweledigaeth wrth ddatblygu safle Rhyd y Blew. Mae'r prosiect hwn yn cyd-fynd yn berffaith â'n gweledigaeth o ddenu mewnfuddsoddiad (gan gynnwys prosiectau adleoli) a chefnogi twf busnesau lleol.

“Credwn fod buddsoddi mewn datblygu economaidd, grantiau busnes, rhwydweithio, safleoedd ac adeiladau, sgiliau a datblygu STEM sy'n arwain at greu swyddi, cyfleoedd ehangach yn y gadwyn gyflenwi ac, yn bwysicaf oll, yn sbarduno twf economaidd ledled y fwrdeistref.

“Rydym yn falch ein bod wedi gweithio mor agos gyda'r busnes hwn i wireddu hyn, ac edrychwn ymlaen at eu gweld yn cael effaith gadarnhaol ar gyfer ein trigolion a'r economi busnesau lleol.”

Asiant marchnata Rhyd y Blew yw Knight Frank.

Dywedodd Neil Francis, pennaeth Diwydiannol a Logisteg Knight Frank yng Nghaerdydd:

“Mae'r hyder a ddangoswyd gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu'r adeilad hwn yn hapfasnachol er mwyn darparu llety Gradd A mawr ei angen wedi talu ar ei ganfed.

“Roedd dyluniad modern, nodweddion gwyrdd a lleoliad rhagorol RYB1 yn agos at ffordd Blaenau'r Cymoedd yn ddeniadol iawn i nifer o ddarpar feddianwyr ac rydym wrth ein bodd bod Halton Group wedi cymryd les ar y lle.”

Mika Halttunen, Cadeirydd y Bwrdd Cyfarwyddwyr, grwp Halton gyda Aelod Cabinet Cyngor ״ ar gyfer Lle a'r Amgylchedd Cllr John Morgan a AS Alun Davies, ״.

]]>
/cy/newyddion/cwmni-peirianneg-rhyngwladol-ywr-cyntaf-i-gytuno-ar-les-ar-safle-diwydiannol-gradd-a-llywodraeth-cymru/ /cy/newyddion/cwmni-peirianneg-rhyngwladol-ywr-cyntaf-i-gytuno-ar-les-ar-safle-diwydiannol-gradd-a-llywodraeth-cymru/ Wed, 08 Jan 2025 12:05:59 GMT Louise Bishop
Y cam cyntaf tuag at Ffederasiwn Llywodraeth Leol Wythnos nesaf, gofynnir i gynghorwyr ym Mlaenau Gwent a Torfaen gymeradwyo penodi Stephen Vickers fel Prif Weithredwr am y ddau gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen a ״. Gofynnir i gynghorwyr Torfaen gymeradwyo ar ddydd Mawrth, y 21ain o Ionawr, a chynghorwyr ״ ar ddydd Iau, y 231in Ionawr.

Mae'r adroddiad i'r ddau gyngor yn dilyn 'cyfnod darganfod' o 7 mis pan gytunodd y ddau gyngor i rannu rôl y Prif Weithredwr, tra bod gwaith archwilio’n digwydd i ddeall y cyfleoedd a'r peryglon o weithio'n agosach.

Mae'r adolygiad a gefnogir gan Bartneriaethau Lleol bellach wedi dod i ben yn dilyn ymgysylltiad â chynghorwyr, uwch swyddogion a staff, yn ogystal â chynrychiolwyr Llywodraeth Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac Undebau Llafur.

Mae'r adroddiad yn argymell penodi Prif Weithredwr ar y cyd yn barhaol, sefydlu tîm arwain ar y cyd a gwaith pellach i edrych ar y cyfleoedd a'r manteision i wasanaethau. Mae hefyd yn pwysleisio awydd cryf a brwdfrydig ymhlith cynghorwyr am weithio'n agosach a chydweithio.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, y Cynghorydd Anthony Hunt:

"Nid yw'r drefn bresennol quo yn opsiwn synhwyrol na deniadol os ydym am wella canlyniadau i drigolion a chynnal gwasanaethau lleol hanfodol.

"Mae'r adroddiad hwn yn cefnogi ffederasiwn o ddau gyngor o statws cyfartal. Rydyn ni eisiau cael ein sefydliadau i gyd-fynd ble mae'n synnwyr gwneud hynny, a sicrhau effeithlonrwydd sy'n dechrau ar y brig, gan gynnwys costau cyflog cyffredin tîm arwain ffederal – fel y gallwn ganolbwyntio adnoddau ar reng flaen darpariaeth gwasanaethau lleol yn ein cymunedau."

Ychwanegodd Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol ״, y Cynghorydd Steve Thomas:

"Mae arbedion effeithlonrwydd yn syth, ond mae'r cynnig hwn hefyd yn cynnal ein hunaniaeth ariannol a gwleidyddol a'n trefniadau llywodraethu.

"Bydd hefyd yn agor y drws i rannu arfer gorau a sgiliau arbenigol a gwella gwytnwch timau bach, gwella recriwtio, a lleihau costau rheoli a gweinyddu.

"Mae'r dull arloesol hwn yn cael ei groesawu'n eang gan gynghorwyr, staff a phartneriaid, yn rhannol gan nad yw'n cael ei orfodi arnom ac yn rhannol oherwydd bod gennym lawer iawn yn gyffredin eisoes. Dyma ddau gyngor yn cefnogi dull rhagweithiol, graddol tuag at gyd-dynnu cryfach ac mae'n helpu i osgoi amhariad a chost uno’r cynghorau."

Os bydd cynghorwyr yn cytuno i benodi Prif Weithredwr ar y cyd yn barhaol, bydd Partneriaethau Lleol sy'n fenter ar y cyd rhwng y Gymdeithas Llywodraeth Leol, Trysorlys EF a Llywodraeth Cymru, yn cymryd rhan i ddatblygu achos amlinellol strategol gan gynnwys model ariannol a meini prawf ar gyfer tynnu ynghyd a blaenoriaethu gwasanaethau. 

Stephen Vickers

]]>
/cy/newyddion/y-cam-cyntaf-tuag-at-ffederasiwn-llywodraeth-leol/ /cy/newyddion/y-cam-cyntaf-tuag-at-ffederasiwn-llywodraeth-leol/ Wed, 15 Jan 2025 10:07:13 GMT Louise Bishop
Ysgol Gyfun Tredegar yn Ennill Gwobrau Uchel Eu Parch Mae Ysgol Gyfun Tredegar wedi cael ei chydnabod yn ddiweddar gyda thair gwobr uchel eu parch sy’n tynnu sylw at ei hymrwymiad i greu amgylchedd diogel a chynhwysol i'w myfyrwyr sy’n eu galluogi i gyflawni.

Gwobr Aur Marc Ansawdd Gwrth-Fwlio

Mae Ysgol Gyfun Tredegar wedi llwyddo i gyflawni gwobr Aur Marc Ansawdd Gwrth-Fwlio. Hi yw'r ysgol gyntaf yng Nghymru a'r drydedd yn y DU i ennill yr anrhydedd hon. Mae'r wobr hon yn adlewyrchu ymrwymiad diwyro'r ysgol i greu amgylchedd diogel a chynhwysol i bob dysgwr. Diolch yn arbennig i Mrs. Lloyd, Mr. King, a Miss Yates, sydd wedi gweithio ochr yn ochr â'r Llysgenhadon Gwrth-Fwlio dros y blynyddoedd diwethaf i sicrhau'r cyflawniad gwych hwn i gymuned yr ysgol.

Mwy o wybodaeth yma:

Gwobr Aur Ysgolion sy'n Parchu Hawliau

Ym mis Mai, derbyniodd Ysgol Gyfun Tredegar Wobr Aur Ysgolion sy'n Parchu Hawliau gan UNICEF UK. Mae'r wobr hon yn cydnabod ysgolion sy'n sicrhau bod plant yn cael eu haddysgu am eu hawliau fel yr amlinellir yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn a'u bod yn cael manteisio ar yr hawliau hyn. Dathlodd yr ysgol y cyflawniad hwn gyda sesiwn ffotograffau gyda myfyrwyr o bob grŵp blwyddyn. Ar hyn o bryd Ysgol Gyfun Tredegar yw'r unig ysgol uwchradd ym Mlaenau Gwent i gael ei chydnabod fel ysgol aur ac mae’n un o ddim ond chwe ysgol uwchradd aur yng Nghymru.

Mwy o wybodaeth ar wefan yr ysgol yma

A gwefan UNICEF yma

Ailachrediad NACE

Mae Ysgol Gyfun Tredegar wedi cael ei hailachredu fel ysgol NACE. Mae NACE yn gweithio gydag ysgolion, arweinwyr addysg ac ymarferwyr i wella'r ddarpariaeth ar gyfer dysgwyr mwy abl ac yn cydnabod ysgolion sy'n herio ac yn cefnogi dysgwyr mwy abl i gyrraedd eu llawn botensial.

Canmolodd asesydd NACE waith y disgyblion, a ddangosodd yn glir fod yr her a'r disgwyliadau uchel yn gyson ar draws y cwricwlwm, ac roedd yn amlwg bod disgyblion wedi ymateb drwy’r ansawdd a'r balchder a ddangoson nhw yn eu gwaith. Mwynhaodd wrando ar ddisgyblion a staff yn siarad mor angerddol a chadarnhaol am ba mor dda mae dysgwyr yn cyflawni a sut maen nhw’n cael eu cefnogi i sicrhau eu bod yn cael eu hymestyn a'u herio i gyflawni eu llawn botensial.

Mae'r gwobrau hyn yn dyst i waith caled ac ymroddiad cymuned gyfan yr ysgol. Mae Ysgol Gyfun Tredegar yn parhau i ymdrechu am ragoriaeth a sicrhau bod pob dysgwr yn cael y gefnogaeth a'r cyfleoedd sydd eu hangen arnynt i lwyddo.

Mwy o wybodaeth yma:

Dywedodd y Pennaeth, Mrs Leave, 'Rydym wrth ein bodd ein bod wedi derbyn cydnabyddiaeth o'r fath. Mae pob gwobr yn dathlu sut mae cymuned ein hysgol yn gweithio gyda'i gilydd i lwyddo, ac yn dangos yn glir ymroddiad ac ymrwymiad ein staff i sicrhau bod pob disgybl yn cael y cyfleoedd gorau posibl i ddysgu.'  

]]>
/cy/newyddion/ysgol-gyfun-tredegar-yn-ennill-gwobrau-uchel-eu-parch/ /cy/newyddion/ysgol-gyfun-tredegar-yn-ennill-gwobrau-uchel-eu-parch/ Wed, 22 Jan 2025 15:15:17 GMT Carolyn Jenkins
Cynghorwyr ״ a Thorfaen yn cymeradwyo penodi Prif Weithredwr ar y Cyd Heddiw, yn unfrydol, mae cynghorwyr ״ wedi cymeradwyo penodi Stephen Vickers yn Brif Weithredwr parhaol ar y Cyd ar gyfer Cynghorau Bwrdeistref Sirol ״ a Thorfaen.

Daw hyn yn sgil cymeradwyaeth cynghorwyr yn Nhorfaen yn gynharach yr wythnos hon.

Mae'r adroddiadau a gyflwynwyd gerbron y ddau gyngor yn dilyn 'cyfnod darganfod' o 7 mis. Yn ystod y cyfnod hwnnw, cytunodd y ddau gyngor i rannu rôl y Prif Weithredwr, tra bod gwaith archwilio ar y gweill er mwyn deall y cyfleoedd a'r risgiau a fyddai’n amlygu wrth weithio'n agosach.

Daeth yr adolygiad, a gefnogwyd gan Bartneriaethau Lleol, i fwcl ar ôl ymgysylltu â chynghorwyr, uwch-swyddogion a staff, yn ogystal â chynrychiolwyr Llywodraeth Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac Undebau Llafur.

Argymhellai’r adroddiadau benodi Prif Weithredwr ar y cyd yn barhaol, sefydlu tîm arwain ar y cyd a gwneud gwaith pellach i archwilio’r cyfleoedd ’r buddion i wasanaethau. Amlygodd yr adroddiadau hefyd yr awydd cryf a brwdfrydig ymhlith cynghorwyr i gydweithio’n agosach.

Meddai Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol ״, y Cynghorydd Steve Thomas:

"Mae'r cydweithio hwn yn arwydd o’n hymrwymiad i ddod o hyd i ffyrdd arloesol o reoli pwysau ariannol, a sicrhau cynaliadwyedd hirdymor gwasanaethau hanfodol ar yr un pryd. Trwy rannu arbenigedd ac adnoddau, rydym mewn sefyllfa well i wasanaethu ein cymunedau.

"Bydd cael Prif Weithredwr parhaol ar y Cyd yn cryfhau arweinyddiaeth y ddau gyngor, gan ddarparu gweledigaeth unedig a sicrhau ein bod yn parhau i ddiwallu anghenion ein preswylwyr yn effeithlon ac yn effeithiol.

"Mae'r fenter hon yn golygu bod dau gyngor yn cydweithio fel partneriaid cyfartal, gan rannu adnoddau ac arbenigedd i fynd i'r afael â heriau cyffredin. Nid yw'n golygu uno. Yn hytrach, mae'n sicrhau bod penderfyniadau lleol yn parhau'n gadarn yn nwylo pob awdurdod unigol, gan ddiogelu annibyniaeth a hunaniaeth unigryw ״ a Thorfaen a chyflawni targedau cyffredin er budd ein trigolion."

Meddai Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, y Cynghorydd Anthony Hunt:

"Dydy’r sefyllfa fel ag y mae ddim yn opsiwn synhwyrol na deniadol os ydyn ni eisiau gwella canlyniadau i breswylwyr a chynnal gwasanaethau lleol hanfodol.

"Mae ein penderfyniad yn cefnogi ffederasiwn o ddau gyngor sydd â statws cyfartal. Rydyn ni eisiau alinio ein sefydliadau lle mae'n gwneud synnwyr i ni wneud hynny, a sicrhau arbedion effeithlonrwydd sy'n dechrau ar y brig, gan gynnwys rhannu costau cyflogau tîm arwain ffederal. Bydd hyn yn ein galluogi i ffocysu adnoddau ar dalcen y gwasanaethau lleol yn ein cymunedau a chynnal ein sofraniaeth ariannol a gwleidyddol a'n trefniadau llywodraethu ar yr un pryd.

"Mae hefyd yn agor y drws i rannu arfer gorau a sgiliau arbenigol, a bydd yn gwella cydnerthedd timau bach, yn ein helpu i recriwtio, ac yn lleihau costau rheoli a gweinyddu."

Yn dilyn y penderfyniadau, bydd y cynghorau nawr yn ymgysylltu â Phartneriaethau Lleol, sy'n fenter ar y cyd rhwng Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Trysorlys EF a Llywodraeth Cymru, er mwyn datblygu achos amlinellol strategol gan gynnwys model ariannol a meini prawf ar gyfer alinio gwasanaethau a’u blaenoriaethu.

]]>
/cy/newyddion/cynghorwyr-blaenau-gwent-a-thorfaen-yn-cymeradwyo-penodi-prif-weithredwr-ar-y-cyd/ /cy/newyddion/cynghorwyr-blaenau-gwent-a-thorfaen-yn-cymeradwyo-penodi-prif-weithredwr-ar-y-cyd/ Thu, 23 Jan 2025 15:09:49 GMT Louise Bishop
Cynghorwyr yn cytuno ar Ryddid Bwrdeistref Sirol ״ i athletwr a dor-rodd recordiau Pleidleisiodd cynghorwyr ״ yn unfrydol i roi Rhyddid y Fwrdeistref i'r athletwr Steve Jones MBE.

Nododd y llynedd 40 mlynedd ers buddugoliaeth aruthrol Steve Jones ym Marathon Chicago ym 1984, buddugoliaeth a hoeliodd sylw’r byd a chadarnhau ei le yn hanes athletau. Ar y diwrnod hwnnw ym 1984, gwnaeth Jones o Lynebwy nid yn unig groesi’r llinell derfyn yn gyntaf ond hefyd chwalu recordiau, gan ddangos cyfuniad rhyfeddol o ddyfalbarhad, penderfyniad, ac ewyllys pur.

Mae'r Cyngor yn gweithio mewn partneriaeth â Chlwb Rhedeg Parc Bryn Bach i goffáu llwyddiannau Steve a rhoi sylw i’w fuddugoliaethau.

Y nod yw sicrhau bod cenedlaethau'r dyfodol yn cael eu hysbrydoli gan ei daith ryfeddol a bod ei etifeddiaeth yn parhau i ysgogi darpar athletwyr.

Pan gipiodd Steve y teitl ym Marathon Chicago, gwnaeth fwy na dim ond ennill ras; gosododd record byd newydd, gan gwblhau'r cwrs mewn 2 awr, 8 munud a 5 eiliad.

Mae'r Cynghorydd Sue Edmunds, Aelod Cabinet y Cyngor dros Bobl ac Addysg ac aelod ward dros Dde Glynebwy, wedi bod yn rhan o'r cynlluniau i anrhydeddu Steve. Meddai:

"Rwy'n falch iawn bod cynghorwyr heddiw wedi rhoi eu cefnogaeth lawn i ddyfarnu Rhyddid Bwrdeistref Sirol ״ i'r rhyfeddol Steve Jones. Mae taith Steve o'n tref Glynebwy i lwyfan y byd yn dyst i'w ymroddiad a'i angerdd diwyro am y gamp. Gwnaeth Glynebwy, tref sy'n adnabyddus am ei threftadaeth ddiwydiannol gyfoethog, siapio Jones yn unigolyn gwydn a gweithgar. Mae ei stori yn parhau i daro tant, gan ein hatgoffa bod cyflawniadau eithriadol o fewn cyrraedd gydag angerdd, ymroddiad a gwaith caled.

"Ein gobaith yw adeiladu teyrnged addas i chwedl go iawn ac ysbrydoli llawer mwy i ddilyn eu breuddwydion gyda'r un egni a phenderfyniad a ddangosodd Steve trwy gydol ei yrfa ddisglair."

Meddai Lee Aherne, o Glwb Rhedeg Parc Bryn Bach:

"Rwy'n falch iawn y bydd Cyngor ״ yn anrhydeddu Steve fel hyn. Mae Steve yn arwr chwaraeon Cymreig go iawn a ddaeth, gyda gwaith caled, yn rhedwr marathon gorau'r byd, i gyd tra’n gwasanaethu yn yr RAF."

 

]]>
/cy/newyddion/cynghorwyr-yn-cytuno-ar-ryddid-bwrdeistref-sirol-blaenau-gwent-i-athletwr-a-dor-rodd-recordiau/ /cy/newyddion/cynghorwyr-yn-cytuno-ar-ryddid-bwrdeistref-sirol-blaenau-gwent-i-athletwr-a-dor-rodd-recordiau/ Thu, 23 Jan 2025 16:22:17 GMT Louise Bishop
Meithrinfa Acorns yn dathlu adroddiad arolygu


Mae’n bleser gan y Cyngor longyfarch Meithrinfa Acorns yn Rasa am yr adroddiad ar y cyd a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn dilyn arolygiad ym mis Tachwedd 2024 gan Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) ac Estyn. Derbyniodd y feithrinfa farnau da ar draws yr holl feysydd, gan adlewyrchu ymroddiad a gwaith caled ei staff a’i harweinyddiaeth.

Amlygodd yr adroddiad arolygu nifer o gryfderau allweddol Meithrinfa Acorns.

  • Mae gan bron bob plentyn ym Meithrinfa Acorns lais cryf, gan wneud dewisiadau a phenderfyniadau am eu gweithgareddau yn hyderus.
  • Mae ymarferwyr y feithrinfa yn garedig, gofalgar a meithringar, gan greu awyrgylch cadarnhaol, hapus a deniadol. Maent yn darparu amgylchedd dysgu croesawgar sy'n ysbrydoli chwilfrydedd ac ymgysylltiad plant.
  • Mae'r adnoddau a'r gosodiad yn hybu annibyniaeth y plant a chwarae pwrpasol. Mae'r ddarpariaeth dysgu awyr agored yn arbennig o gryf, gan gefnogi datblygiad cyfannol y plant.

Nododd yr adroddiad fod y tîm arwain ym Meithrinfa Acorns yn dangos gweledigaeth glir ac angerdd dros ddarparu gofal ac addysg o ansawdd uchel. Maent wedi datblygu ethos tîm cryf, gyda'r holl staff yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi a'u gwerthfawrogi.

Mynegodd Melanie Madden a Leanna Hodgkins, y personau cofrestredig a'r personau â gofal, eu balchder yng nghyflawniadau'r feithrinfa, gan ddweud:

"Rydym wrth ein bodd gyda'r adborth cadarnhaol gan Estyn ac AGC. Mae'r adroddiad hwn oherwydd gwaith caled ac ymroddiad ein tîm cyfan. Rydym wedi ymrwymo i barhau i ddarparu amgylcheddau anogol ac ysgogol i'n holl blant."

Llongyfarchodd yr Aelod Cabinet, y Cynghorydd Trollope – Pobl a Gwasanaethau Cymdeithasol –y tîm yn Acorns, gan ddweud:

“Rydw i wrth fy modd ar ran y tîm - maen nhw wedi gweithio mor galed i gofleidio’r cwricwlwm a dilyn diddordebau’r plant, ac mae eu gwaith caled wedi talu ar ei ganfed.”

“Fel rhan o flaenoriaethau ein Cynllun Corfforaethol, ein nod yw gwneud y mwyaf o ddysgu a sgiliau i bawb er mwyn creu ״ lewyrchus, ffyniannus a mwy cydnerth, gan ddarparu cyfleoedd addysgol a sgiliau o ansawdd uchel i bawb, ac mae Acorns wedi arddangos hyn yn berffaith gyd’r adroddiad arolygu hwn.”

Mae Meithrinfa Acorns yn lleoliad meithrin a ariennir, nas cynhelir ac mae’n cynnig addysg gynnar, Dechrau’n Deg, a chynnig gofal plant. Edrychant ymlaen at adeiladu ar y llwyddiant hwn a pharhau i ddarparu gofal ac addysg i blant Glynebwy. Darllenwch yr adroddiad llawn yma:

]]>
/cy/newyddion/meithrinfa-acorns-yn-dathlu-adroddiad-arolygu/ /cy/newyddion/meithrinfa-acorns-yn-dathlu-adroddiad-arolygu/ Mon, 27 Jan 2025 14:01:42 GMT Emma Bennett
Sylw ar Jade Forbes: Hybu Gwaith Cymdeithasol Gwrth-Hiliol Fel rhan o Wythnos Cydraddoldeb Hiliol (3ydd–9fed o Chwefror 2025), rydym yn falch o dynnu sylw at Jade Forbes, gweithiwr cymdeithasol a Gweithiwr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy, y mae ei gwaith ar flaen y gad o ran hyrwyddo gwaith cymdeithasol gwrth-hiliol yng Nghymru.

Mae ymroddiad Jade i greu cymdeithas fwy cynhwysol a theg yn ysbrydoledig. Mae'n pwysleisio pwysigrwydd dathlu diwylliant Duon, yn enwedig yn ystod Wythnos Cydraddoldeb Hiliol ond hefyd drwy gydol y flwyddyn, y tu hwnt i'r ffocws ar hiliaeth a brwydrau hanesyddol.

Mae Jade yn adlewyrchu: "Rwyf wrth fy modd yn dathlu Pobl Dduon yn ystod wythnos Cydraddoldeb Hil a Mis Hanes Pobl Dduon, ond mae'n bwysig cofio bod hiliaeth yn ymddangos mewn sawl ffurf. Mae cyfoeth i'w ddathlu mewn diwylliant ac mae diwylliant du yn cynnwys mwy na hanes negyddol caethwasiaeth yn unig. Mae cymaint mwy i'w ddathlu, a dylem godi pob agwedd o ddiwylliant Du, Cymreig."

Mae ei hagwedd tuag at waith cymdeithasol wedi'i wreiddio yn y gred nad gyrfa yn unig sydd. Mae'r llwyfan i herio gwahaniaethu, mynd i'r afael â gormes, a chreu cyfleoedd ar gyfer iachâd a thwf. Mae hi'n ein hatgoffa'r pŵer i gyd sydd gan weithwyr cymdeithasol i gael effaith gadarnhaol:

"Mae gennym y pŵer i gefnogi, gwrando, annog iachâd, ac yn bwysicaf oll, i sicrhau newid."

Bydd Jade yn ymuno â Gofal Cymdeithasol Cymru ar gyfer podlediad, sydd yn dod i ddathlu Wythnos Gwaith Cymdeithasol 2025, sy'n cael ei chynnal ym mis Mawrth. Bydd y bennod arbennig hon hefyd yn cynnwys Bardd Cenedlaethol Cymru, Hanan Issa, wrth iddynt drafod cyfraniadau pwysig gwaith cymdeithasol a'i effaith.

Mae ymrwymiad Jade i waith cymdeithasol gwrth-hiliol yn paratoi'r ffordd ar gyfer Cymru fwy cynhwysol a thosturiol, ac rydym yn ddiolchgar am ei chyfraniadau.

Gadewch i ni dynnu ysbrydoliaeth o waith Jade wrth i ni barhau i adeiladu cymuned well, fwy cynhwysol gyda'n gilydd.

Darllenwch fwy am stori ysbrydoledig Jade yma: Jade Forbes – My Story – Fy Stori

 

]]>
/cy/newyddion/sylw-ar-jade-forbes-hybu-gwaith-cymdeithasol-gwrth-hiliol/ /cy/newyddion/sylw-ar-jade-forbes-hybu-gwaith-cymdeithasol-gwrth-hiliol/ Fri, 31 Jan 2025 10:33:35 GMT Louise Bishop
Ysgol Gynradd Gatholig Sant Joseff yn dathlu adroddiad Estyn Llongyfarchiadau i Ysgol Gynradd Gatholig Sant Joseff yn Nhredegar ar eu hadroddiad ardderchog gan Estyn. Disgrifiwyd Sant Joseff fel ysgol hapus, gynhwysol sy'n rhoi pwys mawr ar les disgyblion a staff.

Tynnwyd sylw at y berthynas gref rhwng disgyblion a staff fel un o gryfderau’r ysgol gyda'r staff yn adnabod disgyblion yn dda. Mae gan yr ysgol ddarpariaeth gref ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol ac mae'n cynnig cwricwlwm sy'n ennyn diddordeb ac yn darparu cyfleoedd dysgu diddorol i ddisgyblion feithrin eu gwybodaeth a'u sgiliau. Mae'r trefniadau diogelu yn gadarn, ac mae plant yn teimlo'n hapus ac yn ddiogel yn ôl yr adroddiad.

Dywedodd y Pennaeth, John McMorrow:

"Rwy'n hynod falch bod Estyn wedi cydnabod gwaith caled ac ymroddiad ein staff a'n disgyblion, gyda lles wrth wraidd popeth a wnawn. Fel ysgol rydym yn ymdrechu i sicrhau bod ein disgyblion yn ddysgwyr gydol oes gwydn a brwdfrydig. Mae staff a disgyblion yn cydweithio'n agos i hyrwyddo ein gwerthoedd Catholig i greu ysgol groesawgar a chynhwysol sydd ar agor i bob plentyn. Rydym yn cynnig Meithrinfa lawn-amser ac mae lleoedd ar gael ar gyfer Medi 2025."

Dywedodd y Cynghorydd Sue Edmunds, Aelod Cabinet dros Bobl ac Addysg

"Mae hwn yn adroddiad gwirioneddol wych i Sant Joseff ac i gymuned gyfan yr ysgol - da iawn i bawb dan sylw."

Darllenwch yr adroddiad yn llawn yma.

]]>
/cy/newyddion/ysgol-gynradd-gatholig-sant-joseff-yn-dathlu-adroddiad-estyn/ /cy/newyddion/ysgol-gynradd-gatholig-sant-joseff-yn-dathlu-adroddiad-estyn/ Thu, 06 Feb 2025 11:33:44 GMT Louise Bishop
Y Dirprwy Brif Weinidog yn clywed yn uniongyrchol gan gyfranogwyr Fforwm Dyfodol Teithio ״ Ymwelodd y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies AS â Sefydliad Glowyr Llanhiledd, ״ i glywed yn uniongyrchol gan gyfranogwyr Fforwm Dyfodol Teithio ״.

Yn ystod ei ymweliad, clywodd y Dirprwy Brif Weinidog am sesiynau diweddar y Fforwm Dinasyddion a gynhaliwyd ar 18 Ionawr a 1 Chwefror ac roedd ganddo ddiddordeb yn rhesymau’r bobl sy'n cymryd rhan yn y fforwm dros wneud cais, eu profiadau o'r broses hyd yma a'r hyn y gobeithiwn y bydd y fforwm yn ei gyflawni.

Roedd y Dirprwy Brif Weinidog yn ystyried y Fforwm yn enghraifft weithredol dda o gynnwys dinasyddion mewn ymarfer ymgynghorol i gynorthwyo gyda phenderfyniadau, a bydd clywed gan y cyfranogwyr am eu profiad yn rhoi cipolwg gwerthfawr ar y rheswm dros – ’r gwerth o – greu mwy o gyfleoedd fel yr un yma ar gyfer ymgysylltu â chymunedau a gwneud penderfyniadau yn y dyfodol.   

Mae Llywodraeth Cymru yn credu y dylai Cymru fod yn uchelgeisiol wrth greu diwylliant democrataidd cadarn ac mae'n awyddus i ddod o hyd i ffyrdd newydd i bobl ymgysylltu â'r sefydliadau sy'n effeithio ar eu bywydau. Mae'r Dirprwy Brif Weinidog yn arwain y gwaith o sefydlu Grŵp Cynghori ar Arloesi Democratiaeth newydd gyda Llywodraeth Cymru, sydd ar hyn o bryd yn recriwtio aelodau. Ei rôl fydd archwilio ac arloesi yn y maes hwn.

Dywedodd y Dirprwy Arweinydd a'r Aelod Cabinet dros Leoedd a'r Amgylchedd, y Cynghorydd Helen Cunningham: 
"Mae Cyngor ״ yn cydnabod difrifoldeb yr argyfwng hinsawdd ac ar y cyd â'n partneriaid wedi creu Fforwm Dinasyddion Dyfodol Teithio i helpu i ddeall sut y gellir gwella teithio ledled y fwrdeistref dros y pum mlynedd nesaf. Bydd ymgysylltu â barn cymunedau yn ein helpu i ddeall beth sydd ei angen i wneud y newidiadau ymarferol angenrheidiol."

Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog, Huw Irranca-Davies:
"Y fforwm dinasyddion ym Mlaenau Gwent yw’r math o waith rydyn ni am ei annog ledled Cymru. Mae'n ffordd wych o ddod â phobl ynghyd i drafod materion pwysig fel trafnidiaeth leol, fel y gall pobl gael mwy o lais yn eu cymunedau eu hunain.
"Mae ein Grŵp Cynghori ar Arloesi Democratiaeth, dan gadeiryddiaeth Dr Anwen Elias, yn archwilio ffyrdd o annog mwy o bobl i ddweud eu dweud ar sut mae ein cymunedau'n cael eu rhedeg. Rydyn ni nawr yn chwilio am aelodau i ymuno drwy broses recriwtio agored. Os oes gennych ddiddordeb, byddem yn awyddus iawn i glywed gennych chi."

Bydd y Fforwm Dinasyddion Dyfodol Teithio yn cytuno ar 10 argymhelliad yn y drydedd sesiwn ar 15 Chwefror y gall y cyngor a'r partneriaid trafnidiaeth eu cynnwys mewn gwaith yn y dyfodol ar sut y dylid gwella teithio ym Mlaenau Gwent yn ystod y pum mlynedd nesaf.

Gweithiodd y Cyngor gyda'r Sortition Foundation i ddewis trigolion drwy loteri, mewn ffordd sy'n cynrychioli poblogaeth ehangach ״. Mae’r Fforwm Dinasyddion Dyfodol Teithio yn cynnwys 21 aelod a ddewiswyd ar ôl i 6,500 o lythyrau gael eu hanfon allan ar hap yn y fwrdeistref. O'r 164 o bobl a ymatebodd cafodd unigolion eu dewis ar hap i adlewyrchu poblogaeth ״. Mae'r fforwm, a gyflwynwyd gan Involve, yn rhan o brosiect Innovate UK (Asiantaeth Arloesi Llywodraeth y DU) y cyngor o dan y Rhaglen Byw Net Sero sy'n edrych ar y rhwystrau an-technegol i Drafnidiaeth Net Sero ym Mlaenau Gwent.

Y Dirprwy Brif Weinidog Huw Irranca-Davies yn rhyngweithio ag aelodau Fforwm Dyfodol Teithio ״ yn Sefydliad y Glowyr Llanhiledd.

 

]]>
/cy/newyddion/y-dirprwy-brif-weinidog-yn-clywed-yn-uniongyrchol-gan-gyfranogwyr-fforwm-dyfodol-teithio-blaenau-gwent/ /cy/newyddion/y-dirprwy-brif-weinidog-yn-clywed-yn-uniongyrchol-gan-gyfranogwyr-fforwm-dyfodol-teithio-blaenau-gwent/ Tue, 11 Feb 2025 10:19:59 GMT Alan Powell
Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol yn ymweld â Llyfrgell a Chanolfan Dysgu Oedolion yn y Gymuned newydd Abertyleri Heddiw, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol, Jayne Bryant AS, wedi ymweld â Llyfrgell a Chanolfan Dysgu Oedolion yn y Gymuned Abertyleri yn ei gartref newydd yng Nghapel y Drindod, ״.

Mae'r hen gapel yn y dref wedi cael ei adfywio gan ddefnyddio cyllid gan Lywodraeth Cymru - cyllid Trawsnewid Trefi, Grant Trawsnewid Llyfrgelloedd, a'r Grant Di-garbon. Cafwyd hefyd Gyllid Ffyniant Gyffredin (Llywodraeth y DU) ar gyfer y prosiect.

Mae'r llyfrgell newydd wrth galon y gymuned leol ac yn darparu mynediad hawdd i ystod eang o wasanaethau a gweithgareddau, gan gynnwys Hyb Cymunedol Cyngor ״, mynediad am ddim i gyfrifiaduron a chymorth digidol, a Chyngor ar Bopeth. Dyma hefyd y lleoliad newydd ar gyfer dysgu oedolion yn y gymuned, gan gynnig ystod eang o gyrsiau a dosbarthiadau. Mae'r Llyfrgell fodern newydd yn cynnig Wi-Fi am ddim, ac mae pob llawr yn cynnig mynediad hawdd gyda lifft i gynorthwyo'r rhai sydd ei angen. Rheolir y llyfrgell gan Aneurin Leisure Trust.

Gwnaeth y Cynghorydd John Morgan, Aelod Cabinet y Cyngor dros Leoedd ac Adfywio; Arweinydd y Cyngor, Steve Thomas a Rheolwr Gwasanaethau Llyfrgelloedd ״, Tracey Jones, gwrdd â Jayne Bryant AS cyn iddi gael taith dywys o amgylch yr adeilad a sgwrsio â'r rhai fu’n gweithio ar y prosiect ac aelodau o'r gymuned sy'n elwa o'r gwasanaethau.

Croesawodd Ysgrifennydd y Cabinet y cyfle i weld yr holl wasanaethau hyn a'r hyn maen nhw’n ei gynnig gan hefyd gwrdd â grŵp cymdeithasol Cymraeg a oedd yn mwynhau eu digwyddiad cymdeithasol rheolaidd.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol, Jayne Bryant:

"Mae Capel y Drindod yn adeilad pwysig iawn i Abertyleri ac rydw i mor falch ein bod wedi gallu cefnogi ei drawsnewidiad drwy ein rhaglen Trawsnewid Trefi, gan wneud ystod eang o wasanaethau'n fwy hygyrch i'r gymuned leol. Mae dod ag adeiladau gwag a segur yn ôl i ddefnydd gweithredol yn un o gonglfeini ein strategaeth adfywio ac mae'n wych gweld bod y buddsoddiad hwn eisoes yn cael effaith gadarnhaol."

Meddai'r Cynghorydd John Morgan, Aelod Cabinet Cyngor ״ dros Leoedd ac Adfywio a Datblygu Economaidd:

"Roeddwn yn falch iawn o groesawu Ysgrifennydd y Cabinet, Jayne Bryant AS i Abertyleri heddiw i ddangos sut mae cyllid Llywodraeth Cymru wedi cael ei ddefnyddio i adfywio Capel y Drindod a rhoi gwasanaethau hanfodol wrth galon y gymuned. Gan weithio gyda'n partneriaid yn Aneurin Leisure Trust rydyn ni’n gwneud Capel y Drindod yn ganolfan ffyniannus i'r dref, gan feithrin cefnogaeth ar gyfer addysg, mentrau cymunedol a gweithgareddau canol y dref. Mae hefyd yn cynnig lleoliad gwych i’n Hyb Cymunedol, gan roi mynediad hawdd i breswylwyr at ystod o wasanaethau’r cyngor, a ffynhonnell o gyngor ar garreg eu drws.

"Mae hwn yn gyfnod cyffrous i Abertyleri ac mae ailddatblygu Capel y Drindod yn rhan o Gynllun Creu Lleoedd parhaus ehangach ar gyfer yr ardal ac yn ategu cynlluniau eraill sy'n gysylltiedig ag adfywio sydd wedi'u cyflawni yng nghanol y dref yn ddiweddar."

Dywedodd Tracy Jones, Rheolwr Gwasanaethau Llyfrgell Llyfrgelloedd ״:

"Mae'r gofod llyfrgell newydd yn anhygoel, ac mae fy nhîm a minnau wedi gweithio'n galed i sicrhau bod ein holl aelodau yn mwynhau defnyddio’r amgylchedd newydd. Rydym yn gobeithio y bydd y gofod newydd yn ysbrydoli hyd yn oed mwy o bobl i ddefnyddio'r adnodd gwerthfawr rydyn ni’n ei ddarparu."

Dywedodd Phill Sykes, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Aneurin Leisure Trust:

"Credwn fod y gofod newydd yn ychwanegiad gwych i ganol tref Abertyleri. Mae’r ddarpariaeth dysgu oedolion yn y gymuned yn cynnig cyfleusterau gwych. Rydyn ni’n gwerthfawrogi bod lleoliad blaenorol y ganolfan ar dir ysgol yn rhwystr i nifer o bobl rhag ymgysylltu â dysgu, felly trwy ddarparu adnodd gyda chyfleusterau eithriadol rydyn ni’n gobeithio annog mwy o bobl i roi cynnig ar gyrsiau newydd."

Mae Llyfrgell a Chanolfan Addysg Gymunedol Abertyleri yng Nghapel y Drindod, Stryd yr Eglwys, Abertyleri NP13 1DB.

Mae rhagor o wybodaeth am wasanaethau llyfrgell ״ ar gael yn:

]]>
/cy/newyddion/ysgrifennydd-y-cabinet-dros-dai-a-llywodraeth-leol-yn-ymweld-a-llyfrgell-a-chanolfan-dysgu-oedolion-yn-y-gymuned-newydd-abertyleri/ /cy/newyddion/ysgrifennydd-y-cabinet-dros-dai-a-llywodraeth-leol-yn-ymweld-a-llyfrgell-a-chanolfan-dysgu-oedolion-yn-y-gymuned-newydd-abertyleri/ Wed, 12 Feb 2025 06:50:47 GMT Louise Bishop
Dal i weini cinio ysgol yn 80 – Pen-blwydd Hapus Gill a Sonia! (1) Dymuniadau gorau i ddwy o'n cynorthwywyr arlwyo ysgolion, sy'n dathlu eu pen-blwydd yn 80 oed y mis hwn, tra’n parhau i weini cinio i blant ym Mlaenau Gwent.

Mae Sonia Blanchard a Gillian Morris ill dwy’n cyrraedd y garreg filltir hon fis yma, a dydyn nhw ddim yn barod i hongian eu ffedogau i fyny eto! Mae'r ddwy ohonyn nhw'n dal i garu'r swydd sydd, yn eu barn nhw, yn eu cadw nhw’n iach a hapus. Maen nhw wrth eu bodd yn gweld wynebau hapus y plant a chlywed eu straeon bob dydd.

Cafodd nain Gillian Morris ei geni a'i magu yn Nant-y-glo ac mae'n gweithio yn Ysgol Gymraeg Bro Helyg. Cyn hynny, bu'n gweithio yn hen Ysgol Gyfun Nant-y-glo ychydig i fyny'r ffordd.

Mae Sonia Blanchard, sy’n hen fam-gu, wedi gweithio yn Ysgol Gynradd y Cwm yn ei phentref genedigol ers dros 40 mlynedd.

Mae'r ddwy ddynes yn disgrifio'r ysgolion lle maen nhw'n gweithio fel 'un teulu mawr' sydd i gyd yn gefnogol iawn i'w gilydd.

Ar ôl 33 mlynedd yn y swydd, mae Gillian yn dal i fwynhau dawnsio roc a rôl o gwmpas y gegin ac yn troi'r radio i fyny’n slei bach wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer amser cinio. Pan ofynnwyd iddi pam ei bod hi’n dal i weithio yn 80 oed, dywedodd: "Rydw i wrth fy modd ac mae'n fy nghadw'n heini ac yn iach! Mae mor werth chweil, ac rydw i wrth fy modd yn gweld wynebau'r plant a rhannu straeon a jôcs gyda nhw."

Mae Gillian hefyd yn dysgu rhai ymadroddion Cymraeg gan ddisgyblion yn yr ysgol Gymraeg, "Mae'n anhygoel eu clywed nhw’n siarad yn Gymraeg," meddai.

Gill Morris

Dywed Sonia, sydd hefyd yn dathlu 60 mlynedd o briodas i’w gŵr Idris yn yr un mis, ei bod hi wrth ei bodd yn dod i'r gwaith bob dydd. "Dwi wastad yn hoffi bod yn brysur a chael nod. I fi, dyna beth yw gwaith, a helpu allan gyda fy ngorwyrion wrth gwrs," meddai. "Dwi wir yn mwynhau cwmni hyfryd y merched yn y gegin ’r plant. Mae wedi bod yn wych gweld cenedlaethau o deuluoedd yn dod drwodd."

Sonia Blanchard

Bydd Sonia a Gillian yn dathlu eu diwrnodau mawr gyda'u teuluoedd, ac rydyn ni’n siŵr fod ambell sypréis ar y gweill.

Dymunwn y gorau iddynt a diolch iddyn nhw am eu gwasanaeth i'n plant a'n pobl ifanc yma ym Mlaenau Gwent.

Gill Morris

Sonia Blanchard

]]>
/cy/newyddion/dal-i-weini-cinio-ysgol-yn-80-pen-blwydd-hapus-gill-a-sonia-1/ /cy/newyddion/dal-i-weini-cinio-ysgol-yn-80-pen-blwydd-hapus-gill-a-sonia-1/ Thu, 13 Feb 2025 08:51:56 GMT Louise Bishop
Blackwood Engineering Limited: Gwella Gweithrediadau a Chefnogi Cyflogaeth Leol Mae Blackwood Engineering Limited (BWE), sy’n arwain y farchnad ym maes cynhyrchu a chyflenwi castiau metel a gwrthbwysau, yn falch o gyhoeddi datblygiadau sylweddol yn ei weithrediadau a chefnogaeth barhaus i gyflogaeth leol yng Nghymoedd De Cymru, yn dilyn ei gais llwyddiannus am grant gan Gyngor ״.

Wedi’i sefydlu 75 mlynedd yn ôl fel ffowndri yn Aber-big, mae Blackwood Engineering wedi esblygu i fod yn chwaraewr allweddol yn y sector gweithgynhyrchu adeiladu, gan gyflenwi enwau byd-eang fel Caterpillar, JCB, a Nifty. Mae Blackwood Engineering yn parhau i fod ym mherchnogaeth breifat y Teulu Connor ac mae’n gyflogwr lleol pwysig yng Nghymoedd De Cymru. Rhan o lwyddiant cudd Coed Duon fel busnes teuluol cynnes a chyfeillgar yng Nghymru yw darparu gwasanaeth cwsmeriaid gwych, cynnyrch gwych, a chynnig amrywiaeth o wasanaethau 'gwerth ychwanegol' ochr yn ochr â chyflenwi castiau a gwrthbwysau i gwsmeriaid.

Mae’r tîm yn Blackwood Engineering bellach yn cynnig ateb llawn i gwsmeriaid sy’n golygu y gall reoli’r broses beirianneg dechnegol a dod o hyd i gynnyrch crai ar brosiectau a delio â logisteg, prosesu, storio a chyflenwi i safleoedd gweithgynhyrchu cyfatebol yn y DU neu Ewrop.

Gyda chymorth arian grant, mae Blackwood Engineering wedi gwneud buddsoddiadau strategol i wella ei weithrediadau. Defnyddiwyd yr arian i ddatblygu sgiliau datrys problemau aelodau'r tîm ac i brynu a gosod adlenni i ddiogelu'r cynnyrch gorffenedig sy'n cael ei storio ar yr iard. Disgwylir i'r buddsoddiad hwn leihau costau ail-weithio a achosir gan amodau tywydd garw, a thrwy hynny wella ansawdd y cynnyrch ac effeithlonrwydd gweithredol.

Meddai llefarydd ar ran y cwmni, Vivienne Compton: “Rydym ni yn Blackwood Engineering wrth ein bodd i fod yn fuddiolwr y cynllun hwn mewn hinsawdd economaidd anodd i lawer o gyflogwyr.

Mae'r buddsoddiad hwn wedi ein helpu i gadw swyddi presennol, gwella ansawdd cynnyrch, a chyflogi pobl ifanc i rolau datblygu. Rydym yn ddiolchgar i Gyngor ״ am eu cefnogaeth i adeiladu a chadw busnes llwyddiannus sy’n gallu darparu cyflogaeth leol bwysig i lawer o unigolion ar wahanol adegau yn eu bywyd gwaith.”

Yn 2024 yn unig, cefnogodd Blackwood Engineering amrywiol fentrau, gan gynnwys interniaethau gyda Phrifysgol Caerdydd, prentisiaethau gradd israddedig gyda Phrifysgol De Cymru, a rolau graddedigion peirianneg o Brifysgol Oxford Brookes. Darparodd y cwmni hefyd gyfleoedd cyflogaeth i ymadawyr coleg ac unigolion di-waith dros 50 oed.

ѱ岹’r Cynghorydd John Morgan, Aelod Cabinet - Lleoedd ac Adfywio a Datblygu Economaidd, “Mae Blackwood Engineering wedi bod yn aelod gwerthfawr o’r gymuned fusnes ers blynyddoedd lawer ac mae’n dda clywed eu bod yn cefnogi cenedlaethau’r dyfodol gyda phrentisiaethau gradd ac yn darparu cyfleoedd ailhyfforddi i’r gymuned leol.”

Ariennir Grant Datblygu Busnes ״ gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU a’i reoli gan Dîm Busnes ac Arloesi Cyngor ״. Nod y Grant Datblygu Busnes yw cefnogi twf a datblygiad busnesau newydd a phresennol ym Mlaenau Gwent. Mae’r cynllun bellach ar gau ond mae busnesau sydd angen cymorth ariannol yn cael eu hannog i lenwi’r Ffurflen Mynegi Diddordeb ar-lein yn y ddolen isod ac os daw rhagor o arian ar gael o fis Ebrill 2025 ymlaen, byddwn yn cysylltu â busnesau sydd ar y rhestr aros.

 

]]>
/cy/newyddion/blackwood-engineering-limited-gwella-gweithrediadau-a-chefnogi-cyflogaeth-leol/ /cy/newyddion/blackwood-engineering-limited-gwella-gweithrediadau-a-chefnogi-cyflogaeth-leol/ Thu, 13 Feb 2025 08:57:56 GMT Carolyn Jenkins
Able Touch Joinery Holdings Ltd yn Sicrhau Grant Datblygu Busnes Mae Able Touch Joinery Holdings Ltd, cwmni sydd wedi hen ennill ei blwyf yn arbenigo mewn gwasanaethau saernïaeth, gwaith saer, ac adeiladu wedi derbyn Grant Datblygu Busnes gan Gyngor ״.

Bydd y grant, sy'n dod i gyfanswm o £26,963.60, yn cael ei ddefnyddio i wella diogelwch a chynhyrchiant gweithdy'r cwmni trwy gaffael systemau awyru newydd a gwyntyllau echdynnu llwch.

Mae gan Able Touch Joinery Ltd, sydd wedi’i leoli yn Nhredegar, bron i dri degawd o brofiad ac mae wedi ennill enw da am ragoriaeth a dibynadwyedd, yn enwedig yn y farchnad arbenigol o saernïaeth bwrpasol ar gyfer adeiladau treftadaeth. Mae'r cwmni hefyd yn gwasanaethu bariau, bwytai, siopau, a chleientiaid preswyl, gan ddarparu gwaith adeiladu o ansawdd uchel a saernïaeth wedi'i deilwra i ddiwallu anghenion penodol pob prosiect.

Mae'r buddsoddiad mewn systemau awyru newydd a gwyntyllau echdynnu llwch yn hanfodol ar gyfer cynnal safonau uchel o grefftwaith tra'n sicrhau amgylchedd gwaith diogel i weithwyr. Mae'r gwelliannau hyn yn arbennig o allweddol wrth i'r cwmni anelu at gwrdd â'r galw cynyddol am ei wasanaethau, yn enwedig ar ôl dyfarnu contract sylweddol yn ymwneud ag adfer adeilad rhestredig treftadaeth mawr, y Bwrdd Glo Cenedlaethol (NCB).

Mynegodd Stephen Williams, Cyfarwyddwr Able Touch Joinery Ltd, ei ddiolchgarwch am y gefnogaeth a dderbyniwyd. Meddai: "Bydd y grant hwn yn ein galluogi i barhau i ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel i'n cleientiaid tra'n sicrhau diogelwch a lles ein gweithwyr. Rydym yn gyffrous am y cyfleoedd a ddaw yn sgil y buddsoddiad hwn ac yn edrych ymlaen at gyfrannu ymhellach i'r gymuned leol".

ѱ岹’r Cynghorydd John Morgan, Aelod Cabinet y Cyngor dros Leoedd ac Adfywio:

“Mae Able Touch Joinery yn gwmni hirsefydlog hynod bwysig yn Nhredegar, ac rwy’n falch iawn o weld eu bod yn parhau i flaenoriaethu diogelwch a lles eu gweithlu wrth gynhyrchu’r gwaith o ansawdd uchel a welwn mewn cymaint o’n hadeiladau lleol yn gyson.”

Ariennir Grant Datblygu Busnes ״ gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU a’i reoli gan Dîm Busnes ac Arloesi Cyngor Bwrdeistref Sirol ״. Nod y Grant Datblygu Busnes yw cefnogi twf a datblygiad busnesau newydd a phresennol ym Mlaenau Gwent. Mae’r cynllun bellach ar gau ond mae busnesau sydd angen cymorth ariannol yn cael eu hannog i lenwi’r Ffurflen Mynegi Diddordeb ar-lein yn y ddolen isod ac os daw rhagor o arian ar gael o fis Ebrill 2025 ymlaen, byddwn yn cysylltu â busnesau sydd ar y rhestr aros.

 

 

]]>
/cy/newyddion/able-touch-joinery-holdings-ltd-yn-sicrhau-grant-datblygu-busnes/ /cy/newyddion/able-touch-joinery-holdings-ltd-yn-sicrhau-grant-datblygu-busnes/ Tue, 18 Feb 2025 08:44:55 GMT Carolyn Jenkins
Manteisiwch ar y cynllun ECO4 wrth i Gyngor ״ bartneru gyda City Energy ac EDF Mae Cyngor ״ yn gweithio mewn partneriaeth â City Energy Dinas ’r cyflenwr ynni EDF fel rhan o gynllun rhanbarthol gyda'r nod o wella effeithlonrwydd ynni yng nghartrefi trigolion tlotaf y fwrdeistref o ran tanwydd.

Bydd y cynllun ECO4 yn nodi eiddo domestig sydd angen mesurau gwella ynni. Bydd cartrefi cymwys perchnogion eiddo a thenantiaid sy'n rhentu'n breifat yn cael eu hôl-ffitio ag ystod o inswleiddio a nodweddion gwella defnydd ynni.

• Rydych chi’n derbyn cymorth lles, neu
• Mae incwm eich cartref o dan £31,000, neu
• Mae gennych gyflwr iechyd cymwys, e.e. cardiofasgwlaidd, anadlol, imiwnoataliedig neu symudedd cyfyngedig

Dywedodd y Dirprwy Arweinydd a'r Aelod Cabinet dros Leoedd a'r Amgylchedd, y Cynghorydd Helen Cunningham: 
"Mae croeso mawr i'r cynllun partneriaeth hwn gan fod pris ynni wedi cynyddu'n ddramatig yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac mae’r argyfwng costau byw wedi gwthio mwy o deuluoedd i dlodi tanwydd. Bydd sicrhau bod cymorth ar gael i bobl sy'n byw mewn eiddo sydd â’r graddfeydd ynni isaf yn helpu i wella cynhesrwydd ac effeithlonrwydd ynni eu cartref, a gallai ddod â manteision iechyd a lles.
 Gyda'r argyfwng hinsawdd a natur, mae'r Cyngor yn cefnogi cynlluniau sy'n ymateb iddynt. Dylai'r cynllun hwn helpu i leihau allyriadau carbon cartrefi sy'n derbyn mesurau gwella.

I weld a ydych chi'n gymwys i gael cyllid, sganiwch y cod QR i gwblhau arolwg cyflym, cyflwyno eich cais a chymryd cam tuag at gartref mwy cynnes a chlyd! 

Bydd y daflen isod y gellir ei lawrlwytho yn eich helpu i ddeall mwy am beth sydd ei angen.

ow will help you to further understand what is required.

Trawsnewidiwch eich cartref gyda thaflen ECO4 (i’w lawrlwytho).

]]>
/cy/newyddion/manteisiwch-ar-y-cynllun-eco4-wrth-i-gyngor-blaenau-gwent-bartneru-gyda-city-energy-ac-edf/ /cy/newyddion/manteisiwch-ar-y-cynllun-eco4-wrth-i-gyngor-blaenau-gwent-bartneru-gyda-city-energy-ac-edf/ Wed, 19 Feb 2025 14:03:27 GMT Alan Powell
Cyngor ״ yn Cyflawni Statws Caru Gwenyn

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol ״ yn falch o gyhoeddi ei fod wedi llwyddo i ennill statws Caru Gwenyn, fel y cydnabyddir gan Dasglu’r Cynllun Gweithredu ar gyfer Peillwyr. Mae'r ardystiad mawreddog hwn yn tanlinellu ymrwymiad y Cyngor i wella bioamrywiaeth a chefnogi poblogaethau pryfed peillio yn y rhanbarth.

Mae’r cynllun Caru Gwenyn yn fenter sy’n hyrwyddo creu amgylcheddau sy’n ffafriol i iechyd a lles peillwyr, sy’n hanfodol i’n hecosystemau ac amaethyddiaeth. Mae ymdrechion y Cyngor yn hyn o beth wedi'u cydnabod trwy ddyfarnu'r dystysgrif a'r logo Caru Gwenyn, y gellir eu defnyddio bellach ar gylchlythyrau a deunyddiau hyrwyddo.

Dywedodd Nadine Morgan, Ecolegydd Cyngor Bwrdeistref Sirol ״, “Mae cydnabyddiaeth gynyddol bod angen cymryd camau gweithredu i atal dirywiad peillwyr, oherwydd yr angen i ddiogelu’r gadwyn fwyd a chynefinoedd lleol.

Yn draddodiadol mae peillwyr yn dibynnu ar amrywiaeth o gynefinoedd megis dolydd, gwrychoedd, ymylon coetir, glaswelltiroedd sy’n gyfoethog mewn meillion a pherllannau. Mae newid i arferion amaethyddol, newid defnydd tir a dwysáu wedi arwain at ddirywiad yn y cynefinoedd traddodiadol hyn. Gellir darparu cynefinoedd amgen mewn gerddi, parciau, mannau agored ac ymylon ffyrdd.

Mae gan Gyngor ״ y gallu i wneud newidiadau sylweddol drwy newid trefniadau plannu a thorri gwair gan hyrwyddo creu cynefin sy’n deall peillwyr. Bydd gweithredu newidiadau i arferion rheoli tir yn hybu mwy o amrywiaeth blodau a fydd hefyd yn hybu gwell strwythur pridd a chynyddu’r gallu i storio carbon.

Y weledigaeth hirdymor yw sicrhau bod ein rhwydweithiau glaswelltir wedi’u cysylltu’n dda, bod ganddynt amrywiaeth rhagorol o flodau ac mewn cyflwr da i allu cynnal amrywiaeth o fywyd gwyllt gan gynnwys pryfed peillio. Felly, rydym yn falch o dderbyn y wobr hon i gydnabod y camau gweithredu rydym wedi’u cymryd i gefnogi ein peillwyr lleol a bywyd gwyllt arall, sy’n cyfrannu at fynd i’r afael ag argyfyngau natur a hinsawdd. Rydym yn gyffrous iawn i barhau â’r gwaith hwn i’r dyfodol gan wella gofodau i greu ecosystemau gwydn.”

Mae’r Cyngor yn annog rhannu arferion gorau i wella cyfleoedd i beillwyr ac yn gwahodd y gymuned i gymryd rhan yn y fenter hon. Gellir rhannu lluniau a diweddariadau ar weithgareddau Caru Gwenyn ar gyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio’r hashnod #CaruGwenynCymru, ac mae’r Cyngor yn awyddus i roi cyhoeddusrwydd i’r ymdrechion hyn drwy ei rwydweithiau cyfryngau cymdeithasol.

Er mwyn cynnal statws Caru Gwenyn, bydd y Cyngor yn cyflwyno cais adnewyddu ar ôl blwyddyn a fydd yn manylu ar gyflawniadau a chynlluniau ar gyfer y dyfodol.

]]>
/cy/newyddion/cyngor-blaenau-gwent-yn-cyflawni-statws-caru-gwenyn/ /cy/newyddion/cyngor-blaenau-gwent-yn-cyflawni-statws-caru-gwenyn/ Wed, 19 Feb 2025 14:03:52 GMT Carolyn Jenkins
Pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal/gofalwyr maeth ym Mlaenau Gwent yn croesawu cynllun i ddileu elw o ofal plant Y Diwrnod Gofalu hwn (21 Chwefror), mae Maethu Cymru ״ yn ymuno â chymuned Maethu Cymru i dynnu sylw at fanteision gofal awdurdodau lleol wrth i Fil Iechyd a Gofal Cymdeithasol nodedig Llywodraeth Cymru ddechrau’r broses o ddileu elw o’r system gofal plant.

Cymru yw’r wlad gyntaf yn y DU i ddeddfu i ddileu elw o ofal preswyl a gofal maeth i blant.

Nod ymgyrch Aros yn Lleol Maethu Cymru, a arweinir gan bobl sydd â phrofiad o ofal a gofalwyr maeth awdurdodau lleol, yw dangos sut y bydd y polisi’n cefnogi pobl ifanc mewn gofal i aros yn gysylltiedig â’u hardal leol, eu cymuned, eu ffrindiau a’u hysgol.

Y llynedd, arhosodd 85 y cant o bobl ifanc â gofalwyr maeth awdurdod lleol yn eu hardal. Fodd bynnag, dim ond 31 y cant o bobl ifanc sy'n derbyn gofal gan asiantaethau maethu masnachol a arhosodd yn lleol, gyda 7 y cant yn cael eu symud y tu allan i Gymru yn gyfan gwbl.*

Dechreuodd y gofalwyr maeth, Bev a Mel, o Flaenau Gwent, faethu gydag asiantaeth faethu fasnachol yn 2018. Fe wnaethant benderfynu trosglwyddo i Faethu Cymru ״ yn 2024 – a ddisgrifiwyd ganddynt fel “cam cadarnhaol gwirioneddol”.

Esboniodd Mel: “Yn flaenorol, gydag asiantaeth annibynnol fe gymerodd amser hir i ddod o hyd i berson ifanc a oedd yn addas i ni.

Ond y llynedd fe ddechreuon ni faethu gyda’n hawdurdod lleol ac o fewn wythnosau cawsom ein cyflwyno i berson ifanc o’r ardal leol yr oedd ein gweithiwr cymdeithasol yn meddwl y byddai’n cyd-fynd yn dda â’n profiad.”

Aethom ni yn bendant i mewn gyda syniad o sut beth fyddai maethu gydag awdurdod lleol, ond rydym mor falch o ddweud bod ein profiad wedi bod yn wych. Mae’r gefnogaeth yn wych ac mae yna ymdeimlad gwirioneddol o gymuned gyda gofalwyr maeth eraill.”

Dywed Bev: “Rydyn ni'n gofalu am dri o blant, ac maen nhw wrth eu bodd yma. Maen nhw'n mynd i'w hysgol leol, yn gweld eu ffrindiau a'u teuluoedd genedigol. Mae’r cysylltiad hwnnw mor bwysig. Er efallai na fydd y plant hyn gyda ni am eu bywydau cyfan, fe fyddan nhw bob amser mewn lle sy’n teimlo fel cartref. A dyna hanfod maethu.”

Yng Nghymru, mae mwy na 7,000 o blant yn y system ofal, ond dim ond 3,800 o deuluoedd maeth. Mae Maethu Cymru wedi gosod y nod beiddgar o recriwtio dros 800 o deuluoedd maeth newydd erbyn 2026 i ddarparu cartrefi croesawgar i blant a phobl ifanc lleol.

Ar hyn o bryd mae 96 o blant mewn gofal maeth a 70 o ofalwyr maeth ym Mlaenau Gwent, ond mae angen mwy o ofalwyr bob amser.

I gael rhagor o wybodaeth am faethu, neu i wneud ymholiad, ewch i: e-bost fostering@blaenau-gwent.gov.uk neu ffoniwch ein Llinell Ymholiadau: 01495 369620

]]>
/cy/newyddion/pobl-ifanc-sydd-a-phrofiad-o-ofalgofalwyr-maeth-ym-mlaenau-gwent-yn-croesawu-cynllun-i-ddileu-elw-o-ofal-plant/ /cy/newyddion/pobl-ifanc-sydd-a-phrofiad-o-ofalgofalwyr-maeth-ym-mlaenau-gwent-yn-croesawu-cynllun-i-ddileu-elw-o-ofal-plant/ Wed, 19 Feb 2025 14:54:41 GMT Emma Bennett
Cymuned Ddysgu Ebwy Fawr yn ennill Gwobr Aur Siarter Iaith Rhanbarthol Mae Cymuned Ddysgu Ebwy Fawr (cyfnod uwchradd) wedi’i hanrhydeddu â gwobr aur fawreddog y Siarter Iaith Rhanbarthol am ei hymdrechion rhagorol i ddatblygu dwyieithrwydd. Mae'r anrhydedd hwn yn cydnabod ymrwymiad yr ysgol i hyrwyddo'r iaith Gymraeg a diwylliant Cymreig ar draws ei chymuned.

Mae’r ysgol wedi cyflawni’r garreg filltir hon trwy flaenoriaethu dwyieithrwydd fel menter ysgol gyfan a chefnogi gweithgareddau sy’n adeiladu ar gyflawniadau’r wobr arian. Mae’r gymuned ysgol gyfan, gan gynnwys staff a myfyrwyr, yn llysgenhadon dros y Gymraeg, gan gymryd rhan weithredol mewn cynllunio cyfleoedd ar gyfer ymwybyddiaeth iaith a diwylliant.

Mae uchafbwyntiau allweddol ymdrechion yr ysgol yn cynnwys:

  • Cydnabod cyfleoedd i atgyfnerthu diwylliant Cymru ar draws gwahanol feysydd dysgu a phrofiad (MDPh)
  • Sicrhau bod yr holl staff yn ymwybodol o weledigaeth yr ysgol ar gyfer y Gymraeg ac yn cymryd cyfrifoldeb am eu taith bersonol a phroffesiynol
  • Hyrwyddo naws Gymreig trwy ddylanwad y Criw Cymraeg gydag ystod eang o fentrau
  • Dangos ymrwymiad i wneud defnydd o'r Gymraeg yn weladwy ac yn glywadwy y tu allan i'r dosbarth ac i'r gymuned ehangach

Mae’r Gwasanaeth Cyflawni Addysg (GCA) wedi mynegi ei ddiolchgarwch i’r ysgol am fanteisio ar y cyfle hwn a chydnabod y rôl ganolog y mae dwyieithrwydd yn ei chwarae yn y Cwricwlwm i Gymru. Mae’r GCA yn edrych ymlaen at gefnogi’r ysgol ymhellach wrth iddi barhau i ymgorffori a mireinio ei harferion i gynnal gofynion y wobr aur.

Dywedodd y Pennaeth, Melanie Thomas: “Fel ysgol rydym wrth ein bodd gyd’r wobr hon, mae’n cydnabod y gwaith caled ’r ymroddiad a wneir gan fyfyrwyr a staff i gofleidio’r Gymraeg. Edrychwn ymlaen at barhau â’n taith i gofleidio’r diwylliant Cymreig ’r iaith Gymraeg.”

 

]]>
/cy/newyddion/cymuned-ddysgu-ebwy-fawr-yn-ennill-gwobr-aur-siarter-iaith-rhanbarthol/ /cy/newyddion/cymuned-ddysgu-ebwy-fawr-yn-ennill-gwobr-aur-siarter-iaith-rhanbarthol/ Wed, 19 Feb 2025 15:51:09 GMT Carolyn Jenkins
Cyngor yn cymeradwyo cyllideb yng nghanol pwysau difrifol ar ysgolion a gwasan-aethau hamdden Heddiw, mae Cyngor ״ wedi cymeradwyo ei gyllideb ar gyfer 2025/26, gan ddarparu hwb ariannol mawr-ei-angen i ysgolion a gwasanaethau hamdden, y mae'r ddau dan straen ariannol eithafol.

Er gwaethaf cynnydd yng nghyllid Llywodraeth Cymru o 4.8%—ychydig yn uwch na chyfartaledd Cymru—mae'r Cyngor yn dal i wynebu heriau ariannol enfawr. Mae costau cynyddol o chwyddiant, biliau ynni, a gofynion cynyddol ar wasanaeth yn parhau i ymestyn adnoddau i'r eithaf.

Mewn cyfarfod arbennig heddiw, cytunodd y cynghorwyr ar gyllideb sy'n amddiffyn gwasanaethau rheng flaen hanfodol ac yn sicrhau buddsoddiad sylweddol i addysg ein pobl ifanc gyda'r cynnydd mwyaf erioed mewn cyllid ysgolion, ochr yn ochr â chefnogaeth ychwanegol i wasanaethau hamdden a gynhelir gan Aneurin Leisure Trust.

Treth Gyngor i godi 4.95%—ymhlith yr isaf yng Nghymru, gyda chymorth i aelwydydd incwm isel

Bydd y Dreth Gyngor yn codi 4.95%, sy'n cyfateb i £1.22 yr wythnos ar gyfer cartref Band A a £1.42 i Fand B—sy'n cwmpasu dros 83% o eiddo ym Mlaenau Gwent.  Er gwaethaf y cynnydd, mae hyn yn parhau i fod yn un o'r isaf yng Nghymru.

Yn bwysig, mae 91% o gartrefi ym Mlaenau Gwent yn is na'r eiddo Band D cyffredin, sy'n golygu na fydd y cynnydd blynyddol o £95 a ddyfynnir yn eang ar gyfer Band D yn berthnasol i fwyafrif helaeth ein preswylwyr. Bydd yr aelwydydd hyn yn gweld cynnydd llai.

Yn hanfodol, ni fydd llawer o aelwydydd incwm isel yn gweld unrhyw gynnydd o gwbl, diolch i'r Cynllun Gostyngiad y Dreth Gyngor, sy'n cefnogi'r rhai sy'n ei chael hi'n anodd talu eu biliau. Mae'r Cyngor yn diogelu'r cynllun hwn yn llawn gyda £10.5 miliwn, gan sicrhau cefnogaeth barhaus i'r rhai sydd ei angen fwyaf. Mae trigolion hefyd yn cael eu hannog i wirio a ydynt yn gymwys ar gyfer cynlluniau consesiynol eraill.

Dewisiadau Anodd i Gadw Gwasanaethau i Redeg

Mae misoedd o gynllunio ariannol gofalus ac ymgysylltu cyhoeddus wedi llywio’r gyllideb hon, sy'n blaenoriaethu mynd i'r afael ag anghydraddoldebau a chefnogi'r rhai mwyaf agored i niwed drwy Egwyddorion Marmot. Mae'r Cyngor hefyd wedi nodi £1.9 miliwn mewn arbedion a ffynonellau incwm newydd o dan saith thema allweddol, gan gynnwys:

  • Cwtogi ac adolygu adeiladau
  • Moderneiddio gwasanaethau drwy arloesi digidol
  • Cynhyrchu incwm
  • Prosiectau effeithlonrwydd ynni

Datganiad Arweinydd y Cyngor: ‘Gwasanaethau Ysgolion a Hamdden ar Fin Torri’

Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Steve Thomas:

"Dyma un o'r cyllidebau anoddaf i ni orfod ei gosod erioed. Mae ein hysgolion a'n gwasanaethau hamdden ar fin torri oherwydd pwysau ariannol o ganlyniad i'r argyfwng costau byw, ac rydym yn gwneud popeth posibl i'w cefnogi. Y cynnydd mewn cyllid i ysgolion yw'r uchaf erioed, oherwydd rydym yn gwybod pa mor hanfodol yw addysg ar gyfer dyfodol ein plant.

"Rydym hefyd wedi cadw’r Dreth Gyngor mor isel â phosibl tra'n sicrhau ein bod yn dal i allu darparu'r gwasanaethau y mae pobl yn dibynnu arnynt. Nid oes modd osgoi penderfyniadau anodd, gyda chyllid Llywodraeth Cymru ond yn cynrychioli tua 80% o'n cyllideb. Fodd bynnag, rydym yn parhau i ddiogelu'r Cynllun Gostyngiad y Dreth Gyngor yn llawn, sy'n golygu y bydd llawer o aelwydydd incwm isel yn cael eu diogelu rhag y cynnydd hwn, ac ni fydd y rhan fwyaf o'r rhain yn talu unrhyw gynnydd o gwbl. Rydym yn annog preswylwyr i wirio a ydynt yn gymwys i gael cymorth. Darganfod mwy yma.

Gweithio gyda Chyngor Torfaen

Yn ddiweddar, cymeradwyodd ״ gydweithio agosach gyda CBS Torfaen, gan gynnwys rhannu Prif Weithredwr ar y cyd.

Ychwanegodd y Cynghorydd Thomas:

“Nid yw cydweithio â Thorfaen ond yn ymwneud ag arbed costau—mae'n ymwneud â sicrhau dyfodol ein gwasanaethau hanfodol. Trwy gyfuno adnoddau ac arbenigedd, gallwn wneud gwasanaethau'n fwy cynaliadwy a sicrhau y gallwn barhau i ddarparu ar gyfer ein cymunedau.”

]]>
/cy/newyddion/cyngor-yn-cymeradwyo-cyllideb-yng-nghanol-pwysau-difrifol-ar-ysgolion-a-gwasan-aethau-hamdden/ /cy/newyddion/cyngor-yn-cymeradwyo-cyllideb-yng-nghanol-pwysau-difrifol-ar-ysgolion-a-gwasan-aethau-hamdden/ Thu, 20 Feb 2025 11:36:14 GMT Louise Bishop
Cadw Croeso Cynnes Mae Roseland Bed and Breakfast newydd dderbyn Grant Datblygu Twristiaeth i leihau eu hôl troed carbon. Mae'r busnes, sydd wedi'i leoli mewn lleoliad diarffordd yn Nhredegar wedi bod yn croesawu gwesteion ers 22 mlynedd. Arferai’r tŷ fod yn gartref i ŵr bonheddig a oedd yn eiddo i’r gwaith haearn ac roedd yn gartref i feddyg y gwaith haearn. Yn ôl y chwedl, roedd bonyn coeden yn yr ardd gyda 2 ddolen pres, a ddefnyddiwyd gan Dr Smith i dynnu dannedd! Roedd adeilad o'r hanes a'r tarddiad hwn yn gofyn am ateb sensitif ond ymarferol a gyflawnwyd gyda ffenestri llithro upvc, ffenestri gwydr dwbl gyda bariau addurngylch a chyrn codi.

Dywedodd y Cynghorydd John Morgan, Aelod Cabinet dros Leoedd, Adfywio a Datblygu Economaidd, ‘Mae Susy yn westeiwr bendigedig gyda chroeso hael ond mae treftadaeth a hanes yr eiddo hefyd yn bwysig i ymwelwyr. Mae'r ffenestri newydd yn cadw cymeriad yr adeilad ac yn lleihau ôl troed carbon y busnes. Mae hon yn enghraifft wych o sut mae’r Gronfa Ffyniant Gyffredin wedi helpu busnesau lleol sy’n cyfrannu at wella ein harlwy twristiaeth.”

Dywedodd y perchennog Susy Arnold, ‘Mae’r tŷ cyn 1800 ac roedd yn perthyn i Waith Haearn Sirhywi cyn cael ei drosglwyddo yn 1840 i gwmni haearn a glo Glynebwy, a dim ond yn 1926 y dychwelodd i ddwylo preifat. Hwn oedd preswylfa a meddygf’r hen feddyg. Mae’r grant wedi fy ngalluogi i uwchraddio a diogelu fy musnes at y dyfodol, bod yn garedig â’r amgylchedd drwy leihau’r defnydd o ynni ac mae gan fy ystafelloedd reolaeth gwres llawer gwell ar gyfer gwesteion.’

Mae Grant Twristiaeth a Lletygarwch ״ ar gael i fusnesau cymwys ym Mlaenau Gwent trwy ddarpariaeth Cronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.

 

]]>
/cy/newyddion/cadw-croeso-cynnes/ /cy/newyddion/cadw-croeso-cynnes/ Thu, 27 Feb 2025 10:37:56 GMT Carolyn Jenkins
Cyngor Bwrdeistref Sirol ״ y Cyntaf i Lansio ei Gynllun ‘Croesawu Bwydo ar y Fron’

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol ״ yn falch o gyhoeddi ei fod y sir gyntaf yng Ngwent i lansio’r cynllun ‘Croesawu Bwydo ar y Fron’, gan ei gyflwyno ar draws wyth hyb Dechrau’n Deg a Chanolfan Plant Integredig Blaenau. Dyma'r cam cyntaf mewn menter ehangach a fydd yn gweld sawl busnes lleol hefyd yn ymuno i gefnogi mamau sy'n bwydo ar y fron.

Mae Cynllun Croesawu Bwydo ar y Fron Gwent yn bartneriaeth ar y cyd rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a phum ardal Gwent. Ei nod yw hyrwyddo, amddiffyn a chefnogi hawliau rhieni i fwydo ar y fron mewn mannau cyhoeddus, gan helpu i normaleiddio bwydo ar y fron a chynyddu ei dderbynioldeb o fewn y gymuned.

Gyda chymorth Arweinydd Croesawu Bwydo ar y Fron ymroddedig, gall busnesau lleol ddod yn aelodau achrededig o'r cynllun, gan nodi eu hadeiladau fel sefydliadau croesawgar sy'n croesawu bwydo ar y fron. I gofrestru, mae'n ofynnol i fusnesau lenwi holiadur byr ac addo cefnogi'r pedwar pwynt Polisi Croesawu Bwydo ar y Fron Gwent a ganlyn:

  • Rydym yn croesawu ac yn cefnogi bwydo ar y fron unrhyw le o fewn ardaloedd cyhoeddus yr adeilad hwn
  • Rydym yn darparu staff cymwynasgar a chyfeillgar sy'n deall anghenion mamau sy'n bwydo ar y fron a'u babanod
  • Os yn bosibl, byddwn yn darparu cyfleusterau cyfforddus, priodol ar gyfer mamau sy'n bwydo ar y fron
  • Mae pob man cyhoeddus yn fannau DIM YSMYGU

Yn ogystal, cynhelir adolygiadau ar y marc 3 mis ac yn flynyddol wedi hynny i sicrhau llwyddiant ac ymrwymiad parhaus y cynllun.

Trwy gymryd rhan, mae busnesau'n helpu i greu amgylchedd lle mae mamau sy'n bwydo ar y fron yn teimlo'n ddiogel, yn cael eu cefnogi a’u croesawu. Mae'r fenter hon yn gam hollbwysig i sicrhau bod ״ yn dod yn fan lle gall pob rhiant fwydo eu plant ar y fron yn hyderus mewn mannau cyhoeddus.

Meddai Carla Baldwin, Ymwelydd Iechyd ac Arweinydd Bwydo Babanod Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan:

“Diben y cynllun ‘Croesawu Bwydo ar y Fron’ yw grymuso rhieni i deimlo eu bod yn cael eu cefnogi ac yn hyderus wrth fwydo eu babi ar y fron yn eu cymuned leol. Ein nod yw creu partneriaeth â busnesau lleol a lleoliadau cymunedol i gynnig amgylchedd cyfeillgar, croesawgar i rieni sy'n bwydo ar y fron. Trwy wreiddio’r cynllun hwn yn ein cymunedau, rydym yn helpu i normaleiddio bwydo ar y fron ac yn cefnogi rhieni i fwydo ar y fron yn hirach, gan wella canlyniadau iechyd i’r fam ’r plentyn.”

Mae Paula Adams, Arweinydd Gofal Plant Dechrau’n Deg a mam i fab 17 oed, yn rhannu ei phrofiad personol, gan ddweud:

“Rwy’n cefnogi’r rhaglen yn llwyr oherwydd pan gafodd fy mab ei eni’n gynamserol, ni chefais ddigon o gefnogaeth gan staff gofal iechyd, ac nid oedd bwydo ar y fron yn gweithio i ni, gan fy ngwneud yn siomedig. Mae’r profiad hwn wedi fy ngwneud yn angerddol dros gefnogi mamau heddiw, gan fod bwydo ar y fron yn ffordd mor naturiol o fwydo babi. Mae bod yn rhan o’r cynllun hwn yn helpu mamau a allai ei chael hi’n anodd ac yn darparu man diogel a chroesawgar iddynt.”

ѱ岹’r Cynghorydd Helen Cunningham, Dirprwy Arweinydd a mam sy’n bwydo ar y fron:

“Mae’n wych gweld mamau ״ sy’n bwydo ar y fron yn cael eu cefnogi gan eu cymuned fusnes lleol. Mae'r cyngor, ynghyd â'n partneriaid iechyd, yn cydnabod pwysigrwydd darparu amgylchedd cyfforddus a chroesawgar i famau sy'n bwydo ar y fron yn eu bywydau bob dydd. Mae gweld mamau a babanod mewn amgylchedd cyfeillgar yng Nghanolfan Plant Integredig Blaenau yn dyst i effaith gadarnhaol y cynllun hwn.”


Meddai Ceri Bird, Rheolwr Gwasanaeth Gwasanaethau Plant:

“Rwyf wrth fy modd yn gweld lansio ein Cynllun Croesawu Bwydo ar y Fron Gwent ar ôl blwyddyn o ddatblygiad ac fel rhan o’n hymgyrch “Bwydo ar y Fron ״”. Fe wnes i fwydo fy mab ar y fron 21 mlynedd yn ôl ac roedd hi mor anodd ceisio dod o hyd i safle bwydo ar y fron pan oddi cartref - byddwn yn aml yn mynd yn ôl i'r car i'w fwydo a hyd yn oed yn cael fy nghyfarwyddo i ddefnyddio toiledau merched mewn rhai bwytai.

Byddwn yn annog busnesau lleol ym Mlaenau Gwent i gofrestru ac ymuno â’n hymgyrch, mae’n hawdd a bydd yn gwneud gwahaniaeth enfawr i iechyd ein cymuned wrth i ni normaleiddio a hybu bwydo ar y fron.”

Yn 2024, aeth Cyngor ״ ati i wella canlyniadau bwydo ar y fron ar draws y rhanbarth, gan anelu at sicrhau bod pob babi yn cael y dechrau gorau posibl mewn bywyd. Daeth hyn i fodolaeth ar ôl i arolwg cenedlaethol a gynhaliwyd yn 2023 amlygu mai ״ oedd â’r cyfraddau isaf ar gyfer bwydo ar y fron yn y DU. Mae’n bleser gennym gyhoeddi fel rhan o’n hymgyrch barhaus fod cyfraddau’n cynyddu o fis i fis wrth i fwy o’n rhieni gydnabod bod bwydo ar y fron yn rhoi’r dechrau gorau mewn bywyd i fabanod. Mae'r Cyngor yn parhau i gefnogi mamau a thadau i wneud penderfyniadau gwybodus am fwydo babanod, gan eu grymuso i ymdopi â heriau a llwyddo ar eu taith bwydo ar y fron.

Os ydych yn fusnes lleol sydd â diddordeb mewn ymuno â’r cynllun a dechrau’r broses achredu, cysylltwch ag arweinydd eich Cynllun Croesawu Bwydo ar y Fron lleol drwy gysylltu â’r Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd ar 01495 369610 neu anfon e-bost atom yn FIS@blaenau-gwent.gov.uk Rydym hefyd yn chwilio am fwy o gefnogwyr cymheiriaid bwydo ar y fron a gwirfoddolwyr rhieni yn ein hybiau Dechrau’n Deg, plis helpwch ni i roi’r dechrau gorau mewn bywyd i holl fabanod ״.

]]>
/cy/newyddion/cyngor-bwrdeistref-sirol-blaenau-gwent-y-cyntaf-i-lansio-ei-gynllun-croesawu-bwydo-ar-y-fron/ /cy/newyddion/cyngor-bwrdeistref-sirol-blaenau-gwent-y-cyntaf-i-lansio-ei-gynllun-croesawu-bwydo-ar-y-fron/ Fri, 28 Feb 2025 11:30:12 GMT Emma Bennett
Cynllun gwaith ieuenctid yn hybu presenoldeb mewn ysgolion ym Mlaenau Gwent Mae partneriaeth rhwng darpariaeth gwaith ieuenctid ac ysgolion uwchradd ym Mlaenau Gwent yn cymryd camau cadarnhaol i wella presenoldeb disgyblion yn yr ysgol.

Gyda Gweithwyr Ieuenctid penodedig ym mhob ysgol uwchradd yn y fwrdeistref, mae tîm Gwasanaeth Ieuenctid 11-16 oed ״ yn darparu cymorth un-i-un a chymorth grŵp hanfodol, wedi'i deilwra i anghenion unigolion. Maent yn gwneud cynnydd sylweddol o ran gwella presenoldeb pobl ifanc a gyfeiriwyd at y prosiect.

Yn ystod y gwyliau hanner tymor yr wythnos hon mae grŵp o bobl ifanc 11-16 oed wedi bod yn mwynhau cwrs preswyl yn Summit Centre, Treharris, gan gymryd rhan mewn gweithgareddau codi hyder fel dringo a byw yn y gwyllt.

Mae Summer, sy'n 15 oed ac yn mynd i Ysgol Sylfaenol Brynmawr, yn aelod o'r grŵp ieuenctid ac yn dysgu sut i ddringo creigiau yng y Summit Centre.

Dywedodd: "Cyn i mi ddechrau yn y clwb ieuenctid roedd dyddiau pan nad oeddwn i eisiau mynd i'r ysgol oherwydd pobl neu bynciau. Roedd fy nghanran presenoldeb lawr yn yr 80au.

"Ond mae mynd i'r clwb ieuenctid ar nos Lun wedi helpu gyda fy hyder a'm hymddygiad ac wrth siarad â'r gweithwyr ieuenctid sylweddolais ei bod hi'n bwysig mynd i'r ysgol ar gyfer fy nyfodol, nid dim ond ar gyfer fy addysg."

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle:

"Mae gwaith ieuenctid yn darparu llawer mwy na gweithgareddau yn unig - mae'n creu mannau diogel lle gall pobl ifanc ffynnu go iawn a chyrraedd eu llawn botensial.

"Rwy'n falch iawn o weld yr effaith y mae'r cynllun hwn yn ei chael ym Mlaenau Gwent, nid yn unig o ran gwella presenoldeb mewn ysgolion, ond hefyd gwella lles a hyder pobl ifanc. Mae'n rhoi llais i bobl ifanc ac yn eu helpu i wneud dewisiadau cadarnhaol a manteisio ar gyfleoedd a fydd yn llywio eu dyfodol."

Dywedodd y Cynghorydd Sue Edmunds, Aelod Cabinet Cyngor ״ dros Bobl ac Addysg:

"Rydym ar daith, yn gweithio gyda'n hysgolion a'n partneriaid, i wella presenoldeb yma ym Mlaenau Gwent. Mae rôl gweithwyr ieuenctid yn ein hysgolion yn gwbl sylfaenol o ran helpu pobl ifanc i fynychu a chyflawni, yn ogystal â bod yn unigolyn dibynadwy fel clust i wrando a darparu cefnogaeth a chyngor."

Mae gwaith ieuenctid yn chwarae rhan allweddol yn y sector addysg ehangach. Yn ogystal â helpu i wella presenoldeb yn yr ysgol, gall sicrhau bod pobl ifanc yn hapus ac yn fodlon, yn cael eu cefnogi ac yn ddiogel, a'u bod yn gallu cael gafael ar gymorth pan fydd ei angen arnynt gan oedolyn dibynadwy.

Mae gweithwyr ieuenctid mewn sefyllfa unigryw i ymgysylltu â phobl ifanc mewn trafodaethau ynghylch ymddygiad peryglus ac yn aml yn gweithredu fel y cyswllt i gefnogaeth fwy arbenigol.

Bydd Llywodraeth Cymru yn darparu dros £11.4m i awdurdodau lleol drwy'r Grant Cymorth Ieuenctid yn 2025-26 i gefnogi darpariaeth gwaith ieuenctid ledled Cymru.

]]>
/cy/newyddion/cynllun-gwaith-ieuenctid-yn-hybu-presenoldeb-mewn-ysgolion-ym-mlaenau-gwent/ /cy/newyddion/cynllun-gwaith-ieuenctid-yn-hybu-presenoldeb-mewn-ysgolion-ym-mlaenau-gwent/ Mon, 03 Mar 2025 09:32:22 GMT Louise Bishop
Camtronics Limited yn Sicrhau Grant Datblygu Busnes i Wella Effeithlonrwydd Gweithredol Mae Camtronics Limited, Tredegar, Gwneuthurwr Contractau Electronig blaenllaw yn y DU, yn falch o gyhoeddi ei fod wedi derbyn Grant Datblygu Busnes. Mae'r grant wedi cefnogi prynu offer a pheiriannau newydd, gan wella effeithlonrwydd gweithredol a chynhyrchiant y cwmni'n sylweddol.

Mae'r grant wedi galluogi Camtronics Limited i leihau'r amser sydd ei angen ar gyfer tasg gritigol o 3.5 munud i ddim ond 10 eiliad. Bydd y gwelliant hwn yn arwain at arbedion effeithlonrwydd sylweddol mewn siopau, prynu a'r broses cydosod arwyneb, gan ganiatáu i'r cwmni ganolbwyntio mwy ar swyddogaethau craidd a gwella cynhyrchiant busnes ymhellach.

Mae gan Camtronics Limited, a sefydlwyd yn wreiddiol ym 1993 fel Novaspec Ltd, hanes cyfoethog o ddarparu Gwasanaethau Gweithgynhyrchu Electronig (EMS) cynhwysfawr i ystod amrywiol o bartneriaid diwydiant. Cafodd y cwmni ei brynu gan reolwyr yn 2018, sydd ers hynny wedi arwain at dwf refeniw trawiadol o £1.7m i £4.2m.

“Rydym wrth ein bodd i dderbyn y grant hwn, a fydd yn chwarae rhan hanfodol yn ein hymdrechion parhaus i wella ein galluoedd gweithgynhyrchu a chefnogi ein cynlluniau twf,” meddai Rheolwr Gyfarwyddwr Camtronics Limited. “Bydd y buddsoddiad hwn nid yn unig yn gwella ein cynhyrchiant ond hefyd yn ein galluogi i barhau i ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel i’n cwsmeriaid.”

I gael rhagor o wybodaeth am Camtronics Limited a'i wasanaethau, ewch i'w gwefan neu cysylltwch â'u swyddfa yn Uned 1, Adeilad y Porth, Parc Busnes Tredegar, Tredegar, Gwent NP22 3EL.

Dywedodd y Cynghorydd John Morgan, Aelod Cabinet - Lleoedd ac Adfywio a Datblygu Economaidd:

“Mae Camtronics Limited wedi mynd o nerth i nerth ers y pryniant gan y rheolwyr yn 2018. Rwyf wrth fy modd ein bod wedi gallu cefnogi Camtronics Limited i wella cynhyrchiant ac effeithlonrwydd. Fel Cyngor, rydym wedi ymrwymo i barhau i gefnogi busnesau lleol i greu cymunedau gwydn ac economi ffyniannus, gan sicrhau bod pobl yn gallu gweithio’n hyderus yn lleol.”

Ariennir Grant Datblygu Busnes ״ gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU a’i reoli gan Dîm Busnes ac Arloesi Cyngor ״. Nod y Grant Datblygu Busnes yw cefnogi twf a datblygiad busnesau newydd a phresennol ym Mlaenau Gwent. Mae’r cynllun bellach ar gau ond mae busnesau sydd angen cymorth ariannol yn cael eu hannog i lenwi’r ffurflen Mynegi Diddordeb ar-lein yn y ddolen isod ac os daw rhagor o arian ar gael o fis Ebrill 2025 ymlaen, byddwn yn cysylltu â busnesau sydd ar y rhestr aros.

 

]]>
/cy/newyddion/camtronics-limited-yn-sicrhau-grant-datblygu-busnes-i-wella-effeithlonrwydd-gweithredol/ /cy/newyddion/camtronics-limited-yn-sicrhau-grant-datblygu-busnes-i-wella-effeithlonrwydd-gweithredol/ Wed, 05 Mar 2025 11:26:14 GMT Carolyn Jenkins
Teuluoedd yn Gyntaf yn cyrraedd y rhestr fer yng Ngwobrau Gofal Cymdeithasol 2025

Da iawn i Dîm Teuluoedd yn Gyntaf Cyngor ״ ar gyrraedd rownd derfynol categori Gwobrau Adeiladu Dyfodol Mwy Disglair Gofal Cymdeithasol Cymru yng Ngwobrau Gofal Cymdeithasol 2025 eleni.

Roedd y tîm yn falch o dderbyn llythyr oddi wrth Dawn Bowden AS, Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol Llywodraeth Cymru, yn rhannu ei llongyfarchiadau gyd’r tîm ar eu gwaith rhagorol a’u hymroddiad i’r rhai ym Mlaenau Gwent sy’n derbyn gwasanaethau gofal cymdeithasol a gofal plant.

Mae’r Gwobrau yn cydnabod, dathlu a rhannu gwaith nodedig ym maes gofal cymdeithasol a gofal plant, chwarae ’r blynyddoedd cynnar yng Nghymru. Mae’r gwobrau’n cydnabod gwaith grwpiau, timau a sefydliadau, yn ogystal â gweithwyr o bob rhan o’r sectorau cyhoeddus, preifat, gwirfoddol a chydweithredol yng Nghymru.

Fel cyngor, hoffem ddymuno'r gorau i'r tîm sy'n mynd i'r gwobrau terfynol.

Cynhelir y gwobrau ar y 1af  o Fai yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd.

]]>
/cy/newyddion/teuluoedd-yn-gyntaf-yn-cyrraedd-y-rhestr-fer-yng-ngwobrau-gofal-cymdeithasol-2025/ /cy/newyddion/teuluoedd-yn-gyntaf-yn-cyrraedd-y-rhestr-fer-yng-ngwobrau-gofal-cymdeithasol-2025/ Thu, 06 Mar 2025 14:22:49 GMT Emma Bennett
Plant ysgol yn dathlu Cerddoriaeth Gymreig trwy greu Anthem i Flaenau Gwent Dathlon ni Diwrnod Cerddoriaeth y Gymraeg ym mis Chwefror ac mae'n anrhydeddu sbectrwm bywiog cerddoriaeth Gymraeg. Ond nid dyma'r unig ddiwrnod y gallwch ddathlu cerddoriaeth Gymreig!

O indie a roc i werin a hip hop, mae yna gyfoeth o gerddoriaeth Gymraeg i'w harchwilio.

Mae gan Gymru dreftadaeth gerddorol gyfoethog, o'r anthem genedlaethol mewn gemau rygbi i restrau chwarae poblogaidd Spotify. Ar Dachwedd 27ain, 2024, gwahoddodd y Cyngor, fel rhan o'r Gronfa Ffyniant Gyffredin, Aelodau Cyngor Ysgolion Cynradd i greu anthem ar gyfer ״. Gydag arweiniad y cerddor dawnus Mei Gwynedd, fe wnaeth y plant lunio geiriau'r anthem, gan ddal hanfod eu cymuned.

Ar Ionawr 31ain, dychwelodd y plant ar gyfer sesiwn y cyngor mawreddog i ffilmio fideo cerddoriaeth unigryw. Fe wnaethon nhw berfformio gyda brwdfrydedd, gan fwynhau eu moment fel sêr pop. Roedd y diwrnod yn cynnwys perfformiad llawen o "Sosban Fach," wedi'i ganu gyda lleisiau ffyniannus a gwên llachar.

Bydd yr anthem hon yn etifeddiaeth barhaol i ysgolion, gan ddathlu ein plant a'n cymuned. Mae'n cynnig allfa greadigol a thraddodiad i drosglwyddo i genedlaethau'r dyfodol. Wrth anrhydeddu ein hanes cyfoethog, edrychwn ymlaen at ddyfodol cyffrous.

Mwynhewch y fideo llawn

Darganfyddwch rhestri chwarae cerddoriaeth Gymreig gwych yma .

]]>
/cy/newyddion/plant-ysgol-yn-dathlu-cerddoriaeth-gymreig-trwy-greu-anthem-i-flaenau-gwent/ /cy/newyddion/plant-ysgol-yn-dathlu-cerddoriaeth-gymreig-trwy-greu-anthem-i-flaenau-gwent/ Mon, 17 Mar 2025 06:48:04 GMT Louise Bishop
Sefydliadau cyhoeddus yng Nghymru yn addo defnyddio dull gweithredu newydd sy'n canolbwyntio ar oroeswyr a'r bobl sy'n dioddef profedigaeth drwy drasiedïau cyhoeddus Ymunwyd Cyngor ״ â dros 50 o sefydliadau yng Nghymru i lofnodi'r Siarter ar gyfer y rhai sydd mewn profedigaeth, sy'n ymrwymo i ymateb i drychinebau cyhoeddus gyda didwylledd, tryloywder ac atebolrwydd.

Mae'r Siarter ar gyfer Teuluoedd sydd wedi Dioddef Profedigaeth drwy Drasiedi Gyhoeddus yn galw am newid diwylliannol yn y ffordd y mae cyrff cyhoeddus yn ymgysylltu â theuluoedd mewn profedigaeth, gan sicrhau bod y gwersi o drychineb Hillsborough 1989 a'r hyn a ddigwyddodd wedi hynny yn cael eu dysgu er mwyn atal pobl rhag cael yr un profiad yn y dyfodol.

Mae sefydliadau ledled Cymru, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, heddluoedd, Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a gwasanaethau tân ac achub wedi ymrwymo i gynnig cymorth i deuluoedd sy'n dioddef profedigaeth a'r gymuned ar ôl digwyddiad mawr, gydag ymrwymiad clir i bobl ac i ddarparu gwasanaethau sy'n diwallu eu hanghenion cyn, yn ystod ac ar ôl digwyddiad.

Caiff digwyddiad lansio ei gynnal ym Merthyr Tudful ddydd Mawrth (18 Mawrth) ac yn bresennol yn y digwyddiad fydd yr Esgob James Jones KBE a ysgrifennodd y siarter fel rhan o'i adroddiad ar y gwersi i'w dysgu o drasiedi Hillsborough. Yn y digwyddiad hefyd fydd goroeswyr a phobl sydd wedi dioddef profedigaeth drwy drasiedïau cyhoeddus, gan gynnwys Hillsborough, Tŵr Grenfell, Arena Manceinion ac Aberfan, sydd ond dafliad carreg i ffwrdd o leoliad y lansiad.

Dywedodd yr Esgob Jones:

“Heddiw, mae Cymru yn arwain y ffordd gyda mwy na 50 o'i chyrff cyhoeddus yn llofnodi'r siarter. Wrth wneud hynny, mae diwylliant y sefydliadau wedi dechrau newid ac mae ymrwymiad o'r newydd i wasanaeth cyhoeddus ac i barchu dynoliaeth y rhai rydym yn cael ein galw i wasanaethu.

“Mae'r siarter yn cynrychioli addewid na chaiff unrhyw un ei gadael i lywio'i daith galaru a goroesi ar ei ben ei hun. Ni fydd neb yn dioddef 'tueddfryd nawddoglyd pŵer anesboniadwy' eto.

“Mae hyn yn foment allweddol ym mywyd y genedl wrth i ni groesawu egwyddorion y siarter ac addo parchu dynoliaeth pob un o'i dinasyddion a ddylai fod wrth galon pob gwasanaeth cyhoeddus.”

Dywedodd Dawn Docx, Prif Swyddog Tân Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, a chadeirydd y Cyd-grŵp Gwasanaethau Brys yng Nghymru:

 “Rydym yn cydnabod bod cydweithio wrth gefnogi teuluoedd y mae trasiedi gyhoeddus wedi effeithio arnynt yn hanfodol er mwyn sicrhau llesiant a gwydnwch ein cymunedau.

“Drwy gydweithio, gallwn ddefnyddio ein harbenigedd a'n hadnoddau cyfunol i roi cymorth ystyrlon i'r rhai mewn angen yn ystod argyfwng a thu hwnt.”

Ychwanegodd Dirprwy Brif Gwnstabl Heddlu De Cymru, Mark Travis:

"Drwy lofnodi'r siarter, mae pob sefydliad yn gwneud datganiad cyhoeddus i ddysgu'r gwersi o drychineb Hillsborough a thrasiedïau eraill i sicrhau nad ydym byth yn anghofio am bersbectif teuluoedd sydd wedi dioddef profedigaeth ac i sicrhau eu bod yn cael eu trin â gofal a thosturi, nid yn unig yn ystod yr argyfwng a'r drasiedi ond yn ystod yr wythnosau, y misoedd a'r blynyddoedd sy'n dilyn.

"Er bod heddiw yn garreg filltir, yr her wirioneddol yw ymgorffori'r siarter yn ein hyfforddiant a'n diwylliant i sicrhau ei bod yn dod yn rhan annatod o'n hymateb i drasiedi gyhoeddus.

"Mae cyfraniad goroeswyr a phobl sydd wedi dioddef profedigaeth drwy drasiedïau cyhoeddus wedi bod yn hollbwysig i'r cam pwysig ymlaen rydym yn ei gymryd heddiw."

Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Stephen Thomas:

"Mae'r Siarter ar gyfer Profedigaeth wedi'i sefydlu yn dilyn y gwersi a ddysgwyd o sawl trasiedi cyhoeddus proffil uchel ledled y DU. Mae llofnodi'r Starter yn atgyfnerthu ein hymrwymiad fel sefydliad cyhoeddus i drin teuluoedd mewn profedigaeth â'r urddas y maent yn ei haeddu ar ôl colli anwyliaid o ganlyniad i drasiedi gyhoeddus, ac ymateb iddynt yn agored a thryloyw, gan eu rhoi yn gyntaf."

]]>
/cy/newyddion/sefydliadau-cyhoeddus-yng-nghymru-yn-addo-defnyddio-dull-gweithredu-newydd-syn-canolbwyntio-ar-oroeswyr-ar-bobl-syn-dioddef-profedigaeth-drwy-drasiediau-cyhoeddus/ /cy/newyddion/sefydliadau-cyhoeddus-yng-nghymru-yn-addo-defnyddio-dull-gweithredu-newydd-syn-canolbwyntio-ar-oroeswyr-ar-bobl-syn-dioddef-profedigaeth-drwy-drasiediau-cyhoeddus/ Mon, 17 Mar 2025 10:30:29 GMT Louise Bishop
Diwrnod Rhyngwladol Dileu Gwahaniaethu ar sail Hil Wrth nodi Diwrnod Rhyngwladol Dileu Gwahaniaethu ar sail Hil, 21 Mawrth 2025, rydym yn dymuno taflu goleuni ar ymgyrch ‘Heart Work’ Cymuned Ddysgu Ebwy Fawr. Wedi'i hariannu gan dîm Cydlyniad Cymunedol Gorllewin Gwent, cododd yr ysgol ymwybyddiaeth o ragfarn a gwahaniaethu hiliol trwy nifer o brosiectau.

Dechreuodd y prosiect ym mis Hydref 2024, i ddathlu a choffáu Hanes Pobl Dduon. Cynyddodd yr ysgol ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o hiliaeth a rhagfarn ymhlith aelodau'r ysgol a'r gymuned trwy amrywiaeth o weithgareddau gydol y mis. Cyflwynodd disgyblion ysgol wasanaeth i gymheiriaid a oedd yn hyrwyddo ymwybyddiaeth ddiwylliannol, yn dathlu cysylltiadau lleol â ״ fel Paul Robeson ynghyd ag unigolion arwyddocaol eraill sydd wedi darparu effaith a chyfraniadau byd-eang. Gweithdai eraill y bu disgyblion yn cymryd rhan ynddynt drwy gydol y mis yn cynnwys creu mygydau wedi’u hysbrydoli gan Affrica, ‘sgwrs bwrdd’ gwrth-hiliaeth Dydd Mawrth: Sut i Fod yn Gynghreiriad, paentio arlliwiau croen amrywiol wedi’u hysbrydoli gan waith Kehinde Wiley, ynghyd â gweithdy clai lle bu disgyblion yn creu pabïau clai, a oedd yn caniatáu iddynt gysylltu â hanes ac anrhydeddu’r aberth a wnaed gan unigolion. Roedd hyn yn cynrychioli them’r cofio yn ein hanes.

Er mwyn sicrhau llais y disgybl ’r cyfle i arwain, bu’r ysgol yn cydweithio â’i myfyrwyr-lysgenhadon a grwpiau ysgol megis amrywiaeth ddiwylliannol, hawliau’r plentyn a grwpiau gwrth-fwlio drwy gydol y prosiect hwn.

Creodd yr ysgol Gert Celf symudol pwrpasol fel gorsaf adnoddau gweithredol i gynnig gweithdy rhyngweithiol yn yr ysgol ac yn y gymuned.

Yn ystod eu stondin grefftau Gaeaf, roedd myfyrwyr mewn rolau arwain yn gallu cymryd rhan mewn sgyrsiau gydag ymwelwyr, ateb cwestiynau a rhannu gwybodaeth am y crefftau oedd ar gael a’u gwreiddiau diwylliannol oedd ag ystyr symbolaidd dwfn. Rhannodd myfyrwyr hefyd wybodaeth am yr hanes a'r symbolaeth y tu ôl i'r crefftau, gan feithrin dealltwriaeth a gwerthfawrogiad o ddiwylliannau eraill a'u galluogodd i gymryd safiad tyner yn erbyn hiliaeth.

Er bod cymuned yr ysgol bob amser wedi ymgorffori gwerthoedd Cymreig o ysbryd cymunedol a charedigrwydd, roedd yn bwysig iddynt agor eu drysau i aelodau o'r gymuned nad oeddent efallai wedi cael profiad uniongyrchol o ethos yr ysgol.  Croesawodd Cymuned Ddysgu Ebwy Fawr y gymuned leol i’w Strafagansa Gaeaf, a welodd ddisgyblion yn cynnig cymorth i ymwelwyr wrth greu celf a chrefft sy’n cael eu dathlu ledled y byd. Aeth disgyblion a staff allan i’r gymuned hefyd drwy ymweld â Chartref Gofal Bank House a chynnal digwyddiad llythrennedd a chrefft yn y Ganolfan Chwaraeon i rieni a phlant bach, lle bu iddynt roi cyflwyniad tyner i’r cysyniad o wrth-hiliaeth mewn ffordd gyfeillgar a chreadigol.

Cefnogodd y prosiectau tua 300 o aelodau'r gymuned trwy amrywiol ddigwyddiadau. Roedd pob gweithdy yn canolbwyntio ar werthoedd cyffredinol fel tegwch, cyfiawnder, empathi a pharch. Trwy grefftio, roedd yr ysgol yn gallu amlygu'r pethau sy'n ein cysylltu fel bodau dynol, gwaeth beth fo'n gefndir.  O adborth cadarnhaol a diddordeb a dderbyniwyd gan y gymuned, mae'r ysgol bellach yn gweithio ar ddatblygu'r prosiect hwn ymhellach.

Yn fwyaf diweddar, mae myfyrwyr wedi gweithio gyda'r artist Matt Joyce yn barod ar gyfer Wythnos Ymwybyddiaeth Ffoaduriaid sy'n cael ei choffau ar 16 – 22 Mehefin 2025. Yn ystod y gwaith hwn, cyflwynwyd disgyblion i grefft animeiddio trwy greu GIF. Cafodd y disgyblion hefyd gyfle i greu eu motiffau eu hunain (meme addurniadol) i hybu eu ‘hagwedd’ ar wrth-hiliaeth drwy gydol y flwyddyn

Antonia Lane – Dywedodd arweinydd y prosiect yn Gymuned Ddysgu Ebwy Fawr, fod y prosiect wedi cadarnhau eu hymrwymiad i greu diwylliant gwrth-hiliaeth.

Mae wedi amlygu sut y gallwch frwydro yn erbyn anghyfiawnder mewn ffordd dyner a meithringar heb ddieithrio pobl.  Mae wedi ein harwain i ganolbwyntio ar ddelfrydau cyffredinol fel goddefgarwch a pharch.  Daeth ein gweithdai yn fwy na dim ond lle i greu a phrynu crefftau; trawsnewidiodd yn gyfleoedd ar gyfer cyfnewid diwylliannol. Mae wedi dyrchafu ein safle yn y gymuned fel lloches i’r rhai sy’n ceisio noddfa, bod Cymuned Ddysgu Ebwy Fawr yn lle cynhwysol i bawb ac wedi amlygu y gall cymunedau ddefnyddio mynegiant creadigol i hyrwyddo gwrth-hiliaeth a dealltwriaeth ryngddiwylliannol’.

 

]]>
/cy/newyddion/diwrnod-rhyngwladol-dileu-gwahaniaethu-ar-sail-hil/ /cy/newyddion/diwrnod-rhyngwladol-dileu-gwahaniaethu-ar-sail-hil/ Tue, 18 Mar 2025 09:12:55 GMT Carolyn Jenkins
Cacennau wedi'u Gwneud â Llaw Clam’s yn Derbyn Grant Datblygu Busnes Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol ״ yn falch o gyhoeddi bod Clam’s Handmade Cakes (CHC), busnes teuluol bach yng Nglynebwy, wedi derbyn dau Grant Datblygu Busnes. Mae'r grantiau hyn yn cefnogi CHC i wella enw da eu busnes a gwella effeithlonrwydd cynhyrchu.

Mae CHC wedi bod yn cyflenwi caffis, bwytai a neuaddau bwyd o fri ar draws y DU yn llwyddiannus ers dros 20 mlynedd. Mae ganddyn nhw dros 100 o gwsmeriaid annibynnol, gan gynnwys cyfanwerthwyr bwyd wedi rhewi, cadwyni siopau coffi cenedlaethol, prifysgolion, clybiau pêl-droed yr uwch gynghrair, ac archfarchnadoedd.

Bydd y grant cychwynnol yn cefnogi dau brosiect allweddol:

Galluogodd Grant Datblygu Busnes cyntaf CHC i osod lloriau newydd mewn dwy ran o'r becws. Bydd hyn yn helpu gyda hylendid bwyd, gan eu galluogi i gyflenwi cyfrifon allweddol a darparu amgylchedd mwy diogel a glanach i staff.

Defnyddiwyd y grant ychwanegol i ddiweddaru'r becws gydag arwyddion newydd i wella enw da eu busnes gyda brandio newydd ac arwyddion clir. Hefyd, digideiddio cynhyrchu trwy fuddsoddi mewn technoleg fodern i wella effeithlonrwydd cynhyrchu trwy ddigideiddio, gan ddefnyddio sgriniau ac iPads.

Sylw gan Clam’s Handmade Cakes:

"Rydym yn hynod ddiolchgar am y gefnogaeth gan Gyngor Bwrdeistref Sirol ״. Mae'r grant hwn wedi ein galluogi i wella ein heffeithlonrwydd cynhyrchu a chynnal y safonau uchel o ansawdd a diogelwch bwyd y mae ein cwsmeriaid wedi dod i'w disgwyl. Rydym yn gyffrous i barhau i dyfu ein busnes a chyfrannu at y gymuned leol."

ѱ岹’r Cynghorydd John Morgan, Aelod Cabinet dros Leoedd, Adfywio a Datblygu Economaidd, “Rydym wrth ein bodd yn cefnogi Clam’s Handmade Cakes yn eu hymdrechion i dyfu a gwella eu busnes. Edrychwn ymlaen at weld eu llwyddiant parhaus a’u cyfraniad i’r economi leol.”

Ariennir Grant Datblygu Busnes ״ gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU a’i reoli gan Dîm Busnes ac Arloesi Cyngor ״. Nod y Grant Datblygu Busnes yw cefnogi twf a datblygiad busnesau newydd a phresennol ym Mlaenau Gwent. Mae’r cynllun bellach ar gau ond mae busnesau sydd angen cymorth ariannol yn cael eu hannog i lenwi’r ffurflen Datganiad o ddiddordeb ar-lein yn y ddolen isod ac os daw rhagor o arian ar gael o fis Ebrill 2025 ymlaen, byddwn yn cysylltu â busnesau sydd ar y rhestr aros.

]]>
/cy/newyddion/cacennau-wediu-gwneud-a-llaw-clam-s-yn-derbyn-grant-datblygu-busnes/ /cy/newyddion/cacennau-wediu-gwneud-a-llaw-clam-s-yn-derbyn-grant-datblygu-busnes/ Thu, 20 Mar 2025 15:49:05 GMT Carolyn Jenkins
Ysgol Gynradd Rhos-y-Fedwen yn cychwyn twymyn dwtio i Gymru Da iawn i ddisgyblion Ysgol Gynradd Rhos-y-Fedwen yng Nglynebwy sydd wedi bod yn casglu sbwriel yn eu parc chwarae lleol heddiw.

Ar ddechrau Cadw Cymru'n Glân Cadwch Gymru'n Daclus, ymunodd grŵp Eco Rhyfelwyr yr ysgol a'u hathrawes Miss Bogue gan y cynghorwyr a'r Llywodraethwyr lleol, y Cynghorydd Gareth Davies a'r Cynghorydd David Wilkshire a'r Llywodraethwr Jackie Stephens. Roedd ein Swyddog Ansawdd Amgylcheddol Lleol, John Mewett hefyd wrth law i helpu gydag offer a chasglu'r bagiau.

Dywedodd y Cynghorwyr Davies a Wilkshire: "Rydym yn falch iawn o'r disgyblion heddiw. Mae mor bwysig cefnogi ein plant i allu ymfalchïo yn lle maen nhw'n byw ac yn dysgu, ac i feithrin ynddynt yr angen i ofalu am ein hamgylchedd."

]]>
/cy/newyddion/ysgol-gynradd-rhos-y-fedwen-yn-cychwyn-twymyn-dwtio-i-gymru/ /cy/newyddion/ysgol-gynradd-rhos-y-fedwen-yn-cychwyn-twymyn-dwtio-i-gymru/ Fri, 21 Mar 2025 16:33:05 GMT Louise Bishop
Penaethiaid yn dod ynghyd mewn digwyddiad ymwybyddiaeth Gwrth-Hiliaeth Mae Penaethiaid o bob rhan o Flaenau Gwent wedi mynychu Diwrnod Ymwybyddiaeth Gwrth-Hiliaeth yng Nghymuned Ddysgu Abertyleri.

Roedd y diwrnod yn gydweithrediad rhwng Cyngor ״, DARPL (Dysgu Proffesiynol Amrywiaeth a Gwrth-Hiliol) a Chymuned Ddysgu Abertyleri.

Cymerodd y Penaethiaid ran mewn sesiwn dysgu proffesiynol gyda DARPL, sy'n cefnogi arweinwyr ysgol ar draws system Addysg Cymru sydd wedi gwneud cyfraniadau rhagorol at Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant. Gwnaethant gyflwyniad ar sut y gellir cefnogi arweinwyr ysgol i wella ac ymgorffori gwrth-hiliaeth ar draws yr ysgol a'r cwricwlwm cyfan. Mwy am DARPL

Cafwyd cyflwyniadau gan ysgolion ar y gwaith da maen nhw wedi bod yn ei wneud ar wrth-hiliaeth gan Gymuned Ddysgu Abertyleri; Cymuned Ddysgu Ebwy Fawr ac Ysgol Gynradd Coed-y-Garn ar waith ysgolion clwstwr yn ardal Brynmawr/Nant-y-glo.

Mae holl ysgolion ״ yn gweithio'n agos gyda'r Cyngor ac yn cael eu cefnogi gan y Cyngor gyda'u cyfrifoldebau gwrth-hiliaeth a chydraddoldeb a rhoddodd y diwrnod ddiweddariadau ar Gynllun Cydraddoldeb Strategol y Cyngor a'r Cynllun Gweithredu Gwrth-Hiliaeth ar gyfer Addysg, sydd wrthi’n cael ei ddatblygu, sy'n cefnogi Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-Hiliol Llywodraeth Cymru.

Dywedodd y Cynghorydd Sue Edmunds, Aelod Cabinet dros Bobl ac Addysg yn y Cyngor:

"Mae Cyngor ״ a'n harweinwyr ysgol wedi eu huno yn y neges na fydd hiliaeth neu ragfarn o unrhyw fath yn cael eu goddef yn ein hysgolion nac yn ein cymunedau, ac rydyn ni’n gweithio'n agos gyda'n gilydd i hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant fel na fydd casineb yn ennill.

"Mae gwrth-hiliaeth yn symud y tu hwnt i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a 'pheidio â bod yn hiliol' i wrthwynebu hiliaeth yn ei holl ffurfiau, herio, a bod yn eiriolwyr dros newid. Gall datblygu dull gwrth-hiliol gymryd amser, myfyrdod ac ymrwymiad ac rwy'n gwybod bod ein hysgolion yn ymrwymedig i feithrin dull ysgol gyfan i sicrhau'r profiadau gorau i'n plant a'n pobl ifanc."

Meddai Lisa Thomas, Pennaeth Ysgol Gynradd Georgetown a Chadeirydd y Grŵp Penaethiaid Cynradd ym Mlaenau Gwent:

"Mae polisi gwrth-hiliaeth, sydd wedi'i ymgorffori yn arfer pob ysgol ac sy’n gyson ar draws yr awdurdod lleol, yn sylfaen i system addysg gynhwysol. Roedd mor ddefnyddiol gweithio gyda staff o DARPL a chydweithwyr o bob rhan o'r Cyngor i fyfyrio ar ein polisïau presennol, i rannu arferion effeithiol a gweithio ar y cyd tuag at adeiladu Cymru Wrth-Hiliol."

]]>
/cy/newyddion/penaethiaid-yn-dod-ynghyd-mewn-digwyddiad-ymwybyddiaeth-gwrth-hiliaeth/ /cy/newyddion/penaethiaid-yn-dod-ynghyd-mewn-digwyddiad-ymwybyddiaeth-gwrth-hiliaeth/ Mon, 24 Mar 2025 09:51:05 GMT Louise Bishop
Mae CBS ״ yn gwahodd ceisiadau cyllid gan bartïon yn y trydydd sector i gefnogi’r cyngor i gyflawni amcanion Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU (y Gronfa) yn biler canolog o agenda Ffyniant Bro uchelgeisiol Llywodraeth y DU ac yn elfen sylweddol o’i chefnogaeth i leoedd ar draws y DU.

Prif nod y Gronfa yw meithrin balchder mewn lle a chynyddu cyfleoedd bywyd ledled y DU.

Mae’r Gronfa wedi’i rhannu’n dri maes blaenoriaeth:

• Cymuned a Lle
• Cefnogi Busnesau Lleol
• Pobl a Sgiliau

Mae’r grant hwn o dan y ddarpariaeth Cymuned a Lle ac mae ganddo ddau amcan, fel a ganlyn:

• Cryfhau ein gwead cymdeithasol a meithrin ymdeimlad o falchder a pherthyn lleol, trwy fuddsoddi mewn gweithgareddau sy’n gwella cysylltiadau ac amwynderau ffisegol, diwylliannol a chymdeithasol, megis seilwaith cymunedol a mannau gwyrdd lleol, a phrosiectau a arweinir gan y gymuned.

• Adeiladu cymdogaethau gwydn, diogel ac iach, trwy fuddsoddi mewn lleoedd o safon y mae pobl eisiau byw, gweithio, chwarae a dysgu ynddynt, trwy welliannau wedi’u targedu i’r amgylchedd adeiledig a dulliau arloesol o atal troseddu.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol ״ yn gwahodd partïon yn y trydydd sector i wneud cais am gyllid i gefnogi’r cyngor i gyflawni amcanion y Gronfa.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 5pm, 7 Ebrill 2025.

Dychwelwch ffurflenni cais i regeneration-projects@blaenau-gwent.gov.uk

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â regeneration-projects@blaenau-gwent.gov.uk

]]>
/cy/newyddion/mae-cbs-blaenau-gwent-yn-gwahodd-ceisiadau-cyllid-gan-bartion-yn-y-trydydd-sector-i-gefnogi-r-cyngor-i-gyflawni-amcanion-cronfa-ffyniant-gyffredin-y-du/ /cy/newyddion/mae-cbs-blaenau-gwent-yn-gwahodd-ceisiadau-cyllid-gan-bartion-yn-y-trydydd-sector-i-gefnogi-r-cyngor-i-gyflawni-amcanion-cronfa-ffyniant-gyffredin-y-du/ Mon, 24 Mar 2025 16:32:33 GMT Alan Powell
Cyngor ״ yn cymeradwyo gwaith i ddiogelu cymunedau rhag llifogydd Mae gwaith atal llifogydd wedi'i gymeradwyo ar gyfer y cymunedau ym Mlaenau Gwent yr effeithiwyd arnynt waethaf gan stormydd y llynedd.

Heddiw, mae Cyngor ״ wedi cymeradwyo cynlluniau gwerth cyfanswm o £800,000, sy'n cynnwys gwaith ar gwlfer yn y Cwm ynghyd â draeniau gwell ac ailbroffilio'r lôn fynediad yng nghefn Stryd y Brenin; ailosod a gwella cwlfer yn Llanhiledd a mesurau amddiffyn rhag llifogydd ar gyfer eiddo yn Stryd yr Eglwys, Tredegar.

Gwnaeth y Cyngor y penderfyniad i symud ymlaen ar frys i sicrhau'r arbenigedd sydd ei angen ac i recriwtio contractwyr cyn gynted â phosibl.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer gwaith cychwynnol i'r domen lo yng Nghwmtyleri a brofodd dirlithriad fis Tachwedd diwethaf. Mae ymchwiliadau ar y safle bellach wedi dod i ben a byddant yn llywio'r rhaglen waith yn y dyfodol sydd ei hangen er diogelwch tymor hwy y domen.

ѱ岹’r Cynghorydd Helen Cunningham, Dirprwy Arweinydd a'r Aelod Cabinet dros Leoedd a'r Amgylchedd:

"Rwy'n falch bod cynghorwyr yn unfrydol wedi cefnogi'r penderfyniad brys i wneud gwaith atal llifogydd yn yr ardaloedd a darwyd galetaf gan ddigwyddiadau tywydd diweddar. Rydw i wedi gweld gyda’m llygaid fy hun y dinistr a achoswyd i gartrefi a chymunedau yn ystod Storm Bert. Mae angen i ni weithredu'n gyflym i roi mesurau ar waith i amddiffyn y llefydd mwyaf agored i niwed."

Dioddefodd dros 100 o gartrefi ym Mlaenau Gwent lifogydd yn ystod glaw digynsail Storm Bert fis Tachwedd diwethaf. Gwnaeth y Cyngor gynnig cefnogaeth gyda glanhau a mynediad at gymorth ariannol, gan gynnwys ei gynllun grant adfer llifogydd ei hun a sefydlwyd yn gyflym i helpu trigolion ar y pryd.

Bydd gwaith ar y cwlfer yn y Cwm yn cynyddu'r capasiti yn ystod cyfnodau hir o law trwm ac yn caniatáu mynediad diogel i beiriannau at ddibenion glanhau. Yn Stryd y Brenin, bydd draenio gwell yn cael ei ddatblygu, yn ogystal â chwlfer cario dŵr wyneb newydd, a bydd wyneb y lôn yn cael ei ailbroffilio i ddargyfeirio dŵr i ffwrdd o eiddo.

Yn Llanhiledd, bydd y gwaith yn cynnwys ailosod ac uwchraddio'r cwlfer presennol o arglawdd y rheilffordd ger Stryd y Rheilffordd i lawr i'r afon. Bydd y cwlfer yn cael ei wneud yn fwy i gynyddu capasiti ac yn gollwng i'r afon mewn lleoliad newydd i lawr yr afon o'r orsaf bwmpio.

Yn Stryd yr Eglwys, Tredegar, bydd y gwaith yn cynnwys mesurau amddiffyn rhag llifogydd a mesurau ategol eraill i amddiffyn rhag llifogydd yn y dyfodol. Mae'r eiddo hyn wedi cael eu heffeithio gan lifogydd sawl gwaith.

]]>
/cy/newyddion/cyngor-blaenau-gwent-yn-cymeradwyo-gwaith-i-ddiogelu-cymunedau-rhag-llifogydd/ /cy/newyddion/cyngor-blaenau-gwent-yn-cymeradwyo-gwaith-i-ddiogelu-cymunedau-rhag-llifogydd/ Thu, 27 Mar 2025 10:48:27 GMT Louise Bishop
Cyngor ״ yn cyflawni statws cyflogwr hyderus i bobl anabl lefel 2

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol ״ yn falch o gyhoeddi ei fod wedi cyflawni statws Cyflogwr Hydarus Lefel 2: Anabledd, gan ailddatgan ei ymrwymiad i feithrin gweithle cynhwysol a chefnogol. Daw'r gydnabyddiaeth hon fel rhan o fenter Disability Confident Llywodraeth y DU, sy'n annog cyflogwyr i recriwtio, cadw a datblygu unigolion talentog ag anableddau a chyflyrau iechyd.

Mae'r cynllun Disability Confident yn cynnwys tair lefel sydd wedi'u cynllunio i gefnogi sefydliadau:

1.                       Lefel 1: Anabledd Hyderus Ymrwymedig

2.                       Lefel 2: Cyflogwr Hyderus i Anabledd

3.                       Lefel 3: Arweinydd Hyderus i Bobl Anabledd

Ar ôl ennill statws Lefel 1 o'r blaen, mae ailasesiad diweddar y Cyngor wedi cadarnhau ei gynnydd i Lefel 2. Mae'r cyflawniad hwn yn tanlinellu ein hymroddiad i greu gweithle lle mae pawb yn cael y cyfle i ffynnu.

Er mwyn cryfhau ein dealltwriaeth o arferion cyflogaeth cynhwysol ymhellach, ymwelodd ein Hyrwyddwr Aelodau Cydraddoldeb, y Cynghorydd Chris Smith â busnes lleol yn ddiweddar, ELITE Clothing Solutions, sydd wedi'i leoli yng Nglyn Ebwy. Wedi'i sefydlu o dan gynllun Gwell Swyddi yn Agosach at Gartref Llywodraeth Cymru yn 2019, mae Elite Clothing Solutions yn darparu cyfleoedd cyflogaeth ystyrlon, gyda 50% o'i weithlu yn cynnwys unigolion ag anableddau. Treuliodd y Cynghorydd Chris Smith, ein Hyrwyddwr Aelodau Cydraddoldeb, amser gyda'r tîm yn Elite, yn dysgu am eu gweithrediadau ysbrydoledig a'u dull cynhwysol.

Dywedodd y Cynghorydd Chris Smith: "Mae cyflawni statws Cyflogwr Hyderus i'r Anabledd Lefel 2 yn adlewyrchu ein hymrwymiad dwfn i adeiladu gweithle lle gall pawb, waeth beth fo'u gallu, lwyddo a chyfrannu. Roedd ein hymweliad ag ELITE Clothing Solutions yn wirioneddol ysbrydoledig, ac roeddwn i'n ostyngedig o weld y gwaith anhygoel maen nhw'n ei wneud i greu cyfleoedd i unigolion ag anableddau. Mae'r garreg filltir hon yn atgyfnerthu ein gweledigaeth o gydraddoldeb a chynhwysiant fel egwyddorion craidd ar gyfer ״."

Rhoddodd yr ymweliad hwn fewnwelediadau gwerthfawr, gan arddangos yr effaith drawsnewidiol y gall systemau cymorth effeithiol ei chael ar unigolion a sefydliadau. Mae ECS yn enghraifft o'r hyn y gellir ei gyflawni pan fydd cynhwysiant yn dod yn flaenoriaeth.

Wrth i ni ddathlu cyflawni statws Lefel 2, rydym yn estyn ein diolch o galon i Elite Clothing Solutions am eu croeso cynnes ac am fod yn enghraifft ragorol o arferion gorau mewn cyflogaeth gynhwysol. Rydym yn annog pawb i archwilio eu gwaith anhygoel ymhellach ar eu gwefan:

]]>
/cy/newyddion/cyngor-blaenau-gwent-yn-cyflawni-statws-cyflogwr-hyderus-i-bobl-anabl-lefel-2/ /cy/newyddion/cyngor-blaenau-gwent-yn-cyflawni-statws-cyflogwr-hyderus-i-bobl-anabl-lefel-2/ Wed, 02 Apr 2025 11:34:20 GMT Carolyn Jenkins
״ yn Cyflwyno Gwiriwr Cwmpas Symudol Chwyldroadol

Mewn ymateb i adborth gan staff a phreswylwyr am faterion darpariaeth symudol, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol ״ wedi partneru â Streetwave gan ddefnyddio cyllid o Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU i lansio gwiriwr darpariaeth symudol arloesol. O ganlyniad i'r bartneriaeth hon, mae Cyngor ״ yn falch iawn o gyhoeddi ei fod bellach yn gallu sicrhau bod y data hwn ar gael trwy wiriwr darpariaeth symudol newydd.

Gan ddechrau ym mis Tachwedd 2024, dechreuodd Cyngor ״ weithio gyda Streetwave i fesur ac asesu ansawdd signal symudol ledled y fwrdeistref. Nod y prosiect hwn yw cynorthwyo trigolion a busnesau i ddewis y rhwydweithiau symudol gorau ar gyfer eu hanghenion. Mae’n golygu, pan fyddwn yn gwneud penderfyniadau rhwydwaith symudol yn y dyfodol, y gallwn sicrhau ein bod yn gallu dewis y rhwydwaith sy’n gweddu orau i’n hanghenion beunyddiol.

Mae ansawdd rhwydweithiau symudol yn cael ei fonitro’n barhaus ar draws y pedwar darparwr mawr yn y DU:

EE, O2, Three, a Vodafone.

Yn wahanol i wirwyr darpariaeth traddodiadol, sy’n dibynnu ar fodelau mathemategol ac arolygon cyfyngedig, mae gwiriwr darpariaeth ״ yn defnyddio data byd go iawn a gesglir y tu allan i bron bob cyfeiriad yn y fwrdeistref. Mae hyn yn rhoi darlun clir o ba rwydweithiau symudol sy'n cynnig y cyflymderau cyflymaf a'r ddarpariaeth orau.

Gall preswylwyr ddefnyddio'r dolenni isod i wirio'r union gyflymder i lawrlwytho a lanlwytho gan EE, Vodafone, Three, ac O2 . Mae'r gwiriwr darpariaeth yn rhad ac am ddim i'w ddefnyddio ac mae ar gael ar gyfer cyfeiriadau o fewn Cyngor Bwrdeistref Sirol ״.

Yn ogystal, mae map rhyngweithiol sy'n dangos cwmpas ar draws y fwrdeistref gyfan.

Gwnewch yn siŵr eich bod chi gyd’r darparwr cywir ar gyfer yr hyn sydd ei angen arnoch chi! Yn syml, rhowch eich cod post a dewiswch eich cyfeiriad i weld y canlyniadau.

Cliciwch ar y ddolen isod i wirio’r cwmpas

Dysgwch fwy am fethodoleg Streetwave yma:

 

©2025 Streetwave Ltd - Cedwir pob hawl. Mae Streetwave Ltd yn cadw perchnogaeth ar y mewnwelediad hwn, gan gynnwys yr holl hawliau eiddo deallusol, data, cynnwys, graffiau a dadansoddiad. Ni cheir dyfynnu, atgynhyrchu, dosbarthu na chyhoeddi adroddiadau a mewnwelediadau a gynhyrchir gan Streetwave Ltd at unrhyw ddiben masnachol (gan gynnwys eu defnyddio mewn hysbysebion neu gynnwys hyrwyddo arall) heb ganiatâd ysgrifenedig ymlaen llaw. Anogir newyddiadurwyr i ddyfynnu gwybodaeth sydd wedi'i chynnwys mewn adroddiadau a mewnwelediadau Streetwave, ar yr amod eu bod yn cynnwys priodoliad ffynhonnell clir. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â press@streetwave.co

]]>
/cy/newyddion/blaenau-gwent-yn-cyflwyno-gwiriwr-cwmpas-symudol-chwyldroadol/ /cy/newyddion/blaenau-gwent-yn-cyflwyno-gwiriwr-cwmpas-symudol-chwyldroadol/ Fri, 04 Apr 2025 08:04:34 GMT Carolyn Jenkins
Cefnogi plant i fod yn iach ym Mlaenau Gwent – digwyddiad yn dathlu gwaith par-tneriaeth Mae Cyngor ״ wedi cynnal digwyddiad i ddathlu'r gwaith partneriaeth sy'n cefnogi ysgolion a lleoliadau gofal plant i ddatblygu arferion iach ymhlith plant ifanc.

Mae'r agwedd Iechyd a Lles ar y Cwricwlwm i Gymru yn cynnwys cefnogi plant a phobl ifanc i ofalu am eu lles corfforol ac emosiynol, a rhan ohono yw hyrwyddo a darparu cyfleoedd ar gyfer bwyta'n iach a hydradu’n dda. Mae ysgolion a lleoliadau gofal plant yn cael eu cefnogi gyda hyn drwy gydweithio rhwng y Cyngor, Rhwydwaith Ysgolion Hybu Iechyd Cymru, y Cynllun Cyn-ysgol Iach a Chynaliadwy, Tai Cymunedol Tai Calon a gweithwyr proffesiynol allweddol eraill. Y nod yw darparu arferion ac arweiniad enghreifftiol i leoliadau/ysgolion y gellid eu gweithredu i hyrwyddo dull ysgol gyfan/lleoliad cyfan o ran ffyrdd iach o fyw.

Mae Cynllun Gweithredu wedi'i gytuno ar gyfer ysgolion a lleoliadau gofal plant i ddilyn arfer gorau ac arweiniad ar gyfer darparu bwyd a diod trwy gydol y dydd.

Roedd y digwyddiad dathlu yng Nglynebwy yn gyfle i arddangos y prosiectau pontio llwyddiannus rhwng sefydliadau cyn-ysgol ac ysgolion sydd wedi datblygu ac esblygu ers mis Medi 2024. Mae'r trawsnewidiad yn helpu plant i ofalu am eu lles corfforol ac emosiynol, tra'n dysgu am bwysigrwydd bwyta'n iach. Mynychodd Sefydliad Maeth Prydain y digwyddiad hefyd.

Meddai'r Cynghorydd Sue Edmunds, Aelod Cabinet y Cyngor dros Bobl ac Addysg:

"Mae'r bwyd a'r diod a gynigir mewn ysgolion a lleoliadau gofal plant yn chwarae rhan bwysig yn iechyd plant a gall helpu i ddatblygu arferion bwyta da i'w paratoi ar gyfer y dechrau gorau mewn bywyd, sy'n flaenoriaeth i ni fel Cyngor Marmot. Mae amseroedd byrbrydau hefyd yn gyfle gwych i blant ddatblygu eu sgiliau cyfathrebu, annibyniaeth a rhifedd.

"Roedd yn wych gweld yr holl waith da sy'n digwydd gyda phlant a theuluoedd ym Mlaenau Gwent, gyda phawb yn canolbwyntio ar helpu plant a theuluoedd i ddechrau a chynnal ffordd iach o fyw."

]]>
/cy/newyddion/cefnogi-plant-i-fod-yn-iach-ym-mlaenau-gwent-digwyddiad-yn-dathlu-gwaith-par-tneriaeth/ /cy/newyddion/cefnogi-plant-i-fod-yn-iach-ym-mlaenau-gwent-digwyddiad-yn-dathlu-gwaith-par-tneriaeth/ Fri, 04 Apr 2025 08:32:00 GMT Louise Bishop
ICAX Limited yn Derbyn Grant Datblygu Busnes i Wella Atebion Ynni Adnewyddadwy Mae ICAX Limited, cwmni arloesi technoleg glân blaenllaw sy’n arbenigo mewn dylunio systemau adnewyddadwy a phympiau gwres, yn falch o gyhoeddi derbyn Grant Datblygu Busnes gan Gyngor Bwrdeistref Sirol ״. Bydd y grant hwn yn cefnogi ymdrechion ICAX i ddilysu ac ardystio ei gynhyrchion arloesol, gan gadarnhau ymhellach ei safle yn y farchnad ynni adnewyddadwy.

Bydd y grant yn cael ei ddefnyddio i ariannu ymgynghoriaeth allanol ar gyfer dilysu perfformiad cynnyrch trydydd parti, yn benodol ar gyfer y Cynllun Ardystio Microgynhyrchu (MCS). Mae MCS yn darparu ardystiad annibynnol o gynhyrchion carbon isel, gan sicrhau eu hansawdd a'u diogelwch. Bydd ennill ardystiad MCS ar gyfer Pwmp Gwres ICAX Seren 10 yn dangos ei ansawdd a'i ddiogelwch uchel i gwsmeriaid, gan alluogi masnacheiddio cyflymach a chyrhaeddiad marchnad cynyddol.

Mae cyfleuster ICAX yn Blaenau yn cynhyrchu ystod o gynhyrchion Seren, gan gynnwys pwmp gwres ffynhonnell aer Seren 10 (ASHP), uned hydrolig Seren Hub, a rheolydd pad cyffwrdd Seren Slate. Mae'r cynhyrchion hyn wedi'u datblygu'n ofalus ar gyfer y farchnad ôl-osod domestig trwy brosesau Ymchwil a Datblygu systematig. Mae'r cwmni hefyd wedi creu technoleg ThermalBankTM, sy'n galluogi gwresogi ac oeri cynaliadwy trwy ailgylchu ynni gwres yn rhyng-dymhorol.

“Rydym wrth ein bodd i dderbyn y grant hwn, sydd wedi ein helpu i ddilysu ac ardystio ein datrysiadau pwmp gwres arloesol,” meddai Mark Hewitt, Prif Swyddog Gweithredol, ICAX Limited[GA1] . "Bydd y gefnogaeth hon yn ein galluogi i ddangos ansawdd a diogelwch uchel ein cynnyrch, gan sefydlu ICAX ymhellach fel arweinydd yn y farchnad ynni adnewyddadwy."

Dywedodd y Cynghorydd John Morgan, Aelod Cabinet dros Leoedd, Adfywio a Datblygu Economaidd, "Rydym yn hynod falch o gefnogi ICAX yn eu hymdrechion i ddod ag Ateb Ynni Adnewyddadwy mor arloesol i'r farchnad a mwy o gyflogaeth i'r ardal gyfagos. Edrychwn ymlaen at eu llwyddiant parhaus a'u cyfraniad i'r economi leol."

Ariennir Grant Datblygu Busnes ״ gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU ac fe’i rheolir gan Dîm Busnes ac Arloesi Cyngor ״. Nod y Grant Datblygu Busnes yw cefnogi twf a datblygiad busnesau newydd a phresennol ym Mlaenau Gwent. Mae’r cynllun bellach ar gau ond mae busnesau sydd angen cymorth ariannol yn cael eu hannog i lenwi’r ffurflen Datganiad o Ddiddordeb ar-lein yn y ddolen isod ac os daw rhagor o arian ar gael o fis Ebrill 2025 ymlaen, byddwn yn cysylltu â busnesau sydd ar y rhestr aros.

]]>
/cy/newyddion/icax-limited-yn-derbyn-grant-datblygu-busnes-i-wella-atebion-ynni-adnewyddadwy/ /cy/newyddion/icax-limited-yn-derbyn-grant-datblygu-busnes-i-wella-atebion-ynni-adnewyddadwy/ Tue, 08 Apr 2025 09:58:07 GMT Carolyn Jenkins
Yr athletwr a dorrodd recordiau, Steve Jones MBE, OLY yn derbyn Rhyddid y Fwrdeistref Heddiw, mae'r marathonwr Steve Jones MBE, OLY wedi derbyn Rhyddid Bwrdeistref Sirol ״ yn swyddogol am ei gyfraniad eithriadol at y byd rhedeg.

Rhoddodd cynghorwyr yr anrhydedd mewn cyfarfod ar-lein – gyda'r torrwr recordiau Steve (sy’n cael ei nabod fel 'Jonesy') yn mynychu’n fyw o'i gartref yn Colorado, yr Unol Daleithiau. Gwnaeth ei deulu a’i ffrindiau hefyd ymuno ar gyfer yr achlysur pwysig.

Nododd y llynedd 40 mlynedd ers buddugoliaeth aruthrol Steve Jones ym Marathon Chicago ym 1984, buddugoliaeth a ddaliodd sylw’r byd a chadarnhau ei le yn hanes athletau. Ar y diwrnod hwnnw ym 1984, gwnaeth Jones o Lynebwy nid yn unig groesi’r llinell derfyn yn gyntaf ond hefyd chwalu recordiau, gan ddangos cyfuniad rhyfeddol o ddyfalbarhad, penderfyniad, ac ewyllys pur. Gosododd record byd newydd, gan gwblhau'r cwrs mewn 2 awr, 8 munud a 5 eiliad, sy’n amser rhyfeddol.

Mae'r mis hwn hefyd yn nodi 40 mlynedd ers i Steve gipio teitl Marathon Llundain. Mae ei restr o gyflawniadau rhedeg yn drawiadol a gellir dod o hyd iddi yma:

Mae record Steve hefyd yn cynnwys ennill Marathonau Efrog Newydd a Toronto.

Cyflawnodd Steve hyn i gyd wrth wasanaethu'n falch yn yr Awyrlu Brenhinol. Roedd Swyddog Awyr Cymru, y Comodor Awyrlu Rob Woods, hefyd ar yr alwad a siaradodd am wasanaeth Steve fel Technegydd Cyrff Awyrennau, gan weithio ar y C130 Hercules a'r F4 Phantoms.

O dras ddiymhongar, mae Steve, sy'n troi'n 70 eleni, bob amser wedi cadw ei draed ar y ddaear mewn perthynas â’i gyflawniadau anhygoel ar lwyfan y byd. Dywedodd unwaith, "Rwy'n rhedeg gyda fy mhen, fy nghalon a'm perfedd, oherwydd yn gorfforol, dydw i ddim yn credu bod gen i lawer o dalent neu allu. Dechreuais ar y gwaelod a gweithiais fy ffordd i fyny."

Daliodd Steve record marathon Prydain (2:07:13) am 33 mlynedd nes i Mo Farah ei thorri yn 2018!

Dechreuodd redeg fel rhan o dîm o'r Corfflu Hyfforddiant Awyr yng Nglynebwy. Gofynnwyd iddo gymryd rhan mewn pencampwriaeth traws gwlad yn Ynys y Barri ar ôl i gadet arall dynnu allan. Daeth yn 5ed y diwrnod hwnnw yn ei sgidiau ‘Woolworth's’ ac mae’r gweddill (yn llythrennol!) yn hanes.

Llun: Mike Powell

Wrth dderbyn yr anrhydedd heddiw, dywedodd Steve:

"Mae'n anrhydedd enfawr derbyn Rhyddid Bwrdeistref Sirol ״, fy man geni a’m cyn-gartref, lle mae gen i lawer o deulu a ffrindiau. Mae'n deimlad anhygoel ac rwy'n dychmygu mai dim ond y bobl sydd wedi ei dderbyn o'm blaen all ddeall yn iawn. Cefais fy magu fel llawer o blant a phobl ifanc bryd hynny heb lawer, ond rydyn ni ddosbarth gweithiol Cymru yn oroeswyr, ac rwy'n hynod falch o’m gwreiddiau! Doedd gen i ddim cit rhedeg soffistigedig, dim ond pâr o siorts a chrys-t a’m sgidiau Woolworth's, felly byddwn i'n dweud wrth unrhyw un, gyda gwaith caled, penderfyniad a chred ynoch chi’ch hun, y gallwch chi gyflawni unrhyw beth. Diolch i bawb sydd wedi fy nghefnogi trwy gydol fy ngyrfa redeg, rwy'n eich gwerthfawrogi chi i gyd yn fawr."

Mae Steve, sy’n ddyn teulu, yn byw gyda'i wraig Annette, sydd hefyd o Lynebwy. Mae'n dal i ymwneud â rhedeg, bellach yn hyfforddi pobl sy'n gadael y coleg lle mae'n byw – mae’n rhaid eu bod nhw’n teimlo’n lwcus iawn i gael hyfforddwr o'r fath.

Mae'r Cyngor yn parhau i weithio mewn partneriaeth â Chlwb Rhedeg Parc Bryn Bach i goffáu cyflawniadau Steve ac arddangos ei fuddugoliaethau yn yr ardal leol. Y nod yw sicrhau bod cenedlaethau'r dyfodol yn cael eu hysbrydoli gan ei daith ryfeddol a bod ei etifeddiaeth yn parhau i ysgogi darpar athletwyr.

Dywedodd Arweinydd Cyngor ״, Steve Thomas:

"Mae Steve Jones yn arwr go iawn, ac mae ei stori yn ymgnawdoli ysbryd ״! Mae'n parhau’n ddiymhongar hyd heddiw, sy’n dyst i’w gymeriad o ystyried ei gyflawniadau, a ryfeddodd lawer yn y byd rhedeg. Mae Steve nid yn unig yn eicon rhedeg byd-eang ond hefyd yn un ohonon ni - dyn y mae ei daith anhygoel o galon Glynebwy i enwogrwydd rhyngwladol mor ysbrydoledig ag y mae'n rhyfeddol. Mae ei gyflawniadau’n brawf o'r hyn y gellir ei gyflawni trwy benderfyniad pur, ymdrech, ac angerdd diwyro. Mae ei stori’n dangos i ni nad yw mawredd yn dibynnu ar fraint, ond ar ddyfalbarhad, gwaith caled, a chred ddiysgog ynoch chi’ch hun.

"Mae anrhydeddu Steve gyda'r wobr fawreddog hon yn fwy na chydnabod ei ragoriaeth athletaidd, mae'n ymwneud â dathlu ei rôl fel symbol o ddyfalbarhad, rhagoriaeth a balchder i Flaenau Gwent.

"Mae'n deyrnged i ŵr sy'n ein hatgoffa bod hyd yn oed y breuddwydion mwyaf uchelgeisiol o fewn cyrraedd, ac mae'n alwad i ysbrydoli ein hieuenctid i estyn at fawredd. Gadewch i ni sicrhau bod stori Steve yn parhau i fod yn gonglfaen i'n treftadaeth gyffredin, gan ein hatgoffa am byth o bŵer gwytnwch a balchder ein cymuned."

Mae Lee Aherne, Cadeirydd Clwb Rhedeg Parc Bryn Bach, wedi bod yn gweithio'n agos gyda'r Cyngor ar y cynlluniau i anrhydeddu Steve. Meddai:

"Fel Cadeirydd Clwb Rhedeg Parc Bryn Bach, roedd yn anrhydedd fawr fod Steve wedi derbyn ein gwahoddiad i ddod ein haelod anrhydeddus cyntaf yn 2017. Mae gweld Steve yn mynd ymlaen i dderbyn MBE a nawr Ryddid ״ yn dyst i'w yrfa athletaidd ragorol."

]]>
/cy/newyddion/yr-athletwr-a-dorrodd-recordiau-steve-jones-mbe-oly-yn-derbyn-rhyddid-y-fwrdeistref/ /cy/newyddion/yr-athletwr-a-dorrodd-recordiau-steve-jones-mbe-oly-yn-derbyn-rhyddid-y-fwrdeistref/ Tue, 08 Apr 2025 12:11:42 GMT Louise Bishop
Ymrwymiad parhaus i gefnogi Cymuned Lluoedd Arfog ״ Mae Cyngor ״ a'i bartneriaid wedi ailddatgan eu hymrwymiad i gefnogi aelodau o Gymuned y Lluoedd Arfog.

Yn ddiweddar, ail-lofnododd y Cyngor Gyfamod y Lluoedd Arfog yn ei fformat newydd fel dogfen genedlaethol sengl. Mae hwn yn addewid gan y genedl i’r rhai sydd yn neu wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog, a'u teuluoedd, gael eu trin yn deg.

Gwahoddodd Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog ar gyfer y Cyngor, y Cynghorydd Derrick Bevan, gynghorwyr a chynrychiolwyr o Gymuned y Lluoedd Arfog i'r Swyddfeydd Cyffredinol i nodi'r ail-lofnodi.

Meddai: "Rydym yn parhau i weithio gyda phartneriaid i gefnogi ein cymuned lluoedd arfog yma ym Mlaenau Gwent. Rydym wedi adolygu polisïau allweddol, gan gynnwys addysg a thai, i adlewyrchu ein hymrwymiad o dan y Cyfamod i ddileu unrhyw anfanteision i bobl wrth gael mynediad at wasanaethau sy'n deillio o'u haelodaeth bresennol neu flaenorol o'r lluoedd arfog.

"Mae llawer o ddynion a menywod o Flaenau Gwent wedi gwasanaethu'n falch.  Mae coffáu'r gwasanaeth hwn hefyd yn rhan bwysig o'n gwaith. Rwy'n gwybod bod llawer o sefydliadau a gwirfoddolwyr lleol eisoes yn gweithio'n galed ar ddigwyddiadau i nodi 80 mlwyddiant VE a VJ eleni."

Mae nifer sylweddol o fusnesau ym Mlaenau Gwent hefyd wedi llofnodi'r Cyfamod. Mae ein hymrwymiad yn adlewyrchu cefnogaeth gref cymunedau yma ym Mlaenau Gwent i'n lluoedd arfog.  Dewch o hyd i ragor o wybodaeth am ein cefnogaeth i'r Lluoedd Arfog yma:

]]>
/cy/newyddion/ymrwymiad-parhaus-i-gefnogi-cymuned-lluoedd-arfog-blaenau-gwent/ /cy/newyddion/ymrwymiad-parhaus-i-gefnogi-cymuned-lluoedd-arfog-blaenau-gwent/ Thu, 10 Apr 2025 05:41:49 GMT Louise Bishop
Copner Biotech Ltd yn sicrhau Grant Datblygu Busnes Mae Copner Biotech Ltd, cwmni biotechnoleg arloesol sydd wedi’i leoli yng Nglynebwy, wrth ei fodd i gyhoeddi ei fod wedi derbyn tri Grant Datblygu Busnes. Bydd y grantiau hyn yn allweddol wrth uwchraddio eu bioargraffydd allwthio presennol, y GRAPE-S1, i gynnwys amgylchedd ystafell lân adeiledig a nodweddion meddalwedd newydd. Yn ogystal, bydd y cyllid yn ehangu eu portffolio eiddo deallusol i gynnwys patentau Ewropeaidd ac UDA, gan hwyluso lansiad Ewropeaidd y cwmni yn Medica 2023.

Wedi'i sefydlu yn 2020 mae Copner Biotech wedi datblygu fformat perchnogol ar gyfer modelu 3D, gan arwain at greu a dilysu sgaffaldiau meithriniad celloedd a thechnoleg bioargraffu. Mae'r cwmni sydd wedi'i leoli yng Nghanolfan Arloesedd Glynebwy wedi derbyn gwobrau arloesi lluosog, gan gynyddu nifer ei staff i dri. Ar hyn o bryd mae Copner Biotech yn dal pedwar patent y DU a ganiatawyd, gyda phedwar cais arall yn y DU ar waith, sydd ynghyd â cheisiadau patent cyfatebol gan y Swyddfa Gymreig yn llunio portffolio eiddo deallusol sylweddol.

Mae amcanion tymor byr y busnes yn cynnwys sicrhau’r holl eiddo deallusol yn y DU, Ewrop, ’r Unol Daleithiau, a datblygu methodoleg LEAN i gynhyrchu offer bioargraffu cenhedlaeth nesaf. Mae nodau hirdymor yn cynnwys ehangu i farchnadoedd tramor ac agor safleoedd newydd yn Ewrop a'r Unol Daleithiau, tra'n cynnal eu pencadlys yng Nglynebwy.

Mae'r Grant Datblygu Busnes hefyd wedi cefnogi prynu offer TG ar gyfer swyddi newydd a grëwyd drwy'r cynllun Quickstart, gyda'r nod o gadw'r swyddi hyn yn llawn amser ar ôl y lleoliad. Bydd y gallu newydd hwn yn gwella ymchwil a datblygu cyffredinol ar safle Glynebwy ac yn helpu i gynhyrchu bioargraffwyr wrth symud ymlaen.

Mae Copner Biotech wedi ymrwymo i wella cynhyrchiant mewn ymchwil hanfodol a lleihau’r defnydd o anifeiliaid mewn ymchwil, gyda gweledigaeth o fynd i mewn i’r farchnad meddygaeth adfywiol yn y ddwy flynedd nesaf trwy gydweithio â chwmnïau fferyllol ar draws Ewrop.

Dywedodd Alan Copner, Prif Swyddog Technoleg, Copner Biotech, "Rydym yn hynod ddiolchgar am y Grantiau Datblygu Busnes hyn, a fydd yn ein galluogi i gymryd camau breision yn ein cenhadaeth i chwyldroi'r diwylliant celloedd 3D a'r gofod bio-wneuthuriad. Bydd y cyllid hwn nid yn unig yn gwella ein galluoedd technolegol ond hefyd yn ehangu ein cyrhaeddiad i farchnadoedd newydd, yn y pen draw o fudd i ymchwilwyr a chleifion ledled y byd."

Dywedodd y Cynghorydd John Morgan, Aelod Cabinet - Lleoedd ac Adfywio a Datblygu Economaidd, “Mae Copner Biotech Limited wedi mynd o nerth i nerth ers eu dechreuadau diymhongar ac rydym yn falch iawn o allu eu cefnogi wrth iddynt wella eu galluoedd technolegol, ehangu i farchnadoedd tramor a chreu cyfleoedd cyflogaeth yn ein hardal.

Fel Cyngor, rydym wedi ymrwymo i barhau i gefnogi busnesau lleol i greu cymunedau gwydn ac economi ffyniannus, gan sicrhau bod pobl yn gallu gweithio’n lleol yn hyderus.”

Ariennir Grant Datblygu Busnes ״ gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU a’i reoli gan Dîm Busnes ac Arloesi Cyngor ״. Nod y Grant Datblygu Busnes yw cefnogi twf a datblygiad busnesau newydd a phresennol ym Mlaenau Gwent. Mae’r cynllun bellach ar gau ond mae busnesau sydd angen cymorth ariannol yn cael eu hannog i lenwi’r ffurflen Mynegi Diddordeb ar-lein yn y ddolen isod ac os daw rhagor o arian ar gael o fis Ebrill 2025 ymlaen, byddwn yn cysylltu â busnesau sydd ar y rhestr aros.

]]>
/cy/newyddion/copner-biotech-ltd-yn-sicrhau-grant-datblygu-busnes/ /cy/newyddion/copner-biotech-ltd-yn-sicrhau-grant-datblygu-busnes/ Thu, 10 Apr 2025 13:17:00 GMT Carolyn Jenkins
Cefnogi dyfodol hufen iâ llaeth moethus Mae B Sidoli & Sons Ltd, Glynebwy, wedi derbyn dau Grant Datblygu Busnes sydd wedi eu helpu i brynu peiriant llenwi hufen iâ cylchdro. Bydd y peiriant newydd yn creu mwy o effeithlonrwydd a chynnal a chadw gan arwain at lai o amser segur ar gyfer atgyweiriadau a mwy o amser yn llenwi pecynnau gyda hufen iâ, gan alluogi Sidoli i gyflawni pob archeb ar amser a denu cwsmeriaid newydd. Bydd y peiriant newydd yn cynyddu allbwn bob awr tra hefyd yn lleihau eu defnydd o ynni ac ôl troed carbon.

 Defnyddiwyd yr ail Grant Datblygu Busnes i helpu i ariannu'r gwaith o adnewyddu cerbydau dosbarthu sy'n heneiddio. Bydd y cerbydau newydd yn cydymffurfio ag ULEZ gydag allyriadau isel iawn. Mae'r corff rheweiddiedig modern hefyd yn defnyddio llawer llai o ynni i weithredu na'r cyrff rydyn ni'n eu defnyddio ar hyn o bryd.

Mae Sidoli’s yn cynnig ateb cyflawn i fusnesau sydd am werthu hufen iâ o fewn eu busnes. Mae'r cwmni'n cynhyrchu hufen iâ llaeth moethus Sidoli yn eu pencadlys yng Nglynebwy ac yna'n storio ac yn dosbarthu hufen iâ i'w cwsmeriaid ynghyd ag eitemau hufen iâ amrywiol. Mae gan y busnes ystod eang o gwsmeriaid, gan gynnwys siopau cyfleus, tafarndai, bariau, bwytai, caffis, mannau gwerthu pwdinau, safleoedd hamdden (parciau lleol, safleoedd twristiaeth, safleoedd glan môr), theatrau, cyrtiau blaen garejys, ’r cyhoedd.

Yr amcanion tymor byr yw cadw cwsmeriaid presennol a pharhau i dyfu'n organig tra'n uwchsgilio a datblygu eu gweithlu. Mae amcanion hirdymor yn cynnwys adleoli i adeiladau newydd i ddod yn fwy effeithlon a chanolbwyntio ar ddod yn garbon niwtral. Byddai hyn yn cael ei gyflawni trwy ddefnyddio ystafelloedd oer mwy effeithlon a chael y gallu i gynhyrchu eu hynni gwyrdd eu hunain.

“Rydym wrth ein bodd yn derbyn y grant hwn, a fydd yn chwarae rhan hanfodol yn ein hymdrechion parhaus i ddod yn garbon niwtral a chefnogi ein cynlluniau twf,” meddai Stefano Sidoli, Rheolwr Gyfarwyddwr B Sidoli & Sons Ltd. “Bydd y buddsoddiad hwn nid yn unig yn gwella ein cynhyrchiant ond hefyd yn ein galluogi i barhau i ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel i’n cwsmeriaid.”

Dywedodd y Cynghorydd John Morgan, Aelod Cabinet - Lleoedd ac Adfywio a Datblygu Economaidd, "Rydym yn hynod falch o B Sidoli & Sons Ltd am eu cyflawniadau a'u hymrwymiad i gynaliadwyedd ac arloesi. Mae eu hymroddiad i wella effeithlonrwydd a lleihau eu hôl troed carbon i'w ganmol, ac edrychwn ymlaen at weld eu llwyddiant parhaus yn y diwydiant."

Hoffem hefyd longyfarch B Sidoli & Sons Ltd am gyrraedd rhestr fer Cynhyrchydd Bwyd y Flwyddyn yng Ngwobrau Bwyd a Diod Cymru 2025. Cyhoeddir y canlyniadau ar yr 22ain o Fai, da iawn i bawb a gymerodd ran.”

Ariennir Grant Datblygu Busnes ״ gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU a’i reoli gan Dîm Busnes ac Arloesi Cyngor ״. Nod y Grant Datblygu Busnes yw cefnogi twf a datblygiad busnesau newydd a phresennol ym Mlaenau Gwent. Mae’r cynllun bellach ar gau ond mae busnesau sydd angen cymorth ariannol yn cael eu hannog i lenwi’r ffurflen Datganiad o Ddiddordeb ar-lein yn y ddolen isod ac os daw rhagor o arian ar gael o fis Ebrill 2025 ymlaen, byddwn yn cysylltu â busnesau sydd ar y rhestr aros.

 

]]>
/cy/newyddion/cefnogi-dyfodol-hufen-ia-llaeth-moethus/ /cy/newyddion/cefnogi-dyfodol-hufen-ia-llaeth-moethus/ Wed, 16 Apr 2025 12:47:03 GMT Carolyn Jenkins
Dyfarniad arwyddocaol yn erbyn salon gwelyau haul yng Nghymru am droseddau rheoleiddio gwelyau haul lluosog yn dilyn erlyniad gan Gyngor ״ Mae cwmni wedi cael ei ddedfrydu i dalu £15,500 am droseddau o dan Reoliadau Deddf Gwelyau Haul (Rheoleiddio) 2010 (Cymru) 2011, yn dilyn erlyniad gan Gyngor ״.

Cafodd Tantastic Blackwood Ltd ei erlyn yn Llys Ynadon Casnewydd ar ôl i'r cyfarwyddwr, David Bryn Williams, bledio'n euog i bum trosedd.

Ym mis Mawrth 2024, derbyniodd Tîm Iechyd yr Amgylchedd y Cyngor gŵyn gan aelod o'r cyhoedd yn honni eu bod wedi cael llosgiadau sylweddol ar ôl defnyddio gwely haul pwysedd uchel yn Tantastic yn Commercial Street, Tredegar.

Yn ystod ymchwiliad, nododd y swyddogion ymweld sawl methiant yn y safle o dan Reoliadau Deddf Gwelyau Haul (Rheoleiddio) 2010 (Cymru) 2011. Yn ogystal â'r dystiolaeth a ddarparwyd gan y parti a anafwyd, gwelodd swyddogion hefyd fod staff yn methu â chydymffurfio â'r gofynion o dan y rheoliadau hyn wrth wasanaethu cwsmeriaid a oedd yn bresennol yn ystod eu hymweliad.

Cadarnhaodd y Barnwr Rhanbarth llywyddol yn ei chrynodeb sawl pwynt allweddol yr oedd hi wedi'u hystyried wrth benderfynu ar ddedfryd briodol. Yn gryno, roedd y rhain yn cynnwys y canlynol:

  • Bod Mr Williams mewn sefyllfa freintiedig o ymddiriedaeth ac y byddai'n cael ei ystyried yn arbenigwr yn ei faes gyda dros 10 mlynedd fel cyfarwyddwr y cwmni Cyfyngedig,
  • Bod gan ei dîm ac ef ei hun gyfrifoldeb i gwsmeriaid, yn enwedig pobl ifanc, a allai fod yn bryderus am eu delwedd i’r graddau fod hynny’n eu rhoi mewn cyflwr o fregusrwydd ychwanegol,
  • Mae'r Rheoliadau ar waith i amddiffyn unigolion a defnyddwyr o'r fath ac adlewyrchir difrifoldeb diffyg cydymffurfiaeth o ganlyniad i hynny yn y ddedfryd

Rhoddwyd rhywfaint o liniaru yn amddiffyniad Mr Williams oherwydd y canlynol:

  • Cafodd ple euog gynnar ei chyflwyno i un cyhuddiad
  • Roedd rhywfaint o dystiolaeth o ymdrechion i gydymffurfio mewn perthynas â rhai o'r troseddau ond ei bod yn amlwg bod Mr Williams wedi bod yn esgeulus, a bod safonau wedi llithro
  • Nid oedd unrhyw euogfarnau blaenorol i'w nodi o fewn y cyfnod ystyried perthnasol, dim ond rhybuddion ysgrifenedig oedd wedi'u cyhoeddi

Gorchmynnodd y Barnwr i Tantastic Blackwood Ltd dalu cyfanswm o £15,500. Dirwy o £8,500, Gordal Dioddefwr o £2,000 a chostau o £5,000.

Dywedodd y Cynghorydd Helen Cunningham, Aelod Cabinet y Cyngor dros Leoedd a'r Amgylchedd:

"Mae'n hanfodol i unrhyw un sy'n dewis defnyddio gwely haul mewn salon allu gwneud hynny gan wybod bod y rheoliadau'n cael eu bodloni’n llawn. Mae hyn yn cynnwys atal defnydd gan blant, sicrhau bod gwybodaeth iechyd ragnodedig yn cael ei rhoi i gwsmeriaid a bod rheolaethau eraill ar waith i atal gor-amlygiad i belydrau UV. Diolch i'n timau Iechyd yr Amgylchedd a Chyfreithiol am gynnal ymchwiliad trylwyr a dod â'r achos pwysig hwn i'r llys. Maen nhw wedi cyflawni canlyniad pwysig yn y defnydd diogel a chyfreithlon o welyau haul."

Yn ogystal â'r erlyniad, yn ystod yr ymchwiliad cyhoeddodd y Cyngor hysbysiad gwahardd i'r cwmni o dan y Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith etc 1974 (HASAWA) mewn perthynas â'r gwely haul sy'n gysylltiedig â'r gŵyn. Mae'r hysbysiad gwahardd wedi cael ei dynnu'n ôl ers hynny ar ôl datgomisiynu a gwaredu’r gwely. Cyhoeddwyd Hysbysiad Gwella i'r cwmni hefyd, hefyd o dan HASAWA, i sicrhau gwelliannau i asesiadau risg a rheolaethau cysylltiedig i atal perygl i ddefnyddwyr a gweithwyr. Mae'r cwmni wedi darparu tystiolaeth yn ddiweddar i ddangos bod gwelliannau bellach wedi'u sicrhau a bod gofynion yr hysbysiad wedi'u bodloni.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu bryderon ynglŷn â safle sy'n cynnig gwelyau haul i aelodau o'r cyhoedd, cysylltwch ag Iechyd yr Amgylchedd ar environmental.health@blaenau-gwent.gov.uk neu 01495 311556.

Mae llawer o sylw wedi’i roi i’r risgiau i iechyd a achosir gan or-amlygiad i belydrau uwchfioled (UV) o olau haul a'r defnydd o welyau haul. Mae nifer yr achosion o ganser y croen yn cynyddu. Prif achos canser y croen yw gor-amlygiad i belydrau uwchfioled (UV). Gall hyn fod o olau haul naturiol neu belydrau artiffisial o'r defnydd o welyau haul a lampau haul. Cadarnhawyd hefyd fod y risgiau’n uwch i'r rhai sy'n cael eu gor-amlygu i belydrau UV yn ifanc. Am y rheswm hwn y cyflwynwyd Deddf Gwelyau Haul (Rheoleiddio) 2010 a'r Rheoliadau cysylltiedig. Mae canser y croen fel arfer yn cymryd degawdau i ddatblygu, felly efallai na fydd yn dod yn amlwg tan flynyddoedd ar ôl yr amlygiad niweidiol.

Os hoffech ddysgu mwy am gadw'ch croen yn ddiogel a lleihau'r risg o ganser y croen, mae GIG y DU a Cancer Research UK yn cynnig cyngor defnyddiol sydd ar gael drwy'r dolenni isod:

]]>
/cy/newyddion/dyfarniad-arwyddocaol-yn-erbyn-salon-gwelyau-haul-yng-nghymru-am-droseddau-rheoleiddio-gwelyau-haul-lluosog-yn-dilyn-erlyniad-gan-gyngor-blaenau-gwent/ /cy/newyddion/dyfarniad-arwyddocaol-yn-erbyn-salon-gwelyau-haul-yng-nghymru-am-droseddau-rheoleiddio-gwelyau-haul-lluosog-yn-dilyn-erlyniad-gan-gyngor-blaenau-gwent/ Thu, 24 Apr 2025 15:06:19 GMT Louise Bishop
Cyngor Bwrdeistref Sirol ״ yn Cyflawni Statws Caru Gwenyn I gydnabod bod Cyngor Bwrdeistref Sirol ״ wedi llwyddo i ennill statws Caru Gwenyn, fel y cydnabyddir gan Dasglu’r Cynllun Gweithredu ar gyfer Pryfed Peillio, cynhaliwyd seremoni wobrwyo fawreddog yn y Swyddfeydd Cyffredinol.

Mae’r cynllun Caru Gwenyn yn fenter sy’n hyrwyddo creu amgylcheddau sy’n ffafriol i iechyd a lles pryfed peillio, sy’n hanfodol i’n hecosystemau a’n hamaethyddiaeth.

Cyflwynwyd y wobr ardystio fawreddog hon i Gyngor Bwrdeistref Sirol ״ gan Bleddyn Lake o Gyfeillion y Ddaear Cymru a Kathleen Caroll o Lywodraeth Cymru, i gydnabod ymrwymiad y cyngor i gefnogi pryfed peillio lleol a gwella bioamrywiaeth.

Dywedodd Bleddyn Lake, ar ran Cyfeillion y Ddaear, “Rydym yn falch iawn o fod yn dyfarnu’r statws Caru Gwenyn i Gyngor ״, i gydnabod y camau y maent wedi ymrwymo i’w cyflawni i helpu i gefnogi pryfed peillio a mynd i’r afael â’r pwysau niferus y mae ein pryfed peillio yn eu hwynebu.”

Dywedodd y Cynghorydd Helen Cunningham, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Le ’r Amgylchedd ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol ״, “Rydym yn cydnabod ein bod mewn argyfwng bioamrywiaeth a hinsawdd ar hyn o bryd a’i bod yn hanfodol bwysig ein bod yn dangos ein hymrwymiad i geisio mynd i’r afael â’r heriau hyn gan y bydd colli mwy o fioamrywiaeth yn cynyddu newid hinsawdd gan fod y ddau yn gynhenid gysylltiedig. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau ein bod yn cynnal ac yn gwella cynefinoedd ar gyfer pryfed peillio a bywyd gwyllt arall ond hefyd yn creu gwydnwch ecosystemau. Felly, rydym yn falch iawn ein bod wedi ennill statws Caru Gwenyn.”

]]>
/cy/newyddion/cyngor-bwrdeistref-sirol-blaenau-gwent-yn-cyflawni-statws-caru-gwenyn/ /cy/newyddion/cyngor-bwrdeistref-sirol-blaenau-gwent-yn-cyflawni-statws-caru-gwenyn/ Tue, 29 Apr 2025 10:14:19 GMT Carolyn Jenkins
Mae Sêr Soffryd yn disgleirio yn arolygiad Estyn Llongyfarchiadau i Ysgol Gynradd Soffryd ar eu hadroddiad arolygu diweddar Estyn. Mae gan yr ysgol 'wrth galon ei chymuned' ddiwylliant cynhwysol lle mae pawb yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, yn gallu llwyddo a disgyblion yn dysgu ac yn ffynnu gyda'r gofal a'r gefnogaeth gywir.

Canfu'r arolygiad fod perthnasoedd yn yr ysgol yn gadarnhaol ac yn seiliedig ar barch i'r ddwy ochr ac mae disgyblion yn falch o'u hysgol. Mae'r cwricwlwm yn dathlu treftadaeth leol ac yn cefnogi disgyblion i ddatblygu eu dyheadau i ymgysylltu â'r byd ehangach.

Dywed y pennaeth Helen Hickinbottom: "Rydw i mor falch o'n plant a'n cymuned gyfan. Ein nod bob amser yw darparu'r cyfleoedd gorau i'n dysgwyr ac i weithio gyda'i gilydd â staff, rhieni a'r gymuned i sicrhau ein bod yn parhau â'n taith ddysgu a gwella. Rydym yn falch iawn o'n holl Sêr Sofrydd ac yn falch iawn o adroddiad mor gadarnhaol."

Da iawn i bawb 😊

Darllenwch yr adroddiad arolygu llawn

]]>
/cy/newyddion/mae-ser-soffryd-yn-disgleirio-yn-arolygiad-estyn/ /cy/newyddion/mae-ser-soffryd-yn-disgleirio-yn-arolygiad-estyn/ Tue, 06 May 2025 15:02:37 GMT Louise Bishop
Teuluoedd yn Gyntaf yn Dathlu Ail Wobr Gofal Cymdeithasol

Mae Teuluoedd yn Gyntaf ״ wrth eu bodd yn cyhoeddi eu bod wedi ennill eu hail Wobr Gofal Cymdeithasol, y tro hwn yn y categori 'Adeiladu Dyfodol Disglair i Blant a Theuluoedd'. Mae'r wobr fawreddog hon yn cydnabod yr ymdrechion cynhwysfawr i gefnogi plant a theuluoedd trwy amrywiol fentrau a gwasanaethau.

Amlygodd y cais waith cyfunol gweithwyr cymorth ymroddedig, gofalwyr ifanc, yr elfen anabledd, cyfryngu, Datrysiadau y Tu Allan i’r Llys (OOCD), a gweithwyr cymdeithasol mewn ysgolion. Gan gystadlu yn erbyn 27 o geisiadau eraill yn y categori hwn, safodd Teuluoedd yn Gyntaf allan am eu dull effeithiol a chyfannol o ofal cymdeithasol.

Gwnaethpwyd argraff arbennig ar y beirniaid gan y nifer llethol o deuluoedd a ddaeth ymlaen i rannu eu profiadau cadarnhaol gyda Teuluoedd yn Gyntaf. Nodasant ei bod yn brin i wasanaethau gael mwy nag un rhiant yn fodlon cwrdd â nhw, ond roedd gan Teuluoedd yn Gyntaf giw o deuluoedd yn awyddus i fynegi eu diolchgarwch. Canmolodd y beirniaid hefyd y perthnasoedd a'r cysylltiadau cryf rhwng y staff a'r teuluoedd y maent yn eu cefnogi.

Mynychodd chwe aelod o staff y seremoni wobrwyo yng Ngwesty Mercure Caerdydd, gyda llawer mwy yn ymuno yn ddiweddarach i ddathlu'r cyflawniad arwyddocaol hwn. Cawsant longyfarchiadau calonog hefyd gan awdurdodau lleol eraill, gan gynnwys Casnewydd, a ganmolodd Teuluoedd yn Gyntaf am eu gwaith adnabyddus a chanmoladwy.

ѱ岹’r Cynghorydd Sue Edmunds, Aelod Cabinet dros Bobl ac Addysg:

"Mae arfer da, ymrwymiad a gwaith rhagorol y tîm yn cael eu cyflawni ar bwynt mor hanfodol wrth atal uwchgyfeirio i wasanaethau statudol. Mae Teuluoedd yn Gyntaf yn rhan annatod o'n darpariaeth gwasanaeth, ac rydym mor falch o'r canlyniadau a gyflawnwyd i blant a theuluoedd ym Mlaenau Gwent. Da iawn i'r gwasanaeth ac i'ch holl ymarferwyr am eu gwaith trawiadol!"

Meddai Nicola Dawson, Rheolwr Tîm Teuluoedd yn Gyntaf:

“Mae Teuluoedd yn Gyntaf yn parhau i fod wedi ymrwymo i adeiladu dyfodol disglair i blant a theuluoedd, ac mae’r anrhydedd hon yn dyst i waith caled ac ymroddiad y tîm cyfan. Edrychwn ymlaen at barhau â’n cenhadaeth a chael effaith gadarnhaol yn ein cymuned.”

]]>
/cy/newyddion/teuluoedd-yn-gyntaf-yn-dathlu-ail-wobr-gofal-cymdeithasol/ /cy/newyddion/teuluoedd-yn-gyntaf-yn-dathlu-ail-wobr-gofal-cymdeithasol/ Wed, 07 May 2025 17:25:12 GMT Emma Bennett
Gofalwr maeth o ״ yn annog eraill i faethu yn ystod y Pythefnos Gofal Maeth hwn Mae gofalwyr maeth yn annog eraill i ystyried maethu plentyn a chreu cysylltiadau oes yn ״.

Cynhelir Pythefnos Gofal Maeth, ymgyrch faethu fwyaf y flwyddyn, rhwng Mai 12 a Mai 25 eleni, gyda thema sy’n dathlu pŵer perthnasoedd.

Boed yn gyswllt clós rhwng gofalwr a phlentyn, y berthynas sy’n cael ei chreu gyda gweithwyr cymdeithasol cefnogol, neu’r cyfeillgarwch sy’n datblygu gyda gofalwyr maeth eraill o fewn cymuned, mae perthnasoedd cryf yn llinyn aur sy’n rhedeg trwy’r holl straeon maethu.

Yng Nghymru, mae dros 7,000 o blant mewn gofal, ond dim ond 3,800 o deuluoedd maeth. Mae Maethu Cymru yn bwriadu recriwtio 800 o ofalwyr ychwanegol erbyn 2026.

Rhannodd Liz a Joe ei stori am y perthnasoedd parhaol a ffurfiodd o ganlyniad i faethu trwy Faethu Cymru ״.

Mae Liz a Joe yn mwynhau maethu plant hŷn a phobl ifanc yn yr arddegau. Maent yn teimlo fod maethu’r grŵp oedran yma wedi gweithio’n dda iddynt ac mae’n flin ganddynt nad oes digon o ofalwyr maeth a hoffai faethu pobl ifanc yn eu harddegau.

“Rwyf wedi bod yn maethu am dros 18 mlynedd ac mae’n rhywbeth roeddwn i bob amser eisiau ei wneud; rwy’n wirioneddol mwynhau fod yn fam.

“Wnaethon ni ddim dewis yn benodol i feithrin yr arddegau, dim ond digwydd wnaeth o, ond roedd o yn gweithio’n dda iawn i ni. Mae gennym grwt sy’n awr yn 17 ac mae wedi byw gyda ni ers ei fod yn 4; rydyn ni wedi ei weld drwy bob cyfnod o’i fywyd hyd yma. Ein crwt ni yw e ac mae fel mab i ni. Ond mae gennym ni hefyd ferch yn ei harddegau, a ddaeth atom pan oedd yn 12 oed.

“Pan fyddwch yn gweld y newid ynddyn nhw ac yn eu gweld yn gwneud yn dda, dyna lle’r ydych chi’n teimlo fod y cyfan yn werth chweil.

Mae angen mawr i Mathu Cymru recriwtio mwy o ofalwyr maeth ar gyfer plant yng Nghymru, sydd angen amgylchedd diogel, cefnogol a chariadus. Mae Liz a Joe yn annog mwy o bobl i gysylltu a holi am faethu gyda thîm Maethu Cymru yr awdurdod lleol.

I ddarganfod mwy am ddod yn ofalwr maeth yng Maethy Cymru ״ ewch i

Bydd eich tîm lleol Maeth Cymru ״ yn brysur allan yn y gymuned drwy'r wythnos yn gwneud gollyngiadau taflenni, yn ogystal â Digwyddiad Gwerthfawrogi Gofalwyr Maeth, barbeciw yn y parc i'n teuluoedd gydag Anifeiliaid Rhyngweithiol, stondin wybodaeth yn Digwyddiad Pride ״ a gwneud taith gerdded 'Lap y Llyn' i godi ymwybyddiaeth o faethu.

]]>
/cy/newyddion/gofalwr-maeth-o-blaenau-gwent-yn-annog-eraill-i-faethu-yn-ystod-y-pythefnos-gofal-maeth-hwn/ /cy/newyddion/gofalwr-maeth-o-blaenau-gwent-yn-annog-eraill-i-faethu-yn-ystod-y-pythefnos-gofal-maeth-hwn/ Thu, 08 May 2025 14:55:37 GMT Emma Bennett
Estyn yn cyhoeddi adroddiad ar Gymuned Ddysgu Abertyleri Mae Estyn wedi cyhoeddi eu hadroddiad ar Gymuned Ddysgu 3 – 16 Abertyleri yn dilyn arolygiad diweddar. Tynnodd yr adroddiad sylw at lawer o bethau positif a chydnabod y gwelliannau sylweddol a wnaed gan gynnwys arweinyddiaeth gref a medrus; cynnydd sylweddol yn nifer y disgyblion sy'n mynychu'r ysgol yn rheolaidd, a phwyslais ar les disgyblion a staff.

Nodwyd bod agweddau ar addysgu yn dal i ddatblygu mewn nifer o feysydd a bod angen gwella ansawdd addysgu a dysgu a'r her i ddysgwyr, yn enwedig yn y cyfnod uwchradd, i sicrhau bod pawb yn gwneud cynnydd. Mae Estyn wedi argymell bod yr ysgol yn cael ei gosod yn eu categori Gwella Ysgol ac mae Cynllun Gweithredu Ôl-Arolwg wedi'i lunio fel blaenoriaeth i fynd i'r afael â'r meysydd i'w gwella.

Roedd yr adroddiad yn dangos hyder ym Mhennaeth ac uwch arweinyddiaeth yr ysgol i barhau i arwain ac adeiladu ar y gwaith da presennol i wneud y gwelliannau pellach sydd eu hangen.

Meddai Pennaeth Cymuned Ddysgu Abertyleri, Tracey Jarvis:

"Rydym yn derbyn canfyddiadau Estyn a'r argymhellion yn llawn a byddwn yn gweithio'n agos gyda'r Awdurdod Lleol, ein partneriaid gwella ysgol a chymuned gyfan yr ysgol i wneud cynnydd pellach. Mae Cynllun Gweithredu Ôl-Arolwg wedi'i lunio fel blaenoriaeth, a fydd yn nodi sut y byddwn yn mynd i'r afael â'r argymhellion ac yn gweithio i wneud gwelliannau i sicrhau ein bod yn gwneud y mwyaf o’r dysgu ac yn sicrhau’r cyfleoedd gorau i'n holl blant a phobl ifanc. 

"Rwy'n falch bod uwch arweinyddiaeth wedi cael ei chydnabod fel cryfder gan Estyn, a bod hyn yn arwain at ddisgwyliadau uchel, gweledigaeth glir a newidiadau cadarnhaol i les, diogelu a phresenoldeb. Rydym wir yn ymrwymedig i gyflawni gwelliannau pellach ac adeiladu ar ein llwyddiannau hyd yn hyn, ac rwy'n hyderus y gallwn wneud hyn gan weithio mewn partneriaeth â chymuned gyfan yr ysgol.

"Mae gwella presenoldeb wedi bod yn brif flaenoriaeth i ni ac rwy'n falch bod y gwaith hwn wedi cael ei gydnabod. Ni all dysgwyr wneud cynnydd a chyrraedd eu llawn botensial heb fod yn yr ysgol yn gyntaf. Cydnabuwyd newidiadau sylweddol a wnaed yn yr ysgol i reoli ymddygiad hefyd a bod hyn wedi arwain at welliant sylweddol yn ymddygiad disgyblion a’u hagweddau at ddysgu.

"Rydym wedi ymrwymo i roi ein dysgwyr wrth wraidd y gwaith hwn yn y dyfodol; mae eu lles, hapusrwydd, potensial a chyflawniad yn hollbwysig."

Canfu Estyn fod cefnogaeth a darpariaeth dda i ddisgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol yn yr ysgol, ac mae hyn yn parhau i ddatblygu. Barnwyd bod y darpariaethau hyn yn creu amgylchedd tawel a gofalgar i ddisgyblion, gyda staff yn canolbwyntio ar les cymdeithasol ac emosiynol disgyblion, gan arwain at ymddygiad ac agwedd gadarnhaol ymysg disgyblion cynradd ac uwchradd.

Canfu Estyn hefyd fod gan ddisgyblion lais a'u bod yn cymryd rhan weithredol mewn penderfyniadau; bod gan staff berthynas gadarnhaol â disgyblion sy'n hyrwyddo amgylcheddau gwaith tawel, cadarnhaol, a bod cefnogaeth ac arweiniad ar gael i ddysgwyr sy'n dymuno symud ymlaen i addysg bellach neu hyfforddiant, gan arwain at bron pob disgybl yn llwyddo i sicrhau cyfle wrth adael yr ysgol.

Gwnaeth yr adroddiad yr argymhellion canlynol:

  • Gwella ansawdd yr addysgu fel bod disgyblion o bob gallu yn gwneud cynnydd priodol, yn enwedig yn y cyfnod uwchradd
  • Darparu cyfleoedd herio ystyrlon i ddisgyblion ddatblygu eu sgiliau llythrennedd a rhifedd
  • Sicrhau bod arweinwyr yn nodi camau gweithredu clir a phenodol wrth gynllunio ar gyfer gwella, yn enwedig mewn perthynas â gwella addysgu
  • Sicrhau bod yr ysgol yn bodloni'r gofyniad statudol i ddisgyblion astudio'r Gymraeg hyd at 16 oed  

 

 

]]>
/cy/newyddion/estyn-yn-cyhoeddi-adroddiad-ar-gymuned-ddysgu-abertyleri/ /cy/newyddion/estyn-yn-cyhoeddi-adroddiad-ar-gymuned-ddysgu-abertyleri/ Thu, 15 May 2025 12:38:02 GMT Louise Bishop
Cadw'n Ddiogel rhag Heintiau wrth Ymweld â Ffermydd Mae ffermydd yn cynnig hwyl i'r teulu cyfan. Fodd bynnag, mae anifeiliaid yn cario germau a all achosi salwch (dolur rhydd, chwydu, ac ati). Mae risg uwch i bobl mewn grwpiau agored i niwed (plant ifanc, menywod beichiog, yr henoed, imiwnedd gwan). Gall germau gael eu lledaenu trwy gyswllt ag anifeiliaid, eu gwastraff, neu ardaloedd halogedig.

Mae Cyngor ״ yn atgoffa pobl i edrych ar y cyngor sydd ar gael isod wrth ymweld â fferm.

Yn bwysicaf oll, sicrhewch hylendid dwylo da.

Camau Diogelwch Allweddol:

  • Golchwch eich dwylo'n drylwyr gyda sebon a dŵr cynnes ar ôl dod i gysylltiad ag anifeiliaid ac arwynebau, yn enwedig cyn bwyta neu gyffwrdd â'ch wyneb. Mae diheintwyr dwylo yn annigonol o gymharu â golchi dwylo.
  • Os nad oes digon o gyfleusterau golchi ar gael ar y fferm, peidiwch â chyffwrdd ag unrhyw anifeiliaid. Ystyriwch godi unrhyw bryderon ynghylch cyfleusterau annigonol gyda'ch tîm Iechyd Amgylcheddol lleol.
  • Goruchwyliwch blant pan fyddan nhw’n golchi eu dwylo.
  • Peidiwch â chyffwrdd â'ch wyneb, bwyta, neu yfed ger anifeiliaid.
  • Peidiwch â chusanu neu roi eich wyneb yn agos at yr anifeiliaid.
  • Bwytwch mewn ardaloedd penodol ar y fferm yn unig a pheidiwch â bwyta (gan gynnwys losin neu gwm cnoi) wrth symud o gwmpas y safle.
  • Gwisgwch esgidiau caeedig a glanhewch nhw ar ôl eich ymweliad.
  • Golchwch ddillad sy'n cael eu gwisgo o amgylch anifeiliaid ar 60°C neu boethach (os yn bosibl) am 30 munud, gyda hylif glanhau da.
  • Dilynwch ganllawiau staff y fferm.

Os yn sâl:

  • Os ydych chi'n datblygu symptomau o fewn pythefnos (dolur rhydd, chwydu, ac ati) o ddyddiad eich ymweliad, cysylltwch â'ch meddyg teulu i drefnu i ddarparu sampl ysgarthion.
  • Ceisiwch sylw meddygol ar unwaith ar gyfer dolur rhydd gwaedlyd.
  • Peidiwch â dychwelyd i'r gwaith, i'r ysgol, neu'r feithrinfa nes eich bod wedi bod yn rhydd o symptomau am 48 awr. Efallai y bydd angen profion ychwanegol ar rai achosion cyn dychwelyd.
  • Dylai pobl sy’n trin bwyd, plant dan 5 oed, a phobl sy'n gweithio gyda phoblogaethau bregus ymgynghori â'u meddyg teulu ar unwaith.
  • Os ydych chi'n amau bod gennych chi Cryptosporidium, neu os cadarnhawyd hynny, rhaid i chi osgoi nofio neu ddefnyddio cyfleusterau ymdrochi cymunedol am o leiaf 14 diwrnod.

Cyngor i Drefnwyr Digwyddiadau:

  • Dylech wella ymwybyddiaeth a chydymffurfiaeth â chanllawiau hylendid ymhlith staff ac ymwelwyr.
  • Darparwch gyfleusterau golchi dwylo hygyrch gyda dŵr poeth ac oer, sebon hylif, a thywelion papur.
  • Ystyriwch gadw ŵyn mewn corlan, gan ganiatáu i ymwelwyr eu bwydo o ochr arall y ffens.
  • Sicrhewch fod ŵyn sy’n sgwrio (diarëig) yn cael eu rhoi mewn cwarantîn a bod ardaloedd lle ceir cyswllt ag anifeiliaid yn cael eu diheintio'n rheolaidd.
  • Defnyddiwch systemau archebu ar-lein ac ar y cyfryngau cymdeithasol i hyrwyddo cyngor iechyd y cyhoedd ac argymhellion hylendid.

]]>
/cy/newyddion/cadwn-ddiogel-rhag-heintiau-wrth-ymweld-a-ffermydd/ /cy/newyddion/cadwn-ddiogel-rhag-heintiau-wrth-ymweld-a-ffermydd/ Fri, 16 May 2025 11:11:59 GMT Louise Bishop
Dyfarnu £250,000 i Gyngor ״ i fynd i'r afael â heriau ecolegol Mae'r Gronfa Rhwydweithiau Natur wedi dyfarnu grant o £250,000 i Gyngor ״ a fydd yn ariannu prosiect i helpu i ddeall gwerth a chysylltedd ecosystemau ledled Gwent a'r manteision y maent yn eu darparu i bobl a natur.

Mae’r Gronfa Rhwydweithiau Natur yn rhaglen gydweithredol rhwng y Gronfa Dreftadaeth, Llywodraeth Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru, a sefydlwyd i fynd i’r afael â heriau ecolegol.

Mewn partneriaeth â Cyfoeth Naturiol Cymru ac mewn cydweithrediad â sefydliadau ledled y rhanbarth, bydd y Cyngor yn gweithio i greu cynlluniau ar gyfer rhwydweithiau ecolegol gwydn. Bydd y cynlluniau hyn yn llywio sut a ble i wella cynefinoedd, yn mynd i’r afael â chamau adfer natur ac yn amlinellu pam mae lles amgylcheddol yn bwysig. 

Meddai Helen Cunningham, yr Aelod Cabinet dros Leoedd a'r Amgylchedd:

"Rydym wedi ymrwymo i fynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur a ddatganwyd gan y Cyngor. Bydd y gefnogaeth hon gan y Gronfa Rhwydweithiau Natur, a ddosbarthwyd gan y Gronfa Dreftadaeth mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru, yn ein galluogi i weithio mewn partneriaeth i wneud newidiadau cadarnhaol i bobl a natur yma ym Mlaenau Gwent ac ar draws y rhanbarth."

Meddai Steve Morgan, Pennaeth Gweithrediadau De-ddwyrain Cymru yn Cyfoeth Naturiol Cymru:

"Bydd y prosiect hwn yn ein galluogi i gyflymu’n gyflym y gwaith ar adeiladu gwytnwch ecosystemau trwy ddull Rhwydweithiau Ecolegol Gwydn (RENs) ledled Gwent, gan ein helpu i ddeall a gwneud y mwyaf o rôl a gwerth sylfaenol natur a gwasanaethau ecosystemau sy'n sail i'n lles, ein ffyniant, ein diwylliant a'n hunaniaeth ar draws ein tirweddau a'n cynefinoedd gwahanol.

 “Mae’r prosiect hefyd yn tynnu sylw at yr ymrwymiad yng Ngwent i weithio ar y cyd ac mewn partneriaeth i gefnogi adferiad natur, cyfrannu tuag at fodloni Gweledigaeth a Nodau Lles ein Cynllun Corfforaethol, lle mae bioamrywiaeth yn cael ei amddiffyn, ei werthfawrogi, ei adfer a’i ddefnyddio’n ddoeth fel bod natur a phobl wir yn ffynnu gyda’i gilydd mewn ffordd sy’n gynaliadwy i genedlaethau’r dyfodol.

"Edrychaf ymlaen at weld cynnydd llwyddiannus y prosiect hwn wrth iddo ddatblygu a chyfrannu at ein hymdrechion ar y cyd i gymryd camau brys i atal a gwrthdroi'r dirywiad mewn bioamrywiaeth ar y cyflymder a'r raddfa sydd eu hangen, gan adeiladu gwytnwch ecosystemau fel dull datrysiadau ar sail ar natur i newid hinsawdd a llygredd, yn ogystal â gwella cyfleoedd a manteision i iechyd, lles a gwytnwch natur a phobl yn deg ac yn gynhwysol yng Ngwent."

Nod y Gronfa Rhwydweithiau Natur yw cryfhau gwytnwch rhwydwaith Cymru o safleoedd tir a morol gwarchodedig, gan gefnogi adferiad natur tra'n annog ymgysylltiad cymunedol yn weithredol.

Bydd gwella cyflwr y safleoedd gwarchodedig a chysylltiedig hyn yn eu galluogi i weithredu'n well fel rhwydweithiau natur. Mae rhwydweithiau natur yn ardaloedd hanfodol, gwydn lle gall cynefinoedd a rhywogaethau ffynnu ac ehangu. Bydd adfer cysylltedd yn y rhwydweithiau hyn yn:

  • atal dirywiad pellach mewn rhywogaethau a chyflwr cynefinoedd
  • cefnogi adferiad natur
  • gwella'r gallu i addasu i'r argyfwng hinsawdd

Bydd y gronfa hon hefyd yn cefnogi cyfranogiad gweithredol cymunedau mewn ac o amgylch safleoedd gwarchodedig. Mae cryfhau ymgysylltiad â natur yn dod â manteision uniongyrchol i iechyd a lles pobl, yn ogystal â gwella gwytnwch y safleoedd eu hunain.

Mae'r rhwydwaith safleoedd gwarchodedig yn cwmpasu Ardaloedd Cadwraeth Arbennig, Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig a Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGAau) eraill.

I gael rhagor o wybodaeth am ardaloedd gwarchodedig o dir a môr ewch i wefan Cyfoeth Naturiol Cymru:

 

]]>
/cy/newyddion/dyfarnu-250-000-i-gyngor-blaenau-gwent-i-fynd-ir-afael-â-heriau-ecolegol/ //Աɲ徱Dz/ڲԳ-250-000--Բǰ-Բ-ɱԳ--ڲԻ--ڲ-â--𳦴DZ𲵴DZ/ Tue, 20 May 2025 09:46:49 GMT Louise Bishop
Penodiadau'r Cyngor yn y Cyfarfod Blynyddol Rydym yn adeiladu rhywbeth cryfach, mwy gwydn ac yn fwy ymatebol i anghenion y bobl rydyn ni'n eu gwasanaethu' - Arweinydd y Cyngor Stephen Thomas wedi'i ailethol yng Nghyfarfod Blynyddol y Cyngor heddiw.  

Cyfarfod Blynyddol y Cyngor Cadarnhawyd penodiadau gwleidyddol allweddol i Gabinet y cyngor, pwyllgorau a chyrff allanol y cyngor ar gyfer y flwyddyn i ddod. 

Penodwyd y Cynghorydd Chris Smith yn Aelod Llywyddol a bydd yn cadeirio cyfarfodydd y cyngor, gyda'r Cynghorydd David Wilkshire wedi'i benodi'n Ddirprwy Lywydd.

Cafodd y Cynghorydd Steve Thomas ei ailethol fel Arweinydd y Cyngor a bydd hefyd yn gyfrifol am Adnoddau Corfforaethol.

Cafodd y Cynghorydd Helen Cunningham ei hailethol yn Ddirprwy Arweinydd y Cyngor a bydd hefyd yn dal y portffolio ar gyfer Oedolion a Chymunedau.

Y rhestr lawn o benodiadau cabinet yw:

  • Aelod Cabinet dros Oedolion a Chymunedau – Y Cynghorydd Helen Cunningham
  • Aelod Cabinet Adnoddau Corfforaethol – Y Cynghorydd Steve Thomas
  • Aelod Cabinet Economi a Lleoedd – Y Cynghorydd John Morgan
  • Aelod Cabinet Plant, Pobl Ifanc a Theuluoedd – Y Cynghorydd Sue Edmunds
  • Aelod Cabinet dros Gymdogaethau a Gwasanaethau'r AmgylcheddY Cynghorydd Tommy Smith

Penodwyd y cadeiryddion canlynol i'r Pwyllgorau Craffu:

  • Oedolion, Cymunedau a Lles – Y Cynghorydd Haydn Trollope (Cadeirydd) a'r Cynghorydd Ellen Jones (Is-gadeirydd)
  • Plant, Pobl Ifanc a Theuluoedd – Y Cynghorydd Wayne Hodgins (Cadeirydd) ’r Y Cynghorydd Derrick Bevan (Is-gadeirydd)
  • Datblygu Economaidd a Rheoli Amgylcheddol – Y Cynghorydd Jacqueline Thomas (Cadeirydd) Y Cynghorydd Chris Smith (Is-gadeirydd)
  • Llywodraethu Corfforaethol ac Adnoddau – Y Cynghorydd Joanna Wilkins (Cadeeirydd) ’r Y Cynghorydd Dean Woods (Is-gadeirydd)

Penodwyd aelodau hefyd i gadeirio'r pwyllgorau statudol canlynol:

  • Y Pwyllgor Cynllunio – Y Cynghorydd Lisa Winnett (Cadeirydd) Y Cynghorydd Peter Baldwin (Is-gadeirydd)
  • Pwyllgorau Trwyddedu Statudol a Chyffredinol – Y Cynghorydd Lisa Winnett (Cadeirydd) Y Cynghorydd Peter Baldwin (Is-gadeirydd)
  • Y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd – Y Cynghorydd John Hill (Cadeirydd) ’r Y Cynghorydd Ellen Jones (Is-gadeirydd)

Wrth dderbyn ei benodiad fel Arweinydd Cyngor ״, dywedodd y Cynghorydd Steve Thomas:

"Mae'n anrhydedd i mi gael fy ailethol fel Arweinydd ac rwy’n ddiolchgar iawn am yr ymddiriedaeth a'r gefnogaeth a ddangoswyd ar draws y siambr. Mae'r flwyddyn ddiwethaf wedi dod â chynnydd gwirioneddol a heriau sylweddol – rydyn ni’n gweithio'n galed i sicrhau ein bod yn gynaliadwy ac yn ariannol ddiogel, ac rydyn ni wedi bod yn delio ag effeithiau dinistriol Storm Bert a'r tirlithriad yng Nghwmtyleri.  Trwy'r cyfan, mae staff ein cyngor wedi mynd yr ail filltir i'n cymunedau.

"Rydw i hefyd yn falch o'r ffordd y mae ein partneriaeth â Chyngor Torfaen yn datblygu - mae'r hyn a ddechreuodd drwy rannu Prif Weithredwr yn datblygu'n gydweithrediad aeddfed rhwng ein huwch swyddogion, gyda photensial gwirioneddol i sicrhau canlyniadau gwell i Flaenau Gwent.

"Mae ’na waith i'w wneud o hyd, ond rwy'n credu ein bod ni'n adeiladu rhywbeth cryfach, mwy gwydn a mwy ymatebol i anghenion y bobl rydyn ni'n eu gwasanaethu."

Gwnaeth y cyngor hefyd enwebiadau i gyrff allanol gan gynnwys Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog (Y Cynghorydd Peter Baldwin); Heddlu Gwent (Y Cynghorydd Jen Morgan) a Bwrdd Tai Cymunedol Tai Calon (y Cynghorydd Sonia Behr a'r Cynghorydd Ellen Jones).

]]>
/cy/newyddion/penodiadaur-cyngor-yn-y-cyfarfod-blynyddol/ /cy/newyddion/penodiadaur-cyngor-yn-y-cyfarfod-blynyddol/ Thu, 22 May 2025 12:52:06 GMT Louise Bishop
Dysgwyr Brynmawr yn disgleirio yn nathliad Diwrnod Dylan Thomas Diolch i brosiectau Cyllid Ffyniant a Rennir y cyngor ar gyfer y Celfyddydau, Diwylliant a Threftadaeth, cynhaliodd Ysgol Sefydliad Brynmawr ddathliad trydanol ar gyfer Diwrnod Cenedlaethol Dylan Thomas, gan ddod â llenyddiaeth yn fyw i genhedlaeth newydd o feddyliau ifanc.

Arweiniodd y bardd, awdur a darlledwr enwog o Gymru, Aneirin Karadog, gyfres ysbrydoledig o weithdai, gan ymgolli myfyrwyr yn nhraddodiadau barddonol cyfoethog Cymru a hud bythol geiriau Dylan Thomas. O rhythm telynegol Under Milk Wood i emosiwn amrwd Do Not Go Gentle Into That Good Night, archwiliodd dysgwyr bŵer adrodd straeon a hunan-fynegiant mewn ffyrdd a daniodd eu creadigrwydd a'u hangerdd.

🔥 Rhyddhau Creadigrwydd Trwy Rap a Barddoniaeth 🔥 Cofleidiodd myfyrwyr eu bardd mewnol trwy greu cerddi rap hunan-ysgrifenedig, gan fanteisio ar eu sgiliau rhythm ac iaith i arddangos eu hunaniaethau trwy air llafar. Roedd eu talent eithriadol yn ddiamheuol yn profi bod traddodiadau barddonol hynafol Cymru yn dal i guro'n gryf yng nghalonnau ei hieuenctid!

🎨 Paentio Lluniau gyda Geiriau 🎨 Wedi'i ysbrydoli gan ddelweddau byw Dylan Thomas, arbrofodd dysgwyr gydag iaith, gan greu disgrifiadau hudolus fel Du Cosmig a Pinc Neapolitan. Roedd eu geiriau yn dawnsio ar y dudalen, gan ddod ag emosiynau a gweledigaethau yn fyw gyda chreadigrwydd syfrdanol.

💥&Բ;Channeling Their Rage into Poetry 💥 Mewn ymarfer sy'n adleisio egni amrwd penillion llawn dicter Thomas, ysgrifennodd myfyrwyr eu cerddi dicter eu hunain—gan fynegi popeth o faterion cyfiawnder cymdeithasol i rwystredigaethau bob dydd. P'un a oedd yn galaru am bris cynyddol bwyd Greggs neu'n eirioli dros newid, roedd eu barddoniaeth yn feiddgar, di-ofn, ac yn hynod bersonol.

Diolch i ymrwymiad y cyngor i iaith a diwylliant, roedd y dathliad hwn yn fwy na dim ond digwyddiad - roedd yn wreichionen o ysbrydoliaeth sy'n ein hatgoffa o bŵer geiriau i lunio syniadau, mynegi emosiynau, a chreu cysylltiadau parhaol.

Mae etifeddiaeth Dylan Thomas yn byw yn y meddyliau ifanc rhyfeddol hyn - y genhedlaeth nesaf o storïwyr, beirdd ac artistiaid! 🖋

Dywedodd Pennaeth Ysgol Sylfaen Brynmawr, Gerard McNamara:

"Cafodd ein disgyblion amser gwych yn creu rapiau, geiriau disgrifiadol newydd a pherfformio'r rapiau hefyd. Roedd hyder disgyblion trwy'r to erbyn diwedd y sesiwn. Roedd yn bleser gweithio gydag Aneurin; roedd yn caru llenyddiaeth Gymraeg, ac roedd hyn yn heintus gan ein disgyblion. Cafodd y sesiwn effaith barhaol ar ein disgyblion. Diolch"

"Roeddwn i'n gweld y sesiynau yn ddiddorol iawn ac roedd y disgyblion (a'r staff) wrth eu bodd yn creu eu rapiau eu hunain!" - Vicki Price (Pennaeth Cynorthwyol)

Dyma rai sylwadau gan y myfyrwyr a fwynhaodd y sesiynau yn fawr:

"Roeddwn i'n teimlo fy ysbrydoli i fynd i ffwrdd ac ysgrifennu mwy o fy marddoniaeth fy hun" - SM

"Rwy'n teimlo'n fwy hyderus i fynegi sut rwy'n teimlo am rywbeth nawr" - AB

"Roeddwn i'n meddwl bod y bardd yn ddoniol iawn ac roeddwn i wrth fy modd yn gwrando arno yn adrodd barddoniaeth gan Dylan Thomas" - NS

"Rwy'n falch iawn o'r gerdd ysgrifennais a bod Aneirin yn meddwl ei bod yn dda iawn" – ON

Pa bynnag y gwnaethoch chi ddewis mynegi eich hun, boed yn gerdd rage neu dim ond rap am eich ardal chi neu eich hoff gweithgaredd, rhowch gynnig arni a phaentio eich lluniau eich hun gyda geiriau.

]]>
/cy/newyddion/dysgwyr-brynmawr-yn-disgleirio-yn-nathliad-diwrnod-dylan-thomas/ /cy/newyddion/dysgwyr-brynmawr-yn-disgleirio-yn-nathliad-diwrnod-dylan-thomas/ Wed, 28 May 2025 10:27:26 GMT Carolyn Jenkins
Gwirfoddolwyr yn Estyn yn Ddwfn i’w Pocedi i Ddod â Phrosiect Garddio Tŷ Augusta yn Fyw Mae gardd Tŷ Augusta, Gwasanaeth Seibiant Anabledd Dysgu ״ ym Mharc Fictoria, wedi cael ei gweddnewid yn llwyr diolch i gefnogaeth gan sefydliadau, ysgolion a gwirfoddolwyr lleol.

Gan gychwyn yn gynnar fore dydd Llun, cyrhaeddodd tîm penderfynol o wirfoddolwyr brwdfrydig, yn barod i wireddu’r weledigaeth. Gyda rhawiau a thryweli, fe rannon nhw’n grwpiau, pob un â'r dasg o ailwampio gwahanol rannau o'r ardd. Roedd eu cenhadaeth yn syml; creu gofod croesawgar ac ysgogol i breswylwyr a'u teuluoedd ei fwynhau.

Gwnaed y prosiect trawsnewidiol yn bosibl trwy gyfraniadau hael gan gynnwys ffensys, compost, planhigion, planwyr, clychau gwynt, a chyffyrddiadau addurniadol eraill, i gyd gyda'r nod o greu gofod awyr agored gwych i drigolion a'u teuluoedd ei rannu. Derbyniodd y prosiect gefnogaeth frwdfrydig gan 'Gyfeillion Augusta', Nwy Prydain, disgyblion Ysgol Pen-y-Cwm, Ysgol Gynradd Gatholig y Santes Fair a llawer o aelodau staff ymroddedig ״, i gyd yn awyddus i roi help llaw.

O dan yr heulwen lachar roedd yr ardd yn fwrlwm o weithgarwch wrth i wirfoddolwyr weithio ochr yn ochr i ddod â'r gofod yn fyw. Gwnaeth Nwy Prydain gyflenwi paneli metel addurniadol tra bod Able Touch Joinery o Dredegar wedi rhoi planwyr a chlychau gwynt. Prynodd Cyfeillion Augusta ffens newydd sbon, a osodwyd gan David Ingram. Cyfrannodd Tîm Gwasanaethau Cymdogaeth y Cyngor gyda llwyth o gompost a sglodion pren o Ddyffryn Distaw, lle maen nhw’n cynnal eu prosiect gwastraff gwyrdd cynaliadwyedd, a chafwyd cyfraniadau hefyd gan drigolion Byw â Chymorth a theuluoedd y rhai sy'n cael mynediad at seibiant - i gyd yn ychwanegu at ysbryd cymunedol y digwyddiad.

Daeth garddwyr ifanc o flwyddyn 6 Ysgol Gynradd Gatholig y Santes Fair â rhagor o ysbrydoliaeth drwy rannu eu llwyddiant diweddar, ar ôl cyrraedd y rhestr fer mewn cystadleuaeth genedlaethol am yr ardd ysgol orau. Mae eu hymroddiad at arddwriaeth yn eithriadol, ac mae tîm Tŷ Augusta yn dymuno'r gorau iddynt yn y rowndiau terfynol yr haf hwn.

Darparwyd cinio bwffe i bob gwirfoddolwr a dŵr potel am ddim gan staff Tŷ Augusta.

Yn ogystal â bod o fudd i drigolion, mae'r ardd newydd yn hafan i fywyd gwyllt lleol – mae’n cynnwys gwestai pryfed, cartrefi i wenyn unig, a blychau adar ac ystlumod, a roddwyd yn hael gan Dîm Bioamrywiaeth y Cyngor i gyfoethogi profiad yr ardd synhwyraidd.

Gyda chwerthin, gwaith tîm, a gwir ymdeimlad o gymuned, mae gan Dŷ Augusta bellach fan gwyrdd llewyrchus a fydd yn dod â llawenydd a chysylltiad i'w drigolion a'r gymuned ehangach am flynyddoedd i ddod.

ѱ岹’r Aelod Cabinet dros Oedolion a Chymunedau, y Cynghorydd Helen Cunningham:

"Mae Prosiect Garddio Tŷ Augusta yn enghraifft wych o sut y gall ysbryd cymunedol a chydweithrediad greu newid ystyrlon. Mae gweld gwirfoddolwyr, ysgolion lleol a sefydliadau yn dod at ei gilydd i drawsnewid y gofod hwn yn wirioneddol ysbrydoledig. Bydd yr ardd hon yn dod yn etifeddiaeth barhaol i drigolion ei gwerthfawrogi, ac rydw i am estyn fy niolch i bawb a roddodd o’u hamser, eu hegni a'u hadnoddau i wneud iddo ddigwydd."

Dywedodd Rheolwr Gwasanaeth Tŷ Augusta, Helen Beecham:

"Mae’r haelioni, y caredigrwydd a'r ysbryd cymunedol a ddangoswyd gan bawb a gyfrannodd at Brosiect Garddio Tŷ Augusta wedi ein cyffwrdd. Mae gweld gwirfoddolwyr, ysgolion a sefydliadau lleol yn dod at ei gilydd i greu gofod mor hardd wedi bod yn hynod galonogol. Bydd yr ardd hon nid yn unig yn dod â llawenydd i'n trigolion ond bydd hefyd yn atgof parhaol o'r hyn y gellir ei gyflawni pan fydd pobl yn dod ynghyd gyda phwrpas cyffredin. O waelod ein calonnau, diolch am wireddu'r freuddwyd hon!"

Dywedodd Cheryl a Suzanne o Gyfeillion Augusta:

"Allwn ni ddim diolch i chi i gyd ddigon. Mae gweld cymaint yn camu ’mlaen i'n helpu i gyflawni'r weledigaeth ar gyfer ein gardd wedi ein cyffwrdd. Rwy'n credu ein bod ni wedi rhagori ar bob disgwyliad ar ba mor wych mae wedi troi allan. Mae'n edrych mor lliwgar a chroesawgar. Rydyn ni’n lwcus iawn i gael pobl mor feddylgar a hael yn ein cymuned."

Dywedodd disgyblion o Ysgol Ysgol Gynradd Gatholig y Santes Fair:

"Diolch yn fawr am adael i ni eich helpu chi i wneud yr ardd yn lle mwy prydferth a llawen. Gwnaethom ni fwynhau plannu blodau, trefnu'r gwelyau blodau a thynnu'r chwyn. Rydym yn gobeithio y bydd yr ardd yn parhau i flodeuo gyda charedigrwydd, lliw a gofal."

Meddai Ross Kirwan, Pennaeth Nyth, sy'n rhan o Raglen Cartrefi Cynnes Llywodraeth Cymru:

''Rydym yn falch iawn o fod wedi gallu rhoi cefnogaeth i Dŷ Augusta. Yn Nyth, mae ein staff yn ymfalchïo mewn prosiectau gwirfoddoli lleol ac mae ein perthynas â thîm Gwasanaethau Cymdeithasol ״ yn bartneriaeth wych i alluogi'r cyfleoedd hyn i barhau.  Mae'r ardd synhwyraidd yn edrych yn wych, da iawn i bawb a gymerodd ran."

Rhestr lawn o Wirfoddolwyr:

Disgyblion Blwyddyn 6 Ysgol Gynradd Gatholig y Santes Fair, Brynmawr

James O'Connell a disgyblion Ysgol Pen y Cwm 16+

Sam Jones - Nwy Prydain

Michelle Symonds – Nwy Prydain

Cheryl Jones - Cyfeillion Augusta

Suzanne Cadwallader - Cyfeillion Augusta

Rebecca Morris - CBSBG

Victoria Taylor - CBSBG

Dominic Dickson - CBSBG

Karen Smith - CBSBG

Ian Robbins - CBSBG

Sian Hughes - CBSBG

Paul Fry - CBSBG

Garrod Fry - CBSBG

Ian Thomas - CBSBG

Lee Jenkins - CBSBG

John Mewett - CBSBG Tîm Gwasanaethau Cymdogaeth

Craig Blunsdon - CBSBG

Lisa Jones - CBSBG

Matthew Stent - CBSBG

Noel Chard - CBSBG

David Ingram - CBSBG

Nadine Morgan – CBSBG

Staff Dyffryn Distaw

Able Touch Carpentry & Joinery, Tredegar

Ken Sullivan

 

]]>
/cy/newyddion/gwirfoddolwyr-yn-estyn-yn-ddwfn-i-w-pocedi-i-ddod-a-phrosiect-garddio-ty-augusta-yn-fyw/ /cy/newyddion/gwirfoddolwyr-yn-estyn-yn-ddwfn-i-w-pocedi-i-ddod-a-phrosiect-garddio-ty-augusta-yn-fyw/ Fri, 30 May 2025 10:26:31 GMT Louise Bishop
Prosiectau eisiau help i ymgysylltu ag unigolion economaidd anweithgar ledled ״ Mae Cyngor ״ yn chwilio am bartneriaid i'w helpu i gyflawni ei gynllun peilot Trailblazer.

Mae Cymru yn un o naw lle sy'n derbyn cymorth drwy raglen arloesi anweithgarwch economaidd Llywodraeth y DU gwerth £125 miliwn, sy'n targedu ardaloedd â'r lefelau uchaf o anweithgarwch.

Bydd arweinwyr lleol ym Mlaenau Gwent, Sir Ddinbych a Chastell-nedd Port Talbot yn dylunio cynlluniau cymorth cyflogaeth wedi'u teilwra i heriau unigryw eu cymuned. Bydd y cynlluniau peilot yn cael eu dylunio a'u cyflwyno gan bartneriaid Awdurdodau Lleol i ddatblygu a phrofi dulliau lleol o leihau anweithgarwch economaidd.

Mae'r Cyngor yn gofyn am Fynegi Diddordeb ar gyfer prosiectau i helpu i gyflawni'r cynllun. Mae angen i brosiectau sicrhau bod y cyfranogwyr targed yn breswylwyr economaidd anweithgar ym Mlaenau Gwent sy'n 16+ o ran oedran gyda ffocws ar yr unigolion hynny sy'n anabl, sydd â chyflyrau iechyd hirdymor a/neu sydd â chyfrifoldebau gofalu.

Er y gall prosiectau wella'r ddarpariaeth bresennol, byddai'r Cyngor yn croesawu'n arbennig technegau newydd ac arloesol i wella a chynyddu ymgysylltiad.

Mae angen i brosiectau hefyd fod yn ymwybodol o'r angen am ddyddiad cychwyn cyflym y prosiect a'r amserlen fer (dyddiad gorffen Mawrth 2026) i gyflawni. Dylai lefel y wybodaeth a ddarperir ar gyfer y cais fod yn gymesur â maint y prosiect a gynigir.

Uchafswm dyraniadau cyllid fydd £60,000 fesul prosiect.

Y dyddiad cau ar gyfer Mynegiadau o Ddiddordeb yw dydd Mawrth, 10 Mehefin 2025.

Mae'r Ffurflen Mynegi Gwybodaeth i'w gweld yma.

Dychwelwch ffurflenni wedi'u cwblhau i'r cyfeiriad e-bost canlynol Trailblazer@blaenau-gwent.gov.uk erbyn dydd Mawrth 10 Mehefin 2025.

]]>
/cy/newyddion/prosiectau-eisiau-help-i-ymgysylltu-ag-unigolion-economaidd-anweithgar-ledled-blaenau-gwent/ /cy/newyddion/prosiectau-eisiau-help-i-ymgysylltu-ag-unigolion-economaidd-anweithgar-ledled-blaenau-gwent/ Fri, 30 May 2025 13:11:33 GMT Carolyn Jenkins
Gwaith atal llifogydd yng nghymunedau ״ yn symud ymlaen yn dda (1) Mae gwaith wedi dechrau ar fesurau atal llifogydd yn Llanhiledd. Yn gynharach eleni, cymeradwyodd y Cyngor raglenni gwaith ar gyfer y cymunedau a gafodd eu taro waethaf gan ddigwyddiadau llifogydd diweddar yn Llanhiledd, Cwm a Thredegar.

Mae contractwyr wedi dechrau disodli'r rhan o gwlfer Nant Cyffin o ffin y rheilffordd i'r afon ac mae disgwyl i'r gwaith gymryd tua 18 wythnos i'w gwblhau. Yn ystod y cyfnod hwn, bydd gwyriad traffig ar waith, a bydd y ffordd ochr sy'n arwain at Stryd y Rheilffordd ar gau dros dro.

Yn y Cwm, mae'r gwaith yn mynd rhagddo'n dda. Disgwylir i'r gwaith ar y prif gwlfer orffen yng nghanol mis Mehefin yn ôl y disgwyl, a bydd contractwyr yn dechrau yng nghefn Stryd y Brenin yr wythnos nesaf.

Yng Nghwmtyleri, lleoliad y tirlithriad yn ystod Storm Bert, mae'r ymchwiliadau safle bellach wedi'u cwblhau, ac mae'r Cyngor yn y broses o ddatblygu rhaglen waith a fydd yn cael ei rhannu â thrigolion yr effeithir arnynt cyn bo hir.

Yn Nhredegar mae'r gwaith o osod gatiau llifogydd a chynnal a chadw coed wedi'i gwblhau, ac mae mesurau eraill yn parhau i geisio darparu amddiffyniad rhag llifogydd ac atal llifogydd rhag digwydd eto.

ѱ岹’r Cynghorydd Tommy Smith, yr Aelod Cabinet dros Gymdogaethau a'r Amgylchedd:

"Mae gwaith atal llifogydd a diogelwch tomenni yn y cymunedau hyn yn brif flaenoriaeth i ni. Mae llifogydd a digwyddiadau tywydd eithafol yn cael effaith ddinistriol ar gymunedau, ac rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i nodi problemau ac atal y tebygolrwydd o ddigwyddiadau yn y dyfodol gobeithio, yn ogystal â chefnogi cymunedau gyda gwytnwch a pharodrwydd lleol."

]]>
/cy/newyddion/gwaith-atal-llifogydd-yng-nghymunedau-blaenau-gwent-yn-symud-ymlaen-yn-dda-1/ /cy/newyddion/gwaith-atal-llifogydd-yng-nghymunedau-blaenau-gwent-yn-symud-ymlaen-yn-dda-1/ Wed, 04 Jun 2025 08:29:05 GMT Louise Bishop
Plant ysgol yn helpu i agor pont a llwyfan pysgota wedi'u hadnewyddu yng nghanol gwarchodfa natur y cymoedd (1) Mae gwaith adnewyddu pont a llwyfan pysgota ym Mhwll Cwmcelyn ym Mlaina wedi'i ddadorchuddio'n swyddogol.

Nododd ymgynghoriad â'r gymuned leol fod angen uwchraddio'r ardal i ddiogelu'r strwythurau i bobl eu mwynhau am flynyddoedd i ddod! Mae'r bont yn darparu llwybr uniongyrchol i gymunedau y naill ochr a'r llall; yn llwybr teithio llesol i'r ysgol gyfagos ac yn nodwedd ddeniadol ar gyfer mwynhau Gwarchodfa Natur Cwmcelyn a golygfeydd o'r dyffryn. Mae pobl hefyd yn stopio i wylio’r llawer o fywyd gwyllt sy'n byw ar ac o amgylch y pwll.

Nododd a sicrhaodd y Cyngor gyllid drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU (piler Cymunedau a Lleoedd) a Grant Gwella Mynediad Llywodraeth Cymru, sy'n anelu at wella mynediad i gefn gwlad, mannau gwyrdd a thir mynediad agored.

Heddiw, ymunodd cynrychiolwyr Cyngor ״ â disgyblion o Ysgol Gynradd Ystruth, Cymdeithas Tenantiaid a Phresgolion Cwmcelyn, pysgotwyr lleol a chontractwyr Horizon Civil Engineering Ltd i ddathlu ailagor y cyfleusterau.

 Meddai'r Cynghorydd Tommy Smith, Aelod Cabinet y Cyngor dros Gymdogaethau a Gwasanaethau Amgylcheddol:

"Fe wnaethon ni ymgynghori â Chymdeithas Tenantiaid a Phreswylwyr Cwmcelyn, Clwb Pysgotwyr Cwmcelyn a'r gymuned ehangach i ddysgu beth oedd yn bwysig iddyn nhw ac roedd cefnogaeth aruthrol i'r warchodfa natur a'r awydd i'w gweld yn cael ei gwella a'i gwarchod i'w defnyddio nawr ac yn y dyfodol. Rwy'n falch iawn ein bod wedi gallu gwneud i hyn ddigwydd, trwy weithio mewn partneriaeth, ac mae wedi bod yn wych bod yma yn yr agoriad a gweld faint mae'n ei olygu i'r gymuned. Diolch i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru am eu cefnogaeth ariannol i helpu'r cynlluniau hyn i ddod yn fyw. Rydym yn gwybod pa mor bwysig yw bod yn yr awyr agored a bod ym myd natur ar gyfer lles corfforol a meddyliol, ac rydym wedi ymrwymo i weithio i ddarparu amgylcheddau sy'n hyrwyddo hyn ac sy'n cysylltu cymunedau."

Meddai'r Cynghorydd Lisa Winnett, sy'n cynrychioli ward y Blaenau:

"Hoffwn ddiolch i'r holl swyddogion o'r Cyngor am eu help yn gweithio gyda mi a'r gymuned i adfer yr ased cymunedol gwerthfawr hwn. Mae trigolion yn gwerthfawrogi'r bont hon yn fawr fel cysylltiad cerdded rhwng ystadau ’r ysgol leol, ac i sefyll i wylio natur a mwynhau’r dirwedd hyfryd o amgylch y warchodfa natur."

Meddai Ross Townley, Ysgrifennydd Clwb Pysgota Cwmcelyn:

"Rydym yn ddiolchgar iawn am y gwaith o safon uchel sydd wedi’i wneud ar y bont a'r llwyfan ym Mhwll Cwmcelyn. Mae'r canlyniadau’n werth yr aros, a dylai'r deunyddiau gwydn sydd wedi’u defnyddio sicrhau bod y strwythur yn gwasanaethu'r gymuned yn dda am flynyddoedd lawer. Mae'r gwelliannau hyn eisoes wedi gwneud gwahaniaeth ystyrlon – cefnogi plant ar eu ffordd i'r ysgol, gwella'r profiad i'r rhai sy'n cerdded ar lannau’r pwll bob dydd, ac annog mwy o ddefnydd o'r ardal yn gyffredinol. Mae'r llwyfan newydd hefyd yn darparu gofod diogel, pwrpasol i ni gyflwyno pobl ifanc i bysgota – rhywbeth rydyn ni’n falch o'i gefnogi. Diolch yn fawr i bawb a helpodd i gyflawni'r prosiect gwerthfawr hwn."

Er mwyn sicrhau hirhoedledd y bont a'r llwyfan pysgota, defnyddiwyd plastig cyfansawdd wedi'i ailgylchu. Mae hwn yn ddeunydd cynaliadwy hirhoedlog nad yw’n gofyn am lefel uchel o gynnal a chadw, ac mae ganddo hyd oes o 75 mlynedd.

]]>
/cy/newyddion/plant-ysgol-yn-helpu-i-agor-pont-a-llwyfan-pysgota-wediu-hadnewyddu-yng-nghanol-gwarchodfa-natur-y-cymoedd-1/ /cy/newyddion/plant-ysgol-yn-helpu-i-agor-pont-a-llwyfan-pysgota-wediu-hadnewyddu-yng-nghanol-gwarchodfa-natur-y-cymoedd-1/ Wed, 04 Jun 2025 13:13:23 GMT Louise Bishop
vGŵyl Fwyd Canol y Dref, Brynmawr, 14eg o Fehefin Cynhelir Gŵyl Fwyd Canol y Dref, Brynmawr ar y 14eg o Fehefin, o 10am i 5pm. Gall ymwelwyr fanteisio ar y gwasanaeth Parcio a Theithio am ddim, gan sicrhau mynediad hawdd i ganol y dref.

Mae'r Ŵyl Fwyd yn cynnwys cerddoriaeth fyw, gyda pherfformiadau gan The Kiltics, Laura Jasmin, The Valli Boys, a chyflwynwyr radio cymunedol BGFM, gan greu awyrgylch bywiog drwy gydol y dydd. Gall ymwelwyr fwynhau ystod eang o ddanteithion gan werthwyr bwyd a diod, a fydd yn gweini bwydydd blasus a diodydd. Gall teuluoedd fwynhau amrywiaeth o adloniant i blant, gan wneud hwn yn ddigwyddiad llawn hwyl i bob oed.

Gyda chymysgedd cyffrous o fwyd gwych, cerddoriaeth fyw wych, a gweithgareddau i bawb, mae Gŵyl Fwyd Canol y Dref, Brynmawr yn addo bod yn brofiad bythgofiadwy. Mae'r digwyddiad hwn wedi'i drefnu gan Gyngor ״ ac wedi'i ariannu trwy Lywodraeth Cymru.

Bydd Kiersten Ward, awdur Mindful Monster, yn llofnodi llyfrau yn yr ŵyl fwyd. Gyda dros 20,000 o gopïau wedi'u gwerthu mewn ychydig dros 6 mis, mae llyfrau Kiersten yn cyrraedd teuluoedd ar draws y DU. Mae'r storïau bywiog a pherthnasol hyn yn archwilio teimladau a phryderon cyffredin mewn ffordd chwareus a hygyrch, gan helpu plant i ddeall a mynegi eu hemosiynau.

Mynegodd y Cynghorydd John Morgan, Aelod Cabinet dros yr Economi a Lleoedd, ei frwdfrydedd dros y digwyddiad, gan ddatgan:

"Mae Gŵyl Fwyd Canol y Dref, Brynmawr yn gyfle gwych i'n cymuned ddod ynghyd a dathlu'r talentau coginio amrywiol sydd gennym yma ym Mlaenau Gwent. Rwy'n annog pawb i ddod draw a mwynhau'r diwrnod."

]]>
/cy/newyddion/vgwyl-fwyd-canol-y-dref-brynmawr-14eg-o-fehefin/ /cy/newyddion/vgwyl-fwyd-canol-y-dref-brynmawr-14eg-o-fehefin/ Thu, 05 Jun 2025 09:36:26 GMT Louise Bishop
Cyngor ״ yn sicrhau £40,000 i gefnogi gofalwyr di-dâl Mae Cyngor ״ wedi croesawu cyllid o £40,000 i'w helpu i barhau â'u gwaith hanfodol yn cefnogi gofalwyr di-dâl o bob oedran.

Mae'r arian wedi'i sicrhau unwaith eto drwy Gronfa Gymorth i Ofalwyr Llywodraeth Cymru, y mae'r Cyngor wedi ei defnyddio i gefnogi bron i 400 o ofalwyr dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae hyn wedi cynnwys dyfarnu grantiau uniongyrchol, cynnal sesiynau cymorth ar ystod o bynciau gwahanol a threfnu gweithgareddau i ofalwyr ifanc.

Mae gofalwyr di-dâl wedi cael cymorth gyda chyllidebu personol, eu lles emosiynol a chorfforol, cymorth cyflogaeth, cyngor budd-daliadau a mynediad at dechnolegau newydd i helpu gyda'u rôl ofalu. Mae'r arwyr cudd hyn wedi elwa o grantiau i'w gwario ar eitemau hanfodol gan gynnwys bwyd, dillad ac eitemau trydanol, sydd wedi cael ei groesawu ar adeg pan mae costau byw wedi cynyddu'n ddramatig.

Mae gofalwyr ifanc wedi cymryd rhan mewn nifer o ddiwrnodau gweithgareddau ac yn y flwyddyn gyntaf cwblhaodd pedwar person ifanc eu Gwobr Dug Caeredin Efydd diolch i'r gronfa gan ddysgu sgiliau newydd, gwneud ffrindiau newydd a meithrin hyder, hunan-barch a gwytnwch emosiynol.

Ers 2022, mae'r Gronfa Gymorth i Ofalwyr wedi cynnig cyllid grant i sefydliadau lleol ac wedi cynorthwyo bron i 30,000 o ofalwyr di-dâl ledled Cymru. Mae'r cynllun yn cael ei reoli gan Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru a, diolch i’r penderfyniad i adnewyddu cyllid Llywodraeth Cymru, bydd yn rhedeg am flwyddyn arall tan fis Mawrth 2026, gan gefnogi 8,000 o ofalwyr ychwanegol.

Meddai'r Cynghorydd Helen Cunningham, y Dirprwy Arweinydd ’r Aelod Cabinet dros Oedolion a Chymunedau yng Nghyngor ״:

"Mae gofalwyr di-dâl o bob oed yn rhan hanfodol o'n cymunedau - yn dawel ac anhunanol yn cefnogi anwyliaid bob dydd. Mae eu gwytnwch a'u hymroddiad yn haeddu cydnabyddiaeth. Rwy'n falch iawn y gallwn barhau i gynnig y gefnogaeth hon i ofalwyr drwy'r Gronfa Gymorth i Ofalwyr am flwyddyn arall. Mae'n caniatáu i ni roi ychydig o gymorth i helpu i leddfu peth o'r pwysau sy'n dod gyda bod yn ofalwr."

Meddai Kate Cubbage, Cyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru:

"Mae gofalwyr di-dâl ledled Cymru yn cynnig gofal amhrisiadwy i aelodau o'r teulu, ffrindiau ac anwyliaid, sydd yn aml yn aberth personol mawr. Rydym wedi clywed gan ofalwyr di-dâl fod y Gronfa Gymorth i Ofalwyr wedi bod yn hanfodol yn eu helpu i gadw bwyd ar y bwrdd a gwres yn eu cartrefi. Mae'r rhaglen hon yn helpu i gynnal gofalwyr trwy rai o'r amseroedd anoddaf.

"Bydd y cyllid parhaus o £1.5 miliwn sy’n cael ei ddosbarthu ledled Cymru drwy Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru yn galluogi sefydliadau gofalwyr lleol a phartneriaid darparu i gyrraedd miloedd yn fwy o ofalwyr di-dâl i’w hamddiffyn rhag tlodi i mewn i 2026.

"Rydym wrth ein bodd fod Cyngor ״ wedi llwyddo i wneud cais am gyllid am flwyddyn arall i helpu'r gofalwyr y mae'n eu cefnogi. Gyda'n gilydd, rydym yn cynnig achubiaeth i ofalwyr di-dâl a'r cyfle iddynt gael cefnogaeth werthfawr."

Ynglŷn ag Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru:

Nod Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru, sy'n rhan o’r Ymddiriedolaeth Gofalwyr, yw llunio dyfodol gwell gydag ac i ofalwyr yng Nghymru drwy godi ymwybyddiaeth, grymuso gofalwyr a dylanwadu ar newid. Mae wedi ymrwymo i sicrhau bod pob gofalwr yn derbyn y gydnabyddiaeth a'r gefnogaeth y mae’n ei haeddu. Mae'n gweithio'n agos ac ar y cyd â Phartneriaid Rhwydwaith - elusennau annibynnol lleol a rhanbarthol sy'n darparu gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth ymarferol i ofalwyr di-dâl yng Nghymru. 

Mae dros 310,000 o ofalwyr di-dâl yng Nghymru - bydd 3 o bob 5 ohonon ni’n dod yn ofalwr ar ryw adeg yn ein bywydau. Mae ein Partneriaid Rhwydwaith yn cefnogi mwy na 36,000 o ofalwyr yng Nghymru.

Ynglŷn â'r Gronfa Gymorth i Ofalwyr:

Nod y Gronfa Gymorth i Ofalwyr, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yw darparu gwasanaethau hanfodol a chyllid grant i gefnogi gofalwyr di-dâl sy'n wynebu caledi ariannol, yn enwedig oherwydd costau byw cynyddol.

Ers ei sefydlu yn 2022, mae'r gronfa wedi darparu cyllid grant i sefydliadau lleol a chynorthwyo bron i 30,000 o ofalwyr di-dâl ledled Cymru. Mae'r grantiau hyn yn cynnig rhyddhad hanfodol i unigolion sy'n gofalu am anwyliaid mewn angen, gan helpu i leddfu pwysau ariannol. Diolch i gyllid parhaus gan Lywodraeth Cymru, mae bellach yn rhedeg tan 2026 a bydd yn cefnogi 8,000 o ofalwyr ychwanegol.

 

]]>
/cy/newyddion/cyngor-blaenau-gwent-yn-sicrhau-40-000-i-gefnogi-gofalwyr-di-dâl/ //Աɲ徱Dz/Բǰ-Բ-ɱԳ--󲹳-40-000--ڲԴDz-Ǵڲɲ-徱-â/ Tue, 17 Jun 2025 09:04:29 GMT Louise Bishop
Cymuned Ddysgu Ebwy Fawr yn cael ei henwi'n Ysgol Noddfa (2) Mae Cymuned Ddysgu Ebwy Fawr wedi derbyn statws Ysgol Noddfa yn swyddogol i gydnabod ei hamgylchedd dysgu diogel a chroesawgar.

Mae'r ysgol wedi gweithio'n agos gydag Ysgolion Noddfa a sefydliadau eraill i roi gwell dealltwriaeth i ddisgyblion o'r amrywiaeth a geir yn eu cymunedau lleol, ac o'r profiadau a'r heriau sy'n wynebu'r rhai sy'n ceisio noddfa. Mae dysgwyr o'r ysgol 3 – 16 oed yng Nglynebwy wedi cymryd rhan yn y prosiectau a'r gweithgareddau canlynol:

  • Wythnos Ffoaduriaid. Wythnos bwrpasol o ddysgu, myfyrio a dathlu sy'n codi ymwybyddiaeth o brofiadau a chyfraniadau ffoaduriaid.
  • Prosiect Cart Celf Symudol: Mewn cydweithrediad â'r elusen MOC, daeth y fenter hon â mynegiant creadigol ac ymgysylltiad cymunedol yn fyw, gan gynnig platfform symudol i fyfyrwyr archwilio themâu hunaniaeth, perthyn, a noddfa.
  • Llyfr Croeso i Ffoaduriaid: Prosiect pwerus dan arweiniad yr artist Matt Joyce, lle cyfrannodd myfyrwyr negeseuon a gwaith celf i gynnig croeso twymgalon i ffoaduriaid sy'n ymuno â'n cymuned.
  • Arferion Cynhwysiant Ysgol Gyfan: Ar draws pob grŵp blwyddyn ac adran, rydym wedi ymgorffori gwerthoedd o groeso a chynhwysiant yn ein cwricwlwm, gofal bugeiliol, a rhyngweithiadau dyddiol, gan sicrhau bod pob myfyriwr yn teimlo cydnabyddiaeth, diogelwch a chefnogaeth.

Dywed y Pennaeth Mel Thomas:

"Mae hon yn gydnabyddiaeth wirioneddol fawreddog, ac mae'n dyst i ymroddiad, tosturi a gwaith caled gwych pob aelod o gymuned ein hysgol. Mae bod yn Ysgol Noddfa yn golygu ein bod wedi creu amgylchedd sy'n hyrwyddo cynhwysiant, dealltwriaeth a chefnogaeth yn weithredol i ffoaduriaid a cheiswyr lloches. Mae'n ymwneud ag adeiladu diwylliant o garedigrwydd, empathi a dinasyddiaeth fyd-eang - gwerthoedd sydd wrth wraidd popeth a wnawn. Mae'r wobr hon yn ein gosod ymhlith grŵp dethol o ysgolion yng Nghymru ac mae'n enghraifft arall o sut rydym yn parhau i osod y safon ar gyfer rhagoriaeth a thosturi mewn addysg.

"Rhaid talu teyrnged arbennig i Antonia Lane, yr oedd ei hymdrechion diflino a'i hymrwymiad diwyro yn allweddol wrth gyflawni'r wobr hon. Mae ei harweinyddiaeth a'i hangerdd wedi bod yn ddim llai nag ysbrydoledig!"

Meddai'r Cynghorydd Sue Edmunds, Aelod Cabinet Cyngor ״ dros faterion Plant, Pobl Ifanc a Theuluoedd:

"Da iawn i Gymuned Ddysgu Ebwy Fawr ar ddod yn Ysgol Noddfa. Diolch i bawb a gymerodd ran am eu gwaith caled ac i'r dysgwyr, eu teuluoedd a chymuned gyfan yr ysgol am gofleidio a bod yn rhan o'r daith hon. Fel Cyngor, rydym yn gweithio mewn partneriaeth i wneud ״ yn lle diogel a chroesawgar i bawb ac mae cael plant a phobl ifanc wrth wraidd hyn yn allweddol. Llongyfarchiadau."

Mwy am fod yn Ysgol Noddfa

]]>
/cy/newyddion/cymuned-ddysgu-ebwy-fawr-yn-cael-ei-henwin-ysgol-noddfa-2/ /cy/newyddion/cymuned-ddysgu-ebwy-fawr-yn-cael-ei-henwin-ysgol-noddfa-2/ Wed, 18 Jun 2025 10:41:04 GMT Louise Bishop
Pennod newydd gyffrous ar gyfer gofal plant cyfrwng Cymraeg ym Mlaenau Gwent Cyrhaeddwyd carreg filltir hir-ddisgwyliedig ym maes addysg cyfrwng Cymraeg a gofal plant, yn gynharach eleni gydag agoriad Tŷ Chwarae,

meithrinfa ddydd newydd sbon yn Ebwy Fawr. Fel y feithrinfa gyfrwng Cymraeg gyntaf ym Mlaenau Gwent, mae ei lansiad yn gam balch a blaengar ymlaen - un sydd eisoes yn creu galwadau am fwy o leoliadau o'r fath ledled y sir.

Dechreuodd y daith gydag Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant 2017, a ddatgelodd fwlch dybryd mewn gofal plant cyfrwng Cymraeg yn y rhanbarth. Ar y pryd, dim ond tair o'r pedair ardal cynllunio cymunedol oedd â darpariaeth gofal plant yng Nghymru— doedd dim yn Ebwy Fawr. Cyfeiriodd rhieni at ddiffyg opsiynau Cymraeg lleol ac oriau meithrin cyfyngedig fel rhwystrau mawr i ddewis llwybr cyfrwng Cymraeg i'w plant.

Er mai dim ond 1% o blant lleol oedd o aelwydydd Cymraeg eu hiaith yn bennaf, a 6% o gartrefi dwyieithog, mynegodd 55% o rieni a ymatebodd i'r arolwg digonolrwydd gofal plant, awydd i'w plant ddod yn ddwyieithog. Fodd bynnag, dim ond 8% oedd yn bwriadu cofrestru eu plant mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg—gan dynnu sylw at yr angen am ddarpariaeth blynyddoedd cynnar hygyrch i gefnogi'r dyhead hwnnw.

Dechreuodd cynllunio ar gyfer Tŷ Chwarae o ddifrif yn 2018. Daeth y feithrinfa yn rhan o weledigaeth ehangach i gymryd lle ysgol Glyncoed ac alinio â nod Llywodraeth Cymru i gyd-leoli lleoliadau addysg a gofal plant. Gyda chais cyllid cyfalaf llwyddiannus, ac er gwaethaf oedi sy'n gysylltiedig â Covid, cwblhawyd adeiladau'r ysgol a'r feithrinfa erbyn Hydref 2024.

Yn dilyn proses ddethol drylwyr, dewiswyd darparwr cyfrwng Saesneg uchel ei barch yn Ebwy Fawr i redeg y gwasanaeth, yn seiliedig ar eu hanes profedig a'u hymrwymiad cryf i ddatblygu meithrinfa cyfrwng Cymraeg cwbl. Gyda chefnogaeth gan y Mudiad Meithrin a'r awdurdod lleol, buddsoddodd y darparwr i hyfforddi staff sy'n siarad Cymraeg ac uwchsgilio eraill, gan gynnwys ymweld â lleoliad Torfaen a oedd wedi trosglwyddo o'r Saesneg i'r Gymraeg.

Ers agor ei ddrysau, mae Tŷ Chwarae wedi ffynnu - croesawu nifer cynyddol o deuluoedd a meithrin sgiliau Cymraeg plant mewn amgylchedd ymgolli, cefnogol. Mae'r llwyddiant wedi bod mor amlwg, mae staff Cymraeg newydd eisoes wedi'u recriwtio i ateb y galw cynyddol.

Mae lansiad y feithrinfa wedi'i amseru'n berffaith ag agoriad Ysgol Gymraeg Tredegar ym mis Hydref, gan ymuno ag Ysgol Bro Helyg fel un o ddwy gynradd cyfrwng Cymraeg y sir—gyda darpariaeth uwchradd ar y gorwel. Mae'n gyfnod ysbrydoledig i addysg Gymraeg a gofal plant ym Mlaenau Gwent. 

Llongyfarchiadau i bawb sy'n cymryd rhan—mae eich ymroddiad yn llunio dyfodol bywiog, dwyieithog i'r genhedlaeth nesaf.

I gael rhagor o wybodaeth am addysg cyfrwng Cymraeg, dilynwch y dolenni isod:

 

Ty Chwarae:

 

Mudiad Meithrin:

 

Gwybodaeth o'n tudalen Cyngor:

/cy/preswylwyr/ysgolion-a-dysgu/bod-yn-ddwyieithog-1/

]]>
/cy/newyddion/pennod-newydd-gyffrous-ar-gyfer-gofal-plant-cyfrwng-cymraeg-ym-mlaenau-gwent/ /cy/newyddion/pennod-newydd-gyffrous-ar-gyfer-gofal-plant-cyfrwng-cymraeg-ym-mlaenau-gwent/ Wed, 25 Jun 2025 11:04:54 GMT Carolyn Jenkins
Goleuo'r Ffordd: Joe Nash, ein Pencampwr Cymraeg Cyntaf

Wrth i ni ddadorchuddio ein Rhestr Anrhydeddau Pencampwyr Cymraeg—teyrnged i unigolion sy'n dathlu, siarad ac yn rhannu cyfoeth yr iaith Gymraeg—rydym yn falch o gyflwyno ein hanrhydeddwr cyntaf: y nodedig Joe Nash o Frynmawr.

Yn ddim ond 22, mae Joe yn ymgorffori'r angerdd, y dyfalbarhad a'r pwrpas sy'n diffinio gwir hyrwyddwr iaith. Wedi'i eni i deulu nad oedd yn siarad Cymraeg, dechreuodd taith Joe yn Ysgol Gynradd Ystruth ac Ysgol Sefydledig Brynmawr, lle sbardunodd athrawes Ffrangeg ysbrydoledig, Joanne Morgan, ei gariad at ieithoedd am y tro cyntaf. Fe wnaeth y wreichionen honno danio llwybr tanbaid.

Aeth ei daith academaidd ag ef o Barth Dysgu ״, lle dilynodd Safon Uwch mewn Bioleg, Sbaeneg a Chymraeg Ail Iaith, i Brifysgol Abertawe, lle dyfnhaodd ei rhuglder drwy radd arloesol mewn ieithoedd tramor a gyflwynir drwy gyfrwng y Gymraeg. Dywedodd, "Mae ymgolli yn yr iaith wedi fy helpu i gyflawni rhuglder - ac rydw i wedi cwrdd â phobl wirioneddol anhygoel ac ysbrydoledig ar hyd y ffordd."

Arweiniodd syched Joe am ddiwylliant a chysylltiad ef i Sbaen, lle nid yn unig roedd yn meistroli Sbaeneg ond hefyd yn dysgu mewn ysgolion lleol, gan rannu ei gariad at iaith ar draws ffiniau. "Byddwn i'n byw bywyd hollol wahanol pe na bawn i wedi dysgu siarad Cymraeg," meddai - yn dyst i'r pŵer trawsnewidiol o gofleidio iaith newydd.

Bellach yn siapio meddyliau ifanc yn Ysgol Sefydledig Brynmawr wrth gwblhau ei TAR, nid yn unig y mae Joe yn dysgu iaith - mae'n meithrin hyder, hunaniaeth a balchder diwylliannol yn ei fyfyrwyr.

Gyda thân yn ei galon a'i weledigaeth yn ei gam, mae Joe Nash yn fwy na'n hanrhydeddwr cyntaf—mae'n ymgorfforiad o'r hyn y gall yr iaith Gymraeg ei gyflawni pan gaiff ei rannu gyda dewrder, caredigrwydd ac ymrwymiad.

Rydym yn llongyfarch Joe ar ddod yn Bencampwr Cymraeg cyntaf. Mae'r dyfodol yn fwy disglair i bob myfyriwr sy'n dilyn y llwybr y mae wedi'i danio.

I enwebu eich pencampwr Cymreig eich hun ychwanegwch eich manylion a'ch enwebiad or ddolen hon:

]]>
/cy/newyddion/goleuor-ffordd-joe-nash-ein-pencampwr-cymraeg-cyntaf/ /cy/newyddion/goleuor-ffordd-joe-nash-ein-pencampwr-cymraeg-cyntaf/ Thu, 26 Jun 2025 14:09:49 GMT Carolyn Jenkins
Anrhydeddwyd Nathan Wyburn gyda Gwobr Cydnabyddiaeth Arbennig Wrth i Fis Balchder ddod i ben, mae ״ yn dathlu un o'i ffigurau mwyaf ysbrydoledig — yr artist a fagwyd yng Nglynebwy, Nathan Wyburn — a gyflwynwyd heddiw â Gwobr Cydnabyddiaeth Arbennig gan yr Aelod Hyrwyddwr Cydraddoldeb, a'r Aelod Llywyddol, y Cynghorydd Chris Smith.

Mae Nathan wedi bod yn ffynhonnell ysbrydoliaeth a balchder i bobl ״ ers tro byd. Denodd sylw cenedlaethol am y tro cyntaf ar Britain’s Got Talent yn 2011, gan synnu cynulleidfaoedd gyda phortread o Simon Cowell wedi’i greu’n gyfan gwbl o Marmite ar dost. Ers hynny, mae wedi parhau i wthio ffiniau artistig, gan ddefnyddio deunyddiau anghonfensiynol fel saws tomato, gliter, te, plu, a melysion i greu gweithiau pwerus ac ysgogol.

Ond mae Nathan yn fwy na dim ond artist mae’n eiriolwr angerddol dros gydraddoldeb, ymwybyddiaeth o iechyd meddwl, a hawliau LGBTQ+. Mae ei gelf yn aml yn adlewyrchu ei daith bersonol ac yn gwasanaethu fel goleudy gobaith a gwelededd i eraill sy’n llywio profiadau tebyg.

Er gwaethaf clod rhyngwladol, mae Nathan wedi parhau i fod wedi’i gysylltu’n ddwfn â’i wreiddiau ym Mlaenau Gwent. O arwain sesiynau celf ysgol i greu murluniau cyhoeddus fel ei deyrnged i eicon Tredegar, Aneurin Bevan mae ei ymrwymiad i ymgysylltu â’r gymuned yn ddiysgog.

“Mae’n anrhydedd i mi dderbyn y gydnabyddiaeth hon. Rwy’n hynod falch o fod wedi cael fy magu yn yr ardal hon ac rwy’n teimlo’n fawr ei fod wedi rhoi sail gref i mi ar gyfer pwy rwyf wedi dod fel person ac artist. Rwy’n ymdrechu i barhau â’m gwaith celf a’m heiriolaeth yn y dyfodol ac rwy’n gobeithio bob amser y byddaf yn derbyn yr alwad i ddod adref a helpu gyda phrosiectau a mentrau yn yr ardal yn y dyfodol. Diolch!” meddai Nathan.

Yn fwyaf diweddar, chwaraeodd Nathan ran ganolog yn llwyddiant digwyddiad Pride cyntaf un ״. Roedd ei greadigrwydd, ei egni a'i arweinyddiaeth yn allweddol wrth ddod â'r dathliad yn fyw. Nid yn unig y cydlynodd y rhestr gyfan o artistiaid a berfformiodd ar y diwrnod, ond fe agorodd y digwyddiad hefyd a chyd-gyflwynodd ochr yn ochr â'i gyd-eiriolwr Wayne Courtney. Ychwanegodd ei arddangosfa "Eiconau Hoyw" elfen weledol bwerus at y diwrnod, gan ddathlu diwylliant a hanes LGBTQ+.

“Fel Hyrwyddwr Cydraddoldeb Aelodau, mae cynnal ei ddigwyddiad Balchder ei hun ym Mlaenau Gwent yn rhywbeth rydw i wedi bod yn awyddus i’w gychwyn ers peth amser,” meddai’r Cynghorydd Chris Smith. “Gyda chysylltiadau, gwaith caled a brwdfrydedd cyffredinol Nathan, roedden ni’n gallu cyflwyno digwyddiad gwirioneddol gofiadwy a oedd yn foment nodedig gan feithrin ymdeimlad o undod, parch a llawenydd ymhlith cynghreiriaid ac unigolion LHDT+.”

Mae dathliad Balchder y fwrdeistref yn dyst i bŵer cymuned a phwysigrwydd cynrychiolaeth. Mae hefyd yn cyd-fynd â mudiadau ehangach dros gydraddoldeb, gan adleisio gwaddol Terfysgoedd Stonewall 1969 a'r frwydr fyd-eang barhaus dros hawliau LGBTQ+.

Y penwythnos diwethaf, ymunodd ״ yn falch â pharêd Balchder Cymru fel rhan o Rwydwaith Cynghorau Balch, gan ailddatgan ei ymrwymiad i gynhwysiant a chydraddoldeb.

]]>
/cy/newyddion/anrhydeddwyd-nathan-wyburn-gyda-gwobr-cydnabyddiaeth-arbennig/ /cy/newyddion/anrhydeddwyd-nathan-wyburn-gyda-gwobr-cydnabyddiaeth-arbennig/ Mon, 30 Jun 2025 15:14:55 GMT Louise Bishop
Dynes o Dredegar wedi'i gwahardd rhag cadw cŵn am bum mlynedd Mae dynes o Dredegar wedi cael ei gwahardd rhag cadw cŵn am bum mlynedd ar ôl cyfaddef nifer o droseddau lles anifeiliaid.

Mewn erlyniad a ddygwyd gan Gyngor ״, dywedwyd wrth Ynadon Casnewydd fod ymchwiliad gan Swyddogion Iechyd Anifeiliaid wedi darganfod 15 o gŵn mewn cewyll a llociau ar ôl gweithredu gwarant a bod y cŵn wedi'u cadw mewn modd a oedd yn torri'r Ddeddf Lles Anifeiliaid, a bod yr holl gŵn wedi'u symud i le diogel.

Roedd y cŵn a atafaelwyd yn destun gwrandawiad llys blaenorol ym mis Mai 2025, lle arweiniodd cais a wnaed gan y Cyngor at y diffynnydd yn trosglwyddo perchnogaeth o’r anifeiliaid i'r awdurdod lleol. Mae'r anifeiliaid bellach wedi cael eu hailgartrefu.

Gwnaeth Bonnie Thomas, 28 oed, o Laburnam Avenue, Tredegar, 'fethu â darparu diet addas na cheisio triniaeth filfeddygol' ar gyfer un ci y canfuwyd ei fod yn sylweddol o dan bwysau heb fwyd na dŵr ar gael ar yr adeg y gweithredwyd y warant. Cyfaddefodd y diffynnydd i fethu â diogelu'r cŵn eraill rhag 'poen, dioddefaint, anaf a chlefyd,' a oedd yn cynnwys methu â darparu gwely addas, bwyd, dŵr a chyfleoedd cymdeithasu.

Cafodd Thomas ei dedfrydu i orchymyn cymunedol 12 mis ar ôl iddi bledio'n euog i naw trosedd ar wahân. Roedd hyn yn cynnwys 96 awr o waith di-dâl, a gafodd ei ostwng o 120 awr am ble euog cynnar.

Cafodd Thomas hefyd ei gwahardd rhag cadw neu fod yn berchen ar gŵn am bum mlynedd oherwydd amodau’r llety a chreulondeb a rhaid iddi aros o leiaf bedair blynedd cyn iddi allu gwneud cais i ddileu’r gwaharddiad.

Gorchmynnwyd cyfraniad o £1,000 at gostau, a gosodwyd Gordal Dioddefwr o £114.

]]>
/cy/newyddion/dynes-o-dredegar-wedii-gwahardd-rhag-cadw-cwn-am-bum-mlynedd/ /cy/newyddion/dynes-o-dredegar-wedii-gwahardd-rhag-cadw-cwn-am-bum-mlynedd/ Tue, 01 Jul 2025 09:23:14 GMT Louise Bishop
Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yn Ymweld â Phrosiect Ieuenctid ״ i Fynd i'r Afael â Heriau Presenoldeb Ysgol Yn ddiweddar, ymwelodd Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros Addysg, Lynne Neagle AS, â chlwb ieuenctid ym Mlaenau Gwent i weld â’i llygaid ei hun sut mae menter gydweithredol rhwng Gwasanaeth Ieuenctid y Cyngor ac ysgolion uwchradd lleol yn helpu i chwalu'r rhwystrau i bresenoldeb rheolaidd yn yr ysgol.

Yn ystod ei hymweliad â Chanolfan Ieuenctid a Chymunedol y Cwm sydd newydd ei hadnewyddu, cyfarfu Ms Neagle â phobl ifanc, gweithwyr ieuenctid a sefydliadau partner i ddysgu mwy am effaith gadarnhaol gwaith y Gwasanaeth Ieuenctid.

Wrth i Wythnos Gwaith Ieuenctid yng Nghymru ddod i ben, tynnodd yr ymweliad sylw at ymdrechion tîm 11–16 oed y Gwasanaeth Ieuenctid, sy'n cefnogi pobl ifanc i ail-ymgysylltu ag addysg, gwella eu lles, ac adeiladu dyfodol mwy disglair. Mae gweithwyr ieuenctid ymroddedig wedi’u sefydlu ym mhob ysgol uwchradd ar draws y fwrdeistref, gan gynnig cymorth un-i-un a grŵp pwrpasol i fodloni anghenion unigol.

Mae un person ifanc, Summer Morris, a gefnogwyd gan y Gwasanaeth Ieuenctid ers yn 14 oed, bellach yn rhoi rhywbeth ’nôl fel gwirfoddolwr.

Dywed Summer: "Wrth fynd trwy'r ysgol es i trwy gyfnod anodd, ond diolch i'r gweithwyr ieuenctid a’m cefnogodd drwy'r cyfnod hwn a hyd yn oed drwy'r coleg, rydw i nawr eisiau bod y person hwnnw sy'n cefnogi pobl ifanc. Mae gwneud y cwrs gwaith ieuenctid Lefel 2/3 yn rhoi'r sgiliau a'r wybodaeth i mi wneud hynny. Helpodd gweithwyr ieuenctid fi pan roedd angen help arna i, felly nawr rydw i eisiau rhoi rhywbeth ’nôl trwy gefnogi pobl ifanc!"

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle:

"Mae gwaith ieuenctid yn llawer mwy na dim ond gweithgareddau; mae'n creu mannau diogel lle gall pobl ifanc ffynnu a chyrraedd eu llawn botensial.

"Rwy'n falch iawn o weld yr effaith y mae'r cynllun hwn yn ei chael ym Mlaenau Gwent, nid yn unig drwy wella presenoldeb mewn ysgolion, ond hefyd drwy wella lles a hyder pobl ifanc. Mae'n rhoi llais i bobl ifanc ac yn eu helpu i wneud dewisiadau cadarnhaol a manteisio ar gyfleoedd a fydd yn siapio eu dyfodol."

Meddai'r Cynghorydd Sue Edmunds, Aelod Cabinet Cyngor ״ dros Blant, Pobl Ifanc a Theuluoedd:

 “Rydyn ni’n gweithio'n agos gyda'n hysgolion a'n partneriaid i wella presenoldeb ar draws ״. Mae gweithwyr ieuenctid yn chwarae rhan hanfodol yn yr ymdrech hon - maen nhw'n ffigurau dibynadwy sy'n cefnogi pobl ifanc i fynychu'r ysgol, cyflawni eu nodau, a byw bywydau diogel, hapus ac iach.”

]]>
/cy/newyddion/ysgrifennydd-y-cabinet-dros-addysg-yn-ymweld-a-phrosiect-ieuenctid-blaenau-gwent-i-fynd-ir-afael-a-heriau-presenoldeb-ysgol/ /cy/newyddion/ysgrifennydd-y-cabinet-dros-addysg-yn-ymweld-a-phrosiect-ieuenctid-blaenau-gwent-i-fynd-ir-afael-a-heriau-presenoldeb-ysgol/ Tue, 01 Jul 2025 10:17:24 GMT Louise Bishop
Cyflwyno Tîm Pêl-droed Merched ״ cyn Taith Cwpan y Byd Street Child Roedd Theatr y Metropole yn Abertyleri yn llawn dathlu a balchder neithiwr wrth i Wasanaeth Ieuenctid ״ gyflwyno eu Tîm Pêl-droed Merched yn swyddogol, a fydd yn cynrychioli Cymru yng Nghwpan y Byd Street Child yn Ninas Mecsico y flwyddyn nesaf.

Cyflwynodd y digwyddiad, a gynhaliwyd gan y Gwasanaeth Ieuenctid, 10 merch ifanc arbennig, rhwng 14 a 17 oed, sydd wedi'u dewis i gymryd rhan yn y twrnament rhyngwladol sy’n cael ei drefnu gan Street Child United. Daeth y noson â theuluoedd, cefnogwyr, arweinwyr lleol a chynrychiolwyr ynghyd i ddathlu taith y tîm a'r neges bwerus y tu ôl i'r ymgyrch: 'mae pob plentyn yn haeddu llais, tîm a dyfodol.'

"Mae hyn yn fwy na phêl-droed - mae'n ymwneud â grymuso, cydraddoldeb, a rhoi'r platfform maen nhw'n ei haeddu i bobl ifanc," meddai'r Cynghorydd Sue Edmunds, yr Aelod Cabinet dros Blant, Pobl Ifanc a Theuluoedd. "Mae'r merched hyn yn llysgenhadon dros Flaenau Gwent a thros hawliau plant ledled y byd."

Mae Cwpan y Byd Street Child yn cyfuno chwaraeon, celf ac eiriolaeth, gan roi cyfle i bobl ifanc o amrywiaeth o gefndiroedd ddisgleirio ar lwyfan byd-eang. Bydd tîm ״ nid yn unig yn cystadlu mewn gemau pêl-droed ond hefyd yn cymryd rhan mewn gŵyl celfyddydau a Chyngres dan arweiniad pobl ifanc sy'n canolbwyntio ar hawliau plant.

Yn ystod y lansiad, rhannodd y tîm eu gobeithion, eu breuddwydion a'u cynlluniau i godi arian ar gyfer y daith sydd o'u blaenau. Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn darparu nawdd o £5,000 ond mae'r tîm yn chwilio am fwy o gyfleoedd noddi. Os oes gennych chi ddiddordeb, cysylltwch â Kristian Gay yn kiristian.gay@blaenau-gwent.gov.uk neu ffoniwch 07412 614067.

Meddai Aelod o'r Tîm, Lilly-May York: "Mae hwn yn gyfle unwaith-mewn-oes i ni. Rydyn ni'n falch, rydyn ni'n barod, ac allwn ni ddim aros i gynrychioli ein cymuned yn Ninas Mecsico."

Mae Neville Southall, cyn-gôl-geidwad Cymru ac Everton, sy'n gweithio i Gyngor ״ fel Llysgennad Cyflogadwyedd Chwaraeon, Iechyd a Lles, yn un o gefnogwyr mawr y tîm ac yn fentor iddynt.

Meddai: "Rwy'n falch iawn bod Gwasanaeth Ieuenctid ״ wedi llwyddo i ennill lle yng nghwpan y byd Street Child yn Ninas Mecsico, dyma'r tro cyntaf dwi’n meddwl i dîm benywaidd o Gymru gyrraedd cwpan byd! I'r 10 merch a'r staff, bydd yn brofiad anhygoel ac yn creu hanes i'n hardal a'n gwlad. Mae'n rhaid i'r tîm godi rhywfaint o'r arian eu hunain, felly mae croeso mawr i unrhyw roddion. Mae ’na gyfleoedd nawdd, felly cefnogwch ein merched sy'n creu hanes."

Y tîm a fydd yn cystadlu yw:

Sienna-Mae Cripps
Darcy Gallier-Morgan
Lexi Hamer
Emily Brown
Ayva Batkin
Alexandra Carpe
Peyton Ayears
Ruby Jarett
Lilly-May York
Phoebe Lane  

Lluniau gan Seren Friel.

]]>
/cy/newyddion/cyflwyno-tim-pel-droed-merched-blaenau-gwent-cyn-taith-cwpan-y-byd-street-child/ /cy/newyddion/cyflwyno-tim-pel-droed-merched-blaenau-gwent-cyn-taith-cwpan-y-byd-street-child/ Thu, 10 Jul 2025 11:55:16 GMT Louise Bishop
Cyffro mawr am HiVE – Campws Peirianneg Gwerth Uchel newydd ym Mlaenau Gwent Mae'r gwaith o adeiladu Campws Peirianneg Gwerth Uchel (HiVE) gwerth miliynau o bunnoedd ym Mlaenau Gwent wedi'i gwblhau, yn barod i groesawu dysgwyr STEM o bob cwr o'r wlad ym mis Medi.

Heddiw, trosglwyddodd Cyngor ״, a arweiniodd y prosiect, y cyfleuster yn swyddogol i Goleg Gwent, a fydd yn treulio'r haf yn gosod y gofod gyda roboteg o'r radd flaenaf, technolegau gweithgynhyrchu uwch, ac offer digidol ymdrochol.

Bydd y campws 21,808 troedfedd sgwâr yn cynnig hyfforddiant ac addysg uwch-dechnoleg i bobl ifanc a busnesau mewn roboteg, a gweithgynhyrchu uwch mewn meysydd fel moduro, awyrofod, a thechnoleg gwybodaeth.

Sicrhaodd y Cyngor £10.8 miliwn o gyllid gan Lywodraeth y DU (£9.3 miliwn o Gyllid Ffyniant Bro a £1.5 miliwn o Gyllid CFfG) a £4.8 miliwn gan raglen Cymoedd Technoleg Llywodraeth Cymru i drawsnewid hen safle ffatri Monwel Hankinson yng Nglynebwy.

Mae'r cyfleoedd y bydd HiVE yn eu cynnig o ran addysg leol a datblygu sgiliau yn cyd-fynd â blaenoriaeth y Cyngor i 'wneud y mwyaf o ddysgu a sgiliau i bawb i greu Blaenau Gwent lewyrchus, ffyniannus, wydn,' yn ogystal ag Egwyddorion Marmot i 'alluogi pob plentyn, person ifanc ac oedolyn i wneud y mwyaf o'u galluoedd' a 'chreu cyflogaeth deg a gwaith da i bawb.'

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans:

"Mae'r cyfleuster newydd gwych hwn yn rhan allweddol o'n gweledigaeth i drawsnewid Cymoedd De Cymru yn ganolfan a gydnabyddir yn fyd-eang ar gyfer arloesi, gweithgynhyrchu uwch a thechnolegau cynaliadwy.

"Bydd yn helpu i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o beirianwyr, chwalu rhwystrau i ddysgu STEM, a chreu cyflenwad o bobl ifanc dalentog sydd â'r sgiliau sydd eu hangen gyfer gyrfaoedd sy’n talu’n dda yn niwydiannau'r dyfodol."

Meddai'r Cynghorydd John Morgan, Aelod Cabinet Economi a Lleoedd Cyngor ״:

"Rwy'n falch iawn o gyhoeddi bod Campws HiVE wedi’i gwblhau. Mae'r cyfleuster uwch-dechnoleg hwn yn mynd i newid y gêm o ran y cyfleoedd y bydd yn eu rhoi i bobl ifanc hyfforddi yn niwydiannau heddiw ac yfory, ac i ddenu busnesau sydd angen gweithlu medrus i'r ardal leol, gan arwain at fewnfuddsoddiad.

"Mae Hive wedi wynebu rhai heriau yn ystod y gwaith adeiladu, ac rydw i am ganmol pawb dan sylw am eu hymrwymiad a'u gweledigaeth wrth gyflawni'r prosiect hynod bwysig hwn. Diolch i Lywodraethau Cymru ’r DU am ddyfarnu'r cyllid i wireddu hyn. Rydw i mor falch bod hwn ym Mlaenau Gwent, ac edrychaf ymlaen at weld sêr STEM y dyfodol ar waith."

Dywedodd Nicola Gamlin, Pennaeth Coleg Gwent:

"Rydym yn falch o gymryd perchnogaeth o'r cyfleuster HiVE modern; datblygiad pwysig ar gyfer addysg a sgiliau ym Mlaenau Gwent a thu hwnt. Dros yr haf, byddwn ni’n gweithio'n galed i osod technoleg arloesol yn HiVE i greu amgylchedd ysbrydoledig, ymarferol ar gyfer dysgu STEM. Rydym yn edrych ’mlaen i groesawu ein carfan gyntaf o ddysgwyr ym mis Medi."

Wedi'i leoli'n agos at ganol tref Glynebwy a Pharth Dysgu ״ Coleg Gwent, bydd y cyfleuster ar gael i holl drigolion Cymru yn ogystal â myfyrwyr yng Ngholeg Gwent sy'n astudio cyrsiau sy’n gysylltiedig â pheirianneg, gan helpu i hwyluso a chynyddu nifer yr ymwelwyr yng nghanol y dref gan gefnogi busnesau manwerthu lleol.

Ond mae'r dysgu’n dechrau cyn HiVE, gyda'r Rhaglen Canolfannau HiVE mewn ysgolion lleol. Wedi'i hariannu gan Gymoedd Technoleg Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, ac mewn partneriaeth â Choleg Gwent, mae hon yn rhaglen arloesol o addysg beirianneg sy'n canolbwyntio ar ddiwydiant mewn ysgolion a hwyluso STEM. Mae'r rhaglen yn creu cysylltiadau ystyrlon a chynaliadwy rhwng y coleg ac ysgolion ״ i gefnogi profiadau dysgu ysbrydoledig o ansawdd uchel; wedi'u halinio â chyfleoedd dilyniant yn y dyfodol yn HiVE.

Nod HiVE yw

  • Darparu cymwysterau perthnasol, cyfoes ar gyfer y chwyldro diwydiannol nesaf.
  • Codi ymwybyddiaeth ymysg ysgolion, disgyblion, a'r gymuned ehangach.
  • Codi uchelgais ac ysbrydoli cenedlaethau'r dyfodol.
  • Gwella hygyrchedd.
  • Codi lefelau cyrhaeddiad mewn STEM.
  • Alinio â phartneriaid/rhanddeiliaid i ddatblygu pecyn/darpariaeth sgiliau; a
  • Mynd i'r afael â'r anghydbwysedd rhwng y rhywiau mewn Peirianneg.

Bydd y Campws yn cynnig cyfleoedd cyflogaeth a sgiliau gyda hyfforddiant, gan ganiatáu i fyfyrwyr brofi'r byd gwaith a rhoi cymwysterau iddynt fel BTEC, HNC neu HND. Bydd yn ganolfan ragoriaeth academaidd ar gyfer cymwysterau peirianneg perthnasol hyd at lefel 6 ac felly'n ymateb i'r diwydiant a'i anghenion. Bydd yr amgylchedd busnes yn cael ei atgyfnerthu gan y nifer cynyddol o drigolion medrus, gan ychwanegu at gystadleurwydd yr ardal.

Bydd datblygu'r Ganolfan yn diogelu'r ardal at y dyfodol trwy allu ymateb i gwmnïau sy'n lleoli eu hunain yn y Cymoedd Technoleg trwy gael trigolion sydd â’r setiau sgiliau priodol. Bydd y set sgiliau briodol yn arwain at ostyngiad yn nifer y bobl ifanc sydd wedi'u dosbarthu o dan statws NEET, a thrwy hynny gynyddu cyflogaeth a gweithgarwch economaidd yn yr ardal.

Bydd HiVE yn sicrhau y bydd gan bobl ifanc yr hyfforddiant a'r sgiliau perthnasol i wneud cais am swyddi yn y Sector Deunyddiau a Gweithgynhyrchu Uwch a'r Technolegau Digidol a Galluogi. Bydd myfyrwyr yn cael eu hyfforddi yn y sgiliau STEM y mae cyflogwyr lleol yn eu gwerthfawrogi.

Cymoedd Technoleg

Mae Cymoedd Technoleg yn fenter gan Lywodraeth Cymru sy'n canolbwyntio ar drawsnewid Cymoedd De Cymru yn ganolfan a gydnabyddir yn fyd-eang ar gyfer arloesi, gweithgynhyrchu uwch, a thechnolegau cynaliadwy. Trwy fuddsoddi mewn sgiliau, seilwaith a thwf busnes, nod y Cymoedd Technoleg yw galluogi swyddi o ansawdd uchel, denu buddsoddiad, a meithrin twf economaidd cynhwysol ledled y rhanbarth.

I gael rhagor o wybodaeth am y Cymoedd Technoleg, anfonwch e-bost at: CymoeddTechnoleg@llyw.cymru

 

]]>
/cy/newyddion/cyffro-mawr-am-hive-campws-peirianneg-gwerth-uchel-newydd-ym-mlaenau-gwent/ /cy/newyddion/cyffro-mawr-am-hive-campws-peirianneg-gwerth-uchel-newydd-ym-mlaenau-gwent/ Mon, 14 Jul 2025 13:49:44 GMT Louise Bishop
Ehangu Ysgol Pen-y-Cwm yn llwyddiant i ddysgwyr a theuluoedd (1) Mewn cam pwysig ymlaen ar gyfer addysg gynhwysol, mae darpariaeth ôl-16 newydd wedi'i sefydlu'n llwyddiannus yn Vision House i gefnogi dysgwyr o Ysgol Pen-y-Cwm. Daw'r datblygiad hwn mewn ymateb i heriau digonolrwydd ar brif safle'r ysgol ac mae'n adlewyrchu ymrwymiad cryf gan Gyngor ״ i ddiwallu anghenion dysgwyr ag Anghenion Dysgu Ychwanegol.

Gwnaeth y ddarpariaeth, a agorodd ym mis Mehefin 2025 ar gyfer tymor olaf blwyddyn academaidd 2024/25, groesawu dros 20 o ddysgwyr i ddechrau. Disgwylir i'r nifer hwn godi i fwy na 35 o ddysgwyr ym mis Medi 2025, gan dynnu sylw at y galw cynyddol am amgylcheddau addysgol o ansawdd uchel, wedi'u teilwra ar gyfer pobl ifanc ag ADY.

Wedi'i ariannu drwy Gyllideb ADY y Cyngor, mae'r prosiect wedi trawsnewid Vision House ar safle Festival Park, Glynebwy, yn ofod dysgu bywiog a chefnogol. Mae’r cyfleuster nawr yn cynnwys:

  • Dwy ystafell ddosbarth fodern
  • Ystafell synhwyraidd
  • Ardal Byw'n Annibynnol
  • Ystafell gyffredin groesawgar
  • Lolfa gyfrifiadurol lawn
  • Cyfleusterau bwyta

Mae'r mannau hyn wedi'u cynllunio'n feddylgar i helpu dysgwyr i ffynnu'n academaidd, yn gymdeithasol ac yn emosiynol, gan eu grymuso i gyrraedd eu llawn botensial mewn amgylchedd meithringar.

Mae gwelliannau pellach wedi'u trefnu ar gyfer gwyliau'r haf, gan gynnwys creu ystafell ddosbarth ychwanegol ar y llawr cyntaf. Mae'r datblygiadau hyn nid yn unig yn mynd i'r afael ag anghenion capasiti uniongyrchol ond hefyd yn galluogi cynllunio strategol tymor hwy i sicrhau darpariaeth gynaliadwy o ansawdd uchel i bob dysgwr.

Yn ddiweddar, ymwelodd Aelod Cabinet y Cyngor dros Addysg, y Cyfarwyddwr Strategol ar gyfer Cyfarwyddwr Strategol Plant, Pobl Ifanc a Theuluoedd ac uwch swyddogion Addysg â dysgwyr a staff yn y ddarpariaeth newydd.

ѱ岹’r Pennaeth, Deborah Herald:

"Mae Ysgol Pen-y-Cwm yn Vision House yn cefnogi ein dysgwyr ôl-16 wrth iddynt gymryd eu camau nesaf tuag at fwy o annibyniaeth ac oedolaeth. Ar y cyd â Chyngor ״, rydym wedi gweithio'n galed i greu amgylchedd croesawgar sy'n annog ein dysgwyr i ffynnu. Mae Vision House yn cynnig gofod diogel, cefnogol lle gall dysgwyr barhau i ddatblygu sgiliau bywyd hanfodol, cymryd rhan mewn profiadau dysgu ystyrlon, a pharatoi ar gyfer bywyd y tu hwnt i'r ysgol. Mae'r ddarpariaeth yn estyniad cyffrous o ymrwymiad Ysgol Pen-y-Cwm i roi dysgwyr wrth wraidd popeth a wnawn."

Meddai'r Cynghorydd Sue Edmunds, Aelod Cabinet y Cyngor dros Blant, Pobl Ifanc a Theuluoedd:

"Mae'r ddarpariaeth newydd hon yn dyst i'n hymrwymiad i addysg gynhwysol ac i weithio gyda phartneriaid i sicrhau bod gan bob dysgwr fynediad at yr adnoddau a'r gefnogaeth sydd eu hangen arno i lwyddo. Rydym yn falch o fod yn Gyngor Marmot a rhan allweddol o hynny yw galluogi pob plentyn, person ifanc ac oedolyn i wneud y mwyaf o'u gallu a chael rheolaeth dros eu bywydau. Rydym yn falch o'r hyn sydd wedi'i gyflawni yn Vision House ac yn gyffrous am y cyfleoedd y mae'n eu creu i bobl ifanc Ysgol Pen-y-Cwm."

 

]]>
/cy/newyddion/ehangu-ysgol-pen-y-cwm-yn-llwyddiant-i-ddysgwyr-a-theuluoedd-1/ /cy/newyddion/ehangu-ysgol-pen-y-cwm-yn-llwyddiant-i-ddysgwyr-a-theuluoedd-1/ Tue, 15 Jul 2025 10:57:09 GMT Louise Bishop
Lansio llwybr digidol yng Nglynebwy Mae llwybr digidol newydd wedi'i lansio yng Nglynebwy sy'n archwilio hanes y dref. Disgyblion o Ysgol Pen-y-Cwm oedd yr ymwelwyr cyntaf i gerdded y llwybr. Roedd y llwybr yn rhan o ddatblygiadau twristiaeth a ariannwyd gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Comisiynwyd y llwybr gan Gyngor ״ ac mae'n defnyddio’r platfform History Points. Mae 14 o adeiladau, gweithiau celf a safleoedd yn eich tywys ar lwybr cylchol drwy'r dref gan archwilio cysylltiadau â Paul Robeson, hufen iâ Eidalaidd a'i gorffennol diwydiannol. Synnodd y disgyblion o glywed bod y llyfrgell ar un adeg yn gapel uniaith Gymraeg, a bod y rheilffordd yn rhedeg yn syth ar hyd prif stryd y dref.

Dywedodd y Cynghorydd John Morgan, Aelod Cabinet Cyngor ״ dros yr Economi a Lleoedd:

"Mae Glynebwy yn adnabyddus i raddau helaeth am ei hanes diwydiannol, a thyfodd yn gyflym gyda datblygiad cynhyrchu dur. Ochr yn ochr â hyn mae straeon am ymfudwyr Eidalaidd yn dod â hufen iâ i'r cymoedd, artistiaid rhyngwladol ac ymladdwyr dros ryddid yn ymweld â'r dref i ganu yn yr Eisteddfod. Mae'r rhain yn straeon uchelgeisiol am oresgyn adfyd a sut cafodd y dref ei gwneud yn lle gwell i fyw a gweithio gan ei phobl.

"Rydym yn gobeithio y bydd y llwybr yn denu mwy o bobl i'n trefi ac yn eu hannog i aros yn hirach. Glynebwy yw'r llwybr cyntaf i'w lansio - llwybr Abertyleri fydd nesaf, gyda threfi eraill i ddilyn."

Meddai Nichola Fry, Athrawes yn Ysgol Pen-y-Cwm:

"Roedd yn wych cael dangos pa mor uchelgeisiol yw ein dysgwyr a'r hyn y gallan nhw ei gyflawni. Gwnaethom i gyd ddysgu cymaint am Lynebwy ac roedden ni'n gyffrous iawn i weld un o'n dysgwyr, Ciaran Mitchel-Neal, yn ymddangos yn un o'r Pwyntiau Hanes. Bydd dysgwyr eraill o Ben-y-Cwm yn ymweld â'r llwybr cyn bo hir - mae'n ffordd wych o ddysgu mwy am ein hardal mewn ffordd arloesol."

Dywedodd y disgybl Emily Bevan:

"Roedd hi’n hyfryd dysgu am hanes Glynebwy, ac roedd yr hufen iâ yn fonws."

Os hoffech chi ddilyn y llwybr ewch i a chlicio ar Tours in ״ ().

]]>
/cy/newyddion/lansio-llwybr-digidol-yng-nglynebwy/ /cy/newyddion/lansio-llwybr-digidol-yng-nglynebwy/ Wed, 16 Jul 2025 09:32:40 GMT Louise Bishop
Murlun Nye Bevan newydd wedi'i ddadorchuddio yn Nhredegar Mae'r diweddaraf mewn cyfres o furluniau yn seiliedig ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol wedi'i gwblhau yn Nhredegar. Mae'r gwaith celf diweddaraf wedi'i beintio gan yr artist lleol James Telford ac mae'n darlunio pensaer y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, Aneurin Bevan, ochr yn ochr ag un o'i ddyfyniadau enwocaf.

"I never used to regard myself so much as a politician as a projectile discharged from the Welsh valleys... when I listen to the cacophony of harsh voices trying to intimidate, I close my eyes and listen to the silent voices of the poor."

Mae'r gwaith celf i'w weld ar wal tafarn a Llety Gwely a Brecwast y Coach and Horses yn Charles Street, Tredegar.

Ganwyd Aneurin Bevan yn 32 Charles Street, y chweched plentyn mewn teulu o ddeg – yn drist iawn dim ond chwech ohonynt a dyfodd i fod yn oedolion. Pan oedd yn wyth oed symudodd y teulu i eiddo mwy yn 7 Charles Street, ac yna sgil ymarferoldeb ac athrylith ei dad, mwynhaodd y teulu bopty nwy cyntaf ar y stryd, toiled dan do, a dŵr poeth. Wedi dweud hynny, roedd yn ymwybodol iawn nad oedd teuluoedd eraill mor ffodus, ac roedd yn dyst i dlodi a salwch a achoswyd gan dai gwael ar draws y dref.

Gwnaeth hyn, ynghyd â dylanwad ei dad a'i fentor Walter Conway, danio awydd yn y Bevan ifanc i wneud gwahaniaeth. Cafodd ei ethol yn gynrychiolydd y Glowyr (Cynrychiolydd Undeb Llafur) yn Ffederasiwn Glowyr De Cymru, lle ymladdodd dros amodau gwaith a thâl gwell i'w gyd-lowyr. Cafodd ei ethol i Gyngor Dosbarth Trefol Tredegar ym 1922, Cyngor Sir Fynwy ym 1928 ac yn Aelod Seneddol ym 1929, a oedd yn esgyniad aruthrol i rym. Roedd yn dal y swyddi etholedig ar y Cyngor Sir ac yn y Senedd ar yr un pryd ac mae'r dyfyniad hwn yn dod o araith a wnaeth mewn cinio a gynhaliwyd gan Gyngor Sir Fynwy er anrhydedd iddo, i gydnabod ffurfio'r GIG.

Meddai'r Cynghorydd John Morgan, Aelod Cabinet Cyngor ״ dros yr Economi a Lleoedd:

"Mae lleoliad y murlun hwn mor bwysig gan fod Bevan wedi cerdded ar hyd y stryd hon ar ei ffordd i'r ysgol - cerddodd y stryd hon a gweld tlodi a thai gwael, cerddodd y stryd hon yn dyst i ddiweithdra a'r angen am newid. Roedd yn hanu o Stryd Charles, yn Nhredegar, yng nghymoedd Cymru, ac roedd ei bobl, y rhai yr oedd angen rhywun i sefyll drostyn nhw, ar flaen ei feddwl ar hyd ei daith wleidyddol.

"Rydym yn falch mai ״ yw cartref ein Gwasanaeth Iechyd Gwladol arbennig, ac rwy'n annog ymwelwyr i ddod yma i weld y safleoedd treftadaeth a'r gweithiau celf sy'n dathlu etifeddiaeth Bevan heddiw."

Dywedodd James Telford, yr artist a beintiodd y gwaith celf anhygoel hwn:

"Tan yn ddiweddar roeddwn i wedi gweithio ar gomisiynau ar raddfa lai yn bennaf ond gwnes i fy murlun awyr agored cyntaf yn Nhredegar y llynedd fel rhan o Brosiect Celf Stryd y Cymoedd. Yna cefais wahoddiad i gymryd rhan yn Full Colour Maindee. Comisiynodd ״ y murlun hwn, a dyma'r un mwyaf rydw i wedi'i gwblhau o bell ffordd. Roeddwn i eisoes wedi gwneud sawl darn yn seiliedig ar Bevan, felly mae'n wyneb rwy'n gyfarwydd ag ef. Mae wedi bod yn darged mawr i mi beintio murlun mawr yn fy nhref enedigol. Mae cyflawni hyn gan beintio Aneurin Bevan, un o eiconau’r dref a'r wlad, yn gwneud hyn hyd yn oed yn fwy arbennig. Diolch yn fawr iawn i Gyngor ״ am ymddiried ynof gyda phrosiect mor fawr ac i Simon ac Amanda o'r Coach and Horses am roi sêl bendith i'r prosiect."

Hoffai Cyngor ״ ddiolch i berchennog yr eiddo, Simon Griffiths, am ganiatáu i'r comisiwn fynd yn ei flaen.

Meddai Mr Griffiths:

"Mae'r GIG mor anhygoel, ac rydw i mor falch bod y cyfan wedi dechrau yma yn fy nhref enedigol. Mae James wedi gwneud gwaith gwych, chwarae teg iddo. O’n rhan ni, rydyn ni’n hynod falch o roi rhywbeth bach yn ôl i un o ddyfeisiadau gorau’r wlad a gŵr anhygoel. Pan ddywedodd Winston Churchill fod Aneurin Bevan yn un o siaradwyr gorau ei genhedlaeth, er gwaethaf eu gwahaniaethau gwleidyddol, mae'n dangos cymeriad y dyn."

Dywedodd Amanda Burrows, Tafarnwraig y Coach and Horses:

"Rydw i mor falch o gael hwn ar ochr fy nhafarn, wrth gwrs! Mae'n drawiadol. Pan glywodd ein cymdogion mai Nye oedd yn cael ei beintio, roedden nhw i gyd mor gyffrous. Mae James wedi gwneud gwaith gwych, ac roedd hi’n bleser ei helpu i dorri ei syched ar y diwrnodau poeth ’na. Mae ’na lwyth o gelf yn ymddangos ledled y wlad ond mae pobl yn dweud mai hwn yw’r gorau."

Dywedodd Emma Jones, perchennog Hair Play yn Charles Street:

"Cefais fy swyno o weld y gwaith yn datblygu dros yr wythnos. Mae mor glyfar; roeddwn i yn yr ysgol gyda James, mae e mor dalentog. Fe wnaethon ni ei gadw i fynd gyda choffi ac mae mor hyfryd gweld pobl yn dod i weld y gwaith ac yn tynnu lluniau."

Roedd y murlun yn rhan o brosiect Cartref y GIG a ariannwyd gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU ac fe'i comisiynwyd gan Gyngor ״.

Lleoedd i ymweld â nhw yn lleol:

Cerrig Coffa Aneurin Bevan

Y man lle siaradodd Bevan â'i etholwyr a'r byd Cerrig Coffa Aneurin Bevan | CBS ״

Tŷ Bedwellty

Cyfle i ymweld â siambr y cyngor lle cafodd Bevan ei ethol am y tro cyntaf, gwylio ffilm ar ei fywyd cynnar a'i sgiliau areithio, a gweld penddelw Bevan gan Lambda. Tŷ a Pharc Bedwellty | CBS ״

Canolfan Treftadaeth Cymdeithas Cymorth Meddygol Tredegar

Mae'r ganolfan treftadaeth yn adrodd yr hanes am sut y defnyddiodd Aneurin Bevan AS, fel Gweinidog Iechyd, y gymdeithas fel glasbrint ar gyfer cyflwyno gofal iechyd am ddim i bawb pan 'Dredegareiddiodd' y DU. Cymdeithas Treftadaeth Cymdeithas Cymorth Meddygol Tredegar | CBS ״

Amgueddfa Hanes Lleol Tredegar

Mae gan yr amgueddfa gasgliad amrywiol o arteffactau sy'n adlewyrchu diwydiant a bywyd y dref haearn bwysig hon. Amgueddfa Hanes Lleol Tredegar | CBS ״

Archifau Gwent

Mae'r cyfleusterau newydd gwych yn Archifau Gwent yn darparu amgylchedd delfrydol i chi ddefnyddio'r casgliad unigryw o ddogfennau. Archifau Gwent | CBS ״

Llwybr Treftadaeth Aneurin Bevan

Mae'r llwybr hwn yn llwybr cerdded a gyrru yn Nhredegar, man geni Aneurin Bevan 1897-1960, Aelod Seneddol Llafur dros Lynebwy 1929-1960. /cy/ymwelwyr/llwybrau-lleol/

Yn olion traed Nye

Cerdded yn ôl troed chwedl... Roedd Aneurin ‘Nye’ Bevan wrth ei fodd yn cerdded ar draws y rhostir uwchben Trefil, cymuned chwareli calchfaen ar ymyl ogleddol ei etholaeth a'r pentref uchaf yng Nghymru. Gallwch ddilyn yn ôl troed y gŵr arloesol ac egwyddorol hwn, trwy dirwedd llawn chwedlau, ar y daith gerdded hon at ei hoff olygfa. Dyma rai o'r pethau i gadw llygad amdanynt ar hyd y ffordd. /cy/ymwelwyr/llwybrau-lleol/

Murluniau

Canolfan Siopa Gwent, Tredegar gan Walls by Paul
Walkway Bank Lane i Commercial Street, Tredegar gan Walls by Paul
Charles Street, Tredegar gan James Telford
Portread Bevan gan Stewy on 10, The Circle.

Gweithiau Celf Eraill

Pedair tarian grog efydd ar waelod Cloc Tref Tredegar gan Diane Gorvin
Penddelw efydd o Bevan gan Lambda yn Nhŷ Bedwellty
Murluniau ceramig cymunedol yn Walkway Bank Lane i Commercial Street ac yn Llyfrgell Tredegar
Silwét dur gan Circling the Square yn The Circle.

 

]]>
/cy/newyddion/murlun-nye-bevan-newydd-wedii-ddadorchuddio-yn-nhredegar/ /cy/newyddion/murlun-nye-bevan-newydd-wedii-ddadorchuddio-yn-nhredegar/ Wed, 16 Jul 2025 09:59:01 GMT Louise Bishop
Ysgol Ebwy Fawr yn Lansio Lle Golff Bach wedi'i Ddylunio a'i Adeiladu gan Fyfyrwyr Mae lle awyr agored, a lansiwyd ddydd Mercher, 16eg o Orffennaf yng Nghymuned Ddysgu Ebwy Fawr, wedi'i drawsnewid yn gwrs golff bach, bywiog - diolch i greadigrwydd myfyrwyr a oedd gynt wedi ymddieithrio o'r ysgol, cefnogaeth sefydliadau lleol, a chais llwyddiannus am gyllid cymunedol dan arweiniad myfyriwr blwyddyn 10.

Roedd gan y prosiect bwrpas dyfnach: ail-ymgysylltu â dysgwyr a oedd wedi ymddieithrio o'r ysgol. Dechreuodd pan gymerodd Brooklyn Jaricha, disgybl blwyddyn 10 yn Ebwy Fawr, y cam cyntaf i wneud cais am grant prosiect cymunedol gan GAVO Cymru. Gyda chefnogaeth gan gyd-ddisgyblion, ffilmiodd Brooklyn y safle arfaethedig a chyflwynodd gais cymhellol. O fewn mis, roedd y cais yn llwyddiannus - gan sicrhau'r cyllid sydd ei angen i wireddu'r weledigaeth.

Gyda chyllid yn ei le, ymunodd yr ysgol â Men’s Den ״ - grŵp cymunedol lleol sy'n darparu lleoedd creadigol i leihau unigrwydd ac arwahanrwydd. Gweithiodd gwirfoddolwyr o Men’s Den ochr yn ochr â myfyrwyr a oedd yn dilyn cymhwyster Datblygiad Personol a Chyflogadwyedd Ymddiriedolaeth y Brenin (a elwir yn Sgiliau Gwaith yn yr ysgol) i ddylunio ac adeiladu'r cwrs. O dan oruchwyliaeth, cymerodd y myfyrwyr ran mewn gweithgareddau awyr agored ymarferol, gan gynnwys mesur, torri a chydosod deunyddiau - gan ddatblygu sgiliau adeiladu a gwaith tîm ymarferol a fydd o fudd iddynt mewn gyrfaoedd yn y dyfodol.

Arweiniwyd y myfyrwyr drwy’r broses gan Mr Walters, sy'n arwain y rhaglen Sgiliau Gwaith. Rhannodd un myfyriwr, Adam, sut y creodd y grŵp nifer o ddyluniadau ar gyfer y cwrs, cymryd mesuriadau manwl gywir, a helpu i archebu cyflenwadau - gan ennill profiad gwerthfawr mewn cynllunio ac adeiladu.

Chwaraeodd yr Adran Gelf rôl allweddol hefyd, gan ddylunio a pheintio arwyddion lliwgar a ychwanegodd naws greadigol at y cwrs terfynol.

Darparodd Cymdeithas Tai Calon gefnogaeth gynnar hanfodol, gan roi amser ac adnoddau staff i helpu i adeiladu'r lloches awyr agored sydd bellach yn angori'r gofod. Gosododd eu cyfraniad y sylfaen ar gyfer yr hyn a fydd yn fuan yn hwb llewyrchus ar gyfer dysgu awyr agored.

Cynhaliwyd y lansiad swyddogol ddydd Mercher, 16eg o Orffennaf yn Ysgol Uwchradd Ebwy Fawr, lle daeth myfyrwyr, staff a phartneriaid cymunedol ynghyd i ddathlu'r cyflawniad.

Yn y digwyddiad lansio, rhannodd Dr Scott Reasons, Pennaeth yr Ysgol:

“Yn syml iawn, ni fyddem wedi gallu gwneud i hyn i gyd ddigwydd heb y bartneriaeth â Tai Calon a Men’s Den, ’r arwyr tawel ar draws yr ysgol a ddarparodd oruchwyliaeth a chefnogaeth. Rwy’n hynod ddiolchgar ac yn falch ein bod, fel cymuned, wedi cyflawni rhywbeth gwirioneddol arbennig.”

Ychwanegodd David Finch, Ymddiriedolwr Men’s Shed ״:

“Rydym wedi bod yn ymwneud ag Ysgol Ebwy Fawr ers ychydig fisoedd bellach yn creu cwrs golff giamocs. Pan ddywedwn ni mai ni a’i creodd – nid yw hynny’n wir. Dim ond rhoi arweiniad, cymorth a chyfarwyddyd i’r bechgyn ifanc nad oeddent yn dod i’r ysgol wnaethom ni. Y syniad oedd eu cael nhw’n ôl i’r ysgol - ac fe weithiodd. Fe wnaethon nhw ei ddylunio, ei adeiladu a’i beintio - a nawr maen nhw’n mynychu’r ysgol yn amlach, sy’n wych.”

Gan edrych ymlaen, mae'r ysgol yn bwriadu agor y cwrs golf bach i'r gymuned ehangach, cynnal digwyddiadau a chynnig mynediad i deuluoedd lleol. Yn fewnol, mae system wobrwyo yn cael ei datblygu lle gall disgyblion gyfnewid pwyntiau ymddygiad cadarnhaol am amser ar y cwrs - gan sicrhau bod y lle yn parhau i ysbrydoli a chymell.

Mae'r hyn a ddechreuodd fel syniad un myfyriwr wedi blodeuo'n brosiect sydd wedi dod â myfyrwyr, staff a'r gymuned ehangach ynghyd. Mae'r cwrs golff bach yn dystiolaeth o'r hyn y gall pobl ifanc ei gyflawni pan roddir y cyfle - a'r gefnogaeth - i arwain.

]]>
/cy/newyddion/ysgol-ebwy-fawr-yn-lansio-lle-golff-bach-wedii-ddylunio-ai-adeiladu-gan-fyfyrwyr/ /cy/newyddion/ysgol-ebwy-fawr-yn-lansio-lle-golff-bach-wedii-ddylunio-ai-adeiladu-gan-fyfyrwyr/ Mon, 21 Jul 2025 09:54:52 GMT Emma Bennett
Plant a phobl ifanc yn cael eu cydnabod mewn Gwobrau Cymunedol ysgol Mae Cymuned Ddysgu Abertyleri wedi dathlu cyflawniadau a chyfraniadau rhyfeddol ei dysgwyr yn eu Noson Wobrwyo Gymunedol gyntaf.

Daeth y digwyddiad â myfyrwyr, teuluoedd, staff a phartneriaid cymunedol ynghyd i arddangos tosturi, ymrwymiad ac ysbryd cymunedol dysgwyr, ac i ddiolch iddynt am eu hymdrechion.

ѱ岹’r Pennaeth Tracey Jarvis:

"Roedd yn noson hyfryd a wnaeth ein hatgoffa mewn ffordd bwerus o'r hyn sy'n gwneud ein hysgol ni’n wirioneddol arbennig: ein plant a'n pobl ifanc anhygoel ac ysbrydoledig. Roeddwn i mor falch o glywed popeth am eu cyflawniadau, sydd wir yn ein hatgoffa o'r hyn y gellir ei gyflawni pan mae cymuned fel Abertyleri yn dod at ei gilydd. Da iawn, bawb."

Meddai Cadeirydd y Llywodraethwyr, Darryl Tovey:

"Diolch i bawb a helpodd i wneud y digwyddiad hwn mor gofiadwy - o gyflwynwyr a threfnwyr i deuluoedd a ffrindiau a ymunodd â ni i ddathlu. Ac yn bwysicaf oll, llongyfarchiadau i enillwyr y gwobrau, a phob disgybl sy'n parhau i wneud ein hysgol a'n cymuned yn llefydd mor ysbrydoledig."

Rhestr lawn yr enillwyr:

Gwobr Gwirfoddolwr y Flwyddyn: Cerys Palmer
Dysgwr sy’n cynnig cefnogaeth dosturiol ddiwyro gydag agwedd gadarnhaol. Mae Cerys yn gwirfoddoli ar gyfer Llwybr Anabledd, gan helpu plant 4-12 oed i nofio'n ddiogel a chael hwyl. 

Gwobr Cydnabyddiaeth Arbennig: Niamh Tetley Lanah-Mai Coles, Ava Staley, Darcie Gallier-Morgan ac Amelia Williams 
Mae gwaith tîm ac ysbryd y grŵp hwn wedi dod â chynhesrwydd a chefnogaeth i lawer o brosiectau cymunedol. Mae'r merched hyn yn stopio bob bore ar eu ffordd i'r ysgol i sgwrsio â gwraig sydd â dementia. Bob bore, maen nhw'n gwneud yn siŵr ei bod hi’n iawn ac yn treulio amser yn siarad â hi. Mae teulu'r wraig yn dweud ei bod hi'n edrych ymlaen at weld a sgwrsio gyda'r merched bob dydd ac mae hi'n aros wrth y ffenestr neu'r drws nes iddi weld y merched. Mae'r merched wedi mynd ag anrhegion iddi, blodau adeg y Nadolig, ac os ydyn nhw’n pasio yn ystod gwyliau'r ysgol, maen nhw'n galw gyda hi.

Gwobr Gweithred o Garedigrwydd: Evan Small 
Mae gweithredoedd tawel Evan o garedigrwydd yn aml yn mynd heb sylw ond maen nhw wedi cyffwrdd â llawer o galonnau - o gefnogi cyd-ddisgyblion i wirfoddoli ei amser heb feddwl ddwywaith. Yn ddiweddar cafodd ffrind i deulu Evan ddiagnosis o ganser terfynol. Roedd y wraig hon yn caru clwb pêl-droed Everton. Cysylltodd Evan â sawl clwb pêl-droed i gael llythyrau o gefnogaeth iddi, cardiau wedi’u llofnodi a ffotograffau. Ei gwir gariad oedd clwb pêl-droed Everton. Cysylltodd Evan â'r clwb a gofyn am grys gêm wedi'i lofnodi gan ei hoff chwaraewr, Seamus Coleman. Talodd gyda’i arian ei hun i gael y crys wedi’i anfon ato. Gwisgodd hi’r crys gyda chymaint o falchder. Yn anffodus, bu farw'r wraig yn ddiweddar, a soniwyd am Evan yn ei hangladd am y llawenydd a ddaeth iddi.

Gwobr Eco-Ryfelwr: Lillian Tinker 
Mae Lillian Tinker wedi trawsnewid ymagwedd ei hysgol at ailgylchu, gan lansio menter sydd wedi cynyddu ymdrechion ailgylchu yn sylweddol a chodi ymwybyddiaeth ymhlith ei chyfoedion am leihau gwastraff ac ailddefnyddio adnoddau. Ers bod yn eco-ryfelwr, mae hi wedi helpu gyda phrosiect Cymru yn ei Blodau yr ysgol. Mae hi hefyd wedi casglu sbwriel yn llynnoedd Cwmtyleri ac yn ddiweddar aeth i ŵyl Glastonbury lle cymerodd ran yng nghaeau Greenpeace. 

Gwobr Gofalwr Ifanc: Kailen Williams
Mae Kailen Williams yn cydbwyso’i fywyd ysgol, ei fywyd personol a gofal gyda dewrder a gosgeiddrwydd rhyfeddol. Mae Kailen yn gofalu am ei fam-gu sy'n ddall, ac roedd yn gofalu am ei dad-cu cyn iddo farw o MND.

Gwobr Arwr Cymunedol: Dosbarth 10LS 
Mae Dosbarth 10LS yn grŵp rhyfeddol o ddysgwyr sydd wedi dod at ei gilydd fel tîm i greu newid parhaol. Trwy fentrau amrywiol, maent wedi gwella eu hamgylchedd lleol a chryfhau ysbryd cymunedol, gan ddangos pŵer gwaith tîm a phwrpas cyffredin. Pan achosodd storm dirlithriad dinistriol yng Nghwmtyleri y llynedd, effeithiwyd ar lawer o deuluoedd, gan gynnwys dau o'u cyd-ddisgyblion eu hunain. Wedi'u heffeithio’n ddwfn gan yr effaith ar eu cyfoedion, teimlodd myfyrwyr 10LS fod angen iddynt weithredu. Penderfynon nhw mai'r ffordd orau o gefnogi'r rhai mewn angen oedd darparu prydau cartref cynnes – gweithred o ofal ac undod. Gwnaethant baratoi prydau ychwanegol a'u rhoi gyda Chaffi Tyleri, gan sicrhau bod gan breswylwyr fynediad at faeth mewn cyfnod anodd.  Mae eu gweithredoedd yn adlewyrchu ymdeimlad cryf o empathi, ysbryd cymunedol, ac arweinyddiaeth y tu hwnt i'w hoedran. Trodd 10LS dosturi yn weithredu, ac ymateb anhunanol. 

Gwobr y Celfyddydau a Diwylliant: Oliver Harmer 
Mae Oliver Harmer yn gerddor ifanc talentog. Mae Oliver yn chwarae'r cornet ac wedi perfformio'n eang gyda'r band pres lleol yn cefnogi digwyddiadau cymunedol. Mae Oliver hefyd yn aelod o AYDMS ac mae wedi perfformio sawl deuawd ac unawd mewn gwahanol leoliadau, gan gynnwys yn y MET, Abertyleri.

Gwobr Cydnabod Disgybl: Isabella Mathelin
Mae ymroddiad ac arweinyddiaeth Isabella wedi gosod esiampl wych i'w chyfoedion ac wedi cyfrannu'n fawr at ysbryd a llwyddiant yr ysgol. Mae hi wedi bod yn gwirfoddoli mewn gwersi nofio anabledd yn Aneurin Leisure Trust dros y flwyddyn ddiwethaf, gan ddangos ymroddiad a gwasanaeth rhagorol. Mae Isabella wedi dangos tosturi, amynedd ac ymrwymiad yn gyson, gan wneud gwahaniaeth ystyrlon i fywydau'r unigolion y mae'n eu cefnogi. Mae ei hagwedd gadarnhaol a'i pharodrwydd i fynd yr ail filltir wedi ei gwneud hi’n rhan amhrisiadwy o'r tîm ac yn fodel rôl go iawn yn y gymuned.

Gwobr Hyrwyddwr Elusennol: Archie Williams 
Mae Archie Williams wedi bod yn gefnogwr diflino i elusennau lleol, gan drefnu digwyddiadau codi arian ac ysbrydoli eraill i gymryd rhan. Mae ei frwdfrydedd a'i arweinyddiaeth wedi helpu i godi arian mawr ei angen ac ymwybyddiaeth o’r clefyd niwronau motor. Yn ddiweddar, rhedodd 5k a chodi dros £2000 i 'My Name's Doddie Foundation'. Ynghyd â'i rieni, mae Archie hefyd wedi sefydlu ymddiriedolaeth o'r enw MNDEFIANCE, ac mae wedi cerdded Pen-y-fan i godi arian i MND ochr yn ochr ag aelodau eraill y Defiance Army.

Gwobr Personoliaeth Gymunedol y Flwyddyn: Erin Grote 
Ers ei bod yn bump oed, mae Erin wedi bod yn defnyddio iaith arwyddion i gyfathrebu â'i brawd iau. Mae'r bond hyfryd hwn maen nhw'n ei rannu wedi'i adeiladu ar gariad, dealltwriaeth ac amynedd. Ond nid oedd ei thalent naturiol a'i thosturi yn stopio gartref. Rhannodd ei gwybodaeth yn frwdfrydig gyda chyd-ddisgyblion ac athrawon, gan greu eiliadau dysgu hwyl, cynhwysol a ddaeth â ni i gyd yn agosach at ein gilydd. Mae ei charedigrwydd a'i harweinyddiaeth wedi ysbrydoli llawer. Yn 2024, aeth y ddysgwraig hon â'i thalent anhygoel i lwyfan ALC's Got Talent, gan gystadlu ochr yn ochr â dysgwyr o'r pedwar campws. Gwnaeth ei pherfformiadau, yn arwyddo i wahanol ganeuon, swyno'r gynulleidfa a'r beirniaid fel ei gilydd - ac enillodd hi’r ffeinal!

]]>
/cy/newyddion/plant-a-phobl-ifanc-yn-cael-eu-cydnabod-mewn-gwobrau-cymunedol-ysgol/ /cy/newyddion/plant-a-phobl-ifanc-yn-cael-eu-cydnabod-mewn-gwobrau-cymunedol-ysgol/ Wed, 23 Jul 2025 14:18:25 GMT Louise Bishop
Hwb i Deithio Llesol a Llwybrau Ysgol Mwy Diogel ym Mrynmawr (2) Mae Brynmawr bellach yn elwa o seilwaith Teithio Llesol gwell, diolch i lwybr troed a chroesfan twcan newydd a gynlluniwyd i wneud cerdded, beicio a theithiau ysgol yn fwy diogel ac yn fwy hygyrch.  Y gobaith yw y bydd gwelliannau i'r rhwydwaith teithio llesol yn lleihau'r ddibyniaeth ar geir ac y bydd pobl yn dewis cerdded a beicio fel eu dull o deithio ar gyfer teithiau byr, pwrpasol.   

Ymunodd y Cynghorydd Tommy Smith, Aelod Cabinet dros Gymdogaethau a'r Amgylchedd, ag aelodau ward lleol ar gyfer Brynmawr i ymweld â'r safleoedd sydd newydd eu cwblhau a gweld y gwelliannau drosto'i hun. 

Mae llwybr troed newydd bellach yn cysylltu isffyrdd Brynmawr yn uniongyrchol â Llwybr 46 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol. Wedi'i gynllunio gan y Cyngor a'i ariannu drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, cyflawnwyd y prosiect gan y contractwr lleol Nigel Sullivans Groundworks & Plant Hire. Mae'r cysylltiad newydd hwn yn cael gwared ar yr angen am risiau a chroesfannau ffordd prysur, gan wneud y llwybr yn fwy cynhwysol i ddefnyddwyr cadair olwyn a theuluoedd â phramiau. 

Yn ogystal, mae croesfan twcan newydd wedi'i gosod ar draws yr A467 ger Ffordd Daren Felin, wedi’i hariannu gan Gronfa Teithio Llesol Llywodraeth Cymru. Wedi'i chynllunio gan y Cyngor a'i hadeiladu gan Horan Construction Ltd, mae'r groesfan yn gwella diogelwch i gerddwyr a beicwyr. Fel rhan o'r cynllun, mae terfyn cyflymder y ffordd wedi'i leihau o 50mya i 40mya, ac mae'r ramp ar ochr ogleddol y ffordd gerbydau wedi'i ehangu i wella hygyrchedd. 

Dywedodd y Cynghorydd Tommy Smith: 

"Rydyn ni’n falch o fod wedi cyflawni'r gwelliannau hyn mewn partneriaeth â chontractwyr a chyllidwyr lleol. Mae'r llwybr troed a'r groesfan newydd yn gwneud Teithio Llesol yn fwy hygyrch ac yn fwy diogel i bawb ym Mrynmawr a'r ardaloedd cyfagos. Mae'r newidiadau hyn yn cefnogi ein hymrwymiad fel Cyngor Marmot i adeiladu cymunedau iachach, mwy cynaliadwy." 

Yn gynharach eleni, ymrwymodd y Cyngor i bartneriaeth â'r elusen cyfranogiad cyhoeddus Involve i gynnal Fforwm Dinasyddion cyntaf ״ ar ddyfodol teithio lleol. Daeth ugain o drigolion a ddewiswyd ar hap at ei gilydd i archwilio sut y gellid gwneud teithio yn yr ardal yn decach, gwyrddach a mwy cynhwysol. Ymhlith eu prif argymhellion roedd opsiynau teithio ysgol gwell a mwy o gefnogaeth i gerdded, beicio ac olwyno. 

Ychwanegodd y Cynghorydd Smith: 

"Mae gwella teithio lleol yn gofyn am gydweithrediad â phartneriaid a chymunedau. Gwnaeth y Fforwm Dinasyddion hi’n glir fod llwybrau Teithio Llesol mwy diogel, mwy hygyrch yn flaenoriaeth - ac rydyn ni’n gwrando ac yn gweithredu ar yr adborth hwnnw." 

I ddysgu mwy am Deithio Llesol ym Mlaenau Gwent ewch i: /cy/preswylwyr/priffyrdd/teithio-llesol-blaenau-gwent/ 

]]>
/cy/newyddion/hwb-i-deithio-llesol-a-llwybrau-ysgol-mwy-diogel-ym-mrynmawr-2/ /cy/newyddion/hwb-i-deithio-llesol-a-llwybrau-ysgol-mwy-diogel-ym-mrynmawr-2/ Thu, 31 Jul 2025 09:08:56 GMT Louise Bishop
Llongyfarchiadau Gillian a Sonia Mae ein cynorthwywyr arlwyo ysgolion annwyl, Gill a Sonia, sy’n 80 oed, wedi cael eu cydnabod yn genedlaethol am eu hymroddiad a'u gwasanaeth anhygoel!

Mae'n ymddangos nad ni yn unig sydd wedi sylweddol pa mor wych ydyn nhw – mae Gillian Morris a Sonia Blanchard nawr wedi ennill y Wobr Arwyr Tawel yng Ngwobrau Rhagoriaeth LACA 2025. Mae aelodau LACA wrth wraidd dosbarthu bwyd ysgol, yn cynrychioli dros 3,300 o wahanol sefydliadau ac unigolion, i gyd yn ymroddedig i sicrhau bod ein plant yn gallu manteisio ar ginio ysgol iach, maethlon.

Fe siaradon ni â Gillian a Sonia yn gynharach eleni wrth iddyn nhw ddathlu eu pen-blwyddi mawr ac nid oes gan y naill na'r llall unrhyw fwriad i gamu allan o’r gegin eto. Mae eu hymrwymiad, eu cynhesrwydd a'u hegni diflino wedi cael effaith barhaol ar genedlaethau o blant ym Mlaenau Gwent.

Llongyfarchiadau – haeddiannol iawn! A diolch unwaith eto am eich gwasanaeth a'ch ymroddiad i'n plant a'n pobl ifanc.

 

 

 

 

]]>
/cy/newyddion/llongyfarchiadau-gillian-a-sonia/ /cy/newyddion/llongyfarchiadau-gillian-a-sonia/ Fri, 01 Aug 2025 06:09:21 GMT Louise Bishop
Dathlu Ein Pencampwr Cymraeg nesaf: Lowri Butler-Griffiths Wedi'i eni a'i magu yn Llanhiledd, Lowri Butler-Griffiths yw'r enw rhyfeddol nesaf i ymuno â'n Rhestr Anrhydeddau Pencampwyr Cymru ar gyfer Diwrnod Shwmae Su'mae eleni.

Yn gyn-fyfyriwr balch o Ysgol Gynradd Sant Illtud ac yn ddiweddarach Ysgol Gyfun Trecelyn, dechreuodd angerdd Lowri am y Gymraeg yn gynnar.

"Roedd gen i athrawes ysbrydoledig, Mrs Whitlock, yn ysgol gynradd St Illtyds, a'm hannog i ddysgu felly fe wnes i drwy’r ysgol gyfun. Doeddwn i ddim yn academaidd iawn, ond roeddwn i wrth fy modd â gwersi Cymraeg," cofia Lowri, gan wenu.

Arweiniodd ei hymroddiad i Goleg Gwent Crosskeys, lle cyflawnodd ei Safon Uwch yn y Gymraeg, cyn parhau i Brifysgol Aberystwyth i gwblhau gradd yn y Gymraeg.

"Ar y dechrau, roeddwn i'n cael trafferth. Fe wnes i hyd yn oed ffonio fy mam mewn dagrau oherwydd roedd popeth yn Gymraeg ac roeddwn i'n meddwl nad oeddwn i'n gallu gwneud hynny. Ond fe wnes i gadw ati - ac rydw i mor falch fy mod i wedi gwneud."

Dan arweiniad yr awdur enwog o Gymru, Mererid Hopwood, ffynnodd Lowri o dan hyfforddiant arbenigol ac enillodd ei gradd yn llwyddiannus, ac yna TAR.

Ar ôl ennill profiad gwerthfawr yn Ysgol Bro Helyg ac Ysgol Cwm Gwyddon, lleoliadau a fwynhaodd yn fawr, mae Lowri wedi dod yn gylch llawn. Ym mis Medi, mae'n dychwelyd i'w gwreiddiau fel athrawes Gymraeg newydd yn Ysgol Gyfun Trecelyn, yr union ysgol lle dechreuodd ei thaith.

"Rydw i eisiau ysbrydoli pobl i deimlo fel fi, rydyn ni'n Gymry felly roedd angen i mi siarad Cymraeg." Mae Lowri yn dechrau, "Mae cymaint o ddigwyddiadau cymdeithasol a diwylliannol ac mae pobl yn colli allan ar gymaint o bethau."

Sut olwg fydd ar y dyfodol i Lowri?

"Hoffwn ddechrau gwersi yn yr ardal a helpu pobl i syrthio mewn cariad â'r iaith yr un fath â fi, dwi ddim yn deall pam na fyddech chi'n caru bod gennym ein hiaith hardd ein hunain ac eisiau ei siarad."

Dymuno'r holl lwyddiant i Lowri yn ei rôl newydd - mae eich angerdd a'ch ymroddiad yn parhau i ysbrydoli a siapio siaradwyr Cymraeg yfory. Diolch o galon am fod yn eiriolwr mor bwerus dros ein hiaith a'n diwylliant!

Os oes gennych enwebiad ar gyfer rhestr anrhydedd Cymraeg, yna rhowch wybod i ni gan ddilyn y ddolen hon: a byddwn yn cysylltu.

Am ragor o wybodaeth am sut y gallwch chi ddechrau ar eich taith eich hun:

]]>
/cy/newyddion/dathlu-ein-pencampwr-cymraeg-nesaf-lowri-butler-griffiths/ /cy/newyddion/dathlu-ein-pencampwr-cymraeg-nesaf-lowri-butler-griffiths/ Fri, 01 Aug 2025 11:27:34 GMT Carolyn Jenkins
Dathlu Degawd o Fwyd a Hwyl ym Mlaenau Gwent Mae'r haf hwn yn nodi 10 mlwyddiant y rhaglen Bwyd a Hwyl ym Mlaenau Gwent – ac eleni mae dros 440 o blant yn mwynhau dechrau bywiog i'w gwyliau drwy'r fenter boblogaidd hon.

Yn rhedeg ar draws chwe ysgol yn y fwrdeistref, mae Bwyd a Hwyl yn cyfuno prydau maethlon, chwarae egnïol, a chyfoethogi creadigol i gefnogi plant yn ystod wythnosau cyntaf gwyliau'r haf. Mae'r cynllun yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, yn cael ei weinyddu gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac yn cael ei gyflwyno gan Gyngor ״, mewn partneriaeth ag Aneurin Leisure Trust ac ysgolion lleol.

Am bythefnos, mae plant sy'n cymryd rhan yn elwa o amgylchedd diogel, cefnogol lle gallant fwyta'n dda, cadw’n actif, a mwynhau profiadau newydd. Mae'r rhaglen yn chwarae rhan hanfodol wrth hyrwyddo lles a mynd i'r afael â newyn gwyliau, yn enwedig mewn ardaloedd sy'n wynebu heriau cymdeithasol ac economaidd.

Mae llwyddiant parhaus Bwyd a Hwyl diolch i ymroddiad staff ysgol, timau arlwyo, a phenaethiaid sy'n cynnal ac yn cefnogi'r cynllun flwyddyn ar ôl blwyddyn. Mae eu hymrwymiad yn sicrhau bod plant mewn ysgolion sy'n cymryd rhan yn cael dechrau cadarnhaol, iach a difyr i'w haf.

Wrth edrych ymlaen, mae disgwyl i hyd yn oed mwy o ysgolion ymuno â'r rhaglen yn 2026, gan ehangu ei chyrhaeddiad a'i heffaith ledled y fwrdeistref.

Dywedodd y Cynghorydd Sue Edmunds, Aelod Cabinet dros Blant, Pobl Ifanc a Theuluoedd:

"Mae Bwyd a Hwyl yn enghraifft wych o sut y gallwn ni gefnogi lles plant yn ystod gwyliau'r haf. Mae'n fwy na dim ond pryd o fwyd – mae'n ymwneud â chreu cyfleoedd i blant ddysgu, chwarae a ffynnu. Rwy'n hynod falch o'r ymroddiad a ddangoswyd gan ein hysgolion a'n staff, ac edrychaf ymlaen at weld y rhaglen yn tyfu hyd yn oed ymhellach y flwyddyn nesaf."

Ychwanegodd Angharad Barrett, Cydlynydd Bwyd a Hwyl ״:

"Mae dathlu 10 mlynedd o Bwyd a Hwyl yn foment falch i ni i gyd. Dros y degawd diwethaf, rydyn ni wedi gweld sut mae'r rhaglen hon yn trawsnewid yr haf i blant – gan gynnig bwyd iach, ond hefyd cyfeillgarwch, hwyl a thwf personol. Mae'r effaith gadarnhaol ar les corfforol ac emosiynol plant yn glir, ac mae'r adborth gan deuluoedd wedi bod yn hynod gadarnhaol.

"Mae’r llwyddiant hwn ond wedi bod yn bosibl diolch i'r cydweithrediad anhygoel rhwng ein hysgolion, y Cyngor, Aneurin Leisure Trust, Llywodraeth Cymru, a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Mae'n ymdrech tîm go iawn, ac rwy'n ddiolchgar iawn i bawb sy'n gweithio mor galed y tu ôl i'r llenni i wneud iddo ddigwydd. Rwy'n gyffrous i weld beth ddaw yn y dyfodol wrth i ni barhau i dyfu a chyrraedd hyd yn oed mwy o blant."

]]>
/cy/newyddion/dathlu-degawd-o-fwyd-a-hwyl-ym-mlaenau-gwent/ /cy/newyddion/dathlu-degawd-o-fwyd-a-hwyl-ym-mlaenau-gwent/ Wed, 06 Aug 2025 09:07:15 GMT Louise Bishop
Y Cyngor yn gweithio mewn partneriaeth i fuddsoddi mewn priffyrdd lleol Bydd mwy na £4 miliwn yn cael ei fuddsoddi i wella priffyrdd ym Mlaenau Gwent dros y ddwy flynedd nesaf, diolch i gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru a chyllid lleol.

Fel rhan o'r buddsoddiad sylweddol hwn, bydd pob un o'r 14 ward yn y fwrdeistref yn gweld rhai ffyrdd yn cael eu hailarwynebu ac mae aelodau'r ward yn gweithio gyda swyddogion y Cyngor i nodi'r ardaloedd hynny sydd angen eu gwella fwyaf.

Trwy Fenter Benthyca Llywodraeth Leol Priffyrdd, mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau cyllid refeniw ychwanegol i gefnogi tua £2.2 miliwn mewn buddsoddiad cyfalaf yn rhwydwaith y priffyrdd lleol dros y ddwy flynedd nesaf. Mae hyn yn cynnwys £1.3 miliwn yn 2025/2026 a £0.9 miliwn pellach yn 2026/2027.

Mewn arwydd pellach o ymrwymiad i wella seilwaith tymor hir, mae'r Cyngor yn dyrannu £0.5 miliwn y flwyddyn o'i gyllideb ei hun gan ddechrau yn 2026/2027, gan sicrhau buddsoddiad parhaus yn ffyrdd a chysylltiadau trafnidiaeth y fwrdeistref.

Mae'r cyllid hwn yn ychwanegol at gyllideb refeniw flynyddol bresennol y Cyngor o £1.36 miliwn, sydd eisoes wedi'i neilltuo i ariannu atgyweiriadau a chynnal a chadw adweithiol parhaus ar draws rhwydwaith y priffyrdd.

Dywed y Cynghorydd Tommy Smith, Aelod Cabinet y Cyngor dros Wasanaethau Cymdogaeth ac Amgylchedd:

“Rydym yn gwrando ar yr hyn y mae ein cymunedau yn ei ddweud wrthym ac yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau manteision go iawn. Mae ein ffyrdd yn hanfodol i fywydau beunyddiol trigolion, busnesau ac ymwelwyr â'r fwrdeistref. Bydd y buddsoddiad hwn yn caniatáu inni wneud gwelliannau ystyrlon, gwella diogelwch a chefnogi twf economaidd ar draws y fwrdeistref.”

Mae'r Cyngor wedi dechrau cynllunio a blaenoriaethu prosiectau i sicrhau bod y cyllid yn cael yr effaith fwyaf, gyda ffocws ar gynaliadwyedd, diogelwch a gwerth hirdymor i drigolion.

Rhaglen yr Awdurdod Lleol ar gyfer Gwaith Arwynebu Priffyrdd

Ffyrdd Dosbarthiadol:

A4046 Ffordd Osgoi Cwm

A4281 Ffordd y Coleg, Glynebwy

A467 Cylchfan Blaenant, Brynmawr

A4048/A4047 Cylchfan Ffordd Osgoi Tredegar

A4046 Cyffordd Maes Parcio Aml-lawr Glynebwy â Heol Tredegar

A4048 Heol Newydd, Tredegar i Bochin (ffin)

A467 Aber-big i Crymlyn (ffin)

A4046 Heol Brynserth, Glynebwy

Strydoedd Preswyl:

Ward

Stryd

Abertyleri & Six Bells

Cwm Cottage Road

Stryd Clynmawr

Heol y Frenhines

Beaufort

Chandlers Road

Lôn Fach

Rhanbarth Waun Goch

Blaenau

Stryd Fawr

Coronation Street

Bryncelyn

Brynmawr

Ffordd Warwick

Brynawel

Stryd Morgan

Cwm

Teras Hillside, Waunlwyd

Teras Falcon

Teras Cendl

Cwmtyleri

Ffordd Roseheyworth

Ffordd Tillery

Ffordd Victor

De Glynebwy

Stryd y Wal

Cilgant Shakespeare

Rhodfa Caerefrog

Gogledd Glynebwy

Cilgant Darby

Heol Letchworth

Ffordd y Cwm

Georgetown

Rhodfa Bethel

Teras Kimberley

Teras Rhyd

Llanhiledd

Stad Hafodarthen, Brynithel

Rhodfa Lloyd

Rhodfa Hector

Nant-y-glo

The Walk

The Rise

Ffordd y Farchnad

Rasa & Garnlydan

Ffordd y Mynydd

Ffordd Nantmelyn

Ffordd Rowan

Sirhywi

Golwg y Mynydd

Ystrad Deri

Stryd Harford

Tredegar

Coronation Street

Gerddi Griffiths

Stryd yr Eglwys

]]>
/cy/newyddion/y-cyngor-yn-gweithio-mewn-partneriaeth-i-fuddsoddi-mewn-priffyrdd-lleol/ /cy/newyddion/y-cyngor-yn-gweithio-mewn-partneriaeth-i-fuddsoddi-mewn-priffyrdd-lleol/ Wed, 06 Aug 2025 14:00:02 GMT Louise Bishop
Atafaelu Tybaco a Fêps Anghyfreithlon ym Mlaenau Gwent Mae Tîm Gorfodi Tybaco Rhanbarthol Safonau Masnach Cyngor ״ a Safonau Masnach Cymru wedi bod yn cynnal gweithrediadau ar y cyd i gynhyrchion anghyfreithlon yn y fwrdeistref sirol. Yn ystod y ddau fis diwethaf atafaelwyd cyfanswm o 456 o fêps, 4,280 o sigaréts, a 2,650 gram o dybaco i’w rolio â llaw. Mae'r cynhyrchion hyn yn aml wedi'u cuddio mewn lleoliadau cudd o amgylch siop, gan gynnwys y tu mewn i ddiffoddwr tân gwag a blychau wal hydrolig.

Meddai'r Cynghorydd Tommy Smith, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdogaeth a'r Amgylchedd:

"Gall sigaréts ffug a thybaco fod yn beryglus i iechyd gan y gall rheolaethau sy'n llywodraethu eu cynhyrchiant fod yn ddiffygiol, a gall rhybuddion allweddol o'r risgiau iechyd fod ar goll o ddeunydd pecynnu. Yn destun pryder, mae'r cynhyrchion anghyfreithlon hyn yn aml yn cyrraedd dwylo plant gan nad yw troseddwyr sy'n eu gwerthu yn poeni am ddilysu oedran, fel gofyn am ID.

"Nid yw gwerthu nwyddau ffug yn drosedd ddi-ddioddefwr, a bydd swyddogion yn parhau i atal gwerthwyr y cynhyrchion anghyfreithlon hyn. Rydym wedi ymrwymo i gefnogi'r economi leol a bydd Swyddogion Safonau Masnach yn parhau i weithio i sicrhau y gall pob busnes weithredu ar faes chwarae gwastad."

Mae Swyddogion Safonau Masnach yn rhybuddio bod tybaco a fêps anghyfreithlon yn herio ymdrechion i leihau cyfraddau ysmygu ac anghydraddoldebau iechyd trwy danseilio rheolaethau prisiau a strategaethau rhoi'r gorau i ysmygu, gan ei gwneud hi'n anoddach i ysmygwyr presennol roi'r gorau iddi. At hynny, mae'r gweithgareddau troseddol hyn yn caniatáu i bobl iau gael mynediad at gynhyrchion sy'n cynnwys nicotin, a allai gael effaith niweidiol ar ymennydd ac ysgyfaint datblygol plant ac arwain at ddibyniaeth gydol oes.

Gallai unrhyw un sy'n cael ei gael yn euog o fasnachu tybaco neu fêps anghyfreithlon wynebu ystod o sancsiynau, gan gynnwys atafaelu nwyddau anghyfreithlon, dirwyon, gorchmynion cau, neu garchar.

Os oes gennych wybodaeth am werthu nwyddau anghyfreithlon, cysylltwch â ni ar 01495 369542 neu e-bostiwch environmental.health@blaenau-gwent.gov.uk

I roi gwybod i Crimestoppers yn ddienw ffoniwch 0800 555111 neu cyflwynwch adroddiad yn .

Mae cymorth ychwanegol i helpu i roi'r gorau i ysmygu ar gael gan y GIG yn .

]]>
/cy/newyddion/atafaelu-tybaco-a-feps-anghyfreithlon-ym-mlaenau-gwent/ /cy/newyddion/atafaelu-tybaco-a-feps-anghyfreithlon-ym-mlaenau-gwent/ Fri, 08 Aug 2025 10:53:36 GMT Louise Bishop
״ yn Dathlu Llwyddiant yng Nghystadleuaeth Cymru yn ei Blodau (1) Mae cymuned Abertyleri yn dathlu cyflawniad rhyfeddol yng nghystadleuaeth Cymru yn ei Blodau. Yn dilyn y cais i gymryd rhan, anfonodd y Pwyllgor Trefnu eu Prif Feirniad, wedi'u cyffroi gan y posibilrwydd y byddai tref yn y dyffryn yn ymgeisydd newydd.

Diolch i ymdrechion ymroddedig amrywiol grwpiau cymunedol ac unigolion, mae'r prosiect - dan arweiniad Grŵp Aspiration Abertyleri - wedi trawsnewid y dref, gan arddangos ei harddwch naturiol a meithrin ymdeimlad cryf o ysbryd cymunedol.

Mynegodd Ralph Henderson, aelod allweddol o'r Grŵp Aspiration, ei falchder yn ymdrechion y gymuned:

"Mae hwn wedi bod yn enghraifft wych o gydweithio rhwng grwpiau positif iawn yn y dref, dan arweiniad Grŵp Aspiration Abertyleri, y Cyngor Cymuned, a llawer o grwpiau eraill o'r un anian."

Gwnaeth trigolion lleol sylwadau ar effaith y prosiect:

"Mae'r planhigion a'r mannau cyhoeddus newydd wedi gwneud i'r ardal edrych yn brydferth, ac mae yna ymdeimlad gwirioneddol o falchder ymhlith y trigolion."

Roedd prosiect Cymru yn ei Blodau yn Abertyleri yn cynnwys nifer o weithgareddau, gan gynnwys creu potiau planhigion newydd, gwella mannau cyhoeddus, a chynnwys ysgolion lleol a gwirfoddolwyr. Derbyniodd y prosiect gyllid o wahanol ffynonellau, gan gynnwys y Cyngor Cymuned, Abertyleri Aspiration, Chillax, ’r Rotari, yn ogystal â chyfraniadau preifat.

Mae effaith y prosiect wedi bod yn hynod o bositif, gan dynnu sylw at y potensial ar gyfer mentrau yn y dyfodol i wella Abertyleri ymhellach a chryfhau cydweithio cymunedol.

 

]]>
/cy/newyddion/blaenau-gwent-yn-dathlu-llwyddiant-yng-nghystadleuaeth-cymru-yn-ei-blodau-1/ /cy/newyddion/blaenau-gwent-yn-dathlu-llwyddiant-yng-nghystadleuaeth-cymru-yn-ei-blodau-1/ Fri, 15 Aug 2025 09:51:35 GMT Carolyn Jenkins
Cyngor ״ yn llongyfarch myfyrwyr TGAU o bob cwr o'r fwrdeistref Mae Cyngor ״ wedi llongyfarch dysgwyr wrth iddynt gasglu eu canlyniadau TGAU heddiw. Mae pobl ifanc o'n hysgolion uwchradd wedi cyflawni'n dda unwaith eto ar draws ystod eang o bynciau.

Ymunodd Cyfarwyddwr Strategol Plant, Pobl Ifanc a Theuluoedd y Cyngor, Dr Luisa Munro-Morris, â chydweithwyr yr Awdurdod Lleol wrth ymweld ag ysgolion y bore yma i longyfarch disgyblion a theuluoedd yn bersonol a diolch i staff a llywodraethwyr.

ѱ岹’r Cynghorydd Sue Edmunds, Aelod Cabinet dros Blant, Pobl Ifanc a Theuluoedd:

“Diolch i bawb a chwaraeodd ran yn y canlyniadau gwych heddiw. I’n dysgwyr - rydych chi wir yn sêr, a gobeithio y byddwch chi’n parhau i ddisgleirio ym mhopeth a wnewch. I staff ein hysgolion, llywodraethwyr, teuluoedd, a chymunedau ehangach yr ysgolion - diolch am y gefnogaeth ’r ymrwymiad diysgog rydych chi wedi’i roi i’n pobl ifanc drwy gydol eu taith addysgol. Llongyfarchiadau bawb - mwynhewch eich dathliadau.”

Ychwanegodd Dr Luisa Munro-Morris, Cyfarwyddwr Strategol Plant, Pobl Ifanc a Theuluoedd:

“Llongyfarchiadau i’n holl ddysgwyr yma ym Mlaenau Gwent ac ar draws rhanbarth ehangach Gwent. Mae’r cyflawniadau heddiw yn ganlyniad i waith cydweithio cryf rhwng ein hysgolion, y Cyngor a’n partneriaid yn y Gwasanaeth Cyflawni Addysg. Gyda’n gilydd, rydym yn rhoi plant a phobl ifanc wrth wraidd y penderfyniadau a wnawn.

“Rydym wedi ymrwymo i weithio i roi’r dechrau gorau mewn bywyd i bob plentyn, i wneud y mwyaf o sgiliau a dysgu i bawb a grymuso unigolion i gyrraedd eu potensial llawn. Llongyfarchiadau a dymuniadau gorau i’n holl fyfyrwyr ar gyfer y dyfodol.”

]]>
/cy/newyddion/cyngor-blaenau-gwent-yn-llongyfarch-myfyrwyr-tgau-o-bob-cwr-or-fwrdeistref/ /cy/newyddion/cyngor-blaenau-gwent-yn-llongyfarch-myfyrwyr-tgau-o-bob-cwr-or-fwrdeistref/ Thu, 21 Aug 2025 11:54:07 GMT Louise Bishop
Tîm Cymunedau am Waith a Mwy yn agor drysau i gyflogaeth i bobl ledled ״. Mae rhaglen cymorth cyflogaeth drawsnewidiol yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau trigolion ledled ״. Mae'r Rhaglen Cymunedau am Waith a Mwy, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yn helpu unigolion i oresgyn rhwystrau i gyflogaeth ac adeiladu dyfodol mwy disglair trwy gefnogaeth bersonoledig, hyfforddiant a mentora.

Wedi'i chyflwyno gan dîm ymroddedig o weithwyr cyflogaeth proffesiynol - gan gynnwys Swyddogion Ymgysylltu, Mentoriaid Cyflogaeth Cymunedol, a Swyddog Hyfforddiant Cyswllt Cyflogwyr - mae'r rhaglen yn cynnig dull cyfannol o helpu pobl 16 oed a hŷn i ennill y sgiliau, yr hyder a'r cymwysterau sydd eu hangen arnynt i sicrhau gwaith cynaliadwy.

Ers mis Ebrill 2023, mae'r rhaglen wedi cyflawni canlyniadau trawiadol:

  • Ymgysylltwyd â 1,240 o unigolion, gyda 618 yn cael eu cefnogi i mewn i gyflogaeth (cyfradd lwyddo o 49.8%)
  • 188 o unigolion wedi’u cefnogi drwy'r rhaglen Mewn Gwaith, gyda 65 yn sicrhau gwell cyflog, mwy o oriau, neu gontractau
  • 26 Academi Sector wedi’u cyflwyno i 207 o gyfranogwyr, gan roi sgiliau, cymwysterau a thrwyddedau iddynt
  • 266 o gyfranogwyr wedi cael cyngor gan CACBG, gan arwain at £174,398 mewn enillion ariannol
  • 1,037 o unigolion wedi'u cyfeirio at wasanaethau eraill trwy ymyrraeth gynnar ac ymgysylltu

Grymuso Unigolion Trwy Gymorth Personoledig

Mae'r rhaglen yn darparu mentora un-i-un, cyngor cyflogaeth, a mynediad at gyllideb Rhwystrau a Hyfforddiant sy'n helpu i dalu costau hanfodol fel trafnidiaeth, gofal plant, dillad ac offer. Mae hyn yn sicrhau nad yw cyfyngiadau ariannol yn rhwystro cyfleoedd.

Mae cymorth wedi'i dargedu'n arbennig at y rhai sydd bellaf o'r farchnad lafur, gan gynnwys unigolion sy'n wynebu heriau cymhleth fel diweithdra hirdymor, hyder isel, neu ddiffyg cymwysterau.

Helpu'r Tangyflogedig i Ffynnu

Yn ogystal â chefnogi ceiswyr gwaith, mae'r rhaglen hefyd yn cynnig pecyn cymorth 'Mewn Gwaith' - a ariennir trwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU (UKSPF) - ar gyfer unigolion ar gontractau dim oriau neu sy'n gweithio lai nag 16 awr yr wythnos. Mae'r fenter hon yn helpu pobl i uwchsgilio, cynyddu eu horiau, neu drosglwyddo i rolau mwy diogel sy'n talu'n well.

Academïau Sector: Sgiliau sy'n Arwain at Swyddi

Un o nodweddion allweddol y rhaglen yw ei Hacademïau Sector, a ddatblygwyd mewn partneriaeth â chyflogwyr lleol a darparwyr hyfforddiant. Mae'r cyrsiau dwys, diwydiant-benodol hyn yn rhoi’r cymwysterau a'r trwyddedau sydd eu hangen ar gyfranogwyr i ennill lle mewn sectorau fel adeiladu, gofal, lletygarwch, manwerthu ac addysg. Mae llawer o gyfranogwyr yn cael cynnig cyfweliadau ar ôl eu cwblhau, gyda sawl un yn sicrhau cyflogaeth yn uniongyrchol trwy'r academïau hyn.

Cyngor a Chymorth Integredig

Trwy bartneriaeth â Cyngor ar Bopeth Caerffili a ״ (CACBG), mae cyfranogwyr hefyd yn derbyn cymorth amserol ar faterion fel dyled, tai a budd-daliadau lles. Mae'r dull integredig hwn yn sicrhau y gall unigolion ganolbwyntio ar gyflogaeth heb boeni am heriau personol sydd heb eu datrys.

Dywed y Cynghorydd Sue Edmunds, Aelod Cabinet Cyngor ״ dros Blant, Pobl Ifanc a Theuluoedd:

"Mae'r rhaglen hon yn golygu mwy na dod o hyd i swyddi - mae'n newid bywydau. Trwy fynd i'r afael â'r ystod lawn o heriau y mae pobl yn eu hwynebu, rydyn ni’n eu helpu i symud ymlaen gyda hyder a phwrpas. Fel Cyngor Marmot, rydyn ni wedi ymrwymo i weithio i alluogi pawb i wneud y mwyaf o'u galluoedd a chael rheolaeth dros eu bywydau, ac i greu cyflogaeth deg a gwaith da i bawb."

Mae Paige Powell yn un person sydd wedi elwa o'r rhaglen. Ar ôl cwblhau ei Safon Uwch, trodd ffocws Paige o droseddeg i therapi harddwch, gan ariannu hyfforddiant ewinedd a gofal traed trwy ei swydd ran-amser. Dechreuodd gynnig triniaethau gartref a, gydag arweiniad mentor a chefnogaeth gan Fenter Busnes, Ymddiriedolaeth y Tywysog, a Busnes Cymru, datblygodd gynllun busnes. Sicrhaodd leoliad yng Nglynebwy a nododd fwlch yn y farchnad mewn triniaethau amrantau ac aeliau. Er nad oedd yn gymwys i rywfaint o gyllid, talodd y Gronfa Rhwystrau am hyfforddiant ac offer. Helpodd mentora wythnosol hi i baratoi ar gyfer ei lansiad.

Dywedodd Paige: "Mae'r gefnogaeth gan Cymunedau am Waith a Mwy wedi bod yn anhygoel, fyddwn i ddim ble rydw i heddiw hebddyn nhw."

I gael rhagor o wybodaeth am y Rhaglen Cymunedau am Waith a Mwy, neu i ddysgu sut i gymryd rhan, ewch i: , neu CfW+triage@blaenau-gwent.gov.uk

]]>
/cy/newyddion/tim-cymunedau-am-waith-a-mwy-yn-agor-drysau-i-gyflogaeth-i-bobl-ledled-blaenau-gwent/ /cy/newyddion/tim-cymunedau-am-waith-a-mwy-yn-agor-drysau-i-gyflogaeth-i-bobl-ledled-blaenau-gwent/ Thu, 28 Aug 2025 10:21:10 GMT Louise Bishop
Cerflun Dur i'w ddadorchuddio o'r athletwr torri recordiau Steve Jones Rydym wrth ein bodd yn cyhoeddi y bydd cerflun dur o'r athletwr torri record Steve Jones MBE, OLY a Freeman o Flaenau Gwent, yn cael ei ddadorchuddio'n swyddogol gan y dyn ei hun yn ei dref enedigol, Glynebwy, ym mis Medi hwn.

Mae'r Cyngor yn gyffrous ac yn anrhydeddus o fod wedi gweithio gyda'n partneriaid a'r gymuned rhedeg ym Mlaenau Gwent i ddathlu gyrfa athletaidd anhygoel Steve ac i amlygu ei gyflawniadau anhygoel mewn ffordd o ysbrydoli ein plant a'n pobl ifanc i ymdrechu bob amser am y gorau y gallant fod.

Wrth ymweld o'i gartref yn America, mae Steve wrth ei fodd yn ôl yn y cymoedd ar gyfer y digwyddiad arbennig hwn.

Dywed:“Mae hi wastad yn hyfryd dod adref, ond bydd yr amser hwn yn arbennig iawn. Mae bron yn swreal bod hyn yn digwydd, ac mae pobl ״ yn gwneud hyn i mi. Rwy'n gwybod eisoes y bydd yn ddiwrnod anhygoel”

Byddem wrth ein bodd pe bai aelodau'r cyhoedd yn ymuno â ni i ddathlu'r digwyddiad nodedig hwn a gweld chwedl wirioneddol yn ei le. Dyma'r manylion:

  • Dyddiad: Dydd Gwener, 12fed o Fedi 2025.
  • Dadorchuddio'r Cerflun Swyddogol: 1yp, y tu allan i Ganolfan Chwaraeon Glynebwy, Lime Avenue, NP23 6GL

Bydd y digwyddiad yn dod â theulu a ffrindiau balch Steve, athletwyr lleol, enwau mawr o fyd rhedeg, plant a phobl ifanc, cynrychiolwyr yr Awyrlu Brenhinol a phobl bwysig leol ynghyd. Bydd perfformiad bywiog hefyd gan gôr meibion ​​traddodiadol Cymreig, Côr Meibion ​​Beaufort.

Mae anrhydeddu cyflawniadau Steve yn ganlyniad i waith partneriaeth rhwng y Cyngor; Clwb Rhedeg Parc Bryn Bach ac Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin, gyda chefnogaeth cyllid torfol a Chronfa Ffyniant a Rennir Llywodraeth y DU.

Blwyddyn ddiwethaf nododd 40fed pen-blwydd buddugoliaeth Steve ym Marathon Chicago, llwyddiant a swynodd y byd a chadarnhaodd ei le yn hanes athletau trwy osod record byd. Mae ei restr lawn o gyflawniadau rhedeg yn drawiadol a gellir dod o hyd iddi yma:

Darllenwch fwy amdanom ni’n dyfarnu Rhyddid Bwrdeistref Sirol ״ i Steve yma: /cy/newyddion/yr-athletwr-a-dorrodd-recordiau-steve-jones-mbe-oly-yn-derbyn-rhyddid-y-fwrdeistref/

Ymunwch â ni ar gyfer y digwyddiad unwaith mewn oes hwn!

]]>
/cy/newyddion/cerflun-dur-iw-ddadorchuddio-or-athletwr-torri-recordiau-steve-jones/ /cy/newyddion/cerflun-dur-iw-ddadorchuddio-or-athletwr-torri-recordiau-steve-jones/ Fri, 29 Aug 2025 15:29:53 GMT Louise Bishop
Llyfrgell y Pethau Celfyddydau ״ yn cael ei lansio heddiw Lansiwyd Llyfrgell y Pethau Celfyddydau BG - gwasanaeth cymunedol sy'n benthyca offer celfyddydau a digwyddiadau am ddim - heddiw. Mae'r gwasanaeth ar gael bob bore Mawrth o Sefydliad y Glowyr Llanhiledd ac mae'n annog rhannu i leihau gwastraff a hyrwyddo cynaliadwyedd ym Mlaenau Gwent.

Mae'r llyfrgell yn gweithredu yn Sefydliad Llanhiledd, Meadow Street, Llanhiledd, Abertyleri, NP13 2JT. Mae ar agor bob dydd Mawrth rhwng 10:30am a hanner dydd yn y caffi cymunedol. Er mwyn benthyca, bydd angen i chi greu cyfrif aelod ar-lein ar ein gwefan: Llyfrgell y Pethau Celfyddydau BG / BG Arts Library of Things neu galwch draw i'r lleoliad.

Mae'r holl eitemau yn cael eu profi ac yn cael gwiriad PAT gan wirfoddolwyr cyn iddynt gael eu benthyca, ac mae pob un yn dod gyda llawlyfr a gwybodaeth ddiogelwch. Rhaid i fenthycwyr ddefnyddio eitemau yn gyfrifol a rhoi gwybod am unrhyw ddifrod neu broblemau.

Meddai'r Cynghorydd Helen Cunningham, Dirprwy Arweinydd ’r Aelod Cabinet dros Oedolion a Chymunedau yng Nghyngor ״:

"Llongyfarchiadau i Celfyddydau BG am wireddu’r prosiect hwn trwy ymdrechion cydweithredol. Bydd Llyfrgell y Pethau yn helpu trigolion i archwilio cyfleoedd ar gyfer digwyddiadau cymunedol a hobïau a lleihau gwariant ariannol mawr. Rwy'n annog trigolion i gymryd rhan a chefnogi'r fenter wych hon. Gyda'n gilydd, gallwn barhau i adeiladu cymuned fywiog a ffyniannus."

Dywedodd Cyfarwyddwr a Chyd-sylfaenydd Benthyg Cymru, Becky Harford, a fynychodd y digwyddiad:

"Nid yw'r mudiad cenedlaethol yr oeddem yn gobeithio ei gyflawni yn ymwneud â benthyca yn unig; mae'n golygu dod at ein gilydd fel cymdogion, defnyddio pob adnodd a gofalu am ein gilydd fel cymuned." 

Celfyddydau BG yw'r Gwasanaeth Datblygu Celfyddydau newydd sy'n anelu at gefnogi, hyrwyddo a dathlu'r celfyddydau ym Mlaenau Gwent.  Mae’r gwasanaeth yn gweithio gyda thrigolion, artistiaid a phartneriaid i greu sector celfyddydau bywiog, uchelgeisiol, llawn dychymyg yn y fwrdeistref. Mae'r gwasanaeth wedi gweithio gyda chydweithwyr cynaliadwyedd amgylcheddol yn y Cyngor ar brosiect Llyfrgell y Pethau ac wedi elwa o gyllid gan Lywodraeth Cymru.

Chwilio am gyfle gwirfoddoli?

Mae’r gwasanaeth bob amser yn chwilio am fwy o wirfoddolwyr i'w helpu i sicrhau bod pethau’n rhedeg yn esmwyth. Trwy wirfoddoli, rydych chi nid yn unig yn helpu eich cymuned ond hefyd yn cael cyfle i ddatblygu sgiliau newydd ac ehangu eich gorwelion eich hun. Rydyn ni’n cydnabod ac yn gwerthfawrogi'r rhai sydd ag ystod eang o sgiliau ymarferol a rhyngbersonol. Bydd angen tîm ymroddedig o wirfoddolwyr arnom i ddarparu a chynnal gwasanaeth dibynadwy o ansawdd uchel.

Ymunwch heddiw:

Gwefan:  

E-bost: bgartslibraryofthings1@gmail.com

Rhif Ffôn: 01495 400211

]]>
/cy/newyddion/llyfrgell-y-pethau-celfyddydau-blaenau-gwent-yn-cael-ei-lansio-heddiw/ /cy/newyddion/llyfrgell-y-pethau-celfyddydau-blaenau-gwent-yn-cael-ei-lansio-heddiw/ Tue, 02 Sep 2025 15:26:03 GMT Louise Bishop
Lle hapus a gofalgar lle mae disgyblion yn ffynnu - Adroddiad Arolygu Ysgol Gynradd Willowtown Llongyfarchiadau i bawb yn Ysgol Gynradd Willowtown ar eu hadroddiad Estyn diweddar, sy'n dweud bod yr ysgol yn lle hapus, gofalgar lle mae disgyblion yn ffynnu. 

Nododd arolygwyr: 

✅ Fod disgyblion yn dangos agweddau cadarnhaol iawn at ddysgu 
✅ Bod staff ac arweinwyr yn fodelau rôl cryf
✅ Bod disgyblion ag ADY, gan gynnwys y rhai yn y Ganolfan Adnoddau Anghenion Arbennig, yn gwneud cynnydd da
✅ Bod ymddygiad yn gyson ardderchog 
✅ Bod llywodraethwyr yn chwarae rôl weithredol a chefnogol 
✅ Bod profiadau dysgu bywyd go iawn yn ennyn diddordeb ac yn ysbrydoli, ynghyd ag amgylcheddau dysgu effeithiol 

Mae'r adroddiad hefyd yn canmol diwylliant diogelu cryf yr ysgol a'i rôl fel canolbwynt yn y gymuned, gyda busnesau a theuluoedd lleol yn cymryd rhan weithredol yn addysg y disgyblion. 

Tynnodd Estyn sylw hefyd at ddarpariaeth eithriadol yr adran Blynyddoedd Cynnar a'u tîm. 

Dywed y Pennaeth, Mel Evans:

"Rydym yn hynod falch bod Estyn wedi cydnabod Ysgol Gynradd Willowtown fel ysgol hapus, ofalgar lle mae disgyblion yn ffynnu. Mae'r adroddiad hwn yn dyst i waith caled ac ymroddiad diflino ein staff, llywodraethwyr, disgyblion, a theuluoedd. Mae ein gweledigaeth i Herio, Cyflawni ac Anelu at Fwy yn disgleirio trwy bopeth a wnawn, gan sicrhau bod ein holl blant, gan gynnwys y rhai ag ADY, yn derbyn y profiadau dysgu gorau.

"Canmolodd arolygwyr agweddau cadarnhaol iawn ein disgyblion at ddysgu, sydd wir yn glod i'n hysgol. Rwy'n teimlo'n freintiedig, ochr yn ochr â’m tîm arwain, i arwain Ysgol Gynradd Willowtown – calon ein cymuned."

Meddai'r Cynghorydd Sue Edmunds, Aelod Cabinet dros Blant, Pobl Ifanc a Theuluoedd:  

"Da iawn i gymuned gyfan ysgol Willowtown ar yr adroddiad gwych hwn a diolch i'r staff, y llywodraethwyr, y disgyblion a'u teuluoedd am eu hymroddiad a'u gwaith tîm. Rydyn ni’n Gyngor Marmot, wedi ymrwymo i weithio'n agos gyda'n hysgolion a'n teuluoedd i gefnogi plant a phobl ifanc i gael y dechrau gorau mewn bywyd a gwneud y mwyaf o'u potensial." 

Darllenwch yr adroddiad llawn

]]>
/cy/newyddion/lle-hapus-a-gofalgar-lle-mae-disgyblion-yn-ffynnu-adroddiad-arolygu-ysgol-gynradd-willowtown/ /cy/newyddion/lle-hapus-a-gofalgar-lle-mae-disgyblion-yn-ffynnu-adroddiad-arolygu-ysgol-gynradd-willowtown/ Fri, 05 Sep 2025 12:50:53 GMT Louise Bishop
Cerflun Dur yn Anrhydeddu'r Athletwr a Dorrodd Recordiau, Steve Jones MBE, OLY wedi'i ddadorchuddio'n swyddogol heddiw Mae cerflun dur o un o arwyr chwaraeon mwyaf Cymru, Steve Jones MBE, OLY a Rhyddfreiniwr ״, wedi’i ddadorchuddio gan y dyn ei hun yng Nglynebwy heddiw.

Mae'r cerflun yn coffáu cyflawniadau chwedlonol yr athletwr ac fe'i dadorchuddiwyd ym mhresenoldeb cymuned falch; pwysigion lleol a chenedlaethol; enwau mawr o’r byd rhedeg; sefydliadau chwaraeon Cymru; plant a phobl ifanc a chynrychiolwyr o'r RAF a Chadetiaid ATC lleol.

Roedd Steve yn rhan o Sgwadron Glynebwy 1158 Glynebwy, a roddodd gyfle iddo arddangos ei ddoniau am y tro cyntaf. Yn ddiweddarach aeth ymlaen i wasanaethu yn yr RAF, gan gyfuno bywyd milwrol a'i yrfa athletau lewyrchus, yn aml yn rhedeg yn gwisgo fest yr RAF.

Darllenodd ffrind da i Steve, Kelvin Smith, ei gerdd emosiynol 'Because you are our Legend' i'r dorf a chanodd Côr Meibion Beaufort ddwy gân cyn arwain y dorf yn yr Anthem Genedlaethol, 'Hen Wlad Fy Nhadau'.

Mae'r cerflun, a grëwyd gan yr artist Tim Ward, yn adlewyrchu’r eiliad eiconig yr enillodd Steve Farathon Chicago ym 1984, gan dorri record - eiliad a enillodd le iddo yn hanes athletau’r byd.

Dywedodd Steve heddiw, a oedd dan emosiwn: "Pwy fyddai wedi meddwl, pan adawais i Lynebwy ar 19 Chwefror 1974 fel bachgen 18 oed i ymuno â'r Llu Awyr Brenhinol heb lawer o brofiad rhedeg, y byddai hyn yn dod yn rhan mor enfawr o ’mywyd i. Mae fy llwyddiannau nid yn unig yn dyst i’m gwaith i a’m hyfforddwyr, ond hefyd wir yn adlewyrchiad o le rwy’n dod. Gwnaeth tyfu i fyny yng Nglynebwy, ac yn enwedig Hilltop, fy nghreu i fel person ac athletwr, a dydw i byth yn anghofio hynny. Felly, i ddyfynnu'r arwr Michael Foot, bob tro roeddwn i'n rhoi pâr o sgidiau rhedeg ’mlaen, ble bynnag roeddwn i o gwmpas y byd, roeddwn i nid yn unig yn cynrychioli fy ngwlad, Cymru, ond hefyd Glynebwy.

"Heddiw yw un o ddiwrnodau gorau fy mywyd i. Fel y gwnes i ymdrechu i anrhydeddu Glynebwy a Hilltop, rwy'n falch iawn bod ״ a Glynebwy yn arbennig yn anrhydeddu'r crwt ifanc o Hilltop a wnaeth rywbeth ohono’i hun. Diolch Diolch Diolch."

Mae Steve, a ddathlodd ei ben-blwydd yn 70 oed yn ddiweddar, yn ymweld o'i gartref yn Colorado, UDA. Ar ôl y dadorchuddiad cynhaliwyd 'Cynulleidfa gyda Steve Jones – Dathlu Mawredd Lleol', digwyddiad yn edrych ar fywyd a gyrfa nodedig.

Ar ddiwedd y dydd, cyflwynwyd sgrôl Rhyddid Bwrdeistref Sirol ״ i Steve yn swyddogol gan Aelod Llywyddol Cyngor ״, y Cynghorydd Chris Smith.

Mae'r dathliad hwn o Steve o ganlyniad i bartneriaeth rhwng Cyngor ״, Clwb Rhedeg Parc Bryn Bach, ’r Aneurin Leisure Trust, gyda chefnogaeth cyllid torfol a Chronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.

Mae etifeddiaeth Steve Jones yn parhau i ysbrydoli cenedlaethau. Mae ei fuddugoliaethau yn cynnwys ennill Marathonau Chicago a Llundain, a gellir dod o hyd i'w restr lawn o gyflawniadau yma: link. Y llynedd nodwyd 40 mlynedd ers ei fuddugoliaeth yn Chicago, ac ym mis Ebrill nodwyd 40 mlynedd ers ei fuddugoliaeth ym Marathon Llundain.

Mae'r Cynghorydd Sue Edmunds a Chadeirydd Clwb Rhedeg Parc Bryn Bach (ac un o gefnogwyr mwyaf Steve Jones), Lee Aherne wedi bod yn allweddol wrth sicrhau'r etifeddiaeth barhaol hon i Steve.

Meddai Lee Aherne: "Mae Steve yn un o eiconau chwaraeon Cymru ac yn haeddu pob clod. Rwy'n gobeithio y bydd y cerflun hwn yn ysbrydoli cenedlaethau'r dyfodol i ddechrau rhedeg a helpu fy nghlwb i, Parc Bryn Bach, i ddod y gorau yng Nghymru gobeithio. Hoffwn ddiolch yn bersonol i'r tîm gwych o bobl yng Nghyngor ״ ’r Aneurin Leisure Trust am helpu i wireddu breuddwyd saith mlynedd."

Dywed y Cynghorydd Sue Edmunds:

"Mae Steve Jones yn arwr go iawn, ac mae ei stori yn ymgnawdoli ysbryd ״. O strydoedd Glynebwy i'r llwyfan byd-eang, mae ei daith yn ddim llai na rhyfeddol. Mae ei wyleidd-dra, hyd yn oed wedi torri record byd, yn adrodd cyfrolau am gryfder ei gymeriad. Nid dim ond eicon rhedeg yw Steve - mae'n un ohonom ni. Mae ei gyflawniadau’n parhau i ysbrydoli cenedlaethau, gan brofi bod mawredd o fewn cyrraedd.

"Mae ei gerflun a ddadorchuddiwyd heddiw yn symbol pwerus o'r hyn sy'n bosibl. Bydd y cerflun yn ein hatgoffa am byth - yn enwedig ein pobl ifanc - y gall uchelgais, gwytnwch a chred ynoch chi’ch hun fynd â chi i unrhyw le. Gadewch i ni wneud yn siŵr bod etifeddiaeth Steve yn parhau’n gonglfaen i stori ״. Bydd ei gerflun yn sefyll yn falch, nid yn unig mewn dur, ond yng nghalonnau pawb sy'n meiddio breuddwydio'n fawr."

Enillodd Lynn Davies fedal aur yn y naid hir yng Ngemau Olympaidd 1964, enillodd Gemau'r Gymanwlad ddwywaith, a daeth yn bencampwr Ewrop. Hefyd, mae’n gyn-reolwr tîm athletau Tîm Prydain Fawr ym Mhencampwriaethau'r Byd 1983 a Gemau Olympaidd 1984, pan oedd Steve Jones yn y tîm. Lynn yw Llywydd Oriel Anfarwolion Chwaraeon Cymru.

Dywedodd heddiw: "Roedd Steve bob amser yn un o'r bois, dyn a oedd yn mwynhau peint neu ddau ’slawer dydd. Mae ei stori’n profi y gall pŵer chwaraeon ddyrchafu unrhyw un o unrhyw gefndir ac unrhyw swydd i’r lefel uchaf, gan ddod yn fyd-enwog.

"I mi mae bob amser wedi bod yn fachgen o Lynebwy sydd heb anghofio o le mae’n dod, ac mae mor falch o'i dreftadaeth. Rhoddodd chwaraeon gyfle iddo, ac fe afaelodd yn y cyfle hwnnw gyda dwy law.

"Mae ei gyflawniadau yn y gamp yn rhyfeddol ac mae bob amser yn wych gweld athletwr o Gymru yn perfformio i lefel mor uchel ar lwyfan y byd. Mae bob amser wedi sicrhau bod draig Cymru’n hedfan yn uchel ac yn falch o amgylch y byd, ble bynnag yr aeth.

"Mae ei yrfa’n parhau i fod yn ysbrydoliaeth i athletwyr yng Nghymru a ledled y DU. Mae ei ymroddiad i'w swydd yn yr RAF a'i hyfforddiant athletau yn enghreifftiau disglair o'r hyn y gellir ei gyflawni gyda disgyblaeth, penderfyniad ac awydd.

"Mae Steve yn un o fawrion chwaraeon Cymru, ond bydd y cerflun yn ei dref enedigol, Glynebwy, yn atgoffa pobl am byth ei fod hefyd yn arwr lleol go iawn."

Mae David Bedford yn un o redwyr pellter hir gorau Prydain. Torrodd record 10,000 metr y byd a chafodd ei goroni'n Bencampwr Traws Gwlad y Byd. Rhedodd ym mhob un o'r prif bencampwriaethau ac yna aeth ymlaen i fod yn gyfarwyddwr Marathon Llundain.

Dywedodd: "Roedd Steve yn rhedwr gwych yn ei ddydd, ond meddyliwch faint gwell y byddai wedi bod yn yr oes fodern gyda'r holl ddatblygiadau newydd mewn technoleg sgidiau a dulliau hyfforddi. Mae'n un o'r ychydig bobl sydd wedi ennill parch cenedlaethau newydd o athletwyr.

"Rydw i mor falch ei fod yn cael ei anrhydeddu fel hyn yn ei dref enedigol. Roedd yn athletwr o'r radd flaenaf, ond mae hefyd yn ŵr da.

"Roedd holl gyfarwyddwyr rasys y byd eisiau Steve Jones yn eu marathon ac roedden ni wrth ein bodd pan ddaeth i Lundain ym 1985 am frwydr enwog gyda Charlie Spedding. Roedd ei amser buddugol yn record ar gyfer y cwrs, a barodd tan 1997.

"Roeddwn i'n ei nabod yn gyntaf fel rhedwr 10,000 metr ac arbenigwr traws gwlad cyn iddo ddechrau cystadlu yn y marathon. Roedd ei gryfder a'i ddycnwch bob amser yn gwneud iddo sefyll allan o'r dorf.

"Mae'n debyg i’w gyflawniad pennaf - ennill aur - lithro o’i afael ym Mhencampwriaethau Ewrop 1986 pan darodd wal yn ail hanner y ras ar ôl cael problemau gyda'i ddŵr yn y gorsafoedd bwydo.

"Roedd ar y blaen o ddwy funud ar ôl yr hanner cyntaf, ond fe ddadhydradodd a llithro i lawr y rhestr ddetholion, ond fe wrthododd roi'r ffidil yn y to. Pan fyddai pawb arall yn ei sgidiau wedi rhoi'r gorau iddi, rhedodd yn llythrennol nes iddo syrthio dros y llinell mewn 2 awr 22 munud - am foi penderfynol!

"Rwy'n falch iawn ei fod yn cael ei gydnabod fel hyn yn ei dref enedigol, ac mae'n cael ei garu a'i barchu nid yn unig yn ei gymuned leol, ond gan athletwyr ledled y byd."

Dywedodd yr artist Tim Ward ei bod yn anrhydedd cael creu'r cerflun. Meddai:

"Rwy'n falch o fod wedi cael fy nghomisiynu i ddylunio a chreu'r cerflun er anrhydedd i Steve Jones a diolch i bawb y bues i'n gweithio mewn partneriaeth gyda nhw ar y prosiect gwych hwn. Bydd y cerflun, rwy'n siŵr, yn rhoi ysbrydoliaeth i bobl sy'n ymweld â'r ganolfan chwaraeon ac yn dod yn dirnod lleol cadarnhaol."

]]>
/cy/newyddion/cerflun-dur-yn-anrhydeddur-athletwr-a-dorrodd-recordiau-steve-jones-mbe-oly-wedii-ddadorchuddion-swyddogol-heddiw/ /cy/newyddion/cerflun-dur-yn-anrhydeddur-athletwr-a-dorrodd-recordiau-steve-jones-mbe-oly-wedii-ddadorchuddion-swyddogol-heddiw/ Thu, 11 Sep 2025 14:19:45 GMT Louise Bishop
‘Dennis i'r Adwy’ yn dysgu plant ym Mlaenau Gwent am ailgylchu a gofalu am yr amgylchedd (1) Mae 'Dennis i’r Adwy' – ystafell ddosbarth symudol sy'n dysgu plant am bwysigrwydd gofalu am ein hamgylchedd – yn teithio o amgylch ysgolion ״.

Mae'n edrych fel cerbyd casglu sbwriel nodweddiadol o'r tu allan ond y tu mewn mae Dennis yn cynnwys offer ystafell ddosbarth gyda sgriniau teledu a byrddau gwyn i 15 o ddisgyblion gymryd rhan mewn gwersi am wastraff ac ailgylchu, newid hinsawdd, cynaliadwyedd a llawer o bynciau eraill sy'n gysylltiedig â materion amgylcheddol allweddol.

Gan adeiladu ar daith lwyddiannus y llynedd, bydd Dennis a'n Pencampwr Ansawdd Amgylcheddol Lleol, John Mewett yn ymweld â naw ysgol o amgylch y fwrdeistref sirol dros y pythefnos nesaf.

Gwnaeth yr Aelod Cabinet dros Gymdogaethau a'r Amgylchedd, y Cynghorydd Tommy Smith, ddal i fyny â Dennis a disgyblion yn Ysgol Gynradd Bryn Bach yn Nhredegar.

ѱ岹’r Cynghorydd Smith:

"Un o'n prif flaenoriaethau yw ymateb i'r argyfwng natur a hinsawdd ac fel Cyngor Marmot rydym yn gweithio i ddatblygu lleoedd a chymunedau cynaliadwy. Mae'n hanfodol i blant a phobl ifanc ddysgu am yr heriau sy'n wynebu ein hamgylchedd a sut y gallant chwarae eu rhan yn yr ateb - nhw yw pencampwyr gwyrdd y dyfodol. Rydw i wedi mwynhau fy ymweliad heddiw a dysgu ambell beth fy hun."

 

]]>
/cy/newyddion/dennis-ir-adwy-yn-dysgu-plant-ym-mlaenau-gwent-am-ailgylchu-a-gofalu-am-yr-amgylchedd-1/ /cy/newyddion/dennis-ir-adwy-yn-dysgu-plant-ym-mlaenau-gwent-am-ailgylchu-a-gofalu-am-yr-amgylchedd-1/ Mon, 15 Sep 2025 13:02:01 GMT Louise Bishop
Cynllun cyflogaeth wedi'i deilwra yn tanio llwybr i'r gweithle Mae'r rhaglen 'Trailblazer' gwerth £10 miliwn yn parhau i ddarparu cymorth cyflogaeth wedi'i deilwra, gyda chadarnhad o gyllid yn yr ail flwyddyn.

Bydd pobl yng Nghymru yn parhau i elwa o gymorth cyflogaeth arloesol wrth i Weinidogion Cymru a Llywodraeth y DU ymweld â Glynebwy heddiw [dydd Iau 18 Medi] i nodi lansiad ail ardal Trailblazer Cymru a chadarnhau cyllid ar gyfer ail flwyddyn y cynllun.

Mae'r rhaglen Trailblazer, a ariennir gan Lywodraeth y DU, yn targedu pobl economaidd anweithgar o oedran gweithio sy'n anabl a/neu sydd â chyflyrau iechyd, neu gyfrifoldebau gofalu trwy ddarparu ymyriadau wedi'u teilwra gan gynnwys mentora un-i-un, gwasanaethau cwnsela, darpariaeth lles, a chymorth arbenigol i'r rhai sydd â chyflyrau iechyd.

Daw ymweliad Gweinidog Sgiliau Llywodraeth Cymru, Jack Sargeant, ac Is-ysgrifennydd Seneddol Gwladol Swyddfa Cymru Llywodraeth y DU, Anna McMorrin, dri mis ar ôl lansiad llwyddiannus rhaglen Trailblazer cyntaf Cymru yn Sir Ddinbych.

Yn ystod y digwyddiad arddangos yn Institiwt Glynebwy, gwelodd y Gweinidogion y cymorth lleol wedi’i dargedu sy'n cael ei ddarparu ym Mlaenau Gwent. Cawsant gyfarfod cyfranogwyr sy'n elwa o'r prosiect Chwalu Rhwystrau sy'n gweithio gyda chymuned y teithwyr, prosiect Ceidwaid ״ sy'n darparu hyfforddiant sgiliau gwyrdd, a mentrau iechyd a lles a gyflwynir mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan.

Mae'r rhaglen Trailblazer yng Nghymru yn cwmpasu tair ardal - ״, Sir Ddinbych, a Chastell-nedd Port Talbot - gan ganiatáu i arweinwyr lleol ddylunio cynlluniau cymorth cyflogaeth wedi'u teilwra i heriau unigryw eu cymuned. Mae hyn yn cynrychioli newid sylweddol o'r un dull cyffredinol blaenorol o gymorth cyflogaeth.
Mae'r cynllun buddsoddi gwerth £10 miliwn yn rhan o fenter Get Britain Working Llywodraeth y DU, sy'n targedu'r ardaloedd gyda'r lefelau uchaf o anweithgarwch economaidd.

Cafwyd cadarnhad hefyd o gyllid ar gyfer ail flwyddyn y rhaglen, gyda hyd at £10miliwn wedi'i gymeradwyo ar gyfer 2026 - 2027.

Dywedodd y Gweinidog Diwylliant a Sgiliau, Jack Sargeant:

"Mae'r cynllun arloesol hwn yn dangos sut rydym yn creu gwasanaethau gwirioneddol integredig sy'n cydnabod bod gwaith da yn sylfaenol i les, trwy weithio'n agos gyda phartneriaid cymunedol lleol, gan gynnwys byrddau iechyd. Mae'n ddull yr ydym yn gwybod ei fod yn gweithio, ac mae'n adeiladu ar lwyddiant ein Gwarant i Bobl Ifanc sydd eisoes yn darparu cymorth i bobl ifanc ennill sgiliau neu ddod o hyd i waith.

"Mae ehangu'r rhaglen arloesol hon heddiw ym Mlaenau Gwent yn dangos maint ein gallu drwy weithio ar y cyd â Llywodraeth y DU. 

"Mae cadarnhau cyllid ar gyfer yr ail flwyddyn yn ein galluogi i adeiladu ar y llwyddiant cynnar rydyn ni wedi'i weld a pharhau i ddatblygu'r dull arloesol, lleol ymatebol hwn o gefnogi pobl yn ôl i waith."

Dywedodd yr Is-ysgrifennydd Seneddol (Swyddfa Cymru), Anna McMorrin:

"Mae Llywodraeth y DU eisiau helpu cymaint o bobl â phosibl i gael gwaith. Rydym yn gwybod bod gwaith yn gwneud bywydau pobl yn well, yn rhoi annibyniaeth ariannol iddynt ac yn gwella eu lles.

"Mae'r cynllun arloesol hwn yn darparu cymorth ychwanegol i'r rhai sydd ei angen, ac rwy'n falch iawn o'i weld yn cael ei gyflwyno ym Mlaenau Gwent."

Dywedodd y Cynghorydd John Morgan, Aelod Cabinet dros yr Economi a Lleoedd yng Nghyngor ״:

"Roedd yn bleser croesawu cynrychiolwyr o Lywodraethau'r DU a Chymru i Lynebwy i arddangos ein prosiectau arloesol Trailblazer, sy'n cefnogi pobl sydd â rhwystrau i gael gwaith drwy ddatrysiadau beiddgar, sy’n cael eu sbarduno yn lleol.

"Fel Cyngor Marmot, rydym wedi ymrwymo i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau a helpu pobl i gymryd rheolaeth o'u bywydau trwy hyrwyddo cyflogaeth deg ac adeiladu cymunedau iachach, mwy cynaliadwy. Mae Trailblazers yn ymwneud â mwy na swyddi yn unig - mae'n golygu ailadeiladu hyder, gwella lles, a darparu'r sgiliau a'r gefnogaeth sydd eu hangen ar bobl i ffynnu."

Mae prosiectau Trailblazers Cymru yn rhan o ddiwygiadau ehangach Get Britain Working gwerth £240 miliwn Llywodraeth y DU, sy'n cynnwys trawsnewid canolfannau gwaith, gwarantu cyfle i bobl ifanc ennill neu ddysgu, a darparu cymorth iechyd meddwl i helpu pobl i ddechrau ac aros mewn gwaith.

 

]]>
/cy/newyddion/cynllun-cyflogaeth-wedii-deilwra-yn-tanio-llwybr-ir-gweithle/ /cy/newyddion/cynllun-cyflogaeth-wedii-deilwra-yn-tanio-llwybr-ir-gweithle/ Thu, 18 Sep 2025 13:05:50 GMT Louise Bishop
Mae Aspire yn dathlu degawd o brentisiaethau sy'n newid bywydau ym Mlaenau Gwent Mae Aspire, rhaglen brentisiaeth ar y cyd Cyngor ״, yn dathlu 10 mlynedd o gefnogi pobl i mewn i waith. Nodwyd y pen-blwydd gyda digwyddiad dathlu arbennig yn y Swyddfeydd Cyffredinol, Glynebwy, neithiwr, gan ddod â chynrychiolwyr y Cyngor a Llywodraeth Cymru, busnesau lleol ac wrth gwrs rhai o'r prentisiaid eu hunain ynghyd. Daeth y noson i ben drwy gyflwyno sbectol ysgythredig arbennig i'r prentisiaid i nodi eu cyfranogiad yn y cynllun.

Ers iddi ddechrau, mae Aspire wedi sefyll fel menter flaenllaw - enghraifft ddisglair o'r hyn y gellir ei gyflawni pan fydd diwydiant, addysg, Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol yn dod at ei gilydd gyda gweledigaeth gyffredin.

Mae Aspire wedi cefnogi dros 200 o brentisiaid ym Mlaenau Gwent, gyda'i chwaer-raglen ym Merthyr Tudful hefyd yn cael effaith ryfeddol, gan gefnogi dros 150 o brentisiaid mewn dim ond saith mlynedd. Mae prentisiaethau wedi'u sicrhau o fewn y Cyngor a gyda busnesau lleol mewn meysydd fel peirianneg, iechyd a gofal cymdeithasol, datblygu chwaraeon, addysg a dysgu, fferyllol, TG, cyllid a llawer mwy.

Meddai'r Cynghorydd John Morgan, Aelod Cabinet Economi a Lleoedd Cyngor ״:

"Mae Aspire wedi bod yn gonglfaen i'n hymrwymiad i ddatblygu sgiliau a chreu swyddi yma ym Mlaenau Gwent. Mae wedi bod yn 10 mlynedd hynod lwyddiannus, ac rydym yn parhau â'r gwaith da. Rydym wedi gweld pobl ifanc yn tyfu mewn hyder, datblygu sgiliau hanfodol a meithrin uchelgais – ac mae llawer ohonynt bellach yn arweinwyr yn eu meysydd. O'r cychwyn cyntaf mae Aspire wedi cael ei gyrru gan genhadaeth glir: i greu cyfleoedd uchelgeisiol i bobl ifanc, ac mae'n sicr wedi cyflawni ar hynny. Diolch i'n holl bartneriaid am eu cefnogaeth a'u hymrwymiad i'r agenda sgiliau."

Mae tîm Aspire yn recriwtio'n weithredol o bob ysgol uwchradd yn y fwrdeistref sirol a cholegau lleol, yn ogystal â chefnogi'r rhai yn y gymuned ehangach, i sicrhau bod cyfleoedd ar gael i ystod eang ac amrywiol o ddysgwyr.

Ychwanegodd y Cynghorydd Morgan:

"Rydym hefyd yn falch o'n hymrwymiad i gynhwysiant. Dros y blynyddoedd, rydym wedi croesawu nifer cynyddol o brentisiaid benywaidd, ac mae'r nifer hwnnw'n parhau i godi flwyddyn ar ôl blwyddyn - tystiolaeth o ymroddiad Aspire i chwalu rhwystrau a herio stereoteipiau o fewn y sector."

Roedd cyn-Brentis y Flwyddyn, Declan Hughes yn y digwyddiad. Meddai:

"Ymunais â'r cynllun yn 2015, ar y cychwyn, ac allwn i ddim fod wedi dychmygu'r daith y byddai'n ei sbarduno. Gyda chefnogaeth anhygoel gan y tîm, enillais gymwysterau niferus - gan gynnwys NVQs, HNCs, a gradd prifysgol - a osododd y sylfeini ar gyfer fy ngyrfa mewn peirianneg. Heddiw, rwy'n falch o fod yn gweithio fel Peiriannydd Ansawdd yn Aumovio (Continental gynt), rôl sydd wedi mynd â mi ledled Ewrop ac wedi fy nghysylltu â gweithwyr proffesiynol ysbrydoledig. Helpodd digwyddiadau adeiladu tîm y cynllun i greu ffrindiau oes a rhwydweithiau gwerthfawr, y mae llawer ohonynt yn parhau i ffynnu. Yn ystod fy nghyfnod yn y rhaglen, cefais yr anrhydedd o ennill 'Prentis y Flwyddyn' a 'Model Rôl y Flwyddyn'. Nawr, rwy'n mwynhau rhoi rhywbeth yn ôl trwy fentora prentisiaid newydd a dathlu pa mor bell mae'r cynllun wedi dod. Rwy'n falch o fod wedi bod yn rhan o'i ddegawd cyntaf - ac rwy'n gyffrous am beth sydd i ddod."

I ddysgu mwy am y rhaglen Aspire, cliciwch yma.

]]>
/cy/newyddion/mae-aspire-yn-dathlu-degawd-o-brentisiaethau-syn-newid-bywydau-ym-mlaenau-gwent/ /cy/newyddion/mae-aspire-yn-dathlu-degawd-o-brentisiaethau-syn-newid-bywydau-ym-mlaenau-gwent/ Fri, 19 Sep 2025 12:08:19 GMT Louise Bishop
Arddangosfeydd Tân Gwyllt - cofrestrwch a chadwch yn ddiogel Wrth i noson Tân Gwyllt brysur agosáu, mae Cyngor ״ yn gofyn i drefnwyr arddangosfeydd tân gwyllt gofrestru eu digwyddiad gyda'n tîm Iechyd yr Amgylchedd.

Mae'r cynllun am ddim hwn yn cwmpasu digwyddiadau sydd wedi’u trefnu o bob maint ac fe'i crëwyd i helpu a sicrhau bod pawb yn cael digwyddiad tân gwyllt hapus, heb ddamweiniau. Bob blwyddyn ar draws y DU mae damweiniau y gellid bod wedi'u hosgoi'n hawdd yn digwydd yn ystod digwyddiadau tân gwyllt, ac mae'r rhain yn aml yn arwain at anaf difrifol.

Bydd swyddogion o'r Cyngor yn cynnig canllawiau cyn y digwyddiad i'r rhai sy'n cynllunio ac yn cynnal arddangosfeydd o fewn Cyngor Bwrdeistref Sirol ״ a gallant ymweld cyn ac yn ystod y digwyddiad os oes angen.

Dywedodd Tommy Smith, Aelod Cabinet dros Gymdogaethau a Gwasanaethau Amgylcheddol:

“Gall tân gwyllt fod yn hynod beryglus os na chânt eu rheoli’n ofalus a gallant fod yn beryglus i bobl sy’n sefyll o gwmpas a phobl sy’n eu cynnau. Gwyddom i gyd pa mor swnllyd y gall tân gwyllt fod, yn enwedig y rhai sydd mewn digwyddiadau heb eu cynllunio mewn ardaloedd adeiledig a all fod yn ofidus i lawer o bobl ac anifeiliaid anwes hefyd.

Mae ein staff iechyd yr amgylchedd wedi’u hyfforddi i gynorthwyo trefnwyr arddangosfeydd tân gwyllt a gallant gynnig cyngor i drefnwyr digwyddiadau tân gwyllt yn y cyfnod cyn yr arddangosfa a gallant ymweld ar y noson ei hun. I wneud hyn mae angen i ni fod yn ymwybodol bod digwyddiad yn digwydd felly cysylltwch â ni i gofrestru eich digwyddiad tân gwyllt.”

Am ragor o wybodaeth am y cynllun cofrestru cysylltwch â ni ar:

Rhif ffôn: 01495 369542.

Cyfeiriad E-bost: environmental.health@blaenau-gwent.gov.uk

Gwefan: Diogelwch Tân Gwyllt | CBS ״ (blaenau-gwent.gov.uk)

]]>
/cy/newyddion/arddangosfeydd-tan-gwyllt-cofrestrwch-a-chadwch-yn-ddiogel/ /cy/newyddion/arddangosfeydd-tan-gwyllt-cofrestrwch-a-chadwch-yn-ddiogel/ Tue, 30 Sep 2025 15:14:40 GMT Carolyn Jenkins
Sbotolau ar Bencampwyr Cymru: Emily Johnson

Rydym wrth ein bodd yn croesawu Emily Johnson o Emily's Miles of Smiles i'n  Rhestr Anrhydeddau Pencampwyr Cymru! 

Mae Emily yn dathlu 10 mlynedd mewn busnes eleni, a pha ffordd well o nodi'r garreg filltir na thrwy ddod yn un o'n llysgenhadon Cymraeg anhygoel.

Wedi'i lleoli yn Abertyleri, dechreuodd taith Emily gyda'r Gymraeg ym mis Ionawr pan sylwodd ar fwy o rieni sy'n chwilio am ofal plant cyfrwng Cymraeg. Gydag angerdd a phenderfyniad, cofleidiodd yr her - ac nid yw wedi edrych yn ôl!

"Mae gen i rhandir ac roedd y genhedlaeth hŷn yn arfer chwerthin pan ddechreuais ddysgu Cymraeg. Nawr maen nhw'n fy ngalw'n wraig Gymreig ac yn fy nghyfarch gyda 'Croeso' neu 'Hwyl fawr'—rydw i hyd yn oed wedi dysgu ychydig eiriau iddyn nhw!"

Mae Emily bellach yn gweithio yng Nghylch Meithrin Brynithel, lle mae'n magu hyder yn darllen llyfrau Cymraeg i blant a defnyddio ymadroddion bob dydd. Mae ei chariad at yr iaith hyd yn oed wedi gwneud teithiau teuluol i Ogledd Cymru yn fwy ystyrlon.

"Rwy'n Gymraeg - dylwn allu siarad ein hiaith. Rwy'n falch fy mod i'n dysgu ac rydw i eisiau bod yn rhugl. Dyna'r cynllun!"

Dechreuodd Emily ei thaith gyda phrosiect Camau () drwy ac mae wedi neidio ar bob cwrs am ddim a gynigir. Ei chyngor? Rhowch gynnig arni. Cadwa fynd. Mae'n perthyn i bob un ohonom.

Llongyfarchiadau, Emily, ar 10 mlynedd o ysbrydoli meddyliau ifanc ac am fod yn hyrwyddwr gwirioneddol i'n hiaith a'n diwylliant.

Ydych chi'n adnabod rhywun sy'n gwneud gwahaniaeth gyda'r Gymraeg yn eich cymuned? Enwebwch nhw trwy e-bostio Cymraeg@blaenau-gwent.gov.uk.

Am ragor o wybodaeth ac i gysylltu ag Emily dilynwch y ddolen hon:

 

]]>
/cy/newyddion/sbotolau-ar-bencampwyr-cymru-emily-johnson/ /cy/newyddion/sbotolau-ar-bencampwyr-cymru-emily-johnson/ Wed, 08 Oct 2025 13:44:03 GMT Carolyn Jenkins
Ysgol Gynradd Cyfrwng Cymraeg ״ yn dathlu adroddiad arolygu Llongyfarchiadau i Ysgol Gymraeg Bro Helyg sydd wedi derbyn adborth gwych o'i arolwg diweddar gan Estyn. Roedd adroddiad yr ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg yn y Blaenau yn adlewyrchu ymrwymiad yr ysgol i ragoriaeth, cynhwysiant a lles disgyblion.

Tynnodd yr adroddiad sylw at:

✅ Gymuned ofalgar a chynhwysol lle mae disgyblion yn teimlo'n ddiogel a’u bod yn cael eu cefnogi
✅ Arweinyddiaeth gref sy'n meithrin diwylliant o gydweithredu ac uchelgais
✅ Disgyblion sy'n barchus, yn hyderus, ac yn ymfalchïo yn eu dysgu
✅ Cwricwlwm ysgogol sy'n herio ac yn cefnogi pob dysgwr
✅ Defnydd creadigol o fannau awyr agored i ennyn chwilfrydedd ac ymgysylltiad
✅ Staff sy'n darparu profiadau dysgu cyffrous ac yn annog hunanfyfyrio
✅ Disgyblion yn gwneud cynnydd cryf yn y Gymraeg, ar lafar ac yn ysgrifenedig
✅ Addysgu cadarn sy'n hyrwyddo meddwl annibynnol a chydweithredu

Canmolwyd hefyd y ddarpariaeth arbenigol 'ragorol' yn y Noddfa, sy'n cefnogi disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, a datblygiad effeithiol sgiliau digidol a rhifedd drwy brosiectau cyfoethog.

ѱ岹’r Pennaeth, Janine Wardill:

"Rydyn ni’n hynod falch o’r adroddiad Estyn. Mae'n adlewyrchu ymroddiad ein staff, brwdfrydedd ein disgyblion, a chefnogaeth barhaus ein rhieni a'n llywodraethwyr. Mae'n dyst i'r holl waith caled sy'n digwydd bob dydd ym Mro Helyg.

"Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at arweinyddiaeth gref yr ysgol, cwricwlwm deniadol, a'r amgylchedd gofalgar sy'n cefnogi disgyblion i ffynnu'n academaidd ac yn bersonol.

"Hoffem ddiolch yn ddiffuant i'n teuluoedd am eu cefnogaeth barhaus, ac estyn ein gwerthfawrogiad llawn i'r staff, y disgyblion a'r Llywodraethwyr am eu hymroddiad, eu gwaith tîm a'u gweledigaeth gyffredin wrth greu cymuned ddysgu fywiog a gofalgar.

Dywedodd y Cynghorydd Sue Edmunds, Aelod Cabinet Cyngor ״ dros Blant, Pobl Ifanc a Theuluoedd:

"Mae'r adroddiad hwn yn dyst i ymroddiad cymuned gyfan yr ysgol. Da iawn i'r holl staff, disgyblion, a theuluoedd - mae eich gwaith caled wir yn gwneud gwahaniaeth."

]]>
/cy/newyddion/ysgol-gynradd-cyfrwng-cymraeg-blaenau-gwent-yn-dathlu-adroddiad-arolygu/ /cy/newyddion/ysgol-gynradd-cyfrwng-cymraeg-blaenau-gwent-yn-dathlu-adroddiad-arolygu/ Thu, 09 Oct 2025 10:11:09 GMT Louise Bishop
Clwb Pêl-rwyd Cymric yn cael ei Anrhydeddu am Hyrwyddo Cydraddoldeb a Chynhwysiant Mae Cyngor ״ wedi anrhydeddu Clwb Pêl-rwyd Cymric gyda thystysgrif cydnabyddiaeth arbennig am eu hymrwymiad rhagorol i gydraddoldeb a chynhwysiant o fewn y gymuned.

Ymwelodd yr Aelod Llywyddol a'r Pencampwr Cydraddoldeb, y Cynghorydd Chris Smith, â sesiwn hyfforddi'r wythnos hon i gyflwyno'r wobr i'r tîm a manteisiodd ar y cyfle i rwydo ychydig o beli ei hun!

Mae'r wobr yn dathlu ymroddiad y clwb i greu amgylchedd croesawgar, cefnogol a chynhwysol i bawb - ar y cwrt ac oddi arno. Mae Clwb Pêl-rwyd Cymric wedi dangos yn gyson sut y gall chwaraeon fod yn rym pwerus i ddod â phobl ynghyd, chwalu rhwystrau a dathlu amrywiaeth.

Canmolodd y Cynghorydd Smith effaith y clwb, gan ddweud:

“Mae Clwb Pêl-rwyd Cymric yn enghraifft wych o sut y gall chwaraeon ein huno. Mae eu hymrwymiad i gynhwysiant ac ysbryd cymunedol yn adlewyrchu’r gorau o Flaenau Gwent. Mae’n anrhydedd cydnabod eu gwaith.”

Dywed Helen Williams o'r clwb:

"Rydym wrth ein bodd yn derbyn y wobr hon a derbyn cydnabyddiaeth am ein rôl wrth ddarparu lle diogel i aelodau gysylltu â bod yn egnïol. Byddwn yn parhau i wasanaethu'r gymuned leol a sicrhau bod gan bawb, ni waeth pwy ydynt, y cyfle i gymryd rhan yn y gamp yr ydym yn ei charu. Hoffem fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i'n haelodau anhygoel, rhieni, gofalwyr a holl wirfoddolwyr ymroddedig ein clwb am bopeth a wnânt i gefnogi Cymric. Heb eu cefnogaeth, ni fyddem yn gallu cyflawni'r gydnabyddiaeth hon nac amcanion ein clwb.

"Rhaid sôn yn arbennig am Chloe Rose, Prif Hyfforddwr ein clwb ac arweinydd Cyfryngau Cymdeithasol, mae Chloe yn mynd y tu hwnt i'r disgwyl yn barhaus i'n haelodau ar ac oddi ar y cwrt ac yn ymgorffori'r gwerthoedd cynhwysol yr ydym yn eu hyrwyddo fel clwb. Wrth wneud hynny mae hi wedi trawsnewid y ffordd yr ydym yn cysylltu â'n cymuned ac mae'n golygu bod ein gwaith yn ymestyn ymhell y tu hwnt i'r cwrt."

 Roedd y noson yn ddathliad o werthoedd sy'n bwysig iawn i Flaenau Gwent — cydraddoldeb, cynhwysiant a chymuned. Llongyfarchiadau i Glwb Pêl-rwyd Cymric ar yr anrhydedd haeddiannol hon.

]]>
/cy/newyddion/clwb-pel-rwyd-cymric-yn-cael-ei-anrhydeddu-am-hyrwyddo-cydraddoldeb-a-chynhwysiant/ /cy/newyddion/clwb-pel-rwyd-cymric-yn-cael-ei-anrhydeddu-am-hyrwyddo-cydraddoldeb-a-chynhwysiant/ Fri, 10 Oct 2025 13:44:21 GMT Louise Bishop
Cyngor ״ yn cyhoeddi canllawiau i ysgolion ar ddyfeisiau symudol i hybu dysgu a lles Mae Cyngor ״ yn cymryd camau rhagweithiol i wella lles, ymddygiad a deilliannau dysgu disgyblion drwy gyflwyno canllawiau cyson ar ddefnyddio ffonau symudol a dyfeisiau clyfar mewn ysgolion.

Bydd y canllawiau, a ddatblygwyd mewn ymgynghoriad ag ysgolion ac undebau llafur, yn cael eu rhannu gyda'r holl ysgolion a chyrff llywodraethu a gellir eu gweithredu ar ôl hanner tymor mis Hydref 2025 ar adeg a chyflymder a bennir gan leoliadau unigol.

Daw'r symudiad hwn mewn ymateb i dystiolaeth gynyddol gan ysgolion y fwrdeistref o effaith negyddol dyfeisiau symudol ar ymddygiad yn yr ystafell ddosbarth, rhyngweithio cymdeithasol, a chanolbwyntio. Mae ymchwil gan, er enghraifft, UNESCO, Estyn a'r NEU, wedi tynnu sylw at sut y gall defnydd anghyfyngedig o ddyfeisiau amharu ar ddysgu a chyfrannu at broblemau ymddygiadol.

Mae'r canllawiau’n ddull gweithredu a argymhellir, ac mae gan rai ysgolion reolau ar waith yn barod mewn perthynas â defnyddio dyfeisiau symudol yn ystod y diwrnod ysgol, ond mae Penaethiaid wedi dangos cefnogaeth gref i ddull gweithredu cyson i'w fabwysiadu ar draws amgylchedd dysgu'r fwrdeistref. Cefnogwyd y canllawiau gan Gabinet y Cyngor a'r Pwyllgor Craffu Plant, Pobl Ifanc a Theuluoedd.

Uchafbwyntiau Allweddol:

  • Rhaid diffodd ffonau symudol a dyfeisiau clyfar a'u storio yn ystod y diwrnod ysgol, gan gynnwys amseroedd egwyl.
  • Bydd eithriadau yn cael eu gwneud ar gyfer disgyblion ag anghenion meddygol neu hygyrchedd.
  • Mae gan ysgolion ymreolaeth o hyd i deilwra polisïau a phenderfynu ar sancsiynau priodol.
  • Anogir staff a gwirfoddolwyr i ddangos esiampl gyda defnydd cyfrifol o ddyfeisiau.
  • Bydd llythyrau’n cael eu hanfon at rieni/gofalwyr yn esbonio pam mae'r canllawiau’n cael eu mabwysiadu a'u manteision.

Dywedodd y Cynghorydd Sue Edmunds, Aelod Cabinet dros Blant, Pobl Ifanc a Theuluoedd:

"Mae ymchwil yn dangos bod cyfyngu ar y defnydd o ffonau symudol yn ystod y diwrnod ysgol yn helpu i greu amgylchedd dysgu mwy diogel, yn gwella canolbwyntio ar ddysgu, ac yn hyrwyddo ymddygiad cadarnhaol. Mae'r canllawiau hyn yn rhoi disgyblion yn gyntaf—cefnogi lles, gwella ymddygiad, a'u helpu i ffynnu. Dywedodd penaethiaid wrthym y byddai dull cyson wir yn gwneud gwahaniaeth, felly mae hwn yn gam rhagweithiol sy'n adlewyrchu ein hymrwymiad i weithio mewn partneriaeth i sicrhau bod system addysg ״ y gorau y gall fod."

 

]]>
/cy/newyddion/cyngor-blaenau-gwent-yn-cyhoeddi-canllawiau-i-ysgolion-ar-ddyfeisiau-symudol-i-hybu-dysgu-a-lles/ /cy/newyddion/cyngor-blaenau-gwent-yn-cyhoeddi-canllawiau-i-ysgolion-ar-ddyfeisiau-symudol-i-hybu-dysgu-a-lles/ Thu, 16 Oct 2025 10:14:58 GMT Louise Bishop
Llongyfarchiadau a Phob Lwc! Pedwar ar bymtheg o fusnesau o Flaenau Gwent ar y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Busnes Cyhoeddwyd enwau’r rhai a gyrhaeddodd rownd derfynol Gwobrau Busnes Torfaen, Sir Fynwy a ״ 2025, gan ddathlu cyflawniadau rhagorol busnesau ac entrepreneuriaid ar draws y tair sir.

Mae cyfanswm o 20 o fusnesau o Flaenau Gwent wedi cyrraedd y rhestr fer mewn amrywiaeth o gategorïau, gan gynnwys tri allan o bedwar a gyrhaeddodd y rownd derfynol yng nghategorïau Cyflogwr y Flwyddyn ac Entrepreneur y Flwyddyn. Mae ״ yn ymuno â'r rhestr am y tro cyntaf eleni, gan greu noson fwy cyffrous fyth o gydnabyddiaeth, rhwydweithio ac ysbrydoliaeth.

Wedi'i drefnu gan Grapevine Event Management, mae'r gwobrau'n dathlu cymunedau busnes bywiog a ffyniannus Torfaen, Sir Fynwy a ״, gan roi cyfle i gydnabod ymroddiad, arloesedd a chyflawniadau busnesau lleol dros y 12 mis diwethaf. Gyd’r nifer uchaf erioed o geisiadau wedi'u derbyn, mae'r beirniaid wedi adolygu pob cyflwyniad yn ofalus i benderfynu ar restr fer eithriadol eleni.

Wrth siarad am y rhestr fer, dywedodd Liz Brookes, Sylfaenydd y Gwobrau a Chyfarwyddwr Grapevine Event Management:

“Rydym wrth ein bodd yn gweld rhai busnesau sy’n dychwelyd o’r llynedd yn gobeithio cadw eu teitlau, ochr yn ochr ag ystod wych o ymgeiswyr newydd, gan gynnwys amrywiaeth gyffrous o fusnesau ״ yn ymuno â ni am y tro cyntaf. Yn yr hinsawdd economaidd bresennol, mae’n bwysicach nag erioed i ni ddod at ein gilydd fel cymuned fusnes a chydnabod gwaith caled ac ymroddiad pawb sy’n cyfrannu at y grym y tu ôl i’n heconomïau lleol ac mae’r gwobrau hyn yn rhoi’r cyfle perffaith i ni wneud hynny.”

ѱ岹’r Cynghorydd John Morgan, Aelod Cabinet dros yr Economi a Lleoedd yng Nghyngor ״:

“Mae’n wych gweld cynrychiolaeth mor gryf o Flaenau Gwent yn ein blwyddyn gyntaf o gymryd rhan yn y Gwobrau Busnes. Rydym yn parhau i fod wedi ymrwymo’n gadarn i feithrin amgylchedd lle gall busnesau newydd a sefydledig ffynnu, ac rydym yn falch iawn o weld cyflawniadau’r busnesau hyn yn cael eu cydnabod yn y digwyddiad mawreddog hwn. Pob lwc i bawb ac edrychwn ymlaen at ddathlu eich llwyddiant.”

Mae cyfanswm o 50 o ymgeiswyr terfynol wedi cael eu rhoi ar restr fer ar draws 14 categori. Byddant nawr yn cael eu gwahodd i fynychu cyfweliad panel, gyda'r enillwyr i'w cyhoeddi mewn seremoni wobrwyo tei du ar 27 Tachwedd 2025 yng Ngwesty'r Parkway. Gall gwesteion edrych ymlaen at noson o ddathlu, adloniant a rhwydweithio wrth i gymuned fusnes y rhanbarth ddod ynghyd i anrhydeddu cyflawniadau rhagorol.

Y rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol ar gyfer Busnesau ״ yw:

Busnes Creadigol a Digidol y Flwyddyn

  • Games Alchemist

Cyflogwr y Flwyddyn

  • Blackwood Engineering
  • Diack
  • Halton Wales MEI

Entrepreneur y Flwyddyn

  • Matthew Davies - The Social Work Way
  • Tobias Johnson - Games Alchemist
  • Samantha Fitz-Symonds - Accessible Futures Group 

Busnes Gwasanaeth Ariannol a Phroffesiynol y Flwyddyn

  • Kairos-K

Busnes Gwyrdd y Flwyddyn

  • Honest Love Our Planet

Busnes Rhyngwladol y Flwyddyn

  • Blackwood Engineering
  • The Insurgo Group

Busnes Gweithgynhyrchu'r Flwyddyn

  • J C Moulding
  • M&J Europe

Microfusnes y Flwyddyn (llai na 10 o weithwyr)

  • Powell Bespoke Interiors
  • Shape MSP

Busnes Gwledig y Flwyddyn

  • Roundhouse Farm

Busnes Bach a Chanolig y Flwyddyn

  • Clam's Handmade Cakes
  • Waldron Commercials

 Busnes Trydydd Sector y Flwyddyn

  • Session Recall CIC

Busnes Twristiaeth a Lletygarwch y Flwyddyn

  • Wonder Cinema

Person Busnes Ifanc y Flwyddyn

  • Luke Shepard - Luke Shephard Funeral Directors

Mae'r gwobrau hefyd yn cael eu cefnogi a'u noddi gan: Ystad Parc Mamhilad, Cyngor Sir Torfaen, Cyngor Sir Fynwy, Cyngor Sir ״, Evermore, Stills a Cleartech Live.

Mae BusinessNewsWales hefyd yn cefnogi Gwobrau Busnes Torfaen, Sir Fynwy a ״ fel ei bartner cyfryngau. Mae cyfleoedd noddi ar gael.

Mae tocynnau ar werth nawr ar gyfer Gwobrau Busnes Torfaen, Sir Fynwy a ״


]]>
/cy/newyddion/llongyfarchiadau-a-phob-lwc-pedwar-ar-bymtheg-o-fusnesau-o-flaenau-gwent-ar-y-rhestr-fer-ar-gyfer-gwobrau-busnes/ /cy/newyddion/llongyfarchiadau-a-phob-lwc-pedwar-ar-bymtheg-o-fusnesau-o-flaenau-gwent-ar-y-rhestr-fer-ar-gyfer-gwobrau-busnes/ Fri, 17 Oct 2025 10:00:43 GMT Louise Bishop
Ysgol Gynradd Cyfrwng Cymraeg newydd bron â'i chwblhau Mae ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg newydd ״ bron wedi'i chwblhau, ac mae'r disgyblion a'r staff yn gyffrous iawn i symud ym mis Tachwedd.

Mae Ysgol Gymraeg Tredegar yn ysgol egin 210 o leoedd, gyda gofal plant ar yr un safle, yn Ffordd y Siartwyr. Gyda nifer y plant mewn addysg Gymraeg yn tyfu, mae'n rhan o'n hymrwymiad i gynyddu cyfleoedd i deuluoedd o fewn y fwrdeistref sirol. Mae'r ysgol wedi'i hariannu'n llawn gan Lywodraeth Cymru trwy'r Grant Cyfalaf Cyfrwng Cymraeg.

Mae Ysgol Gymraeg Tredegar wedi'i ffederaleiddio ag ysgol gynradd Gymraeg arall y fwrdeistref sirol, Ysgol Gymraeg Bro Helyg, ac mae'n rhannu'r un Corff Llywodraethu a Phennaeth. Mae'r ysgol eisoes ar agor gyda disgyblion mewn llety dros dro yn Nhŷ Bedwellty ar hyn o bryd.

ѱ岹’r Pennaeth, Janine Wardill:

“Gyda'r ysgol newydd ar fin agor ei drysau, mae’r cyffro'n cynyddu ar draws ״. Mae'r adeilad modern, gyda'i bensaernïaeth drawiadol a'i gyfleusterau o'r radd flaenaf, yn adlewyrchu'r weledigaeth uchelgeisiol sydd gennym ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg. Mae'r ysgol hon yn fwy na dim ond adeilad - mae'n ganolfan gymunedol lle bydd plant yn tyfu'n hyderus, yn ddwyieithog, ac yn barod ar gyfer y dyfodol.

“Rydym yn ddiolchgar iawn i'r datblygwyr am eu gwaith rhagorol, ac yn enwedig i Dŷ Bedwellty am eu croeso cynnes a'u cefnogaeth dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae'r gefnogaeth gan rieni, staff, y gymuned leol, a'n partneriaid addysgol wedi bod yn hanfodol - gyda'n gilydd, rydym yn gosod sylfeini cryf ar gyfer dyfodol mwy disglair i'n plant a'n cymuned.”

Mae gan yr ysgol newydd Ardal Gemau Aml-ddefnydd (MUGA), ardal chwarae coedwig, perllan ar gyfer tyfu, dolydd blodau gwyllt a man chwarae cyfagos. Mae ganddi hefyd baneli solar a phwyntiau gwefru cerbydau trydan. Cymerwyd gwaith adeiladu’r ysgol drosodd gan Tilbury Douglas yn gynharach eleni.

ѱ岹’r Cynghorydd Sue Edmunds, Aelod Gweithredol y Cyngor dros Bobl ac Addysg:

“Rydym am sicrhau ein bod yn cynnig mwy o ddewis a chyfleoedd i rieni a gofalwyr o ran addysg eu plentyn, yn ogystal â chefnogi’r iaith Gymraeg i dyfu yma ym Mlaenau Gwent. Mae pawb yn gyffrous iawn i symud i’r adeilad newydd y mis nesaf, a fydd yn amgylchedd dysgu modern a chynaliadwy i’n disgyblion. Fedra i ddim aros i ymweld!”

Nid yw byth yn rhy hwyr i ystyried mynediad i addysg Gymraeg i’ch plentyn, ac mae digon o wybodaeth ar gael yn yr adran Ysgolion a Dysgu ar wefan ein Cyngor. I unrhyw un sy’n gwneud y newid, mae dysgu drwy drochi ar gael. Am ragor o wybodaeth ewch i Bod yn ddwyieithog.

]]>
/cy/newyddion/ysgol-gynradd-cyfrwng-cymraeg-newydd-bron-ai-chwblhau/ /cy/newyddion/ysgol-gynradd-cyfrwng-cymraeg-newydd-bron-ai-chwblhau/ Tue, 21 Oct 2025 08:00:17 GMT Louise Bishop
Dathlu Bwyd Lleol a Chymuned yn Uwchgynhadledd Fwyd ״ 2025 Ar Ddiwrnod Bwyd y Byd 2025, cynhaliwyd Uwchgynhadledd Fwyd gyntaf ״ yn Nhŷ Bedwellty yn Nhredegar, gan ddod â grwpiau cymunedol, tyfwyr lleol, busnesau, gwasanaethau cyhoeddus ac unigolion angerddol ynghyd am ddiwrnod o ddathlu, cydweithio a sgwrsio ynghylch bwyd.

Trefnwyd y digwyddiad gan Gyngor ״, ynghyd â Phartneriaeth Bwyd ״. Gyda rhaglen lawn o drafodaethau panel, gweithdai a sesiynau rhyngweithiol, amlygodd y digwyddiad ymrwymiad y fwrdeistref i adeiladu system fwyd lleol iachach, tecach a mwy cynaliadwy.

Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i weithio gyda phartneriaid a'r gymuned leol i greu a chefnogi lle tecach a mwy cyfartal i fyw i bawb trwy sicrhau mynediad at fwyd iach a fforddiadwy gydag urddas, cryfhau rhwydweithiau bwyd cymunedol a busnes, ac adeiladu arferion bwyd cynaliadwy sy'n cefnogi'r amgylchedd a natur.



Ymhlith uchafbwyntiau'r diwrnod roedd:

•    Trafodaeth panel ar Strategaeth Bwyd Cymunedol lleol newydd y Bartneriaeth Bwyd, gan amlygu straeon llwyddiant lleol ac uchelgeisiau ar gyfer y dyfodol
•    Gweithdai ymarferol gan gynnwys Diffyg Diogeledd Bwyd, Bwyd Iach yn y Sector Cyhoeddus, a Castell Howell ar ddarparu bwyd da ar draws Cymru
•    Sesiynau diddorol ar yr hinsawdd, natur, ac ymgysylltiad y trydydd sector mewn tyfu bwyd, gan gynnwys Taith Gardd Furiog gyda thynnu Sudd Afal o Goetiroedd Bryn Sirhowy

Darparodd y digwyddiad hefyd gyfleoedd rhwydweithio gwerthfawr a llwyfan i leisiau ar lawr gwlad gael eu clywed, gan atgyfnerthu ymrwymiad y Cyngor i newid dan arweiniad y gymuned ac i wella llesiant trwy leihau anghydraddoldeb i sicrhau bod gan bob plentyn a pherson ifanc y dechrau gorau mewn bywyd a'r cyfle i ffynnu.

ѱ岹’r Cynghorydd Sonia Behr, Hyrwyddwr Hinsawdd Cyngor ״:

“Mae'r Uwchgynhadledd Bwyd yn enghraifft wych o sut y gall partneriaethau lleol gydweithio i yrru newid cadarnhaol. Fel ardal Marmot, mae'n ysbrydoledig iawn gweld cymaint o bobl yn dod at ei gilydd i rannu syniadau ac ymrwymo i gymryd camau gweithredu dros ddyfodol bwyd iachach a mwy cynaliadwy ym Mlaenau Gwent.”

Yn y llun mae grawn lleol wedi tyfu gan sefydliad cymunedol yng Nghwmtyleri, Pentref Tyleri.

]]>
/cy/newyddion/dathlu-bwyd-lleol-a-chymuned-yn-uwchgynhadledd-fwyd-blaenau-gwent-2025/ /cy/newyddion/dathlu-bwyd-lleol-a-chymuned-yn-uwchgynhadledd-fwyd-blaenau-gwent-2025/ Tue, 21 Oct 2025 08:12:13 GMT Louise Bishop
Ymgyrch Bwydo ar y Fron ״ yn Disgleirio mewn Cynhadledd Genedlaethol Gwahoddwyd Ceri Bird, Rheolwr Gwasanaeth ar gyfer y Blynyddoedd Cynnar yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol ״, i gyflwyno yng Nghynhadledd Bwydo ar y Fron Genedlaethol Iechyd Cyhoeddus Cymru – 'Bright Spots' – yn arddangos llwyddiant rhyfeddol ymgyrch 'Dewch i Fwydo ar y Fron ״'.

Wedi'i lansio yn 2024, pan gofnododd ״ rai o'r cyfraddau bwydo ar y fron isaf yng Nghymru a'r DU (tua 42%), mae'r ymgyrch wedi mynd o nerth i nerth — wedi'i gyrru gan leisiau, profiadau ac angerdd mamau lleol.

Cynlluniwyd yr ymgyrch 'Dewch i Fwydo ar y Fron ״' gan famau ״, ar gyfer mamau ״. Mae wedi cael ei harwain yn falch gan y gymuned, gyda mamau lleol yn hyfforddi fel cefnogwyr cyfoedion i roi cyngor, anogaeth a chyfeillgarwch i eraill ar eu teithiau bwydo ar y fron. Mae'r cefnogwyr cyfoedion hyn bellach yn cynnal grwpiau cymorth rheolaidd a sesiynau galw heibio cymunedol ar draws y fwrdeistref.

Mae gan Flaenau Gwent hefyd 35 o adeiladau cyhoeddus a busnesau preifat wedi cofrestru i ddweud bod croeso i famau fwydo ar y fron ar eu safle, sef y nifer uchaf o safleoedd ar draws y 5 Awdurdod Lleol yng Ngwent – ​​Cynllun Croesawu Bwydo ar y Fron Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.

Mae ffigurau diweddar yn dangos cynnydd sylweddol yng nghyfraddau bwydo ar y fron ar draws y flwyddyn gyfan, gyda rhai misoedd yn cyrraedd 60–62% ac yn cyrraedd cyfartaledd cenedlaethol Cymru. Mae hyn yn golygu bod mwy o famau ym Mlaenau Gwent bellach yn dewis bwydo ar y fron nag sydd ddim, gan nodi cam eithriadol ymlaen wrth wella canlyniadau'r blynyddoedd cynnar a lleihau anghydraddoldebau iechyd ar draws y fwrdeistref.

“Rydym yn hynod falch o'r hyn y mae ein mamau, tîm staff, a phartneriaid cymunedol wedi'i gyflawni mewn cyfnod mor fyr ac roeddwn yn falch iawn o arddangos hyn yn y Gynhadledd Genedlaethol” meddai Ceri Bird, Rheolwr Gwasanaeth, Cyfarwyddiaeth Plant, Pobl Ifanc a Theuluoedd. “Mae'r ymgyrch hon yn ei dyddiau cynnar o hyd, ond mae eisoes yn trawsnewid cenedlaethau, diwylliant, hyder, a chymorth cymunedol o amgylch bwydo ar y fron ym Mlaenau Gwent. Ein nod yw parhau i ymgorffori'r newid cenedliadol hwn fel bod pob babi yn cael y dechrau gorau mewn bywyd, mae ein babanod yn haeddu hyn.”

Pam Mae Bwydo ar y Fron yn Bwysig

Mae bwydo ar y fron yn cynnig manteision iechyd pwerus i'r fam a'r babi:

  • Mae babanod sy'n cael eu bwydo ar y fron yn llai tebygol o ddatblygu heintiau, asthma, gordewdra yn ystod plentyndod, a diabetes math 2.
  • Mae bwydo ar y fron yn cefnogi datblygiad iach yr ymennydd ac yn helpu i adeiladu system imiwnedd babi.
  • Mae gan famau sy'n bwydo ar y fron risg is o ganser y fron a'r ofari, diabetes math 2, a chlefyd y galon.
  • Mae bwydo ar y fron hefyd yn cefnogi bondio emosiynol, gan helpu'r fam a'r babi i deimlo'n dawelach ac yn fwy cysylltiedig.

Cefndir

Mae ymgyrch 'Dewch i Fwydo ar y Fron ״' yn rhan o ymrwymiad ehangach y Cyngor i sicrhau bod gan bob plentyn y dechrau gorau mewn bywyd, mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Iechyd Cyhoeddus Cymru, a Strategaethau Blynyddoedd Cynnar a Thlodi Plant Llywodraeth Cymru.

Mae'r ymgyrch yn parhau i dyfu trwy ddigwyddiadau cymunedol, hyrwyddo cyfryngau cymdeithasol, a rhwydweithiau cyfoedion mam-i-fam, gyda'r uchelgais o wneud bwydo ar y fron yn rhan weladwy, gefnogol, a dathlu bywyd bob dydd ym Mlaenau Gwent.

]]>
/cy/newyddion/ymgyrch-bwydo-ar-y-fron-blaenau-gwent-yn-disgleirio-mewn-cynhadledd-genedlaethol/ /cy/newyddion/ymgyrch-bwydo-ar-y-fron-blaenau-gwent-yn-disgleirio-mewn-cynhadledd-genedlaethol/ Tue, 21 Oct 2025 09:28:34 GMT Emma Bennett
Pobl ifanc yn helpu i ddathlu trawsnewid Canolfan Ieuenctid Cwm Dathlwyd gwaith adnewyddu Canolfan Ieuenctid Cwm gwerth £200,000 mewn digwyddiad lansio arbennig neithiwr.

Diolch i gyllid Ysgolion sy'n Canolbwyntio ar y Gymuned gan raglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu Llywodraeth Cymru, mae'r ganolfan wedi cael trawsnewidiad sy'n cynnwys ffenestri, llawr, to, toiledau, drws ffrynt, trydan, larymau tân, larymau diogelwch, cegin a band eang newydd.

Mae'r cyllid hefyd wedi galluogi Gwasanaeth Ieuenctid ״ i brynu adnoddau ac offer digidol newydd, gan gynnwys gosod gorsaf radio ac offer podledu. Mae'r ychwanegiadau hyn wedi cefnogi datblygu cynigion digidol poblogaidd ac effeithiol, gan wella sut mae pobl ifanc yn ymgysylltu â chyfryngau creadigol a chyfathrebu. Maent hefyd wedi gallu prynu byrddau biliards, bwrdd ping pong, bwrdd dartiau, a setiau teledu.

Ymunodd swyddogion Cyngor ״ â gwesteion a gwleidyddion yn y lansiad, gan fanteisio ar y cyfle i weld y cyfleusterau wedi'u hailwampio drostynt eu hunain a hefyd ymgysylltu â phobl ifanc a oedd yn cymryd rhan mewn cyfres o weithgareddau, gan gynnwys gweithdy radio, coginio a DJio.

Yn ogystal â bod yn lleoliad ar gyfer clwb ieuenctid poblogaidd a gynhelir ddwywaith yr wythnos, mae'r ganolfan bellach hefyd yn cael ei defnyddio gan Wasanaeth Ieuenctid ״ i gyflwyno prosiectau addysg amgen, gan gynnwys darpariaeth *EOTAS i bobl ifanc sydd mewn perygl o ddod yn *NEET neu ymddieithrio o ddysgu ffurfiol. Yn ogystal, mae'r ganolfan yn cynnal mentrau wedi'u targedu sy'n cefnogi digartrefedd a llesiant pobl ifanc, gan ddarparu amgylchedd diogel a chefnogol i bobl ifanc agored i niwed.

ѱ岹’r Cynghorydd Sue Edmunds, Aelod Cabinet dros Blant, Pobl Ifanc a Theuluoedd yng Nghyngor ״:

“Roedd yn hyfryd gweld y bobl ifanc yn mwynhau ac yn gwerthfawrogi’r ganolfan wedi’i hadnewyddu. Mae ein pobl ifanc yn haeddu’r gorau ac rydym wrth ein bodd ein bod wedi sicrhau cyllid Llywodraeth Cymru i fuddsoddi yn y cyfleuster lleol pwysig hwn. Nid yn unig y mae hwn yn ganolfan i bobl ifanc fwynhau a chymdeithasu â’i gilydd, mae hefyd yn fan lle gall ein pobl ifanc agored i niwed gael mynediad at addysg, cymorth a chyngor.”

Fe wnaeth y Cynghorydd George Humphreys, aelod ward Cwm a chyn-weithiwr ieuenctid ei hun, helpu i lansio'r cyfleuster newydd. Meddai:

“Mynychais y clwb ieuenctid hwn fy hun ac mae’n dwyn i gof nid yn unig lawer o atgofion o hwyl a chwerthin, ond hefyd addysg anffurfiol. Yn ogystal, cefais y fraint o weithio ochr yn ochr â staff y Cyngor sy’n darparu gwasanaethau ieuenctid yn y fwrdeistref sirol, ac er y gallai amseroedd fod wedi newid, yr un yw’r nodau ’r canlyniadau.

“Mae grymuso pobl ifanc heddiw yn adeiladu cymunedau cryfach yfory. Mae buddsoddi mewn pobl ifanc yn golygu buddsoddi yn y dyfodol, dyna pam mae clybiau ieuenctid a staff ieuenctid mor arbennig. Mentor da yw rhywun sy'n gweld mwy o dalent a gallu ynoch chi nag yr ydych chi'n ei weld eich hun, felly diolch i bawb sy'n ymwneud â rhoi nid yn unig gyfleuster 21ain ganrif i'n cymuned, ond popeth a ddaw yn ei sgil.”

  • NEET (Pobl nad ydynt mewn Addysg, Cyflogaeth na Hyfforddiant)
  • EOTAS (Addysg Heblaw yn yr Ysgol)

 

]]>
/cy/newyddion/pobl-ifanc-yn-helpu-i-ddathlu-trawsnewid-canolfan-ieuenctid-cwm/ /cy/newyddion/pobl-ifanc-yn-helpu-i-ddathlu-trawsnewid-canolfan-ieuenctid-cwm/ Thu, 23 Oct 2025 10:01:25 GMT Louise Bishop
Cyflwyno un arall o'n Pencampwyr Cymraeg ar gyfer 2025 Amanda Smith Efallai eich bod chi'n adnabod Amanda Smith fel Amanda Masquerade – arlunydd wynebau talentog, modelwr balŵn, a dewin. Ond mae hi hefyd yn ddysgwr Cymraeg angerddol sydd wedi bod yn ymroddedig i feistroli'r iaith ers sawl blwyddyn.

Roedd Amanda wastad eisiau dysgu Cymraeg ond ni chafodd y cyfle nes i'w phlant dyfu. Arweiniodd yr hyn a ddechreuodd fel diddordeb achlysurol yn y pen draw at ddosbarthiadau ffurfiol, a heddiw mae hi bron yn rhugl. Mae ei thaith wedi ysbrydoli'r rhai o'i chwmpas: er nad oedd ei phlant wedi tyfu i fyny yn siarad Cymraeg, maen nhw wedi dechrau dysgu fel oedolion, ac mae ei wyrion bellach yn mynychu Ysgol Cymraeg Bro Helyg. Mae hyd yn oed ffrindiau a theulu a oedd unwaith yn meddwl ei bod hi'n "wallgof" am geisio wedi ymuno - ac maen nhw'n ei garu.

Mae ei sgiliau iaith newydd wedi agor drysau di-ri. Mae busnes Amanda wedi ffynnu, gydag archebion gan sefydliadau Cymreig fel Menter Iaith, Mudiad Meithrin, cynghorau lleol, Eisteddfodau, yr Urdd, a llawer mwy. Mae galw amdani bellach ledled Cymru, ac mae ei bywyd cymdeithasol wedi blodeuo hefyd. Mae Amanda hefyd yn gweithio'n rhan-amser yn Ysgol Bro Helyg, gan helpu plant i ddarllen – dim ond un o'r nifer o ffyrdd y mae'n rhannu ei doniau.

"Mae wastad amser da i ddefnyddio'r iaith, waeth ble ydw i," meddai.

Pan ddechreuodd Amanda ddysgu, dim ond un dosbarth oedd ar gael. Nawr, mae yna gyfleoedd di-ri – o gyrsiau ar-lein gyda Dysgu Cymraeg i apiau symudol a dosbarthiadau cymunedol ledled Cymru a thu hwnt.

Ei chyngor i ddysgwyr newydd? "Gwnewch hynny - a pheidiwch â rhoi'r gorau iddi. Efallai y bydd angen i chi oedi, ond peidiwch â rhoi'r gorau iddi."

Mae dyfodol Amanda yn llawn cynlluniau cyffrous. Yn ddiweddar, cwblhaodd furlun hyfryd yn Ysgol Bro Helyg yn arddangos uchafbwyntiau'r fwrdeistref leol. Mae hi'n gobeithio parhau i gefnogi'r ysgol a hefyd rhedeg dosbarthiadau gwau a chrosio dwyieithog i'r gymuned. Mae ei gyrfa modelu balŵn yn ffynnu, gydag archebion rheolaidd a chynhadledd flynyddol lle mae'n dysgu artistiaid o bob cwr o'r byd. Mae hi hefyd yn lansio gweithdai dydd Sadwrn yng Ngholeg Gwent – perffaith i unrhyw un sy'n dymuno rhoi cynnig ar rywbeth newydd.

Beth bynnag y mae Amanda yn ei wneud nesaf, rydym yn dymuno'r gorau iddi ac yn diolch iddi am bopeth y mae'n dod i'n cymuned. Mae ei hangerdd dros iaith a diwylliant Cymru yn ei gwneud hi'n Bencampwr Cymreig gwirioneddol haeddiannol.

I gysylltu ag Amanda, dewch o hyd iddi ar Facebook:

Oes gennych chi ddiddordeb mewn dysgu Cymraeg neu enwebu eich Pencampwr Cymraeg eich hun ar gyfer ein rhestr anrhydeddau 2026? Cysylltwch â ni drwy e-bost: Cymraeg@blaenau-gwent.gov.uk

 

]]>
/cy/newyddion/cyflwyno-un-arall-on-pencampwyr-cymraeg-ar-gyfer-2025-amanda-smith/ /cy/newyddion/cyflwyno-un-arall-on-pencampwyr-cymraeg-ar-gyfer-2025-amanda-smith/ Tue, 28 Oct 2025 09:34:41 GMT Carolyn Jenkins
Fforwm Dinasyddion yn trafod dyfodol teithio ym Mlaenau Gwent Wythnos nesaf yw Wythnos Hinsawdd Cymru 2025 ac mae Fforwm Dinasyddion ar Ddyfodol Teithio ym Mlaenau Gwent wedi llunio 10 argymhelliad ar ôl ystyried y cwestiwn Sut gall ״ ddod at ei gilydd i wneud teithio lleol yn decach, yn wyrddach ac yn well i bawb?

Gweithiodd Cyngor ״ gyda'r elusen cyfranogiad cyhoeddus, Involve, i gynnal Fforwm Dinasyddion a ddaeth â 19 o drigolion ynghyd - a ddewiswyd ar hap i fod yn gynrychioliadol o Flaenau Gwent - ar gyfer cyfres o weithdai i glywed tystiolaeth, trafod y materion a llunio deg argymhelliad ar ddyfodol teithio yn y fwrdeistref a'r cyffiniau.

Mae aelodau'r fforwm wedi cyflwyno eu hargymhellion, ac mae'r Cyngor bellach yn gweithio gydag ystod o bartneriaid i ystyried ac ymgorffori'r argymhellion hyn mewn cynlluniau gwasanaethau ar gyfer y dyfodol.  Bydd adroddiad a chynllun gweithredu yn cael eu cyflwyno i'n Pwyllgor Craffu Datblygu Economaidd a Rheolaeth Amgylcheddol ym mis Rhagfyr, cyn mynd gerbron yr holl gynghorwyr i'w trafod yn y Flwyddyn Newydd. 

Ariannwyd y Fforwm gan Innovate UK, asiantaeth arloesi Llywodraeth y DU.

Y 10 argymhelliad yw:

  • Lleihau'r defnydd o geir ar gyfer cymudo
  • Cael rampiau cadair olwyn ar drenau bob amser
  • Cynnwys y cyhoedd yn well wrth gynllunio trafnidiaeth
  • Ystyried trosglwyddo bysiau yn ôl i berchnogaeth gyhoeddus
  • Gwella gwasanaethau tacsi
  • Cynyddu cyhoeddusrwydd, capasiti a chyllid bysiau Fflecsi
  • Hyrwyddo ac ehangu cynlluniau trafnidiaeth gymunedol
  • Cynyddu opsiynau trafnidiaeth gyda'r nos
  • Cynnig opsiynau gwell ar gyfer teithiau ysgol
  • Annog pobl i gerdded, beicio neu olwyno

Meddai'r Cynghorydd Tommy Smith, Aelod Cabinet Cyngor ״ dros Wasanaethau Cymdogaeth a'r Amgylchedd:

"Mae blaenoriaethau ein Cynllun Corfforaethol yn cynnwys ymateb i'r argyfwng natur a hinsawdd, galluogi cymunedau cysylltiedig, annibynnol a gweithio gyda'n gilydd i leihau allyriadau carbon. Yn ogystal â hyn, fel Cyngor Marmot, rydym am greu a datblygu lleoedd a chymunedau cynaliadwy. Bydd angen i ni wneud hyn drwy weithio gydag ystod o bartneriaid, sefydliadau gwirfoddol a'n cymunedau.

"Hoffwn ddiolch i holl aelodau'r Fforwm Dinasyddion am roi o’u hamser i ymgysylltu â'r pwnc hwn. Mae'n hynod bwysig i ni ein bod yn ymgysylltu â phobl leol ac yn gwrando arnynt nhw am y pethau sydd wir yn bwysig iddyn nhw ac mae dod â phobl o bob cefndir at ei gilydd yn rhoi cipolwg da iawn i ni o sut mae pobl go iawn yn meddwl y gall teithio wella a deall unrhyw rwystrau i deithio cynaliadwy a theg. Mae'n amlwg bod angen i ddyfodol teithio gael ei siapio gan drigolion fel bod unrhyw gynnydd yn cefnogi anghenion y gymuned ac yn arwain at fanteision ehangach."

Gellir dod o hyd i adroddiad cryno i'r Fforwm a'u canfyddiadau yma.

Ar hyn o bryd mae Cyngor ״ yn ymgynghori ar ei Rwydwaith Teithio Llesol ac mae sawl gweithdy lleol yn cael eu cynnal yr wythnos nesaf.

  • Llyfrgell Tredegar - 4 Tachwedd, 11am – 2pm
  • Llyfrgell y Blaenau - 6 Tachwedd, 11am – 1pm
  • Eglwys Ebeneser, Abertyleri - 13 Tachwedd, 11:30am - 2:30pm
  • Canolfan Gweithredu Dysgu, Glynebwy - 18 Tachwedd - 11am – 2pm
  • Canolfan Tabor, Brynmawr - 20 Tachwedd, 11am – 2pm

*Gweithiodd y Cyngor gyda Sortition Foundation i ddewis preswylwyr drwy loteri, mewn ffordd sy'n gynrychioliadol o boblogaeth ehangach ״.

 

]]>
/cy/newyddion/fforwm-dinasyddion-yn-trafod-dyfodol-teithio-ym-mlaenau-gwent/ /cy/newyddion/fforwm-dinasyddion-yn-trafod-dyfodol-teithio-ym-mlaenau-gwent/ Tue, 28 Oct 2025 14:02:32 GMT Louise Bishop
Cartref Gofal Preswyl EMI Cwrt Mytton yn Dathlu 35 Mlynedd o Ofal a Chymuned Mae Cartref Gofal Preswyl Henoed Eiddil eu Meddwl Cwrt Mytton yn falch o ddathlu ei ben-blwydd yn 35 oed, gan nodi carreg filltir ers agor ei ddrysau i breswylwyr am y tro cyntaf ym 1990.

I anrhydeddu'r achlysur, mae'r cartref yn cynnal ei barti Calan Gaeaf blynyddol poblogaidd ddydd Iau, 30ain o Hydref, gan wahodd preswylwyr, eu teuluoedd a'u ffrindiau i ymuno yn y dathliadau. Gall gwesteion edrych ymlaen at wisg ffansi, bwffe poeth ac awyrgylch cynnes a chroesawgar sy'n adlewyrchu calon ysbryd cymunedol Cwrt Mytton.

Wedi'i leoli ychydig oddi ar Stryd Alma ger canol y dref, mae Cwrt Mytton yn gartref gofal preswyl EMI Gwasanaethau Cymdeithasol a redir gan Gyngor ״ ar gyfer pobl hŷn, gan gynnwys y rhai sy'n byw gyda dementia. Dyluniwyd yr adeilad yn feddylgar i sicrhau cyfforddusrwydd a chyfleustra i breswylwyr ac ymwelwyr, gyda llety wedi'i wasgaru ar draws dau lawr ac wedi'i wasanaethu gan lifft.

Meddai Joanne Hawkins, Rheolwr, Cartref Gofal Preswyl EMI Cwrt Mytton:

“Mae Cwrt Mytton yn fwy na chartref gofal - mae'n gymuned fywiog. Trwy ystod eang o weithgareddau cymdeithasol a chysylltiadau lleol cryf, rydym yn sicrhau bod pob preswylydd yn profi safon uchel o ofal personol ac emosiynol, wedi'i deilwra i'w hanghenion a'u dewisiadau unigol.

Mae dathlu 35 mlynedd yn dyst i ymroddiad ein staff a chynhesrwydd ein preswylwyr a'n teuluoedd. Rydym yn falch o barhau i ddarparu amgylchedd diogel, cefnogol a llawen i bawb sy'n galw Cwrt Mytton yn gartref.” Cenhadaeth y cartref yw darparu gofal preswyl EMI 24 awr o ansawdd uchel wrth gefnogi annibyniaeth a dewis preswylwyr. Dewisir gweithgareddau ar y cyd gan staff a phreswylwyr sy'n cynnwys digwyddiadau cymdeithasol, cwisiau, cyngherddau, a chorau, gemau fel dominos, dartiau, bingo, a chrefftau. Maent hefyd yn mwynhau dathliadau tymhorol gan gynnwys barbeciws a phartïon Nadolig yn ogystal â boreau coffi, nosweithiau fideo, a theithiau i siopau, sioeau, llyfrgell a bwytai.

Edrych Ymlaen

Wrth i Gwrt Mytton ddathlu 35 mlynedd o wasanaeth, mae'r tîm yn parhau i fod wedi ymrwymo i greu amgylchedd diogel, cefnogol a llawen i bob preswylydd. Nid dathliad o'r gorffennol yn unig yw'r pen-blwydd - mae'n ailddatganiad o ymroddiad y cartref i ofal tosturiol a chysylltiad cymunedol.

]]>
/cy/newyddion/cartref-gofal-preswyl-emi-cwrt-mytton-yn-dathlu-35-mlynedd-o-ofal-a-chymuned/ /cy/newyddion/cartref-gofal-preswyl-emi-cwrt-mytton-yn-dathlu-35-mlynedd-o-ofal-a-chymuned/ Thu, 30 Oct 2025 11:12:39 GMT Emma Bennett
״ yn Dathlu Wythnos Pryd ar Glud 2025

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol ״ yn falch o gyhoeddi ei gyfranogiad yn Wythnos Pryd ar Glud 2025, a gynhelir o’r 3ydd i’r 7fed o Dachwedd. Mae'r fenter hon yn dathlu'r rôl hanfodol y mae gwasanaethau prydau bwyd cymunedol yn ei chwarae wrth gefnogi oedolion hŷn a thrigolion agored i niwed ar draws y DU - ac yma ym Mlaenau Gwent.

Nod Wythnos Pryd ar Glud yw:

  • Amlygu manteision cymdeithasol, economaidd, seicolegol ac ataliol gwasanaethau Pryd ar Glud ar draws y DU
  • Hyrwyddo gwerth aruthrol gwasanaethau prydau bwyd cymunedol, gan annog cefnogaeth gyhoeddus i ddarpariaeth leol
  • Codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd Pryd ar Glud - boed yn cael eu danfon i gartrefi neu ganolfannau dydd
  • Mynd i'r afael â, a chynyddu dealltwriaeth o unigrwydd, ynysu cymdeithasol, a phryderon diogelwch sy'n effeithio ar bobl hŷn ac agored i niwed

Ym Mlaenau Gwent, mae Prydau Cymunedol yn fwy na gwasanaeth danfon bwyd. Mae'n darparu maeth dyddiol, gwiriadau llesiant, a rhyngweithio cymdeithasol ystyrlon - gan rymuso trigolion i fyw'n annibynnol ac yn ddiogel yn eu cartrefi eu hunain. Mae'r gwasanaeth hefyd yn helpu i leddfu'r pwysau ar systemau iechyd a gofal cymdeithasol lleol drwy leihau unigedd a hyrwyddo llesiant.

Gyda'n gilydd, gadewch i ni sicrhau nad oes neb ym Mlaenau Gwent yn mynd heb y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt.

Os oes gennych ddiddordeb mewn manteisio ar brydau cymunedol, gallwch gysylltu â Thîm IAA Gwasanaethau Oedolion ar 01495 315700 neu ymweld â'n gwefan i gael rhagor o wybodaeth am y gwasanaeth Pryd ar Glud | Cyngor Bwrdeistref Sirol ״

Cadwch mewn cysylltiad a dilyn gweithgareddau a dathliadau'r wythnos ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio:

#PrydarGlud2025 #MwyNaDimOndPrydBwyd

]]>
/cy/newyddion/blaenau-gwent-yn-dathlu-wythnos-pryd-ar-glud-2025/ /cy/newyddion/blaenau-gwent-yn-dathlu-wythnos-pryd-ar-glud-2025/ Mon, 03 Nov 2025 12:34:41 GMT Emma Bennett
Campws peirianneg newydd ym Mlaenau Gwent yn nodi pennod newydd ar gyfer addysg STEM yn Ne Cymru Heddiw, yn ystod ymweliad Jo Stevens, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, a Jack Sargeant AS, Gweinidog Sgiliau Cymru, fe agorwyd cyfleuster Peirianneg Gwerth Uchel (High Value Engineering - HiVE) newydd yn swyddogol yng Nglyn Ebwy.

Datblygwyd yr HiVE mewn partneriaeth rhwng Cyngor Bwrdeistref Sirol ״ a Coleg Gwent, gyda chyllid gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru. Mae'r prosiect yn nodi pennod gyffrous newydd ar gyfer addysg STEM a datblygu sgiliau yn Ne Cymru.

Diolch i fuddsoddiad sylweddol o dros £15 miliwn gan Lywodraeth y DU (y Gronfa Lefelu i Fyny a'r Gronfa Ffyniant a Rennir) a rhaglen Cymoedd Technoleg Llywodraeth Cymru, mae gan y cyfleuster offer roboteg o'r radd flaenaf, uwch dechnolegau gweithgynhyrchu ac offer digidol trochol, i roi cyfle i bobl ifanc leol fanteisio ar hyfforddiant ymarferol fel erioed o'r blaen. 

Bu Jo Stevens a Jack Sargeant AS yn mwynhau taith dywys o'r gyfleuster, gan gwrdd â myfyrwyr a darlithwyr a chael golwg uniongyrchol ar rywfaint o'r offer a'r gofodau dysgu anhygoel y mae peirianwyr y dyfodol yn elwa ohonynt.

Mae'r cyfleuster pwrpasol hwn, sy'n mesur 21,808 troedfedd sgwâr ac a ddatblygwyd ar hen safle ffatri Monwel Hankinson, wedi'i gynllunio i fod o fudd i ddysgwyr ifanc a busnesau, gan weithredu fel bwydwr peirianwyr a technegwyr sgiliau uchel i ddiwydiannau'r dyfodol.

Bob blwyddyn mae angen tua 1,000 o weithwyr STEM ar Gymru i fodloni anghenion y diwydiant — ac eto, bu dim ond 600 o raddedigion yn pontio i rolau STEM yn 2023, sy'n arwydd o fwlch sgiliau sylweddol. Yn rhanbarth prifddinas Caerdydd yn unig, mae'r sector deunyddiau uwch a gweithgynhyrchu yn adrodd bwlch sgiliau o 21% — y bwlch mwyaf mewn unrhyw sector yng Nghymru — gan wneud i gyfleusterau fel yr HiVE yn hanfodol o ran adfywio ardaloedd.

Bydd y cyfleuster HiVE yn helpu i fynd i'r afael â'r diffyg hwn drwy gynnig cyfleusterau ar gyfer dysgu'r sgiliau sydd eu hangen ar bobl ifanc i fynd ar drywydd gyrfa yn y meysydd roboteg, awyrofod, cerbydau modur, chwaraeon modur, neu weithgynhyrchu deunyddiau uwch.  

Meddai Jo Stevens, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

“Bydd y campws hwn, sef y diweddaraf o'i fath, yn rhoi'r sgiliau sydd eu hangen ar bobl ifanc yn yr ardal i sicrhau swyddi a chyflogau da yn niwydiannau'r dyfodol.

“Rydwyf wrth fy modd bod cyllid oddi wrth Lywodraeth y DU yn cael ei defnyddio i hyfforddi'r genhedlaeth nesaf o beirianyddion, gan greu cyfleoedd i bawb a chyfrannu at dwf economaidd mewn sectorau allweddol megis gweithgynhyrchu uwch.”

Meddai Jack Sargeant, y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol:

“Mae agor y campws HiVE hwn yn garreg filltir nid yn unig i’r gymuned hon, ond am ddyfodol peirianneg ac arloesedd ledled Cymru.

“Gyda chyfleusterau roboteg, awyrofod a gweithgynhyrchu uwch o'r radd flaenaf, bydd yn rhoi'r sgiliau sydd eu hangen ar ddysgwyr – ni waeth o ble maent yn dod – i ennill gyrfaoedd gwerth uchel yn niwydiannau'r dyfodol.

“Ni fyddai hyn wedi bod yn bosibl heblaw am weledigaeth a chydweithrediad Cyngor ״, Coleg Gwent, a'n cydweithwyr yn Llywodraeth y DU i gyd-fynd ag uchelgais ein rhaglen Cymoedd Technoleg.”

Hefyd, ochr yn ochr â myfyrwyr ac addysgwyr presennol Coleg Gwent, fe wahoddwyd plant o ysgolion uwchradd lleol yn Ebwy Fawr, Tredegar ac Abertyleri i archwilio'r cyfleusterau — a bod yn dyst i gyfnewid y ffagl ar gyfer Rownd Derfynol Genedlaethol WorldSkills y DU a ddaeth i derfyn mewn modd Olympaidd yn HiVE. Fe ddarparodd hyn gyfle unigryw i sbarduno chwilfrydedd ac ysbrydoli cenhedlaeth newydd o ddarpar beirianwyr.

Meddai Nicola Gamlin, Pennaeth Coleg Gwent:

"Prif nod y cyfleuster yw i rymuso'r genhedlaeth newydd o beirianwyr i fynd i'r afael â heriau byd sy'n newid yn gyflym. Drwy brofiad ymarferol ym meysydd STEM, bydd myfyrwyr yn ennill y sgiliau sy'n hollbwysig ar gyfer dyfodol cynaliadwy — dyna'r rheswm pam ein bod mor falch o gyhoeddi'r cyfleuster newydd yn ystod Wythnos Hinsawdd Cymru.”

Meddai Cynghorydd John Morgan, o Gyngor Bwrdeistref Sirol ״:

 “Rydym yn falch iawn o fod wedi gweithio mewn partneriaeth â Coleg Gwent, Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru a busnesau lleol i sefydlu HiVE, sef symbol o arloesedd, cydweithrediad ac uchelgais ar gyfer ״. Mae'r campws hwn, a phopeth y mae'n ei gynnig, yn gatalydd ar gyfer cyfleoedd a thwf, ac ar gyfer creu dyfodol mwy disglair i bawb ynghyd. Drwy ddatblygu hybiau HiVE yn ein ysgolion, rydym yn rhoi arloesedd ac uchelgais wrth wraidd ein system addysg. Bydd yr hybiau hyn yn helpu i bobl ifanc weld yr hyn sy'n bosib, cysylltu â'r diwydiant, a magu'r sgiliau sydd eu hangen arnynt i ffynnu.”

Bydd HiVE yn gweithredu fel canolfan ar gyfer dysgu ac arloesi yn yr 21ain ganrif — gan ysbrydoli dysgwyr ôl-16 a dysgwyr aeddfed fel ei gilydd, cefnogi dysgu gydol oes, a chyfrannu'n uniongyrchol i adfywiad rhanbarthol.

I ddysgu rhagor am HiVE, ewch i: 

]]>
/cy/newyddion/campws-peirianneg-newydd-ym-mlaenau-gwent-yn-nodi-pennod-newydd-ar-gyfer-addysg-stem-yn-ne-cymru/ /cy/newyddion/campws-peirianneg-newydd-ym-mlaenau-gwent-yn-nodi-pennod-newydd-ar-gyfer-addysg-stem-yn-ne-cymru/ Mon, 03 Nov 2025 13:33:48 GMT Louise Bishop
Wnaeth glaw ddim atal y Bws Cerdded cyntaf yn Ysgol Gatholig y Santes Fair! Er gwaethaf y tywydd gwlyb, roedd yr hwyliau'n uchel y bore yma wrth i Ysgol Gynradd Gatholig y Santes Fair ym Mrynmawr, mewn partneriaeth â Swyddogion Diogelwch Ffyrdd ״, lansio cynllun Bws Cerdded yr ysgol yn falch.

Dyma'r tro cyntaf i'r ysgol gymryd rhan mewn menter o'r fath, ac roedd yn llwyddiant ysgubol! Cymerodd hyd yn oed cŵn cymorth yr ysgol, y Dachshunds Dotty a Betsy, ran.

Gan ddechrau o'r Parc Lles, dilynodd y disgyblion a'r staff lwybr wedi'i gynllunio'n ofalus i'r ysgol, gan ddefnyddio mannau croesi dynodedig i sicrhau taith ddiogel a phleserus. Daeth y daith gerdded i ben mewn pryd ar gyfer Clwb Brecwast, gan osod naws gadarnhaol ar gyfer y diwrnod i ddod.

Yn y dyfodol, mae'r ysgol yn bwriadu cynnal sesiynau Bws Cerdded ar ddydd Mawrth cyntaf pob mis, gan annog mwy o deuluoedd i gymryd rhan.

Nod y cynllun yw:

  • Lleihau tagfeydd traffig wrth gatiau'r ysgol yn ystod amseroedd gollwng plant
  • Hyrwyddo ffyrdd o fyw iachach trwy annog cerdded yn hytrach na theithio mewn car
  • Cefnogi lles plant, yn gorfforol ac yn feddyliol
  • Meithrin ymwybyddiaeth amgylcheddol trwy leihau allyriadau cerbydau

Mae cerdded gyda'i gilydd hefyd yn rhoi cyfle i blant gymdeithasu gyda ffrindiau, mwynhau awyr iach, a dechrau'r diwrnod gyda theimlad o gymuned.

Da iawn i Mr. Buckley, Pennaeth Ysgol Gatholig Santes Fair, am hyrwyddo'r fenter hon ac ysgogi staff a disgyblion i gymryd rhan. Rhannodd:

“Rydym yn gobeithio gwneud hwn yn fenter fisol ac annog cymaint o blant â phosibl i ymuno. Ni wnaeth y tywydd ein hatal ni heddiw—er y gallai fod wedi digalonni rhai rhag ymuno. Mwynhaodd y rhai a gymerodd ran y daith gerdded fer i’r ysgol yn fawr, gan sgwrsio â’u ffrindiau a’u hathrawon. Mae’r cynllun yn ffordd wych i’r plant ddechrau eu diwrnod gydag egni, cysylltiad, a theimlad o gyflawniad.”

Dywedodd Angharad Barrett, Swyddog Diogelwch Traffig Cyngor ״, “y byddem yn annog mwy o ysgolion yn gryf i ystyried sefydlu cynllun bws cerdded. Nid oes rhaid iddo gynnwys llwybr hir - mae hyd yn oed taith gerdded 10 munud o fan cyfarfod dynodedig yn ddigon i roi dechrau iach ac egnïol i blant i'w diwrnod, lleihau tagfeydd traffig o amgylch gatiau'r ysgol, a hyrwyddo arferion teithio mwy diogel a chynaliadwy. Os oes gan eich ysgol ddiddordeb mewn cymryd rhan, mae croeso i chi gysylltu â ni. Byddem yn hapus i drefnu ymweliad i drafod y cyfle yn fanylach.”

]]>
/cy/newyddion/wnaeth-glaw-ddim-atal-y-bws-cerdded-cyntaf-yn-ysgol-gatholig-y-santes-fair/ /cy/newyddion/wnaeth-glaw-ddim-atal-y-bws-cerdded-cyntaf-yn-ysgol-gatholig-y-santes-fair/ Tue, 04 Nov 2025 14:32:52 GMT Emma Bennett
Mae CBS ״ yn gwahodd ceisiadau cyllid gan bartïon yn y trydydd sector i gefnogi’r cyngor i gyflawni amcanion Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU (1) Mae CBS ״ yn gwahodd ceisiadau cyllid gan bartïon yn y trydydd sector i gefnogi’r cyngor i gyflawni amcanion Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU

Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU (y Gronfa) yn biler canolog o agenda Ffyniant Bro uchelgeisiol Llywodraeth y DU ac yn elfen sylweddol o’i chefnogaeth i leoedd ar draws y DU.

Prif nod y Gronfa yw meithrin balchder mewn lle a chynyddu cyfleoedd bywyd ledled y DU.

Mae’r Gronfa wedi’i rhannu’n dri maes blaenoriaeth:

  • • Cymuned a Lle
  • • Cefnogi Busnesau Lleol
  • • Pobl a Sgiliau

Mae’r grant hwn o dan y ddarpariaeth Cymuned a Lle ac mae ganddo ddau amcan, fel a ganlyn:

  • Cryfhau ein gwead cymdeithasol a meithrin ymdeimlad o falchder a pherthyn lleol, trwy fuddsoddi mewn gweithgareddau sy’n gwella cysylltiadau ac amwynderau ffisegol, diwylliannol a chymdeithasol, megis seilwaith cymunedol a mannau gwyrdd lleol, a phrosiectau a arweinir gan y gymuned.

  • Adeiladu cymdogaethau gwydn, diogel ac iach, trwy fuddsoddi mewn lleoedd o safon y mae pobl eisiau byw, gweithio, chwarae a dysgu ynddynt, trwy welliannau wedi’u targedu i’r amgylchedd adeiledig a dulliau arloesol o atal troseddu.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol ״ yn gwahodd partïon yn y trydydd sector i wneud cais am gyllid i gefnogi’r cyngor i gyflawni amcanion y Gronfa.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 5pm - Dydd Iau 20fed Tachwedd 2025

Dychwelwch ffurflenni cais i regeneration-projects@blaenau-gwent.gov.uk

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â regeneration-projects@blaenau-gwent.gov.uk

Ffurflen gais ’r Canllawiau Ffurflen gais

 

]]>
/cy/newyddion/mae-cbs-blaenau-gwent-yn-gwahodd-ceisiadau-cyllid-gan-bartion-yn-y-trydydd-sector-i-gefnogi-r-cyngor-i-gyflawni-amcanion-cronfa-ffyniant-gyffredin-y-du-1/ /cy/newyddion/mae-cbs-blaenau-gwent-yn-gwahodd-ceisiadau-cyllid-gan-bartion-yn-y-trydydd-sector-i-gefnogi-r-cyngor-i-gyflawni-amcanion-cronfa-ffyniant-gyffredin-y-du-1/ Thu, 06 Nov 2025 13:30:26 GMT Emma Bennett
Bargen ״ – Contract Cymdeithasol Newydd ar gyfer Dyfodol Tecach Mae Cyngor ״ wedi lansio menter newydd feiddgar i ail-lunio sut mae gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu dylunio a'u darparu - ac mae trigolion lleol yn cael eu gwahodd i helpu.

Mae Bargen ״ yn gontract cymdeithasol newydd rhwng y cyngor, trigolion a phartneriaid. Mae'n nodi gweledigaeth gyffredin ar gyfer bwrdeistref decach, iachach a mwy gwydn - un lle mae anghydraddoldebau iechyd yn cael eu datrys a phob preswylydd yn cael ei rymuso i ffynnu.

Anogir trigolion i ymweld â Bargen ״ a chwblhau arolwg byr am eu cymuned, gan helpu i lunio'r blaenoriaethau a'r camau gweithredu a fydd yn sail i'r Fargen.

Bydd y sylwadau a'r safbwyntiau wedyn yn cael eu hystyried gan Gynulliad Dinasyddion yn y Flwyddyn Newydd, gyda'r Fargen i fod yn destun ymgynghoriad pellach ym mis Chwefror.

Dywedodd Prif Weithredwr Cyngor ״, Stephen Vickers:

"Mae'r Fargen yn newid sylweddol o fodelau traddodiadol o ddarparu gwasanaethau o'r brig i lawr mewn cymunedau. Yn syml iawn, mae’r Fargen yn feddylfryd a fydd yn trawsnewid y ffordd rydyn ni i gyd yn gweithio gyda'n gilydd. Mae'n ymwneud â datblygu perthynas newydd gyda thrigolion a phartneriaid sy'n adeiladu ar y cryfderau a'r gallu mewn cymunedau ac yn ymrwymiad gwirioneddol i weithio gyda'n gilydd i ddylunio a darparu gwasanaethau a chyfleusterau cymunedol.

"Trwy weithio gyda'n gilydd gyda ffocws ar atal, grymuso a chydweithio, nod y Fargen yw torri'r cylch o alw cynyddol a chyllidebau gostyngol a chreu'r sylfeini i wella lles cymunedol hirdymor."

Mae'r Fargen wedi'i hadeiladu o amgylch pum cenhadaeth allweddol:

  • Blynyddoedd Cynnar – Adeiladu Dyfodol Disglair: Cefnogi plant a theuluoedd i roi'r dechrau gorau mewn bywyd i bob plentyn.
  • Dysgu Gydol Oes a Gwytnwch: Creu cyfleoedd i bobl o bob oed ddysgu, tyfu ac addasu.
  • Lles trwy Arweinyddiaeth Gymunedol: Grymuso pobl leol i arwain newid a gwella iechyd a hapusrwydd.
  • Economi Ffyniannus a Lleoedd Llewyrchus: Creu gofodau a chyfleoedd lle mae busnesau a chymunedau'n ffynnu gyda'i gilydd.
  • Cymunedau Grymus – Pŵer a Llwyddiant Cyffredin: Rhoi pŵer yn nwylo trigolion i lunio blaenoriaethau lleol a chyd-gynhyrchu atebion.

Dywedodd Arweinydd y Cyngor, Steve Thomas:

"Mae angen Bargen arnom ni oherwydd, ers 2010, mae cynghorau yng Nghymru wedi colli cyllid craidd sylweddol ac ar yr un pryd mae'r galw am wasanaethau hanfodol wedi cynyddu. Er mwyn cydbwyso cyllidebau mae cynghorau wedi cael eu gorfodi i godi incwm a thorri llawer o wasanaethau cyffredinol a chymunedol, ac yn syml ni all hyn barhau. Mae angen perthynas newydd â thrigolion a meddylfryd newydd ar draws y fwrdeistref gyfan i godi dyheadau a disgwyliadau o ran yr hyn y gallwn ei gyflawni gyda'n gilydd. 

"Ochr yn ochr â Chyngor Torfaen rydym eisoes yn cymryd camau beiddgar a gynlluniwyd i greu dyfodol lle gall pawb ffynnu yn ein bwrdeistref a bod yn falch o wneud pethau'n wahanol. Ni yw'r cynghorau ffederal cyntaf yng Nghymru, gan leihau costau uwch reolwyr, y cynghorau Marmot cyntaf i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd, a nawr y cynghorau cyntaf i ddatblygu Bargen gyda'n cymunedau.  

"Drwy rymuso ein cymunedau a buddsoddi mewn atal, gallwn fynd i'r afael ag achosion sylfaenol anghydraddoldeb a datgloi potensial llawn ״ gyda'n gilydd."

Er mwyn cyflawni'r genhadaeth hon, mae'r Cyngor yn gwneud newid diwylliannol a gweithredol sylfaenol - alinio buddsoddiad a gwasanaethau ar sail atal, tegwch a gwytnwch, a chefnogi staff i weithio'n agos gyda'n cymunedau fel arweinwyr a gweithredwyr newid.

Sut i gymryd rhan

Gwahoddir preswylwyr, grwpiau cymunedol a phartneriaid i gymryd rhan yn y gwaith o lunio’r Fargen. Ymwelwch â Bargen ״ i gwblhau'r arolwg a dysgu mwy am ddigwyddiadau ymgysylltu sydd ar ddod.

Gall trigolion hefyd gymryd rhan drwy ymuno â Chynulliad Dinasyddion ״ am dair sesiwn yn ystod mis Ionawr a mis Chwefror. Bydd llythyr yn cael ei anfon gyda dyddiad cau i gofrestru cyn y 30ain o Dachwedd. Bydd y cyfranogwyr wedyn yn cael eu dewis ar hap trwy broses gynrychioliadol i sicrhau bod y cynulliad yn adlewyrchu amrywiaeth y gymuned.

Mae hwn yn gyfle gwych i helpu i lunio dyfodol y fwrdeistref. 



]]>
/cy/newyddion/bargen-blaenau-gwent-contract-cymdeithasol-newydd-ar-gyfer-dyfodol-tecach/ /cy/newyddion/bargen-blaenau-gwent-contract-cymdeithasol-newydd-ar-gyfer-dyfodol-tecach/ Thu, 06 Nov 2025 14:46:22 GMT Louise Bishop
Adeiladu Dyfodol Cryfach - Powell Bespoke Interiors Ltd

Mae Powell Bespoke Interiors Ltd, sydd wedi’i leoli ym Mryn-mawr yn y De, yn wneuthurwr dodrefn sy’n arbenigo mewn dodrefn mewnol o ansawdd uchel a chabinetau wedi’u teilwra. Gan gyfuno peiriannau CNC o’r radd flaenaf â chrefftwaith traddodiadol, mae’r cwmni’n dylunio, cynhyrchu a gosod dodrefn pwrpasol, gan gynnwys cypyrddau dillad a cheginau. Eu ffocws yw cywirdeb ac effeithlonrwydd a chyflawni canlyniadau eithriadol wedi’u teilwra i ofod pob cleient.

Gyda chymorth Grant Datblygu Busnes ״, mae Powell Bespoke Interiors wedi buddsoddi mewn uwchraddio offer a seilwaith allweddol. Mae’r gwelliannau hyn wedi trawsnewid eu gweithdy – gan symleiddio cynhyrchu, gwella effeithlonrwydd, a chodi ansawdd eu cynhyrchion gorffenedig.

Dywedodd Rick Powell, Cyfarwyddwr Powell Bespoke Interiors Ltd: ‘Rydym yn falch o fod wedi buddsoddi mewn offer newydd sy’n ein galluogi i weithio’n fwy effeithlon, darparu safon crefftwaith sydd hyd yn oed yn uwch, a chreu gweithle mwy diogel a chynhyrchiol. Diolch i’r cymorth hwn, rydym hefyd wedi gallu dod â dau weithiwr newydd i’r busnes, gan gryfhau ein tîm a chreu cyfleoedd swyddi lleol. Mae’r grant wedi rhoi’r offer inni i dyfu, ymgymryd â phrosiectau mwy uchelgeisiol, ac adeiladu dyfodol cryfach i Powell Bespoke Interiors.’

Dywedodd y Cynghorydd John Morgan, Aelod Cabinet – Lle ac Adfywio a Datblygu Economaidd: ‘Mae’n wych clywed bod y buddsoddiad hwn wedi lleihau costau allanoli, cynyddu capasiti, a galluogi’r cwmni i ymdrin â mwy o waith yn ddiogel ac yn effeithiol, gan helpu’r busnes i dyfu wrth greu sylfaen gryfach ar gyfer ehangu yn y dyfodol.’

Cyfarwyddwr Rick Powell ’r Cynghorydd John Morgan o Gyngor Bwrdeistref Sirol ״

Mae Grant Datblygu Busnes ״ wedi’i ariannu gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU ac yn cael ei reoli gan y Tîm Busnes ac Arloesi yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol ״. Nod y Grant Datblygu Busnes yw cefnogi twf a datblygiad busnesau newydd a busnesau presennol ym Mlaenau Gwent.

.

Hoffem hefyd longyfarch Rick, sydd wedi cyrraedd rhestr fer rownd derfynol Microfusnes y Flwyddyn yng Ngwobrau Busnes Torfaen, Sir Fynwy a ״ 2025.

Gwefan:

Social media links:

]]>
/cy/newyddion/adeiladu-dyfodol-cryfach-powell-bespoke-interiors-ltd/ /cy/newyddion/adeiladu-dyfodol-cryfach-powell-bespoke-interiors-ltd/ Wed, 12 Nov 2025 10:18:36 GMT Carolyn Jenkins
Mae CES yn Buddsoddi mewn Technoleg Newydd i Ysgogi Twf

Mae Combined Engineering Services Limited (CES Ltd) yn gwmni peirianneg arbenigol sydd wedi’i leoli ar Ystad Ddiwydiannol Barleyfield, Bryn-mawr.

Mae CES Ltd yn dylunio ac yn cynhyrchu offer at ddibenion arbennig ar gyfer y sector gweithgynhyrchu. Mae eu cynhyrchion yn amrywio o offer llaw syml sy’n helpu i gydosod cynhyrchion i systemau cwbl awtomataidd ar gyfer cydosod a phrofi cydrannau modurol.

Ar hyn o bryd, mae’r cwmni’n cyflogi prentis drwy raglen Anelu’n Uchel y cyngor ac mae wedi cynnig swyddi amser llawn i ddau gyn-brentis yn y gorffennol, gan ddangos ei ymrwymiad i ddatblygu talent lleol.

Gyda chymorth gan Grant Datblygu Busnes ״, mae CES Ltd wedi prynu canolfan beiriannu CNC XYZ 750 TMC newydd. Bydd y buddsoddiad hwn yn galluogi’r cwmni i ymgymryd â phrosiectau mwy cymhleth, gwella effeithlonrwydd gweithredol, a dechrau strategaeth uwchraddio gweithdai ehangach sydd wedi’i hanelu at dwf hirdymor ac arallgyfeirio i farchnadoedd newydd.

Dywedodd Steve Williams, Cyfarwyddwr CES Ltd: ‘Mae’r grant datblygu busnes wedi galluogi CES i fabwysiadu technoleg newydd, arallgyfeirio ei weithrediadau a chefnogi twf cynaliadwy.’

Dywedodd y Cynghorydd John Morgan, Aelod Cabinet – Lle ac Adfywio a Datblygu Economaidd: ‘Mae’n wych gweld sut mae’r grant wedi helpu CES i gaffael peiriannau newydd, gan ganiatáu iddynt arallgyfeirio a thyfu eu busnes. Roeddwn i’n falch o gyfarfod a siarad â gweithwyr a phrentisiaid sydd wedi bod yn rhan o raglen brentisiaethau Anelu’n Uchel, ac roedd yn wych clywed sut mae’r rhaglen hon hefyd yn cefnogi’r cwmni a phobl ifanc leol.’

Cyfarwyddwyr Christopher Bow a Stephen Williams, ’r Cynghorydd John Morgan o Gyngor Bwrdeistref Sirol ״

Mae Grant Datblygu Busnes ״ wedi’i ariannu gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU ac yn cael ei reoli gan y Tîm Busnes ac Arloesi yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol ״. Nod y Grant Datblygu Busnes yw cefnogi twf a datblygiad busnesau newydd a busnesau presennol ym Mlaenau Gwent.

.

.

Cyfryngau cymdeithasol

]]>
/cy/newyddion/mae-ces-yn-buddsoddi-mewn-technoleg-newydd-i-ysgogi-twf/ /cy/newyddion/mae-ces-yn-buddsoddi-mewn-technoleg-newydd-i-ysgogi-twf/ Wed, 12 Nov 2025 10:37:25 GMT Carolyn Jenkins
Ysgol Pen-y-Cwm yn ennill gwobr fawreddog Cadwch Gymru'n Daclus am Drawsnewid Cymunedol Mae ysgol ym Mlaenau Gwent wedi ennill gwobr fawreddog Cadwch Gymru’n Daclus am drawsnewid rhan segur o dir eu hysgol yn hafan ffyniannus i fywyd gwyllt.

Anrhydeddwyd Ysgol Pen-y-Cwm yng Nglynebwy gyda'r Wobr Trawsnewid Cymunedol yng Ngwobrau Cadwch Gymru'n Daclus 2025.

Mae disgyblion, staff a hyd yn oed rhieni wedi gweithio gyda'i gilydd ar y prosiect, gan ddefnyddio cyllid gan Cadwch Gymru'n Daclus, a chefnogaeth gan Dîm Bioamrywiaeth Cyngor ״ a Cheidwaid ״ a helpodd i adeiladu ramp hygyrch fel y gall pawb fwynhau'r ardd. Mae'r ardd bellach yn cynnwys pwll bach, gwelyau blodau, cartrefi bwystfilod bach a draenogod a chyfleusterau i dyfu ffrwythau a llysiau sy'n cael eu defnyddio mewn gwersi coginio yn yr ysgol.

Gwnaeth ymdrechion yr ysgol i drawsnewid safle segur yn hafan ffyniannus i fywyd gwyllt a gofod croesawgar i ddysgwyr, staff a'r gymuned ehangach greu ‘argraff fawr’ ar y beirniaid. Gwnaethant ganmol 'gardd lewyrchus, gwbl hygyrch' yr ysgol, gan nodi bod y prosiect 'hyd yn oed yn fwy rhyfeddol' gan ei fod wedi’i ddylunio a'i adeiladu gan ddysgwyr eu hunain.

Canmolodd y beirniaid hefyd 'greadigrwydd, gwaith tîm ac ymroddiad' yr ysgol, gan ddweud ei bod 'nid yn unig wedi adfywio'r gofod ond wedi creu etifeddiaeth barhaol'.

Roedd dau aelod o staff a dau ddysgwr yn falch o gynrychioli'r ysgol yn y seremoni wobrwyo yn Llandudno, lle cawsant dystysgrif a gwobr o £100 mewn talebau garddio.

ѱ岹’r Pennaeth, Deborah Herald:

"Rydw i mor hynod o falch o'n dysgwyr a'n staff am eu gweledigaeth a'u gwaith caled ar y prosiect hwn. Mae'r wobr yn dyst i'r hyn y gellir ei gyflawni pan fydd cymuned yn gweithio gyda'i gilydd i greu rhywbeth ystyrlon a chynaliadwy."

Roedd yr Aelod Cabinet dros Blant, Pobl Ifanc a Theuluoedd, y Cynghorydd Sue Edmunds, yn falch iawn o weld yr ardd gyda’i llygaid ei hun. Meddai:

"Waw! Am brosiect hollol wych - nid yn unig mae'n ofod allanol gwych i ddysgwyr a staff ei fwynhau, mae hefyd yn cyfrannu tuag at nodau bioamrywiaeth a chynaliadwyedd. Rydym yn ymrwymedig i weithio mewn partneriaeth â'n hysgolion i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael y dechrau gorau mewn bywyd ac yn gallu ffynnu, ac mae eu lles emosiynol a chorfforol yn allweddol i hyn. Mae cael cydnabyddiaeth genedlaethol i’r holl waith caled gan Cadwch Gymru'n Daclus yn goron ar y cyfan!"

Meddai'r dysgwr Ethan Daly:

"Fy rôl i yn y prosiect oedd helpu gyda'r danfoniadau, clirio'r ddaear, helpu i osod y llwybr graean/cerrig, llenwi'r pwll a'r planwyr gyda dŵr a phridd, plannu, a gwneud teithiau diddiwedd gyda'r whilber. Fy hoff rôl oedd helpu i glirio’r tir oherwydd fe wnes i fwynhau cloddio a gwneud y ddaear yn wastad ac yn ddiogel gan ddefnyddio'r offer garddio newydd a gawsom gan Cadwch Gymru'n Daclus. Fy moment fwyaf balch oedd ennill y Wobr Trawsnewid Cymunedol yn Llandudno. Doeddwn i erioed wedi bod yng Ngogledd Cymru o'r blaen ac yn meddwl nad oedd cyfle gyda ni i ennill, ond roedd fy mysedd wedi’u croesi. Fe wnaeth i mi deimlo'n hapus iawn ac yn falch o'r hyn rydyn ni wedi'i greu."

Dywedodd y Rheolwr Prosiect a'r Cynorthwy-ydd Addysgu James O'Connell:

"Rwy'n hynod falch o'n holl ddysgwyr a gwirfoddolwyr am yr hyn rydyn ni wedi gallu ei gyflawni wrth greu'r Ardd Bywyd Gwyllt. Roedd llawer o rwystrau a heriau yn ystod y prosiect hwn, ond mae'n dyst i ni fel cymuned ysgol y gall dyfalbarhad, gwaith caled ac ymroddiad parhaus ddod â llwyddiant yn y pen draw, sydd wedi'i gydnabod yng Ngwobrau Cadwch Gymru'n Daclus yn ddiweddar."

]]>
/cy/newyddion/ysgol-pen-y-cwm-yn-ennill-gwobr-fawreddog-cadwch-gymrun-daclus-am-drawsnewid-cymunedol/ /cy/newyddion/ysgol-pen-y-cwm-yn-ennill-gwobr-fawreddog-cadwch-gymrun-daclus-am-drawsnewid-cymunedol/ Wed, 12 Nov 2025 12:58:46 GMT Louise Bishop
Y Gweinidog yn agor MUGA newydd Tredegar mewn Buddsoddiad Sylweddol i Flaenau Gwent Agorwyd Ardal Gemau Aml-ddefnydd (MUGA) newydd sbon a chae 3G wedi'i uwchraddio yng Nghanolfan Chwaraeon Tredegar yn swyddogol heddiw gan Weinidog Cymru dros Ddiwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol, Jack Sargeant AS.

Mae'r cyfleuster chwaraeon cymunedol wedi'i uwchraddio wedi'i ariannu gyda grant o Gronfa Cydweithredu Cyrtiau Chwaraeon Cymru o £80,069 gyda chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru. Torrodd Jack Sargeant AS y rhuban ac, ynghyd â gwesteion gwadd, cafodd weld y cyfleuster ar waith gyda phobl ifanc o Ysgol Gyfun Tredegar gerllaw.

Mae'r grant yn fuddsoddiad sylweddol mewn chwaraeon ar lawr gwlad a llesiant cymunedol ar draws ״, sydd hefyd yn cynnwys gosod paneli solar i wella cynaliadwyedd y safle.

Dywedodd Gweinidog Cymru dros Ddiwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol Jack Sargeant AS:

"Mae'n wych agor yr Ardal Gemau Aml-ddefnydd newydd hon yn swyddogol yng Nghanolfan Chwaraeon Tredegar. Mae'r buddsoddiad diweddaraf hwn yn ategu eraill rydyn ni eisoes wedi'u gwneud yma yn y cae 3G a'r prosiectau arbed ynni, trwy Chwaraeon Cymru.

"Mae ein buddsoddiadau'n dangos ein hymrwymiad i gefnogi chwaraeon ar lawr gwlad, creu cyfleoedd i bobl o bob oed fod yn actif yn eu cymuned leol, a gwneud cyfraniad at adeiladu Cymru iachach, lanach a gwyrddach ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

"Gwyddom pa mor bwysig yw mynediad at gyfleusterau chwaraeon o safon ar gyfer llesiant corfforol a meddyliol, ac mae'r prosiect hwn yn dangos yr hyn y gellir ei gyflawni pan fydd y llywodraeth, awdurdodau lleol a phartneriaid cymunedol yn cydweithio.”

Dywedodd y Cynghorydd Helen Cunningham, Aelod Cabinet dros Oedolion a Chymunedau yng Nghyngor ״:

“Bydd y lle newydd gwych hwn yn ganolfan ar gyfer gweithgaredd cymunedol, chwaraeon a llesiant. Diolch i Lywodraeth Cymru a Chwaraeon Cymru am gefnogi’r buddsoddiad hwn mewn pobl a chyfleoedd. Rydym yn falch o gydweithio ag Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin, ein partner lleol gwerthfawr yr ydym yn gweithio’n agos gydag ef i helpu i adeiladu cymunedau iachach a mwy actif ym Mlaenau Gwent. Mae pob panel solar sy’n cael ei godi yn helpu i ymateb i’r argyfwng hinsawdd, ac mae’n wych gweld y buddsoddiad mewn pŵer solar yn y cyfleuster cymunedol hwn.”

Ychwanegodd Tom Kivell, Cyfarwyddwr Dros Dro, Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin:

“Mae’r buddsoddiad hwn yn rhoi mynediad i bobl leol, yn enwedig pobl ifanc, at gyfleusterau o ansawdd uchel ar stepen eu drws. Mae cadw cymunedau’n actif yn hanfodol ar gyfer iechyd a llesiant, ac mae’r prosiect hwn yn adlewyrchu ein hymrwymiad cyffredin i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.”

Dywedodd Owen Hathaway, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Mewnwelediad, Polisi a Materion Cyhoeddus Chwaraeon Cymru:

“Canfu ein Harolwg Chwaraeon Ysgol diwethaf yn 2022 fod bron i hanner y plant ym Mlaenau Gwent eisiau mwy o gyfleoedd i chwarae pêl-fasged, mae traean yn awyddus i chwarae mwy o denis, ac mae un rhan o bump eisiau mwy o gyfleoedd i chwarae pêl-rwyd.

“Oherwydd hyn, roeddem wrth ein bodd yn cefnogi’r prosiect cydweithredu cyrtiau hwn i helpu i ddiwallu’r galw lleol am fwy o leoedd lle gall pobl fwynhau chwarae’r tri chwaraeon hyn yn hamddenol.

“Dros y chwe blynedd diwethaf, rydym wedi buddsoddi mwy na £725,000 o gyllid Llywodraeth Cymru yng Nghanolfan Chwaraeon Tredegar oherwydd ei fod yn gyfleuster mor allweddol i’r gymuned leol. Yn ogystal â’r gwaith cydweithredu cyrtiau, aeth ein buddsoddiad tuag at greu’r cae 3G, gosod paneli solar a mesurau eraill sydd wedi helpu i wneud y ganolfan yn fwy effeithlon o ran ynni fel ei bod yn rhatach i’w rhedeg.”

I gloi, dywedodd Phill Sykes, Cyfarwyddwr Gweithrediadau, Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin:

"Cenhadaeth Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin yw Gwella Bywyd Cymunedol. Rwy'n falch o bawb yn yr Ymddiriedolaeth sy'n gweithio mor galed i gyflawni hyn a thrwy gyllid ychwanegol y gallwn ni wir wella ein seilwaith a chreu cyfleusterau anhygoel i'r gymuned leol eu defnyddio."

* Mae Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin yn sefydliad nid-er-elw sydd wedi ymrwymo i wella cyfleusterau hamdden a dysgu pobl ״. Mae pawb sy'n gweithio yn yr Ymddiriedolaeth yn canolbwyntio ar gefnogi a gwella bywyd cymunedol. Mae'r Ymddiriedolaeth yn gweithio'n agos gydag ystod eang o bartneriaid gan gynnwys sefydliadau gwirfoddol, statudol a thrydydd sector i ddarparu'r gwasanaethau gorau posibl ar draws canolfannau chwaraeon, llyfrgelloedd, Parc Bryn Bach, Tŷ a Pharc Bedwellty a dysgu oedolion yn y gymuned.

 

]]>
/cy/newyddion/y-gweinidog-yn-agor-muga-newydd-tredegar-mewn-buddsoddiad-sylweddol-i-flaenau-gwent/ /cy/newyddion/y-gweinidog-yn-agor-muga-newydd-tredegar-mewn-buddsoddiad-sylweddol-i-flaenau-gwent/ Thu, 13 Nov 2025 09:04:34 GMT Louise Bishop
Dewch i gwrdd â'n Pencampwr Iaith Olaf ar gyfer 2025: Steve Bard Rydym wrth ein bodd yn cyflwyno Steve Bard, ein Pencampwr Cymraeg olaf ar gyfer 2025, piler gwirioneddol o gymuned ״ ac eiriolwr angerddol dros y Gymraeg.

Wedi'i eni yng Nghaerwrangon a'i fagu yn Six Bells, mae Steve wedi bod yn wyneb cyfarwydd ac annwyl yn yr ardal ers degawdau. Gyda dros 49 mlynedd o ymroddiad i Gôr Meibion Abertyleri, mae ei daith gerddorol wedi cyffwrdd â bywydau di-ri. Fel Cynghorydd Cymuned ymroddedig, mae Steve wedi helpu i ddod â llawenydd i'r dref drwy ddigwyddiadau fel Party in the Park a Wales in Bloom, lle enillodd y gymuned wobr arian.

Dechreuodd cariad Steve at y Gymraeg yn 2010 pan ddaeth yr Eisteddfod i Lynebwy. Ar ôl perfformio gyda'i gôr, baglodd i mewn i Faes D, pabell y dysgwyr Cymraeg, a syrthiodd mewn cariad ar iaith. Cofrestrodd ar unwaith ar gwrs Mynediad gyda Dysgu Cymraeg a symud ymlaen i lefel Canolradd, gan ddod yn siaradwr Cymraeg hyderus. Er bod bywyd yn ei gwneud hi'n anodd parhau â dosbarthiadau ffurfiol, mae Steve yn parhau i fod yn ymroddedig iawn, gan blethu caneuon Cymraeg i'r corau y mae'n arwain ac yn perfformio gyda nhw.

Ysbrydoli'r Genhedlaeth Nesaf fel athro cyflenwi yn Ysgol Uwchradd Trefynwy, mae Steve yn aml yn camu i mewn i ddysgu gwersi Cymraeg. Mae ei frwdfrydedd yn heintus, mae'n annog myfyrwyr i gofleidio'r iaith a'r diwylliant gyda balchder a chwilfrydedd.

Daeth Steve o hyd i gymuned fywiog o ddysgwyr drwy grŵp Facebook, gan gysylltu ag eraill ledled y DU ar gyfer penwythnosau Cymraeg yn unig i ffwrdd. "Rydyn ni jyst yn archebu Airbnb a chwrdd - rydyn ni'n ceisio ein gorau i siarad Cymraeg yn unig. Rydw i wedi gwneud ffrindiau hyfryd trwy'r grŵp hwn, ac rydyn ni'n cynllunio taith arall cyn bo hir. Dyma'r ffordd orau o ddysgu!”

Yn Hyrwyddwr ym Mhob Ystyr o redeg Tyleri Travel yn Abertyleri i arwain a chanu mewn sawl cor, mae Steve yn dod â'i gariad at y Gymraeg a'i gymuned ym mhopeth y mae'n ei wneud. Mae ei egni, ei gynhesrwydd a'i ymroddiad yn ei wneud yn aelod gwirioneddol haeddiannol o restr anrhydeddau Pencampwyr Cymraeg eleni.

Ydych chi'n adnabod rhywun sy'n hyrwyddo'r iaith a'r diwylliant Cymraeg? Enwebwch nhw heddiw a'n helpu i ddathlu'r rhai sy'n mynd y tu hwnt i gadw ein treftadaeth yn fyw!

Anfonwch eich enwebiadau i : Cymraeg@blaenau-gwent.gov.uk

Eisiau dysgu Cymraeg:

]]>
/cy/newyddion/dewch-i-gwrdd-an-pencampwr-iaith-olaf-ar-gyfer-2025-steve-bard/ /cy/newyddion/dewch-i-gwrdd-an-pencampwr-iaith-olaf-ar-gyfer-2025-steve-bard/ Thu, 13 Nov 2025 15:52:31 GMT Carolyn Jenkins
Cymuned Ddysgu Ebwy Fawr yn Ennill Gwobr Aur Fawreddog Cymraeg Campus (1) Mae Cymuned Ddysgu Ebwy Fawr yn falch o gyhoeddi bod ei chyfnod cynradd wedi ennill Gwobr Aur Fawreddog Cymraeg Campus, sy'n nodi carreg filltir arwyddocaol yn ymrwymiad yr ysgol i hyrwyddo'r iaith Gymraeg.

Mae'r cyflawniad hwn yn ganlyniad blynyddoedd o ymdrech ymroddedig, gyda staff a dysgwyr yn gweithio'n ddiflino i ymgorffori'r iaith Gymraeg ym mhob agwedd ar fywyd yr ysgol. Mae Gwobr Aur Cymraeg Campus yn cydnabod ysgolion sy'n dangos ymrwymiad eithriadol i greu amgylchedd dwyieithog, ac mae Cymuned Ddysgu Ebwy Fawr yn falch o fod yr ysgol gynradd gyntaf ym Mlaenau Gwent - ac ymhlith ychydig ddethol yn Ne Cymru - i dderbyn yr anrhydedd hon.

“Rydym yn hynod falch o'n cyfnod cynradd am y cyflawniad rhagorol hwn,” meddai'r Pennaeth, Mrs Melanie Thomas. “Mae'n adlewyrchu ein hymroddiad i feithrin cymuned ddwyieithog i staff, dysgwyr, a'r cyhoedd ehangach. Diolch arbennig iawn i Leanne Skinner am ei holl waith caled wrth ein harwain i ddod yr ysgol gynradd gyntaf ym Mlaenau Gwent ac un o'r ychydig ysgolion yn Ne Cymru i gyflawni'r wobr wych hon.”

Dywedodd y Cynghorydd Sue Edmunds, Aelod Cabinet Plant, Pobl Ifanc a Theuluoedd, “Llongyfarchiadau mawr i Gymuned Ddysgu Ebwy Fawr ar dderbyn y wobr hon, mae'n dyst i faint o amser, gwaith ac ymdrech anhygoel a roddwyd gan y cyfnod cynradd a'r holl staff a disgyblion.”

I'r rhai sy'n anghyfarwydd, mae Gwobr Aur Cymraeg Campus yn dyst i ymdrechion parhaus ysgol i hyrwyddo a dathlu'r iaith Gymraeg, gan sicrhau ei bod yn ffynnu am genedlaethau i ddod.

Am ragor o wybodaeth am Gymuned Ddysgu Ebwy Fawr ewch i:

 

]]>
/cy/newyddion/cymuned-ddysgu-ebwy-fawr-yn-ennill-gwobr-aur-fawreddog-cymraeg-campus-1/ /cy/newyddion/cymuned-ddysgu-ebwy-fawr-yn-ennill-gwobr-aur-fawreddog-cymraeg-campus-1/ Mon, 17 Nov 2025 11:53:58 GMT Carolyn Jenkins
Agor Drysau, Agor Calonnau: Croeso Rhanbarthol i Deuluoedd Maeth Ar Draws Gwent  

O'r helô cyntaf i'r cwtsh cyntaf, mae timau maethu ar draws Gwent yn taflu goleuni ar yr hyn y mae'n ei olygu mewn gwirionedd i groesawu a pham ei fod wrth wraidd pob taith maethu.

Mae Maethu Cymru, y rhwydwaith cenedlaethol o 22 o wasanaethau maethu awdurdodau lleol, yn dod â'r timau hyn ynghyd o dan nod cyffredin: sicrhau y gall pob plentyn yng Nghymru aros yn eu cymuned leol, yn agos at y bobl a'r lleoedd sy'n bwysig. Yn wahanol i asiantaethau annibynnol er-elw, mae Maethu Cymru nid-er-elw, sy'n golygu bod pob ceiniog yn mynd yn ôl i gefnogi plant, gofalwyr a theuluoedd yn eu hardal leol.

Ar draws Gwent – ​​״, Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd a Thorfaen – mae timau maethu awdurdodau lleol wedi'u huno o dan un neges: mae maethu yn ymwneud ag agor eich cartref, eich calon a'ch bywyd i blentyn neu berson ifanc sydd angen teimlo'n ddiogel a chael ei weld.

Mae'r ffocws rhanbarthol hwn yn adeiladu ar fenter genedlaethol Croeso Mawr Maethu Cymru, sy'n helpu plant a phobl ifanc i ddysgu mwy am eu teuluoedd maeth newydd cyn iddynt gyrraedd. Mae'r platfform digidol, wedi'i lunio gan bobl ifanc sydd â phrofiad o ofal, yn gadael i blant weld pwy yw eu gofalwyr, sut beth yw eu cartrefi a hyd yn oed pa anifeiliaid anwes neu hobïau maen nhw'n eu rhannu. Mae'n gwneud yr eiliadau cyntaf hynny'n llai ansicr ac yn tawelu meddyliau rhywfaint: y cam cyntaf wrth helpu plentyn i deimlo ei fod yn perthyn go iawn.

“Dywedodd ein plant wrthym eu bod eisiau mwy o wybodaeth am ble roedden nhw’n mynd i fyw, sut olwg fyddai ar eu hystafell, a oes anifeiliaid anwes, a beth mae eu gofalwyr yn mwynhau ei wneud. Mae Croeso Mawr yn darparu’r sicrwydd ’r cysylltiad sydd eu hangen i roi’r cychwyn gorau posibl i berthynas.” – Alastair Cope, Pennaeth Maethu Cymru

Mae’r ymdeimlad hwnnw o berthyn wrth wraidd yr ymgyrch Croeso yng Ngwent. Mae’n ymwneud â’r eiliadau bach, dynol sy’n llunio profiad pob plentyn: y wên gyntaf wrth y drws, y pryd cyntaf a rennir, y “da iawn” cyntaf ar ôl diwrnod mawr.

Ar draws y rhanbarth, mae’r ymgyrch yn archwilio beth mae croeso yn ei olygu mewn gwahanol fathau o faethu. Yn Nhorfaen, mae ffocws ar faethu pobl ifanc, gan ein hatgoffa bod pobl ifanc yn dal i fod yn blant yn y bôn ac yn tynnu sylw at yr eiliadau allweddol ym mywyd pobl ifanc. Efallai bod y bachgen bach a oedd unwaith yn llinellu ceir tegan bellach yn ymarfer ar gyfer ei brawf gyrru; efallai bod y ferch a oedd unwaith yn gwisgo fel tywysoges bellach yn dewis ei ffrog prom. Gyda thua 150 o blant mewn gofal a bron i hanner rhwng 13 a 17 oed, mae angen mwy o ofalwyr i gynnig sefydlogrwydd, cefnogaeth a theimlad o berthyn.

Yn Sir Fynwy, mae'r ffocws ar seibiant byr a maethu rhiant a phlentyn yn tynnu sylw at ddau faes cynyddol o angen. Mae gofalwyr seibiant byr yn darparu arosiadau rheolaidd, wedi'u cynllunio i blant a allai fod ag anghenion ychwanegol neu y mae eu teuluoedd angen cefnogaeth ychwanegol.

“Dim ond ers ychydig fisoedd yn unig dw i wedi bod yn ei wneud, ond pan ddywedodd fy mhlentyn maeth seibiant cyntaf wrthyf, ar hap… ‘Dw i'n teimlo'n ddiogel yma.’ Fe wnaeth hynny doddi fy nghalon. Roeddwn i'n gwybod fy mod i'n gwneud y peth iawn.” – John, gofalwr maeth Sir Fynwy

Yn y cyfamser, mae maethu rhiant a phlentyn yn helpu rhieni a phlant i aros gyda'i gilydd yn ddiogel o dan arweiniad gofalwyr profiadol. Mae'n rhan hanfodol ac sy'n ehangu o waith maethu Gwent.

Ym Mlaenau Gwent, y ffocws yw maethu plant ag anableddau neu anghenion cymhleth, gan bwysleisio sut y gall y gefnogaeth a'r ddealltwriaeth gywir helpu pob plentyn i deimlo'n abl, yn gyfforddus ac yn wirioneddol wedi’i groesawu.

Mae'r gofalwyr maeth Sandra ac Ian yn cynnig seibiant i blant ag anableddau. Dywed Sandra:

"Rydym yn mwynhau darparu gofal seibiant i blant ag anableddau. Fel rhieni i bedwar o blant, rhai ohonynt ag anghenion dysgu ychwanegol, rydym wedi ennill cymwysterau ac rydym ein dau bellach yn gweithio'n broffesiynol yn y maes hwn. Ochr yn ochr â chynnig sefydlogrwydd gartref, rydym yn cynllunio ein penwythnosau i roi profiadau i'r plant y gallent eu colli fel arall. Mae plentyn sy'n aros gyda ni yn ymuno'n naturiol â'r gweithgareddau a wnawn fel teulu, gan sicrhau bod rhywbeth hwyliog a chynhwysol yn digwydd bob amser."

Ar draws Caerffili a Chasnewydd, mae timau maethu yn hyrwyddo'r neges bod pob math o ofal yn dechrau gyda chroeso. Boed yn ofal tymor byr, cartref tymor hir neu ofal brys, gall y cysylltiad cyntaf Sharon[GLA1]  - gwên, pryd o fwyd a rennir neu sicrwydd ysgafn "rydych chi'n ddiogel yma" - newid bywyd am byth.

Ochr yn ochr â chroesawu gofalwyr maeth newydd, mae Maethu Cymru Gwent hefyd yn annog ymholiadau gan ofalwyr a allai fod yn ystyried trosglwyddo o asiantaethau maethu annibynnol. Cynigir croeso cynnes a rhwydwaith cymorth cryf i ofalwyr sy'n trosglwyddo, gyda sicrwydd bod yr holl adnoddau'n aros o fewn cymunedau lleol a bod plant Gwent yn elwa yn uniongyrchol.

Os ydych chi erioed wedi meddwl tybed a allech chi faethu, neu wedi meddwl "efallai un diwrnod", nawr yw'r amser i ddarganfod mwy. Nid oes angen yr holl atebion arnoch chi - yr hyn sydd bwysicaf yw'r parodrwydd i groesawu.

Dysgwch fwy neu ymholwch gyda'ch tîm Maethu Cymru lleol yn

]]>
/cy/newyddion/agor-drysau-agor-calonnau-croeso-rhanbarthol-i-deuluoedd-maeth-ar-draws-gwent/ /cy/newyddion/agor-drysau-agor-calonnau-croeso-rhanbarthol-i-deuluoedd-maeth-ar-draws-gwent/ Fri, 21 Nov 2025 15:30:27 GMT Emma Bennett
Mae Drop Zone Golf yn Dathlu ei Ben-blwydd Cyntaf

Bydd The Drop Zone Golf yn dathlu eu phen-blwydd cyntaf ym mis Tachwedd, gan nodi blwyddyn lwyddiannus o ddarparu efelychwyr golff blaengar i golffwyr o bob lefel eu mwynhau. Yn ogystal â’r efelychwyr golff, mae The Drop Zone hefyd yn cynnig siop golff lawn, gweithdy addasu, atgyweirio a gwasanaethu clwb, bar chwaraeon a dartiau rhyngweithiol i bawb eu mwynhau.

I ddathlu eu phen-blwydd sydd ar ddod, maent yn cynnal Diwrnod Agored arbennig ar 29 Tachwedd o 10yb tan hwyr – cyfle i bawb ddod draw, profi ein efelychwyr o’r radd flaenaf, a gweld pam mae The Drop Zone Golf yn ffefryn lleol. P’un a ydych yn brofiadol neu’n chwilfrydig, byddem wrth ein bodd yn eich croesawu!

Cafodd The Drop Zone Golf ei gefnogi gan Dîm Busnes ac Arloesi Cyngor ״, a ddarparodd gymorth cychwyn, gan gynnwys Grant Datblygu Busnes a chyfarwyddyd drwy’r rhaglen Hwyluso Mentergarwch.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros yr Economi ’r Lle, y Cynghorydd John Morgan:
“Mae The Drop Zone Golf yn llwyddiant mawr yn Nhredegar/״. Mae’n darparu cyfleuster ardderchog i golffwyr difrifol ac yn cynnig hwyl i’r teulu cyfan drwy’r gweithgareddau sydd ar gael. Llongyfarchiadau ar flwyddyn gyntaf wych a phob lwc ar gyfer y dyfodol.”

Dywedodd un o sylfaenwyr The Drop Zone Golf, Gareth James:
“Wrth i ni ddathlu ein pen-blwydd cyntaf, rydym yn hynod falch o’r hyn rydym wedi’i gyflawni ac yn ddiolchgar iawn i bawb sydd wedi’n cefnogi ar hyd y ffordd. O ergydion bythgofiadwy i lawer o chwerthin, mae eich cefnogaeth wedi gwneud The Drop Zone Golf yn ganolfan fywiog i gariadon golff a golffwyr newydd.
Dyma i lawer mwy o flynyddoedd o golff gwych a chwmni gwych!”

]]>
/cy/newyddion/mae-drop-zone-golf-yn-dathlu-ei-ben-blwydd-cyntaf/ /cy/newyddion/mae-drop-zone-golf-yn-dathlu-ei-ben-blwydd-cyntaf/ Fri, 28 Nov 2025 11:45:26 GMT Emma Bennett
Camwch yn Ôl mewn Amser: Datgelu Llwybr Hanes Digidol Newydd Abertyleri Mae gan Abertyleri ffordd newydd o archwilio ei gorffennol balch! Helpodd disgyblion o Gampws Dysgu 3-16 Abertyleri i lansio llwybr hanes digidol cyffrous yr wythnos hon, gan wahodd pobl leol ac ymwelwyr i ddarganfod y straeon y tu ôl i dirnodau'r dref.

Wedi'i gomisiynu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol ״ a'i ariannu drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, mae'r llwybr yn defnyddio'r platfform History Points i arwain cerddwyr ar lwybr cylchol sy'n cynnwys 10 safle diddorol - o adeiladau hanesyddol i weithiau celf trawiadol.

Ar hyd y ffordd, datgelodd y disgyblion ffeithiau annisgwyl, fel bywyd blaenorol llyfrgell y dref fel Capel Methodistiaid Calfinaidd y Drindod, lle gosodwyd y garreg sylfaen ym 1877 gan Jane Jones – un o drigolion cynharaf Abertyleri a menyw fusnes arloesol.

Roedd y disgyblion wrth eu bodd â'r profiad:

Roeddwn i'n hoffi'r holl gelf yn y twnnel.” – Ruby

Roeddwn i'n hoffi chwilio am y codau QR.” – Megan

Roeddwn i'n hoffi dysgu am bob adeilad.” – Livia

Dywedodd y Cynghorydd John Morgan, Aelod Cabinet dros yr Economi a Lleoedd:

“Mae Abertyleri yn adnabyddus am ei threftadaeth gloddio, ond mae ei hanes hefyd yn llawn straeon ysbrydoledig - pobl a ymladdodd dros hawliau gweithwyr, gofal iechyd gwell, ’r bleidlais. Menywod cryf fel Beatrice Green, Thora Silverthorn, a Jane Jones a luniodd y dref hon pan oedd gwleidyddiaeth a busnes yn cael eu dominyddu gan ddynion. Gobeithiwn y bydd y llwybr hwn yn ennyn chwilfrydedd a balchder yn ein cymuned.”

Mae’r llwybr newydd yn rhan o ymdrech ehangach i ddenu ymwelwyr a rhoi hwb i ganol trefi, gyda llwybrau tebyg ar gael nawr yng Nglynebwy a mwy yn dod yn fuan.

Yn barod i archwilio? Gafaelwch yn eich ffôn, sganiwch y codau QR, a chymerwch daith gerdded drwy hanes!

]]>
/cy/newyddion/camwch-yn-ol-mewn-amser-datgelu-llwybr-hanes-digidol-newydd-abertyleri/ /cy/newyddion/camwch-yn-ol-mewn-amser-datgelu-llwybr-hanes-digidol-newydd-abertyleri/ Fri, 28 Nov 2025 14:43:38 GMT Emma Bennett
Sut mae Cerddoriaeth yn Trawsnewid Bywydau Tadau ym Mlaenau Gwent

Mae Inside Out Cymru a Dechrau’n Deg ״ yn falch o gynnig cipolwg ar ‘Meithrin Tadau’ - prosiect llesiant creadigol a gyflwynir ledled ״ mewn partneriaeth â’r cerddor Alex Lupo, yr awdur Leigh Manley ’r tîm Cefnogi Tadau. Ariennir y prosiect yn garedig gan raglen grantiau Dynion Creadigol y Baring Foundation.

Cafodd ein ffilm ei chyhoeddi ar ddiwrnod Rhyngwladol Dynion, ac mae’n tynnu sylw at sut mae cerddoriaeth wedi rhoi cyfle i ddynion lleol gysylltu, gwella hyder, a gwella llesiant, gyda llawer ohonynt yn cyrraedd yn teimlo’n unig, heb fawr o hyder, neu’n ansicr sut i ymgysylltu’n greadigol.

Gyd’r therapydd cerddoriaeth a cherddor proffesiynol Alex Lupo yn eu hwyluso, roedd y gweithdai’n croesawu tadau o bob gallu - o ddechreuwyr pur i gerddorion profiadol - i ystyried cyfansoddi caneuon, technoleg cerddoriaeth, ‘jamio’, byrfyfyrio a sesiynau gwrando. Roedd cerddoriaeth yn cynnig man dechrau hygyrch heb fawr o bwysau, gan alluogi tadau i greu gyda’i gilydd, rhannu profiadau, a meithrin cyfeillgarwch.

Dywedodd Lupo “Roeddwn i am annog golwg wahanol ar wrywdod”
ac mae ei ddull yn canolbwyntio ar greadigrwydd, cydweithio a bod yn agored yn emosiynol.

Roedd cyfranogwyr yn gweld newid cadarnhaol sylweddol:

●&Բ;&Բ;&Բ;&Բ;&Բ;&Բ; Dywedodd 67% eu bod yn teimlo’n fwy creadigol

●&Բ;&Բ;&Բ;&Բ;&Բ;&Բ; Dywedodd 100% eu bod yn teimlo’n well am eu rhwydwaith cefnogi

●&Բ;&Բ;&Բ;&Բ;&Բ;&Բ; Nododd nifer o dadau eu bod yn teimlo bod ganddynt fwy o allu i ymdopi â heriau gartref ar ôl cymryd rhan yn y sesiynau

Rhannodd un tad:

Mae’r sesiynau hyn yn rhoi lleoliad gwahanol imi siarad, lle rwy’n teimlo bod eraill yn fy neall ac yn fy nghefnogi heb feirniadu.

Dechreuodd cyfranogwr arall gyfrannu llinellau bas, recordio traciau haenog, ac ailgysylltu gan deimlo’n hyderus a gyda phwrpas.

Mae llwyddiant ‘Meithrin Tadau’ wedi’i wreiddio yn y bartneriaeth gadarn rhwng Inside Out Cymru, Dechrau’n Deg, ’r tîm Cefnogi Tadau - dull sy’n canolbwyntio ar gefnogaeth benodol, cysondeb a chyd-greu.

Mae tîm y prosiect bellach yn paratoi at Flwyddyn 2, gydag ymrwymiad cyffredin i gyfoethogi ymgysylltiad a pharhau i feithrin cefnogaeth ystyrlon a chynaliadwy i dadau ym mhob cwr o’r rhanbarth.

I gymryd rhan yn ein sesiynau, cysylltwch â:

Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd ״, 01495 369 610

Am ragor o wybodaeth ynghylch y prosiect, cysylltwch â:

Becca May Collins, engage@inside-out-cymru.org

Dolen i’r fideo:

]]>
/cy/newyddion/sut-mae-cerddoriaeth-yn-trawsnewid-bywydau-tadau-ym-mlaenau-gwent/ /cy/newyddion/sut-mae-cerddoriaeth-yn-trawsnewid-bywydau-tadau-ym-mlaenau-gwent/ Fri, 28 Nov 2025 17:32:08 GMT Emma Bennett
Strategaeth Rhianta Corfforaethol newydd uchelgeisiol i gefnogi pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal Mae Cyngor ״ wedi cymeradwyo Strategaeth Rhianta Corfforaethol newydd ar gyfer 2025/2030 - cynllun beiddgar a blaengar sy'n rhoi plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau.

Yn cyd-fynd â'r strategaeth mae Cynllun Gweithredu cynhwysfawr wedi'i gynllunio i gyflawni newid go iawn, parhaol.

Wedi'i chyd-gynhyrchu gyda phlant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal, staff, aelodau etholedig, ac ystod eang o bartneriaid, mae'r strategaeth yn nodi 11 o egwyddorion craidd a 9 addewid, sy'n cyd-fynd â Siarter Rhianta Corfforaethol Llywodraeth Cymru – Addewid i Gymru (2023), a gymeradwywyd ym mis Awst 2024 gan yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Phrif Weithredwr y Cyngor.

Lansiwyd y strategaeth yn swyddogol gan y bobl ifanc eu hunain mewn digwyddiad Gŵyl y Gaeaf ym Mlaenau Gwent.

Mae Rhianta Corfforaethol yn ddyletswydd gyfreithiol ar gynghorau a'u partneriaid i weithredu fel y byddai unrhyw riant cyfrifol a chariadus yn ei wneud. Mae Strategaeth newydd ״ yn codi'r bar — nid yn unig yn bodloni rhwymedigaethau statudol ond yn mynd ymhellach i greu diwylliant o uchelgais, cefnogaeth emosiynol a chyfleoedd.

Dywedodd y Cynghorydd Sue Edmunds, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol:

"Mae gennym gyfrifoldeb moesol a chyfreithiol i ofalu am blant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal, ac mae'r strategaeth hon yn nodi'n union sut rydyn ni’n bwriadu ei gyflawni - gyda thosturi, cysondeb ac uchelgais. Mae ein dull Marmot yn ymwneud â meithrin cydraddoldeb i bawb. Nid dogfen Cyngor yn unig yw hon ond addewid, wedi'i hadeiladu ar y cyd â'n pobl ifanc, y byddant yn cael eu gweld, eu clywed a'u cefnogi ac y bydd eu lleisiau wrth wraidd popeth rydyn ni wedi'i gynllunio. Mae hyn yn fwy na gwasanaeth; mae'n ymwneud â rhoi cyfle i bob person ifanc deimlo'n ddiogel, wedi'i gefnogi ac yn obeithiol am eu dyfodol.

"Diolch i bawb sydd wedi helpu i lunio hyn, yn enwedig ein pobl ifanc am eu hamser a'u syniadau."

Mae'r Cynllun Gweithredu yn cynnwys 70 o gamau gweithredu clyfar sydd wedi'u cynllunio i gryfhau cydweithrediad amlasiantaethol, gwella canlyniadau mewn addysg, iechyd, tai a chyflogaeth, a lleihau anghydraddoldebau. Mae'r camau hyn yn cefnogi'n uniongyrchol ymrwymiadau ehangach y Cyngor fel Cyngor Marmot - mynd i'r afael â phenderfynyddion cymdeithasol iechyd ac ymgorffori dull ataliol, system-gyfan.

Cafodd y Strategaeth ei llunio trwy ymgysylltu helaeth, gan gynnwys gweithdai gyda phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal. Roedd ystod eang o leisiau - o weithwyr cymdeithasol i ddefnyddwyr gwasanaethau, ysgolion i ddarparwyr tai - yn ganolog i’w datblygiad.

Trwy fabwysiadu dull gweithredu ataliol system-gyfan, mae'r strategaeth hon yn gam mawr ymlaen yn nhaith ״ i greu canlyniadau gwell i blant sydd â phrofiad o ofal - a chymdeithas gryfach a mwy tosturiol i bawb.

Ewch i'n tudalen we Strategaeth Rhianta Corfforaethol a gwyliwch ein fideo gwych 'Y Goeden Addewidion', stori a ysgrifennwyd ar gyfer ein plant sydd â phrofiad o ofal gan ein Swyddog Chwarae ac a adroddwyd gan blant sydd â phrofiad o ofal ym Mlaenau Gwent. Cliciwch yma.

 

]]>
/cy/newyddion/strategaeth-rhianta-corfforaethol-newydd-uchelgeisiol-i-gefnogi-pobl-ifanc-sydd-a-phrofiad-o-ofal/ /cy/newyddion/strategaeth-rhianta-corfforaethol-newydd-uchelgeisiol-i-gefnogi-pobl-ifanc-sydd-a-phrofiad-o-ofal/ Wed, 03 Dec 2025 12:56:58 GMT Louise Bishop
Coed-y-Garn yn Arwain y Ffordd gyda Rhaglen Anrhydeddau Ysgolion Cynradd y DU Mae Ysgol Gynradd Coed-y-Garn, Blaenau, yn falch o fod wedi dod yr ysgol gyntaf yng Ngwent, ac yng Nghymru, fe gredwn, i addasu, cyflwyno a chwblhau Rhaglen Anrhydeddau Ysgolion Cynradd y DU, gyda chefnogaeth y Brigadwr Robert Aitken CBE, Arglwydd Raglaw Gwent EF. Mae'r fenter arloesol hon yn nodi carreg filltir arwyddocaol mewn cyfoethogi addysgol ac ymgysylltiad dinesig i ddysgwyr ifanc yn y rhanbarth.

Yn ystod y rhaglen, archwiliodd y disgyblion hanes ac arwyddocâd y System Anrhydeddau, gan ddysgu beth yw Anrhydedd, pam mae unigolion yn cael eu cydnabod, a'r gwahanol fathau o Anrhydeddau a ddyfernir yn y Deyrnas Unedig. Ymchwiliodd y plant hefyd i dderbynwyr nodedig o Gymru a anrhydeddwyd gan EM y Frenhines Elizabeth II ac EF y Brenin Siarl III.

Agwedd unigryw ar y rhaglen oedd annog disgyblion i fyfyrio ar eu dyheadau eu hunain ac ystyried y cyfraniadau eithriadol y gallent eu gwneud yn y dyfodol - cyfraniadau sy'n deilwng o enwebiad Anrhydedd. Dyluniodd pob plentyn Fedal Anrhydedd bersonol, yn gysylltiedig â'u cyflawniadau disgwyliedig, a daethant â'u dyluniadau'n fyw gan ddefnyddio argraffydd 3D yr ysgol.

Uchafbwynt y rhaglen oedd seremoni arwisgo ysbrydoledig, lle cyflwynodd plant Dosbarth Aur eu dysgu i aelodau'r teulu a chymuned ehangach yr ysgol. Mynychodd y Brigadwr Robert Aitken CBE, Arglwydd Raglaw Gwent EF fel y gwestai uchel ei barch a chyflwynodd y gwobrau i'r disgyblion hynny a gwblhaodd bob un o bedwar modiwl Rhaglen Anrhydeddau Ysgolion. Roedd y seremoni yn cynnwys delweddau a gynhyrchwyd gan AI o ddyfodol y plant, gan ychwanegu dimensiwn creadigol a blaengar i'r digwyddiad.

Diolchwyd yn arbennig i bawb a fynychodd, gan gynnwys rhieni, gofalwyr, aelodau o'r teulu, y Parchedig Roy Watson BEM (Cadeirydd y Llywodraethwyr), Mrs Susan Gwyer-Roberts, y Dirprwy Raglaw sy'n arwain y fenter hon ar gyfer y Raglawiaeth yng Ngwent, a staff a disgyblion ymroddedig Coed-y-Garn.

Gwnaeth y Cynghorydd Sue Edmunds y sylw canlynol: “Mae'n wych gweld Rhaglen Anrhydeddau Ysgolion Cynradd y DU ar waith. Mae ein System Anrhydeddau yn enghraifft wych o Werthoedd Prydeinig, pwnc sy'n cyd-fynd â’r cwricwlwm ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd. Drwy fabwysiadu'r rhaglen hon mae Ysgol Gynradd Coed-y-Garn wedi ysbrydoli ein pobl ifanc i ystyried ffyrdd y gallant wneud gwahaniaeth i'n cymunedau yn y dyfodol.”

Wrth fyfyrio ar y rhaglen, dywedodd Mrs Holder, athrawes Dosbarth Aur:

“Roedd y Rhaglen Anrhydeddau yn gyfle dysgu pleserus a diddorol. Roedd yn hyfryd darganfod dyheadau'r plant ar gyfer y dyfodol. Roeddwn i'n falch ohonyn nhw i gyd - maen nhw wedi bod yn archarwyr i mi.”

Llongyfarchiadau i Dosbarth Aur – edrychwn ymlaen i’ch gweld chi’n cyflawni popeth rydych chi’n gobeithio ei gyflawni!

Os hoffai unrhyw ysgol yng Ngwent gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â Mrs L Cairns, Pennaeth @CyG neu Mrs Gwyer-Roberts drwy wefan y raglawiaeth LLGwent@monmouthshire.gov.uk

 

]]>
/cy/newyddion/coed-y-garn-yn-arwain-y-ffordd-gyda-rhaglen-anrhydeddau-ysgolion-cynradd-y-du/ /cy/newyddion/coed-y-garn-yn-arwain-y-ffordd-gyda-rhaglen-anrhydeddau-ysgolion-cynradd-y-du/ Wed, 03 Dec 2025 15:28:28 GMT Carolyn Jenkins
Arwr Lleol yn Arwain Dathliad Goleuadau Nadolig Glynebwy Roedd canol tref Glynebwy yn llawn ysbryd Nadoligaidd wrth i'r goleuadau Nadolig gael eu troi ymlaen yn swyddogol ddydd Gwener diwethaf, gan nodi dechrau dathliadau'r tymor. Daeth y digwyddiad, a gefnogwyd gan Dîm Canol y Dref CBSBG, â theuluoedd, ffrindiau ac ymwelwyr ynghyd am noson o hwyl Nadoligaidd.

Roedd cefnogaeth aruthrol i'r digwyddiad. Daeth cyllid gan fusnesau canol y dref, yr hen Fforwm Digwyddiadau’r Dref Glynebwy, Partneriaeth Tref Glynebwy newydd ei ffurfio, a Deacon Fairgrounds, ochr yn ochr â sefydliadau a busnesau lleol gan gynnwys Clwb Rygbi Glynebwy, Ace Kitchens, A1 Bounce, Masquerade, a JJ Desserts. Dangosodd yr aelodau etholedig Sue Edmunds a Jonathan Millard nid yn unig eu cefnogaeth ond cyfranasant yn ariannol at y digwyddiad hefyd, gan danlinellu eu hymrwymiad i'r dref.

Cafodd y goleuadau eu troi ymlaen gan yr arwres leol Elizabeth Sullivan MBE, sydd, gyda'i thîm, wedi codi swm anhygoel o arian ar gyfer Ymchwil Canser ac yn parhau i ysbrydoli'r dref gyda'i hymroddiad. Rhoddodd ei chyfraniad gyffyrddiad twymgalon i'r noson, gan atgoffa pawb o gryfder ysbryd cymunedol yng Nglynebwy.

Cyflwynodd y Cynghorydd Chris Smith y wobr i Elizabeth cyn troi’r goleuadau ymlaen.

Dywedodd y Cynghorydd Jonathan Millard: "Dangosodd troi’r goleuadau ymlaen sut mae'r Fargen yn gweithio yn ac ar gyfer ein cymunedau, partneriaid lleol yn gweithio gyda'i gilydd i greu rhywbeth ysblennydd."

Gwnaeth y Cynghorydd Sue Edmunds y sylw canlynol: "Roedd y digwyddiad gwirioneddol Nadoligaidd hwn yn enghraifft berffaith o'r hyn y gallwn ei gyflawni gyda'n cymuned yn dod at ei gilydd i gefnogi digwyddiadau lleol."

Roedd Tîm Canol y Dref CBSBG wrth eu bodd eu bod wedi trefnu troi’r goleuadau ymlaen ac i gychwyn dathliadau'r Nadolig. Gyda chefnogaeth y gymuned, maent yn gobeithio gwneud y digwyddiad hyd yn oed yn fwy ac yn well y flwyddyn nesaf.

Dyddiad ar gyfer eich dyddiaduron, cynhelir digwyddiad troi’r goleuadau ymlaen y flwyddyn nesaf ar ddydd Sadwrn yr 28ain o Dachwedd 2026.


]]>
/cy/newyddion/arwr-lleol-yn-arwain-dathliad-goleuadau-nadolig-glynebwy/ /cy/newyddion/arwr-lleol-yn-arwain-dathliad-goleuadau-nadolig-glynebwy/ Thu, 04 Dec 2025 11:05:01 GMT Carolyn Jenkins
Llwyddiant ysgubol i fusnesau ״ yng Ngwobrau Busnes TSFBG 2025 Llongyfarchiadau i holl enillwyr anhygoel ״ yng Ngwobrau Busnes Torfaen, Sir Fynwy a ״.

Mae'r gwobrau'n dathlu cymunedau busnes bywiog a ffyniannus ״, Torfaen a Sir Fynwy - cyfle i gydnabod ymroddiad, arloesedd a chyflawniadau busnesau lleol dros y 12 mis diwethaf.

Meddai'r Cynghorydd John Morgan, Aelod Cabinet dros yr Economi a Lle yng Nghyngor ״:

"Roedd yn anhygoel gweld cynrychiolaeth mor gryf o Flaenau Gwent yn ein blwyddyn gyntaf o gystadlu yn y Gwobrau Busnes. Rydyn ni mor falch o'r holl enillwyr ac o bawb a gymerodd ran - mae eich ymroddiad a'ch effaith ar ein cymuned fusnes leol yn rhywbeth i'w ddathlu bob dydd. Da iawn!"

Yr enillwyr o Flaenau Gwent oedd:

  • Busnes Creadigol a Digidol y Flwyddyn: Games Alchemist
  • Cyflogwr y Flwyddyn: Blackwood Engineering Ltd
  • Busnes Gwasanaeth Ariannol a Phroffesiynol y Flwyddyn: Kairos-K LTD, UK
  • Busnes Rhyngwladol y Flwyddyn: Insurgo: Tape Media Experts
  • Busnes Gweithgynhyrchu y Flwyddyn: M & J Europe LTD
  • BBaCh y Flwyddyn: Waldron Commercials
  • Busnes Twristiaeth a Lletygarwch y Flwyddyn: Wonder Cinema
  • Person Busnes Ifanc y Flwyddyn: Luke Shepard - Luke Shephard Funeral Directors
  • Canmoliaeth Uchel: Samantha Fitz-Symonds - Accessible Futures Group Ltd

Diolch a llongyfarchiadau i bob un a chyrhaeddodd y rownd derfynol.

]]>
/cy/newyddion/llwyddiant-ysgubol-i-fusnesau-blaenau-gwent-yng-ngwobrau-busnes-tsfbg-2025/ /cy/newyddion/llwyddiant-ysgubol-i-fusnesau-blaenau-gwent-yng-ngwobrau-busnes-tsfbg-2025/ Thu, 04 Dec 2025 15:51:11 GMT Louise Bishop
Cwrt Mytton yn Cyflawni Sgoriau Uchel yn Arolygiad Diweddaraf AGC Mae Cartref Gofal Cwrt Mytton, Abertyleri, wedi cyflawni sgôr 'Da' yn dilyn arolygiad gan Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC).

Mae cartrefi gofal yn cael eu hasesu ar draws pedwar maes allweddol:

  • Lles
  • Gofal a Chymorth
  • Yr Amgylchedd
  • Arweinyddiaeth a Rheolaeth

Mae Cartref Gofal Cwrt Mytton yn cael ei redeg gan Gyngor ״ ac mae'n darparu llety a chefnogaeth i hyd at 28 o oedolion hŷn.

Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at safonau gofal cyson uchel y cartref, lle mae preswylwyr yn mwynhau urddas, parch, dewis, a chyfleoedd ar gyfer gweithgareddau ystyrlon. Mae'r amgylchedd yn groesawgar, gan gynnig ystafelloedd preifat, mannau cymunedol, ac ardaloedd awyr agored i breswylwyr eu mwynhau.

Canmolwyd yr arweinyddiaeth ’r rheolaeth gref hefyd, gyda systemau sicrhau ansawdd ac adborth effeithiol yn gyrru gwelliant parhaus.

Dywedodd y Cynghorydd Helen Cunningham, yr Aelod Cabinet dros Oedolion a Chymunedau yn y Cyngor:

"Rwy'n croesawu'r adroddiad arolygu diweddaraf hwn, sy'n dyst i'r tîm cyfan y tu ôl i Cwrt Mytton. Fel ein hunig gartref gofal sy'n cael ei redeg gan yr awdurdod lleol, rydyn ni’n ymroddedig i sicrhau safonau uchel a diwylliant cadarnhaol o ofal a chymorth. Mae'r gymuned yng Nghwrt Mytton, sydd wedi'i hadeiladu gan staff, trigolion a'u teuluoedd, yn wirioneddol arbennig ac yn un rydyn ni’n falch iawn ohoni."

]]>
/cy/newyddion/cwrt-mytton-yn-cyflawni-sgoriau-uchel-yn-arolygiad-diweddaraf-agc/ /cy/newyddion/cwrt-mytton-yn-cyflawni-sgoriau-uchel-yn-arolygiad-diweddaraf-agc/ Mon, 08 Dec 2025 16:48:05 GMT Louise Bishop
I Fyny, Fyny a Ffwrdd â Ni Mae Holloways Travel yn asiantaeth deithio annibynnol newydd ei sefydlu yn Abertyleri. Maent yn arbenigo mewn darparu atebion teithio pwrpasol, gan gynnwys gwyliau moethus, seibiannau i’r teulu, teithiau antur, mordeithiau, seibiannau yn y DU, a gwasanaethau cyfnewid tramor. Eu cenhadaeth yw darparu profiad teithio hynod bersonol sy’n canolbwyntio ar y gymuned, yn y siop ac ar-lein, wedi’i deilwra i anghenion cwsmeriaid unigol.

Gyda chymorth y Grant Datblygu Busnesau Manwerthu, Gwasanaeth a Lletygarwch, llwyddodd Holloways Travel i gyfarparu’r siop newydd ei hadnewyddu ag offer, desgiau ac arwyddion siop er mwyn gwella golwg y siop.

Dywedodd Gareth Holloway, Cyfarwyddwr Holloway Travels: ‘Mae sicrhau’r grant hwn wedi bod yn hanfodol wrth helpu Holloways Travel i fynd o weledigaeth i realiti. Fe’n caniataodd i ni greu asiantaeth deithio fodern a chroesawgar yng nghanol Abertyleri – un y gall y gymuned fod yn falch ohoni. O’r ailweirio trydanol llawn ’r arwyddion digidol, i flaen y siop ’r arddangosfeydd ffenestr wedi’u brandio, mae pob elfen wedi’i hadeiladu gyda safon a phrofiad cwsmeriaid mewn golwg. Nid yn unig y gwnaeth y cyllid hwn helpu i sefydlu busnes – fe helpodd i lansio breuddwyd, ac rydym mor ddiolchgar am y cymorth i’w gwireddu.’

Dywedodd y Cynghorydd John Morgan, Aelod Cabinet – Lle ac Adfywio a Datblygu Economaidd: ‘Mae’n wych clywed sut mae ein grant wedi eu helpu i agor siop eu breuddwydion yng nghanol Abertyleri. Hoffwn ddymuno pob llwyddiant i Holloways Travel wrth iddynt ddechrau ar eu taith newydd.’

Mae Grant Datblygu Busnesau Manwerthu, Gwasanaeth a Lletygarwch ״ wedi’i ariannu gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU ac yn cael ei reoli gan y Tîm Busnes ac Arloesi yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol ״. Nod y grant yw cefnogi twf a datblygiad busnesau newydd a phresennol ym Mlaenau Gwent.

Llun: Cyfarwyddwr Gareth Holloway ’r Cynghorydd John Morgan o Gyngor Bwrdeistref Sirol ״

Facebook: @HollowaysTravel 
Instagram: Holloways_Travel
Gwefan:

]]>
/cy/newyddion/i-fyny-fyny-a-ffwrdd-a-ni/ /cy/newyddion/i-fyny-fyny-a-ffwrdd-a-ni/ Wed, 10 Dec 2025 11:57:10 GMT Carolyn Jenkins
Tasglu Llifogydd Cwm yn arwain ffordd newydd o weithio gyda'r Cyngor Mae Cyngor ״ yn archwilio 'Bargen' newydd gyda'i gymunedau ac yn y Cwm mae grŵp o drigolion yn ymgorffori hyn drwy ddod at ei gilydd i ffurfio Tasglu Llifogydd.

Ar ôl cael eu taro'n wael gan lifogydd yn ystod Storm Bert flwyddyn yn ôl, yn ysbryd 'Y Fargen' mae grŵp o drigolion yn gweithio law yn llaw â'r Cyngor ar wydnwch cymunedol ac ymateb i ddigwyddiadau.

Mae'r Tasglu yn dod â phobl o wahanol gefndiroedd a sgiliau gwahanol ynghyd ond gydag un genhadaeth gyffredin: cael eu grymuso i gefnogi eu cymuned ar adegau o angen.

Mae'r aelodau wedi cael eu hyfforddi i weithredu Stiwt Cwm fel Canolfan Argyfwng Cymunedol (wedi'i brofi gydag ymarfer byw), wedi helpu i ddosbarthu sachau llifogydd a ddarparwyd gan y Cyngor i drigolion lleol, a byddant hefyd yn cael eu hyfforddi ar sut i ddefnyddio pympiau sydd wedi'u storio'n lleol i gael gwared ar ddŵr llifogydd. Maent hefyd yn cadw llygad ar ddraeniau lleol yn ystod glaw trwm, yn cwrdd yn rheolaidd ac yn defnyddio grŵp WhatsApp i gyfathrebu'n gyflym ac yn effeithiol â'i gilydd.

Meddai llefarydd ar ran Tasglu Llifogydd Cwm, Sallie Jones:

"Roedd ein pentref yn llanast ar ôl stormydd y llynedd, a dydyn ni ddim eisiau gweld hynny'n digwydd eto. Mae angen i rywbeth cadarnhaol ddod allan o bob peth negyddol, felly ganwyd y Tasglu. Rydyn ni eisiau gwneud beth bynnag y gallwn ni ei wneud, mewn partneriaeth a gyda chefnogaeth gan y Cyngor, i gefnogi ein cymunedau yn ystod argyfwng."

Mae'r cynghorwyr lleol George Humphreys a Derrick Bevan hefyd ar y Tasglu. Maen nhw'n dweud:

"Dyma beth yw gwir ystyr Y Fargen - trigolion wedi’u grymuso a'r Cyngor yn gweithio gyda'i gilydd er lles eu cymuned. Da iawn i bawb sy'n ymwneud â'r grŵp a'r rhai nad oedden nhw’n gallu bod yno ar gyfer y llun, Jeff Robins, Mark Williams, Kirsty, Dale ac Alison."

Meddai'r Cynghorydd Tommy Smith, Aelod Cabinet Cyngor ״ dros Gymdogaethau a'r Amgylchedd:

"Mae atal llifogydd rhag digwydd eto yn parhau i fod yn brif flaenoriaeth i ni, ac mae dros £900,000 wedi'i fuddsoddi ym Mlaenau Gwent eleni. Yn ogystal â chyllid, rydyn ni hefyd yn gweithio'n agosach gyda chymunedau ar gynllunio a gwytnwch.

"Y gwaith rydyn ni'n ei wneud gyda Thasglu Llifogydd Cwm yw'r union beth rydyn ni am ei gyflawni drwy Fargen ״. Rydyn ni eisiau gwneud pethau'n wahanol trwy wrando ar ein trigolion a'u hanghenion a gweithio gyda nhw i wneud eu cymunedau y gorau y gallan nhw fod. Edrychwn ymlaen at barhau i weithio gyda thrigolion Cwm ac ymestyn y dull hwn i gymunedau o amgylch ״."

Mae cyllid sylweddol wedi’i roi ar gyfer gwaith atal llifogydd yn y Cwm ers Storm Bert ym mis Tachwedd 2024, pan ddatgysylltwyd y pentref gan lifogydd. Mae hyn wedi cynnwys gwelliannau mawr i brif gwlfer, gwaith draenio ac ailwynebu ffordd, a mesurau ychwanegol a nodwyd trwy adborth preswylwyr. Mae synhwyrydd newydd hefyd yn monitro lefelau dŵr ar y cwlfer newydd.

Mae Bargen ״ yn ffordd newydd o weithio gyda chymunedau - contract cymdeithasol rhwng y cyngor, trigolion a phartneriaid. Mae'n nodi gweledigaeth gyffredin ar gyfer bwrdeistref decach, iachach a mwy gwydn - un lle mae anghydraddoldebau iechyd yn cael eu datrys a phob preswylydd yn cael ei rymuso i ffynnu.

Ar hyn o bryd mae'r Cyngor yn cynnal cam cyntaf o ymgysylltu ar sut y gallai Bargen ״ edrych. Mae'r ymgynghoriad yn gofyn i bobl beth sy'n dda am eu cymuned, sut y gellid ei gwella a sut y bydden nhw’n barod i chwarae rhan. Mae'r arolwg yn rhedeg tan 31 Rhagfyr. Gallwch gymryd rhan

]]>
/cy/newyddion/tasglu-llifogydd-cwm-yn-arwain-ffordd-newydd-o-weithio-gydar-cyngor/ /cy/newyddion/tasglu-llifogydd-cwm-yn-arwain-ffordd-newydd-o-weithio-gydar-cyngor/ Wed, 10 Dec 2025 14:30:09 GMT Louise Bishop
Dathlu cyfraddau bwydo ar y fron ״ mewn digwyddiad Nadoligaidd i'r teulu (1) Mae mamau ״ yn dathlu cyflawniad rhyfeddol y Nadolig hwn wrth i gyfraddau bwydo ar y fron yn y fwrdeistref godi i 68% ym mis Hydref 2025; cynnydd o dros 28% ers dechrau'r ymgyrch 'Bwydo ar y Fron ״' a lansiwyd yn 2024.

Daeth teuluoedd, cefnogwyr a phartneriaid ynghyd yn Bedwellty House yn Nhredegar ar gyfer digwyddiad Nadoligaidd arbennig i nodi'r garreg filltir a dathlu rôl y gymuned wrth ysgogi newid cadarnhaol i fabanod a theuluoedd ledled y fwrdeistref.

Mae'r ymgyrch wedi helpu i drawsnewid ״ o fod yr Awdurdod Lleol gyda'r cyfraddau bwydo ar y fron isaf yn y DU i fod yn gymuned sy'n gyfeillgar i fwydo ar y fron, gan arwain y ffordd ledled Cymru. Wedi'i chynllunio gan famau lleol ar gyfer mamau lleol - ac yn enghraifft berffaith o Awdurdod Lleol, BIPAB a'r gymuned yn cydweithio i fynd i'r afael â problem - mae'n grymuso menywod trwy rwydweithiau cymorth cymheiriaid, sesiynau galw heibio rheolaidd, a mannau croesawgar. Heddiw, mae 66 o adeiladau cyhoeddus a busnesau wedi cofrestru i Gynllun 'Croesawu Bwydo ar y Fron' Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan - y nifer uchaf yng Ngwent.

Yn ysbryd Y Fargen, ffordd newydd o weithio gyda chymunedau y mae'r Cyngor yn ei harchwilio, mae'r gymuned rieni wedi bod yn rhan fawr o'r ymgyrch. Fe wnaeth eu hadborth ein helpu i lunio cynllun gweithredu a fyddai'n gweld mwy o gefnogaeth a chyngor yn cael ei gynnig i famau newydd. Mae rhai mamau sy'n bwydo ar y fron yn y gymuned hefyd wedi hyfforddi fel gwirfoddolwyr i ddod yn weithwyr cymorth cymheiriaid ac erbyn hyn yn rhedeg grwpiau cymorth bwydo ar y fron. Mamau lleol hefyd yw wyneb yr ymgyrch.

Dywedodd y Cynghorydd Sue Edmunds, Aelod Cabinet Cyngor ״ dros Blant, Pobl Ifanc a Theuluoedd:

"Rydyn ni wrth ein bodd i ddathlu'r cynnydd anhygoel hwn gyda'n teuluoedd. Mae'r ymgyrch hon yn newid diwylliant, hyder a chefnogaeth gymunedol o amgylch bwydo ar y fron ym Mlaenau Gwent. Ein nod yw parhau i adeiladu ar y llwyddiant hwn, fel bod pob babi yn cael y dechrau gorau mewn bywyd. Yn unol â'n dull Egwyddorion Marmot a Bargen ״, rydym wedi gweithio gyda'r gymuned a'r partneriaid i wneud i hyn ddigwydd – da iawn bawb."

Mae bwydo ar y fron yn cynnig manteision gydol oes i'r fam a'r babi. Mae'r cynnydd i 68% yn golygu bod mwy o famau ym Mlaenau Gwent bellach yn dewis bwydo ar y fron na pheidio, a dewisodd dros ddwy ran o dair o famau fwydo ar y fron ym mis Hydref - newid sy'n gwella canlyniadau'r blynyddoedd cynnar, yn mynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd ac yn mynd i'r afael â thlodi plant gan fod bwydo ar y fron yn rhad ac am ddim.

Mae'r ymgyrch '״ yn Bwydo ar y Fron' yn rhan o ymrwymiad y Cyngor i roi'r dechrau gorau mewn bywyd i bob plentyn. Mae'n cael ei chyflwyno mewn partneriaeth â'r gymuned leol a Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.

Mae Bargen ״ yn ffordd newydd o weithio gyda chymunedau - contract cymdeithasol rhwng y cyngor, trigolion a phartneriaid. Mae'n nodi gweledigaeth gyffredin ar gyfer bwrdeistref decach, iachach a mwy gwydn - un lle mae anghydraddoldebau iechyd yn cael eu datrys a phob preswylydd yn cael ei rymuso i ffynnu.

Gallwch gymryd rhan


]]>
/cy/newyddion/dathlu-cyfraddau-bwydo-ar-y-fron-blaenau-gwent-mewn-digwyddiad-nadoligaidd-ir-teulu-1/ /cy/newyddion/dathlu-cyfraddau-bwydo-ar-y-fron-blaenau-gwent-mewn-digwyddiad-nadoligaidd-ir-teulu-1/ Wed, 10 Dec 2025 16:06:01 GMT Louise Bishop
Adolygiad yn argymell gweithio'n agosach a buddsoddiad pellach mewn cyfleusterau (1) Mae Ymddiriedolaeth sy'n rhedeg gwasanaethau hamdden a diwylliannol ym Mlaenau Gwent yn gwneud cyfraniad sylweddol at ddatblygu cymunedol, addysg a mentrau iechyd a lles.

Daeth adolygiad annibynnol i'r casgliad fod Aneurin Leisure Trust yn sefydliad sy'n cael ei redeg yn dda gyda staff medrus iawn ac atyniadau o safon, ac mae’n cydweithio’n gryf â'r Cyngor ac yn cyd-fynd â gwerthoedd cymdeithasol a chymunedol y Cyngor. 

Ystyriodd a chytunodd y Cyngor Llawn ar yr argymhellion adolygu.  

Asesodd yr adolygiad weithrediadau, cynaliadwyedd ariannol, ac aliniad yr Ymddiriedolaeth â nodau strategol y Cyngor.  Daeth i'r casgliad bod yr Ymddiriedolaeth yn parhau i fod yn Ymddiriedolaeth, yn bodloni dangosyddion perfformiad allweddol yn gyson, yn perfformio'n dda yn erbyn safonau llyfrgelloedd cenedlaethol, ac yn cyflawni ei rhwymedigaethau ariannu. Nododd hefyd gyfleoedd ar gyfer cynhyrchu incwm, ailgynllunio gwasanaethau, a phartneriaethau cydweithredol i gryfhau sefyllfa ariannol yr Ymddiriedolaeth a gwella gwasanaethau.

Mae'r adroddiad yn argymell cadw’r model Ymddiriedolaeth a chynyddu gwaith partneriaeth a buddsoddiad mewn cyfleusterau.  

Dywedodd y Cynghorydd Helen Cunningham, y Dirprwy Arweinydd ’r Aelod Cabinet dros Oedolion a Chymunedau:

"Trwy gynnal y model Ymddiriedolaeth, gallwn sicrhau cynaliadwyedd gwasanaethau hamdden a diwylliannol am flynyddoedd i ddod a chefnogi ein blaenoriaethau ar gyfer twf economaidd, atal ac ymyrryd yn gynnar, a chymunedau. 

"Mae ein perthynas â'r Ymddiriedolaeth yn hanfodol i wella iechyd a lles trigolion ״.  Mae gweithio gyda'r Ymddiriedolaeth ar wella lles pobl o bob oed yn brif flaenoriaeth i'r Cyngor ac yn unol â'n penderfyniad i fabwysiadu Egwyddorion Marmot a Bargen newydd ״.

"Drwy Fargen ״ byddwn yn datblygu ffordd newydd o weithio gyda'n cymunedau; contract cymdeithasol rhwng y cyngor, trigolion a phartneriaid. Mae'n nodi gweledigaeth gyffredin ar gyfer bwrdeistref decach, iachach a mwy gwydn - un lle mae anghydraddoldebau iechyd yn cael eu datrys a phob preswylydd yn cael ei rymuso i ffynnu.”

Ychwanegodd Phill Sykes, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Aneurin Leisure Trust:

"Mae'r Ymddiriedolaeth yn hapus gyda chanlyniad yr adroddiad ac wedi gweithio'n agos gyda'r holl bartïon i sicrhau bod y canfyddiadau terfynol yn gywir er mwyn siapio dyfodol gwasanaethau hamdden ar draws ״ gystal â phosib.

"Mae'r adroddiad yn adlewyrchiad cadarnhaol o’r Ymddiriedolaeth, gyda chydnabyddiaeth benodol o arbenigedd ac angerdd ein tîm dros ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel.

"Wrth symud ymlaen, byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol ״ i ddatblygu cynllun busnes newydd yn seiliedig ar egwyddorion Marmot a chefnogi 'Bargen' ״ tra'n parhau i wella bywyd cymunedol i drigolion ״ ar draws holl safleoedd yr Ymddiriedolaeth."

Mae'r Cyngor wrthi’n ymgysylltu â’r cyhoedd ar Fargen ״. Mae'r ymgynghoriad yn gofyn i bobl beth sy'n dda am eu cymuned, sut y gellid ei gwella a sut y bydden nhw’n barod i chwarae rhan. Mae'r arolwg yn rhedeg tan 31 Rhagfyr. 

Gallwch gymryd rhan

]]>
/cy/newyddion/adolygiad-yn-argymell-gweithion-agosach-a-buddsoddiad-pellach-mewn-cyfleusterau-1/ /cy/newyddion/adolygiad-yn-argymell-gweithion-agosach-a-buddsoddiad-pellach-mewn-cyfleusterau-1/ Fri, 12 Dec 2025 14:52:50 GMT Louise Bishop
Canmoliaeth i Ysgol Gynradd Blaen-y-Cwm, Brynmawr, yn yr adroddiad arolygu diweddaraf (6) Mae Ysgol Gynradd Blaen-y-Cwm ym Mrynmawr, ״, wedi cael adborth gwych yn ei harolygiad diweddar gan Estyn, sy'n tynnu sylw at ymrwymiad i greu amgylchedd croesawgar a chynhwysol lle mae disgyblion yn ffynnu'n academaidd ac yn bersonol.

Tynnodd yr adroddiad sylw at:

  • Ddealltwriaeth ddofn o anghenion y gymuned leol
  • Disgwyliadau uchel ar gyfer cyflawniad ac ymddygiad disgyblion
  • Gofal rhagorol o ran lles disgyblion, sy'n cyfrannu at awyrgylch hamddenol, hapus ar draws yr ysgol
  • Disgyblion cwrtais, hyderus sy’n awyddus i ddysgu ac yn ymateb yn gadarnhaol
  • Addysgu cryf cyson
  • Cwricwlwm ysgogol ac ystyrlon, gyda disgyblion yn cynhyrchu gwaith sy’n llawn dychymyg ac o ansawdd uchel.

Gwnaeth yr arolygwyr hefyd gydnabod cynnydd cryf mewn llythrennedd, sgiliau digidol, a datblygiad corfforol, ochr yn ochr â chefnogaeth effeithiol i ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol.

Mae'r adroddiad yn dathlu cyfraniad gweithredol disgyblion at fywyd yr ysgol trwy grwpiau fel y cyngor ysgol a phencampwyr cydraddoldeb, yn ogystal â gwella cyfraddau presenoldeb, gan gynnwys ymhlith disgyblion o deuluoedd incwm isel.

Dywedodd y Pennaeth Sarah Oliver-Bryant:

"Yn Ysgol Gynradd Blaen-y-Cwm rydyn ni’n gweithio'n galed iawn i greu 'Cymuned Hapus, Uchelgeisiol, Gynhwysol', lle mae pob disgybl yn dysgu i ffynnu a dod yn ddysgwyr annibynnol. Mae'r arolygiad ESTYN hwn yn adlewyrchu gweledigaeth ein hysgol. Mae Llywodraethwyr yr Ysgol a minnau yn hynod falch o gymuned ein hysgol, ond yn enwedig ein disgyblion a staff yr ysgol."

Dywedodd y Cynghorydd Sue Edmunds, Aelod Cabinet dros Blant, Pobl Ifanc a Theuluoedd:

"Da iawn i bawb yn Ysgol Gynradd Blaen-y-Cwm ar yr adroddiad gwych hwn. Mae'r ysgol yn amgylchedd dysgu cynnes, cynhwysol lle mae disgyblion yn cael eu cefnogi'n dda ac yn amlwg yn ffynnu, gan atgyfnerthu ein cenhadaeth i sicrhau bod plant yn cael y dechrau gorau mewn bywyd."

]]>
/cy/newyddion/canmoliaeth-i-ysgol-gynradd-blaen-y-cwm-brynmawr-yn-yr-adroddiad-arolygu-diweddaraf-6/ /cy/newyddion/canmoliaeth-i-ysgol-gynradd-blaen-y-cwm-brynmawr-yn-yr-adroddiad-arolygu-diweddaraf-6/ Mon, 15 Dec 2025 12:59:15 GMT Louise Bishop
Ysgol Gyfun Tredegar yn cael ei chanmol gan Estyn am ethos gofalgar a chynhwysol Mae Ysgol Gyfun Tredegar wedi cael ei chanmol gan Estyn am greu amgylchedd dysgu gofalgar, diogel a chynhwysol sy'n ysbrydoli disgyblion ac yn codi dyheadau ar draws cymuned yr ysgol.

Socials: Da iawn i Ysgol Gyfun Tredegar ar ei hadroddiad diweddar gan Estyn, a ddisgrifiodd yr ysgol fel amgylchedd gofalgar, diogel a chynhwysol sy'n ysbrydoli disgyblion ac yn codi dyheadau ar draws cymuned yr ysgol.

Ymhlith yr uchafbwyntiau niferus, nododd yr adroddiad:

  • Cymuned ysgol ofalgar, ddiogel a chynhwysol
  • Staff a disgyblion sy'n dangos ymrwymiad cryf i'w hysgol a'u cymuned   
  • Athrawon sy'n adeiladu amgylcheddau tawel, wedi'u rheoli'n dda, ac yn cymhwyso gwybodaeth gref am bynciau
  • Ymrwymiad cryf i hyrwyddo presenoldeb da
  • Ymrwymiad cryf i gefnogi disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol
  • Arweinyddiaeth dawel, bwrpasol gyda ffocws clir ar godi dyheadau a chanlyniadau
  • Llywodraethwyr profiadol a brwdfrydig

Dywedodd y Pennaeth Charlotte Leaves:

"Rydyn ni wrth ein bodd gyda'n hadroddiad Estyn, sy'n dyst go iawn i waith caled ac ymroddiad di-baid ein staff, ein llywodraethwyr, ein disgyblion a'n teuluoedd. Nid yw ein mantra o 'Weithio Gyda’n Gilydd dros Lwyddiant' erioed wedi bod yn fwy amlwg.

"Ar ben hynny, rydym wrth ein bodd bod Estyn wedi taflu goleuni ar ein gwaith o amgylch arweinyddiaeth disgyblion, gan gydnabod hyn fel cryfder nodedig.

Er ein bod yn eithriadol o falch o'r canfyddiadau – a byddwn ni’n dathlu ein llwyddiant ar y cyd – ni fyddwn yn gorffwys ar ein rhwyfau!

"Rydyn ni'n gwybod bod mwy i’w wneud a byddwn ni’n herio ein hunain yn ddi-baid i ddod hyd yn oed yn well a sicrhau hyd yn oed mwy o lwyddiant."

Dywedodd y Cynghorydd Sue Edmunds, Aelod Cabinet dros Blant, Pobl Ifanc a Theuluoedd:

"Llongyfarchiadau i Ysgol Gyfun Tredegar ar yr adroddiad gwych hwn. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth agos â'n hysgolion ar ein blaenoriaethau i adeiladu sylfeini cadarn ar gyfer dysgu a datblygiad gydol oes, ac i rymuso pobl ifanc i fyw bywydau gwybodus, annibynnol ac iach. Mae'r adroddiad hwn yn dangos yn glir ymrwymiad yr ysgol i'r nodau hyn – da iawn bawb."

Mae'r adroddiad hefyd yn cydnabod ymroddiad yr ysgol i'w gwerthoedd craidd a'r gymuned leol, gyda darpariaethau llesiant sy'n cynnig cefnogaeth emosiynol werthfawr i ddisgyblion.

Cydnabuwyd canolfan adnoddau dysgu (CAD) yr ysgol, a sefydlwyd ddwy flynedd yn ôl, fel darpariaeth feithringar a chynhwysol sy'n cefnogi disgyblion ag awtistiaeth yn effeithiol, gan eu helpu i ddatblygu hyder, cyfathrebu a sgiliau cymdeithasol.

Mae'r adroddiad yn amlinellu tri argymhelliad allweddol i wella canlyniadau myfyrwyr ymhellach.

Am ragor o wybodaeth, cyfeiriwch at yr adroddiad arolygu llawn, sydd ar gael

 

]]>
/cy/newyddion/ysgol-gyfun-tredegar-yn-cael-ei-chanmol-gan-estyn-am-ethos-gofalgar-a-chynhwysol/ /cy/newyddion/ysgol-gyfun-tredegar-yn-cael-ei-chanmol-gan-estyn-am-ethos-gofalgar-a-chynhwysol/ Wed, 17 Dec 2025 16:49:20 GMT Louise Bishop
Gorymdaith Ysgol Willowtown yn dathlu Gwobrau Pen-blwydd 10 Mlynedd Bwyd a Hwyl Yn Ŵyl Wobrau Penblwydd 10 mlynedd Bwyd a Hwyl, a gynhaliwyd yng Nghaerdydd ym  mis Tachwedd, derbyniodd Ysgol Willowtown Wobr Is-Gystadleuydd yn falch am “Wobr Dewis y Disgyblion”—cydnabyddiaeth a wnaed yn hyd yn oed yn arbennig oherwydd roedd wedi’i enwebu gan y plant a fynychodd raglen Bwyd a Hwyl yn ystod Haf 2025.

Mae Ysgol Willowtown wedi bod yn bartner ymroddedig o'r fenter Bwyd a Hwyl ers 2018. Dechreuodd gyda dim ond 40 o blant a wedi tyfu i 120 o leoedd, gan groesawu disgyblion o Willowtown a'i ysgolion clwstwr (Ysgolion Cynradd Rhos y Fedwen, Beaufort Hill, Glyncoed a Cwm). Mae'r rhaglen yn darparu amgylchedd diogel, cyfarwydd a gofalgar lle gall plant fwynhau prydau iach, cymryd rhan mewn gweithgareddau hwyliog, a adeiladu cyfeillgarwch parhaol.

Cynghorydd Sue Edmunds, Aelod Cabinet ar gyfer Plant, Pobl Ifanc a Theuluoedd, llongyfarchodd y cyflawniad, gan ddweud “dw’i wedi bod o hyd yn gynghorwr dros y cynllun Bwyd a Hwyl. Ces fy ngweld yn lwcus i ymweld â nifer o ysgolion sy'n cymryd rhan yn y cynllun ym Mlaenau Gwent a gweld yr ymroddiad sy'n mynd i wneud y rhaglen hon yn llwyddiannus.  Mae’n hyfryd iweld y staff yn chwarae a rhyngweithio â phlant mewn lle diogel, llawen yn ysbrydoliaeth—mae'r plant yn disgleirio'n llachar, yn chwerthin ac yn cael amser gwych. Mae'r wobr hon yn sicr o haeddu hi, yn enwedig gan ei bod wedi cael eu pleidlaisio gan y disgyblion eu hunain.

Dywedodd cydlynydd yr ysgol, Rebecca Hughes, “Fel cydlynydd yr ysgol ar gyfer Bwyd a Hwyl yn Willowtown, roedd derbyn Gwobr Yr Hanner Terfyn Dewis y Disgyblion yn foment falch iawn—i’n holl dîm. Yr hyn sy’n gwneud y wobr hon mor arbennig yw ei bod wedi dod gan y plant eu hunain. Gwybod eu bod yn gwerthfawrogi ac yn mwynhau’r hyn a wnawn yw’r cydnabyddiaeth fwyaf y gallem ei ofyn.”

I mi, mae'r cynllun yn ymwneud â mwy na dim ond darparu prydau bwyd,—mae'n ymwneud â chreu lle diogel, cyfarwydd, a llawen lle gall plant ddysgu, chwarae, a theimlo eu bod yn cael eu gofalu amdanynt yn ystod gwyliau'r haf.

Derbyniodd dau enwebai arall gydnabyddiaeth arbennig yn y seremoni wobrau am eu hymdrechion eithriadol wrth gefnogi'r rhaglen Bwyd a Hwyl:

  • Cafodd Jacob Simmonds o Ysgol Arbennig Pen y Cwm ei ganmol am ei ymagwedd arloesol wrth addasu gwersi sgiliau maeth. Gwnaeth Jacob sicrhau bod y gwersi hyn yn hygyrch ac yn hawdd eu deall i ddisgyblion â gwahanol anghenion addysgol arbennig, gan wneud y gwersi yn gynhwysol i bawb.
  • Cafodd Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin hefyd eu canmol am eu cyfraniad sylweddol i'r cynllun. Mae eu darpariaeth o weithgareddau o ansawdd uchel a deniadol ar draws ysgolion sy'n cymryd rhan wedi cyfoethogi'r rhaglen, gan helpu i greu profiadau cofiadwy i blant yn ystod sesiynau Bwyd a Hwyl.

]]>
/cy/newyddion/gorymdaith-ysgol-willowtown-yn-dathlu-gwobrau-pen-blwydd-10-mlynedd-bwyd-a-hwyl/ /cy/newyddion/gorymdaith-ysgol-willowtown-yn-dathlu-gwobrau-pen-blwydd-10-mlynedd-bwyd-a-hwyl/ Tue, 23 Dec 2025 09:50:03 GMT Carolyn Jenkins
Cyllid Balchder Bro i gael ei graffu Ar y 5ed o Ionawr, bydd cynghorwyr ym Mlaenau Gwent yn craffu ar gynigion ar gyfer rhaglen Balchder Bro y fwrdeistref.

Ym mis Medi 2025, cyhoeddodd Llywodraeth y DU y bydd y rhaglen Balchder Bro yn gweld ״ yn derbyn hyd at £20 miliwn, dros gyfnod o 10 mlynedd.

Nod Rhaglen Balchder Bro Llywodraeth y DU yw cefnogi'r cymunedau mwyaf mewn angen ac mae'r awdurdod lleol wedi cael gwahoddiad i nodi a chynnig y cymunedau yn eu hardaloedd i gymryd rhan yn y rhaglen.

Rhaid dychwelyd cadarnhad o'r ardal gymdogaeth a ddewiswyd i Lywodraeth y DU erbyn 9 Ionawr 2026 i'w chymeradwyo ac i ddechrau cyflwyno'r rhaglen.

I dderbyn y cyllid, dylai'r ardal a gynigir fod yn un ardal rhwng 5 a 15 mil o drigolion, nid mewn ardal sydd eisoes wedi derbyn cyllid Balchder Bro a rhaid gallu tystio ei bod yn cael ei hadnabod fel y gymdogaeth fwyaf mewn angen, yn ôl Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) fel y brif ffynhonnell ddata.

Mae'r adroddiad yn nodi 3 opsiwn i gynghorwyr eu hystyried. Ewch i i ddarllen yr adroddiad llawn.

]]>
/cy/newyddion/cyllid-balchder-bro-i-gael-ei-graffu/ /cy/newyddion/cyllid-balchder-bro-i-gael-ei-graffu/ Tue, 23 Dec 2025 11:56:56 GMT Carolyn Jenkins
Ymgyrch newydd i wella presenoldeb ysgolion ym Mlaenau Gwent (1) Mae Cyngor ״ yn gweithio gydag ysgolion i lansio ymgyrch newydd sy'n hyrwyddo'r manteision niferus o fynychu'r ysgol mewn ymgais i roi hwb i gyfraddau presenoldeb.

Mae'r ymgyrch #DdimYmaColliAllan yn tynnu sylw at y manteision niferus o fynd i'r ysgol bob dydd, fel dysgu, gweithgareddau hwyl, cyflawni graddau gwych, rhagolygon gyrfa rhagorol a threulio amser gyda ffrindiau.

Mae gwella presenoldeb ysgol rheolaidd yn brif flaenoriaeth i'r Cyngor. Rydym yn archwilio ffyrdd newydd o weithio gyda chymunedau drwy Fargen ״, lle rydym am weithio gyda'n gilydd i adeiladu cymunedau tecach, iachach a chryfach. Mae gwneud yn siŵr bod plant yn mynychu'r ysgol yn ffordd sylfaenol o adeiladu'r cymunedau hynny.

Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i adeiladu dyfodol disglair i blant a phobl ifanc ym Mlaenau Gwent, gan gefnogi pob plentyn i ffynnu drwy adeiladu sylfeini cadarn ar gyfer dysgu a datblygiad gydol oes, a chanolbwyntio ar les gwybyddol, emosiynol, cymdeithasol a chorfforol. Mae mynychu'r ysgol yn rheolaidd yn allweddol i hyn, ac mae'r Cyngor yn gofyn i deuluoedd weithio gyda'i gilydd i roi cyfle i bob plentyn a pherson ifanc gyrraedd eu llawn botensial.

Un o fuddion gwirioneddol y ffederasiwn rhwng cynghorau ״ a Thorfaen yw dysgu a rhannu arfer da. Mae Torfaen wedi gweld gwelliannau gwirioneddol mewn presenoldeb ers dechrau ei hymgyrch Ddim Yma Colli Allan.  

Dywedodd y Cynghorydd Sue Edmunds, Aelod Cabinet dros Blant, Pobl Ifanc a Theuluoedd:

"Rwy'n falch iawn o lansio ein hymgyrch newydd ‘Ddim Yma Colli Allan’, sy'n tynnu sylw at fanteision niferus mynychu’r ysgol yn rheolaidd. Mae’r ysgol yn golygu mwy na dysgu yn unig - mae hefyd yn ymwneud â chyfeillgarwch, gweithgareddau hwyl, a chyfleoedd sy'n helpu plant i ffynnu a chyflawni canlyniadau bywyd gwell.

"Er ein bod yn deall bod rhai absenoldebau, fel salwch, yn anochel, byddwn yn annog rhieni i feddwl yn ofalus cyn cadw plentyn i ffwrdd o’r ysgol. Mae'r rhan fwyaf o fân salwch yn golygu y gall plant barhau i fynychu os ydyn nhw'n teimlo'n ddigon da. Lle bynnag y bo'n bosibl, gwnewch apwyntiadau meddygol a chymerwch wyliau y tu allan i'r tymor.

"Gall trefn dda a phresenoldeb rheolaidd wneud gwahaniaeth gwirioneddol i les meddyliol a chorfforol plentyn. Rydym yn gwybod bod rhai teuluoedd yn wynebu heriau, ac rydym wedi ymrwymo i weithio gyda nhw i ddarparu cyngor a chefnogaeth. Siaradwch â'ch ysgol neu ein Gwasanaeth Lles Addysg os oes angen help arnoch.

"Mae gwella presenoldeb yn brif flaenoriaeth i'r Cyngor, a gyda'n gilydd gallwn wneud yn siŵr bod pob plentyn yn cael y dechrau gorau mewn bywyd."

Mae disgyblion o Ysgol Gyfun Tredegar ac Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru y Santes Fair wedi ymddangos yng nghyhoeddusrwydd lansio'r ymgyrch.

Dywedodd Pennaeth Ysgol Gyfun Tredegar, Charlotte Leaves:

"Rydyn ni'n falch o fod yn cefnogi 'Ddim Yma Colli Allan'. Bob dydd mae pobl ifanc yn dod i'r ysgol, maen nhw'n gwneud hynny dros eu dyfodol - oherwydd mae'r gwersi maen nhw'n eu colli heddiw yn gyfleoedd na allant eu cael ’nôl fory."

Fel rhan o 'Ddim Yma Colli Allan', byddwn yn rhannu manylion am sut rydym yn annog presenoldeb da ar ein gwefan ac ar ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol.

Oeddech chi'n gwybod y byddai gan ddisgyblion sy'n cymryd hanner diwrnod i ffwrdd yr wythnos ar gyfartaledd gyfradd presenoldeb o 90%? Byddai gan y rhai sy'n cymryd un diwrnod i ffwrdd yr wythnos ar gyfartaledd gyfradd presenoldeb o 80%.  

Mwy am 'Ddim Mewn Colli Allan' a Phresenoldeb yn yr Ysgol yma.

]]>
/cy/newyddion/ymgyrch-newydd-i-wella-presenoldeb-ysgolion-ym-mlaenau-gwent-1/ /cy/newyddion/ymgyrch-newydd-i-wella-presenoldeb-ysgolion-ym-mlaenau-gwent-1/ Tue, 06 Jan 2026 10:18:09 GMT Louise Bishop
Disgyblion yn cyhoeddi llyfr ryseitiau cymunedol ysbrydoledig Mae disgyblion yn Ysgol Gynradd Gymunedol Willowtown, Glynebwy, wedi mynd â’u dysgu allan o’r ystafell ddosbarth drwy greu a chyhoeddi llyfr ryseitiau cymunedol unigryw i blant, sy'n arddangos treftadaeth ddiwylliannol gyfoethog eu hardal leol.

Fel rhan o’r prosiect, a arweiniwyd yn gyfan gwbl gan ddisgyblion, dewisodd plant ryseitiau gan deuluoedd o fewn y gymuned leol ac amlddiwylliannol, gan gynnwys prydau a drysorir a drosglwyddwyd rhwng cenedlaethau. O'r dechrau i'r diwedd, gwnaeth y disgyblion ymchwilio, ysgrifennu a darlunio’r llyfr eu hunain, gan ddangos creadigrwydd, gwaith tîm, ac ymdeimlad cryf o gymuned.

Wedi'i gynllunio fel llyfr coginio i ddechreuwyr, sy'n addas i blant, nod y cyhoeddiad yw annog teuluoedd i goginio gyda'i gilydd, magu hyder yn y gegin, ac ysbrydoli annibyniaeth. Wedi'i lunio a'i ddylunio'n broffesiynol, mae'r llyfr yn cario ISBN swyddogol, gan roi gorffeniad gloyw, cyhoeddedig iddo.

Dywedodd y Pennaeth Mel Evans:

"Mae'r prosiect hwn yn enghraifft wych o lais y disgybl a dysgu creadigol ar waith. Mae ein plant wedi gweithio'n anhygoel o galed i gynhyrchu rhywbeth ystyrlon sy'n dathlu dysgu a chymuned."

Meddai disgybl Blwyddyn 5, Caleb Rich:

"Gwnaethon ni fynd â'r tatws a'r letys rydyn ni wedi'u tyfu yn ein gardd gymunedol i siop Big Bocs Bwyd ac aeth rhai o’r rhieni â nhw adref gyda nhw gwneud pryd iach. Rwy'n mwynhau dysgu am sut i dyfu bwyd a sut i'w wneud yn iach."

Mae gan yr ysgol siop gymunedol Big Bocs Bwyd, gardd/gofod tyfu a chegin hefyd. Mae Llythrennedd Bwyd yn cael ei gyflwyno o'r Feithrinfa i Flwyddyn 6 lle rhoddir cyfleoedd i ddisgyblion ddysgu o ble mae eu bwyd yn dod, sut i greu prydau iach, maethlon, sgiliau coginio a phwysigrwydd diogelwch bwyd ac ailddosbarthu o fewn y gymuned. 

Anogir dysgwyr i fod yn annibynnol ac i gymryd rolau gweithredol yn yr ardd a'r siop, gan eu galluogi i ddatblygu sgiliau rhifedd a llythrennedd ochr yn ochr â sgiliau cymdeithasol ac emosiynol i gefnogi lles. Mae hyn i gyd yn cael ei gefnogi gan grŵp o riant-wirfoddolwyr dibynadwy y mae eu cefnogaeth yn parhau i wneud y prosiect yn llwyddiant.

Mae'r Cyngor yn archwilio Bargen ״, ffordd newydd o weithio gyda chymunedau gyda'r nod o fynd i'r afael ag anghydraddoldebau ac adeiladu rhywbeth gwell gyda'n gilydd. Mae Willowtown wir yn helpu i hyrwyddo a chefnogi ffyrdd iach o fyw a lles cymunedol.

Gallwch brynu copi o'r llyfr o'r ysgol neu Amazon, a bydd yn cael ei stocio yng Ngŵyl y Gelli eleni. Os ydych chi'n fusnes lleol a fyddai'n hapus i stocio'r llyfr, cysylltwch â'r ysgol.

]]>
/cy/newyddion/disgyblion-yn-cyhoeddi-llyfr-ryseitiau-cymunedol-ysbrydoledig/ /cy/newyddion/disgyblion-yn-cyhoeddi-llyfr-ryseitiau-cymunedol-ysbrydoledig/ Thu, 08 Jan 2026 12:05:22 GMT Louise Bishop
Y camau nesaf tuag at Fargen ״ Diolch i bawb a gyfrannodd at ein hymgynghoriad ar gynlluniau ar gyfer Bargen ״ newydd.

Nod y Fargen yw datblygu ffordd newydd o weithio rhwng y cyngor, trigolion, cymunedau a sefydliadau partner i wella iechyd a lles pobl a lleihau anghydraddoldebau.

Ymwelodd mwy na 1,500 o bobl â'n hymgynghoriad ar-lein i ddysgu mwy, gyda 250 o arolygon wedi'u cwblhau. Gwnaethom hefyd ymgysylltu â channoedd o bobl yng nghanol ein trefi ac mewn digwyddiadau lleol cyn y Nadolig a chynnal sesiynau gyda phartneriaid allweddol.

Y penwythnos hwn, bydd Cynulliad Dinasyddion yn cyfarfod ym Mlaenau Gwent i ystyried yr ymatebion a dechrau datblygu contract cymdeithasol newydd. Bydd y Cynulliad yn rhedeg dros dri dydd Sadwrn ym mis Ionawr a Chwefror i drafod a datblygu contract cymdeithasol newydd sy'n gwneud y cyngor, trigolion, grwpiau cymunedol a sefydliadau trydydd sector yn bartneriaid cyfartal.

Dywedodd Arweinydd y Cyngor, Steve Thomas:

"Hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd amser i ddysgu mwy am y cynlluniau ar gyfer Bargen newydd ״ a rhoi eu barn i ni. 

"Yma yn ein bwrdeistref, mae gennym eisoes enghreifftiau gwych o grwpiau cymunedol yn cymryd camau cadarnhaol i weithio gyda ni i wella bywydau a chyfleusterau lle maen nhw'n byw. Nod y Fargen yw ymgysylltu â mwy o drigolion a grwpiau i helpu eu cymunedau i ddod yn fwy gwydn. 

"Drwy fuddsoddi mewn atal a grymuso ein cymunedau, gallwn fynd i'r afael ag achosion sylfaenol anghydraddoldeb a datgloi potensial llawn ״ gyda'n gilydd." Byddwn yn parhau i ymgysylltu â chymunedau a phartneriaid wrth i ni weithio i lunio dyfodol gwell."

Bydd y Cynulliad Dinasyddion yn cynnwys 40 o drigolion a ddewiswyd gan y a bydd y Cynulliad yn cael ei redeg gan , partner cyflenwi sector cyhoeddus Llywodraeth Cymru a'r Gymdeithas Llywodraeth Leol.  

Mae Bargen ״ yn cyd-fynd ag ymrwymiad y cyngor i fod y Cyd-Gyngor Marmot cyntaf yng Nghymru ochr yn ochr â Chyngor Torfaen. 

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y cynlluniau ar gyfer Bargen ״ drwy glicio

]]>
/cy/newyddion/y-camau-nesaf-tuag-at-fargen-blaenau-gwent/ /cy/newyddion/y-camau-nesaf-tuag-at-fargen-blaenau-gwent/ Tue, 13 Jan 2026 13:01:10 GMT Louise Bishop
Y Cabinet yn cymeradwyo cyllid Balchder Bro Heddiw, cymeradwyodd Pwyllgor Cabinet ״ gais am gyllid o £20 miliwn i Gronfa Balchder Bro Llywodraeth y DU.

Ym mis Medi 2025, cyhoeddodd Llywodraeth y DU raglen Balchder Bro gyda hyd at £20 miliwn wedi'i fuddsoddi dros gyfnod o 10 mlynedd i gefnogi'r cymunedau hynny a nodwyd fel y rhai mwyaf mewn angen.

I dderbyn cyllid, dylai'r gymuned fodloni'r meini prawf canlynol:

  • Bod yn ardal sengl o fewn ffin yr awdurdod lleol
  • Peidio â bod wedi'i lleoli o fewn etholaeth seneddol y DU sydd eisoes wedi derbyn cyllid Balchder Bro Cyfnod 1
  • Cynnwys, yn gyffredinol, rhwng 5,000 a 15,000 o drigolion
  • Cael ei chefnogi gan dystiolaeth glir i nodi angen, gan dynnu ar Fynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) fel y brif ffynhonnell ddata

Yr wythnos diwethaf, trafododd cynghorwyr ar bwyllgor craffu pob aelod y cais am gyllid Balchder Bro ac argymhellwyd rhestru tri opsiwn dewisol ar gyfer cyllid fel a ganlyn:

  • Opsiwn 1 (Rhestr 1): Ardal Fwrdeistref Sirol gyfan
  • Opsiwn 2 (Rhestr 2): Ardal Blaenau'r Cymoedd
  • Opsiwn 3 (Rhestr 3): Dyffryn Sirhywi

Dywedodd Christina Harrhy, Cyfarwyddwr Economi a Lleoedd y Cyngor:

"Yr wythnos diwethaf, argymhellodd y pwyllgor craffu drefn rhestredig o geisiadau cyllido i'w cyflwyno i'r Cabinet, ac roedd Aelodau'r Cabinet wedi cynnig eu cefnogaeth anffurfiol i'r argymhellion hyn.

"Fodd bynnag, yn dilyn trafodaethau manwl dilynol gyda Llywodraeth y DU, cyfathrebwyd ar lafar ac yn ysgrifenedig nad oedd Opsiynau 1 a 2 yn bodloni'r meini prawf ariannu ac felly y byddent yn cael eu gwrthod pe baent yn cael eu cyflwyno'n ffurfiol. Yn dilyn ymgysylltu pellach â Llywodraeth y DU, cadarnhawyd mai dim ond Opsiwn 3 sy'n gymwys ac sydd â'r siawns orau o sicrhau cymeradwyaeth."

Dywedodd Arweinydd Cyngor ״, y Cynghorydd Steven Thomas:

"Mae'r rhaglen Balchder Bro hon wedi'i hariannu'n llawn drwy Lywodraeth y DU, ac mae'r cyllid yn un elfen o becyn ehangach o gyllid grant adfywio y DU a Llywodraeth Cymru a fydd yn ein helpu i ledaenu gweithgaredd adfywio ar draws y fwrdeistref sirol, gan gynnwys ein rhaglenni ariannu Trawsnewid Trefi a Ffyniant Gyffredin.

"O ystyried y diweddariad a ddarparwyd i'r Cabinet, mae'r Cabinet heddiw wedi cytuno bod Opsiwn 3 ar gyfer Dyffryn Sirhywi yn cael ei gyflwyno'n ffurfiol fel ardal ddewisol y Cyngor ar gyfer buddsoddi, neu rydym mewn perygl o golli'r buddsoddiad yn y fwrdeistref yn gyfan gwbl. Rhoddwyd ffenestr fach iawn a dyddiad cau byr i'r Cyngor gyflwyno opsiynau, a gwnaed hynny hyd yn oed yn dynnach gan yr angen i aros am Fynegai Amddifadedd Lluosog Cymru 2025 wedi'i ddiweddaru, nad oedd wedi'i gyhoeddi tan 29 Tachwedd, cyn y gellid gwneud dewisiadau gwybodus. Yn y pen draw, mae paramedrau'r rhaglen - gan gynnwys sut mae ardaloedd cymwys yn cael eu diffinio - yn cael eu gosod yn genedlaethol ac nid ydynt o fewn rheolaeth y Cyngor.

Cododd yr aelodau, yn wleidyddol ac yn gyson, nad yw amddifadedd ym Mlaenau Gwent wedi'i gyfyngu i un lle ond ei fod yn bodoli, i wahanol raddau, ar draws ein holl gymunedau; er bod y pwynt hwnnw wedi'i wneud yn glir, mae'r Llywodraeth wedi dewis cymhwyso'r rhaglen yn llym yn unol â'i reolau a'i feini prawf ei hun, sydd wedi bod yn siomedig i lawer o Aelodau lleol o ystyried pa mor real a chyffredin yw'r angen a pha mor anghyfforddus yw hi i neilltuo dim ond un rhan o'r fwrdeistref.

Rydym nawr yn cyflwyno'r achos cryfaf posibl dros Flaenau Gwent o fewn y fframwaith a roddwyd inni.”

Os bydd Llywodraeth y DU yn cymeradwyo'r cais am gyllid, penodir Bwrdd Balchder Bro, yn cynnwys cynrychiolwyr lleol, i oruchwylio cyflawni'r rhaglen. Mae'r Bwrdd yn cynnwys trigolion lleol, busnesau a grwpiau cymunedol. Bydd y Cyngor yn cefnogi'r Bwrdd ac yn goruchwylio'r penderfyniadau sy'n cael eu gwneud i sicrhau eu bod yn bodloni gofynion Llywodraeth y DU.

Ychwanegodd Christina Harrhy:

"Bydd y cyllid diweddaraf hwn hefyd yn cefnogi Strategaeth Cynllun Twf datblygol y Cyngor, y cynllun corfforaethol, ac mae'n cyd-fynd â Bargen ״ a fydd yn gweld y cyngor yn gweithio'n wahanol o fewn cymunedau. Bydd y Cynllun Twf datblygol yn darparu dull strategol o sicrhau ffyniant economaidd i'r fwrdeistref sy'n gwneud y mwyaf o gyllid grant y llywodraeth ynghyd â buddsoddiad y sector preifat dros y tymor canolig i hir."

]]>
/cy/newyddion/y-cabinet-yn-cymeradwyo-cyllid-balchder-bro/ /cy/newyddion/y-cabinet-yn-cymeradwyo-cyllid-balchder-bro/ Wed, 14 Jan 2026 13:18:55 GMT Louise Bishop
Cynulliad Dinasyddion yn helpu i lunio partneriaeth gymunedol yn y dyfodol ym Mlaenau Gwent Daeth Cynulliad Dinasyddion, sy'n cynnwys trigolion lleol, ynghyd y penwythnos hwn i helpu i lunio egwyddorion Bargen newydd ״.

Mae'r Fargen yn ffordd newydd o weithio rhwng Cyngor ״, trigolion, cymunedau a sefydliadau partner, gyda'r nod o adeiladu bwrdeistref decach a mwy gwydn, gwella iechyd a lles a lleihau anghydraddoldebau.

Bydd y Cynulliad Dinasyddion yn pennu'r egwyddorion y tu ôl i'r Fargen a fydd yn arwain y berthynas a'r ffordd newydd hon o weithio i gyflawni'r uchelgeisiau a rennir ar gyfer y fwrdeistref. Dyma'r gyntaf o dair sesiwn a gynhelir dros fis gyda thrigolion a ddewiswyd ar hap rhwng 16 ac 83 oed, gyda gwahanol safbwyntiau a phrofiadau.

Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i rymuso cymunedau, adeiladu ar gryfderau lleol, a sicrhau bod penderfyniadau'n cael eu llunio gan y bobl sy'n byw ac yn gweithio yn y fwrdeistref.

Mae'r cyfranogwyr yn trafod themâu allweddol sy'n sail i'r Fargen, gan gynnwys:

•&Բ;&Բ;&Բ;&Բ;&Բ;&Բ;&Բ; Balchder yn lle maen nhw'n byw

•&Բ;&Բ;&Բ;&Բ;&Բ;&Բ;&Բ; Cyfrifoldeb cymdeithasol

•&Բ;&Բ;&Բ;&Բ;&Բ;&Բ;&Բ; Cysylltu cymunedau

•&Բ;&Բ;&Բ;&Բ;&Բ;&Բ;&Բ; Rhannu grym

Trwy sesiynau rhyngweithiol, bydd y trigolion yn ystyried sut y gall unigolion, cymunedau a'r Cyngor weithio ar y cyd i ddiwallu anghenion y dyfodol, goresgyn rhwystrau a chreu bywydau iachach a mwy cysylltiedig. Bydd y Cynulliad hefyd yn canolbwyntio ar sut olwg sydd ar rymuso, sut y gellir mesur llwyddiant, a chamau ymarferol i alluogi cymunedau i weithredu ar y newidiadau maen nhw am eu gweld.

Mae siaradwyr allweddol yn cynnwys cynrychiolwyr y Cyngor; sefydliadau partner fel y sector iechyd a gwirfoddol, ac unigolion a grwpiau sydd eisoes yn gwneud gwaith gwych yn eu cymunedau.

Dywedodd Arweinydd Cyngor ״, y Cynghorydd Steve Thomas:

“Mae’r Cynulliad Dinasyddion yn ymwneud â gwrando, dysgu, a gweithio gyda’n gilydd i lunio gweledigaeth gyffredin ar gyfer bwrdeistref fwy cryf, gwydn a theg. Mae gwaith gwych eisoes yn cael ei wneud yn ein cymunedau ym Mlaenau Gwent, lle mae pobl yn dod ynghyd i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i ble maen nhw’n byw. Rydym wedi cael ein hysbrydoli gan brosiectau fel y rhain, lle mae trigolion wedi cymryd yr awenau ar ôl nodi angen yn eu cymuned, ac rydym am adeiladu ar hyn trwy rymuso a chefnogi mwy o bobl i wneud yr un peth.“

Defnyddir mwy na 250 o ymatebion i arolwg ar-lein diweddar a syniadau a barn gan staff y Cyngor a rhanddeiliaid allweddol hefyd wrth lunio’r Fargen.

Mae’r Cynulliad Dinasyddion yn cynnwys trigolion a ddewiswyd gan ac mae’r Cynulliad yn cael ei redeg gan , y partner cyflenwi sector cyhoeddus ar gyfer Llywodraeth Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol.

Mae Bargen ״ yn cyd-fynd ag ymrwymiad y Cyngor i fod y Cyd-Gyngor Marmot cyntaf yng Nghymru, ochr yn ochr â Chyngor Torfaen.

Ystyrir yr egwyddorion y cytunwyd arnynt ar gyfer y Fargen gan Bwyllgor Craffu Llywodraethu Corfforaethol ac Adnoddau’r Cyngor yn dilyn sesiwn olaf y Cynulliad.

]]>
/cy/newyddion/cynulliad-dinasyddion-yn-helpu-i-lunio-partneriaeth-gymunedol-yn-y-dyfodol-ym-mlaenau-gwent/ /cy/newyddion/cynulliad-dinasyddion-yn-helpu-i-lunio-partneriaeth-gymunedol-yn-y-dyfodol-ym-mlaenau-gwent/ Tue, 20 Jan 2026 09:22:47 GMT Carolyn Jenkins
Llyfrgelloedd ״ yn arwain Cymru o ran effaith a thwf cymunedol Mae mwy o bobl ym Mlaenau Gwent yn dweud bod eu llyfrgell leol wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'w bywyd nag unrhyw le arall yng Nghymru. Perfformiodd llyfrgelloedd yn y fwrdeistref yn eithriadol o dda yn 2024/25, yn ôl adroddiad Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru, gyda'r niferoedd a fynychodd yn cynyddu gan 26% o gymharu â'r flwyddyn flaenorol.

Mae'r adroddiad, a gyflwynwyd i Is-adran Diwylliant Llywodraeth Cymru, yn tynnu sylw at gyflawniadau'r gwasanaeth yn ystod wythfed flwyddyn a blwyddyn olaf y Chweched Fframwaith Asesu, 'Llyfrgelloedd Cysylltiedig ac Uchelgeisiol.'

Heddiw, croesawodd Pwyllgor Craffu Oedolion, Cymunedau a Llesiant Cyngor ״ yr adroddiad.

Mae llyfrgelloedd ym Mlaenau Gwent yn cael eu rheoli gan Aneurin Leisure Trust, mewn partneriaeth â Chyngor ״. Mae'r gwasanaeth wedi dangos cynnydd ac effaith ryfeddol: gan fodloni pob un o'r 13 hawl graidd a chyflawni 4 allan o 5 dangosydd ansawdd yn llawn.

Y dyddiau hyn, mae llyfrgelloedd yn golygu mwy na llyfrau; maen nhw’n cynnig ystod eang o wasanaethau a chefnogaeth. Mae hyn yn cynnwys mentrau cynhwysiant digidol, Cyngor ar Bopeth a Hybiau Cymunedol y Cyngor sy'n darparu cyngor wyneb yn wyneb ar wasanaethau'r Cyngor. Mae yna hefyd amrywiaeth o glybiau a grwpiau cymdeithasol yn cael eu cynnal yn y lleoliadau.

Dywedodd Arweinydd Cyngor ״, Steve Thomas:

"Mae llyfrgelloedd wrth wraidd ein cymunedau. Maent yn cynnig llawer mwy na llyfrau - maent yn cynnig mannau lle mae pobl yn cysylltu, dysgu, a chael mynediad at gymorth a gwasanaethau hanfodol. Trwy Fargen ״, rydym yn gweithio'n agos gyda thrigolion i adeiladu cymunedau tecach, iachach a chryfach. Rhan allweddol o'r dull gweithredu hwn yw harneisio cryfderau a pharodrwydd pobl leol i wella lles.

Mae llyfrgelloedd eisoes yn chwarae rhan enfawr yn hyn, gan gynnal clybiau cymdeithasol a gweithgareddau sy'n dod â phobl at ei gilydd ac yn cyfoethogi bywydau — o ioga babanod Cymraeg a chlybiau codio i grwpiau ysgrifennu creadigol a sesiynau celf iechyd meddwl.

Mae Aneurin Leisure Trust yn bartner gwerthfawr yn y gwaith hwn, a gyda'n gilydd rydym wedi ymrwymo i gefnogi twf a chynaliadwyedd y Gwasanaeth Llyfrgelloedd. Mae'r adroddiad hwn yn tynnu sylw at yr ymrwymiad cyffredin hwnnw. Mae ein nod yn glir: sicrhau bod llyfrgelloedd yn parhau i ffynnu fel adnoddau cymunedol hanfodol am flynyddoedd i ddod."

Dywedodd Tracy Jones, y Pennaeth Llyfrgelloedd:

"Mae'r tîm yn Llyfrgelloedd ״ wedi ymrwymo i ddarparu'r gwasanaeth gorau i'w cymuned leol ac rydym wrth ein bodd bod hyn yn cael ei adlewyrchu yng nghanlyniad adroddiad Safonau Llyfrgelloedd Cymru.

"Mae pob llyfrgell yn cynnig cymaint mwy na llyfrau.  O'n clybiau llwyddiannus sy'n darparu ar gyfer gwahanol ddiddordebau, gan gynnwys gweithio gyda llawer o bartneriaid gwahanol i ehangu ar yr amrywiaeth o weithgareddau sy'n digwydd bob wythnos, i weithio'n agos gydag ysgolion ac adrannau eraill yn yr ymddiriedolaeth i ehangu ymwybyddiaeth a chyrhaeddiad y gwasanaeth llyfrgelloedd, a darparu gwasanaeth dosbarthu sy’n werthfawr iawn i'r rhai nad ydynt yn gallu dod i'r llyfrgell yn bersonol.

"Byddwn yn parhau i ddatblygu ein gwasanaeth i ddiwallu anghenion cymuned ״ ac yn edrych i weithio gyda llawer o bartneriaid newydd yn y flwyddyn i ddod."

Mae llyfrgelloedd yn addasu'n gyson i anghenion cymunedol ac maent hefyd yn hyrwyddo cynhwysiant, ar ôl cyflwyno menter 'awr dawel' sydd wedi cael ei chroesawu gan ddefnyddwyr niwrowahanol.

Mae'r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at rôl llyfrgelloedd wrth frwydro yn erbyn arwahanrwydd cymdeithasol, gwella llythrennedd, a chefnogi lles economaidd, gan alinio â Chynllun Llesiant ״ ac Egwyddorion Marmot.

Bydd Cabinet y Cyngor nawr yn ystyried yr adroddiad.

Hoffech chi ddysgu mwy am eich llyfrgell leol? Am ragor o wybodaeth ewch i: 

]]>
/cy/newyddion/llyfrgelloedd-blaenau-gwent-yn-arwain-cymru-o-ran-effaith-a-thwf-cymunedol/ /cy/newyddion/llyfrgelloedd-blaenau-gwent-yn-arwain-cymru-o-ran-effaith-a-thwf-cymunedol/ Tue, 20 Jan 2026 11:55:00 GMT Louise Bishop
Diwrnod Cofio'r Holocost – 27 Ionawr 2026

Mae Diwrnod Cofio'r Holocost, a arsylwir ar 27 Ionawr, yn foment i ni anrhydeddu'r chwe miliwn o bobl Iddewig a lofruddiwyd yn ystod yr Holocost, ochr yn ochr â'r miliynau o bobl Roma a Sinti, pobl anabl, pobl LHDTC+, carcharorion gwleidyddol, a dioddefwyr hil-laddiadau mwy diweddar.

Y thema ar gyfer Diwrnod Cofio'r Holocost 2026 yw Pontio Cenedlaethau - galwad i weithredu sy'n ein hatgoffa nad yw'r cyfrifoldeb cofio yn dod i ben gyda goroeswyr, ond yn parhau trwy eu plant, eu hwyrion a thrwy bob un ohonom. Mae'r thema hon yn tynnu sylw at bwysigrwydd dysgu rhwng cenedlaethau, cadw'r cof, a chario gwersi yr Holocost ymlaen i'r dyfodol. Mae'n ein hannog i wrando, i ddysgu, ac i adeiladu cysylltiadau rhwng y gorffennol a'r presennol fel nad yw realiti yr hyn a ddigwyddodd byth yn cael ei anghofio.

Eleni, bydd Cyngor ״ yn nodi Diwrnod Cofio'r Holocost trwy gyfres o weithgareddau ledled y fwrdeistref, gan ddarparu cyfleoedd i fyfyrio, dysgu a chofio.

Sut y byddwn yn nodi'r diwrnod

  • Gofod Myfyrio yn Llyfrgell Tredegar
    O ddydd Llun 26ain tan ddydd Gwener 30ain Ionawr bydd gofod myfyrio pwrpasol yn cynnig man tawel i ymwelwyr ddysgu, myfyrio ac ymgysylltu â thema eleni Pontio Cenedlaethau.
  • Born Survivor – Tystiolaeth gan Eva Clarke
    Bydd copïau o Born Survivor, sy'n rhannu stori ryfeddol goroeswr yr Holocost a Freeman o Flaenau Gwent, Eva Clarke, ar gael ym mhob llyfrgell ym Mlaenau Gwent, gan gefnogi'r gwaith o drosglwyddo tystiolaeth goroeswyr ar draws cenedlaethau.
  • Goleuadau'r Swyddfeydd Cyffredinol Ar noson 27 Ionawr, bydd adeilad y Swyddfeydd Cyffredinol yn cael ei oleuo'n borffor fel symbol gweladwy o goffa ac undod.

Bydd Cyngor Tref Tredegar hefyd yn ymuno â'r goffáu, gan oleuo Cloc Tref Tredegar mewn porffor a gwyn a chynnal Gwylnos Goffa'r Holocost am 8yh.

Mae Diwrnod Cofio'r Holocost yn ein herio i fyfyrio ar ganlyniadau casineb, hiliaeth a dadddyneiddiad. Mae'r thema eleni yn atgyfnerthu pam ei bod yn hanfodol ein bod yn parhau i rannu straeon, herio rhagfarn, a sicrhau bod cenedlaethau'r dyfodol yn deall gwirionedd a difrifoldeb yr Holocost.

]]>
/cy/newyddion/diwrnod-cofior-holocost-27-ionawr-2026/ /cy/newyddion/diwrnod-cofior-holocost-27-ionawr-2026/ Thu, 22 Jan 2026 11:26:42 GMT Carolyn Jenkins
Penodwyd Dirprwy Arweinydd Newydd. Yng nghyfarfod Cyngor Llawn ״, penodwyd y Cynghorydd Tommy Smith yn Ddirprwy Arweinydd y Cyngor. Y Cynghorydd Smith hefyd yw'r Aelod Cabinet dros Gymdogaethau a Gwasanaethau Cymunedol.

Penodwyd y Cynghorydd Jules Gardner yn Aelod Cabinet newydd dros Oedolion a Chymunedau.

Croesawyd y ddau benodiad gan gynghorwyr.

Dywedodd y Cynghorydd Smith: "Mae'n anrhydedd i mi gael fy mhenodi'n Ddirprwy Arweinydd y Cyngor heddiw a diolch i'm cydweithwyr am yr hyder a ddangoswyd ynof fi. Rwy'n gwbl ymrwymedig i weithio gyda chydweithwyr o bob rhan o'r sbectrwm gwleidyddol i gynnig fy nghefnogaeth ac i sicrhau ein bod ni i gyd yn gweithio gyda'n gilydd er lles ein cymunedau yma ym Mlaenau Gwent."

Mae'r Cynghorydd Jules Gardner yn camu i swydd yn y Cabinet am y tro cyntaf. Dywedodd: "Rwy'n croesawu'n llwyr yr her a'r cyfle i wasanaethu fel Aelod Cabinet dros Oedolion a Chymunedau, gan adeiladu ar y gwaith gwych a wnaed gan y Cynghorydd Helen Cunningham. Mae hwn yn bortffolio hynod bwysig wrth i ni symud i ffordd newydd feiddgar o weithio gyda'n cymunedau a'n partneriaid, gyda'r nod o adeiladu bwrdeistref decach, fwy gwydn, a fydd yn gwella iechyd a lles etholwyr , tra'n anelu at leihau anghydraddoldebau.”  

]]>
/cy/newyddion/penodwyd-dirprwy-arweinydd-newydd/ /cy/newyddion/penodwyd-dirprwy-arweinydd-newydd/ Fri, 23 Jan 2026 09:47:12 GMT Carolyn Jenkins
Nick Smith AS yn ymweld â phrosiectau sy'n cefnogi pobl ifanc ar draws ״ Mae Nick Smith, AS ״ a Rhymni, wedi ymweld â Chanolfan Ieuenctid Abertyleri i weld y gwahaniaeth cadarnhaol go iawn mae cyllid Llywodraeth y DU yn ei wneud i wasanaethau ieuenctid ym Mlaenau Gwent.

Cyfarfu Mr Smith â staff a phobl ifanc o'r Tîm Ysgolion 11 – 16, darpariaeth AHY (Addysg Heblaw yn yr Ysgol) yng Nghanolfan yr Afon, a'r rhaglen Dyfodol Cadarnhaol. Tynnodd y daith sylw at sut mae gweithwyr ieuenctid yn darparu cymorth cynnar, cymorth lles emosiynol, ac ymyrraeth dargedig sy'n helpu i leihau ymddieithriad, gwella presenoldeb, ac atal ymddygiadau sy’n peri risg.

Nod yr ymweliad â'r ganolfan ieuenctid sydd newydd ei hadnewyddu oedd dangos effaith gwaith ieuenctid a ddarperir ar draws ysgolion a chymunedau, gan gynnwys:

  • Gwaith ieuenctid 11–16 mewn ysgolion, gan gynnwys cymorth un-i-un a grŵp i wella lles, presenoldeb ac ymddygiad
  • Ymyriadau wedi'u teilwra ar gyfer pobl ifanc nad ydynt yn gallu mynychu ysgol brif ffrwd
  • Rhaglenni mentora a gweithgareddau sy'n lleihau'r risg o allgáu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol
  • Cymorth i ddysgwyr sydd mewn perygl o ddod yn NEET (Ddim mewn Addysg, Cyflogaeth na Hyfforddiant)
  • Cymorth ymgysylltu a dilyniant i bobl ifanc sydd mewn perygl

Ar draws ״, mae timau'r Gwasanaeth Ieuenctid yn cefnogi dros 10,700 o bobl ifanc. Mae cyfran sylweddol o'r gwaith ieuenctid presennol yn cael ei ariannu trwy Gronfa Ffyniant Gyffredin (CFfG) Llywodraeth y DU.

Dywedodd Nick Smith AS:

"Roedd yn wych clywed am yr effaith gadarnhaol y mae ein gwasanaethau ieuenctid yn ei chael ar les a hyder pobl ifanc. Mae'r timau ieuenctid ar draws ״ yn helpu i sicrhau bod mwy o bobl ifanc yn parhau i gymryd rhan mewn addysg, teimlo eu bod yn cael eu cefnogi, a chael cyfleoedd ar gyfer y dyfodol."

Dywedodd y Cynghorydd Sue Edmunds, Aelod Cabinet Cyngor ״ dros Blant, Pobl Ifanc a Theuluoedd:

"Roeddwn i’n falch iawn o groesawu Nick Smith AS i Abertyleri heddiw er mwyn iddo allu gweld a chlywed drosto'i hun am waith anhygoel ein gwasanaethau ieuenctid - allan yn y gymuned ac yn ein hysgolion - i helpu i gefnogi pobl ifanc i barhau i ymgysylltu a sicrhau nad oes unrhyw berson ifanc yn cael ei adael ar ôl.

"Nid yw gwaith ieuenctid yn ychwanegiad dewisol - mae'n rhan greiddiol o'n system addysg a lles. Mae'r gefnogaeth mae ein timau yn ei rhoi yn helpu pobl ifanc i barhau i ddysgu, adeiladu gwytnwch emosiynol ac osgoi argyfyngau."

Rhoddodd yr ymweliad gipolwg uniongyrchol i Mr Smith ar werth y gwasanaethau a'r rôl hanfodol y mae gweithwyr ieuenctid yn ei chwarae mewn atal, lles a diogelwch cymunedol.

]]>
/cy/newyddion/nick-smith-as-yn-ymweld-a-phrosiectau-syn-cefnogi-pobl-ifanc-ar-draws-blaenau-gwent/ /cy/newyddion/nick-smith-as-yn-ymweld-a-phrosiectau-syn-cefnogi-pobl-ifanc-ar-draws-blaenau-gwent/ Mon, 26 Jan 2026 15:38:05 GMT Louise Bishop
Canmol Cymuned Ddysgu Canolfan yr Afon am ei hamgylchedd meithringar a chynhwysol Mae Cymuned Ddysgu 3-16 Canolfan yr Afon ym Mlaenau Gwent wedi'i thynnu o fesurau arbennig yn dilyn ymweliad monitro cadarnhaol iawn gan Estyn.

Cadarnhaodd Estyn fod yr ysgol wedi gwneud digon o gynnydd yn erbyn yr holl argymhellion, gan dynnu sylw at arweinyddiaeth gryfach, ymddygiad gwell ymysg disgyblion a diwylliant mwy meithringar a chynhwysol ar draws yr ysgol.

Nododd arolygwyr fwy o sefydlogrwydd ymysg yr arweinyddiaeth, strwythur staffio sefydlog a gweledigaeth glir a rennir sy'n canolbwyntio ar ddiwallu anghenion emosiynol disgyblion. Gwnaethant hefyd arsylwi ar ymddygiad cadarnhaol cyson, gyda disgyblion yn cael eu disgrifio fel tawel, parchus ac ymgysylltiedig.

Canmolwyd gwelliannau i'r cwricwlwm a'r amgylchedd dysgu hefyd, ochr yn ochr â chyfleoedd ehangach gan gynnwys chwaraeon, ymweliadau â'r Senedd a chyfranogiad yng Ngwobr Dug Caeredin, gan helpu disgyblion i fagu hyder, gwytnwch a dyheadau ar gyfer y dyfodol.

Dywedodd y Pennaeth Kieran Dash:

"Rwy'n falch iawn o'r penderfyniad gan Estyn. Mae ein staff ymroddedig wedi gweithio'n ddiflino i gefnogi ein plant a'n pobl ifanc, ac rwy'n falch o bob un ohonyn nhw. Mae ein disgyblion gwych wedi bod yn bartneriaid go iawn yn y daith hon, gan ddangos gwell agweddau at ddysgu, hunanhyder a gwytnwch.

"Rydym yn falch o ba mor bell rydyn ni wedi dod ac yn benderfynol o barhau i symud ymlaen i fod y gymuned ddysgu orau y gallwn fod. Diolch i'r Cyngor, ein llywodraethwyr ysgol, rhieni/gwarcheidwaid a phartneriaid cwricwlwm am eu cefnogaeth ddiwyro."

Mae'r adroddiad yn amlinellu cefnogaeth gref i'r ysgol gan lywodraethwyr, Cyngor ״ ac asiantaethau partner.

Dywedodd y Cynghorydd Sue Edmunds, Aelod Cabinet y Cyngor ar gyfer Plant, Pobl Ifanc a Theuluoedd:

"Mae hwn yn ganlyniad hynod gadarnhaol ac yn dyst i waith caled ac ymrwymiad staff, arweinwyr a phartneriaid yng Nghymuned Ddysgu Canolfan yr Afon. Rydym wedi gweld gwelliannau gwirioneddol a pharhaus mewn arweinyddiaeth, ymddygiad, lles ac ansawdd dysgu. Yn bwysicaf oll, mae'n dangos bod disgyblion bellach yn elwa o amgylchedd tawelach, mwy meithringar lle maen nhw’n teimlo'n ddiogel, wedi’u gwerthfawrogi ac yn cael eu cefnogi i lwyddo. Mae hyn yn cefnogi'n llwyr ein blaenoriaethau i roi'r dechrau gorau mewn bywyd i bob plentyn ac i gyflawni dysgu gydol oes, lles a gwytnwch i'n cymunedau."

Dywedodd Cadeirydd y Llywodraethwyr, Jen Morgan:

"Rwy'n falch iawn o gorff llywodraethu, uwch arweinyddiaeth a staff yr ysgol am eu gwaith caled a'u hymrwymiad i wneud y gwelliannau hyn ac am eu hymroddiad i fywydau ein plant a'n pobl ifanc."

Mae Cymuned Ddysgu 3 – 16 Canolfan yr Afon yn cynnig addysg a chefnogaeth i blant a phobl ifanc sydd ag anghenion cymdeithasol, emosiynol ac iechyd meddwl (SEMH) neu nad ydynt yn gallu mynychu'r ysgol brif ffrwd am gyfnod o amser.

I ddarllen yr Adroddiad Monitro yn llawn ewch i:

]]>
/cy/newyddion/canmol-cymuned-ddysgu-canolfan-yr-afon-am-ei-hamgylchedd-meithringar-a-chynhwysol/ /cy/newyddion/canmol-cymuned-ddysgu-canolfan-yr-afon-am-ei-hamgylchedd-meithringar-a-chynhwysol/ Tue, 27 Jan 2026 14:39:19 GMT Carolyn Jenkins
Cyngor ״ yn ystyried Ymateb Teithio'r Dyfodol i greu opsiynau teithio lleol tecach, gwyrddach a gwell Mae ymateb teithio’r dyfodol ar gyfer ״ wedi cael ei ystyried a'i gefnogi gan Bwyllgor Craffu Datblygu Economaidd a Rheoli Amgylcheddol y Cyngor.

Mae'r ymateb wedi'i ddatblygu mewn ymateb i'r Fforwm Dinasyddion ar Ddyfodol Teithio a ddaeth â thrigolion lleol, yn cynrychioli poblogaeth amrywiol y fwrdeistref, at ei gilydd i drafod sut y gellir gwneud teithio lleol yn decach, yn wyrddach ac yn well i bawb.

Dros dridiau, datblygodd aelodau'r fforwm 10 argymhelliad ar gyfer sut y gall y cyngor, ei bartneriaid a'i drigolion wella teithio yn yr ardal dros y pum mlynedd nesaf. Mae'r ymateb cychwynnol hwn yn amlinellu camau y gall y Cyngor eu dilyn wrth symud ymlaen â'r argymhellion, gyda fersiynau’r dyfodol hefyd yn cynnwys diweddariadau gan bartneriaid.  Mae'r ymateb yn canolbwyntio ar weithredoedd lleol ond hefyd yn cydnabod yr angen i eirioli dros newid ar lefel ranbarthol a chenedlaethol. Mae Grŵp Teithio newydd, sy'n cynnwys ystod o bartneriaid allweddol, yn cael ei sefydlu i gydlynu hyn.  

Mae hwn yn ymateb 'byw', gyda diweddariadau bob chwe mis am o leiaf y ddwy flynedd nesaf i sicrhau cynnydd a thryloywder parhaus.

Mae'r dull hwn yn cyd-fynd ag amcan Cynllun Corfforaethol y cyngor i 'Ymateb i'r argyfwng natur a hinsawdd a galluogi cymunedau cysylltiedig.'  Mae hefyd yn adlewyrchu dull gweithredu newydd Bargen ״, gan weithio'n agos gyda thrigolion a phartneriaid i ddylunio a chyflawni camau gweithredu sy'n gwella lles.

Dywedodd y Cynghorydd Tommy Smith, Dirprwy Arweinydd Cyngor ״ ac Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdogaeth ac Amgylcheddol

"Rydym yn ymrwymedig i weithio'n agos gyda chymunedau a rhanddeiliaid i greu dyfodol mwy cynaliadwy a chysylltiedig i Flaenau Gwent, ac fel Cyngor Marmot, rydym am greu a datblygu lleoedd a chymunedau cynaliadwy. Rydym yn cydnabod pwysigrwydd gwella opsiynau teithio lleol i fynd i'r afael â phroblemau fel ynysu cymdeithasol a mynediad cyfyngedig at swyddi a gwasanaethau. Rydym hefyd yn cydnabod nad yw’r holl atebion gennym ni, a bydd ein dull newydd o weithio gyda chymunedau, gwirfoddolwyr a phartneriaid drwy fargen newydd ״ yn allweddol i hyn.

"Hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd ran yn y Fforwm Dinasyddion ar Deithio am roi gwybodaeth amhrisiadwy i ni am yr hyn sydd ei angen ar ein trigolion ni a beth maen nhw ei eisiau wrth deithio’n lleol."

Bydd yr ymateb nawr yn cael ei anfon i'w gymeradwyo i'r cabinet.

Y 10 argymhelliad oedd:

  • Lleihau'r defnydd o geir ar gyfer cymudo
  • Cael rampiau cadair olwyn ar drenau bob amser
  • Cynnwys y cyhoedd yn well wrth gynllunio trafnidiaeth
  • Ystyried trosglwyddo bysiau yn ôl i berchnogaeth gyhoeddus
  • Gwella gwasanaethau tacsi
  • Cynyddu cyhoeddusrwydd, capasiti a chyllid bysiau Fflecsi
  • Hyrwyddo ac ehangu cynlluniau trafnidiaeth gymunedol
  • Cynyddu opsiynau trafnidiaeth gyda'r nos
  • Cynnig opsiynau gwell ar gyfer teithiau ysgol
  • Annog pobl i gerdded, beicio neu olwyno

Darganfyddwch fwy am y Fforwm Dinasyddion ar Deithio yma: /cy/preswylwyr/newid-yn-yr-hinsawdd/dyfodol-teithio-ym-mlaenau-gwent-fforwm-dinasyddion/



]]>
/cy/newyddion/cyngor-blaenau-gwent-yn-ystyried-ymateb-teithior-dyfodol-i-greu-opsiynau-teithio-lleol-tecach-gwyrddach-a-gwell/ /cy/newyddion/cyngor-blaenau-gwent-yn-ystyried-ymateb-teithior-dyfodol-i-greu-opsiynau-teithio-lleol-tecach-gwyrddach-a-gwell/ Thu, 29 Jan 2026 11:52:30 GMT Carolyn Jenkins
Cwblhawyd y Rownd Gyntaf o Weithdai i Gyd-ddylunio a Llunio Rhwydweithiau Ecolegol Gwydn ar draws Gwent

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol ״, mewn partneriaeth â Chyfoeth Naturiol Cymru (CNC), Partneriaeth Grid Gwyrdd Gwent (PGGG) a phartneriaid lleol, wedi cwblhau'r gyfres gyntaf o weithdai yn llwyddiannus i helpu i lunio Rhwydweithiau Ecolegol Gwydn (RhEG) ar draws Gwent.

Gan adeiladu ar fapio RhEG llwyddiannus ar gyfer Gwastadeddau Gwent, mae'r rhaglen bellach yn ehangu i Ddyffryn Gwy, Wentwood, Casnewydd, y Cymoedd Dwyreiniol, Canol Sir Fynwy, a Bannau Brycheiniog. Cefnogir y cam hwn gan Rownd 4 Cronfa Rhwydweithiau Natur, a gyflwynir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol ar ran Llywodraeth Cymru. Dyfarnwyd grant datblygu i Gyngor Bwrdeistref Sirol ״ i gefnogi mapio RhEG ac ymgysylltu â rhanddeiliaid ar draws y rhanbarth.

Mae Rhwydweithiau Ecolegol Gwydn (RhEG) yn cysylltu safleoedd gwarchodedig a chynefinoedd o ansawdd uchel ar draws y dirwedd, wedi'u rheoli ar gyfer bioamrywiaeth ac yn darparu buddion i natur a phobl. Mae'r prosiect hwn yn dilyn canllawiau RhEG cenedlaethol , gan ddatblygu fframwaith sy'n ymgorffori gweithredu adfer natur cydweithredol ar y dirwedd i raddfa ranbarthol.

Canlyniadau allweddol Gweithdy Un

  • Cyflwyno’r dull RhEG, cysylltiadau polisi a methodoleg mapio
  • Adolygu a mireinio Parthau Craidd (ardaloedd gwerth bioamrywiaeth uchel, gan gynnwys safleoedd dynodedig) gan ddefnyddio gwybodaeth leol ac arbenigedd technegol
  • Rhannu ac ystyried DPSIR (Gyrwyr–Pwysau–Cyflwr–Effaith–Ymateb) i lywio dyluniad RhEG
  • Cyd-ddylunio drafft cychwynnol Parthau Adfer Natur i gryfhau cysylltedd a gwydnwch ecolegol
  • Trafod a chynnwys fframwaith DECCA (Amrywiaeth, Graddfa, Cyflwr, Cysylltedd, Addasrwydd) ar y cyd

Beth nesaf

Mae dau weithdy pellach wedi'u cynllunio ar gyfer 2026, gan ganolbwyntio ar asesu gwasanaethau ecosystem, gweledigaeth a rennir, cynllunio gweithredu adfer natur, a chynllunio cyflawni gyda phartneriaid allweddol. Bydd mwy o fanylion yn cael eu rhannu yn y gwanwyn.

Beth yw RhEG?

Rhwydweithiau cysylltiedig o gynefinoedd sy'n cefnogi ecosystemau iach ac addasadwy yw Rhwydweithiau Ecolegol Gwydn. Mae mapio Rhwydweithiau Ecolegol Gwydn fel arfer yn nodi dau barth:

•&Բ;&Բ;&Բ;&Բ;&Բ;&Բ;&Բ;    Parthau Craidd — ardaloedd cynefin o ansawdd uchel, gan gynnwys safleoedd dynodedig

•&Բ;&Բ;&Բ;&Բ;&Բ;&Բ;&Բ;    Parthau Adfer Natur — ardaloedd cyfagos sy'n helpu i gysylltu a chefnogi parthau craidd trwy adfer a gwella gwydnwch ecolegol

Mae'r gwaith hwn yn cael ei arwain gan Ganllawiau , fframwaith DECCA ac yn cael ei lywio gan dystiolaeth genedlaethol a lleol a ddatblygwyd ar y cyd â phartneriaid. Bydd allbynnau'n llywio cynllunio yn y dyfodol, rheoli tir a chamau adfer natur ar draws Gwent.

Cyllid

Cefnogir y cam hwn gan Rownd 4 Cronfa Rhwydweithiau Natur, a gyflwynir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol ar ran Llywodraeth Cymru. Dyfarnwyd grant datblygu i Gyngor Bwrdeistref Sirol ״ i gefnogi mapio RhEG ac ymgysylltu â rhanddeiliaid ar draws Gwent.

]]>
/cy/newyddion/cwblhawyd-y-rownd-gyntaf-o-weithdai-i-gyd-ddylunio-a-llunio-rhwydweithiau-ecolegol-gwydn-ar-draws-gwent/ /cy/newyddion/cwblhawyd-y-rownd-gyntaf-o-weithdai-i-gyd-ddylunio-a-llunio-rhwydweithiau-ecolegol-gwydn-ar-draws-gwent/ Fri, 30 Jan 2026 11:42:19 GMT Carolyn Jenkins
Rhaglen brentisiaeth lwyddiannus y Cyngor, Aspire, yn parhau i ehangu Mae rhaglen brentisiaeth Aspire Cyngor ״ yn ehangu ymhellach ar draws y rhanbarth, gan osod ei phrentisiaeth gyntaf yng Nghwmbrân gyda chwmni byd-eang.

Yn ddiweddar, dathlodd y rhaglen brentisiaeth a rennir ei 10fed pen-blwydd yn helpu pobl ifanc i gael mynediad at gyfleoedd gyrfa trawsnewidiol.

Mae HWM Global yng Nghwmbrân yn dylunio ac yn cynhyrchu offer monitro a thelemetreg ar gyfer rhwydweithiau dŵr, dŵr gwastraff a nwy, ynghyd â chynhyrchion AMR telemetreg ac optimeiddio cyfleusterau. Yn dilyn diwrnod recriwtio llwyddiannus a chydweithio agos, fe wnaethant ddewis eu prentis Aspire cyntaf, Lewis Lloyd, ac maent eisoes wedi dangos diddordeb mewn lleoliadau yn y dyfodol.

Dywedodd Johanna Enzmann, rheolwr AD yn HWM:

“Mae ein partneriaeth ag Aspire yn helpu HWM i agor llwybrau clir i yrfaoedd medrus a chynaliadwy i dalent leol. Rydym wrth ein bodd yn croesawu ein prentis peirianneg drydanol cyntaf, Lewis, y mae ei frwdfrydedd a'i syniadau ffres eisoes yn gwneud gwahaniaeth. Mae Lewis hyd yn oed wedi helpu i rannu ei stori mewn digwyddiadau cyhoeddus, sy'n helpu i ymgysylltu â phrentisiaid y dyfodol yn ein hardal leol. Gan weithio gydag Aspire, rydym yn adeiladu piblinell o sgiliau sy'n cefnogi twf busnes ac yn creu cyfleoedd yn y gymuned.”

Dywedodd y Cynghorydd John Morgan, Aelod Cabinet dros yr Economi a Lleoedd Cyngor ״:

“Mae Aspire wedi bod yn ganolog i’n hymrwymiad i ddatblygu sgiliau a chreu cyfleoedd cyflogaeth ym Mlaenau Gwent - ac rwyf wrth fy modd yn gweld hyn yn ehangu ar draws y rhanbarth ehangach hefyd.

“Ddeng mlynedd yn ddiweddarach, mae’r rhaglen yn parhau i esblygu, ehangu a llwyddo. Rydym wedi gweld pobl ifanc yn tyfu mewn hyder, yn datblygu sgiliau hanfodol, ac yn gosod nodau gyrfa uchelgeisiol - mae llawer ohonynt bellach yn rhagori yn eu diwydiannau dewisol. Adeiladwyd Aspire ar genhadaeth i greu cyfleoedd uchelgeisiol i bobl ifanc, ac mae ei dwf parhaus yn dangos pa mor gryf y mae’r genhadaeth honno’n cael ei chyflawni.”

Ers ei lansio, mae Aspire wedi bod yn fenter flaenllaw - gan arddangos pŵer cydweithio rhwng diwydiant, addysg, Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol. Mae mwy na 200 o brentisiaid wedi cael eu cefnogi ym Mlaenau Gwent, gyda rhaglen gysylltiedig ym Merthyr Tudful wedi cefnogi dros 150 o brentisiaid o fewn dim ond saith mlynedd. Mae prentisiaethau'n cwmpasu ystod eang o sectorau, gan gynnwys peirianneg, iechyd a gofal cymdeithasol, datblygu chwaraeon, addysg a dysgu, fferyllol, TG, a chyllid.

Mae tîm Aspire yn gweithio'n agos gyda phob ysgol uwchradd yn y fwrdeistref sirol, colegau lleol, a sefydliadau cymunedol ehangach i sicrhau bod cyfleoedd yn parhau i fod yn gynhwysol ac yn hygyrch. Mae'r rhaglen yn parhau i weld niferoedd cynyddol o brentisiaid benywaidd bob blwyddyn, gan adlewyrchu ymrwymiad Aspire i chwalu rhwystrau a herio stereoteipiau o fewn sectorau sydd wedi'u dominyddu'n draddodiadol gan ddynion.

]]>
/cy/newyddion/rhaglen-brentisiaeth-lwyddiannus-y-cyngor-aspire-yn-parhau-i-ehangu/ /cy/newyddion/rhaglen-brentisiaeth-lwyddiannus-y-cyngor-aspire-yn-parhau-i-ehangu/ Wed, 04 Feb 2026 14:00:09 GMT Louise Bishop
Cymdogaeth Dyffryn Sirhywi i gael ei hadfywio gyda £20 miliwn (1) Roedd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Jo Stevens, yn Nhredegar heddiw wrth i Ddyffryn Sirhywi gael ei enwi'n swyddogol fel un o'r naw ardal i elwa o Raglen Balchder Bro Llywodraeth y DU.

Bydd cyfanswm o £20 miliwn ar gael dros 10 mlynedd i adfywio'r ardal, gan ganolbwyntio ar anghenion a dymuniadau trigolion a busnesau lleol. Bydd cymunedau'n cael eu grymuso i helpu i wneud y penderfyniadau ar brosiectau trwy Fwrdd Cymdogaeth newydd, a fydd yn cael ei sefydlu'n fuan.

Ar ben hyn, mae ״ yn elwa o £1.5miliwn ychwanegol o Gronfa Effaith Balchder Bro i wella mannau cyhoeddus mewn ardaloedd eraill o'r fwrdeistref sirol, gan dargedu blaenoriaethau cymunedol unwaith eto.

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Jo Stevens:

“Rydym yn cefnogi ein cymunedau’n uniongyrchol gyd’r buddsoddiad sylweddol hwn. Mae pobl sy’n byw yn yr ardaloedd hyn yn rheoli’r cronfeydd hyn ac mae ganddyn nhw nawr y gefnogaeth i’w gwneud yn lleoedd hyd yn oed yn well i fyw a gweithio ynddynt.

“Canolbwyntiodd Llywodraeth y DU ar ddarparu swyddi, ffyniant a thwf ac mae’r rhaglen Balchder Bro yn rhan allweddol ohonom ni’n gwneud hynny. Gan weithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru rydym yn buddsoddi’n uniongyrchol mewn cymunedau yng Nghymru i adeiladu cymdogaethau cryfach a ffyniannus.”

Dywedodd y Cynghorydd John Morgan, Aelod Cabinet dros yr Economi a Lleoedd yng Nghyngor ״:

“Mae hyn yn newyddion gwych i Dredegar. Bydd y cyllid yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’n cymunedau ac yn cyd-fynd â’n cynlluniau adfywio ehangach ar gyfer yr ardal a’n Cynllun Twf sy’n datblygu. Mae Bargen ״, ein ffordd newydd o weithio gyda chymunedau, yn golygu ein bod yn gwrando ar anghenion pobl a busnesau lleol, felly mae cael Bwrdd Cymdogaeth sy’n rhan o wneud penderfyniadau yn cefnogi hyn yn llawn. Rydym hefyd wrth ein bodd yn gallu buddsoddi mewn blaenoriaethau cymunedol ar draws gweddill ״ trwy’r £1.5 miliwn ychwanegol o Gronfa Effaith Balchder Bro, gan sicrhau bod pob ardal yn elwa o’r rhaglen.”

Bydd Byrddau Cymdogaeth, sy’n cynnwys cynrychiolwyr o’r gymuned leol a phartneriaid allweddol, nawr yn helpu i benderfynu’n union ar beth y bydd y buddsoddiad yn cael ei wario. Bydd y rhain nawr yn cael eu sefydlu, gyda chyllid yn dechrau o fis Ebrill 2026.

Gallai prosiectau gynnwys adfywio’r stryd fawr a chanol trefi, gwarchod treftadaeth leol, darparu tai, creu swyddi, hybu cynhyrchiant a sgiliau, gwella iechyd a lles, creu cysylltiadau trafnidiaeth newydd, darparu addysg a chyfleoedd a gwella diogelwch.

Yn unol â meini prawf a osodwyd gan Lywodraeth y DU, cyflwynwyd Dyffryn Sirhywi yn dilyn cyhoeddi Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru, a nododd hyn fel ardal ag amddifadedd hirsefydlog.

 

 

]]>
/cy/newyddion/cymdogaeth-dyffryn-sirhywi-i-gael-ei-hadfywio-gyda-20-miliwn-1/ /cy/newyddion/cymdogaeth-dyffryn-sirhywi-i-gael-ei-hadfywio-gyda-20-miliwn-1/ Thu, 05 Feb 2026 13:40:09 GMT Louise Bishop
Cyngor ״ yn gosod cyllideb ddrafft gadarnhaol a chynaliadwy ar gyfer 2026/2027 Bydd Cynghorwyr ym Mlaenau Gwent yn ystyried cynigion ar gyfer cyllideb ddrafft 2026/27 yr wythnos nesaf mewn Pwyllgor Craffu Llywodraethu Corfforaethol ac Adnoddau arbennig.

Gweithiodd Cynghorwyr o'r grwpiau Llafur ac Annibynnol gyda'i gilydd i ystyried cyllideb ddrafft sy'n diogelu gwasanaethau gan argymell cynnydd o 3.75% yn y Dreth Gyngor, sy'n is na'r rhagdybiaeth gynllunio wreiddiol o 4.95% ac sydd wedi bod yn bosibl o ganlyniad i setliad cyllid gwell gan Lywodraeth Cymru ac arbedion effeithlonrwydd, ynghyd ag adborth gan drigolion a chonsensws ymhlith yr arweinwyr i gadw unrhyw gynnydd mor isel â phosibl.

Bydd y gyllideb arfaethedig yn gweld y Cyngor yn parhau i fuddsoddi yn y gwasanaethau sy'n bwysig i bobl leol ac yn amddiffyn y rhai mwyaf agored i niwed yn ei gymunedau. Bydd y gyllideb refeniw hon ochr yn ochr â'r rhaglen gyfalaf y cytunwyd arni yn cynyddu buddsoddiad yn ein hysgolion, ein gwasanaethau amgylcheddol a’n priffyrdd.

Dywedodd Arweinydd y Cyngor, Steve Thomas:

"Gan weithio'n adeiladol gyda'r Grŵp Annibynnol, rydym wedi cyflwyno cyllideb deg a chytbwys sy'n diogelu gwasanaethau hanfodol tra'n cadw'r Dreth Gyngor mor isel â phosibl mewn hinsawdd ariannol anodd iawn. Mae'r cynnydd arfaethedig o 3.75% yn is na'r ffigur Treth Gyngor drafft o 4.95% ac mae'n debygol o fod gyd’r cynnydd canrannol isaf yng Nghymru. Mae'n adlewyrchu gwelliant yn y cyllid gan Lywodraeth Cymru, arbedion effeithlonrwydd ac, yn bwysig, gwrando ar adborth gan bobl leol. 

"Gyda dros ddwy ran o dair o'n cyllideb eisoes wedi’i hymrwymo i addysg a gofal cymdeithasol, mae ein ffocws yn parhau i fod ar ddiogelu'r gwasanaethau y mae trigolion yn dibynnu arnynt fwyaf, gan ddefnyddio adnoddau'n ddoeth, a gweithio'n wahanol gyda'n cymunedau i gefnogi gwytnwch a lleihau pwysau yn y tymor hwy." 

Dywedodd Arweinydd y Grŵp Annibynnol, y Cynghorydd Wayne Hodgins:

"Mae'r gyllideb ddrafft hon yn dangos beth y gellir ei gyflawni pan fydd cynghorwyr yn gweithio gyda'i gilydd yn adeiladol i gyflwyno cyllideb gyfrifol sy'n canolbwyntio ar y materion sydd bwysicaf i'n trigolion. Rydym wedi cefnogi cynigion sy'n diogelu gwasanaethau rheng flaen, yn cynyddu buddsoddiad mewn ysgolion a phriffyrdd, ac yn darparu cymorth wedi'i dargedu i'r rhai sydd ei angen fwyaf, yn enwedig trwy'r Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor.

"Byddai'r arbedion effeithlonrwydd a nodwyd yn helpu i sicrhau bod y Cyngor yn byw o fewn ei incwm tra'n parhau i fuddsoddi yn ein cymunedau. Mewn hinsawdd ariannol heriol, rydym wedi pwyso a mesur popeth ac wedi ystyried cyllideb ddrafft gyfrifol a chytbwys sy'n rhoi trigolion yn gyntaf." 

Mae'r uchafbwyntiau yn cynnwys:

  • Gwasanaethau rheng flaen wedi'u diogelu, dim toriadau i wasanaethau
  • £3 miliwn o arbedion effeithlonrwydd arfaethedig, wedi'i gyflawni drwy'r rhaglen Pontio'r Bwlch a gweithio'n agosach gyda Chyngor Torfaen
  • Cynnydd o 10% mewn cyllid ysgolion
  • £10 miliwn ar gyfer y Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor, gan gefnogi'r aelwydydd hynny sydd fwyaf mewn angen

Byddai'r cynnydd yn y Dreth Gyngor yn cyfateb i gynnydd o 97c yr wythnos i'r rhai mewn eiddo Band A a £1.13c ar gyfer eiddo band B, sy'n cwmpasu'r mwyafrif o eiddo'r fwrdeistref.

Yn dilyn Craffu, bydd y gyllideb yn mynd i'r Cyngor Llawn i'w chymeradwyo ym mis Mawrth.

I weld adroddiad y gyllideb cliciwch

 

]]>
/cy/newyddion/cyngor-blaenau-gwent-yn-gosod-cyllideb-ddrafft-gadarnhaol-a-chynaliadwy-ar-gyfer-20262027/ /cy/newyddion/cyngor-blaenau-gwent-yn-gosod-cyllideb-ddrafft-gadarnhaol-a-chynaliadwy-ar-gyfer-20262027/ Tue, 10 Feb 2026 13:38:00 GMT Louise Bishop
Comisiynydd Plant Cymru yn ymweld â disgyblion Willowtown i ddathlu llyfr ryseitiau cymunedol newydd Roedd Ysgol Gynradd Gymunedol Willowtown yng Nglynebwy yn falch iawn o groesawu Rocio Cifuentes, Comisiynydd Plant Cymru, ar gyfer ymweliad arbennig i ddathlu llyfr ryseitiau cymunedol newydd y disgyblion. Mae hwn yn brosiect uchelgeisiol sy'n dod â bwyd, diwylliant a chreadigrwydd at ei gilydd.

Yn ystod yr ymweliad, dangosodd disgyblion ddetholiad o brydau o'r llyfr, gan roi cyfle i'r Comisiynydd flasu ryseitiau a gasglwyd gan deuluoedd ar draws cymuned leol amrywiol yr ysgol. Gwnaeth y digwyddiad gynnig cipolwg ymarferol ar waith y disgyblion, a’u gwelodd yn ymchwilio, ysgrifennu, dylunio a darlunio'r cyhoeddiad cyfan eu hunain.

Mae'r llyfr coginio i blant, a grëwyd i annog teuluoedd i goginio gyda'i gilydd a magu hyder yn y gegin, wedi'i gynhyrchu'n broffesiynol ac mae ganddo ISBN swyddogol – sy’n golygu bod y disgyblion yn awduron cyhoeddedig ar oedran ifanc.

Canmolodd y Comisiynydd Plant greadigrwydd a chyflawniad y disgyblion, gan ddweud:

"Dylai'r disgyblion fod yn hynod falch o'u cyflawniad. Maen nhw wedi creu casgliad gwych o ryseitiau, gan gynnwys ffefrynnau teuluol sydd wedi’u trosglwyddo ar hyd y cenedlaethau. Mae eu creadigrwydd yn disgleirio nid yn unig yn y prydau y gwnaethant ddewis eu rhannu, ond hefyd yn y ffordd y gwnaethant helpu i ddylunio’r llyfr gyda darluniau wedi'u hysbrydoli gan eu lluniau eu hunain, gan ddod yn awduron cyhoeddedig ar oedran mor ifanc. Mae cael eu henwau wedi'u hargraffu yn y llyfr yn gyflawniad eithriadol - rhywbeth na all llawer o blant ei ddweud mor gynnar yn eu bywyd.

"Roedd hi’n bleser cael fy ngwahodd i weld gyda’m llygaid fy hun yr ymroddiad a'r angerdd y mae pob disgybl wedi'u rhoi i'r prosiect hwn. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at roi cynnig ar rai o'u ryseitiau nhw fy hun."

Ar hyn o bryd mae Cyngor ״ yn archwilio Bargen ״, dull newydd o weithio gyda chymunedau i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau ac adeiladu cymdogaethau iachach a mwy gwydn. Mae gwaith Willowtown ym maes addysg bwyd a lles cymunedol yn adlewyrchu'r gwerthoedd sydd wrth wraidd y dull hwn.

Dywedodd y Pennaeth, Mel Evans:

"Mae'r prosiect hwn yn enghraifft wych o lais y disgybl a dysgu creadigol ar waith. Mae ein plant wedi gweithio'n anhygoel o galed i gynhyrchu rhywbeth ystyrlon sy'n dathlu dysgu a chymuned. Roedden ni’n falch iawn o groesawu'r Comisiynydd Plant i rannu eu llwyddiant."

Llyfr ar gael nawr!

Gallwch brynu copïau o'r llyfr ryseitiau o'r ysgol neu drwy Amazon, a bydd yn cael ei stocio yng Ngŵyl y Gelli eleni. Anogir busnesau lleol sydd â diddordeb mewn stocio'r llyfr i gysylltu â'r ysgol yn uniongyrchol.

]]>
/cy/newyddion/comisiynydd-plant-cymru-yn-ymweld-a-disgyblion-willowtown-i-ddathlu-llyfr-ryseitiau-cymunedol-newydd/ /cy/newyddion/comisiynydd-plant-cymru-yn-ymweld-a-disgyblion-willowtown-i-ddathlu-llyfr-ryseitiau-cymunedol-newydd/ Wed, 11 Feb 2026 11:20:25 GMT Louise Bishop
Prentisiaid ״ yn cael eu dathlu fel rhan o wythnos genedlaethol Mae Cyngor ״ wedi bod yn nodi Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau 2026 drwy ddathlu cyflawniadau pobl y mae eu bywydau a'u gyrfaoedd wedi'u trawsnewid drwy gyfleoedd a gefnogir gan y Cyngor a chyflogwyr lleol.t

Ers dros ddegawd, mae rhaglen prentisiaethau a rennir flaenllaw'r Cyngor, Aspire, wedi chwarae rhan hanfodol wrth greu llwybrau hyfforddiant a chyflogaeth o ansawdd uchel i bobl ar draws y fwrdeistref sirol. Ers iddo ddechrau, mae Aspire wedi cefnogi dros 200 o brentisiaid, gyda chyfleoedd yn cwmpasu peirianneg, iechyd a gofal cymdeithasol, datblygu chwaraeon, addysg, TG, cyllid, diwydiannau fferyllol a mwy.

Fel rhan o ddathliadau eleni, mae'r Cyngor yn tynnu sylw at straeon go iawn gan brentisiaid lleol sydd wedi ffynnu drwy'r rhaglen - gan ddangos y gwahaniaeth y gall hyfforddiant ymarferol, partneriaethau diwydiant a chymorth wedi'i deilwra ei wneud i unigolion, cyflogwyr a chymunedau.

Dywedodd y Cynghorydd John Morgan, Aelod Cabinet dros yr Economi a Lleoedd:

“Mae Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau yn gyfle i dynnu sylw at gyflawniadau anhygoel ein prentisiaid a phawb sy'n eu cefnogi. Mae Aspire wedi bod yn gonglfaen i'n hymrwymiad i ddatblygu sgiliau ac yn sbardun cyfle gwirioneddol yma ym Mlaenau Gwent.

“Rydym wedi gweld pobl ifanc yn tyfu mewn hyder, yn datblygu sgiliau hanfodol ac yn symud ymlaen i yrfaoedd llwyddiannus, gyda llawer bellach yn arwain yn eu meysydd. O’r cychwyn cyntaf, cenhadaeth Aspire fu creu cyfleoedd uchelgeisiol i bobl ifanc, ac mae’n parhau i gyflawni’r uchelgais honno diolch i ymroddiad ein partneriaid, cyflogwyr a darparwyr hyfforddiant.”

Mae tîm Aspire yn gweithio'n agos gyda phob ysgol uwchradd yn y fwrdeistref sirol, colegau lleol a grwpiau cymunedol ehangach i sicrhau bod cyfleoedd yn cyrraedd ystod amrywiol o ddysgwyr. Mae hyn yn cynnwys nifer gynyddol o fenywod yn mynd i mewn i ddiwydiannau traddodiadol sy'n cael eu dominyddu gan ddynion - rhywbeth y mae'r Cyngor yn falch o'i ddathlu yn ystod Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau.

Dywedodd Chris Davies, Pennaeth Gweithgynhyrchu a Chynnal a Chadw yn Aumovio:

"Yn Aumovio rydym yn gwerthfawrogi ein prentisiaid yn fawr. Mae llawer o amser yn cael ei dreulio yn dadansoddi gofynion busnes yn y dyfodol i geisio sicrhau ein bod yn datblygu ymgeiswyr cryf ar gyfer y dyfodol. Rydym yn gweld Aspire yn help mawr yn y broses hon. Byddwn yn cynnal cyfarfod i drafod llwybrau ar gyfer prentisiaid sy'n diwallu anghenion y prentis a'r cwmni. Mae Aspire yn help mawr hefyd yn y broses ddethol a chyfweld. Un o'r prif fanteision a welwn gydag Aspire, yw'r gefnogaeth maen nhw'n ei gynnig i'n cwmni ac i bob prentis. Rydym wedi gweithio gydag Aspire ers blynyddoedd lawer ac wedi adeiladu perthynas waith gref sy'n gweithio mewn gwirionedd."

Dywedodd Will Selway, prentis yn Aumovio:

"Pan dderbyniodd Aspire fy CV, fe wnaethon nhw ddod o hyd i leoliad profiad gwaith i mi ac yna fy helpu i ddod o hyd i gwmni a fyddai'n fy nharo fel prentis. Mae fy ngweithle, fy aseswr a fy mentor Aspire wedi fy nghefnogi i sicrhau fy mod yn aros ar y trywydd iawn i gyflawni fy nghymwysterau."

Dywedodd Lisa Girffin, Rheolwr Tîm Iechyd yr Amgylchedd yng Nghyngor ״:

“Mae cael prentis fel rhan o’ch gweithlu yn brofiad gwych a gwerth chweil. Mae’n adfywio tîm ac yn rhoi cyfle i aelodau profiadol y tîm rannu eu cyfoeth o wybodaeth a sgiliau, gadael gwaddol i’r dyfodol a theimlo’n rhan o daith y swyddog newydd hwnnw. Mae’n ein galluogi i harneisio talent newydd a dod â syniadau a safbwyntiau ffres. Mae cynnig prentisiaeth yn rhywbeth rwy’n teimlo sy’n rhan annatod o gynllunio busnes cadarn a llwyddiant sefydliadol yn y dyfodol trwy sicrhau cynllunio olyniaeth effeithiol. Byddwn yn argymell prentisiaethau i unrhyw gyflogwr.”

Dywedodd y prentis Helen Lewis:

“Mae’r gefnogaeth rydw i wedi bod yn ei derbyn gan y tîm Iechyd yr Amgylchedd cyfan, fy rheolwr a’m mentor prentisiaeth ers bron i ddwy flynedd wedi bod yn anhygoel, mor galonogol, ac yn rhan annatod o’m profiad. Mae ennill cymhwyster neu ddau wrth ennill cyflog, wrth gwrs, yn gyfle anhygoel, ond yn bwysicaf oll, rydw i’n cael profiad graddedigion ymarferol, yn hytrach nag o ddysgu academaidd yn unig, sy’n fy rhoi mewn sefyllfa gref ar gyfer cyflogaeth yn y dyfodol. Byddwn yn argymell prentisiaeth yn fawr i unrhyw un sy’n ei hystyried.”

Drwy gydol yr wythnos, mae’r Cyngor wedi bod yn rhannu astudiaethau achos sy’n helpu i amlygu’r effaith wirioneddol y mae prentisiaethau’n ei chael ar draws ״.

I weld rhai o’r rhain a darganfod mwy am Aspire cliciwch yma. 

]]>
/cy/newyddion/prentisiaid-blaenau-gwent-yn-cael-eu-dathlu-fel-rhan-o-wythnos-genedlaethol/ /cy/newyddion/prentisiaid-blaenau-gwent-yn-cael-eu-dathlu-fel-rhan-o-wythnos-genedlaethol/ Wed, 11 Feb 2026 16:32:21 GMT Louise Bishop
Cyngor ״ yn cryfhau paratoi ac ymateb i lifogydd Mae Cyngor ״ wedi paratoi'n well ar gyfer rhybuddion tywydd ac wedi cynnal uwchraddiadau seilwaith sylweddol mewn ardaloedd a effeithiwyd gan lifogydd yn flaenorol, clywodd y Pwyllgor Craffu Rheoli Amgylcheddol.

Yn ogystal â hyn, mae'r Cyngor wedi bod yn gweithio'n agosach gyda chymunedau ar wydnwch a chynllunio, gan eu grymuso a'u cyfarparu i helpu eu hunain mewn cyfnodau o argyfwng, wedi'i ysbrydoli gan Fargen newydd ״.

Amlinellodd adroddiad i'r pwyllgor sut y gwnaeth adolygiad annibynnol, a gynhaliwyd ar ôl digwyddiadau Storm Bert yn 2024, 19 o argymhellion, gan dynnu sylw at sawl maes allweddol i'w gwella. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo yn ei ymateb i'r adolygiad, i sicrhau diogelwch a lles trigolion yn ystod digwyddiadau tywydd garw. Mae Cynllun Rheoli Risg Llifogydd newydd hefyd wedi'i ddatblygu ac mae'n aros am gymeradwyaeth derfynol.

Mae cwteri a chwlfertau hanfodol yn cael eu harchwilio'n rheolaidd, ac mae synwyryddion newydd wedi'u gosod mewn rhai ardaloedd sy'n monitro lefelau dŵr ac yn helpu i wella amseroedd ymateb.

Mae rhaglenni gwaith draenio mawr wedi'u cyflawni yn Cwm a Llanhiledd.

Mae'r trefniadau gwell hyn wedi cael eu profi yn ystod sawl storm a rhybudd y gaeaf hwn, lle mae'r mesurau rhagweithiol gwell wedi profi'n effeithiol.

Yn Cwm, mae Tasglu Llifogydd wedi'i sefydlu, sef grŵp o drigolion lleol sy'n gweithio'n agos gyda'r Cyngor. Mae canolfan argyfwng wedi'i sefydlu, sachau llifogydd wedi'u dosbarthu, a hyfforddiant wedi'i ddarparu i'r grŵp cymunedol hwn i rymuso trigolion a chryfhau parodrwydd lleol.

Dywed llefarydd ar ran Tasglu Llifogydd Cwm, Sallie Jones:

“Cafodd ein pentref ei ddinistrio gan lifogydd yn ystod Storm Bert, ac nid ydym am weld hynny byth yn digwydd eto. Mae angen i bob peth negyddol ddod yn gadarnhaol a ganwyd y Tasglu Llifogydd a hefyd perthynas waith newydd, fwy cadarnhaol gyd’r Cyngor, sydd wedi cydnabod y gallai fod wedi gwneud yn well ac mae’n awyddus i ailadeiladu’r ymddiriedaeth a gollwyd gyda’n cymuned. Rydym am wneud beth bynnag y gallwn ei wneud, mewn partneriaeth, a chyda chefnogaeth gan y Cyngor, i gadw’n ddiogel a chefnogi ein cymuned yn ystod argyfwng. Mae’r Cyngor wedi cynnal gwaith helaeth yn y pentref ac, yn ein profiad ni, mae bellach yn llawer mwy parod ar gyfer rhybuddion tywydd, gan weithio’n agos gyda ni ’r gymuned leol i fynd i’r afael ag unrhyw broblemau.

“Byddem yn annog ac yn cefnogi cymunedau eraill i ddod at ei gilydd a gweithio gyda sefydliadau yn y ffordd hon, gyda’n gilydd rydym yn fwy gwydn ac mewn gwell sefyllfa i allu mynd i’r afael ag unrhyw broblemau yn y dyfodol.”

Dywedodd y Cynghorydd Tommy Smith, Aelod Cabinet dros Gymdogaethau a Gwasanaethau Amgylcheddol:

“Mae’r llifogydd rydyn ni wedi’u gweld yn ein cymunedau ym Mlaenau Gwent, ac ar draws y rhanbarth, wedi bod yn wirioneddol ddinistriol, ac mae ein meddyliau bob amser gyd’r rhai sydd wedi cael eu heffeithio. Mae tywydd garw yn dod yn amlach, ac fel ein partneriaid yn y sector cyhoeddus, rydyn ni’n gweithio’n galed i fod mor barod ag y gallwn ni fod, gan wneud y gorau o’r adnoddau sydd gennym ni.

“Rydyn ni’n parhau i fod yn ymwrymedig i warchod a chefnogi cymunedau yn y cyfnod cyn ac yn ystod y digwyddiadau tywydd hyn. Rydyn ni wedi gweithio gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau cyllid ac wedi dyrannu rhywfaint o’n cyllideb ein hunain i wneud gwelliannau mewn cymunedau sydd wedi’u nodi fel y rhai mwyaf agored i niwed ac mewn perygl a gweithio gyd’r bobl yno ar wydnwch yn y dyfodol.”

Bydd yr adroddiad ar baratoi ar gyfer llifogydd nawr yn mynd i’r Cabinet.

Yn y llun mae aelodau o Dasglu Llifogydd Cwm.

]]>
/cy/newyddion/cyngor-blaenau-gwent-yn-cryfhau-paratoi-ac-ymateb-i-lifogydd/ /cy/newyddion/cyngor-blaenau-gwent-yn-cryfhau-paratoi-ac-ymateb-i-lifogydd/ Thu, 12 Feb 2026 10:34:56 GMT Louise Bishop
Datganiad manwl gan y Cyngor ar dyllau yn y ffordd Mae cyflwr ffyrdd a thyllau yn y ffordd wedi dod yn destun dadl frwd. Rydym yn deall eich rhwystredigaeth ac yn wirioneddol rannu eich pryderon.

Mae ein timau priffyrdd yn gweithio'n galed bob dydd, yn ail-wynebu, yn trwsio ac yn gwneud pethau'n ddiogel gyda gwaith trwsio dros dro, tra bod gwaith trwsio tymor hir ac ail-wynebu eisoes wedi'u gwneud, gyda mwy wedi'u trefnu.

Ar ôl cyfnod hir o doriadau i’r gyllideb ar gyfer llywodraeth leol, mae cynghorau ar draws y DU bellach yn delio â chanlyniadau tanfuddsoddi parhaus mewn priffyrdd.

Arweiniodd toriadau cyllido o flwyddyn i flwyddyn at ddewisiadau anodd ynghylch pa wasanaethau hanfodol oedd angen eu diogelu fwyaf, gan gynnwys gwasanaethau fel gofalu am drigolion agored i niwed ac addysg.

Y canlyniad yw bod cyflwr ffyrdd lleol wedi dod yn fater cenedlaethol, nid un sy'n unigryw i ״.

Mae hefyd wedi bod yn un o'r mis Ionawr gwlypaf a gofnodwyd gyda Dyn Tywydd y BBC, Derek Brockway, yn tynnu sylw at Flaenafon gerllaw fel y lle gwlypaf yng Nghymru yn ystod mis Ionawr.

Oherwydd hyn, mae ein ffyrdd wedi cael ergyd wirioneddol, ac yn enwedig ar dir uwch lle mae dŵr glaw yn mynd i mewn i graciau bach, yn rhewi, yn ehangu ac yn torri'r wyneb, gan adael mannau gwan lle mae tyllau yn ffurfio'n gyflymach.

Mae'r glaw parhaus yn arafu gwaith trwsio parhaol; ac rydym yn derbyn nad yw'r dull dros dro hwn bob amser yn ymddangos fel y defnydd mwyaf effeithlon o adnoddau, ond mae adegau pan fo ateb cyflym yn hanfodol.

Ym mis Ionawr yn unig, adroddwyd 601 o dyllau i'r Cyngor, o'i gymharu â 226 fis Ionawr diwethaf [cynnydd o 165%]. Y llynedd (2025), gwnaed 11,695 o atgyweiriadau tyllau ar draws y fwrdeistref yn unol â chanllawiau a deddfwriaeth.

Ar ben y gyllideb briffyrdd flynyddol, mae'r Cyngor yn buddsoddi £5.4m ychwanegol mewn gwella ffyrdd lleol dros y pum mlynedd nesaf, sy'n golygu y bydd tua 80 o ffyrdd yn cael eu hail-wynebu. Mae hyn yn cael ei ariannu gan £3.2m mewn buddsoddiad cyfalaf ychwanegol a £2.2m o Fenter Benthyca Llywodraeth Leol Llywodraeth Cymru.

Mae wedi bod yn aeaf hir a garw, ond pan fydd y tywydd yn gwella rydym yn disgwyl i'r buddsoddiad ychwanegol a'r gwaith trwsio ddechrau gwneud gwahaniaeth gweladwy.

Rydym yn gwerthfawrogi eich sylwadau, ond rydym yn annog trigolion i roi gwybod am dyllau yn y ffordd drwy ymweld â Fy Ngwasanaethau neu drwy Ap ״, gan fod rhoi gwybod yn ffurfiol yn creu cofnod, ac yn ein helpu i flaenoriaethu ein hymateb o fewn yr adnoddau sydd ar gael i ni.

]]>
/cy/newyddion/datganiad-manwl-gan-y-cyngor-ar-dyllau-yn-y-ffordd/ /cy/newyddion/datganiad-manwl-gan-y-cyngor-ar-dyllau-yn-y-ffordd/ Fri, 13 Feb 2026 13:43:53 GMT Carolyn Jenkins
Cynulliad Dinasyddion yn llunio egwyddorion i lunio Bargen ״ Cyfarfu aelodau'r Cynulliad Dinasyddion am y tro olaf y penwythnos diwethaf i helpu i lunio'r egwyddorion y tu ôl i fargen newydd ״.

Mae'r Fargen yn ffordd newydd o weithio rhwng y cyngor, cymunedau a sefydliadau partner, gyda'r nod o adeiladu bwrdeistref sirol decach a mwy gwydn, gwella iechyd a lles, a lleihau anghydraddoldebau.

Mae'r preswylwyr, a ddewiswyd ar hap, wedi rhoi o’u hamser i gymryd rhan mewn tair sesiwn lle maent wedi clywed sut y gallai Bargen ״ edrych a gweithio’n ymarferol, ac am bum prif genhadaeth y Cyngor:

  • Blynyddoedd Cynnar: Adeiladu Dyfodol Disgleiriach
  • Dysgu Gydol Oes, Uchelgais a Gwydnwch
  • Lles trwy Arweinyddiaeth Gymunedol
  • Economi Ffyniannus, Lleoedd Llewyrchus
  • Cymunedau Grymus, Pŵer a Llwyddiant Cyffredin 

Yn ystod y sesiynau, clywodd aelodau'r Cynulliad sut mae'r Cyngor yn ceisio grymuso cymunedau i gymryd rôl fwy gweithredol wrth lunio a chefnogi eu cymunedau, wedi'u hysbrydoli gan y genhadaeth ac Egwyddorion Marmot  i adeiladu cymunedau tecach ac iachach. Maent wedi clywed gan y Prif Weithredwr Stephen Vickers ’r Dirprwy Brif Weithredwr Luisa Munro Morris; Arweinydd y Cyngor Steve Thomas ’r Cadeirydd Craffu, y Cynghorydd Joanna Wilkins.

Clywsant hefyd gan sefydliadau partner lleol am sut mae eu gwaith yn cyfrannu at genhadaeth y Cyngor a'r Fargen, gan gynnwys Aneurin Leisure Trust a Chymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Gwent.

Dywedodd yr Aelod o’r Cynulliad Adam Wate, o Dredegar:

"Roeddwn i eisiau rhoi fy llais a'm profiad bywyd i lywio’r meddwl am y Fargen orau sydd ar gael ar gyfer ״. Rydw i eisiau'r gorau i le rydw i'n byw, felly gadewch i ni wneud gwahaniaeth gyda'n gilydd. Rwy'n gobeithio y bydd y Fargen yn creu cymunedau cryfach, yn gyrru gwelliannau yn yr ardal ac yn creu lle hapusach a mwy cyfeillgar i fyw."

Dywedodd Jenna Panfili-Tinker, o Abertyleri:

"Rydw i eisiau siapio cymdeithas y mae fy mhlant yn teimlo'n falch o fyw ynddi a bod yn rhan ohoni. Rwy'n gobeithio y bydd bargen newydd ״ yn cynnig golwg newydd ar y dyfodol, gan feddwl yn wahanol am ein cymunedau a newid y diwydiannau yr oedd gennym ers talwm yn rhywbeth newydd."

Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Steve Thomas:

"Diolch i'r trigolion sydd wedi rhoi o’u hamser i gymryd rhan yn y Cynulliad Dinasyddion, ac am ein helpu i ddylunio'r egwyddorion a fydd yn llywio Bargen ״. Credwn y gall cydweithio dyfnach â chymunedau helpu i gyflawni newid hirdymor gwirioneddol i Flaenau Gwent. Mae'r Fargen yn ymwneud â gwrando, dysgu a gweithio'n agosach gyda'n cymunedau, felly mae'n bwysig mai ein trigolion sy'n helpu i'w siapio, drwy'r cynulliad a thrwy ymgysylltu â'r cyhoedd yn barhaus. Byddwn ni’n dod yn ôl at ein gilydd gydag aelodau'r Cynulliad yn ddiweddarach i'w diweddaru ar y cynnydd."

Ar y diwrnod olaf gofynnwyd i aelodau'r Cynulliad ddatblygu set o egwyddorion i ddatblygu Cytundeb ״ gyda thrigolion a chymunedau, ac i drafod pa effaith hirdymor yr hoffent ei chael.

Bydd yr egwyddorion hyn yn cael eu cyflwyno i gynghorwyr ar gyfer adborth yng nghyfarfod y Pwyllgor Craffu Llywodraethu Corfforaethol ac Adnoddau ddydd Iau 19 Chwefror 2026. Dysgwch fwy a sut i wylio'r cyfarfod  

Y llynedd, daeth ״ a Thorfaen yn gyd-gynghorau Marmot cyntaf Cymru, gan weithio gyda'i gilydd i roi tegwch a lles wrth wraidd y broses leol o wneud penderfyniadau.

Mae cyfarfodydd y Cynulliad Dinasyddion hefyd wedi cael eu cynnal yn Nhorfaen i ddatblygu Bargen Torfaen.

Darganfyddwch fwy am Fargen ״ a chwrdd â rhai o aelodau'r Cynulliad Dinasyddion

]]>
/cy/newyddion/cynulliad-dinasyddion-yn-llunio-egwyddorion-i-lunio-bargen-blaenau-gwent/ /cy/newyddion/cynulliad-dinasyddion-yn-llunio-egwyddorion-i-lunio-bargen-blaenau-gwent/ Tue, 17 Feb 2026 11:32:06 GMT Louise Bishop
Datblygu System Gwybodaeth a Chyngor ynghylch Ansawdd Aer Mae angen gwirfoddolwyr!
Datblygu System Gwybodaeth a Chyngor ynghylch Ansawdd Aer
Mae angen gwirfoddolwyr.

Helpwch ni i ddatblygu system i gefnogi aer glanach ar gyfer ein cymunedau
Mae llygredd aer yn niweidiol i'n hiechyd corfforol a meddyliol. Nod y prosiect hwn yw datblygu System Gwybodaeth a Chyngor ynghylch Ansawdd Aer sy'n darparu gwybodaeth a chyngor lleol ynghylch sut i leihau allyriadau a chadw eich cymuned yn ddiogel.

Ar hyn o bryd, rydym yn chwilio am wirfoddolwyr sy'n byw yn unrhyw un o'r ardaloedd canlynol yng Nghymru: Abertawe, Casnewydd, ״, Sir Fynwy. Os ydych yn dewis cymryd rhan, byddwn yn gofyn i chi gymryd rhan mewn sesiwn grŵp ffocws ar-lein (sy'n para tua 60-90 munud). Yn ystod y sesiwn hon byddwn yn dangos y system arfaethedig i chi ac yn eich gwahodd i fynegi eich barn.
Ar ôl cwblhau'r sesiwn, bydd cyfranogwyr yn derbyn taleb siopa gwerth £25 am eu hamser.

Os hoffech ragor o wybodaeth, e-bostiwch Dr Menna Price, Prifysgol Abertawe (m.j.price@swansea.ac.uk)

Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn gyfranogwr, cofrestrwch eich diddordeb drwy lenwi arolwg byr gan ddefnyddio'r ddolen
Mae'r ymchwil hon wedi'i chymeradwyo gan Is-bwyllgor Moeseg Ymchwil Ysgol Seicoleg Prifysgol Abertawe.
]]>
/cy/newyddion/datblygu-system-gwybodaeth-a-chyngor-ynghylch-ansawdd-aer-mae-angen-gwirfoddolwyr/ /cy/newyddion/datblygu-system-gwybodaeth-a-chyngor-ynghylch-ansawdd-aer-mae-angen-gwirfoddolwyr/ Mon, 23 Feb 2026 12:47:23 GMT Louise Bishop
The Original Transmissions Art Collective yn Goleuo'r Arcêd Cynhaliwyd agoriad arddangosfa gelf a gynhaliwyd gan The Original Transmissions Art Collective yng nghanol tref Abertyleri ddydd Sadwrn 21 Chwefror.

Croesawodd Olivia Marshall, sy'n masnachu o siop dros dro a ariennir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol ״, yn Arcêd Abertyleri, artistiaid a phobl greadigol lleol o'r ardal. Mae'n lle perffaith i daflu goleuni ar dalent leol.

Roedd y digwyddiad yn fywiog, wedi’i fynychu’n wych, yn llawn cerddorion talentog, ac wedi’i gefnogi’n frwd gan artistiaid lleol ac ymwelwyr fel ei gilydd.

Roedd yr agoriad yn llwyddiant mawr, a bydd yr arddangosfa ar agor tan 23 Mawrth. Dewch draw i Arcêd Abertyleri am ymweliad.

Mae ein siopau dros dro wedi bod yn ychwanegiad hyfryd i'n trefi dros yr ychydig fisoedd diwethaf, ac rydym yn gobeithio parhau â'r llwyddiant hwn yn y dyfodol.

Diolch i bawb sydd wedi cefnogi ein masnachwyr.

 

]]>
/cy/newyddion/the-original-transmissions-art-collective-yn-goleuor-arced/ /cy/newyddion/the-original-transmissions-art-collective-yn-goleuor-arced/ Mon, 23 Feb 2026 13:41:30 GMT Carolyn Jenkins
Cynnig i leihau capasiti yng Nghymuned Ddysgu Abertyleri Mae'r Cabinet wedi cymeradwyo ymgynghoriad cyhoeddus ar gynnig i leihau nifer y lleoedd cynradd yng Nghymuned Ddysgu Abertyleri. Mae hyn mewn ymateb i ostyngiad sylweddol yn nifer y disgyblion a phwysau ariannol cynyddol. Byddai'r cynnig a gyflwynwyd i'r Cabinet yn cynnwys cau Campws Heol Roseheyworth, gyda disgyblion yn symud i gampysau Tillery Street a Six Bells.

Ar hyn o bryd mae gan y Gymuned Ddysgu orwariant o tua £900,000 y disgwylir iddo gynyddu i £1.7miliwn y flwyddyn nesaf os yw'r holl gampysau cynradd yn parhau i fod ar agor.

Ar hyn o bryd mae gan Heol Roseheyworth 127 o ddisgyblion ar y gofrestr – allan o 210 posibl . Dyma'r campws hynaf gyda'r bil cynnal a chadw uchaf.

Mae'r cynnig wedi'i ddatblygu i sicrhau cynaliadwyedd hirdymor y Gymuned Ddysgu, i ddiogelu a gwella safonau addysgol, a mynd i'r afael â'r pwysau cyllidebol sylweddol a chynyddol.

Bydd y Cyngor nawr yn cynnal ymgynghoriad ffurfiol, gan roi cyfle i rieni, staff, dysgwyr, a'r gymuned ehangach roi eu barn.

Bydd yr holl adborth a dderbynnir yn cael ei ystyried yn ofalus cyn cymryd unrhyw gamau pellach. Mae'r Cyngor yn parhau i fod yn ymrwymedig i sicrhau bod buddiannau plant a phobl ifanc yn parhau i fod wrth wraidd pob penderfyniad.

Bydd yr ymgynghoriad yn dechrau ddydd Llun, 2 Mawrth.

]]>
/cy/newyddion/cynnig-i-leihau-capasiti-yng-nghymuned-ddysgu-abertyleri/ /cy/newyddion/cynnig-i-leihau-capasiti-yng-nghymuned-ddysgu-abertyleri/ Tue, 24 Feb 2026 08:58:01 GMT Louise Bishop
Gwirfoddolwyr yn trwsio dros 600 o eitemau cartref am ddim ym Mlaenau Gwent Yn Fix It February, mae Cyngor ״ yn dathlu caffis trwsio yn y fwrdeistref sirol, lle mae dros 600 o eitemau eisoes wedi cael bywyd newydd!

Mae'r caffis trwsio’n bartneriaeth rhwng y Cyngor, sefydliadau lleol ac yn bwysicaf oll aelodau talentog o'r gymuned sy'n rhoi o’u hamser am ddim i drwsio eitemau cartref pobl.

Dyma enghraifft wych o fargen newydd ״ - ffordd newydd y Cyngor o weithio gyda chymunedau, i'w cynnwys a'u grymuso mewn gwasanaethau lleol.

O hwfers a setiau teledu i emwaith a theganau plant, mae'r cannoedd o atgyweiriadau llwyddiannus wedi cael effaith amgylcheddol sylweddol ac yn enghraifft bwerus o weithredu cymunedol ar ei orau. Mae'r model hwn nid yn unig yn darparu manteision amgylcheddol - mae wedi creu gwerth cymdeithasol sylweddol, gan roi hwb i hyder, sgiliau, lles a chysylltiad cymunedol.

Fel rhan o'i Strategaeth Adnoddau a Gwastraff drafft newydd, mae'r Cyngor yn edrych i dyfu'r cynnig caffi atgyweirio yn y fwrdeistref, gallwch ddweud eich dweud ar y strategaeth cyn bo hir.

Mae Fix It February yn cael ei ddathlu gan

Dywedodd y Cynghorydd Tommy Smith, Dirprwy Arweinydd y Cyngor ’r Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdogaeth ac Amgylcheddol:

"Mae Fix It February yn amser perffaith i ddathlu cyflawniad enfawr ein gwirfoddolwyr, sydd eisoes wedi atgyweirio mwy na 600 o eitemau ar gyfer trigolion lleol. Mae'r gwaith hwn yn lleihau gwastraff, torri carbon, a chryfhau ein cymunedau. Trwy Fargen ״, rydym yn falch o gefnogi pobl leol i gymryd yr awenau ar drwsio ac ailddefnyddio, gan helpu i feithrin sgiliau, a gwella hyder a gwytnwch ar draws y fwrdeistref sirol."

Mae Tîm Strategaeth Gwastraff y Cyngor wedi gweithio i alluogi cymunedau i arwain eu prosiectau atgyweirio ac ailddefnyddio eu hunain, gan ddarparu cymorth gyda chostau cychwyn, marchnata, recriwtio gwirfoddolwyr a chysylltiadau â sefydliadau perthnasol. Gwnaethpwyd hyn drwy weithio gyda phartneriaid gan gynnwys GAVO, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Men's Sheds a grwpiau cymunedol i adeiladu rhwydwaith cynaliadwy ac amrywiol o wirfoddolwyr.

Mae Luke Mason yn wirfoddolwr yng Nghaffi Trwsio Rasau yng Nglynebwy. Mae Luke yn wynebu heriau gyda rhyngweithio cymdeithasol ac mae wedi darganfod pwrpas a hyder newydd trwy helpu ymwelwyr gyda'u heitemau trydanol.

Meddai Luke: "Mae helpu eraill yn ffordd onest a gofalgar o fyw eich bywyd. Dod â hapusrwydd i gleientiaid ar ôl datrys eu problemau yw'r teimlad gorau."

Cymerwch ran yn Fix It February. Cynhelir caffis trwsio yn:

  • Stiwt Glynebwy (trydydd dydd Llun y mis) 2pm i 4pm
  • Canolfan Adnoddau Rasa (pedwerydd dydd Llun y mis) 10.30am i 12.30
  • Neuadd Bentref Stocktonville, Tredegar (dydd Gwener olaf y mis) 10.30am i 12.30

]]>
/cy/newyddion/gwirfoddolwyr-yn-trwsio-dros-600-o-eitemau-cartref-am-ddim-ym-mlaenau-gwent/ /cy/newyddion/gwirfoddolwyr-yn-trwsio-dros-600-o-eitemau-cartref-am-ddim-ym-mlaenau-gwent/ Tue, 24 Feb 2026 09:48:10 GMT Louise Bishop